Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
DYDD MERCHER.
DYDD MERCHER. GERMANI A RUMANIA. I Dywed adroddiad o Milan mai'r I farn gyffrediliol i-newiicylehoedd Ital- aidd ydyw y bydd Germani yn fuan yn gwneud mudiad yn crbyn Ru- mania. Credir mai i'r pwrpas o bar- lvsu Rumania y macnt wcdi cau v cyffiniau Bwlgaraidd, ac wcdi anfon; cymaint o filwyr i Monastir. Dywed adroddiad o Bucharest gyhocdclwyd: yn Pa-ris fod cludiad y glo bvvrcaswyd yn Rwsia yn cael ei gario allan gyda •chyflymder anarferol. — x — Y FFRYNT GORLLEWINOL. I Tan belcniadau a ffrwydriadau mwnfaol sy'n ffurfio y prif bcth ar y ffrynt gorllewinol ddoe. Hysbysa y Pencadlys Prydcinig am fywiogrwydd magnelyddol ofnadwy oddiamgylch Hooge, a thanbeleniadau rhwng yr Ancrc a'r Sommc. Ar y ffrynt Ffrcngig, bu y brwydro magnelyddol yn Artois, ger Neuvillc St. Vaast, yn hynod fifyrnig. Taniodd y gelyn dair o danbelcnau ar Belfort. x NERTH RWSIA. Mae'r Gweinidog Rhyfel Rwsiaidd I wedi cyhoeddi ffeithiau tarawiadol ynglyn a nerth Rwsia mewn dynion ac arfau. Mis Mai diweddaf yr oedd y safle yn beryglus, gan y gorfodwyd i'r byddinoedd Rwsiaidd encilio am nad oedd ganddynt ffrwydbelenau. Heddyw mae hyn oil wedi diflanu. Mae yna ddiwygiad wedi cymcryd lie mewn gwlicuthuriad arfau, tra mae'r byddinoedd yn y gwahanol feusydd wedi cad eu cryfhau yn aruthrol. Mae'r safle heddyw yn berffaith foddhaol. i I —: x: — YN MESOPOTAMIA. I Hysbyswyd o Delhi na fydd i'r I ?yogreir?yr encilio o Kut-el-Amara, ] ?M eu bod yn ystyricd y He yn sa?c I gwir bwysig. Bwriedir gweithred- T-adau y Cadfridog Aylmer i gynorth- wyo y Cadfridog Townshend yn Kut. —: x: — I HIRAETHU AM HEDDWCH. J Dywcd Dr Halvadan Koht, proffes- wr yn Norwegian Nobel. Institute, yr hwn sydd wcdi dychwelyd i Christiana ar ol arosiad hir yu-Ger- mani, fod yr lioll wlad yn hiracthu I am heddwch. Tra mae pawb yn ystyried fod Germani yn ddiogel, meddai, mae'r holl wlad wedi dod i'r penderfyniad na allant orchfygu eu :gelynion, yh enwedig Prydain Fawr. X: I AMERICA A GERMANI. j AMERICA A GERMANI. í Hysbysir yn answyddogol o Wash- ington fod y safle ynglyn a'r Lilsi- tania yn bur foddhaol, a'u bod yn dis- gwyl y bydd iddo gad ei setlo yn fuan. Gwnaed y sylwadau hyn ar I derfyn cynhadledd rhwng yr Ar- lywydd Wilson a Mr Lansing. Iae'r Wasg yn Efrog Ncwydd yn hynod ffymig am en bod yn bwriadu rhoddi i mewn i Germani. -:x:— 1 GROEG A BWLGARIA. Dywed adroddiad o Sofia fod Gweinidog Groeg dros Bulgaria, ar ol arosiad hir yn Athens, wedi dych- welyd yn ol, ac y bydd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda M. Ruda- slavoff, gyda'r amcan o setlo cwes- tiynau pwysig rhwng Groeg a Bwl- garia. x: METHIANT BAD TANFORAWL. Cyhoeddir gan y Morlys Ffrcngig fod gwiblong Brydeinig a thorpedo- boat Ffrengig wedi cyfarfod pcdair o ddistrywyddion i'r gelyn yn yr Adriatic. Taniwyd arnynt, ond ffoisant