Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAP. YSCOL Y liWYNFRYH AMMANFORD. Befydhoyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Bbagleu a hanes Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W. Williams tCo. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. specialities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoft, dewch at y Cymro Oa am heirdd fodrwyau aur, Oriadaron ao awrleisiau, Geman a cbadwynau claer: Yspectol gelfydd, hlD-fynegyda, Gwres-feeurydd, owmpawd mflr Geir gan Williams, Heol y Caatell Trowch i mewn i wel'd ei stor.
Y CYNHWYSIAD.
Y CYNHWYSIAD. Colofn Llafur Tud. 1 Ar Lannau Tawe 1 Seven Sisters a'r Cyleh 1 Y Stori—Llwybrau'r Sarff 2 Mrs. Mary Richards 2 Y Golofn Amaethyddol 3 o Dir y Gogledd 3 O'r Wy i'r Dywi 3 Cynllun Gweinidogaethol y Bedydd- wyr 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Dysgu Rhyfela 4 Y Cyd-dyfiant 4 Colofn y Bobl Ieuainc 5 Nodion o Abertawe, Canmlwyddiant y Seren Gomer 5 Newyddion Lleol 5 Colofn y Plant 6 o Deifi i'r Mor 6 Llansamlet 6 Cymdeithas Dafydd ap Gwilym „ 6 Y Ddrama yn Heolgerrig 6 O'r Onllwyn-Hanes y Llo 7 Beirniadaeth gan Ifano 7 Adolygiadau 7 Yn Fan ac yn Amal. 8 Colofn y Farddoniaeth 8 Nodion Min y Ffordd „ 8
Ar y Twr yn Aberdar.
Ar y Twr yn Aberdar. Cipiwyd y wobr am farwnad i'r di- weddar Barch. W. J. Williams, M.C., Hirwaun, gan Mr W. R. Davies, Llwyd- coed. j Cynhelir Cymanfa Gatu dynyddol yng Nghwmdar rhwng yr Annibynwyr, j Bedyddwyr, a'r Methodi&tiaid. Cyn- haliwyd yr un eleni, dydd Llun, Mawrth 9fed. Yr arweinydd oedd Dr. Caradog Roberts. Claddwyd Mr W. A. Jones, Cwmdar, dydd Llun, Mawrth 9fed, yng Nghladd- fa Aberdar. Mab ydoedd i'r Parch. R. f Jones, Caernarfon. Bu yr ymadawedig yn weinidog yng Nghoedpoeth, ac Eldon St., Llundain; ond yng Nghwmdar y cartrefai er's blynyddoedd. Yr oedd jO 45 oed. Pregethwyd yng ngwyl Bethel eleni "gan y Parchn. Edward Jones, M.A., B.D., Rhyl, a Rowland Hughes, B.D., Tylorstown. Yr oedd y cyfarfodydd yn dra. phdfog&idu. • ? v~-• Abraham (Chas. Darnton) oedd y gwaith a berfformiwyd gan Gor Tre- salem yn Heolyfelin, nos Iau, Mawrth 5. Yr arweinydd oedd Mr W. T. Williams. Cynorthwyid y cor gan seindorf linyn- nol. Cadeiriwyd gan Mr W. H. Davies. M.E. Bu'r Parch. Daniel Hughes, Ponty- pwl, yn darlithio yn Heolytelin nos Iau diweddaf. Ei destyn oedd Dickens. Ai yr elw i gynorthwyo brawd o Lwydcoed sydd wedi ei analluogi i ddilyn ei orchwyl. Daeth y gyfres o ddarlithiau a drefn- wyd ar gyfer y gaeaf yn Aberaman i ben nos Lun, Mawrth 9fed. Yn Saron yr oedd y cyfarfod olaf, a'r adroddwr adnabyddus, Mr Alexander Watson, a wasanaethai y noson honno. Cadeir- iwyd gan y Parch. H. P. Jenkins. Wrth adnewyddu trwyddedau y Cine- mas penderfynnodd Cyngor Aberdar wahardd i blant dan 14 oed aros yn y lleoedd hynny ar ol naw o'r gloch. Llwyddodd Ogwen i argyhoeddi yr awdurdodau mai lie anaddas i blant yw mwg a thywyllwch y nythleoedd hyn hyd oriau hwyr. Y syndod yw fod rhi- eni yn peryglu iechyd eu