Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
Ilvdds IV' Jam For M-c K YDD'S JAM Every spoonful is a source of joy and pleasure. Jam to be really good must be made from Fresh Whole Fruit at the season when the fruit k at its best, and thus retain the wholesome juices and delicate flavour of the fruit. That is the reason why KYDD'S JAMS are so superior to others, they appeal to you immediately you taste thein. m YOUR GRtiCER FOR KYDD I Mil. KYDD & KYDD, FRUIT PRESERVERS, FRODSHAM, CHESHIRE l i YN EISIAU. NURSES Wanted at the Worcester- shire Asylum, Barnsley Hall, Bromagrove. Full course of instruction for Nursing Certificates given. Previous experience not necessary. Age not under II.-A.pply, the Medical Superintendent. ■ "S 8 h T~* AGENTS, eith, for every T;; Aand Hamlet in North Wale8. Quick flriKng line. Big income. Repeat orders smaTed.-Apply, Box K.L., Silver Cham- bm, Oonway, N. W. POD Doebarth o FORWYNION yn Einso. Lleoedd da yn agored yn awr M ein llyfrau. Cooks, Cook- QsneraJa, Housemaids Hotel, Preifat a ffhyboeddua, Generals, Waitresses, &o. —Ymofyner A Colwyn Bay X.L. Servants Registry, Carlton Buiklioa. ColwyB Bay.  URY HAM-WAWCUM.. Permanent Curls. One bottle sufficient, however listless your hair. One testimon- ial says: "My hair soon became a mass of wavy curls." Results certain. Price, 2s td. Special reduction for short time. Send Is only for large size 2s 9d bottle.— THE NEW WAVCURL CO., 67, CROM- WELL HOUSE. HOLBORN. W.C, TO FARMERS, TRADESMEN, AND OTHERS, ILtntf JM to £1,000 on simple note of hand.. No security required. No unpleasant enquires. Write the actual leader, A. DAVIES, Wesfcgate, Penbury Street, Worcester. EISTEDDFODOL. CYLCHWYL LENYDDOL A CHERDD OROL WAENFAWR. A gynheKr NOS WENER, PRYDNAWN a I NOS SADWRN, EBRILL 14 a 15, 1916. Testynau Rhydd i'r Byd. 1. Datganu Unrhyw Don Gynulleidfaol, i Goran Cymysg, heb fod dan 20 o rif. Gwobr JEl 10s, a Silver-mounted Walking Stick i'r Arweinydd. 2.Datganu "Siglo" (T. O. Hughes), i Gorau Plant, dan 17 oed, ac heb fod dan 25 o rif. Gwcbr, El 10s, a Chwpan hardd i'r arweinydd. Atelir 10s o'r Wobr os na bydd cystadleuaeth. 3.—Unrhyw Ddeuawd. Gwobr, 12s. 4.-Unrhyw Unawd allan o Gyfanwaith. Gwobr, 158 a Suit Bag hardd. 5.-Unrhyw Unawd C-ymraeg. Gwobr, Kte 6c. 6.-Adrodd "Y Llafurwr" (Tudno). Gwobr 10s 6c a Silver-mounted Walking Stick. 7.-Supper Cloth. Gwobr, 5s. 8.—Black Satin Cushion. Gwobr, 10s 6c; i fod yn ciddo rhoddwr y wobr Y rhai fwriadant Ddatganu neu Adrodd, i anfon eu henwau i'r Ysgrifennydd erbyn Ebrill 11, 1916. Rhestr o'r Testynau, pris Ie, i'w cael gan yr Ysgrifennydd, JOHN W. HUGHES. Fron Hyfrvd, Waenfawr. SlOP Y DDRAIG GOGH EASTGATE STREET. ClMURtOH YW'R LLE GOREU AM BOB lATH 0 ESGIDIAU Am brisiau isaf yn bosibl. CYFLAWNDER 0 DDEWIS. JSGAER LEWIS, & Co. —■ I I START BUSINESS YOURSELF. j We supply Fancy Goods, Post Cards, I Drapery, Tobacconists, Stationery, Jewel- tlery. Id, 3d, and 6d, Bazaar Goods Toys, I, Confectionery, Cutlery etc. Sample cases j- ?5 and upwards sent by return, Guide I C?!ogue "Success in Business" 3d. I H. MICHAELS and SON, j 14-15, Cromwell House, High Holborn, London, W.C., England. J iK'ILD HALL, CAERNARFON. i OARLUNIAU BYW DAVIES RHAGLEN RAGOROL YR WYTHNOS HON. "AS YE SOW." "CIRCUS Q U IE F- N." Mynediad i mewa, Is. 6c, a 3c. SWYDDOGOL. AE^??AU "CYMDEITHAS GYF- A TE R,GAR DYFFRYN NANTLLE.' B YDD Rooms, Talysara, yn agored 2 o'r gioch Prydnawn Sad- wrn, y 26ain Cyfiso., ec rhoddi cyfle i Ar- wyddo Ffurfien y Dirwyniad bwriadedig, a ohyn-holir CYfarfod Cyhoeddiis hefyd yr un dydd am 5 o'r gloch. Taer erfynir eich presenoideb, Dros y Pwyllgor, DAVID W. JONES, Ysg. Chwefror 12, 1916.,
LLEFRITH AMHUR.
