Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
DYDD LLUN.
DYDD LLUN. BRWYDRO CALEn. Cymerodd brwydro caicd Ic at y ffrynt gorllewinol yn ystod diwedd yr wythnos. Ymosododd y Germaniaid ar amry w leoedd ar hyd y ffrynt o Bel- gium i Lorraine. Yn gynnar bore Sad wrn torodd y Germaniaid i ffosydd y Pryddtawyr ger Pilken, yng ngog- ledd Ypres, ond gyrvvvd hwy allan yn fuan. Dydd Sadwrn, tanbelenwyd cin ffosydd yn Hooge. Hawlia Ber- lin en bod wedi cymeryd dros 40 o'r Prydeinwyr Yll garc'harorion yn ne- ddwyrain Boesinghe. —: x — YMDRECH FFYRNIG. En'r ymdrecli yn Champagne yn hyncd ffyrnig. Darfu i'r Ffrancod, yn ystod eu hymosodiad dydd GWCll- er yng ngogledd-ddwyrain Butte du Mesnil, gymeryd tua 300 llath o ffos- ydd y gelyn. Cyfaddefa y German- iaid cu bocf wedi colli 200 llath, ond eu bed wedi gwneud amfyxv o ad-ym- osodiadau llwyddiannus, a'u bod drwyddynt wedi adennill ychydig ohonynt. Dywed yr adroddiad Ffrengig eu bod wedi atal yr lioll ym- osodiadau. Ataliwyd holl ymdrech- ion y Germaniaid hefyd i grocsi Cam- Iris Yser. -:0:- HAWLIAD GERMANAIDD. Vn Champagne, hawlia yr adrodd- iad Germanatdd eu bod wedi rhuthro ar saffeoedd y Ffrancod yn neheu- barth Sainte Marie-aPy ar ffrynt o 700 metre, a'u bod wedi cymeryd yn gar- charorion 4 swyddog a 202 o ddynion. Hawliant hefyd eu bod yn yr ardal- oedd yn ngogledd-orllewin Vimy i fyny 1'r gfed cyilsol wedi cymeryd 9 swyddog a 682 o ddynion, ynghyda 35 o ynnau peiriannol. — :X: — MUDIAD SALONIKA. Gwnaed niudiad pwvsig gan y mil- wyr Ffrengig yn Salonika. Mae dwy adran ohonynt wedi croesi y Vardar, ac. wedi sefvdlu eu hynain ar ochr dde yr afon ar ff rynt o tua chwe milltir. Rhfydd y mudiad yn nwylo y Cyng- reirwyr safleoedd naturiol ciyfion, yn y rhai y gallai y gelyn osod eu gynnau mawr. Dywedir fod yr ymdaith ymlaen wedi ei g\vneud yn bosibl gan fod adgyfnerthiadau cryfion wedi cyr- raedd yn y He. Dywed adroddiad o Salonika fod y Germaniaid yn parotoi am ymosodiad awyrol arall ar y lie. Ar wahan i dair Zeppelin sydd heb fod ymhell o'r cyffiniau, mae 20 o awyrlongau yn Monastir. —: x r— Y FFRYNT RWSIAIDp. Hysbysa Rwsia am frwydro ffyrnig yn Galicia yng nghymydogaeth Tse- broff. Cymerodd yr Awstriaid yma ucheldir oddiar y Rwsiaid, ond cost- iodd yn ddrud iddynt. Adfeddian- wyd ef yn ddiweddarach gan y Rws- iaid, ond ymosododd y gelyn dair jwaith ar y lie yn ystod y nos, ond taliwyd hwy bob tro, a dioddefasant golledion trymion. AT ol ymdrech galed, meddianodd y Rwsiaid bentref Carbunovka, ger Dvinsk. -:0:- LLWYDDIANT ANARFEROL. Defnyddiodd y Germaniaid nwy gwenwynig yn ystod en hymosodiad- au i- adfeddianu y pentref hwn, ond afhvyddianirus fuont. Yn y Mor Du, ddydd Gwener, suddodd distryw- yddion Rwsiaidd wyth o longau hwyl- lau Twrcaidd. Ar ffrynt y Caucus- us, symudodd y Rwsiaid ymlaen er gwaethaf yr eira, yr hwn sy'n dew yn y lie. Cymerwyd dros 700 o'r gelyn yn garcliarorion ganddynt, ynghyda 7 o ynnau peiriannol. -:x:- GYDAR ITALIAID. Bu y magnelwyr Italaidd yn hynod I wy d dia nn 11s ger y Madonna di Monte Albano, yng N gogleHd Mori, ac hefyd yn Potrich yn Nyffryn Torragnole. Cymerwyd amryw o garcharorion gan- ddynt. Tanbelenwyd cerbydres