Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Y Diweddar Barch. W. P. Williams,…

News
Cite
Share

Y Diweddar Barch. W. P. Williams, D.D., Landwr. Bydd yn chwith gan lawer glywed fod Dr. Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn Landore, a Golygydd "Seren Cymru," wedi marw. Bu ei symudiad yn sydyn oblegid hyd yn ddiweddar, er yn ymyl 74 oed, yr oedd yn iach a chryf. Cafodd annwyd wrth fyned i Abertawe yn ddiweddar, a droes yn fflameg, a bu farw pryn- hawn Sul am bump o'r gloch. Bu gwasanaeth y gwr rhagorol hwn yn amlochrog. Heblaw bod yn bregethwr galluog ac yn un o addurn- iadau disgleiriaf y pwlpud, yr oedd yn lienor gwych, yn wleidyddwr pybyr, ac ymysg arweinwyr mwyaf dylanwadol ei enwad. Bu vn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn y flwyddyn 1902. Cyn hynnv gwasan- aethasai ei Gymanfa fel Cadeirydd yn 1898. Traddododd araith vr haf di- weddaf i fyfyrwyr Bangor, ac yr oedd wrth y gwaith o'i chvhoeddi vn llyfr I I -edd* Nn llyfr pan fu farw. Pregethasai i'r m?'fNr- wyr yn flaenorol ac ar un adeg ar- holai hwynt mewn Groeg a Lladin. Gwnaeth lawer dros addysg yn ei ddydd. Tra'n gwTeinidogaethu ym Mrynmawr, bu am naw mlynedd yn Glerc Bwrdd Ysgol Brvcheiniog. I Wedi symud i Gwmtawe etholwyd ef ar Fwrdd Abertawe, a phrofodd yn aelod gwerthgar a galluog hyd v diwedd. Ganwyd Dr. Williams yn Llan- gefni, Sir Fon, yn y flwyddyn 1840. Aelodau gydag enwad y Methodistiaid oedd ei rieni, a chyda'r enwad hwnnw y magwyd yntau. Aeth yn aelod pan yn naw oed at yr un enwad ond Vil ddrweddarach anesmwythwyd ef ar v pwnc o fedydd ac ymunodd a'r Bed- yddwyr pan y'i bedyddiwyd gan y Parch. D. Thomas. Bu hynii, yn hen I gapel enwog Cildwrn, lie y gweini- dogaethai Christmas Evans am ran helaeth o'i oes. Yn ei adgofion a ys- grifennodd i'r "Geninen," dengys goleddu o hono barch diffuant i enwad ei dadau, a bod yr argraff a adawodd ei gewri arno yn annileadwy. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1860, a phan agorwyd Athrofa Llan- gollen yn 1862 yr oedd ymvsg y myfyrwyr cyntaf a dderbyniwyd iddi. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth ym Medwas yn y flwyddyn 1865; yno hefyd y cyfarfu a Mrs Williams, sydd heddyw yn aros i alaru ar ei ol. Symudodd yn 1867 i'r Brynmawr, He y bu'n gweinidogaethu mewn parch a dylanwad hyd y flwyddyn 1876. Yn y flwyddyn honno symud- odd i'r Ddinas Noddfa, Landwr, a wasanaethodd* yn ffyddlon hyd yr awr hon, sef am gyfnod 38 mlynedd. Pan ffurfiwyd Cwmni Seren Cymru," gwnawd ef yn ysgrifenydd. Wedi marw Myff'Emfyn dtsg-ynnodd mantell y gwr athrylithgar hwnnw yn y gadair olygyddol arno. Yn ystod y ddeunaw mlynedd y bu yn olygydd y "Seren," sef cyfnod hwy na neb o'i flaen, gwnaeth ei waith' yn urddasol ac er anrhydedd iddo ei hun a'i en- wad. TEGERIN. YR ANGLADD. I Dydd Iau, yng Nghapel y Ddinas, Glandwr, cynhaliwyd gwasanaeth angladdol i Dr. Williams. Yr oedd y capel eang yn orlawn, a'r gwasanaeth trwyddo o'r fath fwyaf eneiniedig. Ni flinodd neb o'r siaradwyr. y gyn- ulleidfa a meithder a hynny, o bosibl, am fod digon il w ddxl,eyd. Dar- llennodd y Parch. T. V. Evans, Clydach, a gweddiodd Mr Hughes, o Rydychen, mab Mr Jeremiah Hughes. Cymerwyd y llywyddiaeth gan Dr. Gomer Lewis. Yr oedd ef yn hapus ymhob peth a ddywedai, a datganai deimlad dwys ar ol hen gyfaill, a disgwyliai fyn'd ato'n fuan. ??Uennwyd 11ythyr o gydmdejmlad!   a'r eglwys od(?iwrth Ar-! sarlwvH«H |n «!nMr,ws! ,rth Syr David Brvnmor Jones a'i briod. Daeth neges  ddiweddarach i  Llanwai enwau y rhai anfonasentI lythyrrau golofn oV "Darian." Didd- iorol i ni oedd y llythyr anfonasid oddiwrth yr Hybarch D. W. Morris (Marmora); dywedai ef ei fod gryn dipyn yn hynach na Dr Williams a'i fod adref yn "disgwyl yr alwad." Dr Owen Davies, Caernarfon, a anfonai ei fod yn teimlo yn unig. Yr oedd efe a Dr Williams ymhlith y chwe myfyr- iwr cyntaf a dderbyniwyd i athrofa Llangollen, ond yn awr efe ei hunan a adawyd. Galwodd Dr Gomer Lewis ar nifer o frodyr i siarad. Y Parch. W. Rees" Blaenafon, a dystiai nas gellid dweyd dim yn rhy dda am Dr Williams. Yr oedd dros hanner can mlynedd er pan ddaethai i gyfarfyddiad ag ef gyntaf. Bu yn gydfyfyriwr ag ef am adwy flynedd, ac ni wnaethai neb fwy i'w galonogi. Hyderai gyfarfod ag ef mewn gwlad He nad oes na n^r^ na ?alar na chystudd. Gwnaeth hefvr^ Clriadau tyner a charedig at y teulu I 'reimlai'r I-Tvbarch Ddr. Harris, T Ireherbert yn anodd siarad ar ol hen gyfaul ffyddlon ac anwyl am ddp! f'*1 mlynedcJ ddidor. Ni ddaeha y '?