Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Dyfodol Addysg Cymru—Cyf- arfod Chwarterol Cyfundeb l\Ialclwyn-Hebron, Cymer-Gowertoll-- Nazareth, POll tlotyn-Cyf- arfodydd, &c.-Betwsycoed I
Advertising
Advertising
Cite
Share
TRI 0 GATECISMAU tl (AR GAN) I BLANT. Gan y Parch. H. T. JACOB, Abergwaun. ( I.— Y Deg Gorchymyn. Sef- J II.—Y Nefoedd. (III.—Y Gaethes yn Nh £ Namaan. Y Tri uchod yn Un Pamphledyn.-Pris Ceiniog. ioc. y Dwsin. 50 am, 3s. 100 am 5s. gel. Olcdlad wedi el dala am Plaendal. ♦ I'w cael o Swyddfa'r r TVST: MERTHYR. AT SWYDDOGION EGLWYSIG Llythyrau Cymeraiwyaoth. WEDI en hargraffu A-g enw yr Eglwys Iv arnynt, ac wedi eu rhwymo yn gryf. Prisoedd am Flaendal—3s. 6c., 5s.t a 6s. 6c. Cludiad yn thai. Cynhwysa y lylythyi Dair Rhan, sef Un Ran ¡'w rhoddi i'r Trosglwyddedig Un Ran í'w hanfon i Weinidog neu Swyddogion yr Eglwys i ba un y tros- glwyddir yr Aelod, yn eu hysbysu o hynny a chedwh y Rhan arall gan yr Eglwys ei bus. I'w gael gan. Wiixiams & SUNS (Merthyr). "ttd Swyddfa'r TVST. Merthyi
lY DIWEDDAR HYBARCH. DAVID…
News
Cite
Share
lY DIWEDDAR HYBARCH. DAVID REES, CAPEL MAWR. GAN O.L. Mewn telmlad litraethlawn a thrist iawn yr ysgrifennaf y gair diweddar' o flaen enw fy hen gyfaill, y Parch. David Rees, Capel Mawr, yr hwn fu farw wedi cystudd rnaith, bore Sadwrn, y gfed eyfisol, yn ei breswylfod, Tycalch, Llangristiolus, Môn, yn 78ain mlwydd oed. Yr oedd wedi cyrraedd oedran mawr yn ol dull y byd hwn o gyfrif oedran, ac eto nid oedd dim yn hen o'i gwmpas trwy ei holl fywyd. Yn wir, un o'i brif nodweddion oedd ei ieuengrwydd parhaol. Cariai heulwen ar ei wynepryd yn wastad, a barai i ni dybied nad oedd blynyddoedd yn dweyd arno ef fel dynion eraill. Ond cafodd yntau yn ei dro wybod beth oedd y dyddiau blin, ac ni ddihangodd heh ei ran o gystuddiau'r fuchedd hon. Un o blant sir Aberteifi oedd Mr. Rees. Ganwyd a magwyd ef yn ardal hyfryd y Ceinewydd. Wedi bod yn yr ysgol yn blentyn, prentisiwyd ef yn draper, ac yn cymeriad hwnnw daeth i Lerpwl yn llaiic, ac ymaelododd yn yr eglwys yn Park-road, ac yno y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Bala dan lywyddiaeth y Parch. M. D. Jones. Urdd- wyd ef yn Nhalybont ei sir enedigol oddi- vno symudodd i Capel Mawr a Hermon oddiyno drachefn i Bethania, Dowlais, ac oddiyno drachefn yn ol i Capel Mawr a Hermon, lie y treuliodd y nifer mwyaf o flynyddoedd ei weinidogaeth. Yr oedd wedi ymneilltuo ers amser, bellach, ac am rai blynyddoedd bu'n gyfyngedig i'w dy. Nid yw'n rhan o'n hamcan yn yr ysgrif hon i hanesyddu ei fywyd yn 11a wn disgyn y gorchwyl hwnnw, yn ddiau, i ddwylaw eraill mwy cymwys yn y man. Am y presennol boddlonwn ar geisio nodi allan rai o'i brif nodweddion. Dywedwn i gychwyn fod Mr. Rees yn ddyn