Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. (Dan Olygiaeth Moelona.) Wele i chwi heddyw un o Storiau' r Tylwyth Teg." Hoffwn gael eich barn am y stori hon. Pa un o honoch enfyn i mi lythyr yn dweyd rhywbeth am dani ? Darllenwch hi ryw fin nos i'ch tad a'ch mam neu i rywun arall, ac yna ysgrifen- nwch. Os caf lythyrau gweddol dda, cant ymddangos yn y "Darian," a'r enw wrthynt. Cofiweh y bytldaf yn disgwyl am danynt. OGOF ARTHUR, -biyl-iyddati maith yn ol safai Cymro ieuanc ar bont Llundain, gan sylln ar y rhyfeddodau o'i gylch. Daethai a nifer o ychain gydag ef o Gymru, ac yn awr, wedi eu gwerthu, a chanddo ddigon o aur yn ei logell, ai i edrych beth welai yn Llundain. Caviai ffon gollen yn ei law, a chyn hir sylwodd fod rhyw ddyn yn ei yrnyl yn edrych yn graff ar y ffon. Cyfarchodd y dyn ef, gan ofyn o ba le y daethai. Atebodd yntau, yn swrth ddigon, mai o Gymru. Maddeu i mi am ofyn, ebai'r gwr dieithr eto. ond pa le y darfu i ti dorri'r ffon yna?" Methai y Cymro weled pa hawl oedd gan y dyn ofyn y fath gwestiwn, a dywedodd, Pa wa- haniaeth ym mha le y torrais i hi?" Ah!" ebai'r Hall, "A wyddost ti fod trysor lawer yn guddiedig o dan y fan lie y tyfai'r pren yna? Os arwein fi i'r lie gwnaf di yn berchen golud lawer. Deallodd y Cymro erbyn hyn mai dewin oedd y dyn, p,c ni wyddai yn ei fyw beth i wneud. Ofnai gario ymlaen unrhyw drafodaeth a dyn felly, ac etc, awyddai am y cyfoeth. O'r diwedd, wedi hir betruso, a'r dewin o hyd yn er- fyn yn daer, addawodd y Cymro ddangos iddo'r fan lIe y torasai'r ffon gollen. Teithiodd y ddau gyda'u gilydd o Lundain i Gymru. Daethant i Graig y Dinas, yn agos i Bont Nedd Fechan. Gan gyfeirio at hen goeden gollen dyfai yn y lie hwnnw, dywedodd y Cymro Wele'r fan y torrais fy ffon." Tyred i gloddio," ebe'r dewin. Cloddiasant nes dod hyd at ryw gar- reg lydan a gwastad. Codasant hi i fyny, a gwelent risiau yn arwain i lawr i rywle. Aethant ar hyd ddynt, a thrwy fynedfa gul nes dod at ddrws. A oes ofn arnat ?" eJbe'r dewin. "A ddeui i fewn gyda mi 1" Dof," ebe'r Cymro. Agorasant y drws a gwelent ogof fawr yn ymestyn o'u blaen. Yr oedd goleu coch egwan yn yr ogof, a gallent weled popeth. Daethant yng nghyntaf at gloch fechan. Na chyffwrdd a'r gloch," ebe'r dewin, "neu hi fydd ar ben arnom." Fel yr aent ymhellach ymlaen, gwelai y Cymro nad oedd y lie yn wag. Yr I oedd yno filwyr-filoedd o honynt-yn gorwedd ac yn cysgu. Yr oedd pob un ai wisg o arfau disglair am dano, pob un a'i helm ddur ar ei ben, ei darian loew ar ei fraich, a'i gleddyf wrth ei law; pob un a'i bicell wedi ei thaflu i'r ddaear yn ei ymyl,—a phob un yn cysgu! Yng nghanol yr ogof yr oedd bord gron enfawr, ac o'i chylch eistedd- ai marchogion. Dywedai eu gwedd urddasol, a'u harfwisgoedd