Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

- - - -"-Gweithwyr Amaethyddol.…

News
Cite
Share

Gweithwyr Amaethyddol. I Da ocdd genyf weled nad oedd pawb yn gweled "lygad yn llygad ar yr hyn a ysgrifenais dan y penawd uchod mewn erthygl flaenorol. Pan fo pawb yn cydweled a dyn, mae yna berygl i'r dyn hwnw gredu nad oes ganddo feddwl o eiddo ei hun, ac o ganlyniad cyll ei bersonoliaeth. Dywed hen ddiareb Gymreig, Rhydd i bob un ei farn." Traethodd Brynfab ei farn yn onest ar fy lllith flaenorol, ond yr wyf yn berffaith sicr mai gwir yr hyn a ysgrifennais. Pe amgen, gallwn ddwyn yn mlaen enwau personau ac amaethda i lie mae yr arferion mewn grym heddyw, ond ni fyddai hyny yn fantais i'r naill nag i'r llall o honom. Da genyf ei fod yn foddlon cydnabod y dylai amaethwyr dalu gwell cyflogau i'w gweithwyr. Profa hyn yn eglur i .mi ei fod yn credu fod y pris roddir am eu llafur yn rhy isel. Dyma oedd amcan penaf fy ysgrif, sef, ceisio profi fod llafur-cynyrchydd gwirioneddol pob cyfoeth, yn cael ei amddifadu o'i iaw nderau. Amddiffyna ef ei ddos- barth ei hun. Dyna y rheol bob am- ser, er fod iddi eithriadau. Dywed Bardd yr Hendre fod yn rhaid i mi fyned tuallan i siroedd y Dcheudir cyn y caf gysgod o sail yr hyn a ysgrifenais. Os boddlona i ddod gyda mi i siroedd Penfro, Ceredigion, Caerfyrddin, ac i ranau o Forganwg, ac i sir Frycheiniog, dangosal iddo yr arferiadau yn eu grym, a cha brofi fy mod yn dywedyd calon y gwir. Nid rhywbeth yn harw,; amaethwyr Cym- ru oddeutu deugain na haner can' mlynedd yn ol wyf wedi geisio bor- treadu, ond gosod ger bron y dar- llenwyr ffeithiau byw. Nid wyf ond braidd wedi gweled haner y tymor hyny o amser ar y ddaear eto. Na, nid rhyw eco o'r oesoedd gynt yw y "cael twymo" a chysgu mewn gwely gwellt uwchben y gwartheg," ond gwiredd (reality) yw hanes Cym- ru Sydd. Ymhellach gofyna "Gwr yr Ysgubor pa fodd ynte y gel'ir es- bonio y ffaith fod gweithwyr amaeth- yddol yn gryfach ac yn iachach fel rheol nag unrhyw ddosbarth arall o weithwvr. Hawdd iawn. Mae holl awdurdodau meddygol y deyrnas yn unfryd unfarn fod digonedd o awyr iach yn fwy angenrheidiol i iechyd na digonedd o fwyd, a'r ffaith eu bod yn yfed yn helaeth o awelon iach bryniau Gwalia (nis gall yr amaethwr mwyaf cyndyn gadw y rhai hyny yn ol) sydd yn cyfrif am fod gw eithwyr amaeth- yddol yn iachach na'r glowyr, neu weithwyr alcan, os ydynt. Ceredig- ion ydyw y sir fwyaf amaethyddol yn Nghymru. Ni cherir yn ymlaen un- rhyw alwedigaeth arall i fesurau hel- aeth, gydag eithrio ychydig bysgota ar lannau y mor. Yn ngwyneb hyn mai y ddarfodedigaeth yn lladd mwy yno bob blwyddyn nag yn un o sir- oedd eraill Cymru, a'r rhai sydd yn trin y tir syrthiant yn ysglyfaeth fel rheol. Nid dynion wedi gadael masnach yw amaethwyr y siroedd sydd genyf dan sylw, fel rheol, ond dynion wedi eu geni a'u magu ar y tir ac yn dilyn galwedigaeth eu