Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Undeb Ysgolion Sabothol D…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Undeb Ysgolion Sabothol D os- I barth Llangefni. Cynhaliwyd Cymanfa plant y dosbartli uchod yn Hermon, Llangadwaladr, ddydd Gwener diw- eddaf, Mai 25ain. Yr oedd y tywydd a phopeth yn ffafriol, a daeth cynhulliad da ynghyd o Rhos- ymeirch, Bodffordd, Llangefni, Capel Mawr a Hermon, a thystiolaeth pawb oedd na ehafwyd erioed well Cymanfa nag a gafwyd eleni. Calon- did mawr yw hyn yn wyneb y gwyn gyffredinol am ddifaterwch ynglyn a'r Ysgol Sabothol, a hyderwn y bydd y Gymanfa hon yn symbyliad i fwy o ymdrech o blaid yr hen sefydliad daionus yn y Dosbarth. Yn absenoldeb y llywydd apwyntiedig, sef y Parch. H. Smyrna Jones, cymerwyd arweiniad cyfarfod y prynhawn gan Mr. Hugh Williams, Hermon, sydd yn awr gyda'r milwyr ym Mliarc Kinmel. Llawen oedd pawb o'i weled unwaith eto yn ein plith, a chafwyd ganddo anerchiad byw, Ilawn o deimlad. Dechreuwyd gan Mr. O. J. Jones, Bodffordd, ac adroddwyd Genesis xxxvii. 1-18 gan yr ysgolion—pob ysgol ei rhan, a Mr. T. Whitley, Llangefni, yn gwrandaw arnynt Yna holwyd y plant yn Hanes Joseph gan Mr. Richard Parry, Rhosymeirch. Yr oedd yr adrodd a'r holi a'r atebion yn dangos 61 llafur a pharatoad rhagorol iawn. Cafwyd adroddiad Mr. H. Hughes, Llangefni, o arholiad y plant yn Safonau I., II., a III. ac yr oedd y cyfryw yn dangos fod m wy o nifer wedi bod dan arholiad, ac ansawdd y gwaith yn well nag yr oedd y flwyddyn ddiweddaf. Canwyd amryw o donau'r Gymanfa o dan arweiniad medrus Mr. O. J. Williams (Owain Cybi), Llangefni, a Mr. H. T. Owen, Monfa, Llangefni, ac yr oedd y ddau yn ymddangos yn cael en boddloni'n fawr yn y canu. Cyfeiliwyd gan Miss Hughes, yr Erw, yn ei dull meistrolgar arferol. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. O. Morris. Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan Mr. W. Hughes (Gwilym Einion), ac ni raid iddo ef wrth lythyrau canmoliaeth am ei fod ef wedi hen arfer i'r gwaith o arwain. Dechreuwyd gan Mr. Hugh Parry, Brynmeirion, Llangefni. Adrodd- wyd Matt. xvii. 1-21, Mr. D. I). Jones, Bodffordd, yn gwrando arnynt. Holwyd y plant yn hanes Y Gweddnewidiad" gan y Parch. O. Morris, ac yn sicr dyma un o beth an goreu'r Gymanfa, canys y mae Mr. Morris yn meddu ar y ddawn brin honno i holi'r plant ac i'w tynnu allan i ateb yn y modd goreu. Cafwyd enwau enillwyr y gwobrwyon arbennig rhoddedig gan y Dos- barth gan y Safonwr, a chyflwyinvyd y gwobr- wyon i'r plant. Canwyd amryw o'r tonau eto yn y cyfarfod hwn o dan arweiniad yr nn per- sonau, a Miss Hughes yn cyfeilio. Diwedclwyd trwy i'r holl gyniilleidfa adrodd y Deg Gorch- y myn, ac arweiniwyd mewn gweddi gan Mr. Richard Parry, Rhosymeirch. Cyfarfu'r Pwyllgor rhwng y ddau gyfarfod i wneud trefniadau ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Dewiswyd swyddogion fel y canlyn :—Cadeirydd y Pwyllgor o'r Cyfarfodydd Ysgol Mr. S. Thomas, Capel Mawr. Trysorydd Mr. H. Evans, Bodffordd. Ysgrifennydd Mr. O. J. Williams, Llangefni. Llywyddion y Gymanfa Mr. R. Parry, Capel Mawr, a Mr. T. Whitley, Gorffwysfa, Llangerni. Arholwyr y plant Mr. O. J. Jones, Bodffordd, a'r Parch. O. Morris, Capel Mawr. Arholwr y dosbarth hyn af Mr. H. Hughes, Llangefni. Arweinyddion cerddorol Mr. B. T. Owen, Llangefni, a Mr. Hugh Parry, Llangefni. Cyfeilwyr Mrs. Maurice Price a Miss Myfanwy Rees Roberts. Safonwr Mr. H. Hughes, 111an- gefni. Y Gymanfa y flwyddyn nesaf i'w chynnal yn Llangefni y Gwener olaf ym Mai. Yn canlyn wele enwau'r plant fu o dan arhol- iad, vnghyda nifer y marciau enillwyd. Uchaf- rif y marciau, 100. ARHOLIAD AR LAIAR. I Hermon. Safon I.