drudfawr, nad milwyr cyffredin mohonynt hwy. Yr oedd pob un o honynt hwythau hefyd yn plygu ei ben ae yn cysgu. Ar orsedd aur yng nghwrr pellaf yr ogof, yr oedd Brenin o faintioli anferth ac ymddanghosiad rhwysgfawr. Yn ei law cariai gleddyf disglair, ar ei ben yr oedd coron o aur a gemau—a ddis- gleiriai fel ser ar noson re wily d. Yr oedd cwsg wedi cau ei lygaid yntau hefyd. Ai cysgu y maent ?" gofynnai'r Cymro yn ofnus. "Ie," atebai'r dewin. Eithr os -cyffyrddi a'r gloch acw, deffroant bob .un. Oddiar ba bryd y cysgant a Er's mwy na mil o flynyddoedd." Pwy ydynt?" Milwyr Arthur, yn aros am yr amser pan gaut goncro holl elynion y Cymrv ac axl-ieddiannu Ynys Brydain, gan osod en Brenin eu hunain drachefn yng Nghaer Lleon." Pwy yw y rhai acw sydd yn eistedd wrth y lord gron?" Hwy yw Marchogion Arthur- Oiv iin 7b Urien, Cai ab Cynyr, Gwalch- mai ab Gwyar, Peredur ab Efrawc, Ger- aint ab Eurbin, Bedwyr ab Bedrawd-" Ac ar yr orseddfainc aur?" gofyn- nai'r Cymro. .1 Mae Arthur ei hun, a'i gleddyf yn ei law," atebai'r dewin. Heb aros i wrando ymhellach ar gwestiynau'r Cymro rhedodd y dewin at. garnedd fawr o aur melyn oedd ar lawr yr ogof. Cymerodd o hono gymaint fedrai gario, ac archodd i'w gydymaith wneud yr un modd. Mae'n bryd mynd," ebai wedyn, ac arweiniodd y ffordd at y drws drwy ba un y daethant i fewn. Eithr yr oedd y Cymro wedi ei swyno raiVr olwg ar y milwyr dirifedi yn eu tiartwisgoedd disglair-oll yn cysgu fl-I y caraswn eu gweled oil yn ti lettft- ro. ebai wrtho ei hun. "Mi a gyffyrddaf a'r gloch. Rhaid i mi gael eu gweled oil yn codi o'u cwsg." Pan yn ymyl y gloch, cynyrddodd a 11I, nes i'w sain ddiaspedain drwy'r holl Ie: a. chyn gynted ag y swniodd, wele'r niilopHrf m Vyr ?- ?-?d, a chrynai ,} ddaear g d f iv fedd, g? J"?' eu ??-- Ac o'u ,ano chybuw d II .Ol ellybuwyd "?s cryf *1 g.fy.: 3 d? ???Ioch? Awa? dd .y d,j dd ?" '1 wawrlOdd  (an fawr ofn crvnaiV • 1 .1 ,,1'Yllal r ^T" lnegi •vvawriot d y y du^vdad ci. c Cysgwc-h.N^' nni i 1 -?y?'dd;-??? ?? "Arthur." ebe'r llais eto, deff ro, mae'n ddydd! Fe ganodd y gloch. Deffro, Arthur Fawr." "Xa," gwaeddai'r dewin. "Nos yw o hyd. Cwsg Arthur." Clywyd swn o'r Orsedd. Arthur a safai, ac megis ser, uwchben y dyrfa fawr, y disgleiriai'r gemau yn ei goron. Mwyn oedd ei lais, a dwfn fel swn dyfroedd lawer, tra y dywedai: Filwyr, ni chiliodd mo'r nos. Un a'i fryd ar gasglu golud ddaeth yma i ganu'r gloch. Cysgwch, filwyr hoff Mae'r dydd heb eto wawrio ar Gymru!" Daeth tawelwch ar unwaith i deyrn- asu dros y fan. Gyrrodd y dewin y Cymro o'i flaen yn frysiog allan o'r agof, rhoddodd y garreg yn ol yn ei lie, ac yna diflannodd. Llawer tro wedi hyn y ceisiodd y Cymro gael o hyd i ddrws yr ogof, ond ofer y bu ei ymchwil. I
Dafydd Thomas.
