HYSBYSIAD. YSCOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefyàlwyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro.
r W. Williains & Co. JEWELLERS, &e., 29 Castle St., Swansea. spooiolitios: 18ct GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh at y Cymro OB am heirdd fodrwyau aur, Oriadnron ao awrleieiau, Gemau a chadwynau claer: Yspectol gelfydd, hln-fynegydd, Gwres-fesurydd, owmpawd mor Geirgan Williama, Heol y CMteB Trowoh i mown i wel'd ei
Y CYNHWYSIAD. I y. Twr Yll Aberdar Tud. 1 ■Colofn Llafur 1 Cymdeithas Ddramo?.1' 1 ]  l a s m a r l I Y btori—Llwybrau'r Sarff 2 Taith i Lydaw „ 2 Cymrodorion Aberpennar 2 O'r Wy i'r Dywi 3 Cymdeithas Dafydd ap Gwilym 3 Cyflafan y Diniwed 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Cadw'r Wyl 5 Colofn y Pwlpud 6 Y Gweithwyr Amaethyddol M 6 Llythyrra Sion Sana 6 Mr. John Williams, Caecyrlas 6 Colofn y Plant 7 John Milton yn Gymro 7 Y Cinema a'r Eglwysi 7 colof n y. Farddoniaeth 8
L Ar y Twr yn Aberdar. Rhoddir cipdrem ar gyflwr yr ysgol- ion mewn perthynas a dysgu Cymraeg yn adroddiad arolygwyr ei Fawrhydi. Dysgir Cymraeg ymhob ysgol yma'n awr oddigerth Ysgol y Pabyddion. Plant Gwyddelod sydd ym mynychu honno rhan fwyaf. Hysbysir fod y Gymraeg yn colli tir mewn rhai cylch- oedd, megis Aberaman, Capcoch, a Hir- waun; ond tuag ugain y cant o'r plant yng nghanol Aberdar sydd yn siarad Cymraeg. Ceidw y rhannau ereill eu hiaith a'u nodweddion cenedlaethol. Dathlwyd Gwyl Dewi yn deilwng yn yr ysgolion. Y mae clod yn ddyledus i'r athrawon am y modd yr ymdaflwyd i'r gwaith. Bendith fawr yw fod cy- nhifer o'n hathrawon a'n hathrawesau mor fyw i'r yspryd gwladgarol sydd yn ymledu. Dylai hyn weddnewid addysg gan ei fod yn cynyrchu diddordeb gwir- ioneddol mewn dysgu. Gormod o Ddic Shon Dafyddiaeth sydd yn ein gwlad. Nid oes dim wedi gwneud mwy o niwed i'n hysgolion na'r epil dirmygedig sydd ar hyd y blynyddoedd yn darostwng ein hiaith, ein dofi,r,i; a'n "onedl. Gwnaeth Mr John Davies, Trecynon, wasanaeth da trwy droi hanes Dewi Sant i ffurf drama. Y mae'n ddrama ardderchog i blant, a byddai yn help dirfawr er dathlu yr wyl yn y dyfodol i ysgolion ei sicrhau a'i dysgu yn dda. Bu cryn ddadleu yn y Cymrodorion y tro diweddaf ynghylch Huw Morus. Mynnai y darlithydd, sef Mr Timothy Davies, roddi lie anrhydeddus iddo ymysg beirdd y genedl. Teimlai ei fod mewn cwmni da wrth ganmol yr hen fardd awenyddol o Lynceiriog. Ni 1 phrofodd y Cymrodorion yn rhyw ffafriol iawn i'w ganmol. Aeth un Cymrawd diddan belled a dweud nad oedd enaid yng nghaneuon trymllyd