tuagat Cattara. Y diwrnod dilynol drachefn tuallan i Durazzo ceisiodd bad tanforawl i'r gelyn suddo y wiblong Brydeinig, ond methodd ei thorpedo. Erlicliwyd y bad tan- forawl, ac ni fu yn alluog i adnew- yddu ei hymoeodiad. —: X — YN PERSIA. j Yn ol adroddiad o Gaergystenyn, mae'r Rwsiaid wedi eu gorchfygu gan y Persiaid ger Muenzil, ar ol bod yn ymladd am ddau ddiwrnod. Cy- merwyd 600 o garcharorion, ynghyda chyflenwad rhagorol o arfau. Ni wneir unrhyw gyfeiriad at hyn yn yr adroddiad Rwsiaidd. X: HAWLIAD GERMANAIDD. Cyfaddefa yr adroddiad swyddogol Germanaidd eu bod yn lie y Somme nos Lun wedi ymosod ar Poperinghe, ac ar wersyll Prydeinig rhwng y lie a Dixmude, ond er i awyrwyr y Cyng- reirwyr ymosod arnynt, eu bod wedi dianc yn ddianaf. Ni chrybwyllir am hyn yn yr adroddiad swyddogol Prydeinig. — • u —■ ADGYFNERTHIADAU NEW- YDDION. HJysbysiri gan Amsterdam fod llawer o gl wyfedigion yr wythnos ddiweddaf wedi cyrraedd yn Bruges o'r Yser. Alac cyflenwad mawr o arfau ac adgyfncrthiadal1 yn cyrraedd yn y lie yn ddyddiol. Mae amryw o'r catrodau wersyllai yng ngogledd Fflanders wedi eu symud yn ncs i'r ffrynt. o: — GYDA'R RWSIAID. Yng nghymydogaeth Riga, atebodd y. magnelwyr Rwsiaidd yn effeithiol i holl ymosodiadau y Germaniaidi. Rhwng Llynoedd Medmuss a Dem- men, ccisiodd y Germaniaid fyned i mewn i ffosydd y Rwsiaid, ond atal- iwyd hwy. Yng ngogledd-orllewin Tarnapol, meddianodd y Rwsiaid ych- ydig o safleoedd yr Awstriaid, a chyf- addefir hyn gan adroddiad Amster- dam. —: X :'— YN Y MOR DU. Yn y Mor Du tanl>elenodd Llynges I Rwsia yn effeithiol ar safleoedd jT Twrciaid ar y glannau Anatolaidd. Ymosododd bad tanforawl Twrcaidd arnynt, ond afl-,vy(ldianliu-, fu. Ym- osododd awyrwr Rwsia ar agerlong fawr oedd yn angori yn Zungaldak. Yn ystod yr ychydig ddyddiau di- weddaf suddwyd 40 o longau hwyliau Twrcaidd yn y lie hwn. -:0:- Y BFRYNT ITALAIDD. Y bvwiogrwydd magnelyddol ar- ferol fu y prif beth ar y ffrynt Ital- aidd ddoe. Ymosododd y magnel- wyr Italaidd yn llwyddiannus ar or- safoedd Caldonazzo a San Pietro, yn ne-ddwyrain Gorizza. Gollyngodd awyrwyr y gelyn ychydig o ffrwyd- belenau- ar Borgo a Castel Telvana, yn Nyffryn Lugana, ond ychydig o ddifrod wnaed ganddynt.
Advertising
ACROSTIC. E DMONDSON'S Grand Toffee and Sweets are really quite the best. DECIDEDLY they're ptre, all can rely, M ADr,, with greatest care, and long years, have stood the test, 0 F best ingredients only, they employ. NOTED for their "Value" and sold for miles around, QELIGHTING both the young as well as old, SWEETS that you can relish, all so good and sound, QNE quality "The Best" is only sold, NOURISHING the Toffee is Ideal," in more than name, & WITH Pennies children, both the weak and strongest C ALL they do for Fdmoudsoti^, the Toffee tnat's won fame, > o BSERVE they Jo. its bast and lasts the longest. F. X. M.