Dafydd Thomas. Syr,—Diddorol iawn oedd gweled yr hen gan ddisgrifiadol o Forganwg ar gloriau y "Darian" gan Talnant. Dymunol iawn fyddai hanes yr hen fardd, ond ni wyr neb fawr ddim am dano yn ein dyddiau ni, oherwydd bu farw digon tebyg cyn bod y cylchgron- au mewn bri. Argraffwyd y llyfr yn y flwyddyn 1750 gan J. Eddows a'i gyfaill yn Amwthig, neu ynte Pengwern yn Mhowys fel y gelwid y lie gan yr hen Gymry. No. 6 am y flwyddyn hono oedd "Hanes Tair Sir ar ddeg Cymru," ac yn cynwys hysbysiad helaeth pa fath ydynt, a pha bethau goreu sy ymhob un o honynt, a pha fath bobl sydd yn gwladychu ynddynt, a pha beth yw hyswiaeth pennaf merched ymhob sir ? Pa yd ac enllyn sy amla a pha le mae'r gyffylau goreu, gwartheg, defaid, brethynoedd, gweioedd, gwlanneni y llieniau gorau yng K ghymru, etc. at yr hyn y chwanegwyd tair o gerddi gan Dafydd Tomos." Daeth allan argraffiad arall yn y flwyddyn 1812 gan Samuel Williams. Ar ol chwilio amryw o hen lyfrau, barnwyf taw hen gar i Lewis Hopkin ac Edward Evan o'r Toncoch ydoedd Dafydd Thomas. Pan oedd Dafydd o'r Coetty yn Xghadair Tir Lull am y flwyddyn 1730, yr awenydd- ion oedd Dafydd Thomas, No. 1; Rhys Morgan, Pencraig Nedd (2) Dafydd Nicholas (3), a Sion Bradford (4). Pan argraffodd Edward Evan Toncoch Afallau'r Awen" yn y flwyddyn 1769, yr oedd ganddo lythyr at y darllenydd fel hyn: Mal y deallo'r darllenydd yr hyn a fu achos a chymmelliad i'r gorchwyl yma o gyfansoddi Llyfr y Pregethwr ar fesur cywydd. Oymered sylw, or ymadrodd canlynol: Digwyddodd i wr ieuangc o Sir Aberteifi a'i enw Dafydd Thomas ddyfod i waered i Forganwg oddeutu'r flwyddyn 1727. Efe a dderbyniwyd yn aelod i Gyn- nulleidfa'r Parchedig Rhys Prys o'r Ty'n Tonn. Yr oedd ganddo dalent o awen, a rhwyddineb ymadrodd. Efe a ymosododd i ddysgu rheolau Gram- adeg 0 iawn ysgrifenyddiaeth oddeutu'r flwyddyn 1730, ac a ddaeth yn gryn gyfarwydd a dych'mygfawr mewn barddoniaeth Gymraeg. Bum ar brydiau yn ei gyfeillach ef pan oeddwn tuag at ddwy-ar-bymtheg neu ddeunaw oed, ac am hynny yn rhy ysgafn a phenhoeden i sylwi na dal gafael ar un peth o werth a theil- yngdod. Efe a briododd, ond ni chaf- odd ef nemmor o hyfrydwch oddiwrth y cyflwr hwnw. Ei ddyddiau diwedd- af a dreuliodd gyda Dafydd Martyn vn Ystrad Tyfodwg. Efe a orphen- odd ei yrfa yn y flwyddyn 1735, ac wrth chwilio ac edrych ar ei ysgrif- eniadau ef mi gefais y bennod gyntaf o Lyfr y Pregethwr, wedi ei chyfan- soddi ar fesur cywydd, yr hyn a'm cynhyrfodd i ofyn cynnorthwy Lewis Hopkin i orphen a chyflawni Bwriad, yr hwn oedd wedi ei attal gan iar- wolaeth. Felly, dyma i ti, nid yn unig ymadroddion o eiddo Solomon mewn prydyddiaeth, ond hefyd ti a gei gymmorth i ddeall meddwl yr yscrifenydd, ond i ti ystyried; canys efe aincanwyd y cyfansoddiad hwn inor gytun ag a allwyd ag Esponiad- au y Parchedig Ddifeinyddion Simon Patrick ac ereill. Derbyn hyn o Brydyddiaeth Gymraeg ar ei hoes ddiweddaf, a chyn ei claddu mewn cwbl o blith y Cymru.Edward Evan. 1767. Oddiwrth yr uchod fe welwn fod Llyfr y Pregethwr yn waith tri awdwr, sef Dafydd Tomos, y pennod gyntaf; Lewis Hopkin ac Edward Evan Ton- eoch y gweddill. Barnwyf yn onest taw Dafydd Thomas o Landyfodwg oedd awdwr tair sir