LLEFRITH AMHUR. Dirwyo Amaethwyr. Yn Ynadlys Sirol Caernarfon, dydd Sadwm, gerbron y Maer ae Ylladon eraill, cyhuddwyd Robert Williams, Cacathraw Bach, Llanrug, a Miss Blodwcn Thomas, Caermoel, Llan- wnda, o werthu llefrith amhur.-Er- lynwyd yn y ddau achos gan Syr John Roberts, ac amddiffynai Mr Richard Roberts yn achos Robert Williams Tystiodd Mr Vaughan Davies iddo brynu dau beint o Icfrith gan v diffyn. yddion, a'i fod wedi anfon sampl ¡ ohonno i'r dadansoddydd cylioeddus, ac yn ol ei dystysgrif ef yr oedd 5 gracn y galwyn o lefrith Robert Wil- liams yn faw, trichwartcr ohono yn faw gwartheg. Dywedodd Margaret Williams mai bleinion gafodd Mr Vaughan Davies, ac mai hen hidlan hen ffasiwn sydd ganddi. Tystiodd hefyd nad ydyw yn gwerthu ond tua gwerth 3e o lefrith yn (Myddiol.- Ynglyn a llcfritli Blodwcn Thomas yr oedd 6.4 graen y galwyn yn faw, tri- chwarter o lnvn hefyd yn faw gwar- theg. lp Dywedodd Dr Parry Edwards fod y llefrith yn beryglus i icchyd plant, a'i fod yn hollol wenwynllyd. Gall I graen y gahvyn suro llefrith, ac achosi diarrhea. Dirwywyd y diffyn- yddion i 15s 6c yr un.
[No title]
———— Yn ystod 1913 bu farw 49,476 o bersonau yn Lloegr a Chymru drwy'r darfodedigaeth. Mae 51 o ddynion cr toriad allan y rhyfel wedi teithio 10,000 o filltiroetld i ymuno a'r fyddin Brydeinig.
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Cyhoeddir Ysgrifau Myfyrfab a De- mos, a llythyr Hughie Thomas, 1 Penygaer, yr wythnos nesaf. Yr ydym eto yn gorfod gadael yr ad- olygiadau hyd cin rliifyn nesaf. I
I GWELLTYN RHAG BODDI.
I GWELLTYN RHAG BODDI. Tra'n darllcn ymgais y sawl wnaeth y llythyr ymddangosodd yn y "Car- narvon and Denbigh Herald" uwch- ben enw Mr Evan Abbott, i geisio egluro ci safle, ac ateb yr hyn ym- ddangosodd yn y "Dinu;vdr.. JJ ni allem beidio meddwl am yr hyn glyw- som lawer gwaith o berthynas i'r rhai fyddo ar foddi eu bod yn barod i ym- ail yd hyd yn oed mewn gwelltyn rhag suddo. Ond, yn anffodus, boddi a wneir os na cheir rhywbeth amgenach na gwelltyn i ymafael ynddo. Ofn- W11 mai dyna fydd tynged y Cynghor- ydd druan yn yr achos hwn, oblegid nid yw yr afresymiadau ddygir ymlaen o'u casglu at eu gilydd, ond pentwT o wellt, a wiw disgwyl gvvar- edigaeth drwy gydio ynddynt. Er mwyn dangos gwrthuni yr ymgais fe gymerwn y llytliyr blvynt ar ol pwynt, fel yr ymddangosodd, heb daflu yr un o'r neilltu fel yn "amher- thynasol a'r mater," gan hyderu y maddeuir i lli gan cin darllenwyr am gymcryd eu hamser a'u lie gyda phwnc mor bersonol. Ar ol cyfreitliloiii ei waith yn cy- hoeddi y llythyr anfonwyd i'r Swyddfa Rhyfel, dywedir "mai ei ddadl ef yw y dylai awdur y llythyr (os oedd gan- ddo gwyn gyfreithlon), wynebu yr awdurdodau milwrol eyfrifoI, y rhai oeddynt, ac y sydd yn a\\T, yn trigo yng N ghaenlarfon, yn lie myned tu- cefn iddjiit i'r Swyddfa Rhyfel." A yw ei ddadl yn un deg a chyson? Yn ol addefiad Mr Abbott ei hunan yn y Cyngor Trefol nid yw y swyddogion milwrol yng Nghaemarfon yn awdur- dodau milwrol cyfrifol, gan nad yd- ynt yn gin-ileuthur dim ond trwy ufudd-dod i orchymyn a chyfarwydd- iadau yr awdurdodau yn Llundain. Ufuddheir gan yr Is-swyddogion i orchymyn rhai uwch, a'r rhai hynnv drachefn i'r rhai uchaf. Gwyddai yr