Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Gwneud Enw Da ym Merthyr Tydfil
News
Cite
Share
Gwneud Enw Da ym Merthyr Tydfil Ni lwydda moddion amheus ym Merthyr Tydfil. Gwerth gonest yw'r oil a gyfrif, a phan y gwyr pobl Merthyr Tydfil am rywbeth da, dywedant wrth eu cymdogion am dano. Y ffeithiau hyn sydd wedi gwneud yr enw da sydd i Belennau Doan yma. Darllenwch pa beth a ddywed cymydog arall i chwi, a pham y rhoddir y dystiolaeth yma. Mr. B. W. Hunter, 13 Gladstone-terrace, Plvmouth-road, Merthyr Tydfil, a ddywed :— Yr oedd fy nghefn yn ddrwg iawn beth amser yn ol. Gallaswn blygu i fynd at fy ngwaith, ond yr oedd yn anodd iawn i godi i fyny dra- chefn. Amlwg ydoedd fod yr arennau'u afiach, oblegid dioddefwn yn barhaus oddiwrth boenau llym yn y rhan honno. Ar brydiau, heiyd, cawn gur mawr yn fy mhen, ac yr oedd y gyfundrefn droethol wedi ei hamharu'n fawr. Gan y gwyddwn fod fy nhad wedi cael lies trwy ddefnyddio Doan's Backache Kidney Pills, cymerais innau rai ohonynt, a daeth rhyddhad yn fuan wedyn. Parheais gyda'r pelennau hyd nes i mi gael fy llwyr iachau o'r poen cefn mawr a fy mod yn hollol rydd o'r afiechyd. Nid oes dadl nad yw Pelennau Doan yn dda at yr arennau, a gallaf eu mawr gymeradwyo at boenau yn y cefn. (Arwyddwyd) B. W. Hunter.' Rhyddha Doan's Backache Kidney Pills gron- iad ac enynniad yr arennau, a rhwyddha waith y bledren, fel ag y bydd i wenwyn y sur troethol achosa'r crydcymalau, poen yn y cefn, grafel, anhwylderau troethol, a llu eraill o afiechydon gael eu ffrystio allan o'r cyfansoddiad. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. i, Peidiwch a gofyn am belennau at ddolur y cefn neu'r arennau, ond gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Hunter. 5
RHANBARTH PENYBONT.
News
Cite
Share
RHANBARTH PENYBONT. Y Parch, J. Camlais Evans.— Cymnnwn lon- gyfarch y bonheddwr hwn ar ddathliad ei jiwibli fel gwas Ion. Urddwyd ef yn Birming- ham, ae wedi aros yno am ddwy ftynedd aeth dros y clawdd i sir Fôn, lie y bu am bum mlynedd a hanner cyn disgyn yn eira Mawrth, 1875, ar letbr y Gilfach Goch, lie y daeth yn ffaffryn pulpudau y De yn ddiatreg Bu yn hogi ei gryman yng Ngholeg Aberhonddn yr un pryd a Dr. Probert, W. Isaac Morris (Pont- ypridd), W. Gilbert Evans, &c., y rhai sydd wedi croesi drosodd i'r eilfyd cyn iddo ef ganfod gwawr tymor henaint. Bethel, Heolycyw.-Casglodd y ddiadell yma a'i bugail hoff swm anrhydeddus i sicrhau cwpanau unigol at yr Ordinhad Sanetaidd. Dyma ddangoseg arall o ynni eglwys gymharol fechan. Dyma'r burned eglwys yn y cylch i fabwysiadu y cyfryngau hylaw. Erbyn hyn, enilla yr ardal ei hagwedd fyw arferol wedi y parlyiiftd glofaol fu yn cymylu ei ffurfafen j dro yn ol. r.Bethetv Nantymoet.