Huw Morus. Parodd y sylw i mi feddwl am freuddwyd yr hen fardd, Trwy fy hun mi'ch gwelwn, bun addfain, gefn y nos, Yn hoew fenyw feinwasg fel gwridog ddamasg ros. Nid mor drymllyd y bardd a gai freudd- wydion fel hyn. Nid dienaid chwaith Mohono. Yr oedd ei delyn yn canu i galon ei gydwladwyr am mai Jbysedd aman a chwareuai arni. Nid drwg fuasal 1 r Oymrodorion gynnyg eto ar y bardd o Bontymeibion. Beth ddaeth dros y cymrawd a ddy- vvedodd fod plant yn ein hysgolion yn well darllenwyr na phroffeswyr Coleg Caerdydd Wel, dyna hi yn galch Anodd gwybod pa un ai canmol y plant fel darllenwyr neu darostwng y proffes- wyr oedd yr amcan mewn golwg. Bydd yn bwysig i wyr y colegau gymeryd hynny i ystyriaeth cyn mabwysiadu mesurau cryfion at y siaradwr hwn. Go- beithio y gwnant yn eu hamynedd fedd- iannu eu heneidiau nes sicrhau gwir ys- tyr ei farn gan iddo ei mynegu mor an- glur. Etholwyd Mr. Edgar Jones, A.S., yn Llywydd y Clwb Rhyddfrydol yn lIe Mr. D. A. Thomas. Ysgrifenasai Mr. Thomas mai ei ddymuniad oedd iddynt ei newid am nad oedd yn alluog i fyn- ychu'r cyfarfodydd. Y mae Abercwmboi yn syrnud o'r iwedd i adeiladu Llyfrgell a Neuadd ynoeddus. Dywedai y Parch. J. B. Davies wrth lywyddu ar adeg gosod y garreg sylfaen yr awgrymid gan rai hen bob I fod y lIe hwn wedi ei esgeuluso er y °dJ ydJ d J y daeth Noah allan o'r arch. Gosodwyd y garreg gyntaf gan Brif- gwnstabl Aberdar. Awgrym un siar- adwr oedd iddynt fynnu darlithiau Gil- oh™° ?? ? AbercWmboi am •ddilyn vff ;Y1' awgl'ym; owneddygn 4'lieTVym y ?rym; fod rr ?? utiyrr hag dweud 'wedyn fod  ?? debyg yno fel Jynr oedd yn vS r amser o-- d d Noah yn adeil? ? ?  yn bobl" geinta?yd. ?" ??? ?- Bu Dr. Saleeby yn darlithio ar "Bryder" yn Neuadd Aberaman nos Wener, Chwef. 27ain. Siaradodd y dar- lithydd eiriau cefnogol i "Faith Heal- ing." Yr oedd cynhulliad rhagorol yn gwrando'r ddarlith, a chanmolir hi yn fawr gan y sawl a'i gwrandawodd. Y mae y Parch W. R. Jones (Pelidros) wedi derbyn galwad i fugeilio'r eglwys yn Pisgah, Cymer. Bu Mr. Jones yn dra llwyddiannus yn Godreaman, a bydd ei ymadawiad yn golled fawr i'r eglwys. Gwnaeth enw da iddo ei hun yn y cylch fel pregethwr a gweinidog rhagorol. Dymunwn iddo bob llwydd- iant. I Llongyfarchwn Mr J. Harris, Nar- ( .berth, sef mab y diweddar Barch. W. Harris, Heolyfelin, ar ei ffawd yn der- byn tysteb gan Bwyllgor Eisteddfod Narberth. Arweiniai Mr Harris y cor a berfformiodd y Messiah noson yr Eis- teddfod, ac y mae wrth y gwaith yn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yr anrheg gafodd oedd ei lun.