ysgrifennydd drwy ymholiad per- sonol a'r rhai fu'n edrych ac yn ar- chwilio y tai beth oedd hawliau a gof- ynion yr awdurdodau, a chafodd allan nad oeddynt ond yn cario ymlaen y ddeddf osodedig. Rhaid oedd cael yr ystafelloedd i'r maintioli ofynid, a gwely sengl i bob milwT. I newid hyn rhaid oedd meddu hawl i roddi y rheolau o'r neilltu, ac er cael hynny rhaid oedd wrth awdurdod a gorchy- myTi y Swyddfa Rhyfel. Dyna'r pa- ham, yn benaf, yr anfonwyd yn syth i Lundain. I wneud gwaith yr ysgrifennydd yn anheilvvng dywed "y buasai pan oedd yn gweithredu fel fforman argraffwyr yn yr 'Herald' yn gwxthwynebu i'r dynion fynd a'u cwynion o'r tucefn iddo at y perchenog neu y rheolwr. Gadawer i ni gael datgan, i ddechreu, y buasai n ddrwg iawn gennym arfer ein safle fel fforman i beri achos i'r dynion gael cwynion i'w gwneud yn angenrheidiol iddynt i fynd o'r tucefn at y perchenog na'r rheolwr. Yn ail, dywedwn 11a welem fai ar unrhyw weithiwr, pc gwelai yr achos yn cyf- reithloni hynny, yn mynd yn syth i lygad y ffynnoll er unioni'r camwri, yn enwedig os 11a fyddai gan y ffor- man, fel yn achos yr awdurdodau mil- wrol Ileol, hawl i wneud dim ond ufuddhau i orchymynion rhai uwch nag ef. Dyna yn gymwys, mae'n wir, oedd safle fforman argraffwyr yn yr "Herald, er ei fod yr adeg honno yn ysgrifennu erthyglau arweiniol, ac ysgrifau craill, a golygu gohebiaeth- au. Ond, pe byddai gan y dynion gwynion yn ei erbyn, at y peuhenog neu y rheolwr y byddai oreu iddynt fyned i gael eu gwrando er cael rhoi pethau yn eu lie. Fel yna y gweithredodd awdur y llythyr, ac nid yw heddyw yn gofidio iddo wneud hynny. Ymhellach dywcd na, wyddwn gyn nwys fy llythyr, neu na fuaswn yn protestio yn erbyn cyplysu'r "Dine: ydd" a'm henw. Nid pro:es!io wnaed, ond gofyn yn SV;T1 y cv. < s- tiwn pam, ac y mae heb ei ateb eto. Ni all mai cynnwys y llythyr sy'n rhcswm dros y cyplysiad, oherwydd dywedodd Mr Abbott ei hunan yn y Cyngor na wyddai beth oedd ei gyn- nwys. Rhaid felly fod rhywbeth arall o'r tucefn i gyplysu'r "Dines- ydd" a'r enw Dyna'r dirgelwch Wedi rhoddi y llythyr anfonwyd i'r Swyddfa Rhyfel, dywed fod yr awdur yn tybio y gwyddai beth oedd gofyii- ion yr awdurdodau milwrol yn well na hwy eu hunain, ac yn ymddangos fel pe yn cymeryd y safle o gyfar- wyddwr. Na, Mr Abbott, ni raid i'r awdurdodau milwrol wrth gyfar- wyddwr i osod eu hawliau, maent yn byw ar eu gosod. Pe byddai iddo agor ei lygaid yn briodol fe ganfyddai .1 mai protest yn erbyn eu gofynion ydyw y Uythyr anfonwyd, ac apel am ..1 <. i ofynio 1 y lletywyr a'r milwyr gael eu h-vsty-ct. A ydyw yii tybio nad oes gan y lletywyr eu gofynion a'u hawliau ydynt yn haeddl1 cael ystyr- iaeth a pharch? Os ydyw, mac'n gwneud camgymeriad dybryd. Nid oes cisiau prawf gwell ar wegi ei afres- vmiad na chyttietyd mihvr neu ddau i'w lletva, a buan y canfyddir fod gofynion yr awdurdodau milwrol, yn ol yr amgylchiadau heddyw, yn gwneud cam a'r lletywyr, a thrwy hynny yn gosod y milwyr dan anfan- tais am na ellir ymddwyn tuagalynt fel yr hacddant ac y dymunai y llety- wyr wneud. Am fod y llythyr vr. cynnwvs y frawddeg hon—"Credaf y dylid cd- rych i mewn i'r mater yn ddiced, dywed fod yr awdur yn ymddangos yn "hyfryd o fawreddog." oll;,t