gan- ddynt hefyd yn Rio Volaga. Nid oes dim pwysig i' hysbysu oddiar y ffrynt Isonzo. I YMOSODIADAU AWYROL. I Dywed adroddiad o Rhufain fod awyrwyr i'r gelyn dydd Sadwm wedi ehedeg uwchbcn Codigoro, Botorighe, a Ravenca. Gollyrigivyd amryw o ffrwydbelenau ganddynt. Lladdwyd 15 o bersonau ganddynt, a chhvyf- wyd amryw. Ychydig o ddifrod uii ;k-(1 ar ciddo ganddynt yn Corcli- goro a Botorighe, ond nivveidiwyd ys- byty ganddynt yn Ravenca. —: X — LLADD GERMANIAID. Dywed adroddiad o Salonika fod y Bwlgariaid wedn ymosod ar grebydres yn clud oswyddoigon a milwyr Ger- manaidd rhwng gorsafoedd Sitchevo a Stofipeeta. Taniwyd ganddynt ar y cerbydau yn cludo y swyddogion. Lladduyd a chhvyfwvd amryw ohon- ynt. I X: YN ALBANIA Hawlia a-Iioddiad Aws^ijidd fod en mihvyr y-y'r, gweitliredu yn Al- bania wedi meddiannu ucheldcrau Tirana rhwng Grezabazar a Sjak, dydd Mercher, a'u bod wedi cymeiyd amryw yn garharorion. Ni wneir unrlfyw gyfeiriad at hyn yn yr ad- Toddiad awyddogol Italaidd. I
I.,a. DYDD MAWRTH. -I
.,a. DYDD MAWRTH. MEDDIANNU AMI)DIFFYNFA. Dywcd adroddiad swyddogol o Petrograd fod y Rwsiaid wedi medd- iannu amddiffnfa Erzerum. Syrth- iodd amryw o garcharorion i'w dwy- law, j da 6 o ynnau mawr, ac amryw o arfau gwerthfawr arall. Ger Dvinsk aflwyddiannus fu holl ym- drechioti y gelyn, er iddynt ddef- nyddio nwy gwenwynig. —; o — YN FFRAINC. Parhau i frwydro yn ffyrnig maent ar y ffrynt gorllewinol. Bu y gelyn yn hyncd fywiog gyda mwnfeydd yn erbvn safle y Prydeinlvyr yn ne Cam- las La Bassee. Ffrwydrwyd saith ganddynt meira 24 awr. Ger Fosse 8 llwyddodd ychydig o'r Germaniaid i fyned i mewn i'n llinell gyntaf o ffosydd, ond ail-ymosodwyd arnynt> a gyrwyd hwy allan yn fuan. — • o: — 11 MEDDIANNU FFOSYDD. Yn Champagne mae'r gelyn wedi ymosod ar y Ffmncod ger Tahure. Rhuthrasant ar 700 metres o ffosydd, ac yn Seppois, yn yr Upper Alsace, meddianwyd 400 metres o ffosydd ganddynt. Yn Artois, gcr Frise, meddianodd y Ffrancod amryw o ffos- ydd y gelyn. Dioddefodd y gelyn golledion trymion wth geisio eu hatal, gan yr amgylchynwyd un cwmni cyfan. a medwycLef i lawr. I ♦ j —:o:— I I YN Y BALKANS. Dywed adroddiad o Athens fod y Ffrancod* trwy gynorthwy adgyf- nerthiadau cryfion sydd wedi cyrraedd iddynt, yn cynnwys Prydeinwyr, yn sefydlu eu hunain ger cyffiniau Bwl- garia. Dywcdir fod y mihvyr Bwl- garaidd yn cad eu ynnu gyda brys o ffrynt- Macedonia i ffrynt y Danube. Dywed adroddiad swyddogol Ffrengig ddoe fod Rumania wedi cwblhau cyn- null ei milwyr at eu gilydd. -:0:- SUDDO LLONG BRYDEINIG. Hysbysir yn swyddogol fod y wib- long Arethusa wedi taro yn erbyn mwnfa tuallan 'i'r glannau dwyreiniol, ac ofnir na fydd posibl ei hachub. Collodd tua 10 o ddynion eu bywydau
DRIPPING, 2s 10c Y PWYS.I
DRIPPING, 2s 10c Y PWYS. I Mae Germani yn awr yn rhoi toc- ynau dripping allan, a cliani. ateir if 1 pwys ohono i bob ty pob bythefnos. Heb y tocynau hyn, y rhai y rhaid eu dangos gyda'r ticedi bara, ni chan- iateir gwerthu dripping mewn sym- iau mawrion. Ei bris fydd 2s IOC y ] pwys. Caniateir dau docyn i bob < teulu, yn cynnwys o bedwar i chwc 1 o deulu, a thri tocyn i deuluoedd o chwech ac uchod. i
I MARW ALAFON.