Cymdeithas Ddramodoi I Plasmarl. Nos Sadwrn, y 7fed a'r 2iain cyfis- ol, y cawsom y pleser o weled y Gymdeithas uchod yn perfformio Rhys Lewis o dan arweiniad Mr J. P. Walters yn Neuadd Symudiad Ymosodol, Treforis. Nid yw y cwmni wedi arbed traul na thrafferth i bortreadu'n deilwng gymeriadau a golygfeydd y ddrama, a'u hamcan o'r cychwyn yw ceisio ennyn serch ac edmygedd newydd at yr iaith, a chadw yn fyw nodweddion y genedl. Clyw- som rai yn gwaeddi, "Oes y byd i'r iaith Gymraeg," ac ar yr un pryd yn agor bedd iddi o dan yr aelwyd gar- tref. Ond dyma gymdeithas ac iddi arwyddair- Cas gwr na charo y wlad a'i maco." Mae y cyfeillion hyn wedi chwareu amryw ddramodau Cymreig, ond y tro hwn "Rhys Lewis" (Daniel Owen) oedd ganddynt, ac aethant trwy eu gorchwyl yn deilwng o honynt eu hunain ac o'r awdwr enwog. Agorodd Bob yr olygfa yn rhagorol yn ei ddill- ad gwaith a'i wyneb tywyll, ei dyllbill (mandril) ar ei fraich chwith, a'i lamp yn ei law. Esgyn i anerch ei gyd- weithwyr oedd, a gwefreiddiodd y dyrfa luosog. Ofnai y gwaethaf, ac nid hir y bu wedi cyrhaedd gartref cyn i Sergeant Williams ddod i alw am dano, a'i rwymo, a'i ddwyn o flaen yr ynadon i sefyll ei braf ar gyhuddiad anghywir Mr Strangle. Dianghenraid oedd cadw yr hand- cuffs am ei ddwylaw yn y tyst-eis- teddle-nid oedd perygl iddo ddianc o'r fan hono, ac nid oedd Bob am gynnyg gwneyd hynny chwaith, a gwell, mi goelia, pe buasai wedi symud y duwch oddi ar ei wynebpryd cyn ymddangos o flaen ynadon an- rhydeddus y llys. Aeth swyddogion y llys drwy eu gwaith pwysig yn onest ac amhleidiol yn ol y tystiolaethau gawsant, ond fod y rhai hynny yn gam-dystiolaethai. Ei gospi gadd Bob. Aeth Mary Lewis drwy ei rhan hwysig hi o'r ddrama yn dda, a rhodd- odd i ni bortread rhagorol o fam dduwiol yn gwybod sut i ddal pro- fedigaeth. Hynod dderbyniol oedd Wil Bryan a'i ymadroddion ffraeth a'i resymeg glir. Ond y cymeriad mwyaf gwreiddiol, Gymreig, a di- gaboledig oedd Thomas Bartley.' Yr oedd ei atebion parod, digrif, a chyr- haeddbell yn goglais y gynulleidfa yn anghyffredin. Yr oedd ei ymweliad a Mary Lewis pan yn cyflwyno iddi y bacwn yn ei phrofedigaeth yn wir dda. Ei ran ddoniolaf, er hynny, oedd el ymweliad a'r Bala i sbio hynt Rhys Lewis. Nis gallwn mor galonog gymeradwyo cadw y gyfeillach gre- fyddol yn nghanol y chwareu. Aeth Rhys Lewis, prif wrthrych y ddrama, trwy ei orchwyl yn foddhaol iawn, yn ddefosiynol, pregethwrol, a phwyllog yn ei holl symudiadau, ac yn deilwng o'r ymddiriedaeth bwysig. Mewn gair, heb fanylu yn mhellach, yr-oedd y perfformiad yn ganmola- dwy a derbyniol iawn o'r dechreu i'w ddiwedd—yn d)vyn prawfion amlwg o lafnr a gofal manwl o eiddo y Gym- deithas. THOMAS WILLIAMS Ireforis. (Efell Trefor.) ->
Ar ddydd angladd Mrs. Margaret Lewis, 19 Trevor Street, Aberdar, a phan ddygid ei harch allan o'r tv, ymollvngodd darn o lawr yr ystafell nes oedd pedwar o'r galarwyr i lawr yn y twlI. Niweidiwyd rhai o honynt. Bernir mai gwaith tan I ddaearol fu'n achos i'r llawr ymollwng.