DYDD IAU.I
DYDD IAU. I I YMOSODIAD ARALL AR LOEGR. Ddoe, ymwelodd dwy seaplane Gei-manaidd a glannau Caint, a goll- yngasant saith o ffrwydbelenau yng nghymydogaeth Ramsgate a Broad- stairs, ond yn ol yr hysbvsiadau sydd i law, ni chlwyfwyd ond dwy ddynes ac un plentyn ganddynt. Syrthiodd rhai o'r ffrwydbelenau mewn meusydd ac ni wnaed unrhyw ddifrod difrifol ar eiddo gan yr un ohonynt. Darfu iddynt ffoi cyn i'n hawyrwyr eu cyr- raedd. • O CYFADDEFIAD GERMANAIDD. Hysbysa y Pencadlys Prydeinig fod ein milwyr yn neheubarth Fosse 8, wedi tanio mwnfa ar ol brwydr gyda Hpanel grenades" a "trench mortars," ein bod wedi nieddianliu y "crater." Dywed yr adroddiad swyddogol Ffrengig iddynt atal ymosodiad Germanaidd yn ne- orllewin Hill 140, yn Artois, ac fod y gelyn wedi tanbelenu Bclfort eto. Hawlia y Germaniaid eu hod wedi rhuthro ar linell gyntaf ffosydd y Ffrancod ar ffrynt o 800 metres, ond cyfaddefant fod y Ffrancod wedi derbyn llwyddiant yn neheubarth y Somme. —: x: — I YN Y BALKANS. -1 Hysbysir yn swyddogol o Berlin fod y Brenin Ferdinand, Bwlgaria, M. Radoslavoff, Prif Weinidog, a'r Calfridog Iekoff wedi cyrraedd y Pen- cadlys Germanaidd. Mae Herr Von Bethmann-Hollweg wedi gadael Ber- lin am y Pencadlys, er mwyn bod yn bresentiol yn y cynhadleddau sydd i'w cynnal yno. RUMANIA. 1 Dywed adroddiad O: Rhufain i un o newyddiaduron Paris fod ansic- rwydd agwxidd Rumania yn parlysu yn llwyr weithrediadau milwrol yr Awstro-Germaniaid yn y Balkans. illac Bwlgaria yn ymdrechu i sicrhau diogelweh ei chyffiniau yn y gogledd, ac wedi datgan talaith Rustchuk fel cylch rhyfel. Hysbysa adroddiad swyddogol o Corfu, y cyntaf dder- byniwyd ers peth amser yn ymwneud a"r fyddin Serbiaidd, fod y Serbiaid wedi gorchfygu yr Awstriaid yn Albania ar ol brwydr ffyrnig. -:0:- LLWYDDIANT Y RWSIAID. Hysbysir gan Petrograd fod y Rws- iaid yn Galicia, yng ngogledd-or- llewin Zaleczchiki, wedi meddiannu Uscieuko, a'u bod wedi cyrraedd glannau y Dniester. Yn y Caucusus gyrrodd y Rwsiaid v Twrciaid o am- ryw o'u safleoeddyng nghymydog- aeth yr afon Arkhawe. I YINIDDISWYDDIAD CADFRIDOG. Hysbysa. Ysgrifennydd y Swyddfa I Rhyfel fod y Cadfridog Syr Horace I Smith-Dorrien wedi rhoddi i fyny j ei lywyddiaeth yn Nwvreinbarth j Affrica, ohcrwydd fod ei icchyd wedi 1 1\1' l' °d c' torn i lawr. Mae'r Cadfridog Smuts-j 1 -1 f1 i'r hwn y cynnygiwyd y safle ym mis Tachwedd diwe<ldaf. wedi der- byn yr — :X: — YMOSODIAD AWYROL. Yn ol adroddiad o Petrograd, ym- osododd awyrwyr Rwsiaidd ar Zun- guldar dydd Mawrth. Gollyngasant ffrwydbelenau ar long fawr oedd yn y porthladd, a gwnaed difrod difrifol ganddynt ar y glannau, ac ar longau, oedd vn angori yn y lie. Er i'r gynnau awyrol danio yn drwm ar- nyut, Uwyddodd yr awyrwyr i ddianc ) va ddianaf. HAWLIAD AWSTRIAIDD. I Hawlia adroddiad o Amsterdam fod y milwyr Awstro-Germanaidd oedd yn gweithredu yn Albania wedi; croesi yr afon Im, a'u bod wedi medd. iannu uchelderau Presija. Hawliant hefyd fod y Serbiaid wedi gwrthod rhyfela, a'u bod wedi ffoi. Hawl- iant hefyd fod eu hawyrwyr yn par- ttaiu i ymosod yn llwyddiannus ar Durazzo, a'r agerlongau Italaidd sydd yn y porthladd.