plant wrth eu llusgo i leoedd o'r fath. Y mae'r cy- hoedd yn dyledus i'r cyfeillion a eilw sylw at y mater, a diameu fod pob dyn sydd yn caru lies y gymydogaeth yn ddiolchgar iddynt. Nos Wener ddiweddaf, yn yr Ysgoldy Elfennol, cynhaliwyd cyngerdd (ail- adroddiad, ar gais, o raglen Gwyl Dewi Sant) gan blant yr ysgol. Llywyddwyd gan Mr Roger Thomas, ysgolfeistr. Canwyd ac adroddwyd yn Gymraeg gan Florrie Edwards, Edith Lloyd, Doris Lindsay, Olwen Edwards, May Llew- elyn, Albert Evans, a chymerwyd rhan yn y ddrama, "Dewi Sant" (John Davies) gan y rhai canlynol :—Dewi Sant, D. J. Jones; Nonn, Bessie Davies Paulinus. David J. Davies a j Tom Thomas; Gweslan, David W. Evan a Harry Wigmore Y Gwyddyl, William Richard; Coedwg, Dd. Lewis, j Daeth cynulleidfa luosog ynghyd, ac aeth y plant trwy eu gwaith yn --ar- -dderchog. Gwahoddir Mr John Davies, attend- ance officer, i Baris eleni ynghyda phlant y Gymdeithas Gydweithredol er uno yn yr wyl rwng-genedlaethol i blant -o blaid heddwch ac unoliaeth ymysg yr holl genhedloedd. Bu Mr Davies a'i gor yno ddwy flynedd yn ol, a phrawf adael ohono argraff dda ei wahodd eto. Cvmer eich plant," ebe'r ysgrifen- yddes Alice Jouenne, ran effeithiol yn yr wyl, a llonnir ni gan eu canu." Llon- gyfarchwn ein cyd-ddinesydd ar ei Iwyddiant mewn gwaith da.
COLOFN LLAFUR.!
COLOFN LLAFUR. (GAX "PEREDCR.") Prinder Athrawon. Yn ol adroddiad oddiwrth y Bwrdd Addysg (Adran Gymreig) y mae ar- wyddion yr amserau yn dangos y bydd prinder yng nghyflenwad athrawon yr ysgolion dyddiol yn y dyfodol agos yng Nghymru. Y mae hyn, yn ol y ddeddf 1 fawr fasnachol gydnabyddedig, "Supply and Demand," yn addaw amgylchiadau ffafriol i godiad yng nghyflogau yr athrawon. Achwynir gan y dosbarth yma o weision eymdeithasol fod y tal a gant am y gwaith pwysig o ddysgu y plant yn isel ac annigonol. Dyma eu eyfle wedi dod, ac os oes gwirionedd yng ngweithrediad y ddeddf hon, bydd- ant yn fuan yn llawenhau yn eu llwydd- iant. Mawr lwc iddynt, dywedaf fl. Gwaith Milwrol. Yn ddiweddar y mae y Swyddfa Ryfel t wedi mabwysiadu y cynllun o hysbysu I am ragorfreintiau bywyd yng ngwasan- aeth y fyddin, er mwyn denu dynion ieuainc i ymuno. Y mae y nifer sydd yn ymuno yn mhell islaw yr hyn sydd yn ofynnol, dyna'r rheswm o'r hysbys- iadau yn y newyddiaduron. Yr achwyn- iadau mawr yn erbyn Jbywyd yn y fyddin tW, ei bod yn amhosibl i filwr cyffredin i ddringo i'r safleoedd uchaf. Rhoddir y rhai hyn i'r mawrion ariannog. Es- geulusir a diystyrir dynion ieuainc sydd wedi dangos eu bod yn mhell uwchlaw y cyffredin mewn cymwysder, a rhoddir y brasder y swyddi i feibion y lordiaid a'r cynffonwyr ariannog, sydd yn medru prynu y safleoedd llywodraethol drwy arian, ac nid drwy gymhwysder a theil- yngdod personol. Ceisir ymhob modd ddenu dynion ieuainc i ymuno, ond hyd nes y rhoddir gwell telerau a chyfle i gymhwysder a theilwngdod i ddyrchafu i'r safieoedd uchaf, nid oes obaith y ceir y cyflenwad gofynnol yn rhengoedd y fyddin. Y mae y ffafr a roddir