COLOFN LLAFUR. I ) GAN PEREDUR. I Anwybyddu Cenedtgarwch. I 1. Y mae yr yspryd cenedlgarol Prydein- ig wedi cael bergwd llaw-chwith yn ddi- weddar, a hyny gan un o aelodau y dosbarth sydd yn honni ei fod yn flaen- llaw mewn cenedlgarwch. Apwyntiodd Cwmni y Great Eastern Railway, llyw- ydd yr hwn yw Arglwydd Claude Hamil- ton, brif reolwr i'r relwe a berchenogir ganddynt, a hwnnw yn ddyn o'r Ameri- ca. Yr oedd hyn cystal a dangos nad I oedd yn y wlad hon yr un dyn i'w gael yn meddu ar y cymhwysterau angen- rheidiol i lanw y swydd. Dyna ddan- gosiad amlwg o genedlgarwch cyfalaf- iaeth. Er gofid i ni, tuedd amlwg iawn yn holl gysylltiadau cyfalafiaeth y dydd- iau hyn yw, lladd pofc syniad ac arferiad sydd yn ymwneyd a gwyliau a thra- ddodiadau cenedlgarol. Canmol ei Weithwyr. I Ar y Haw arall, wrth lywyddu ar gyfarfod blynyddol o Gwmni y Great Western Railway, dywedodd Arglwydd Churchill nad oedd berygl y byddai angen iddynt hwy fel Cwmni anfon i'r America am ddynion. Yr oeddynt yn berffaith foddlon ar alluoedd a chym- wysterau y dynion oedd yn bresenol yn eu gwasanaeth, ac yr oeddynt yn gallu edrych yn mlaen yn obeithiol i'r dyfod- ol. Yr oedd ganddynt luaws o ddynion ieuanc yn eu gwasanaeth, ac yr oeddynt yn cadw golwg wyliadwrus arnynt, gyda bwriad i'w codi a'u symud yn mlaen. Glaniad y Haw. I Prif fater y byd llafurol yr wythnos ddiweddaf ydoedd glaniad y naw ar- weinydd llafur a alltudiwyd o Ddeheu- dir Affrica. Cyfarfyddwyd a hwy gan ddirprwyaeth o'r holl Undebau Llafur, a chan aelodau y Blaid Lafur Seneddol. Ar y cyntaf yr oeddynt yn gwrthod gadael y llong, ac yn hawlio eu cymeryd yn ol i'w cartren yn Neheudir Affrica. Ond, wedi ymgynghoriad, a thrwy ddy- lanwad y cynrychiolwyr Prydeinig, cytunasant 1 gymeryd mantais ar y gwahoddiad cynes a brwd oedd wedi ei barotoi iddynt, a'r canlyniad yw eu bod yn awr yn cyneu tan chwildroadol trwy y wlad trwy eu hadroddiad o amgylch- iadau eu halltudiad, ac hefyd yn rhoddi yr holl hanes am yr amgylchiadau cyrt- hyrfus fu yn Ne Affrica. Lledaenu'r Tan. I Gyda'r bwriad o gael gWybodaeth uniongyrchol o eneuau yr arwyr llafur- ol hyn, trefnir cyfarfodydd iddynt ar hyd a lied y wlad, fel y gallant gyrhaedd y miloedd gweithwyr. Drwy hyn go- beithir creu cymaint o deimlad fel y bydd yn amhosibl i'r Llywodraeth an- wybyddu y cais am gyfiawnder i weith- wyr Prydeinig yn Affrica. Yn 01 ilr Oesoedd Tywyll. I Y mae yr egwyddorion mawrion syl- faenol a dreisir yn yr achos hwn yn Neheudir Affrica, yn gosod llywodraeth- iad cymdeithasol yn ol yn y cyfnod pan y gorfodwyd i'r barwniaid urddasol godi yn erfcyn y Brenin John, ac i hawlio breinlen y Magna Charta. Y mae y