ar ddeg Cymru. Y mae yn cofnodi am hoffder y Cymru at y delyn. Nid oes odid genedl wedi bod yn fwy awyddus am gadw hen arferion Y dyddiau gynt na Chymru. Clywais fy hen nain yn son llawer iawn am yr hen foneddwr telyngarol Sackville Gwyn, Pare Glanbran, fel yr oedd yn gwahodd chwareuwyr y delyn i'w bal- as. a llawer bachgen tylawd a gafodd delyn am ddim yng N glanbran. Cafodd yr hen foneddwr o Glanbran ei gladdu yn Eglwys Theo. Evans, awdwr "Drych y Prif Oesoedd." Tirabad.—Yr eidd- och yn bur, JOSIAH JENKINS. 26 King's Road, Caerdydd. O.Y.—Mae genyf lawer i ddweyd am y delyn yng Nghymru, ond mae'r ysgrif yn faith eisioes, felly tewaf ar hyn yn awr.—J.J.
" Enwadaeth, ei drwg, a'i…
Enwadaeth, ei drwg, a'i da." I Gan y Parch. T. J. Prichard (W.), Gorseinon. Mr Gol,,—Tra yn barod i gydym- ffurfio a'ch cais i draethu fy lien ar y testyn uchod, teimlaf anhawster a gyfyd oddiar y ffaith fod y geiriad yn y ffurf osodedig yn rhy ddeffiniol. Cymerir yn ganiataol fod Enwadaeth yn ddrwg ac yn dda. Anhawster arall yw y cyfyngu'r yr ysgrif i "ryw golofn" o'r "Darian." Bid a fynno, ymgeisiaf at ddatgan fy marn. Os oes drwg o gwbl mewn Enwad- aeth, credaf fod hynny yn gynhwys- edig yn y lie cyntaf yn y ffaith ei bod yn doriad ar gyfuned y corff Eglwys- ig Cristionogol; tyr ar ddelfryd syl- faenydd mawr yr Eglwys, megys ei datgenir yn Ei weddi archoffeiriadol: "Fel y byddont oil yn un, megys yr wyt ti y Tad ynof fi, a minnau ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni; fel y credo y byd mai tydi a'm han- fonaist i (loan xviii. 21; gwel hefyd ad. 11, 22, 23). laith Sylfaenydd yr Eglwys yw iaith gyson Ei Apostolion hefyd. Amlwg yw fod unrhyw ym- ddihatriad oddiwrth gorff yr Eglwys yn rhwym o lesteirio ei nerth i gyrr- aedd ei hamcan bwriadedig, ac yn gyfyngiad ar ei wasanaeth iddo ei hun ac i'r byd. Effaith naturiol pob ymraniad ar y corff cyfunol yw ei anghyfaddasu at y gwasanaeth uchaf. Par gwasgariad adnoddau wanychiad mewn nerth. Trwy unedd cydweith- ,iol y corff cyfunol y medrir ymosod yn bennaf ar y gelyn a'r rhwystr cyffredinol. Trwy yr unrhyw gyfun- edd hefyd y medrir dal yn ddigryn o dan bob cyfrifoldeb a ddichon feichio y corff. Datganodd yr Athraw Mawr farn profiad y byd ar hyn pan y dyw- edodd mai "Teyrnas wedi ymrannu nis gall" sefyll." Cydweithiad rheol- aidd holl aelodau y corff cyfunol yw maen prawf ei nerth, ei iechyd, a'i lwyddiant. Yn ngoleuni y sylwadau hyn y mae diwinyddion yr oesau wedi con- demnio Enwadaeth. Ac yn wir pwys- leisio hyn yw prif amcan ymweliad tri o wyr enwog o'r Amerig a. Phrydain, y rhai, er hyrwyddo yspryd unedd, a geisient alw ynghyd mewn amser cyhoeddus Gyngrair. Cyffredinol er ffurfio undeb eglwysig. Wrth dde- hongli datganiad yr Arglwydd Iesu yn fynych, gosodir pwys ar unedd organyddol,—yn wir, dyna lais unol Eglwysi Rhufain a Groeg a'r Eglwys Anglicanaidd. Ac wrth ei bwysleisio bwriant eu gilydd allan o'r corff cyfunol—o'r Eglwys Lan Gatholig, a bwria pob un o honynt megys yn un, holl gorff yr Eglwysi Efangylaidd Anghydffurfiol a Rhydd, allan o gorff y Wir Eglwys, a chollfernir hwynt fel hereticiaid am y meiddiant sefyll ar wahan. Yr hyn sydd yn syn yn hyn yw yr honna yr oil ar wahan eu