Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Moriah, Ystrad Mynach.

Family Notices

| CyFARFODYDD.1 1

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

QEHt., PRiQDL A MARW. PRIODASAU. JONBS-DAVTBS.—Mehefin 16eg, yng nghapel Stanley- road ( vl-C.), Lerpwl, gany Parch. Howell Harris Hughes, B A B.D., Princess-road, Mr. O. C. Jones, unig fab Mr. Cadwaladr Jones, Cwm Machno, a. Florence Mary, unig ferch Mr. a Mrs. B, Etnlyn Davies, Manchester MARWOLAETHAU: JONES.—Mai 21ain, yn 32 oed, o'r pneumonia, Mr. Joshua Jones, Caerwen, Capel-y-wig, Ceredigion. Ei haul a fachludodd, a hi eto yn ddydd,' yn ol testyn ei bregeth angladdol gan y Parch. D. D. Jones, y Wig. Os oes cofnodiad yn deilwng i ryw wr lleyg am fywyd a gwasanaeth crefyddol yn ei deulu ac yn yr eglwys, y mae Joshua Jones yn wir deilwng ohono. Un o bobl weithgar a defnyddiol eglwys y Wig ydoedd ffyddlon yn holl gyfarfodydd yr eglwys, yn arbeunig yn yr Ysgol Sul a'r cyfarfod gweddi. Yr oedd yn ddirwestwr, ac yn aelod selog o Gymdeithas Ddirwestol y cylch, ac yn ami byddai a rhan flaenllaw yn y mudiad yn gweithio y tu ol i'r llenni ac yn gyhoeddus. Haaai o deulu a llinach grefyddol a Aefnyddiol yn Eglwys Dduw. Mab ydoedd i Mr. John Jones, gof, Castell Caer- wedros, a brawd i'r diweddar Mr. T. Wedros Jones, M.A., un o athrawon Ysgol yr Hen Goleg, Caer- fyrddin, a brawd i'r diweddar Gapten John Jones, Garnowen. Brodyr iddo yw Mri. Samuel Jones, y Wig; Evan Jones, Castell; a James Elias Jones, Plwmp. Chwiorydd iddo yw Mrs. M. Jones, Nant- ernis, a Mrs. S. Jones, Amwythig. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru-ar ei ol. Dirgelwch i ni yw flyrdd yr Arghvydd sydd yn y mor, a'i Iwybrau yn y dyfroedd mawrion. Ni ellir olrhain Ei weithredoedd. a'i amcanion Ef. Merch yw"Mrs Jones, y weddw, i'r diweddar Mr. Jeremiah Jones, Cilie, a chwaer i'r Parch. Fred Jones, B.A., B.D., Treorci. Claddwyd of ym mynwent y Wig. Nodded Nef fyddo ar y weddw a'r plant bach. JONES.—Ebrill Sydd, ar ol cystudd byr, yn 21 oed, Miss Mary Ceridwen Jones, merch Mr. a Mrs. Griffith Jones, Ton Villa, Trecaatell. Cafodd eglwys Soar golled ddirfawr yn ei marwolaeth. Yr oedd yn ferch ieuanc rinweddol mewn gwirionedd, yn meddu ar gymeriad pur a dilychwin, a'i rhodiad bob amser yn deilwng o Efengyl Crist ac yn batrwn i ferched ieuainc yr oes. Crefydd, Efengyl a chapel oedd ei hoffi bethau hi. Y Beibl oedd ei hunig lyfr bron. Darllenai a myfyriai lawer arno. Ni fyddai byth yn absennol o foddion gras. Mynychai gyfarfodydd y Saboth a chwrdd gweddi'r wythnos gyda chysondeb difwlch, a byddai'n ami yn dechreu'r gao pan na fyddai'r arweinydd yn bresennol. Carodd ei Gwaredwr, a bu'n ffyddlon iddo. Mae heddyw gydag Ef yn ei weled fel ag y mae. Aeth ar ol ei chwaer fach Eluned, yr hon aeth i fewn i lawenydd ei Harglwydd tua blwyddyn a hanner o'i blaen. Gwag yw'r aelwyd a gwag yw'r eglwys ar ei hoi. Cydymdeimlwn yn fawr a'r teulu yn ell hiraeth a'u galar. Caled oedd ffarwelio a'r olaf o'u hanwyliaid. Chwerw oedd dydd y gwahanu, ond daw yr uniad maes o law. Rhodded yr Arglwydd ei nerth a'i ddiddanwch iddynt yn eu hawr gyfyng. Claddwyd gweddillion Ceridwen ym mynwent Cwmwysg yn yr un bedd p ag Eluned. Gwar anaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. P W. Green, ficer Llywel, a D. H. Williams (M.C.), Trecastell. Traddododd Mr. Williams bregeth ddwys ac effeithiol iawn. (Nid oes gweinidog gan Drecastell a Chwmwysg ar hyn o bryd.) Daeth tyrfa luosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'n chwaer ieuanc.