—Willie Hughes, 85 Nellie Hughes, 80 Owen E. Hughes, 70, Safon II.— Annie Owen, 85 Laura Davies, 85 Alice Hughes 85 Willie Jones, 90. Safon III.—Mary Owen, Tynewydd, 95 Mary Owen, Tynyfelin, 95 Owen Jones, 100; Robert Hughes, 70. Capel M dwr: Safon I.-J ennie Jones, 95; Owen John Jones, 95; William Williams, 80; Mary Owen, 80 John Williams, 80. Safon II.— William Roberts, 90. Safon III.—W. Thomas Jones, 95. Sardis, Bodffordd Safon I.—Maggie Roberts, 95 Maggie G. Williams, 95; John O. Roberts, 95. Safon II.-Violet Mona Jones, 100; Nellie WiUiams, 95. Safon IV.-Robert O. Jones, 95. Safon V.—W. Henry \Villiams, 80 John R. Williams, 80. Sardis, Rhosymeirch Safon I. -Eur.ice Mary Williams, ioo Gwladys Edwards, 100; Lizzie Evans, 90 Alun Thomas, 95 Lela Edwards, 80 Maggie Evans, 70. Safon II.-Myfanwy Evans, 100 Rhonwen Thomas, 80. Safon III.— Eirwen Thomas, 100 Annie M. Thomas, 85 Jane Ellen Jones, 85; Watkin O. Rowlands, 95 Owen Pierce Williams, 70. Smyrna, Llangefni Safon I.—-Emrys P. Owen, 100 Winifred Hughes, 85 W. D. Hughes, 60 Cassie Jones, 60; Phoebe Hughes, 60 Jennie Davies, Too Violet Hughes, 80 Dwynwen Owen 70 Gracie Williams, 80 Arthur Roberts, 60. Safon II.—William P. Parry, 100 T. Gwilym Hughes, 100 Jennie Jones, 95 Nana Hughes, 100. Safon III. Willie Roberts, go; Emlyn Parry, 100 Trevor Williams, 75 Goronwy Wil- liams, 100 Lewis Jones, 70 J. Elias Jones, 70 J. O. Williams, 70. Safon IV.—Nellie Hughes, 90 Blodwen Williams, 85. Safon V.— Dewi Williams, 75 Ellen Griffith, 70. I ARHOUAD MEwN YSGRIFEN. Salo)i IV.-Arholwr,: Mr. W. Owen, Beau- maris. Uchafrif y marciau, 120. Annie Eleanor Jones, Sardis, 98; Willie Jones, eto, So Nellie Williams, eto, 80 Maggie Ijzzie J ones, eto, 80 Robert Williams, eto, 70 Willie Roberts, eto, 58 Safon V.-Arholwr Mr. W. Owen, Caergybi. Uchafrif y marciau, 100. W. R. Williams, Smyrna, Llangefni, 83 Hugh .U. Hughes, eto, 81; Sarah Hughes, eto, 76; Mary S. Jones, Sardis, 67 Henry R. Roberts, Smyrna, Llan- gefni, 42. ENIIJAVYR Y GWOBRWYON ARBliNNIG KIIOJDD- ] EDIG GAN Y DOSBARTH. Safon I.—-Uchafrif y marciau, 150. Cydradd cyntaf Jennie Davies, Llangefni, a Gwladys Edwards, Rhosymeirch, 150. Ail Eunice Mary Williams, eto, 145. Cydradd trydydd Alun Thomas, Rhosymeirch, ac Emrys P. Owen, Llan- gefni, 185. Safon II.-Cyd.radd gyntaf Violet M. Jones, Sardis, a Myfanwy Evans, Rhosymeirch, 150. Cydradd ail W. P. Parry, Llangefni, a Thomas G. Hughes, eto, 145. Cydradd trydydd Nellie Williams, Sardis; Jennie Jones, Llangefni, a Nana Hughes, eto, X40. Saton I j I.-Cyntaf; Eirwen Thomas, Rhos- ymeirch, 150. Ail: Owen Jones, Hermon, 145. Cydradd trydydd Mary Owen, Hermon Mary Owen, eto, ac Emlyn Parry, I/langefni, 140. Safon IV.—Uchafrif y marciau, 170. Cyntaf Annie Eleanor Jones, Sardis, 143. Ail: Willie Jones, eto, 130. Trydydd: Nellie Williams, eto, 125. Safon V.—Uchafrif y marciau, 150. Cyntaf H. Llewelyn Hughes, Llangefni, 121. Ail: Mary Sephorah Jones, Sardis, 117. Trydydd: Willie R.. Williams, xYlangefni, 103.

| Bethania, Mountain Ash.…

—'- —if IY DRYSORFA GYNORTHWYOL.…

I Hysbysiad Gydag Hanes Iddo.…

[No title]