bod yn ffyddlon i ddelfryd yr Arglwydd Iesu yn y weddi a ddyfynnwyd. Ni fynnwn ameu gonestrwydd a chywirdeb pobl sydd yn eu holl hanes mor dra chrefyddol a defosiyn- ol, ond meiddiaf ameu cywirdeb eu dehongliad o eiriau cysegredig Pen yr Eglwys. Ei fod ef yn golygu undeb organyddol sydd fwy nas gall neb ei brofi. Yn wir mae ei ddeffiniad Ef Ei Hun o'r undeb y gweddia am dano yn profi yn wahanol. "Fel y byddont oil yn un, megys "yr wyt ti y Tad ynof fi a minnau ynot ti," hynny yw, undeb yspryd, undeb meddwl, undeb bywyd—sef cariad, "Fel y byddo ynddynt hwy y cariad, a'r hwn y ceraist fi a minnau ynddynt hwy." Felly rhaid nad yw Enwadaeth -am ei bod ar wahan i'r un gorff or- aeth eglwysig o angenrheidrwydd yn ddrwg, canys nis gall, am mai "deddf yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu" yw rheswm a sail ei bodolaeth. Ac, ymhellach, ymha le y ceir fwy nag y cawd perffaith gyd-unedd organyddol yn yr eglwys? Ond yn nghanol ei holl ffurfiau cawn ei hanfod a'i hyspryd yr un. Serch hyn oil, drwg ag y mae En- wadaeth yn agored iddo yw gosod pwys ar opiniynau a'u dehongli yn egwyddorion. Y mae amser wedi dysgu y wers i'r holl fyd erbyn hyn— yn enwedig i fyd Cred y gallesid fod wedi arbed lluaws o ymraniadau Eglwysig yn y gorffennol pe y talesid y sylw dyladwy i'r gwahaniaeth a awgrymir. Daw a chilia opiniynau beunydd a byth, ond saif egwyddor- ion yn dragwyddol. Nid amheuaf nad ymgais i iawn-ddehongli egwyddor- ion yw opiniynau yn fynych, ond o ddiffyg naill a'i medr neu bwyll goddefir i syniadau amrwd a gam- enwi'r yn egwyddorion rwygo Eglwys Dduw, a'i gwanychu, pan bo mwyaf angen yn fynych am iddi fod yn gryf a chyfunol, er cario allan fwriad- au ei Harglwydd. Llesteirir amcan- ion teyrnas Dduw trwy dalu gwarog- aeth i olygiadau a datganiadau teyrn- fradwrus eu hiaith a'u hyspryd. Hyn fu hanes y gorffennol yn rhy fynych i lawer ysywaith. Ac amlwg yw i efrydwyr hanes yr Eglwys nad ydyw wedi llwyr golli yr arferiad o syrthio i'r un amryfusedd. Perygl—drwg arall a nodwn ag y mae Enwadaeth yn agored iddo, os nad yn wir yn dueddol iddo, yw meith- riniad yspryd esgymunol—"exclusive- ness," fel y geilw y Sais ef. Bwrw allan a chadw allan bawb ar nad yw o'r un golygiadau Eglwysig a gwlad- ol. Dyma yn bendifaddeu yw un o brif ddrygau Enwadaeth Gymreig heddyw. Ceuir allan o gylch adna- byddiaeth a chydnabyddiaeth bob un na sieryd ein Shibboleth ni! Ac o'r herwydd anwybyddir gwyr o fri ac adnoddau meddyliol ac ysprydol, a ddylent gael eu cydnabod yn rhai o "assets" pennaf y genedl. Gan nad beth eu gwerth myn Enwadaeth gul a dallbleidiol eu halltudio i fro dinod- edd. Dywedaf yn ddibetrus mai dyma un o'r prif bethau sydd yn pellhau Eglwysi Rhydd Cymru oddiwrth eu gilydd heddyw. Er gwaethaf cyngrair ac undeb, fel eu gelwir, myn yr yspryd drwg hwn ei le, serch i'r canlyniadau fod yn ddirywiad i am- canion uchaf teyrnas y Gwaredwr. Drwg arall Enwadaeth yw pwys- leisio y dibwys ar draul edrych yn ysgafn ar yr anhebgorol. Trwy hyn cerir dylanwad tra anffafriol ar fedd- wl y werin—yn enwedig y dosparth meddylgar. Y damweiniol ac nid yr hanfddol gaiff fwyaf o sylw yn aml. Drwg arall nodweddiadol yw gor- barodrwydd i orfeichio y werin