i'r dos- barfh pyfoethog ymhob n o' drefriiiiaeth wladol yn ganfcr sydd yn dirywio y cyfansoddiad cymdeithasol, a goreu i gyd po gyntaf y gwneir i ffwrdd a'r drwg hwn. Hanes Llwyddiant. I Mewn cyfarfod o lowyr YIll Mhonty- pwl yr wythnos ddiweddaf, dywedodd Mr James Winston, y goruchwyliwr, fod rlldeb Glowyr Deheudir Cymru wedi derbyn oddiar ei gychwyniad y swm en- fawr o zCS28,139 o bunnoedd oddiwrth yr aelodau allan o'r swm hwn y maent wedi derbyn yn ol mewn tal streic, etc., 2640,013. Y mae y gweddill wedi ei wario i gario y gwaith ymlaen, ac i am- ddiffyn achos y gweithwyr yn y llys- oedd barn, etc. Cyd-ddealldwriaeth a chydweithrediad oedd hanfod eu llwyddiant. Yr oedd yn ofynnol gwr- eiddio'r gweithwyr mewn gwybodaeth o hanes, egwyddorion Undebiaeth, fel y gallent gael amgyffrediad o'r gwaith a'r aberth mawr oedd wedi ei wneyd yn y gorffennol i ddwyn undehiaeth i'r safle y mae yn bresennol. Beiddiai ddweyd hefyd nad oedd undeb yn y byd allai ddangos y fath Iwyddiant ac effeithiol- rwydd mewn codi tal a gwelliant am- gylchiadau llafurol, ag Undeb Glowyi- Cymru. Dywedaf finnau y gellir gwella llawer eto, ped anghofiai rhai o r ar- weinwyr eu hunain ychydig, a rhoddi mwy o sylw i fanion bethau yr Undeb. Cynnyg at Welliant. I Cyflwynwyd Mesur i Dy y Cyffredin yr wythnos o'r blaen, yr hwn sydd yn cynnyg at wella y cynllun o ethol i'r Sennedd. Pan fydd tri ymgeisydd yn cynnyg am ddwy sedd, y mae yr ethol- wyr i osod y ffigwr 1 ar gyfer enw ei ffafrddyn cyntaf, a'r ffigwr 2 ar gyfer yr ail yn ei ffafr. Os digwydd i ddau fod yn lied gyfartal, syrthia'r trydydd allan, a'r pleidleisiau a gafodd i'w rhannu rhwng y lleill. Cafodd y mesur hwn gefnogaeth rhai o'r aelodau Ilafur. Gweithwyr Pen y Pyllau. I Cynhelir cynhadledd genedlaethol o gynrychiolwyr glowyr yn Llundain dydd leu nesaf, i ystyried pa gwrs pellach i'w gymeryd er sicrhau gwell tal a llai oriau i weithwyr pen y pyllau. Y mae achos y gweithwyr hyn yn cyflym ddat- blygu ac yn addfedu streic genedlaethol eto, oni ddengys y meistri fwy o gydym- deimlad a pharodrwydd i ystyried y cais am delerau gwell. Costau Streic Gweithwyr Trefcl Leeds. Mewn adroddiad neillduol a roddwyd | i'r pwyllgor o Gyngor Trefol Leeds nos I Wener diweddaf, dywedwyd fod y streic ddiweddaf ar ran y gweithwyr trefol, yr hon a barhaodd am fis o amser, wedi costio tua £941000 o bunnoedd i'r Cyngor. Elwlr Glofeydd. I Ceir adroddiad yn yr "Economist" o'r elw y ddug Glofeydd Cymru i'r perchenogion y flwyddyn ddiweddaf. Dywedir fod y fasnach wedi bod yn ddiwyd iawn, ac yn dangos cynnydd sylweddol ar y flwyddyn o'r blaen. Nodwn elw 8 cwmni fel y canlyn:- Ychwanegiad ar y Divi- flwyddyn dend Net o'r per Proffit. blaen. cent. Cardiff Collieries 53,671 21,963 15 D. Davies & Son 217,970 62,010 10 Great Western 158,419 103,419 15 North Navigation 100,144 35,503 10 Penrhiwceiber 58,873 11,592 12* Powell Duffryn 364,421 115,949 20 United National. 117,590 31,560 In Albion 24,294 21,673 0 Yn sicr, y mae achos i lawenhau gan yr oil o'r shareholders sydd yn dal shares yn y glofeydd uchod. Ond pe caem brofiad y miloedd gweithwyr sydd wedi rhoddi o fer eu esgyrn a'u gwad i gyn- hyrchu yr elw hwn, ni chawsem gymaint o lawenydd a llongyfarchiadau. Pa sawl gwraig sydd wedi ei gadael yn weddw, a pha nifer o blant sydd wedi eu gadael yn amddifaid wrth gynhyrchu y dividend hwn 1