I MARW ALAFON. GOLYGYDD Y "DRYSORFA." Chwith nieddwl nad yw Alafon mv\y gyda ni. Bu farw fore Mawrth yn Abergele, lie yr oedd yn aros gyda'i frawd Llifon ar ei ffordd gar- tref o Lerpwl, wedi bod dan driniaeth feddygol; yr oedd yn agos i 70 oed. Efe ydoedd gweinidog eglwys hynod yr Ysgoldy ers 32 mlynedd, ac yr oedd yn ddwfn yn serchiadau y praidd yno. Adnabyddid ef yn bennaf ac yn fwyaf fel bardd a lienor, ac ystyrid ef yn berchen yr awen wir ac yn feistr ar ei ysgrifbin. Gwelodd ei enwad ei werth fel llenor, a gosodwyd ef yn Olygydd ar "Y Drysorfa." Ysgrifenodd lawer yn ystod ei oes o 13rddiaeth a barddoniaeth, a gwnai hynny gyda diddordeb a swyn anar- ferol. Nodweddid ei gynyrchion gan lanweithdra a thrylwyredd, a, gcllid dweyd na ollyiigai ddim o'i ddwylo heb fod gorcu ei allu a'i feddwl tu ol iddynt. Lledneisrwydd, gwyleidd-dra, a difrifwch oeddynt ei nodweddion am- lycaf; ond gwydclai ei feillion agos- af fod ynddo gryn lawer o "humour," ond fod hwnnw wedi ei santeiddio gyda'r gras o foneddigeiddrwydd. Beth bynnag arall gynyrchvvyd gan- ddo mae'n gwestiwn gelillyrfi a oes dim aiff tuhwnt i'w ddernvn adrodd- iadol "Modryb Sian." Pan gaiff y dernyn hwn ei adrodd yn briodol nid oes dim hafal iddo o'i nodwedd yn yr iaith Gymraeg. Brynhawn Sadwrn ffurfiwyd yn or- ymdaith yn Groeslon, ac aeth yr or- ymdaith fawr i gapel Brylirodyn, yr hwn a ianwyd i'r ymylon. Cymer- odd y Parch R. M. Jones, Glasgoed, yr arweinyddiaeth. Darllcnodd y Parcli John Owen. M.A., Caernarfon, ran o'r sgrvtl^-r, a gweddiwvd gan y Parch R. P. Ellis, Beddgelert. Siaradwyd gan Mri R. O. Williams, Ysgoldy; H. Menander Jones, Taly- sarn; Parchn J. Pules ton Jones, M.A., R. Jones (Glan Alaw), T. Gwynedd Roberts, R. G. Roberts (B.), aernarfon John Williams, Brynsieucyn; E. James Jones, M.A.- a Mr W. Venmore, Lerpwl. Chwar- euwyd yr "Ymdeithgan Angladdol" ar yr offen-n gan Miss Williams, Ys- goldy. Ar lan y bedd cymerwyd rhan gan y Parcbn D. O'Brien Owen, T. E. Jones, M.A., Cefnywaen; W. Griffith, M.A., Disgwylfa Huned bellach yn dawel fel y bu fyw, a boed i'w goffadwriaeth gael ei fendigo.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Gwenith. Llundain, Chwefror 11. Yr oedd gwenith ar y spot yn gadarn, gyda'r prisiau ic i lic yn uwch na'r farchnad lfaenorol. Am y loo PwYs:-Chjl- ian, 14s 6c i 14s 7c; No. 2, caled, 13s S!c i 135 6c; Manitoba, cnwd newydd, 145 9c i 14s pic; Delhi, detholedig gwyn, 145 gc. Cig. Llundain, Chwefror 11. Biff Ysgotaidd, ochrau byrion, 5s 6c i 5s 8c; hirion, 5s 4c i 5s 6c; Seisnig a Gwyddelig, 5s i 5s 3c; Argentine, chilled, chwarteri 01,4 ss ice i 55 2c; blaen, 4s ic i 4s 3c; Monte Video, chilled, chwarteri 01, 45 ice i 55 2C; blaen, 4s i 4s 2c. Myton: Ysgot- aidd, 6s 2c i 6s 6c; mamogiaid, 5s i 5s 2c; Seisnig 55 8c i 6s 2c; mamog- iaid, 4s ioc i 5s; New Zealand, 5s 2C i 5s 3c; mamogiaid, 45 ice; River Plate, 5 ic i 5s 2C.