Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

MERTHYR TYDFIL

News
Cite
Share

MERTHYR TYDFIL YMWELIAD DR. CAMPBELL MORGAN, LLUNDAIN. Ar wahoddiad eglwys Seisnig y Memorial Hall, Penydarren, ymwelodd y pregethwr hyglod uchod a thref Merthyr ar y Llun, Medi I3eg. Trefnasid iddo bregethu yn y prynhawn a dar- lithio yn yr hwyr-ac felly y gwnaeth. Nid hon ydoedd y waith gyntaf i'r Doctor roddi ei was- anaeth gwerthfawr i eglwys fechan y Memorial Hall, a chafwyd ganddo i draddodi Darlith Thomas Williams tua phum mlynedd yn ol, fel nad ydyw yn anadnabyddus i drigolion y dref a'r cylch. A chafodd dderbyniad calonnog „ iawn gan ddynion goreu ac amlycaf eglwysi y gwahanol enwadau. Yn wir, nid oes un ymysg gweinidogion amlwg ein heglwysi yn Lloegr yn iwy cymeradwy yng nghylch crefyddol Merthyr na Dr. Morgan a rhoddai ei ymweliad y tro hwn foddhad eithriadol: Gwyddid ei fod wedi bod mewn cystudd trwm a pherylgus yn nhwym yn y typhoid, ac nid oeddid yn ddibryder ynghylch effeithiau ei gystudd ar ei nerth a'i ddefnydd- ioldeb mawr. Yn wyneb hynny, teimlid bodd- had cynhyddol wrth ei weled wedi cael adferiad mor helaeth i'w nerth a'i fywiogrwydd arferol. Nid yw ei adferiad wedi bod yn gyflawn eto, a gorchmynnir iddo gan ei feddyg i ymwrthod a phob astudiaeth, hyd y gall, am flwyddyn eto ac yna addawa y daw, yn ol pob tebygolrwydd, mor alluog i wneud ei waith ag y bu erioed. Ond barna y meddyg mai gwell iddo, yn y cyfamser, ydyw syrthio yn ol ar ei adnoddau, a myned o gwmpas i wasanaethu yr eglwysi trwy bregethu a darlithio iddynt, rhag i esmwythyd i ddyn mor brysur brofi yn niweidiol iddo. Da gennym mai ychydig, os dim, o 61 ei gystudd welid ar ei wedd ac ar ei wasanaeth. Am 4 o'r gloch cynhaliodd Dr. Morgan was- anaeth crefyddol yng nghapel Soar, yr hwn, er mor eang, oedd yn llawn o bobl astud a defos- iynol. Aeth y Doctor trwy y gwasanaeth oil ei hunan, a hynny mewn modd cryf a chyflawn ac eneiniedig. Yn wir, gwledd i ysbryd cref- yddol ydyw cael ei arwain mewn addoliad gan y gwr grymus ac efengylaidd hwn. Darllenodd ran o loan viii., a gwnaeth hynny gyda'i natur- ioldeb, ei eglurder a'i bwyslais nodweddiadol. Cododd ei destyn o'r un bennod, sef loan viii. 36, a phregethodd oddiar yr adnod yn gryf, taraw- iadol, a nodedig o effeithiol. Teimlid fod i'w bregeth neges mawr ac amserol. Yng nghwrs traddodiad ei genadwri sylwodd Chwi a goSwch fod yr ymadrodd, Os y Mab gan hynny a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir,' wedi ei lefaru gan Grist wrth bobl oedd yn honni eu bod yn rhydd. Dywed- ent Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaeth- asom ni neb erioed.' 'A'r Iesu a atebodd iddynt, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. Ac nid yw y gwas yn aros yn ty byth y Mab sydd yn aros byth.' Dyna honiad mawr cyferbyniol Crist—Ei fod Ef yn aros yn ty byth ac Os y Mab a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.' Dyna Ei ateb- iad i honiad oedd, mewn ystyr, yn gyfreithlon, Yr oedd yn berffaith wir mai had Abraham oeddent ond, mewn ystyr arall, yr oedd yr honiad yn gwbl anwireddus. Meddylier am eu hanes. Cofier am eu caeth- iwed, eu darostyngiad, eu gormes am ganrifau yng ngerwinder llafur a difoester yr Aifft, Babi- Ion ac Assyria, ac o dan iau Rhufain. Eto yn wyneb hyn oil dywedent Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed.' Ac yr oedd gwirionedd yn eu honiad. Trwy en holl galedi a'u darostyngiad ni roddasent i fyny eu hawl i berthynas