yw'l1 syudod fod mor lleied o beth yn cynnyrchu mawTedd hyfrydol? Dy- wed hefyd fod y 11ythyr yn cynnwys rhywbeth yn "natur bygythiad," a dyma'r bwgan mawr hwnnw: "Yr wyf yn anfon y llythyr hwn i ediych a ellir gwella pcthau cy.11 agor y mater yn y Wasg." Mor fygythiol, ollide? Son am agor y mater mewn Gwasg wrth awdurdodau sy'n medru ei chau pan fynnont! Ac yn y fan hon y ffaela'r Cynghorydd wclcd cysondeb y datganiad yn yr erthygl yr wythnos ddiweddaf yn dweyd nad oeddwn yn disgwyl i'r weithred fechan hon o'm heiddo gael ei chofnodi mewn gwasg 11a Chyngor, gyda'r "bygythiad" o agor y Wasg i'r mater. P'run ai dylni ynte ymafliad mewn gwelltyn sy'n peri iddo fethu cysoni'r ddau? Nid agor y Wasg i gyhoeddi y ffaitli i lythyr gael ei anfon fwriedid, nac i nodi enw y sawl wnaeth hynny, ond i drafod cwynion y lletywyr, angen- ion y milwyr, a gofynion yr awdur- dodau. Nid oedd ym mwriad y gol- ygydd i gael anfarwoli ei weithted, ac fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd yn berffaith foddlon ar ol cael atebiad o'r Swyddfa Rhyfel. Gwelir felly, er diniweiticd yr ysgrifennydd, nad yw ei ddatganiad yn anghyson o gwbl, a'i fod eto dan rwymau i ddiolch i Mr Abbott am roddi y fatli gyhocddusrwydd i'r weithred fechan hon o'i eiddo ar ran lletywyr a'r milwyr yng Nghaernarfon. Yn nesaf aiff Mr Abbott mor bell ac awgrymu fod y llythyr wedi ach- osi symudiad 300 o filwyr o'r dref i Fangor. A oes rhywun a gred i'r Swyddfa Rhyfel symud y dynion hyn oherwydd i olygydd newyddiadur an- fon ewyn a gofyn am ymchwiliad? Onid oedd y symudiad mewn golwg cyn vsgrifeniad y llythyr? Onid symudiad rhagddarparedig er mwyn manteision milwrol ydoeddi? Pe mai ysgrifeniad y llythyr fuasai yr achos o'u symud, paham na symudid yr oil o'r dref, yn lie dod ac ychwaneg i mewn at y rhai adawyd? Mae'r af- resymiad yn wrthun heblaw ei fod yn ymgais anheg i daflu'r bai ar ys- gwyddau nad oes a wnelont ag ef. Gwelltyn arall y ceisia hongian ei achubiaeth drwyddo ydyw camg% meriad o dair ceiniog wneir yn y pris delir fel yr anfonwyd yn y llythyr, ond a osodir yn gywir yn yr erthygl yn y "Dinesydd," sef 15s 6c a 158 9c. GofYlla. hcfyd all onid wyf yn gwybtxl y telir 17s 6c o berthynas i'r dvn cyn- taf? Gwyddai yr awdurdodau yn Llundain mai 15s gc ac nid 15s 6c a delid ganddynt, a rhoddasant y 3c j mewn heb ddweyd dim. Fe wyddai yr ysgrifennydd hefyd am y 17s 6c delir i'r dyn cyn- taf ond, er hynny, 15S 9c ydyw y pris gosodedigf .gan mai hynny gaiff y lletywyr am 19 o filwyr pe byddent yn cadw 20. Dadl awdur y llythyr ydyw nad yw 15s gc a, 175 6c yn bris teilwng i'r lletywyr gael clnvareu teg i fedru gwneud iawnder a hwy eu hunain a'r milwyr. Ystyrier prisiau y nwyddau, rhenti, a tbrethi, traul y ty mewn dilladau, do<lrefn, a glo, ac ychwaneger at hynny drachefn lafur y lletywyr, y mae y pris yn afresymol o isel. Yngwyneb hynny y dadleuai y llythyr na ddylai gofynion yr aw- durdodau gael eu gosod lythyren am lythyren; ond y dylid rhoddi ystyr- iaeth i hawliau y lletywyr, drwy un a'i codi y pris, neu ganiatau i ddau gysgu yn yr un gwely. Cryfhawyd y ddadl dros gael hyn drwy arfer y modd y mae'r Llywodraeth wedi cael gan y gweithwyr i roddi o'r neilltu cu hawliau hwy. Son am "fygythiad" yn wir, beth am yr hyn awgrymir ganddo ef pan yn gofyn "a wyddwn y gallai yr aw- durdodau milwrol roddi y 'Billeting Order' mewn grym, yr hyn adawai daiddalwyr heb ddewisiad yn y mater." Gwyddai yr awdur am y "Billeting Order" yn eithaf, a mwy na hynny; gwyr na ellir gosod Caer- narfon dan yr "Order" heb ei gwneud yn un gyffredinol drwy'r wlad yn gyntaf. Ond pa fantais fyddai hyn- ny, a beth sydd a wnelo hynny a'r pwnc dan sylw? Y cwestiwn ydyw cael y goreu allan o'r amgylchiadau fel y maent i'r lletywyr er mwyn i'r milwyr a hwythau gael pob chwareu teg. Teifl bopeth arall yr erthygl o'r neilltu heb eu cyffwrdd gyda dweyd: "Mae materion craill gyflwYlla yr ys- grifennydd i'w gredo yn hollol amlierthyuasol mor amherthynasol ag y mae llawer o'r hyn elwir yn bregeth i'r testun ar yr hwn y mae i fod yn seiliedig arno." Felly'11 wir Pa berthynas sydd rhwng pregethu a'r pwnc dan sylw? A ydyw y Cyng- horydd E. Abbott neu J. Huw Wil- liams yn arfer a phrcgethu? Tybed a. oes a wnelo'r gosodiad a'r llw hwn- nw a wnaethpwyd gan y Cynghorydd na chyffyrddai a materion personol? Hwyracli yr etyb y cwcstiynau dros- tynt eu hunain. Yn awr, dyma'r llith fcl yr ym- ddangosodd yn y "Carnarvon and Denbigh Hera,ld" wedi ei thrafod drwyddi draw, ac yr ydym yn cael ein meddiannu, ar ol ei chwilio a'i chwalu, gan brofiad y dynion hynny sydd yn suddo i'r dyfnfor i chwilio am emau, ac a ddisgrifir gan un 1--1'n beirdd mewn brawddeg bert, cin bod ninnau wedi bod yn "Chwilio gem a chael gwmon." Credwn y gallwn fentro yr achos yn rhwydd i fam y cyhoedd, gan ein bod yn llwyr argyhoeddedig fod ein ham- can yn gywir a theilwng, beth bynnag fydd y canlyniadau.
.CAERNARFON.
CAERNARFON. .Llys Bwrdeisiol.-Dydd Llun, ger- bron y Maer ac ynadon eraill, dirwy- wyd Laura Williams, Shirehall Street, i 5s am beidio anfon ei phlentyn i'r ysgol. Cyhuddai Winifred Casey, Well Street, Annie Williams, 6, Well Street, am ymosodiad. Dirwywyd hi i 12s 6c yn cynnwys y costau. Gwerthu Llefrith.—Yn y llys bwr- deisiol, ddydd Llun, cyhuddwyd D. Hughes, Ty'n Twll, o werthu Ilefrith amhur. Erlynai Syr John Roberts ac amddiffynai Mr Richard Roberts.— Tystiodd Mr Vaughan Davies iddo brynu IIefrith gan y diffynydd ar Rhagfyr 29am, yr hwn yn ol tyst- ysgrif y dadansoddydd cyhoeddus, gynwysai 21.3 graen y galwyn o faw, tri chwarter ohonno yn faw gwartheg. —Dywedodd Dr Parry Edwards fod y llefrith yn beryglus i iechyd. Mewn amddiffyniad, dywedodd y di- ffynydd ei fod wedi gorfod crafu gwaelodion ei biser i gael llefrith i Mr Davies, ac am hynny nad oedd y sampl yn un teg. —Ar ol absenoldeb am ychydig funudau, sylwodd y Maer fod yna lawer o anghysondeb yn y dystiolacth, a thaflwyd yr achos allan. Darluniau Byw. Mae'r rhaglen geir gan Mr E. O. Davies yn y Guild Hall yr wythnos hon eto yn rhagorol. Y tair noson gyntaf ceir "As ye Sow" (Drama) "Day's Adventure," ac "Human Chain" a'r tair noson olaf "Circus Queen," "The Broken Coin," ac "Hogan the Porter." Marw.