- Lamb: Seisnig, 7s 4c i 8s 4c New Zealand, 59 3c i 5s 5c. Veal: Seisnig, 5s 4c i 7s 8c. Porc: Seisnig, 6s 4c i 7s yr wyth pwys. Ymenyn. I Cork, Chwefror 11.—Ordinary, sec- onds, 120S; thirds, gos; ymenyn ffres, 133s. Gwair a Gwellt. I Manceinion, Chwefror 11.—Gwair, hen, 6s 6c i 8s 6c; gwellt, gwenith, 2s 9c; baled, 2s 6c i 35 lie; ceirch, baled, 3s ice i 4s; clofer, gc i ioc; eto, Lincoln, nc y 14 pVJYS. ——— ———— Mewnforiwyd 11,098 o gerbydau rTIcdur gwerth 4,Q57,i75p i'r wlad hon )'r Unol Daleithiau yn ystod y Iwyddyn ddiweddaf. Mae'r Pasg yn disgyn ugain gwaith rhwng 1910 a 2ood ym mis Mawrth.
CYNGOR LLAFUR SIR .GAERNARFON.I
CYNGOR LLAFUR SIR GAERNARFON. I Cyfarfu Pwyllgor y Cyngor Llafur yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn di- weddaf, Chwefror i2fed. Yr oedd yn bresennol Mri W. Williams, Port- dinorwic (llywydd) S. Catherall, Caernarfon; G. H. Edwards, Llan- .dudno Junction; R. R. Jones, Beth- da; Robert Owen, Caernarfon; R. G. Roberts, Penygroes; T. E. Taylor, Bangor; J. E. Thomas, Penygtroes, a'r Ysgrifennydd. Etholwyd y Mri William Williams I a Robert Owen i gyiir-vcjiioli-r Cyngor yng Nghynhadledd Lafur Gogledd I Cymru yn y Rhyl fis Mai nesaf. Pasiwyd i annog y gwahanol gym- deithasau cysylitiedig i wylied budd- iannau eu haelodau gerbron v Tri- bunals Milwrol a bcnodwyd daii; Ddeddf Gorfodaeth. Rhoddwyd sylw arbennig i'r cwes- tiwn o gael eynrycliiohvyr Llafur ar y Tribunals Milwrol, yr unol ag add- ewid y Llywodraeth, a chyfarwydd- iadau'r Bwrdd Llywodraeth Leol. Cafwyd manylion am benodi Cyn- lychiolwyr Llafur ar Dribunals Llan- dudno, Conwy, Penmaenmawr, Ban- gor, Bethesda, Caernarfon, a Gwyrfai, a phasiwyd fod yr Y sgrifcNnydd i wneud ymholiad ynghylch y Tri- bunals eraill. Cafwyd adroddiad llawn o weith- rediadau Cyngor Dosbarth Gwyrfai y prynhavvn hwnnw, yn ei berthynas a iolwvr y Bwrdd Uywodraeth Leol Llafur Undebol. Yr oedd cylch- lythyr y Bwrdd Llywodraeth Leol yn gorchymyn i'r- Cyngor benodi cyn- rychiolwyr Llafur ar Dribunal y Dos- barth, ac yn ei annog i ymynghori a Llafur Undebol yn y cylch cyn eu penodi. Ceisiwyd gan y Cyngor Dosbarth ymgynghori a'r Cyngor Llafur ynglyn a dewisiad cynrychiol- wyr Llafur ar Dribunal Gwyrfai, a hysbyswyd ef y buasai'r Pwyllgor Llafur yn cyfarfod yng Nghaernarfon y prynhawn hwnnw; ond gwrthododd y Cyngor Dosbarth y cais, a phenod- odd Gynrychiolwyr Llafur o'u dewis- iad ei hun. Pasiwyd yn ullfrydol i anfon y penderfyniad a ganlyn i'r Bwrdd Llywodraeth Leol, i'r Blaid Lafur, i Mr Arthur Henderson, A.S., ac i'r Cymdeithasau cysylltiedig yng nghyich Dosbarth Gwyrfai:— "Yr ydym ni, Bwyllgor Cyngor Llafur Sir Gaernarfon (sydd yn cynrychioli dros chwc mil o weith- wyr Undebol y Sir, yn cynnwys yn eu plith ddeg o wahanol Undcbau Llafur cysylltiedig yng nghylch Dosbarth Gwyrfai yn unig) yn gwrthdystio yn y modd cryfaf yn erbyn ymddygiad Cyngor Dosbarth Gwyrfai yn gwrthod ymgynghori a