a thai addoliad mewn lleoedd nad oes angen am danynt. Ceir lluaws o bentrefi lie y profai un addoldy a chynhulliad mawreddog yn fil mwy bendithiol i'r lie na thri neu bedwar o gapeli banner llawn. Trwy ffyniad y cyfryw yspryd gorfeichir y werin-bobl yn fynych a. dyledion dialw am danynt ac a chyfrifoldeb, nas telir mohono byth i'r weinidogaeth. Arbedid traul a llafur pe fel arall. Drwg arall nodweddol o Enwad- aeth yw diffyg parch ym moddion gras. Gwelir y diffyg hwn yn rhy ami ysywaith. Gwarth i ddeiliaid ein heglwysi Enwadol yw fel yr ymddygir yn Nhy Dduw. Sarhad ar y ty a'i Berchenog yw gweled y lluaws yn eistedd ar y weddi, ac yn gollwng eu llygaid i wybio oddeutu ac i bob cyfeiriad, tra gwr Duw yn siarad a'r Dwyfol Dad. Sarhad a'r Enwadaeth yw y caniatad y fath beth. Gwir y dadleuir taw symledd diaddurn yw nodwedd yr Eglwysi Enwadol, ac mai y prif beth yw bod yn yr yspryd Gwir mai y prif beth yw hynny, ond y mwyaf ysprydol yn wastad yw y gostyngeiddiaf yn ei holl foes a'i ymddygiad. Hen bryd yw i En- wadaeth ddiwygio yn hyn o beth. Gwylder a pharchedig ofn y dylai nod- weddu yr addoliad-ymha le bynnag y'i cynhelir. Gallaswn nodi drygau" ereill, ond palla y gofod. BETH AM EI DA? Yn nannedd yr hyn a ysgrifennwyd eisoes, hawliaf i Enwadaeth ei lie, ac i bob enwad ei le, ar y tir y cynrych- iola pob enwad rhyw egwyddor syl- faenol a bwysleisir gan y cyfryw. Saif yr Enwadau hyd heddyw a chyn- hyddant mewn rhifedi a dylanwad— safant yn dystion byw o werth ffydd- londeb i gydwybod, ac yn wrth-dyst- ion diwyro yn erbyn traddodiadau di- bwys, cynhyrchion hwythau, cyd- wybodau digon cywir ond anoleuedig yr Eglwys yn ei chyfnodau diryw- edig neu anadblygiedig. Ffyddlon- deb i Air Duw fel Rheol y Ffydd yw hanfod Protestaniaeth. Ffyddlondeb i Air Duw yn y dehongliad cyson a chywir o hono yw ffynnon bywyd Henaduraeth, Cynhulleidfaolaeth a Methodistiaeth Gymraeg a Seisnig. Teyrngarwch i ddysgeidiaeth y Llyfr vNN- honiad pob enwad dros ei fodol- aeth. Ond dysgeidiaeth y Llyfr yn ol dehongliad priod sydd gyson a dysgeidiaeth gyffredinol y Gair. Ac er amled yr enwadau, nid yn yr hyn sydd hanfodol y gwahaniaethant bennaf, ond yn y pethau dibwys mewn I cymhariaeth. Dadgysyllter a dadel- fenner y gwahaniaethau hyn, a cheir fod y craidd yr un yn yr oil. Daioni diamheuol Enwadaeth yw y gesyd bris ar arbenigion ciieidiol. N is gall y gwirionedd ymddangos yn gwbl un- weddol i wahanol bersonau. Daw personliaeth y dyn ei hun yn elfen bwysig yn ci ddyfarniad o werth gwir- ionedd a gynygir iddo. Ceir dos- parthiadau weithiau ar un type meddyliol ac eneidiol. Nid yw pob meddwl o'r un adeiladaeth. Mantais felly yw fod y types hyn yn gyd- gorfforedig-ond yn cael eu hysgogi i weithgarweh gan yr un yspryd. Pair hynny fod pob enwad, fel gwahanol aelodau yr un corff, yn meddu ar ei waith penodol ei hun, trwy yr hyn y try y gweithgarweh arbennig hwn yn fantais i'r holl aelodau, y rhai a ffurfiant yr un corff cyfunol, yr hwn a ysgogir ym mhob rhan am yr un ys- pryd bywhaol. Tystiolaeth Apostol ysprydoledig yw mai un Eglwys— corff y sydd, un ffydd, un bedydd, nid un aelod-eithr amrywiol aelodau yn yr un corff-yr hwn yw yr Eglwys ac a'r hon y mae Crist yn Ben, a chyd y bo Yspryd Crist yn ysgogydd pob aelod, erys gweithrediad hwnnw er daioni i'r holl gorff cyffredinol. Y prif beth gan hynny yw undeb yr yspryd yn nghwlwm cariad a thang- nefedd. Credaf yn ddibetrus mae trefniad Dwyfol yw Enwadaeth yn ei hystyr uchaf. Pan y gwyra oddiwrth yr ystyr honno try yn un o rwystrau peryglaf teyrnas y Crist. Ofnaf fy mod wedi hir ddihysbyddu y gofod. Maddeuwch