—Dydd Iau, ar ol bod yn nychu am gyfnod, bu farw Mr Wm. Thomas, Ty Newydd, Rhosbodrual. Yr oedd yn 69 mIwydd oed. Cymer- odd yr angladd Ie heddyw (ddydd Mawrth). Dydd Iau, bu farw Mrs Jane Williams, Rose Hill, St. David's Road, yn 81 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Anfield, Lerpwl, ddydd Llun. Gedy fab a merch i alaru eu colled, sef Miss Williams a Mr W. H. Wil- liams, Hyfrydle. Trtfniadau yr Ysgol Sul. "A ydyw lliosowgrwydd ei threfniadau yn milwrio yn erbyn llwyddiant yr Ysgol Sabothol?" oedd testun y ddadl fwr- iedid ei chael yng ughymdeithas Moriah, nos Lun; ond oherwydd ab- senoldeb Mr Rhys Williams cafwyd anerchiad rymus gan Mr R. Williams, Bodhyfryd, yn fwyaf arbennig ar yr ochr nacaol Smradwyd ymhellach gan Private Alun Williams, Mri E. W. Roberts, T. G. Owen, Pentir; R. G. Owen (Pencerdd Llyfnwy), a W. Williams, Rhosfair. Llywyddwyd gan Mr G. O. Griffith. Gwasanaeth Orfodol. Testun y ddadl yng nghymdeithas Ebenezer vdoedd "A ellir cyfianv-nhau gwasan- aeth orfodol?" Agorwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr Tom Edwards, Pool Street, a'r ochr nacaol gan Mr D. Davies, Bron Cybi. Siaradwyd ymhellach gan Mr Walter Thomas, Fernleigh, y Parch D. Jones, ac arall. Cafwyd mwyafrif o blaid y cadarnha- ol. Mr W. D. Jones, Bodnant, lyw- yddai. Cyhuddiad o Hap-Chwareu.—Yn y llys bwrdeisiol ddydd Llun cyhudtd- j wyd Mathew Evans, Patent Slip Vaults, o ganiatau hap-chwareu yn ei dy.-Erlynid ar ran yr lieddlu gan Mr Richard Roberts, Mr J. B. Allanson amddiffynai, a gweithredai Mr C. A. Crebbin dros y perchenogion. Dy- wedodd y iSIaer fod y dystiolaeth yn hynod gymysglyd, er hynny yr oedd y Fainc o'r farn fod trosedd wedi ei gyflawni, a dirwywyd y diffynydd i 2p. Llwyddiant. Mae Master Ed- mund Joseph Kelly, ail fab Mr a Mrs Dan Kelly, 4, Pool Hill, wedi myned yn llwyddiannus drwy arholiad y Civil Service. Allan o 1,462 o ym- geiswyr, ni fu ond 350 yn llwydd- iannus, ac yr oedd Kelly yn 170 yn y rhestr. Newyddion Milwrol.—Yr wythnos ddiwcddaf aeth Signaller E. Glynnc Williams, Newborough Street, yn ol "rhywle i Ffraincj" ar ol bod gar- tref am ychydig o scibiant. Gvvas- anaetha gyda'r Roal Engineers.'—Ni fu Major Armstrong yn absennol oddiwrth ei ddyledswyddau un diwrnod er pan adawodd Loegr. Llys Apel Ymrestru.—"Mewn cyf- arfod arbennig o'r Cyngor Trefol, nos Fim-rth, y Maer yn y gadair, dewiswvd y rhai canlyuol ar y Llys Apel Vmrestru ynglyn a'r Mesur Gwasanaeth Milwrol, Rhif 2. Ail- etholwyd y rhai oedd ar y Derby Tribunal, sef y Maer, Henadur D. T. Lake, Henaduf R. Parrvi Prif Gwnstabl- J. Griffiths, a Mr R. T. Jones; gan ych'wanegu atynt yr I Henadur J. P. Gregory, Cynghor- wyr A. H. Richards a J. Fletcher, Mri J. R. Pritchard a David Jones, Mrs Nath Roberts, a Mrs Vaughan Davies. Priodas.—Dydd Mawrth, yn Eg- lwys Llanbeblig, y Parch T. A. Mor- gan Jones yn gwasanaethu- pnodwyd Mr Robert H. Jones, Croesoswallt, gyda Miss Mary Jones, 16, St. Helen's Street. I Fyny Eto.-—Clywsom fod yr Is- gaptcn Peter Angel, mab Cynghor- ydd H. J. Angel, wedi cael ei apwyntio yn Assistant-Adjutant. Fe welir fod Mr Angel yn gwneud cynnydd buan a rhagorol yn y fyddin. Nid yw eto ond 24 mlwydd oed. Rhogarol, onide. Eled ymlaen i ben yr ysgol. Ynadlys Sirol.—Cynhaliwyd dydd Sadwrn, gerbron y Maer ac ynadon eraill. Dirwywyd John O'Rouke, 8, Menai Street, Ebenezer, i 5s am feddwdod.—Am ddefnyddio iaith an- weddus. dirwywyd Catherine Ellen Ellis, New Street, Cwmyglo, i 5s.