Llafur Undebol yn ei ddewisiad o Gynrychiolwyr Llafur ar Dribunal Milwrol y Dosbarth; yr ydym yn ystyried na ellir edrych ar "Gyn- rychiolwyr (honedig) Llafur" a ddewiswyd yn y dull hwn fel rhai sydd yn gwir gynrychioli'r dos- barth gweithiol, ac fod ymddygiad y Cyngor Dosbarth yn gyfryw nad ydyw yn tueddu i sicrhau ymddir- iedaeth y cyhoedd yn nyfamtadau'r Tribunal. Yr oedd teimlad cryf yn y Pwyllgor fod y Cyngor Dosbarth wedi gweith- redu fel hyn, nid oddiar deilyngdod yr achos, ond fel arddangosiad o'i deimladau dnvg tuagat Lafur Un- debol. Pasiwyd hefyd i gymeradwyo gwaith y Cynghorydd R. G. Roberts yn gwrthod cymeryd ei enwi ar y Tri- bunal fel protest yn erbyn ymddygiad anheilwng y Cyngor Dosbarth. Rhoddwyd sylw ymhellach i achos. ion milwyr oedd wedi eu clwyfo yn y rhyfel yn gorfod talu i'r Llywod- raeth am wasanaeth medclygol yn yr ysbytai. Pasiwyd fod y Cyngor- i wneud ymchwiliad manwl i'r achos- ion hyn, er mwyn sicrhau nad ydyw gweithwyr yn cael cam gan y Llyw- odraeth ar ol ymuno a'r fyddin. Pasiwyd i roddi sylw yng nghyfar- fod nesaf y Pwyllgor i weinyddiad Deddf Pensiynau'r Milwyr a'r Mor- wyr. 1915. DAVID THOMAS, Ysg. I
————— LLUNDAIN A'R DDIOD.
————— LLUNDAIN A'R DDIOD. Dengys adroddiad o eiddo Cyngor Sirol Llundain, fod yna 4,500 o daf- arndai, 1,420 C, siopau cwrw. a 450 0 westyai a lleoedd era1.11 i werthu cwrw yn y Brifddinas. Eu gwerth trcthol ydyw I, 764,000P, yr hyn olyga eu bod yn tanysgrifio tua thri-chwarter mil- iwn o bunnau tuagat y trethi. Yn ystod y 12 mlynedd diweddaf mae yn agos i 800 o dafarndai wedi eu cau, a bwriedir gwncud i ffwrdd a 500 o drwyddedau eraill.
CHWARELVVR YN HAWLIO IAWNDAL.…
CHWARELVVR YN HAWLIO IAWNDAL. Y11 I/iys MAn-ddyledion Caernar- ion, dydd Mcrcher, gerbron y Barn- wr Moss, gwnaed cais mewn achos chwarelw r o'r einv Griffith W. Evans, Clwtybont, am vofrestriad iawnclul. wrthododd > H:irnwr gofrcstru mis Aiai gan- ddo dystjohClll o gyfiv.r y dyn a'i allu i weithio. ?.;ae'n ymddan^os ei fod yn awyours 1 <ldjr.!>v".i 205P yrmyg- iwyd iddo g: n ci feistri, ond gorchy- j mynwyd ef gan ci gyfreithiwr alli Undeb i beidio gwneud hynny, gan eu bod yn credu fod ganddo hawl i gael mwy. Tystiodd Dr Parry, Caernarfon, a Dr Richard Jones, Blaenau Ffestiniog, fod y dyn wedi ei analluogi yn 11 wyr olierwydd briw sydd ar ei gefn, yr hwn, 3-11 ol eu tyb hwy, achoswyd gan y ddamwain yn y chwarel. Dywedodd Mr Johnson ar ran y diffynyddion fod hyn yn newydd liollol iddo ef, gan fod cyflwr y dYll yn ei dyb ef i'w briodoli i'r cliarfocledigaetl1. Gwrthododd v Barnwr gofrcstru yr iawndal yngwyneb y dystiolaeth. soop fuasai y swm dyladwy i'r hawl- ydd, ond gyda golwg ar rai o ang- hysonderau, credai y gallai y swm gael ei leihau, a gorchymynodd yr achos i sefyll. Gweithredai Mr O. G. Morris, yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Gunn, o swyddfa Mr Ellis Davies a Jones, dros Mr G. W. Evans.