Ar Lannau'r Tawe. I
Ar Lannau'r Tawe. I Rhoddodd Cor Carmel ddau ber- fformiad rhagorol o'r gantawd gys- egredig, Daniel (Root a Brad- bury) yn Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos Sadwrn a nos Iau diweddaf. Daeth tyrfa ynghyd i glywed y dat- ganiad, a chawsant wledd o gan. Ar- weiniwyd y cor gan y Brawd Thomas John, a chymerodd y boneddigesau Maggie Williams (Brenines) ac Edith May Tomas (Chwaer), a'r bonwyr Tom Thomas (Azariah), Willie G. Evans (Cyhoeddwr a Llywydd), David J. Rees (Daniel) a John W. Jones (Brenin) ran flaenllaw yn y per- fformiad. Claddwyd gweddillion Mrs Mary Williams, priod Mr Josiah Williams, o Aelybryn, Glais, ym Mynwent Beth- ania, Clydach, prynhawn dydd Iau diweddaf. Bu farw wythnos i'r di- weddaf ar ol cystudd hir yn 64 oed. Yr oedd yn barchus iawn yn y gym- ydogaeth. Cafodd angladd lluosog iawn, a gwasanaethodd y Parchn. J. Tywi Jones, T. Valentine Evans, Clydach, a D. Eiddig Jones, Clydach. Dyma fel y canodd Perllannog iddi:- "Y dawel Fair, grefyddol Fair, Mae hithau heddyw 'ngardd y meirwon; Hi aeth o'r byd tra'r Dwyfol Air Yn dedwyddoli gwraidd ei chalon. Hyd hydref bywyd gwnaeth ei rhan I'w theulu ac i'w Cheidwad; Os gwywodd ing ei phabell wan, Xi wywir byth ei chlaer gymeriad." Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol iddi ym Mheniel, Glais, nos Sul, a rhoddodd ei gweinidog dystiolaeth uchel iddi fel chwaer ffyddlon, radlon, a di-absen. Traddododd y Parch. T. Valentine Evans (gweinidog) ddarlith hynod o ddiddorol ar y testun, "Pregethwyr fy machgendod mewn cyfarfod llu- osog gynhaliwyd o dan nawdd Cym- deithas Pobl Ieuainc Calfaria, Clyd- ach, nos Fercher diweddaf. Mae "T. V." yn ddarlithiwr diail. Cafodd ei wrandawyr noson ddedwydd yng ngwmni'r hen gedyrn. Llywyddodd y brawd Evan Evans, a chawsom areithiau byr a phriodol gan nifer o'r rai oedd yn bresennol. Hefyd cannodd y brawd George Davies yn ystod y cv farfod. Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus dan nawdd Cymdeithas Cynorthwy- wyr leuainc Cartrefi Dr. Barnardo yn Ysgoldy Hebron, Clydach, nos Fawrth diweddaf. Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones, a chawsant araith Saesneg ragorol gan y fonesig M. Ashford ar y testun, "A Child's Heritage." Canodd y fonesig E. Llew- elyn, a chasglwyd yn ystod y cyfarfod tuag at gynorthwyo'r 8,000 o blant sydd yn awr yn y Cartrefi. LLEW. I
[No title]
Cymeradwya yr Athro Joseph Jones, AT.A., B.D., awgrym y "Darian" i berclien- ogion "Seren Cymru" ddewis "Gwiji" yn olygydd fel olynydd i'r Dr. W. P. Williams. Dyry deyruged uchel i Gwili fel bardd, pregethwr, lienor ac athro enwog.