-Cyn y gwel hyn wyneb y TYST, bydd y Parch. R. T. Gregory wedi cychwyn ei genhadaeth yog ngwersyll Penfro gyda'r catrodau ddisgwylir yno ar gyfer Armagedon yr oesau. Bwriadai Mr. Gregory fyned i Ffrainc, eithr ei Iwybr a groeswyd a'i galon frwd a ysigwyd am nas gall fynd i ymgeleddu y dewrion ar faes y gâd. Teilwng yw crybwyll i'r eglwys hon a'i gweinidog gasglu dros £ 30 at y Genhadaeth Dramor y Rwyddyn ddiweddaf. Ebenezer, Abei,cynffig.Y Parch. J. Evans, B.A., Aberhonddu, tu yma eleniyn gwasanaethu yng ngwyl yr Yagol Sul, ac hir gofir ei genad wri swynol. Arnlwg oedd ffrwyth llafur Mr. Emlyn Thomas gyda'r Gobeithlu. Llongyf- archwn yr esgob ar ol croesi ffin 36 mlynedd o weinidogaeth ddylanwadol yn enw lor yma. Tabernacl, Penybont.Yn ddiweddar agor- wyd yma neuadd newydd gan yr eglwys hon, sef yr hen gapel wedi ei drawsnewid yn ystafelloedd cyfaddas at addysgiant plant yn ol gofynion meddyleg a datblygiant, lie bu'r oriel, tra mae'r llawr wedi ei gymhwyso yn neuadd eang at amrywiol achlysuron. Awd trwy ffurf yr agoriad gan Mr. T. W. David, Caerdydd. yr hwn fu yn ddisgybl i'r diweddar Barch. J B. Jones, B.A., Aberhonddu, yr bwn gadwai ei ysgol yn yr adeilad wedi symud o'r gynulleidfa i'r deml bresennol, a diddorol oedd ei atgofion ef a'r Mri. W. Richards, Caerdydd; D. Jenkins, Mynydd-yr-eithin; a John Rees C.S., Pencoed. Wrth syllu ar ddarlun yr ysgolhaig coeth ar y mar, ffrydiai celloedd y cof eu cyfrinachau dros wefusau amryw fu o dan ei addysg, ac adroddwyd am droion digrif a direidus a ddigwyddodd tu ol i lyacad y doethawr yn ystod ei yrfa ddiwyd 0 1859 hyd 1874, pan syrnudodd i lannau'r Honddu. Yn anerchiad cryno y Parch. H E. Rogers, B.A., gweinidog presennol yr eglwys, dilynwyd camrau Annibyniaeth o amaethdy Cildeudy, bedair milltir i'r gogledd o'r fan ar lan y Llyfnwy, lie cychwynnodd Samuel Jones eglwys Ymneilltuol wedi ei droad allan o'r Eglwys Sefydledig yna drwy weinidogaeth y Parch. W. Jones, awdur y Geiriadur (1810-1847); J. D. Williams (1848-1852); a J. Gwesyn Jones, D.D. (1857-1858). 4Crybwyllwyd hefyd am wronwaith Rees Price, Tynton, Llangeinor. Mae'r draul dros P,1,300, a dengys yr eglwys ysbryd parod i glirio'r baich. Mr Rhys Jones (ieu.), Llangrallo, oedd y contractor -merch yr hwn gyfLwynodd allwedd bcydferth i Mr. T. W David yn gofeb o'r achlysur. Yn hwyr y dydd rboddwyd gwers ragorol i dorf o blaDt gan Mr Lewis Dalies, ysgolfeistr, Cymer. Ymweliad y Gweinidog a'r Ffosydd.