Advertising
0. r • ■ INCREASE YOUR INCOME By Reducing your Expenditure. REX-KOLSAVO The Original Preparation. HALVES YOUR COAL BILL. A Is Tin Treats I Ton. Ask your Dealer for a 3d Sample Packet, or direct from KELLY BROS.. LLANDUDNO. Post free Is 3d per Tin. MANUFACTURED BY REX IMPORT CO., LTD., -GLASGOW.
- .... - DYDD GWENER
DYDD GWENER GYDA'R RWSIAID. I Dengys adroddiadau o Rwsia y pwysigrwydd o gvmeryd Uscieski a chroesiad y Dniester, yr hwn, medd- ant, sydd yn ganlyniad gwaith ys- blenydd, gan fod dwy ochr yr afon yn cael eu hamddiffyn gan alluoedd ar uthrol. Yn Persia mae'r Rwsiaid yn parhau i syinud ymlaen, ac yn erlid y Twrciaid o'u blaen. o: HAWLIAD AWSTRIAIDD. Hawlia yr adroddiad Awstriaidd eu bod wedi atal holl ymosodiadau y Rwsiaid yn Galicia, ac fod brwydro ffjTnig yng ngogledd-orllewin Tarna- pol wedi troi allan yn ffafriol iddynt hwy. Hawliant hefyd fod eu mag- nelwyr wedi bod yn hynod o iannus ar ffrynt Bessarabia. 0: EIN HAWYRWYR. Hysbysa y Pencadlys Prydeinig fod 18 o'n hawyrlongau wedi ymosod yn llwyddiannus ar wersyll y gelyn yn Terhand, tua wyth milltir i ddwyjreinbarth Ypres. Niweidiwyd amryw o'r pabellau ganddynt, ac er i ynnau awyrol y gelyn danio yn drwm arnynt, diangasant yn ddianaf. 0: YN FFRAINC. Methodd mwnfa i'r gelyn ger Giv- enchy a niweadio ein llinell. Bu magnelwyr y gelyn yn hynod fywiog mewn amryw leoedd yng nghymyd- ogaethlau yr A-ancoe a'r ^Somrnje. Tanbelenwyd Poperinghe ac Elver- dingle ganddynt hefyd. Dywed yr adroddiad swyddogol Ffrengig eu bod wedi atal yn llwyr ddau ymosodiad Germanaidd yng ngorllewinbarth Hill 140, yn Artois. Ynglyn ag YiIll- osodiadau eraill, hawlia y, gelyn eu bMwcdinieddiannu amrywoSosydd y gelyn ger Vimy, ac hefyd "crater" I ger Neuville. -:0:- AGWEDD GROEG. Cadarnhaodd Prif Weinidog Crocg yn y Senedd ddoe benderfyniad y Llywodraeth i barhau yn i amhlcid- iol. Wrth gyfeirio at feddiant Kara Burnu a Corfu gan y Cyngreirwyr, dywedodd na fuasai unrhyw fesilr gorfodol yn gallu newid penderfyniad y Llywodraeth. Hysbysir yn swydd- ogol o Berlin fod y Caiser wedi dweyd y gellid ystyried ymweliad y Brenin Ferdinand fel prawf o gyfeill- garweh sy'n bodoli rhwng y ddwy wiad. i —: x: RHYFEL AR BLANT. Dengys gwybodaeth ychwanegol ynglyn a'r ymosodiad awyrol ar Ramsgate a Broadstairs fod y sea- plane gyntaf wedi ceisio gollwng ifTwydbelen ar dram oedd yn llawn wragedd a phlant, 011 a methodd a gwneud unrhyw niwed iddynt. Darfu i'r ail daflu pcdair ffrwydbelen at ysgol genethod fawr. Aeth un trwy y to, a ffrwydirodd, gan niweldio geneth fach a morwyn. J -:0:- CYHUDDO PRYDAIN. Gwnaed cyhuddiad arall yn erbyn Morlys Prydain gan Lywodracth Germani, fel canlyniad i suddiad en badau tanforawl. Mewn Nodyn i wledydd anihleidiol, dywed Berlin fod llongau trafnidiol Prydain wedi eu hrirfogi gan v Morlys, ac fod y llongau hyn, nid yn unig wedi gwrthsafiad i longau rhyfel Germani, ond wedi ymosod arnynt heb betrus- der, ar yr un pryd yn clnvifio banerau twyllodrus. Dywed y Nodyn fod 19 o achosion o hyn wedi cymeryd lie rhwng Eln-ill II, 1915 a. Ionawr 17, TQI6. DINISTRIO YSTORDAI ARFAU. I Yn ol yr adroddiad swyddogol o Paris neithiwr, tanbelenodd y mag- nelwyr