Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

IAdolygiadau.-1

News
Cite
Share

Adolygiadau. -1 DRAMODAU. I v Enoc Huws.—Cyhoeddedig gan Huws a'i Fab, Gwrecsam, pris, Is. Ni raid i weithiau Daniel Owen with gamoliaeth. Rhys Lewis, fel rheol, gyfrifir y goreu o'i weithiau, ond fel stori y mae'n well geniivf fi Knoch Huws. Gredaf hefyd t'od I u iunvs cael drama dda o Enoc Huws nag o 'i1 un o'i weithiau eraill. Trefnwyd y i ddrama hon gan T. Howells, L.T.S.C., a I J. Mihvyn Howells, Pontic Rhonclda. Credwn eu hod wedi ti-efnii i dethol yn hapus o'r stori. Egyr y ddrama yn Nhynyrardd pan y mae ei dwyll ynglyn a gwaith Pwllygwynt yn dechreu mvn'd yn feichns i Capten Trefor" a diwedda gyda dinoethiad ei ystrywia II yu y capel pan j oedd Enoc a Susi yno i'w priodi, a piian I y caed mai tad Susi oedd tad J';noc hefyd. Gwelir telly tod y ddrama yn cymeryd I fewn rannau mwyaf diddorol a clivn- j hyrfus y stori. Gwyra'r ddrama ychydig j oddiwrth y stori ar y diwedd. Wrth j gwrs, gall pawh A-ella ai- waith rhywun arall, a chredaf finnan v .gallesid trefnu'r I diwedd yn well. Nid ydym yn hoffir ter- fyn yn swn y pistol a melldith pechod. Ceir darlun o gwmni enwog y Pentre yn y llyfr. Gwelsom y Cwmni hwn yn actio'r ddrama, a dymunwn eu llongyfarch ar len- f did eu gwaith. Credwn mai annodd fyddai  rhagori ar Sem Llwyd a Thomas Partlev'r j Pentre. Y mae'r llyfr hefyd wedi ei droi allan yn hynod o gelfydd a thlws fel y medr y Mri. Hughes a'i Fab wneud. Dewis Aelod Seneddol.-Draiiia fer o un act ydyw hon wedi ei hysgrfiennu gan y Parch. 0. Gaianydd Williams, lloe Wen, Talyeafn, S.O., ac a gyhoeddir gan R. E. Jones a'i Frodyr, Argraffwyr, Conwy. Ceir ynddi lawer o naturioldeb a doniol- wch. Portread o Bwyllgor ydyw wedi eyfarfod. i ddewis Aelod Seneddol. Y mae areithiau'r ymgeiswyr ynghyda'r cwestiynau sydd arnynt yn ddigrif dros ben. Cymer merched y bleidlais ran am- lwg yn y ddrama. Wedi i Syr Arthur Wvnn siarad a chydnabod nas gwyddai ddim am wleidyddiaeth, holir ef gan Mrs Stanley, yna ceisia yntau ganiatad i'w holi hithau, a cheir yr ymgom a ganlyn: "Oes gynnoch chi gwr?" "Oe." "Pa diwrnod yw hi heddyw?'' "Dydd LIun." Ma Lady Wynn yn edrach ar ol y golchi a phobi heddyw. Sut ma chi gneudp" "Anfon y dillad allan byddaf fi." 0 felly, ma'r dillad yn medru'r ffordd ar ol y graig. Pwy sy'n talup" Yna tyrr Mrs Pugh ar draws yr ymgom— "Hollol anfoneddigaidd, Syr Arthur." Syr Arthur: "Oh! how do you do, mam. I beg your pardon, mam. More fine feathers. Dydd da, mam." (Mynd allan.) Ca pob plaid a sect wleidyddol ergyd llawchwith yn eu tro. Gellid cael awr ddifyr a hynod ddidrafferth a didraul gyda 'r ddramodig hon. Ei phris yw dwy geiniog. Social Problems in Wales. I Cyfres o ddarlithiau geir yn y llyfr hwn av rai agweddau i'r pwnc cymdeithasol, yn bennaf yng Nghymru wledig. Traddod- wyd y darlithiau yn ystod trydydd cyfar- fyddiad blynyddol Ysgol Gymreig y Gwas- anaeth Cymdeithasol. Nis gwyddom pa- ham y rhaid cael y darlithiau hyn yn Saes- neg i gyd. Credwn y gwnai rhai o honynt fwy o les pe'n Gymraeg. Ceir yma dar- lithiau ar yr Eglwys a Chwestiynan Cym- deithasol gan Mr. D. Lieufer Thomas, Parch. S. E. Keeblel a'jt- -Parch. Percy Dearmer, M.A D.D. Tair ar Athron- iaeth Bywyd, un gan y Prifatliro Prys, M.A., a dwy gan yr Atliro Dr. Miill Ed- wards, M.A., Tair ar Lafur Amaethyddol yng Nghymru ei herthynas a diboblogiad v wlad ac a diwydiannau trefol a gwledig, gan Mr. G., H. Carter, M.A., a'r Parchn. Richard Jones, M.A,, a Gwilvm Davies, M.A. Ac amryw ddarlithiau ar Brohlem- au a Moddau er gwella Amasthyddiaeth gan Mri. John Owen, G. R. Carter, M.A., H. Jones-Davies, J.P., C. Venables