-————————————.I PWYLLGOR ADDYSG…
-————————————. PWYLLGOR ADDYSG A LLECHI I Ychydig amser yn ol gwnaed ym- drechion i gael yr awdurdodau addysg i ail-ddefnyddio llechi yn yr ysgolion elfeniiol, ond ychydig iawn o sylw roddwyd i'r mater. Yr oedd papur yr adeg honno yn rhad, ac anfonwyd cyflcnwad digonnol olionno i'r ysgol- ion. Erbyn hyn, fodd bynnag, y mae'r rhyfcl bon v;edi ndd cryn lawer ar bethau. Rhaid ydyw i'r Pwyllgorau Addysg gynilo, ac mae pris papur, wedi codi yn aruthrol, ac yn ol pob golwg bydd yn sicr o godi eto. Hyn yn ddiau achosodd i Mr T. R. Jones argymhell yn y Pwyllgor Addysg yng Nghaernarfon dydd Iau y dylai llechi gael eu hail-ddefnyddio yn yr ysgolion unwaith yn rhagor. Cefnogwyd ef gaii Mr Henry Parry, GIanrafon, a dywedodd fod llechi yn Uawer iawn iachach na'r papur fewn- forid- o wledydd tramor. Credai ef fod llawer o'r afieclydon ymysg y plant i'w briodoli iddo, ac nid ydym yn ei ameu. Rhoddodd rybudd y deuai a'r mater gerbron y cyfarfod nesaf. Nid yn Oinig buasai ail- ddefnyddio llechi yn ileihau costau yr ysgolion, ond buasai yn dwyn elw i bnf ddiwydiant Sir Gaernarfon a Sir Feirionydd. Mae y fasnach lechi mewn CyflWT truenus fel mae'n hys- bys i bawb, a dyma'r cyfle wedi dod. Dylai pawb sy'n cymeiyd diddordeb yn y, fasnach fanteisio anio, a gwneud eu goreu 1 hyrwyddo hyn, a gofalu fod llechi unwaith eto yn cael eu hail-ddefnyddio. NIac yna gyfran- ddalwyr yn y chwarelau a goruchwyl. wyt ar y pwyllgor, ond ni chlybu- wyd dim o'u swn yn y Pwyllgor dydd Iau. Rhaid ydoedd cael ainaethwr yn un i d.hvyn y mater i sylw, ond er hynny mae yn un o'r dynion hynny sy'n gofalu na chaiff y gweithiwr gam.
APWYNTIAD I ESGOB LLAN. ELWY.
APWYNTIAD I ESGOB LLAN. ELWY. Mae Esgob Llanelwy wedi ei ap- wyntio yn gaplan i wersyll Kinmel. Er dechreu y rhyfel, bu yn gwasan- aethu gyda'i gatrawd ef ei hunan, sef y Denbighshire Hussars, mewn am- .ryw leoedd ar y glannau Dwyreiniol. 'lVlae'r gatrawd hon yrTfuan yn myned allan i'r ffrynt, ond mae'r Swyddfa Ryfel, er mawr ofid iddo, yn gwrthod^ iddo ef fyned gyda hi. Cymer yr Esgob ddiddordeb anarferol yn y milwyr Cmreig, ac yn ddiddadl bydd yn fuan mor boblogaidd yn Kinmel ag ydoedd ar y glannau dwyreiniol.
