Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

YR ACHOSION SEISNIG.

News
Cite
Share

YR ACHOSION SEISNIG. (Gan y Parch D. R. GRIFFITHS, PemBaeamawr) Cymro i'r cam sydd yn ysgrifenu yr ysgrif hon i'r "'Dinesydd Cym- reig," a Chymro wedi ci fagu yn Lloegr sydd yn bwriadu traethu ei len yma, gan gyfarch y Dinesydd a'r Gwladwr gwir Gymreig, ar ol i'r ys- grifennydd fod yn drigianydd yn yr Hen Wlad am oddeutu 40 mlynedd bellach—gan deitliio y 4 sir Ogleddol yn lied lwyr yn ystod y blynyddocdd yma fel pregethwr gyda'r Hen Gorff parchus; yr hyn syckl gymhwyster nid bychan—y trigiad yn Lloegr, a'r trigiad yng Nghymru—i draethu ei syniadau ar yr Achosion a elwir gen- Hym yn Achosion Seisnig, ym Mon, Arfon, a Lleyn ac Eifionydd, a Din- by ch a Fflint fel siroedd. Hen enwad ydyw y Methodistiaid Calfinaidd wedi ci sylfaenu gan Eg- lwyswr ardderchog, olid er hynny yn Gymro i'r gwraidd, sef Hywel Harris, o Drefecca, yn Swydd Frycbeiniog, a hynny yn y isfed ganrif; darllenas- om yn y "Gwir am y Methodistiaid," gan y Parch J. Morgan Jones, Caer- dydd, fod y DiwygiwT ofnadwy yma, yn pregethu yn yr Omeraeg yng Nghaerfyrddin er fod y dref hon yn cael ei chyfrif, yn ol J. M. J,, fel un o'r trekydd mwyaf Seisnig yn amser diechreuad Methodistiaeth1. Cvmry i'r gwraidd oedd Daniel Rowland, o Llangeitho; Thomas Charles, o'r Bala; Thomas Jones, Dinbych a'r lluaws dynion santaidd, nid yn unig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond hefyd gj7da'r Ym- neilltuwyr Cymreig trwy v Dywvsog- aeth. Cymry felly oedd Thomas Phillips, goruchwyliwr y Feibl Gym- deithas, Hengordd; David Saunders, Edward Matthews, Vulcan, Hathercs gyda' rBedyddwyr, a Thomas Aubrey gyda'r Wesleaid. Ie, Cymry gwlad- .garol, yn ddios, oedd Herber Evans, Gwilym Hiraethog, ac Ap Fychan, gyda'r Annibynwyr. Gallem enwi rhesi o bregethwyr, beirdd, llenorion, a blaenion yr hen genedl Gymreig dynion fyddent yn siarad Cymraeg glan gloew ar yr heol, ac ar yr ael- wyd, a heb faldorddi o gwbl yn yr iaith fain, sef y Saesncg, cr eu bod, llawer ohonynt, yn ddigon cyfar- wydd, o amser Hywel Harris i lawr hyd 1860, yn iaith y rhai fu, ar liyd yr oesoedd, ac ydynt yn parhau i raddau fdly hyd heddyw, yl1 erUd- gar a gwawdlyd tuagat ia.itha defion y Brutaniaid Tybiwn pe buasai Eben Fardd lieu Nicander yn adgyfodi o fcirw y dydd- iau yma; tybiwn pe yr ymwelent a Bangor neu Borthaethwy (er eng- raifft) ar Ddydd yr Arglwydd neu ar Ddydd yr Eisteddfod 'Genedlaethol,' mai prin y gallent sylweddoli mai yng Nghymru yr oeddynt, wrth glywed iaith y Sais yn cael ei phar- ablu gan bobl ieuainc Bangor, Porth- aethwy, Caergybi, a threfycld eraill; a phrin y gallent gredu mai Eistedd- fod y Kelt fyddai mewn bri—i'r gwrthwyneb byddai Eben druan, neu Nicander druan, yn barod i feddwl eu bod wedi cael y fraint o adgyfodi rhywie yn Lloegr, mysg y rhai y gwyddent, flynyddoedd yn ob oedd wedi gwawdio a rhegi uchel-wyl y Cymro pybyr! Hawyr bach! Pa gyfrif toddir, mewn difrif, am y cyfnewidiad mawr yma yng Ngwalia Wen, Gwalia Wen oodd,Cyin-rii yr adeg y siaredid iaith I Gomer ar hvyfan Eisteddfod yr Aber- ffraw, Mon, ac ami i lwyfan arall cynt a chwedi hynny yng ngwlad y cewri o. Eifionydd, a gwledydd Myr- ddin a Mynyddog a Ceiriog-cewri oedd y dyddiau hynny mewn hunan- barch a chenedl-barch—dynion fel Dewi