dynion hyn o Affrica wedi eu condemnio a'u halltudio o'r wlad heb brawf o gwbl yn llysoedd eu gwlad. Fel y gwyddis, y mae yr egwyddor hon o hawl-fraint i ymchwiliad diduedd mewn llys gwladol yn beth sylfaenol yn y cyfansoddiad Prydeinig, ac y mae ymyru a'r hawl- fraint o du neb, pwy bynag, yn galw am wrthwynebiad buan a chadarn. Cyfalafiaeth yn y Glorian. I Haerllugrwydd a thrachwant y cyfal- afwyr yn ddiameu sydd wrth wraidd yr achos anffodus hwn; ac yn gysylltiedig ag ef codir yr hen yspryd gwrth-genedl- garol eiddigeddus oedd yn bodoli amser y ryfel rhwng y Boeriaid a ninnau. Gwelir hefyd oddiwrth yr amgyclhiadau fel y mae yr awdurdodau a'r perchenog- ion gweithfeydd yn cymweithredu er dinystrio undeb y gweithwyr. Yn ol yr adroddiadau, ymddygir yn greulawn ac annynol tuag at weithwyr, eu gwragedd a'u plant, gan Foeriaid sydd yn aelodau o'r heddlu. Ychwanega hyn y ragfarn a'r elyniaeth yn fawr iawn, ac amhosibl fydd i'r Prydeiniwr uchelfrydig ac annibynol ymdoddi i gydweithrediad a chydymdeimlad cydgenedlgarol gyda'r dynion sydd yn ei gam-drin yn awr. ) Barn Mr. D. A. Thomas am yr Arwein- wyr Llafur. Mewn wythnosolyn Saesneg ceir barn I Mr D. A. Thomas, glo-feistr a chyn- I Aelod Seneddol dros Fwrdeisdref Mer- j thyr ac Aberdar: Y mae gan yr ar- I weinydd llafur wrth enill ei fara a I chaws i gofio fod tua hanner dwsin o ddynion bob amser yn barod i gymeryd ei le. Ei waith ef yw y diweddaf oil a I ddewiswn i mi fy hun. Y mae yn ami yn aberth i deimladau cyfnewidiol y werin ansefydlog, teimladau sydd mor rhwydd I yn newid o eilun addoliaeth i ddiystyr- wch gwawdiol. Ond nis gallaf lai na meddwl y fcyddai yn ddoethach i'r ar- weinwyr geisio parch yr ychydig meddylgar o'r gweithwyr na cheisio poblogrwydd gyda'r lluaws difeddwl, fel y gwnant yn rhy ami. Profai hyn yn i fwy sylweddol a pharhaol. Dioddefant oddiwrth wendid sydd yn rhy gyffredin I mewn arweinyddion. Wedi cyraedd i uchelder pendroyddol, ofnant symud 1 rhag syrthio i anffafr. Yn eu hofn, camgymerant floeddiadau y lleiafrif ys- twrllyd am ddymuniad y mwyafrif, y maent mor awyddus i'w boddloni. Felly caniatant i feddwl anaddfed clymblaid o Syndicaliaid i lywodraethu sefydliad mawr fel y Ffederashwn." J I Dosbarth Aberdar. I Gwelwn oddiwrth hanes gweithred- iadau Cwrdd Dosbarth o Fwnwyr Aber- dar fod amryw o fan annealldwriaethau yn bodoli yn ngweithfeydd Hirwaun. Nid oes ond amser byr iawn oddiar pan ail-unodd gweithwyr y glofeydd hyn a'r un deb yn y dosbarth. Gobeithir nad yw yr achwyniadau presennol i greu gwahaniad eto. Arferer doethineb a phwyll yn helaeth fel yr arbeder rhwyg- iad tebyg i'r hyn a ddygwyddodd rai blynyddau yn ol.