Yng Nghwm Ogwy.:
Yng Nghwm Ogwy. Er amled y rhai ddeuant dros Glawdd Offa yn y lie hwn, torrodd argae gwladgarwch a chenedlaethol- deb gyda dynesiad Gwyl Ddewi. Adgofiwyd pob Cymro o'i iaith a'i genedl gan y genhinen, a threfnwyd cyfarfod i blant y Cymry i roddi myn- egiad i hwyl wladgar wrth gyfranogi o arlwy felus yng nghapel y Metho- distiaid Seisnig nos Lun. Daeth tua chant ynghyd, ac amheuthyn oedd canfod y rhyddid deimlai pob un wrth siarad iaith ei fam-wlad. Pan ystyrrir y cynhwysai'r cwmni frodor- ion o lawer o wahanol siroedd, nid yw'n synn i frwdfrydedd y cynhulliad fynd yn fflam. Wedi digoni pawb o'r danteithion awd trwy raglen wir ddiddorol dan lywyddiaeth y Parch. Goronwy Lewis. Galwodd ef ar y beirdd i roddi eu hanerchiadau, a chafwyd hwynt yn Uawn gwres. Cyn- hygiodd y llywydd y llwnc-destun, Ein Tywysog," a chafwyd datgan- iad o Dywysog Gwlad y Bryniau gan Mr Theophilus Beynon, ysgol- feistr. Cynhygiodd y Parch. Charles Williams Dewi Sant" mewn araith ddanghosai gryn chwilfrydedd hanes- iol, a chanwyd Gwlad y Delyn gan Mrs Gwen T. Williams mor dda nes bu raid iddi ganu eilwaith. Gwir dda oedd adroddiad Mr D. T. Michael, "Y pwn ar gefn yr awen." Cynhygi- II wyd Cymru, ei hiaith, a'i defion, gan y Parch. J. J. Roberts, B.A., mewn anerchiad grymus. Atebodd II Mr J. Davies-Brown, M.A., gydag 4mi ergyd hapus a diddorol. Yna I canodd Mrs Gwen Price, Dyffryn Clwyd. Cymry ar wasgar" oedd I llwnc-destyn y Parch. D. J. Davies, a'i araith yn llawn o engreifftiau o wasanaeth Cymru mewn gwahanol barthau o'r byd. Atebodd yr Henadur I W. Llewelyn. Canodd Mr C. David yn swynol. Canodd Mr Theo Beynon I benhillion "a gyfansoddwyd gan Ifan Dda yn ymwneyd a'r wyl. Canwyd alawon Cymreig ar y crwth gan Mr (idmer Jones, Penybont. Cyfeiliwyd ar y piano gan Miss Gwladys Llew- elyn a Mr Tudor Llewelyn. Terfyn- wyd gyda "Hen Wlad fy Nhadau." Bwriedir cychwyn Cymdeithas Cym- rodorion yn y lie, a diau y by4d yn foddion i rymuso y teimlad Cymreig ac i gadw yr hen iaith yn fyw. Y mae i llwyddiant y cyfarfod yn adlewyrchu I anrhydedd ar yr ysgrifennydd, Mr Gwesyn Williams, London and Pro- vincial Bank. Brodor o Dalybont, Ceredigion, yw efe.—Goh.
r Seven Sisters a'r Cylch.I
r Seven Sisters a'r Cylch. I Tair wythnos yn ol cyfeiriasom at vm- I ddygiad E. Evans Bevan, YSW. I yn • gwrthod cwrdd a'r pwyllgor unedig o'r pedair glofa sydd ganddo yn y cyleii, ynglyn a'r cais am ddiwrnod byr ar y Sadwrn. Yr wythnos ddilynol aeth ym mhellach, gan wrthod cwrdd a phwyll- gor gwaith y Seven os byddai George Jones, yr atalbwyswr, yn bresenol. Gan ei fod yn arferiad yma erioed i'r atal- bwyswr fod ar y pwyllgor yn rhinwedd ei swydd, ac fel arweinydd y gweithwyr, galwyd cyfarfod o'r holl waith ar ben y pwll boreu dydd Gwener i ystyried y sefyllfa. Penderfynwyd eu bod yn gwrthod gweithio hyd nes y cydnabydd- id yr atalbwyswr ar y pwyllgor. Y can- lyniad fu atal y gwaith dydd Gwener a dydd Sadwrn. Dydd Sul cynhaliwyd cyfarfod arall, a phenderfynwyd eu bod yn mynd yn ol i weithio dydd Llun, a rhoddi eu rhybuddion i fewn. Gwnaed yr un modd yn y tair glofa arall, fel y fcyddent yn dod allan yr un pryd. Dis- gwylir brwydr boeth yn y dyfodol agos. Yr wythnos ddiweddaf, yn Salem (B.), cynhaliwyd eyfarfodydd neillduol, pan y gwasanaethwyd gan y Parch. R. B. Jones, Porth. Cafwyd pregethu ag areithio effeithiol iawn. Gobeithiwn weled llwyddiant mawr yn dilyn. Dydd Sadwrn diweddaf cafwyd hwyl ar briodi yn y Seven, yn Eglwys St. Mary's. Priodwyd Geo. Herdman, Caerdeger, a Miss Dorothy Hooper, Dulais Gardens. Priodwyd Wm. J. Hooper, Dulais Garden, a Miss Rachel Ann Jones, Church Street, yn ctdi- weddarach yn y dydd, a Morgan Dethe, Crynant, a Miss Lizzie Radcliffe, Bryn- cae. Dyma ddiwedd llawer o bobl ieu- ainc y Seven y dyddiau hyn. Dydd Sul a Llun, wythnos i'r diwedd- af, cynhaliodd eglwys y Bedyddwyr, Crynant, eu cyfarfodydd hanner blyn- yddol. Gwasaneathwyd gan y Parchn. Ed. Parry, Aberdulais, ag S. G. Bowen, Bryncemaes. Cafwyd pregethu grymus i gynuiliadau lluosog.