tad a'u tadcu. Hwy sydd yn rheoli yn gymdeithasol, yn wleidyddol, yn gerddorol, ac yn llenyddol yn y parthau hyny. Os digwydda Brynfab fyned i un o'r sir- oedd hyny, bydd yn gwneyd cym- wynas a dosbarth- sydd yn dioddef trais o gormes os cwyd ei lais o'u plaid. Addefaf fod agwedd pethau yn well yn Sir Forganwg, ond dywedaf, ac yr wyf yn sicr o hyny, fy mod yn adnabod llawer o weision fferm, hyd yn nod yn y sir uwch- raddol yma, na wyddant beth yw lliw Uaeth yn eu te, ac fei gorfodir i arfer margarine yn lie menyn ar eu bara. Nid breuddwvd mo hono ond ffaith. Eithaf posibl hefyd pan a. Gwr yr Hendre o fferm i fferm fod y pethau goreu yn cael eu dwyn i'r bwrdd, oblegyd gwyr y dynion hyny ei fod wedi enill lie uchel yn serch a meddwl y wlad-, ac y byddai yn sicr o roddi llais i'w syniadau er eu cywilydd. Gwn am lawer o weithwyr amaethydd- ol garant yn eu calon weled gwr o fri y dyfod am dro i'r fferm oblegyd golyga hyny "foethau" iddynt. Mae sefyllfa bresenol canoedd o weithwyr amaethyddol yn gywilydd- us. Pan gwyd cweryl rhyngddynt a'u meistr yngylch eu gwaith, gor- fodir y rhai sydd yn byw ar fwyd eu hunain i adael eu cartrefi yn ami, oherwydd eu bod yn denantiaid i'w cyflogwyr. Gadewir iddynt chwilio am gysgod yn y modd goreu y gall- ant a dioddefir caledi mawr yn ami, oherwydd prinder tai yn y •>. parthau gwladol. Nid yw tai yma hefyd yn ami yn lie priodol i gartrefu anifeil- iaid heb son am fodau dynol, ac yr wyf yn berffaith sicr na charai y dos- barth a elwir yn "fonheddig i'w cwn gysgu yn y fath aneddau am nos- waith. Maent yn gywilydd i wareidd- iad ac i wlad a eilw ei hun yn Grist- ionogol. Tra y caniatteir i'r amodau yma ar arferiadau nodwyd yn yr ysgrif flaenorol i fodoli, ni arhosa ein gwyr ieuainc yn y wlad i drin y tir. Ni chymerant eu gorthrymu yn y modd dieflig yma. Ac yn ol fy marn i, yr amodau yma yn y cylch amaeth- yddol sydd yn gyfrifol am lawer o'r cynhwrf gweithiol yn ein trefydd, oblegyd hyd y cant well amodau heidiant i'r trefydd i sathru ar draed eu gilydd ac i wanhau sefyllfa bresenol y gweithwyr yn y lleoedd hyny. Cynghora y gwr o Bontypridd fi i godi fy llais dros Fil Tir y Canghellor. Nis gallaf weled unrhyw awgrym yn un o'i areithiau hyd yn hyn wna gyd- redeg a'm syniadau, ac amcan y mesur hyd y gwelaf fi yw cryfhau gallu y dosbarth llywodraethol presenol ar draul gwasgu y "ci gwaelod" yn is. Tra y ca tirfeddian- iaeth fodoli bodola yr un amodau brwnt a g-wael. Diolch i BrYllfab am ei erthygl, ac yn sicr ni fyddwn yn j wa"th cyfeillion oherwydd ein bod yn j methu cytuno. Plescr mawr fvddai j gc-nyf ei gyfarfod fel y gallem dreulio j awr gyfrinachol yn hamddenol i drir: j y mater. j K. ARONFA GRIFFITHS, j F.F.C.C. Grove House, Abercrave. I

I Nodion o'r Gogledd. I

Rhydri. I

Glais.I

Caerdydd.I

-I Gohebiaeth.I

IBriton Ferry. I

Colofn y Beirdd. !

[No title]

Bwrdd y Golygydd.

Advertising