Llew- elyn, J.P., a'r Milwriad H. Pilkington, C.B. Yn y darlithiau sy'n yniwneud a'r ag- wedd honno i'r pwnc ceisir taflu goleu Cristionogaeth ar y sefyllfa a phwyso ar ei gofynion hi. Gwir werthfawr ydyw darlith yr Athro Miall Edwards ar Athroniaeth Cristionogaeth a damcan- iaethan gwrthwynebol iddi. Dengys y camsynied o wneud crefydd a'r cwestiwn cymdeithasol yn ddau beth annibynol heb berthynas rhyngddynt a'u gilydd. Rhaid, meddai, i'n hosgo at gwestiynau cym- deithasol godi oddiar ein syniadau am Dduw, am ddyn ac am y bad, a rhaid cael athroniaeth grefyddol o fywyd wrth gefn ein hymdrech gymdeithasol i roddi iddi sefydlogrwydd a nerth. Cydnebydd y gall unigolion o ddiwygwyr cymdeithasol fod yn hollol ddidwyll ac o ddifrif yn eu hymdrechion o blaid diwygiadau heh fod ganddynt gred grefyddol o'r eiddynt eu hunain wrth gefn eu gweithgarwch, ac hyd yn oed pan yn gwrthod yn hendant boh cred o'r fath. Ond a chymeryd golwg gyffredinol ar y symudiad cymdeithasol, ofer a diffrwyth fydd. os hob wreiddio mewn argyhoeddiadau dvfnion sydd a'u hysbrydiaeth yng nghymeriad Duw, yn nhrefn foesol ac amcan v cytanfyd. Uaw- enychai fod Sosialaeth ddiwoddar yn gwrthod athroniaeth faterol Marx. Brawddeg sydd yn deilwng o sylw yn y I ddarlith yw hon Y drwg yw, nid ydym yn edrych o ddifrif ar yr olygwedd Grist- ionogol, ond 'yn meddwl am dani fel testyn da i hyawdledd duwiol ac ofer yn y pwl- pud, a dim yn rhagor." Dengys fel y mae ymwvbyddiaeth o werth bywyd dyn, hyd yn oed yn ei fan isaf, wrth wraidd holl weithgarwch' a dysgeidiaetli Crist. Dylasai cymdeithas fod yn gyfundrefn o berthyn- as a rhwymedigaethau personol, ac yng ngoleuni y gwir hunan-eghn hwn gwelir diffygion y drefn ddiwydiannol bresennol. Y mae cyfalafaeth wedi mynd yn amher- sonol ac edrychir ar y gweithwyr fel dwylaw ac nid fel dynion. Bechgyn o'r Ysgolion Diwydiannol ar -ffermvdd Cymru yw pwnc y Parch. Gwilym Davies, a dengys nad yw cael y bechgyn hyn i Gymru yn dda iddynt eu ,iA-e( i ii- M ai tiia hunain nac i'r wlad. Dvwedir mai tua phump y cant o honynt sefydlant i lawr yn ddynion defnyddiol yn y cylchoedd amaethyddol. Rhydd G. R. Carter, M.A. fanvlion lawer am gyflogau gweithwyr amaethydd- 01. Diddorol yw y rhestr ganlynol sy'n rhoddi cyfarta Iedd enillion gweithwyr amaethvddol o bob math yn 1912-13: Fflint, 21/8; Dinbych, 24/6, Caernarfon, 20/6; Mon, 19/9; Meirionydd, 21/9; Maldwyn, 21/2; Ceredigion, 17/3; Maes- yfed, 17/6; Brvcheiniog, 19/4; Caer- fyrddin, 24/1; Pen fro, 18/4; Morgannwg, 22/8; Mynwy, 19/1. Ceir fod codiad yn y cyfartaledd er 1907 yn amrywio o 7c. ym Mrycheiniog i 4s. a 7c. ym Maldwyn. Wrth gwrs, amrywia'r cyfartaledd gryn lawer pan gymerir dosharthiadau o weith- wyr ar wahan. Hcfyd cymerir popeth i fewn yn y ffigyrrall. llchod; er engraifft, 14/3 delir mewn arian ym Meirionydd a chyfrifir 7/6 fel gwerth bwyd a llety i wneud i fyny 21/9. Prin er hynny y gall cyfartaledd roddi i ni svniad cywir am, sefyllfa pethau, ac nid oes alnheuaeth nad yw'r gweithiwr amaethyddol mewn 11awer eylch yn fwy dibarch ac yn cael llai na'i haeddiant am ei lafur. Y mae'n bleser gcnnym gyflwvno'r llyfr hwn i sylw am fod y drin- iaeth sydd ynddo ar wahanol faterion yn hollol deg a diwenyn, ac nis gall na ddaw budd o'i ddarllen. Ei bris ydyw swllt, f trwy'r post, 1/s. Cyhoeddir ef gan y Mri. Morgan I< Higgs, Abertawe.

Colofn y Gohebiaethau.I

Advertising

Cystadleuaeth - y Ddrama yn…

Urdd Annibynol yr Odyddion…

Nodion Heolycyw. I

Seven Sisters. i

Cymrodorion Tonyrefail.I

Dim edrych yn ol yn Aberdar.

¡Llwynbrwydrau.

[No title]

Ar y Twr yn Aberdar.I

Muriel,

Advertising