"SAfiZNE" BLOOD MIXTURE.
"SAfiZNE" BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED P17R. Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Xid yw yn honi gwelia pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynweh botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, 1/H a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HCO-H DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH.
Advertising
GWAED 1 GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYF. IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynoti effefthiol at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn d)lanwadu ar hall Organau y Corn, drwy hyny yn laohau Dolur Pen, Diffyg Traul, Billousnes" ?- Afu Odrw,, '??.. ? Ta,ddlantau \?  UIIII FTt a?- y Cnawd, i/6/\ 1/1/ 1co?nw?don,B?"Vi?\?< /I1I Scurvy, PHM ?? A ?t ?;/  Fits, Nerv- %?/t?\/n 0usness, ?????????JH?,t Cwynt, Cwynegon (neu Cymal- wst), Poen Cefn,  bfgo? C?  Neuralgia, Anhwylder- L au yr Aren- au, seider S u r n I a BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oodran mae Hughes's Blood Pills" yn nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn gofaler rha, gael eich twyllo. Mynweh weled y Trade Mark, se f llun Galon fel hyn— I IVW leI byn- ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Storet am 1/11, 2/9, 4/6. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stamps neu P.O. at j Perchenog- JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Penarth, Cardiff. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathraw-T. F. ROBERTS. M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifyegol Cymrn. Cynhygir amryw o ysgoloriaethan (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyD hon. Am fanylion pellaoh, ymofyner a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. Do you want M 0 N E Y c\ MONEY C for extending yonr bnsineaa, entering into a new business, or for any good purpose what soever? Apply THE SOUTH WALES EQUITABLE MONEY SOCIETY Registered under Friendly Sooieties Act) ALBERT CHAMBERS, HIGH STREET, CARDIFF Branches | SWANSEA-10 High Street Aroade. NEWPORT-J. R. Rowlands, 11, Skinner 8t. PENTRE-E. T. Da vies, Victoria Chambers. FERNDALE—W. J. Jones, Tudor Chambers. TRE DEGAit-Temperance Hall. PONTYPOOL-J. R. Rowlands, 20 Crone St MERrHYR-A. T. Smith, 4, Castle St AGENTS WANTED where unrepresented. £ 6 10s for Is 2d per week, £13 for 2s 3d per week, and so on up to 932 10s for 5s 2d per week Assets nearly £ 50,000. Ask for Balanot Sheet and prospectus. LAb:FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &c.. they speedily afford relief and never fiaij to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &o tianohard's are the Best of all Pills for Woman." Sold in boxes, 1/1 J, by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from