- Y nos Fercher olaf ym Mai, ymgyaullodd Hiaws o edmygwyr y gweinidog ieuanc yn y capel i amlygu eu cymeradwyaeth i'w ysbryd cenhadol ar ei fynediad i Ffrainc i weini i'r dewrion flysiant yno am ymgeledd ysbrydol. Cymerwyd y gadair gan Mr. Rhys Williams, diacon ac arweinydd y gao, ac anerchwyd y cyfarfod gan Mr. John Griffith Jenkins, Cadeirydd Cyngor Dosbarth y dref, a'r Parchn. T Davies (R.), W Evans, B A ac eraill. CyJlwynwyd iddo Feibl hardd at ei wasanaeth yn y gwersyll gan Mr. T. Thomas, trysorydd yr eglwys, a rhoddwyd amlinelliad o fwriadau yr eglwys tuag at ei gweinidog hoff gan Mr E J. David, yr ysgrif- ennydd. Bwriada Mr. Rogers dreulio pedwar mis yn Ffrainc, a dymunwn nawdd y Net drosto hyd nes y dychwelo yn ol at ei braidd. Cymanfa Ganu y Cylch.—Cynhaliwyd hon y Llungwyn yn y Tabernacl o dan arweiniad Mr. John Phillips, Y H., Aberafon, am yr ail dro. Llywyddwyd gan Mr. W. Jenkins, Cefncribwr, a'r Parchn. E. Davies, Abercynffig, a H. E Rogers, B.A., Penybont. Dechreuwyd a diweddwyd yr odfeuon gan Mr. D. Thomas, Mynyddcynffig; a'r Parchn. G. R. Griffiths, Coity E. Davies; T. Gwilym Jones, B.D., Pen- ybont; R. W. Jones, Pontyrhyl; a D. J. Hywel, Heolycyw. Gwasanaothwyd yn effeithiol gan gerddorfa, Elim, Mynydd Cynfllg, dan ofal Mr. John Howells, gyda'i fab gwir addawol wrth y berdoneg. Canwyd Yr Arglwydd yw fy mugail' (Dr. Caradog Roberts) ddwywaith yn wir afaelgar. Cymerwyd rhan o'r rhaglen o'r 'Detholiad.' Gwelid gwagle mawr yn rheng y gan oherwydd absenoldeb llu sydd wedi ymuno hr fyddin. Darparwyd danteithion gwir felys gan eglwys y lie an -bris hynod isel. a
I Saron, Maesteg. I
News
Cite
Share
I Saron, Maesteg. I Cyfa-rfodydd BLynyddol.-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol y Sul a'r Llun, Mai 27ain a'r 28ain, pryd y cafwyd gwasanaeth gwerthfawr y Parchn. E. J. Rosser Evans, Dowlais, a J. Williams, Ynyshir. Cafwyd cynulliadau lluosog, a sicrhawyd swm sylweddol tuag at ddileu'r ddyled. Bwriada'r eglwys gael jiwbili yn y dyfodol agos. Yr Adroddiad BLynyddol.-Daeth Adroddiad yr eglwys i law eleni eto. Da gennym longyfarch yr ysgrifennydd, Mr. J. B. Thomas, am ei waith rhagorol. Diolch yn fawr iddo ef a'r trysorydd, Mr. W. Richards, am weithio mor egniol gyda'r achos. Y Gymdeithas GenhItŒol.-Mae'r eglwys uchod wedi cyrraedd saBe raeorol mown haelioni Cenhadol ymysg eglwysi y Cyfundeb yn Ne Morgannwg. Yn ol adroddiad swyddogol y Gymdeithas Genhadol am y flwyddyn ddiweddaf, yn ol nifer ei haelodau, rhagor- odd ar yr eglwysi oil. Da gennym glywed fod yr ysbryd CenbadoI-ysbryd lesu Grist-yn ddigon byw yma i gadw i fyny'r cyfraniadauat y Genhadaeth, ac i wneud ychwanegiad sylweddol at eu casgliad eleni eto. Gwnaeth y plant yn odidog a thra y gwnant bwy eu goreu, nid oes achos ofni am ddyfodol yr eglwys. Dyledus iawn ydym i'r ysgrifennydd (Mr W. D. Thomas) a'r trysorydd (Mr. W. J. Griffiths) sydd wedi bod yn gweithio mor dda gyda'r achos hwn- lOAN.