Ffrengig yn effeithiol ar saf- leoedd y gelyn yng nghoedwig Mort- mare, yn y Woevre. Dinistriwyd amryw o ystordai arfau ganddynt. Fel canlyniad i frwydro gyda "hand grenades" llwyddodd y Ffrancod i yrru y gelyn allan o'u safleoedd yng ngorllewdn La Fosse. Nid oes dim pwysig i'w hysbysu o unman arall ar y, ffrynt Ffrengig. x: YMOSODIADAU AWV-,ROL. i Hysbysa adroddiad o Ghent fod awyrwyr y Cyngrein\yr wedi bod yn hynod fywiog. Er Chwefror 3ydd, 1 ymosododd 47 ohonynt ar wersyll- oedd y C-emaniaid yii Houlthurst, gan achosi difrod difrifol. Mae cyflwr poblogaeth Roulers a Thorout yn myned yn fwy difrifol bob dydd. Mae arny-nt ofn ymosodiad awyrol, ac oherwydd hyn, mae cynnwrf yn bod- oli yn y ddwy dref.
...-I DYDD SADWRN.
DYDD SADWRN. HAWLIAD GERMANAIDD. I Hawliodd y Morlys Germanaidd ddoe eu bod wedi suddo y wiblong Brydeinig newydd Arabis ar y Dog- ger Bank, a'u bod wedi torpedio gwiblong arall. Dywcd hefyd fod y llongau rhyfel Prydeinig wedi ffoi pan welsant eu distrywyddion hwy. Rhydd y Morlys Prydeinig wedd arall hollol ar y "fuddugoliaeth" ffugiol hon, a dywed mai "mine-sweepers" ydocdd y gwiblongau, ac fod tair ohonynt wedi dychwelyd i borthladd. Dywed adroddiad Berlin eu bod wedi achub y capten, dau s\vyddog arall, a 21 o ddynion -o'r wiblong. X: YN FFRAINC. Hysbysa y Pencadlys Prydeinig cin I bod wedi ffrwydro tair o fwnfeydd yng ngogledd Cameo, un yn neheu- barth Fosse 8, a'r llall yng ngogledd- ddwyrain Givenchy. Bu magnelwyr y gelyn yn hynod fywiog yng ngog- ledd Albert, gogledd Loos, ac oddi- amgylch yr Ypres. Tanbelenasant hefyd ar Armentieres ac Elverdinghe. —: x: ADFEDDIANNU FFOSYDD. Dywed adroddiad o Paris fod y Ffrancod yn ne y Somme wedi ad- feddiannu rhai o'r ffosydd gymerwyd gan y Germaniaid ar Chwefror 8fed. Ceisiodd y gelyn eu cymeryd yr ail waith, ond ataliwyd hwy gan y Ffrancod, a dioddefasant golledion ttymion. Yn Champagne, bu y Ffrancod-^yn hynod Iwyddiannus. Cymerdsant animv o'r gelyn yn gar- charorion. —: x — Y DWYRAIN. Yn ol adroddiad o Rhufain, agwedd f-ygythiol Rumania ydyw y prif beth dTafodir yn y gynhadledd yn y Pen- cadlys Gcrmanaidd rhwng y Bwlgar-- iaid a'r Germaniaid. Dywedir hcfyd fod y gelyn wedi rhoddi eu gobaith i fyny i ymosod ar safle y Cyngreirwyj- yn Salonika. Hysbysa adroddiad o Salonika fod y milwyr Bwlgaraidd yn dioddcf caledi mawr. Nid oes gan- ddynt otid ychydig iawn o fwyd ar eu cyfer. — x Y DARDANELLES. Cyfaddefa adroddiad o Amsterdam fod gwiblong i'r Cyngreirwyr dydd Mcrchcr tuallan i Jeni Schekir wedi tanio pump ó ffrwydbelenau ar eu saf- leoedd yn Tckke Burnu. Atebodd eu magnelfeydd ar y glannau Anatol- aidd yn ol iddynt, ac enciliodd y wib- long i Imhros. Nicl oes dim pwysig long i lml)ros. .? arall i'w hysbysu o unman ar ffrynt y Dardanelles. GYDA'R RWSIAID. Iac Llynges Rwsia yn parhau i ymosod ar safleoedd y gelyn ar y glannau o'r Moi* Du. Yn y Caucus- us parha y Rwsiaid i symud ymlacn. ac ataliwyd holl ymosodiadau y gelyn ganddynt yn y lie. Byr fel arfer ydyw adroddiad Vienna. Hawliant eu bod wxxli atal vmosodiadau y Rws- laid ar yr holl ffr\-nts. ———— -eip, ————- I fyny i ddiwedd Ebrill diweddaf. gwariwyd 7.750P 3-000,000 o,hys- hyslen; rhyfd.