ESLIE MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free ld. stamp EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how alj leregularities and Obstructions may be en/irei* avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862 MR. PAUL BLANCHARD, MR. House. Dalston Lane, London AIL ARGRAPHIAD OR DDEUAWD BOBLOGAIDD A SWYNOL. Su Hwl Lwli (Hush my Baby). I Y Geiriau Cymraeg gan GLAN PADARN. Y Geiriau Saesneg gan ¡ S. WILLIAMS, C,M,, Llanboidy. Yn y Ddau flodiant. Pris 6 Cheiniog. I'w chael oddiwrth yr Awdwr- TIMOTHY EICSARDS, Ardwyn, Lampeter. PRELIMINARY PROGRAMME of the FFORESTFACH WHIT-TUESDAY EISTEDDFOD Will be sent on receipt of Stamped Addressed Envelope. General Secretary, David Jenkins, Gendros, Fforestfach. CWMAMAN JUVENILE EISTEDDFOD. The Seventh Annual Juvenile EISTEDDFOD Will be held at the PUBLIC HALL, CWMAMAN, SATURDAY, MARCH 14th, 1914. Chief Items: Juvenile Choir, "Chain of Welsh Airs," JBS and a Marble Clock, value Y,3, kindly given by Roath Furnishing Co., Pontypridd.-Action bong. Own Choice 1st prize, 22; 2nd, £ :I.-Champ- ion Solo for Girls, "Hark, ye herald angels sing" (Gabriel), 10/b,-Champ- ion Solo for Boys, "Y Ddwy Delyn (Pughe Evans), 10/«.-Duett (soprano and alto), Hen Gymru Dlos" (T. J. Morgan).—Drill Competition: 1st, zgl; 2nd, 10/ Prizes offered for holos, Recitations, Drawing, Essay and Letter Writting. Further particulars in Programmes, post free lkd. To be had from the Hon. Secretary-W. O. Lloyd. Isfryn, Cwm- aman, Aberdare. Dywedwch wrth bawb: Y m". DAV/ES'S COUGH MIXTURE yn rhyddam Peswoh." WWYD, PESWCH, INFLUENZA. -Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio- ddef oddi wrth Beswch. Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen F eddyginiaeth Davies's Cough. Mixture" etto ar y jolaen, ac yn cael ei gwerthiawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/U a 2/9 (postage, 3c.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE Aberaman & fountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the most prominent station* in Aberaman, Cwmaman, CVrrnbacb, Abercwmboi. Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communitfatioofl and parcels should ba addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. ()4i PAGE Book ab3Ut Herbsa°^"for^ oSl6 ) them. Post ree. HeDd for one. Trimnell, The Herbalist, liehln ond-road, Car(iiff. Esiablisted IS7?, PLEASE NOTE THE ADDRESS. T10 rVDa° that you get Estab- v hdlH79on every labeland wrapper of my preparations, withc,ut which none are genuine —TrtmneU. The Hel'bahst, Sf Rich- mond-road, Carditf. __?__  T RIMNELLIS PILLS AND POWDERS J_ b'MMM?d t.housands. Why not you '? See that you get,, Estab'ieùe.d 1179  every SfSS T?S' Richmond Road, CMditf. Agents wMtM. BOON TO THE LAME. J. J. STUBBS, Maker of ARTIFICIAL LIMBS, with RUBBER; FEET.: Are the tnofcfc Natural, most Efficient, most Comfortable. Absolutely noiseless. Fitted with Ball Bearing Joints. All bolts, springs, catguts abolished. Over 2000 Jimbs in use. Hundreds of Testimonials. Every limb guaranteed. Trusses, Belts, and all kinds of Surgical Goods kept in stock. RUBBER SPECIALITIES. Write for Catalogue. ——— 51 CITY ROAD, CARDIFF. ————