Advertising
Advertising
Cite
Share
I TIm Welshman's FsTomits, 1 IMABON Sauce I As good em its Nanw. 1 I DOJTT FAIL TO GET IT. I IL Pour B-L' cudw- I
I Mynyddbach, ger Abertawe.
News
Cite
Share
I Mynyddbach, ger Abertawe. Ein Gweinidog yn At'os.-Mae'r Parch. J. Davies, B.A., gweinidog yr eglwys uchod, wedi penderfynu aros yn y lie ar daer gymhelliad yr eglwys a'r ardal yn ogystal, a gwrtbododd alwad a dderbyniodd oddiwrth un o eglwysi parchus yr Enwad. Mae'r hen eglwys wedi ei chyffroi drwyddi yn yr amgylchiad hwn. I ABLOD.
I R HYMN I.
News
Cite
Share
I R HYMN I. Oydnabod Teit-yng dod.-Nos lau, Mai 3Lain, yug nghapel Seion, Rhymni, mewn rehearsal ar gyfer y Gymanfa Ganu oedd i'w chynnal y LIun dilynol, cyf- Iwynwyd tysteb i Mr. John T. Jones, A.C., fel ysgrif- ennydd y pwyllgor. Yr oedd nifer lluosog yn bresennol o gantorion eglwysi cylch y Gymanfa a chyfeillion eraill. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. R. E. Peregrine, B.D. Cafwyd areithiau brwdfrydig gan y Cadeirydd a chan y Cynghorwyr H. M. Thomas, W. T Hopkins (trysorydd y mudiad), a Mr. W. R. Beddoe (ysgrifennydd). Dygai pob un ohonynt y dystiolaeth uchaf i gymeriad pur Mr. Jones, a'i lafur tawel, diflino ac effeithiol fel ysgrifennydd y Gymanfa am y 12 mlynedd diweddaf, ac hefyd ei was- anaeth gwertbfawr i gerddoriaeth yn gyffredinol am flynyddoedd lawer. Nid oes neb yn yr ardal a'i hanes yn fwy anrhydeddus yn y cyfeiriad hwn nag efe. Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at ei ffyddlondeb a'i fedrusrwydd fel arweinydd y gan yn eglwys Seion am yn agos i 40 mlynedd, a'i bresenoldeb cyson fel y cyfryw yng nghyfarfodydd yr eglwys. Eithriadau anaml iawn fu ei absenoldeb ar hyd y cyfnod maith uchod o gyfarfodydd y Saboth a'r wythnos. Y mae ei wasanaeth a'i ffyddlondeb fel diacon ac fel athraw yn yr Ysgol Sul wedi bod mor ddifwlch a hynny, fel nad yw'n syndod ei fod wedi llanw y gwaith o ysgrifen- nydd mor llwyr a ffyddlon. Ar ran pwyllgor o gyn- rychiolwyr eglwysi cylch y Gymanfa, ac mewn araith deilwng, cyflwynodd y Parch. J. R. Salmon (cadeirydd y pwyllgor) god yn cynnwys nifer dda o nodau arian i Mr. Jones, ac hefyd ffon werthfawr, ac yn argraffedig ar y darn arian oedd arni y geiriau canlynol:— Rhodd, cyflwynedig gan Gymanfa Ganu Annibynwyr Rhymni a'r Cylch, i John T. Jones, Ysw., JVlai, 1917.' Wrth gydnabod y rhoddion, dywedodd Mr. Jones fod y gwaith wedi bod yn bleser digymysg iddo ef, a dat- ganai ei lawenydd mawr fod y Gymanfa yn parhau mor llwyddiannus a gwasanaethgar i ganiadaeth y cysegr. Cafwyd areithiau ymhellach gan y Parch. Rhys D. Jenkins yr Henadur J. Edwards, Y.H. a Mr. Dan Owen, arweinydd y Gymanfa, ac un o ddisgyblion lluosog arwr y cyfarfod. EDMYGYDD. Cymanfa Ganu.