Dathlu Gwyl Ddewi yn Horeb…
Dathlu Gwyl Ddewi yn Horeb Pump Heol, Llanelli. Oherwydd rhwystro y Gymdeithas Gymrodorol a Christionogol sydd yma gan ffyniant y frech goch i ddathlu yr wyl mabwysiadwyd y rhaglen ganlynol (1) Gair i longyfarch gan y Llywydd, y Parch. D. Bowen (Myfyr Hefin). (2) Can, Molawd Cymru," gan Miss Jones, Brynhyfryd. I (3) Anerchiad, Dewi Sant," gan I Mr J. M. Jones, yr ysgolfeistr. Cawd anerchiad brwd a gwerthfawr gan- j ddo. Syhvodd mai dyma y waith j gvntaf yn hanes Horeb a'r cylch iddvnt geisio gwneud rhywbeth i [ ddathlu Gwyl Ddewi, er eu bod yn yr j ysgol ddyddiol ers rhai blynyddoedd wedi cysegru y cyntaf o Fawrth i goffa Sant y Genedl, er ceisio ennyn ym mhlant y Pump Heol sel wladgar, ond heno llongyfarchai Fyfyr Hefin am nas gadawodd i'r noson fynd heibio heb i'r rhai hynaf wneud rhyw- beth i ddathlu'r Wyl. Os yw yr hen Ddewi wedi mynd, llawenychai fod ei ysbryd yn aros, ac yn gwresogi ym mynwes cynddrychiolydd teilwng iddo o'r un enw, sef y cadeirydd. Credai mai priodol i'r Gymdeithas hon wrth ddathlu yr Wyl am y cyntaf dro fyddai rhoddi yn syml ac yn fyr ychydig o hanes Dewi Sant. Dywedai i'r rhan fwyaf o Saint Cymru flodeuo yn y chweched ganrif, llawer o honynt wedi eu cadw rhag myned i dir anghof yn enwau trefydd a phentref- ydd Sir Gaerfyrddin a siroedd ereill Cymru. Y Sant fu yn gyfrifol am enw Llanelli, oedd Ellym. Teilo, cyfaill Dewi, am Landeilo, etc. Enw ei dad oedd Sandde, a'i fam Non, ac y mae Eglwys Llannon gerllaw wedi ei henwi er cof am ei fam. Gwelwch y camsynied wneir ambell dro o osod un n yn Llannon. Llan-Non yw y gwir enw. Yna wedi manylu o hono ar hanes Dewi a son am dano fel cen- hadwr, a bod Cymru gyda phob deffroad yn deffro yn grefyddol, aeth i son am y genhinen a'r adeg y gwisg- wyd hi y tro cyntaf. Apeliodd yn daer am i ni gadw nodweddion ein gwlad- garwch drwy waeddi ar lwyfan byd cyfan, laith fy mam a gwlad fy nhadau; y gwir yn erbyn y byd; Duw a digon; Heb Dduw heb ddim. Gorffennodd gyda chymeradwyaeth fawr. Araith deilwng o'i chofnodi bob gair o honi oedd hon. (4) Adroddiad, "Araith Llywelvn," Mr W. J. Jones, Pump Heol. (5) Can," Y r Eisteddfod," Miss Agnes Jones, Horeb. (6) Can, "Ar hyd y Nos," Miss Sarah Ann Harris, Cynheidre. (7) Anerchiad y Cadeirydd, "Cen- adwri yr Wyl." Sylwodd yntau fod i'r Wyl genadwri atom ynglyn a gwladgarwch a chrefydd. Yr hen ffurf enw ar Ddyfed yw Dewi. Bach- gen yn cario enw ei wlad ydoedd. Beth am enwau ein plant. Yr Wyl yn dweyd wrth ein rhieni heddyw am ofalu am enwau Cymraeg i'n plant. Ganwyd Dewi Sant rhwng dau ddylanwad mawr yn ein gwlad-y Rhufeinwr wedi mynd, ond ei ddylan- wad yn aros ar ol; y Saeson heb ddod yma. D&w Dewi Sant rhwng y ddau dylanwad yn