- hwn don Iawr dro; ei ben ? oedd Dr Wil- liams RwllSv fdrf ^aC ? ei ?Y"?th- wyo. CollwvH ynddo ?ddynmawr o ran ei allu ei ddy" mawr 0 rvv>'dd, e; e. ddiwyd- moesol. Cadwasarr36 ?' ??b ?S?" y" ?- Nid oedd yn?tau am alaru, oblegid disgwyliai fynd ato'n fuan. Gadawsai ar ei ol enw da oedd yn idrysor i'r teulu ac i bawb. Teimlai'r Parch, lorwerth Jones, Maesteg, Cadeirydd y Gymanfa, ein bod wedi colli dyn gwerthfawr. Nis gwyddai am neb oedd mor ddiogel ei farn. Hyn oedd ei gryfder. Nid oedd ynddo wamalwch. Ni symudid ef gan gynhyrfiadau gwylltion. Yr oedd yn un o'r beirniaid goreu yng Nghymru. Er yn feirniad gellid ei edmygu fel Cristion, a gwrandawai ar ei frodyr bob amser a gwen galonogol ar ei wyneb. Yng ngwyneb y fath fywyd o wasanaeth credai mai gorfoleddu a ddylem ac nid galaru. Y Parch. J. Davies (A.), Cadle, a ddywedai iddo gyd-eistedd ag ef am flynyddoedd ar y bwrdd ysgol. Caw- sai yntau ef yn ddyn o farn gywir a gonest. Credai mai barnwr a ddylasai fod. Nis gwyddai neb mor fawr y daioni a wnaethai o'r tu allan i'w enwad. Bu'n onest ymhob peth. Gallem fel gwlad ymfalchio ynddo. Y Parch. B. Davies (A.), Hermon, a ddywedai mai'r tro olaf y clywsai Dr Williams yn cymeryd rhan mewn gwasanaeth oedd ar yr aelwyd yn ei gartref, sef aelwyd y siaradwr. Efe gysurai eraill yno, ac nid anghofiai byth mo'i ddarlleniad o'r 23 Salm. Cyn pen mis yr oedd ef ei hun yn croesi'r glyn. Dyn byw iawn oedd y Dr-byw mewn cynhadledd, myfyr- gell, a phwlpud, a byw oedd eto. Collasid gwasanaethwr mawr i'w en- wad a'i wlad. Yr oedd ei bregeth olaf yn odidog ar y testyn, "Wele mor< ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr vnghyd." Danghosai hon ei fod yn fyw i anghenion ei oes. Y Parch. Davies (M.C.), Glan- dwr, a deimlai ei fod wedi colli ffrynd. Pregethu a phregethwyr fyddai testyn eu hymddiddanion bob amser. Ni chlywais ef erioed yn siarad yn amharchus am neb. Ei awyddfryd mawr oedd "marw yn yr harness," a chyda'i waith y cafodd angeu ef, a Gwyn ei fyd y gwas hwnnw," etc. T. Edmunds, Ysw., Mountain Ash, Llywydd Undeb y Bedyddwyr, a gaw- sai lawer o gymdeithas Dr Williams, a theimlai fod chwarter awr yn ei gwmni'n fendith. Yr oedd heddyw I wrth draed yr un y pregethodd mor dda am dano. Y Parch. D. B. Richards, Bryn- hyfryd, a ddywedai i Dr Williams, pan oedd ei dafod yn floesg a'i eiriau'n annealladwy yn niwl y glyn, ofyn am bapur a phensil. Ysgrifennodd ar I hwnnw bethau nas gallai neb eu de- hongli yr ochor hon, ond yr oedd fel pe wedi casglu ei holl nerth i un gair, yr unig air dealladwy o'r oil, a'r gair hwnnw oedd "Crist." Gwnaeth yr oil o'r siaradwyr gyfeiriadau tyner a charedig at y I weddw a'r plant yn eu galar. Ar ol y gwasanaeth ffurfiwyd yn orymdaith, ac awd a'r corff i'w roi i orffwys ym mynwent Cwmgelly gerllaw. Ar lan y bedd siaradwyd vmheljach gan y Parchn. J. Griffiths, Calfaria, Aber- dar; Fuller Mills, Caerfyrddin, a Dr J. T. Griffith, o'r Pil. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. O. J. Owen, Caersalem Newydd. Rhy luosog i'w henwi yw'r gweinidogion oedd yn bresennol. Derbynied Mrs Williams a'r plant gydymdeimlad dyfnaf Golygydd y Darian vn eu profedigaeth. Buas- wn wedi galw i weled Dr Williams yn ei waeledd, ond yr ydwyf finnau hefyd mewn dyfroedd pur ddwfn ers wyth- nosau. Chwith gennyf ar ol cymydog na chefais ond tynerwch a pharch oddiar ei law.—J.T.J.

Pontardulais. ,1

ARGRAFF WAITH. I

-Nodion -o Abertawe-I

Cwellhad Hynod i'r , Arennau.

Llongyfarchiad I

Cymrodorion Aberdar. I

Advertising