Llwynbrwydrau. I Nos Sadwrn, Chwefror 28am, cyn- haliodd Cymdeithas Ddiwylliadol y lie gyfarfod cleber a chanu er dathlu gwyl ein nawdd-sant Dewi. Eistedd- odd tua chant a haner wrth y byrddau i fwynhau y wledd osodwyd o'u blaen. Gwasanaethwyd wrth y byrdd- au gan rai o'r rhyw deg wedi eu gwisgo yn y wisg genhedlaethol-het dal a phais a betgwn. Wedi gwneud cyfiawnder a'r wledd, aethpwyd drwy raglen hollol Gymreig. Y llwngc destynau oeddynt: "Ein Ffyddlon- deb i'r Gymraeg cynygiwyd gan Grymlyn, ac eiliwyd gan yr Henadur Jordan; "Y Gymdeithas": cynyg- iwyd gan y Bonwr J. T. Rees, ac eiliwyd gan y Cynghorwr Dan Griffiths. Hynod swynol ydoedd "tine y tannau cytunol dan ddylan- wad bys a bawd medrus y Bonwr John Lewis, Trebanos. Diddorol yd- oedd y penillion ganwyd gan y Fon- csig Gwen Williams, Trebanos. Der- byniad gwresog iawn gafodd y Bon- wr D. Howell Thomas pan ganodd "Unwaith eto, Nghymru Anwyl," a'r Fonesig Richards am ganu "Gwcw Fach," gyda'r Fonesig Lil Thomas, R.A.M. (A.G.) wrth y berdoneg. Siaradodd y Bonwr Mansel Williams ar yr achlysur, a cafwyd anerchiadau barddonol gan y Bonwr D. W. Jen- kins, Eilir Mai, Dewi Chwefror, ac Eurin Fardd, a Chyfelach. Yr ys- grifenydd oedd y Bonwr W. J. Lewis, Gwynfa, a'r cadeirydd, y Parch. T. C. Lewis. Terfynwyd noson lawen drwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau." GOLWG Y MOR. I
Cwmni Yswiriol y Pearl. I Carem alw sylw'r darllenwyr deiml- ant ddiddordeb mewn yswiriant at hysbysiad sydd mewn colofn arall yn y rhifyn hwn gan Gwmni'r Pearl. Ceir yn hwnnw grynhodeb o ad- roddiad blynyddol y Cwmni am y flwyddyn ddiweddar, Rhagfyr 31am, 1913. Y mae'n sicr fod yr adroddiad hwn yn galonogol iawn i'r miloedd sydd a rhan iddynt ym muddiannau'r Cwmni. Gallant fod yn esmwyth eu meddwl fod eu heiddo yn ddiogel. Y mae yswirio bellacli wedi dod yn rhan bwysig o fywyd cymdeithas, ac yn ddull buddiol iawn ar ddarbod- aeth. Try yr hyn osodir allan mewn yswiriant prydlon a doeth yn gefn gwerthfawr i lawer. Prawf yr ad- roddiad a nodwyd fod Cwmni'r Pearl yn llwyddiannus iawn, a'i drafodaeth enfawr mewn dwylaw medrus a diogel. Gwelir fod trysorfa Yswiriol y Cwmni yn awr wedi cyrraedd y swm aruthrol o ^8,334,174 14s 5c, vn cynnwys ^736,812 o gynnydd am y j flwyddyn. I
Ffon roddwyd i'r Parch. J. O. Jenkins, Aberpennar, ar ei ymadawiad. I anrhydedd ni fu'n rhodio-sioncach Shencyn cyn ei ffonio; Llti sylw ant, pan welant o— Mae Shencyn am yswaneio! Aberdar. AB HEVIN.