I"I-,: .Y FYDDIN GERMANAIDD.I
"I-, Y FYDDIN GERMANAIDD. I A Aiff ar Streic? I Mae'r bobl sydd mewn cyffyrddiad a'r fyddin Germanaidd a'r rhai sy'n gwybod am yr amgylchiadau mae'r wlad ynddynt, wedi bod yn tAfod y posibilrwydd o'r fyddin fyned ar streic, neu mewn geiriau eraill wrth- od ymladd yn hwy. Heddyw, cy- merir i mewn i'r fyddin Germanaidd hen ddynion oedranus, y rhai mewn amseroedd cyffredin fuasai'n cael eu gwrthod fel yn anghymwys. Can- fyddwyd llvthvr ar garcharor gymer- wyd gan y Ffrancod yn ddiweddar, y 11 yr hwn yr oedd hanes mil-tn-r wedi cael ei anfon i'r ffr yrt, er yn dioddcf oddiwrth y darfodedigaeth, ac am un arall wedi ei gymervd i mewn i'r fyddin er yn gloff. Pan gymerir hyn i ystyriaeth, ceir rheswm digonol dros drafod y posibilrwydd o'r fyddin Ger- nianaidd fyned ar streic. Ceir ar- wyddion yn dangos fod yna lawer iawn o anfoddlonrwydd ymysg y 11111- wyr, ac nid y lleiaf ohonynt yr addew- idion mynych wneir gan y Caiser a'i gynghorwyr, sef na fydd i'r rhyfcl barhau yn hir. Bron mor bwYSlg a hyn ydyw cynnydd y Mudiad Heddwch yn Germalo, Alac hyn yn arwydd, er eu bod yn ymffrostio eu bod yn cael cymaint o lwyddiant, eu bod wedi blino ar ym- ladd rhyfel, diwedd yr hon ni allant ragweled. Arwydd arall ydyw gy- mamt o'r milwyr sy'n dianc o'r fydd- in ar y ffrynt gorllewinol yn ddydd- iol. Ni raid i'r Cyngreirwyr ond aros dan y diwmod y bydd y milwyr Germanaidd yn rhoddi eu harfau 1 lawT, ac ni fydd hynnf yn hir.
