Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Moriah, Ystrad Mynach.

News
Cite
Share

Moriah, Ystrad Mynach. CYFARFOD ORDEINIO. Nos Fercher a dydd Ian, Mai 16eg a'r 17eg, cynbaliwyd y cyfarfodydd cysylltiedig ag urddo Mr R. Oswald Davies, Coleg Coffa, Aberhonddu, yn weinidog ar yr eglwys uchod Llywydd oedfa nos Fercher oedd y Parch E. B. Powell, Maesyewmwr. Dechreuwyd yr oedfa gan Mr. L. J. Evans, B.A., o Goleg Aber- honddu, dyfodol weinidog eglwys Bailey-street, Brynmawr. Yna pregethodd y Parch. B Palmerston Davies, Birchgrove, a thraddododd y Parch M. Irwyn Thomas, Edwardsville siars i'r eglwys. Llywydd odfeuon dydd Iau oedd yr Hybarch H. A. Davies, Aberdar. Dechreuwyd oedfa'r bore gan y Parch. D. Jones, Deri, a thraddod- odd y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Coleg Aberhonddu, ei bregeth glir ar Natur Eg" lwys. Gorffenwyd drwy weddi gan y Parch. G. J. Jones, Gilfach Fargoed. Dechreuwyd oedfa'r prynhawa gan y Parch. P. W Hough, Coed-duon Wedi hynny cyfeir- iodd y Cadeirydd (Mr. Davies) at natur y cyf- arfod, a darllenodd enwau y cyfeillion caredig oedd wedi ysgrifennu yn dymuno'n dda i'r eglwys a'r gweinidog. Cyfeiriodd hefyd at absenoldeb Mr. Jones, Llety Gwilym, yr hwn oeddlyn gystuddiol. Gwn fod e- igalon yriia,' meddai'r Cadeirydd Rhoddodd Mr. John Williams, yr ysgrifennydd, fraslun o hanes yr eglwys, a chafwyd hanes yr alwad gan Mr. Thomas Jones. Holwyd y gofyniadau gan v Parch. E B. Powell, ac atebwyd hwy gan Mr. R. Oswald Davies. Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. J W. Price, Troedyrhiw. Siarad- wyd ar ran eglwys Saron, Bircbgrove, gan y Parch B. P. Davies; Mri. J Rees, manager, yr hwn a gyflwynai cheque i Mr R. O. Davies dros y fam eglwys; J. Richards a gyflwynai lyfrau ar ran Ysgol Sul Saron, a darllenwyd penillion ar gyfer yr amgylchiad gan Gwilym Bedw ac Eilir Mai. Hefyd cyflwynwyd llyfrau i Mr. R O. Davies dros y Methodistiaid yn Birchgrove, a chan Mr. Smith, yn awr o Ben- ybont, oud gynt yn frodor o Birchgrove Cydonect oil i ddwyn tystiolaeth giroyw i gymeriad yr ordeiniedig ac i'w argyboeddiadau crefyddol dwfn Dygodd y Prifathro Lewis dystiolaeth j gymeriad. Mr Davies fel myfyr- iwr, a siaradodd Mr. L. J Evans, B.A., dros y myfyrw r yrr ei ddull hapus ei hun. Estynwyd croeso i Mr Davies ar ran Cyttgor Eglwysi Rhydd y cylch gan y Parch Morgan Lewis (B.), Hengoed, a siaradwyd dros gyfeiUioii Capel Isaac, Llandeilo, gan y Parch J. Davies. Pregethwyd siars i'r gweinidog iauanc gan y Parch. J Hywel Parry, Liansaralet, ac yr oedd yn un o'r pregethau mwyaf effeithiol draddod- wyd erioed i weinidog ieuanc. Gorffennwyd yr oedf 1 gan y Parch D. Davies, Panrhiwceibr Nos Fereher, llywyddodd y gweinidog newydd, a. phregethwyd gan yr Athro Joseph Jones, M.A., RD, Aberhondda, a'r Parch. Jacob Jones, Cadeirydd yr Undab Cymreig, Merthyr.

Family Notices

| CyFARFODYDD.1 1

Family Notices