Aberteifi a'r Cylch. I Marwolaeth Cyfaill. I Drwg gennym weled yn y S.W.D. News am farwolaeth sydyn cyfaill bore oes i mi, sef Mr D. B. Davies, Blaengarw. Ym- ddengys nad oedd yn dda ei iechyd ar ys rhai dyddiau, ond dydd Mawrth, pan allan am dro, syrthiodd yn farw. Bu yn attalbwyswr am dros ugain mlynedd yn ngwaith yr Ocean yn Blaengarw. Gadaw- odd weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Mae iddo fam oedranus yn byw yn Aber- aman, a chwaer gyda hi. Bydd ei farwol- aeth yn ergyd trwm i'r teulu. Bu yr ymadawedig a ninau yn cyd-weitfiio fel glowyr ac yn gymdeithion calon am yn agos i ddeugain mlynedd. Un o rhai add- fwyn y ddaear oedd David, a gellid dyweud am dano, Ni phair glywed ei lef yn yr I heolydd." Crefyddwr gonest a thawel heb na gauaf ystormus na haf poeth yn ei hanes. Rhaid oedd ei wthio i sylw, ono ni fradychai unrhyw ymddiriedaeth osodid f iddo. Ymunodd a chrefydd pan yn ieu- anc yn Saron, Aberaman, dan weinidog- aeth y diweddar Rowlands Saron, udgorn arian y cylch, a bu yn ffyddlon gyda'r gwaith hyd ei fedd. Yr oedd er ys rhai blynyddau yn ddiacon yn Eglwys Annibyn- ot Blaengarw, a bu am amser hir yn ysgrif- I enydd yr eglwys. Canwyll dan lestr fu David, ond yr oedd ynddo oleuni a gwnai bob peth y ymgymerai eg ef yn gvdwybodol a thrylwyr bob amser. Cadwai siop gig gyda bod yn attalbwyswr, ond y mab a'r weddw wnai fwyaf a'r fasnach. Teimlwn y byd yn wacach ar ei ol, ond teimlai y teulu anwyl lawer mwy. Rhoddwn y blodeuyn yma a rei fedd, gan nas gallwn fod yn bresenol yn y gynhebrwng. Dy- ddanwch y Diddanydd mawr fyddo ar y fam, brawd, chwiorydd, gweddw a phlant yr ymadawedig. Cwsg yn dawel, deuwn atat heb fod yn hir, ac hyderwn y cawn gwrdd eto heb 'madael mwy. Cyfarfodydd Diwylliadol. I Teetyn dadl yn nghyfarfod y Tabernacl ydoedd, "A fyddai newid y Llywodraeth yn fanteisiol i'r wlad?" Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Illtyd Jones, a'r nacaol gan Mr. Ronw Hughes. Dadleu- yd yn deg y ddwy ochr. Cymerwyd rhan yn y ddadl gan W. Joseph Thomas, James Lewis, North Road; John Jones, J. Pughe Jones, a William Gotsel. Penderfynwyd drwy mwyafrif o dri ar ddeg na fyddai nowid yn fanteisiol yr adeg bresenol. CadeiriwyJ gan Mr J." Williams. Capel Mair. I Cyfarfod cystadleuol gafwyd nos Fercher.. Cadeiriwyd gan Mr T. M. Dan- iel. Clorianwyd y beirdd a'r llenorion gan Mr D. Beynon Evans a'r Parch. E. J. Lloyd, Capel Dagnel. Clorianwyd y can- torion gan Mr D. Charles a Miss Edith Morris. Enillwyd ar y solo i rhai dan ddeg oed gan Gwynfryn Morris a Tommy Rees. Adroddiad: 1, Polly Evans; 2, Maggie Terrier a Vera Davies. Solo i fechgyn, Tom Roach. Traethawd ar y Frongoch: 1, Albert Charles; 2, J. Jones. Solo i ferched: Rhanwyd rhwng Sybil Charles a Polly Evans. Gwnio twll botwm ar y pryd i rai dan 15eg oed Agnes Jenkins. Am y penhillion goreu i'r diweddar D. Jones, Bath House: 1, Dd. Williams; 2, Mrs. Rees, Treforgan, a Mrs Lloyd Jones. Cor Cymysg: Cor D. Charles. Cor y Plant: Cor Edith Morris. Cyfieithu 1, Agnes Jenkins; 2, Trefor Daniel. Darl un o geffyl yn cael ei dynu ar y pryd: D. M. Evans. Champion solo, Miss Gwladys Thomas. Cafwyd cyfarfod lliosog a chys- tadleuaethau da. Bwriada Capel Mair gael gwledd o ganu eto dydd Gwener v Groglith, drwy gael parti poblogaidd Glyndwr Richards, Moun- tain Ash, yma i gynal cyngerdd. Cynelir cyngerddau yn awr yn y Pavil- ion, ac arbedir y capelau drwy wneud hvnv. Aberteifi. D. JONES.