o alluoedd eithriadol. Meddai ar bersonoliaeth braf, corff hardd a golygns, ac ar feddwl craff a bywiog. Nid oedd yn ysgolhaig mawr yn ystyr gyfyng y gair hwnnw, ond yr oedd yn wr gwir ddiwylliedig. Cymerai olwg eang ar fywyd, a chysegrodd ei dalentau i was- anaeth y Pulpnd. Fel pregethwr yr oedd wedi ei ddonio'n helaeth. Meddai ddawn y siaradwr—naturiol, coeth, ac ar adegau yn wir hyawdl. Yr oedd cryn lawer o'r arlunydd ynddo medrai ddisgrifio golyg- feydd ysgrythyrol gyda rhyw ddiddordeb anghyffredin. Yn wir, pregethau disgrif- iadol fyddai ganddo fel rheol, megis ei bregethau ar Joseph a'i frodyr,' Y Trysor,' Iachau y claf o'r parlys,' &c. Gwelsom ami gynulleidfa bron colli arni ei hunan wrth wrando'r pregethau hyn. Ond nid y disgrifiadol yn unig oedd yn gryf yn Mr. Rees fel pregethwr yr oedd ar adegau yn gallu codi i dir uchel mewn hyawdledd ac angerddoldeb. Medrai nid yn unig ddiddori ei wrandawyr, ond hefyd eu cynhyrfu weithiau i'w gwaelodion dyfnaf. Er dweyd hyn oil, credwn y gall- asai Mr. Rees fod wedi cyrraedd tir llawer uwch nag a gyrhaeddodd fel pregethwr, Pe wedi rhoddi mwy o amser i fyfyrdod ac wedi ei feddiannu'n fwy gan uchelgais, gallasai yn rhwydd fod wedi dyfod yn un o brif bregethwyr ei genedl. Yr oedd, efallai, yn rhy hoff o neilltuaeth a thaw- elwch—a dyna'r rheswm pennaf, yn ddiau, paham y treuliodd ei holl oes i bregethu i gynulleidfaoedd cymharol fy chain. Un wedi ei fwriadu i bregethu i gynulleidfa fawr oedd efe mewn modd arbennig. Cafodd hynny yn ystod y blynyddoedd dedwydd a llwyddiannus y bu ym Meth- ania, Dowlais; ac ar ryw gyfrif colled fawr i Bulpud Cymru oedd na buasai wedi aros i weillidogaethu mewn meysydd o'r fath. Wrth ei fwynhau yn cael rhoi o'i odfeuon gwir rymus a nerthol, nis gellid llai na theimlo'n ofidus na fuasai'n fwy adnabyddus i gynulleidfaoedd mawrion ei wlad, ac i'w gael yn amlach ym mhulpud y Gymanfa a'r uchelwyliau. Yr oedd Mr. Rees, yn ychwanegol at fod yn bregethwr mawr, hefyd yn gymer- iad nodedig o amlochrog. Yr oedd yn wr o farn ac o gyngor. Bu am flynydd- oedd lawer yn amlwg yn herwydd ei berthynas a Choleg y Bala. Yr oedd yn gyfaill ffyddlon i'r diweddar Brifathro M. D. Jones, ac yn gredwr cryf yn y safle a gymerai'r gwr hwnnw yn helynt flin y cyfansoddiadau Cymerodd ran ainlwa yn y rhyfel gartrefol' honno, ac wedi i'r ystorm fyned heibio cymerodd ran lawn mor amlwg yn sefydliad heddwch ynglyn a'r blinder Emvadol hwnnw. Gvvnxetli. efallai, gymaint a neb i ddwyn oddi- amgylch uuiad y ddau goleg, ac i hyrwyddo llwyddiant y Coleg Unedig ym Mangor. Parhaodd yn ysgrifennydd y Coleg o hynny hyd ei farwolaeth. Cymerai ran amlwg yng ngwaith y pwyllgorau, a hynny gyda medr mawr. Yr oedd ei natur dda a'i arabedd parod I yn