Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. (Dan Olygiaeth Moelona.) Y DDRAIG GOCH. Gwyddoch i gyd mai'r Ddraig Goch yw arwydd-lun (emblem) Cymru. Yr ydych hefyd, mi wn, yn gyfarwydd a'r ddihareb, "Y Ddraig Goch Ddyry Gychwyn." Yn awr; wedi Gwyl Dewi, pan fu ein baner yn cael ei chwifio'n lion mewn Ilawer gwlad, diddorol fydd darllen y traddodiad sydd ynglyn a hi. Wedi Brad y Cyllill Hirion tua diwedd y burned ganrif, cynghorwyd Gwrflieyrn gan ei ddoethion i adeiladu tref a chaer ynghanol Eryri fel ag i gael lie diogel rhag y Saeson. Derbyniodd y brenin eu cyngor, a pharodd ar unwaith gasglu cerrig a phridd a chalch a choed at adeiladu'r gaer. Danfonodd am seiri maen a seiri coed, a dechreuwyd y gwaith. Gosodwyd y sylfaen a chod- wyd peth o'r mur y dydd cyntaf, ond pan aeth y gweithwyr i'r lie drannoeth, nid oedd dim o'u gwaith i'w weled. Buasai rhywun yno yn ystod y nos yn ei dynnu i lawr a'i ddistriwio. Aed ati drachefn yr ail ddydd, ond digwyddodd yr un peth eilwaith, ac felly hefyd y trydydd tro, nes nad ellid mewn modd yn y byd beri i'r gwaith sefyll. Galwodd Gwrtheyrn ei ddoethion ynghyd, a gofynnodd iddynt yr achos o'r peth rhyfedd a ddigwyddasai. Wedi siarad a'u gilydd, daeth y doethion ato a dy- wedasant, Pe ceid gwaed mab heb dad iddo, a phe cymysgid hwnnw a'r dwr a'r calch fe saif y gwaith." Xid oedd y cyngor hwn yn un rhyfedd iawn yngolwg Gwrtheyrn. Yr oedd gan bobl yr amser hwnnw arferion creulon iawn weithiau ynglyn ag adeiladu, ac nid peth newydd oedd lladd bachgen ) bychain, lion, neu eneth fechan fwyn, ddiniwed, er mwyn cymysgu'r calch a'u gwaed. Credid y byddai hynny yn dod a 'lwc' i'r adeilad. Gan hynny, danfonodd y Jbrenin swyddogion i bob man o Brydain i ymofyn pa le y ganesid mab heb dad iddo. Wedi crwydro llawer, daethant i Gaerfyrddin, ac wrth borth y ddinas gwelent nifer o lanciau yn chwareu. Yr oedd dau o honynt yn cweryla, ac ebe un wrth y llall: Ti, fachgen heb dad, ddaw dim daioni i ti." Pender- fynodd y swyddogion ar unwaith mai hwn oedd y llane a geisient, ac aethant ag ef o'i fodd neu o'i anfodd gerbron y brenin. Drannoeth daeth y brenin a'i ddoeth- ion a'i filwyr a'r seiri maen, a'r seiri .coed ynghyd i weled lladd y bachgen. Yna dywedodd y llanc wrth y brenin, Pam y daeth dy weision a mi ymal" Er mwyn dy ladd," ebe'r brenin. Rhaid i mi gael dy waed i'w gymysgu a'r calch er adeiladu caer ar y fan hon." Pwy ddywedodd hyn i ti f' Y doethion," ebe'r brenin. Gad i mi eu holi," ebe'r bachgen. Daeth y doethion ymlaen, a gofyn- nodd y bachgen iddynt beth oedd yn rhwystr i adeiladu'r gaer ar y fan honno. Ni fedrent ei ateb, ac ebe yn- tau: Chwi, dwyllwyr a bradwyr! Cy- merwch arnoch fod yn gwybod popeth, ac wele ni wyddoch ddim. Danghosaf fi i chwi paham y syrth y mur. 0 dan y palmant hwn y mae llynclyn (pool). Dewch i gloddio." Cloddiwyd, a daethpwyd o hyd i'r pwll fel y dywedasai'r bachgen. Yn awr," ebe ef, beth sydd yn y pwll r Ni fedrent ei ateb eto. Y mae dau lestr yma," ebe'r bach- gen, ac ynddynt y mae pabell wedi ei phlygu. Tynnwch hwy allan a gwel- wch." Gwnaed hynny, a chafwyd y babell wedi ei phlygu yn y ddau lestr, Beth sydd yn y babell ?" ebe'r bach- gen. Dim ateb eto. Y mae yma ddwy neidr," ejbe'r bachgen, un wen ac un goch." Agorwyd y babell, a gwelwyd dwy neidr fawr yn cysgu. Edrychwch yn fanwl beth a wna'r nadrodd," ebe'r bachgen. echreuodd y ddwy ymladd, ac ar y .cyntaf y neidr wen drechai. Tair gwaith y bu agos iddi daflu'r llall allan o'r babell. O'r diwedd, y neidr goch, yr hon ymddanghosai yn llai ac yn wan- nach na'r Hall, a gafodd nerth anorch- fygol o rywle, ac a yrrodd y neidr wen allan o r babell ac i lawr i'r pwll. Ac ni welwyd mohoni mwy. I Yn awr," ebe'r llanc wrth y brenin. Dywedaf i ti beth yw ystyr yr arwydd hwn. Y pwll yw y byd y babell yw dy deyrnas di. Dwy ddraig yw y ddwy neidr. Ti bia'r goch, ond yr un wen yw draig y Saeson, y rhai heddyw drigant ym mhob rhan o Brydain, o for i for. Eithr ymhen amser, ein poM ni a gyfyd ac a yrr genedl y Saeson dros y mor i'r wlad o ba un y daethant." Dyna stori'r Ddraig Goch, a'r llanc bach oedd y dewin Myrddin.

Advertising

! John Gower y Bardd.I

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.

.O Dir y Gogledd. : I I

Abertysswg. II

Advertising