dweyd fod Cymraeg a chrefydd i flodeuo yn ein tir. Geilw ei goffa arnom i fod yn Gristionogion ac yn Gymry, ac i fod yn barod i aberthu llawer dros ein gwlad a'n Duw. (8) Can, Merch Megan," Miss Bessie Daniels, Cynheidre. (9) Can, "Annwyl yw Gwalia fy Ngwlad," Miss Annie Thomas, Gelli- hir. (10) Adroddiad, Sabboth Gwal- ia," Miss Hannah Richards, Myrtle. (n) Can, Gwnewch bopeth yn Gymraeg," Miss Annie May Jen- kins, Gwalia. (12) Adrodiad, Ben yn y Ffos," Miss Sarah A. John, Cynheidre. Wrth yr organ yr oedd Miss Annie Thomas, Gellihir. Siaradwyd ychydig eiriau vmhellach o ddiolch a chym- helliadau i'r Gymdeithas fyned rhag- ddi gan Mr William Jenkins, y Ffarm; Mr William Davies, ar- weinydd y gan; Mrs Jenkins, Myrtle, merch y diweddar fardd, Eryr Glan Lliedi, a therfynwyd yr Wyl drwy gyd-ganu, Hen Wlad fy Nhadau." MYRDDIN MIN Y MOR.
[No title]
Ach a fo !-Mewn ocsiwn ddodrefn ym Mhwllheli ddydd Mercher diweddaf, gwerthwyd llun Mr Evan Robert, y Diwygiwr, am swllt; a'r dyn oedd piau'r llun wedi ei dynnu oddiar y pared a Ji vrru i'w werthu am waith y diwygiwr yn gwrth- od mynd i weld ei fam cyn ei marw.-O'l' "Brython."
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y PMAI HYN. Esgeulusdod 0 unrhyw niwed I rbnf hyn drwy ddamwain neu glftfytf all achosi Blood Poisoning a Marwolaeth. MeddyginiaetJi Efteithiet. Er mwyn ysgol Perygl rhaid al ymarlar mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUB A 8ICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn oael ei gydnahttf gan filoedd fel y meddyglin mwymo sicr a diogel a ddarganfyddwyd erioed at iaehau Clwyfau, Archollfon, Tardd- iantau y Cnawd, Eczema, Craoh a Nedd yn Miienau Plant, Llosgiad. au, Ysgal. d a n a u Sou r v y, L I u g r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, C • u t, Cymalau Poenus, Rheumat- ics, Poen Cefn, Piles. hynod I aftelthlot at CLWYFAU ar COESAU. Yr oedd pen fy mlea- tyn mown *t&t echryilo*. GweUhaodd Gomer'* Balm hi yn bur fuan." Miloedd yn tystlo I'w Effelthlau RhyfeddoL RHODDWCq BRAWF ARID Gwellhad sydd sicr. Ar werth gan bob Chemilt a Stores am I/ll. Gofyner am Corner's Balm. Mym- wch weled enw jaoob Hughes ar bob blwch. Heb hyn nid yw gywir. Neo danfoner ei gwerth (P.O. neu Stampi) at Jacob Hughes, Manufacturing Chem- let, M.P.8., L. D.S., Panarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tsen prynwyr yma ao yn 01 ond iddynt enwi Tariajj y Gwbithiwb. YN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 Pages 1/- net; Post Free 1/3. Addresses delivered at the » United School of Social Service for Wales." A book every Patriot should read. Send without delati to the Publishers MORGAN & HIGGS, Publishers, Printers, Ao., 18 HMthftold Street, Swansea.