————.,.———— ] YSWIRIWR ANYSWIRIEDIG.…
———— ———— ] YSWIRIWR ANYSWIRIEDIG. ] Ymddangosodd Mr David Lewis, j dilledydd, Llanelli, yn Llys Methdal- iad Sir Gacrfyrddin gyda chyfrifon yn dangos 346p yn ddyledus, a dywed- odd ei fod yn yswiriwr ciddo, ond pan aeth ei siop ef ei hun ar dan yr oedd yn golled i gyd iddo, am nad oedd wedi ei hyswirio.
Advertising
<31 ¡ I D v, T W S tj it fi¡ LLWYTH LLONG 0 DATWS o'r StOerddon, ai rfj/d neu gfmfiortfi, Newycid Gyrhaedd Porthladd Caernarfon. I. Mewn fiadau 112 pwys yr an, 4s 6c y Bag C;'R BAG YN GYNWYSEDiG). o PWY51G. ANFONIR LOTIAU 0 DDWY DUNELL, AC UCHOD AM Y PRIS I UNRHYW ORSAF RHEILFFORDD YN MON NEU ARFON, A THELIR Y CLUDIAD. TELERAU ARBENIG. Rhaid Talu am y Tatws cyn eu symud. Anfoner pob Archebion i LAKE & Co. Ltd. 18, BRIDGE STREET, CARNARVON-
O'R FFRYNT. I
O'R FFRYNT. I LLYTHYRAU EIN BECHGYN. GYDA'R R.A.M.C. I ProfUd Bachgen o Bontnewydd. I Derbyniodd Mr a Mrs R. Thomas, 4, Llifon Terrace, Bontnewydd, v HythjT canlynol oddivvrth .eu mab, Preifat Wilie Thomas, yr hwn sy'n gwasanaethu gyda'r R.A.M.C. "rhywle yn Ffrainc." Ei ddyddiad ydyw lonawr 9 :— Dytna fi yn cymeryd y pleser o an- fon gair bach i chwi, gan fawr obeithio eich bod yn iach i gyd-fel yr wyf finnau ar hyn o bryd. Buaswn wedi ysgrifennu ynghynt atoch, ond mae'n amhosibl anfon llythyrau o'r fan hon. Fel yr oeddwn yn dweyd wrthych yn fy llythyr di- weddaf cin bod yn symud am wythnos i gael ychydig o brofiad. Gallaf ddweyd wrthych erbyn hyn ein bod wedi cad profiad mawr iawn hefyd. Nid oes ond rhyw dair milltir ar hyn o bryd rhyngddo ni a'r hen German- iaid. Bu y rhan fwyaf o'r bechgyn yma yn y ffosydd, end chefais i ddim myned am fy mod yn "Waggon Order- ly. Trwy hyn caiff pob un ohonom brofiad yn ei waith ei hun. Byddaf fi yn myned i'r fan y caiff y motor ambulance fyucd, sef Thj"\v dri- chwarter milltir tu ol i'r ffrynt. Bum yn y fan honno am ddwy noson yn cysgu yn y modur. Galwant y lie hwn yn "Advance Dressing Station." Y claf cyntaf gefais ydoedd un o'r R.W.F., a hwnnw wedi ei glwyfo yn hynod ddrwg. Er pan yr wyf yma gwelais Georgie a Jones Post, a bron y bechgyn i gyd. Gwelais hefyd Bob Rowlands, Llanberis gynt. Mae'n edrych yn dda iawn o hyd. Wei, ddoe (ddydd Sadwrn) mi roeddwn i fyny yn disgwyl am gleif- ion i mewn. Cyrhaeddais yno ddydd Gwener. Bu yn reit ddistaw drwy'r nos tan y bore, pryd 3; dechreuodd y Germanaidd anfon dipyn o ffrwyd- belenau drosodd atom. Mae pentref yn ymyl y "dressing station" wedi ei chwalu i'r llawr, yr eglwys a'r beddau a'r cyrff ymhob man. Ni welsoch erioed y fath alanas. Bore ddoe, dechreuasant danio ar yr eglwys dra- chefn, a disgynodd un ffrwydbelen tu I 01 i mi, ond wrth lwc ni ddarfu iddi ffrwydro. Pan ddechreuodd ein bechgyn ni ateb yn ol gyda'r "Eng- lish shells" yr oedd yn berffaith ryfel. Yr wyf.yn sicr eu bod wedi cael rhyw- beth i'w cadw yn fyw. Pan ffrwyd- rodd y ffrwydbelen, mi roedd yna lawer o'r R.W.F. yn y