Oddiar Lechwedd Penrhys. I Pa un ai glo neu olew fydd prif symud- ydd y Llynges Brydeinig yn y dyfodol? sydd gwestiwn nad yw'n hawdd ei ateb. Defnyddir olew yn barod yn y badau tor- pedoes, a llongau ereill, a phob un o honynt yn llosgi mil o dunelli o olew mewn blwyddyn. Mae y llongau rhyfel wedi eu darpar i gario o ddau i bum' cant o dun- elli o olew heblaw y glo, er eu helpu pan fydd eisiau mewn awr gyfyng. Bernir y rhydd yr olew lawer llai o drafFerth i'r morwyr, a'i fod yn llai costus i'r Llywodr- aeth'. Costia y cynllun hwn yn ddrud iawn er hynny ar y dechreu. Mae dau o'r tanks sydd yn cadw olew ar gyfer y Ilongau yn Portsmouth a Devonport wedi costio yn agos i ddau gan' mil o bunau yr un. Bernir mai gwell fyddai lleoli y tanks dan y ddaiar, fel na fyddo gan y gelyn gyfle i'w dinystrio adeg rhyfel. Cred y LIywodr- aeth mai gwell fyddai prynu meusydd olew iddynt eu hunain, a'i gludo yn eu llongau eu luinain, yn hytrach nag ymddibynu ar ereill. Dywed Mr. Churchill mai gwell fydd ymddibynu ar y glo hyd nes daw y peiriant o losgiad mewnol yn abl i yru y llongau mwyaf. Os daw y cynllun hwn i weithrediad 11awn, bydd yn sicr o wneud niwed i fasnach y glo. Gedy marwolaeth y foneddiges dalentog, gweddw y hardd a'r nofelydd byd-enwog Robert Louis Stevenson, fwlch mawr yn y byd llenyddol. Yr oedd yn meddu ath- rylith uwchraddol. ——— w Yr oedd hen ddiacon dduwiol a pharchus yn ddiweddar yn dweud nad oedd cymaint o hwyl a gwres ar bregethu'r Efengyl yn awr ag oedd yn y dyddiau gynt, ac y carai ef glywed rhai eto yn debyg i'r Perchn. Edward Mathews, y Dr. Owen Thomas, a'r I hen Bartriarch o Donyrefail. W. BASSETT. I
CROEN. CNAWD, ASGWRN. RHAID 00F*U»h AM Y *HAI HYN. Esgeulusdod o unrhyw niwad I rhmi lhyn drwy ddamwaiH neu glefyd •« aohoii Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth Effeitkist. Er mwyn ysgol Parygi rhaid of ymarfar mewn pryg. IDOES,olM MJOh LLWYDDIAMUi A SICft A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn cael ei gydombed ? ?edd fel V maddyglin .w," ficr a diogal a ddarganfyddw? erioed at tachau Clwyfau. Avchollion, Tardd- Ian tau Y Cnawd, Eczema, Craoh a Nedd yn M henau plant, Llosgiad. au, Ylgal- d a n a u S o u r v y, LI u grad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Gout, I Cymalau Poenus, q Mumat- „ y ??? pen fT ??. ICI, poen II ,Yr oedd peu f1 mI. p°e" aryu '^fcwn itat eohry»h»- Htnia G»e»odd Gomer B.l. ?h..f • hi yn bur faan. at CIWYFAU ar COESAU. Miloedd yn tyatlo llw Elfelthlau Rhyfeddol. rhoddwch brawf arno G wot I had sydd sior. Ar werth e«n bob Cbcmi.t^Store.^a 1' /11 Oofvner &?'?'"? U waled enw jaoob HU?ghes ar bob blwch. Heb hyn nid yw gywir. Nos Ffoner^fg^tfVo. ?' StaxS"  1st, M. ?.? LO.S?J"Mfth. OMOt. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F W I h L ocy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purcbaaerj upon mentioning this Paper. Telir Pris Tien prynwyr yma ao yn 01 ond iddynt enwi TARIAN y OWBITILIWR. YN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 Pages 1/- iiet Post Free 1/3. Addresses delivered, at the II United School of Social Service for Wales. A book every Patriot should read. Send without delay to the Pitblishers- MORGAN & HIGGS, Pubillihers, Printers, etc., 18 Heathfleld Street, Swansea.