ARIANDY LLOYDS.I
ARIANDY LLOYDS. I Cynhaliwyd y deunawfed a deu- gain cyfarfod cyffredinol Cyfran-ddal- wyr yr ariandy hwn dydd Mercher Chwefror ail, 1916, yn y Grand Hotel, Colmore Row, Birmingham, 0 da.n lywyddiaeth Mr R. V. Vassar-Smith. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn Y cyfarfod blynyddol diweddaf wedi dweyd pa fesurau ineddyg-,iniaethol gymerid i gyfarfod a'r anhawsterau ariannol achosir gan y, rhyfel. Prof- odd hyn yn werthfawT lawn, gan y galluogwyd ni i ddadn-s problemau 1915 gyda rhwyddineb, ac heb lawer o betrusder. Ar ol delio gydag am- ryw faterion yn y Balance Sheet, dy- wedodd fod yr adroddiad yn delio yn gyntaf gyda'r proffid. Canfyddwch, gyda'r 250,ooop bleidleisiwyi y Hyuedd, y bydd buddsoddiadau yr Ariandy yn 66o,ooop. Bu y eyfneiv- idiadau yn anhawdd dros ben yn ys- too y flwyddyn, ac achosasant lawer o bryder. Pris cyffredin y Cyfnew- idfeydd Americanaidd yw 4 dolar 86 06111 • Yn fuan ar ol toriad allan y rhyJeI" cododd yn gyflym nes cyr- raedd 6 dolar- 50 cent. Ar ol hynny aeth yn llai, nes o'r diwedd yr aeth mor isel a 4 doler 51 cent. Yn ystod y flwyddyn agorwyd ychydig swydd. fcydd, y rhan fwyaf ohonynt yn ang- enrheidiol at angenion milwrol. I fyny i'r adeg, presennol, inae 5 o'n rheolwyr a dim llai na 1,662 o'n gwas- anaethyddion wedi gadael am wasan- aeth milwrol. Dengys hyn fod 53 y cant o'r rhai sydd yn gymwys wedi nyned. Mae rhai craill ar fedr tnyiid, a chyn hir byddwn yn gallu dweyd fod yr Ariandy yn cael ei gyn- rychioli gan ddwy fataliwn. A gwnant filwyr da hefyd. Mae tua 39 wedi eu lladd, ac 86 wedi eu chvyfo. Anrhydeddwyd amryw ohonynt hefyd am wroldeb yn y ffrynt. Ar wahan i hyn, yr ydym yn parRau i dalu y gw-ahaniaeth idd- ynt yn eu cyflogau yn y fyddin; a'u cyfllgau tra yin. ein gwasanaeth ni } cvm.). Mae cwestivnau yn ym- wneud a safle ariannol a masnachol yr Ymerodraeth ar ol y rhyfel yn cael sylw difrifol. Nid yn unig mae ar- nom eisiau cadw ein safle ariannol bresennol, ond mae amom eistau ei earign, ac ar yr un pryd ddwyn oddiar y gelyn y busnes arferid gael ei gario ymlaen ganddynt hwy, yr hwn ddylai berthyn i ni. Cynnygiodd fod i'r adroddiad gnel ei dderbyn, ac yn unol ag argymhelliad y Rheolwyr, cu lxxi yn datgan dividend am yr hanner blwyddyn yn diweddu Rhagfyr 31 0 14s 6c am bob cyfran, sef yn ol 18 1-8 y cant y flwyddyn ar gyfalaf y cwm-. n i hyn i fod yji daladwy ar neu ar 111 1V11 1 r yp a ro'J, 11' Dreth ol Chwefror iaf, yn llai na r Dreth Ineumi (cym.). Ktliwyd y cynoygiad gan Mr J. W Beaumont Pease, yr is-gadeirydd, a phasiwyd yr adroddiad yn unfrydol, ac ail-etholwyd y Rheolwyr a'r Ar- chwilwyr'. Pasiwyd penderfyniad yn caniatau  cvnnvddu y Rheolwyr o 20 i 24. I
[No title]
Cyfanrif yr Esgobion sydd gan Eg- lwys Loegr ydyw 38 a 2 o Arcliesgob. ion.
BYD LLAFUR.