DYFFRYN NANTLLE. I
DYFFRYN NANTLLE. I Digwyddiad Trist.—Oddeutn saith o'r gloch nos Wener diweddaf, pan yn pasio Llyn Pantdu, ar y ffordd sy'n arwain i Benygroes, clywodfl Mrs Tom Ross swn rhyfedd yn dod o gyf- eiriad'y llyn, tebyg i fuwch yn envyn- fan, neu fel pe byddai anifail mewn poen. Aeth i hysbysu Mr Robert Thomas, y ffermwr, ac aeth ef a'i was yno yn ddioed, ac er eu syndod caw- sant Mrs Jane Hughes, Bodlondeb, Talysarn, yn y llyn. Cludwyd hi oddiyno, ac aethpwyd i gyrchu medd- yg. Daeth Dr R. Owen, Bodnant, yno ar unwaith. Bu fyw am oddeu- tu hanner awr, ond er pob ymdrech ni allwyd ei hadfer. Dywedir ei bod yn isel ei hysbryd ers rhai wythnosau. Cydynideilir a'r teulu oil yn eu tra- llod dwfn. Amrywiaethol. Nos Fercher di- weddaf yn Soar (A.), dan lywydd- iaeth y Parch J. M. Williams, cafwyd cyfarfod amrywiaethol, a hwyliwyd yr offeryn gan Mr Gwilyrn Evans. Gwas- anaethwyd mewn canu ac adrodd gan amryw o'r aelodau. Y trefnwyr ocddynt Miss Susie Griffith, High Street, a Mr W. D. Evans.' Cafwyd cwrdd hwyliog, a'r ystafell yn orlawn. Llwyddiant. Da. gennym ddeall fod Miss Nellie Wood Griffith, Pen- ygroes, yn parhau i ennill tir fel nyrs, ac nad oes ganddi ond ychydig iawn eto o waith na fydd yn nyrs drwy- ddedig. Erys ar hyn o bryd yn Kent, y naill du i Lundain. Y Greadigaeth.—Nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr J. Williams, Water I Street, cafwyd papur amserol ar y j "Greadigaeth," gan Miss Richards, Ysgol v Sir, ac adroddiadau gan Mr I R. H. Jones, County Road, I
FELINHELI. -
FELINHELI. Coginiaeth.—Yn Festri Bryn Menai nos Fawrth rlioddOOdIiss Lewis, I "Cookery and Laundry Mistress" o dan y Cyngor Sir, yr ail o'r gyfres darlithoedd ar ddarbodaeth mewn I coginio. Mae gryn nifcr yn dyfod ynghyd i'r dosbarthiad. ;i hyn, ac yn I ymddangos yn cael cu g v\ erthfawr&gi gan yr ardal. Cyfarfod Cenhadol. Yn Moriali (A.), nos Fawrth, bu y Parch Robert Griffith, o Madagascar, yn rhoddi an- erchiad ar ran Cymdcithas Genhadol Llundain, o dan nawdd yr Annibyn- wyr. Y llywydd ydocdd y Parch W. Keinion Thbmas, Porthaethwy, a chafwyd sylwadau gan y Parch W. Roberts, Plas Eryl. Cafwyd cyfarfod da ac adeiladol. Jumbie Sale. Prynhawn Iau yn Festri Elim cynhaliwyd y "jumble sale" flynvddol y Merched. Dacth deithas Ddirwestol y Merched/ Daeth nifer tra luosog ynghyd, a derby ni wyd swm svlweddol. yr hwn oedd at gnon- fa y Gymdcithas ynghydag at y "Snowdrop Band." Cymdeithas Lenyddol. — Yn Bryn Menai (M.C.), nos Iau, cafwyd papur gwir dda a llafurfawr gan Mr John Williams, Augusta Place, ar "Y gwar hanol gyfnodau yn hanes addysg yr ardal," a siaradwyd ymhellach gan Mri Thomas Williams, i. Boston Ter- rsee; Owen Jones, Blish Farm; ac Owen Thomas, Sea View. Y llyw. ydd ydoedd y Parch J. E. Hughes, 13.A" B.D. Cyfarfod YN-gol.-Y Saboth-di"-edcl. af, yng nghapel Bethania. (M.C.), cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol Dosbarth Dinorw ig (Rhan Isaf), o dan lywydd- iaeth -Ilr Thomas Rees Owen, Glas- gocd. (Llywydd y Dosbarth). Caf- wyd adroddiad tra, boddhaol o haneg- ysgol Bethania gan Mr W. T. Davies, Gwyndre (arolygvfr yr ysgol). Yna cafwyd papur galluog gan Mr John Williams, Disgwylfa, ar y testun am- serol "Rhwymedigaeth aelodau eg- Iwysig i fod yn fwy ffyddlon i'r Ysgol Sabothol," a chafwyd sylwadau gwresog gan y Prach J. E. Hughes, B.A., B.D., Bryn Menai (Arholydd y Dosbarth). Yn nghyfarfod y pry- nhawn arholwyd! y gwahanol dô.os-¡ barhiadau, a chanodd y plant amryw o weithiau o dan arweiniad Mr J. O. Jones, Morancdd. Caed Cyfarfodf Ysgol da a llewyrchus.