pentref, a lladdwyd 2 ohonynt, a chlwyfwyd amryw. Gwelodd ein bechgyn ni awyrlong Germanaidd i fyny. Tan- iwyd ami, ond mi roedd goonod o fwg i ni weled a ddacth i lawT. Wrth gofio, mi welais fedd yr Isgapten Vin- cent. Mae yma fynwentydd hardd iawn wedi eu gwneud yn y lie hwn i'r milwyr Prydeinig, ac yn ami iawn pan y byddweh yn cerdcled ar hyd y ffordd gwelwch grocs ar fedd lie y claddwyd rhyw fachgen. Gwelais un o'r King's Own Rifles yn cael ei gladdu vma. Ni welais neb oeddwn yn ad- nabod wedi ei glwyfo eto. Wel, cofiwch'fi at bawb, heb enwi I neb. Hyn gyda'r cofion eviiiiesif itoch oil.—Ydwyf, WILLIE. II
[No title]
I Cynyrchwyd 26,000,000 tunell o sweds yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod Tua canol 1913, 46,000,000 ydoedd poblogaeth y Deymas Gyfuttitl. 1913. J
I BETH, TYBEDli
I BETH, TYBEDli Cynwysa yr "Handelsbad," papur adnabyddus yn Amsterdam, yr hys- bysiad canl\Tnoi:— Cathod Byw: Yn Eisiau i'w prynu. Dylid anfon y cynygion i Chief Poste Restantc 17, Emme- rick. Mae Emmrick yn Germani, ychydig dros ffindir Holland.
COLLEDION Y RHYFEL.
COLLEDION Y RHYFEL. Yn ol cvfnfiad Cy.mdeithas y Groes Goch, Geneva, a ganlyn yd- oedd colledion rhai o'r gwledydd sydd yn rhyfela, am yr ii mis cyn- taf:- Lloegr,—Lladdwyd: 180,000; an- afwyd 200,000; carcharorion 90,000; cyfanrif: 470,000. Awstria.—Lladd. 1,610,000; an- afwyd: 1,865*000; carcharorion: 910,000 cyfanrif 4,385,000. Germani.—Lladd.: 1,630,000; an- afwyd: 1,850,000; carcharorion: 820,000;. cyfanrif: 4,300,000. Twrei. Lladd.: 110,000; anaf- wyd: 140,000; carcharorion: 95,000; cyfanrif: 345,000.
- 1* DAGRAU MR LLOYD GEORGE.
1* DAGRAU MR LLOYD GEORGE. Mae'r Henadur A. T. Salvage, Lerpwl, yr hwn welodd Mr Lloyd George yn adolygn y milwyr Cymreig yn Ffrainc, wedi rhoddi manylion di. ddorol aiiuyr ymweliad. Fel yr oedd y milwyr yn myned heibio iddo, der- byniodd y "salute," a phan ddechreu- odd y seindorf chwareu "Gwyr Har- lech," dywedodd, "Mae hyn yn ys- brydoli dyn, ac yn cyffroi enaid dyn. "Yr oeddwll yn scfyll yn ymyl Mr Lloyd George," meddai'r Henadur. "Yr oedd ei wyneb yn welw, ei wef- usau yn crynu, a'r dagrau yn Ilenwi ei lygaid."
Family Notices
GENI. PRIODI. MARW. Priodi. JONES-JON ES Chwefror 8, yn Eglwys Llanbeblig, Mr Robert H. Jones, Croesoswallt, gyda Miss Mary Jones, 16, St. Helens Street, Caernarfon. JONES-HUGHES Chwef. 9, yng nghapel Moriah, Caernarfon, Mr John Robert Jones, Rallt Goch, Llanberis, gyda Miss Catherine Anne Hughes, Cross Keys, Clwt- ybont. Marw. OWEN—Chwefror 8, y Parch O. G. Owen (Alafon), Ysgaldy, yn 70. mlwydd oed. THOMAvS—Chwefror 10, Mr William Thomas, Ty Newydd, Rhosbodrual, Caernarfon, yn 69 mlwydd oed. WILLIAMS—Chwefror 10, Mrs Jane Williams, Rose Hill, St. David's Road, Caernarfon, yn 81 mlwydd oed.
Advertising
I J. FLETCHER. LTD.. I MEMORIAL WORKS. CARNARVON a BANGOR. i  Xrgrufiwyd a chyhoeddwyd ga Gwmui v DinesvJ I Cymreig, Cyf yn 16, Palace Street, Caernarfon,