—Llun, Mehefin 4ydd, cynhaliodd eglwysi Annibynnol y cylch eu Cymanfa Ganu flyn- yddol o dan arweiniad medrus a meistrolgar Mr. Daniel Owen. Dyma broffwyd sydd yn cael anrhyd- odd yn ei fro ei hun. Efe ddewisir gennym o flwyddyn i flwyddyn. Teimlad pawb oedd fod y Gymanfa eleni yn well na'r un gafwyd yn y gorSennol. Cynhaliwyd cyfarfod y bore yn Nazareth, Pontlotyn, o dan lywyddiaeth y Parch. R. D. Jenkins, Gosen. Ar 01 i'r chwaer ieuanc Miss Edith Arnold adrodd rhannau o'r Ysgrythyr, a'r Parch. R. E. Peregrine, B.D., arwain mewn gweddi, galwodd y llywydd ar Mr. Owen i gymryd at ei waith. Dymunol oedd gweled tyrfa mor luosog o blant, a'n clywed yn canu mor swynol ac yn adrodd mor hyglyw a chlir y penodau o'r 'Holwyddoreg Ddirwestol sydd o dan y pennawd Yr Adran Ysgrythyrol.' Holwyd y plant yn ddeheig gan Mr. Enoch Evans, Moriah. Terfynwyd y cyfarfod hyfryd hwn trwy i'r plant adrodd Gweddi'r Arglwydd. Cynbaliwyd cyfarfod y prynhawn yn Seion o dan lywyddiaeth Mr. J. Evans, Graig. Adroddwyd rhannau o'r Ysgrythyr gan Miss Thomas, Seion, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. J. R. Salmon. Aed trwy y rhaglen oedd wedi ei darparu gogyfer a'r prynhawn gyda bwyl. Nid yn fuan yr anghofir y dat- ganiad o'r anthem I Dyn a aned o wraig.' Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Morgan Jones. Cynhaliwyd cyfarfod yr hwyr ym Moriah o dan lywyddiaeth Mr. J. W. Price. Adroddwyd rhannau o'r Ysgrythyr gan Mr. Thomas Williams, Moriah, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. T. g. Williams (B.) Yr oedd y canu eto yn y cyfarfod hwn yn wefreiddiol. Datgan- wyd tair anthem yn y Gymanfa, sef Mor hawddgar yw Dy bebyll,' 'Anthem y Gohebydd,' a Dyn a aned o wraig,' a'r cydgan 'Thanks be to God.' Hefyd datganwyd anthem gan y plant, Pa fodd y glanha.' o waith Mr. Abel E. Jones, A.C. Datganwyd yr anthem Dyn a aned o wraig' er cof am y diweddar J. Henry Beddoe, y cerddor ieuanc addawol, ac un a fu yn un o organyddion y Gymanfa. Hefyd gwnaeth y Cadeirydd gyfeiriad at ymadawiad Mr. Griffith Jones trwy angeu -un a fu yn drysorydd ffyddlon i'r Gymanfa am flynyddoedd. Terfynwyd y cyfarfod gwlithog hwn gan y Parch. W. M. Davies, Trefil. Organyddion y Gymanfa oedd Mri. Ellis J- Salmon, Abel E. Jones, a Charles Edwards. Enillwyd yn y cystadlaethau gan y brodyr canlynol:—Emyn i blant, Mri. T. E. Jones a T. Idris Morris yn gyfartal; emyn i rai mewn oed, Mr. Evan Jones (Meillionydd); toil i blant a thon i rai mewn oed-enillwyd y ddwy gan Mr. George Jones. Yr oedd y Gymanfa drwyddi yn llwyddiant hollol—y capeli ymhob cyfarfod yn orlawn, ac amryw yn methu cael lie, a rhaid oedd iddynt ymfoddloni ar glywed y canu oddiallan. Dilyned bendith. Teimla'r pwyllgor yn ddiolchgar i Mr. James Lewis am ei was- anaeth fel arweinydd rehearsals y plant. Pontlotyn. J. R, Si\LMOK.