Wyn o Eifion, Dafydd Ionawr, Ieuan Gwynedd, Tafolog—yn llawn zel am yr iaith y'u magwyd i'w j pharchu gan rieni. ac erain o'u deu- j tu, ym maboed! Bellach, er ys 30 mlynedd, y mae yn chwith gennym synio fod y Cymro yn y trefydd, ac ami un yn y wlad, yn fwy o Sais nag o Gymro—nid yn unig o ran iaith ond hefyd o ran del- frydau neu ideals; eto, prin y gallwn yn gywir siarad fel hyn am y Sais- addolwr Cymreig, canys addefir gan brif lenorion Lloegr heddyw nad oes ond ychydig iawn ymysg y Saeson heddyw yn meddu delfrydau uchel o gwbl—i'r gwrthwyneb addefir gan ysgrifennydd o fri heddyw yn y "t)aily News" (A. Bennett) fod hyd Y" oed y dosbarthiadau gyfrifir uchaf scneddwyr ac arweinwyr y deyrnas gyda'r rhyfel erchyll ar y Cyfandir- oedd—yn amddifad o wybodaeth am Werth enu gynnwys sciense, neu ^ddoniaeth—mewn gair. yn wrth- Wynebol i addysg deiliaid y deyrnas! Dytna anghysondeb dvbiyd mewn Virionedd, onide? Cymro yn mab- ^siadu iaith cenedl, ar hyn o hrvd, ol tystiolaetb un o'i phnf lenor- ion, sydd yn bagan, neu yn hytrach I yn is na phagan; canys yr oedd I Socrates, Plato, ac Aristotle, er yn Baganiaid, ym awchu am wybodaeth I feddyliol, a gwybodaetB ymarferol o ffeiylliaeth, a'r elfenau pwysicaf mewn natur aniandol Yr un anghysondeb ddadgllddir eto gyda golwg ar sefydliad yr Achosion Seisnig yng Nghymru gyda'r Hen Gorff—yr anghysondeb wedi amlygu ei hun drwy Gymry ystyrid yn uwch- ¡ raddol gan lawer o'r dbarth canol -sef drwy deuluoedtl Cymreig fu yn Lloegr yn trigianu, ond y rhai a gadwent mewn touch ag eglwysi yn yr Hen Wlad; iieu ynte drwy deulu- oedd ocddynt yn byw yng Nghymru ar hyd y blynyddocdd; ond rhyw fursendod anesboniadwy, ond anes- gusodol, yn eu hRrwain i faldorddi Saesneg ar eu haelwydydd yn eu car- trefi uwchraddol a, sumptuous (moeth- us) —canlyniad hyn oedd magu twrr o blant ym Mon, Arfon, a Threfal- dwyn heb fedru parablu iaith ell blaenafiaid cenedlgarol a pharchus! Dyma. wreiddyn, credwn, yr Achosion hyn gyda'r Enwad Cymreig -yr Enwad ewbl Gymreig o ran tarddiad; cr bod yr Ymneilltuwyr yn Gymry trwyadl a selog hefyd yn amser H. Harris ac ar ol hynny, ond eu bod yn priodoli eu dechreuad i efengylwyr neu enwadau Ymneilltuol Ivloegr. Pa fodd y bu i arweinwyr y Methodistiaid gael eu hud-ddenu gan y rlrychfeddwI godidog (?) yma o blanu eglwysi ym -AlheliniaenMiiN--T, Llanfairfechan, Criccieth, Porth- madog, Aberystwytb, Abcrtcifi, Llan_ din am, Binbych, Pwllheli, Porth- aethwy, Blaenau Ffestinoig, a'r Bala (!), nis gwyddom Yr ydym yn gyfarwydd a rhai ohonynt er ys blynycldoeddwedi pregethu mewn rhai ohonynt, ae tnewn craill na enwir yn yr ysgrif ym; ond ofnwn y rhaid cydnabod mai methiant fu y sefydliad yn y cychwyn gyda rhai ohonynt, a'u bod heb adael y cyfnod newydd-anedig eto! Y ma lIa wer o hcthau y carem sylwi arnynt, a chael sylw y wlad atynt, mcwn pcrthynas a'r Achosion estronol yma, ond y mae gofod y "Dinesydd Cymreig" yn galw arnom oedi; ac felly, os yr Arglwydd a'i myn, canlynwn ymlaen gyda'r pwnc diddorol ac amserol yma.

-04I .AMHARTIAETH AMERICA.

CHWYDDO,I

EI RYBUDDIO MEWN UGAIN MLYNEDD.

DAL AR GYFLE.I

CRISTIONOGAETH A'R RHYFEL.

DROS Y DWR.

Advertising

...I ARWYDDOCAOL. I -I

.... PRYD COLLODD Y CAISER…

.UN 01 HENAFIAID.

CANIATAD YSGRIFENEDIG. I

—— GWE PRYF COPYN.

DAMWAIN I A.S.

Advertising