gwasanaethu fel olew i olwynion y peiriant yn fynycli. Yr oedd Mr. Rees yn 1 Gymro selog parehai yr iaith Gymraeg I ymhob cysylltiad, a hynny yn wahanol i ami i un—nid am na wyddai'r iaith Saes- neg, canys gallasai ei siarad yn rhwydd a chywir. Fel rheol, yn Gymraeg y dygai efe ei holl waith ymlaen ym mhwyllgorau y Coleg. Cadwai gofnodion y eyfarfodydd yn yr iaith honno, ac anerchai'r myfyr- wyr yn wastad yn yr iaith yn yr hon y ganwyd hwy. Cymerai Mr. Rees ddiddordeb mawr yn ei Enwad, a gresyn na buasai wedi cymryd rhan amlycach yng ngweithrediadau yr Undeb. Am ryw resymau neu gilydd, cadwodd draw o'r Undeb am flynyddoedd, er y teimlai ddiddordeb yn ei weithred- iadau. Methwyd, er ceisio gan y Pwyllgor fwy nag unwaith, cael ganddo gymryd rhan yn ei gyflawniaclau cyhoeddus. Gwahoddvvyd ef i siarad yn y Cyfarfod Cyhoeddus ac i draddodi Pregeth yr Undeb, ond ni Iwyddwyd. Er hyn oil,, gwyddom y teimlai'n gynnes at ei frodyr ac y mynychai'r cyfarfodydd yn awr ac yn y man. Cafodd Mudiad y Gronfa ynddo ef gefnogydd selog. Cymerai ddi- ddordeb mawr yn holl waith yr Enwad yn y sir. Dilynai'r Cyfarfod Chwartero l yn gyson, ac yr oedd llwyddiant eglwysi gweiniaid y sir yn agos iawn at ei galon. Fel gwladwr yr oedd i Mr. Rees le o cldylanwad ac urddas mawr yn y wlad. Yr oedd yn wleidyddwr eryf a goleuedig, yn genedlaetholwr yng ngwir ystyr y gair. Ar y llwyfan gwleidyddol yr oedd yn un i gyfrif arno. Arweiniai yn rhenc flaenaf Rhyddf rydiaeth. Etholwyd ef yn aelod o'r Cyngor 9ir ar ei sefydliad eyntaf, a daeth ar unwaith yn un o'i aelodau 111wyaf amlwg. Etholwyd ef yn gadeirydd y Cyngor, ac ar un achlysur galwryd ef i gyflwyno anerchiad i'r Brenin Iorwerth ar ran y Cyligor, a gwnaeth hynny, fel popeth arall, gyda'i urddas arferol. Bu am flynyddoedd yn aelod o Bwyllgor Addysg y sir, ac yn y cymeriad hwnnw gwnaeth waith rhagorol. Gellid eyfrif arno ef bob amser fel cyfaill y tlawd a'r diamddiffvn. Yr oedd hefyd am flynydd- oedd yn un o ynadon heddweh y sir. Yr oedd yn ddirvvestwr selog a gweithgar, a chafodd pob mudiad i hyrwj^ddo'r gwaith o sobri dynion ynddo y cefnogydd mwyaf medrus. Fel gweinidog yr oedd yn annwyl a pharchus iawn gan ei holl gydnabod. inieddai ddawn arbennig i wneud ei hun yn gartrefol gyda'i bobl, heb fod perygl i neb ohollynt feithrin gormod hyfdra arno. Bu flYllyddoecld yn ol, gyda'i gyfaill y Prifathro M. D. Jones, ar ymweliad a Patagonia a difyr, mewn blynA-ddoedd ar ol hynny. fyddai gwrando arno'n adrodd hanesion diddorol 3-nglyn a'r daith honno. Ychydig iawn fu'r rhan a gymerodd ynglyn a'r wasg. Hyd y gwydfiom, nid oes ond dwy bregeth o'i eiddo wedi eu hargraffu—y naill yn y gyfrolo bregethau gan Weinidogion yr Annibynwyr,' gv, lioeddw\'cl twy na deugain mlynecld yn ol.