GARN DOLBENMAEN. ....-.
GARN DOLBENMAEN. urwg gennym gotnodi marvvolaeth Mr H. Eryri Jones. Ceir y many-l- ion yr wythnos nesaf.
GROESLON. ,...........".
GROESLON. uwaei.—Larodd y Parch E. Arfon Jones, Brynrhos, ei daro yn wael yn angladd y diweddar Alafon, y Sad- wrn ond nid oedd yn teimlo yn dda cyn hyn, a methodd a mynd i'w gy- hoeddiad y Sul, yr oedd yn ei wely. Adferiad buan iddo. Yr Alwad.-Aeth David Williams, Bryngorwel, i Fangor, y Sadwrn, i ateb i'r alwad fihvrol. Efe yn unig oodd yn cychwyn o'r Groeslon. Daeth gair iddo gael ei anfon i Wrecsam. Gobeithio y goreu iddo. Mae ein cydymdeimlad a'r tad yn ei waeledd, a'i farn druan. Cantata.- N os Ian nesaf perfformir cantata "Plant yr Ysgol" yn Gosen- dan arweiniad y gweinidog, Mr Wal- ters. Mae uifer fawr o docynau wedi eu gwerthu, a ehwestiwn yr arwein- ydd yw pa le y cant le. Mae canmol mawr arnynt.
LLANAELHAIARN.
LLANAELHAIARN. Marw a Chladdu.-Bore Mawrth bu farw yr hen chwaer Mrs Laura Mor- ris, Pwll March gynt, yn 84 mlwydd oed. Priod i'r diwcddar flaenor vn Cwm Coryn, Mr Owen Morris, Pwll March, ydoedd. Wedi marw ei phriod, symudodd at ei hunig ferch, Mrs Williams, Murcyplau, Llangybi, lie y bu hyd y diwedd. Yr ocdd yn enedigol o'r cylch. Yr oedd o ran ei chymeriad yn wraig dawel, ddistwT, a'i myfyrdod ym mhethau ma\\T cref- ydd, ac yn meddu ar brofiad neillduol, a difyr fyddai cael bod yn gwrando ami yn ei gwely, lie y bu yn orwedd- iog am ddwy flynedd o amser. Pry- nhawn Sadwrn hebryngwyd ei gvvedd. illion i fpiwent Llanaelhaiarn, i or- weddle ei phriod. Gwasanaethwycf wrth y ty gan y Parchn Thomas Wil- liams, Capel Helyg, a Wm. Lewis, Llanaelhaiarn, ac ar lan y bedd y; Parchn Jones, Llanaelhaiarn, a Da- vies, Llanarmon. Cydymdcimlir a'i merch a'r tculu Iluosog.
DOS, GWEITHIA.
DOS, GWEITHIA. Yr oeddwn un diwrnod ar allt y mo: Yn ceiblo drain ac eithin, A'r gwynt o'r gogledd chwy 'iai'ii -tr A'r winrew ar bob gewin; Gofynais y cwestiwn i mi Ty hni;, "Pa beth yn awr a'm cynhi s.i*" Swn y gwynt atcbai yn flin. "Dos, Gweithia." Ffwrdd a mi at y gaib, Ccibiais er winrew a rli-.wvnt, Codwn ffrwyth melldith Adda o'u sail, Chwysais trwy'r ynidrech a'r hel- ynt; Cofiaf y cyngor, cyngor heb ail, "Dos, Gweithia." Ti, y Cristion, rhynu yr wyt, Crynu nes cura dy ddancdd; Cura. dy arau dinerth ynghyd, Symud, neu rhewi fydd diwedd; Fedd y byd i ti un tan Cymwys i dy gymala; Yr wyt i gynhesu dy hun ar wahan^ "Dos, Gweithia." Drain a mieri ddigon y sydd, Huliant lioll wyneb y ddaear; Dypia dy waith, tynu yr oil, Trwot y mae Duw yn darpar Creu y ddaear o'r newydd i gyd,, Adfer holl deulu Adda, Ni wna bcbot-eofia o hyd- "Dos, Gweithia." Gweithio bu'r Iesu trwy ei oes, f Chafodd E' groeso end bychan f Twymno wnaeth Pctr wrth dan gle, Llosgodd ci wadnau druan; Llosgi m-lici dithau vnghwmni'r byd, Wylo ddaw o dy segura, Cofia y genad, cofia o hyd, "Dos, Gweithia.
Slyl)D IACttt" iL I)A,"&.…
Slyl)D IACttt" iL I)A,"&. CARN YR EBOL gan Griffith Owen, Caernarfon, ydyw ei lcxi yn rnyddhau y pR!egmr ac yn cilio pocn y t'rest. I'w gael mewn poteli rs 2C yn y Siopau. Druggist; gvdn'r post. is 6c.