BYD LLAFUR. (Gan BRUTUS). Gweithwyr New Zealand. Ymddcngys fod gweithwyr New Zealand yn datgan yn groew a phen- dant iawn yn erbyn pob ffurf ar was- anaeth orfodol. Cafwyd cyfarfod mawr yn Wellington yn cynrychioli Undebau Llafur a Llafurwyr eraul, a chondemniwyd yr ymgais at gael milwriaeth orfodol, gan hawlio y bu- asai gorfodi cyfoeth fel y cynllun mwyaf effeithiol i gyfarfod a'r am- gylchiadau sy'n codi allan o'r rhyfel. Mae "y "Maoriland Worker" yn dweyd y dylai Sosialwyr a gweithwyr eraill yr Y merodraeth Brydeinig hawlio i'r Llywodraeth Brydeinig "nodi telerau heddw ch a datgan yn glir beth y l11ae'n ymladd drosto." —: X — Gweithwyr Ffrainc. Nid yw y rhyfel yn rhwystro i weithwyr trefnedig Ffrainc geisio gwella eu hamgylchiadau. Yr ydym yn cael ar ddeall fod holl Undebau Gweithwyr y Rheilffyrdd yn hawiio codiadau yn eu cyflogau oherwydd y codiadau ynglyn a chostau byw. Mae y safon ofynir yn hawliau codiad sydd yn rhedeg i fyny mor uchel a 40 y cant. Nid dynion i'w tarfu ar ychydig ydynt, a bydd raid gwrando ar eu llef, neu ddioddef y canlyniad- au. Mae'r Undebau yn fyw i'w hawliau, ac yn barod i'r ymdrech. — X — Mr R. Smillie a Gorfodaeth. Cafodd Mr R. Smillie dderbyniad calonnog y dydd o'r blaen yn Glasg- gow, a dywedodd bethau cryfion iawn yn erbyn y Mesur Gwasanaeth Gor- fodol. "Rhaid i ni, I I mcddai, "wneud ein goreu i'w symud oddiar ddeddflyfr ein gwlad." "Yr oedd yn ddamniol fod dyn fel Ar- glwydd Derby, yr hwn na aberthodd yr un acer o'i dir er cychwyyiad y rhyfel, yn alluog 1 ddweyd wrth V .gweithwyr 'deuweh, neu fe ddeuaf i'ch nol chwi,' a synai na fuasai dat- ganiad o'r fath yn cael DlWY o \\Tth- wynebiad." "Yr oedd. gweithwyr y Clyde yn teimlo fod bodau dynol yn fwy pwysig na dim byd arall, ac y maent yn credu y dylid gorfodi cyfoeth cyn gorfodi cnawd a gwaed. Fel y dywed try- sorydd Pwyllgor GweithWYT y Clyde: 'Rhoddwch i ueitha-it yr ynys lion dir i ymladd drosto, ac ni allai y Prw-siaid na neb arall ei gymenxl oddiarnynt.' Y Sutheflands a'11 liil sy n parhau i berchenogi Ysgotlarid, a thra parha eu perchenogaeth bydd HSrfodaeth ein dynoliaeth gael ei ym- ladd i'r diwedd." Y "Forward" i Ymddangos. Y mae'r "Forward" wedi ail ym- ddangos eto wedi bod am bedair wyth- nos o'r golwg. Canlyniad rhwystro ei gylioeddi ydyw chwyddo ei gylch- rediad aniryw filoedd, a bydd i hynny roddi mantais iddo hau hadau gwe- rinia,eth ynghalonnau miloedd mwy nag arfer. Ond nid yw yr hyn wnaed a'r golygydd yn adlewyrchu yn ffafriol ar ryddid ein gwlad, gan iddo ef a'r cyfreithiwr arwyddo ncd- yn sy'n rhwystro rhyddid banI na hawl i feirniadaeth deg ar ddim fo'n gysylltiedig a'r rhyfel. Fe weljr. fod ysbrYd Prwsia yn brysur g^-men-d nieddiant o'n gwlad. — :x:— fenodiad. Llongyfarchwn Mr G. L Wardle, A.S., ar ei benodiad yn ;adeindd Pwyllgor Gweithiol y Bi .i(! Lafur. -,I- yn wr hyfedr, ac Y., d- l y;r a wneud gwasanaeth dda i'r Blvid yu yr a gyfwng hwn. -:0:- Ein Bechgyn fel Coginwyr. Mawrhawn waith Pwyl'gor Addysg Sir CTaernarfou yn paratoi dosbarth- ladau at ddysgu coginiaeth i'r bech- gyn. Mae yn gam i'r iawn gyfeir- iad, a gall roddi cyfle da i fechgyn cunill bywoliaeth gysurus. Dywctlai yr Y sgrifcnnydd fod tramorwyr yn dod i leoedd fel Llandudno fel cogin- wyr a "waiters" ac ennill o 4P i 7P yn yr wythnos. Ni fydd y {"et e nd vn ,'r wvt nos.J ;J- h h "on' n'l do.tn1 dl. 7s yn yr wythnos i gynnal dosha: ih. Hvdenvn y ceir llwyddiant arnc, ac i y gofelir fod y safon yn cael ti dda1 i t 11 '1' fyny ar y naill ochr a'r llall..