ag Abraham, ac ni chollasent eu nodweddion fel ei ddisgynyddion. Ac nid ydynt wedi eu colli hyd heddyw. Yn America ceir amlygiad o allu nodedig i lyncu i fewn gen- hedloedd amrywiol i fywyd cyffredinol y wlad a phe deuai y wlad i wrthdarawiad a Germani yn y rhyfel presennol, ceid gweled hyd yn oed y Germaniaid anhywaith sydd ynddi yn troi i'w phleidio. Olid nid yw yr Iddewon sydd ynddi wedi colli eu cenedligrwydd ynoogwbl; nid ydynt erioed wedi eu darostwng a'u gorchfygu. Yr oeddent, ac y maent, yn had Abraham.' = Ond y mae ystyr ymha un y mae yr honiad hwn yn hollol dwyllodrus—ystyr ac agweddau llawer dyfnach a phwysicach. Yr oeddent yn had i Abraham, eithr nid yn blant i Abraham'. Yr oeddent yn amddifad o debygolrwydd ysbrydol i Abraham yn anffyddlou i'w ffydd, trwy yr hoii yr ymadawodd efe a'i wlad, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Nid oeddent yn esbonio y gobaith disglair oedd yn rheoli bywyd Abraham am weled Dinas Duw wedi ei hadeiladu ar y ddaear. Yr oeddent yn wrth- wynebol i'r cyfryw bethau, ac yr oeddent yn amlygu hynny trwy eu hymddygiad tuagato ef ei hun. Ond yn hytrach na dilyn y llinell hon, sylwer,— I. Fod rhyddid, yr hwn sydd yn gaethiwed. Y mae rhyddid, yr hwn oherwydd yr elfennau o gaethiwed sydd ynddo, sydd yn gaethiwed. Beth yw yr elfennau hyn ? Un ydyw balchtev hiliogaeth. Yr oedd gan yr Hebreaid hynafiaid mawrion i ymffrostio ynddynt, ac yr oedd gan- ddynt hanes llachar i ymfawrygu ynddo. Ac felly ninnau rhyfeddol ydyw ein hanes ni fel cenedl Seisnig. Ac nid yw hyn i'w danbrisio ac eto y mae perygl ynglyn ag ef. Peth hawdd yw camesbonio achyddiaeth fawr. Y mae ach- yddiaeth o'r fath yn ddifudd a diwerth, os na fydd yr hyn wnaeth y tadau yn fawr hefyd yn eu plant. Nid yw hynny ond meddu y dam- weiniol heb yr hanfodol. Elfen arall yn y rhyddid sydd yn gaethiwed ydyw balchtev ewyllys. Hawl- iai yr Hebreaid iddynt eu hunain y fraint o wneuthur eu dewisiad eu hunain. Gwnaent eu hunain yn ddeddf iddynt eu hunain, a gwrth- ryfelent yn erbyn pob deddf a rheol osodid i'w bywydau, ac ymffrostient yn y ffaith na ynios- tyngasent erioed i'r cyfryw. Yr hawl i ddewis a gwrthod drosto ei hun ydyw gogoniant cyn- hennid yr enaid, ac ni ddylid caniatau i ddim ymyrryd yn amhriodol a'r hawlfraint hon o'i eiddo. Ond rhaid i'r ewyllys gael ei rheoli gan reswm a chydwybod, onide dirywia i bengam- rwydd a gwrthdarawiad a gormes. I fod yn wirioneddol rydd, rhaid i ewyllys dyn fod o dan lywodraeth egwyddor oleuedig a phan fydd fel arall y mae y rhyddid yr ymffrostir ynddo yn gaethiwed. A dyma'r math ar ryddid yr ym- ffrostia dynion ynddo yn ami pan ddywedant nad ydynt wedi eu darostwng dan unrhyw iau nac wedi plygu i unrhyw awdurdod. Dyma ynte rai o elfennau y rhyddid sydd yn gaethiwed. Dyma'r modd y camesbonir gwir ryddid, ac yr amddifedir ef o'r hyn sydd han- fodol iddo. Amlygir yr un peth ynglyn a chredo. Heb fefiniadu y Crynwyr gynt, y mae yn iawn dweyd iddynt, wrth ymlynu yn ormodol wrth eu gwisg nodweddiadol, esgeuluso hanfodion eu credo. Oherwydd fod George Fox yn gwisgo mewn diwyg neilltuol, gwnaeth ei ganlynwyr yr un modd, a syrthiasant i'r brofedigaeth o ym- ddiried yn eu gwisg, gan anghofio egwyddorion credo eu harweinydd. Ond yn raddol daeth y rhai adwaenent natur dysgeidiaeth Fox i osod llai o bwys ar ei ymddanghosiad allanol. Pan ofynnodd offeiriad defodol o ysgol Pusey i Grynwr I adnabyddus beth ddaethai o wisg nodweddiadol y Crynwyr, atebodd ef Bratiau y Crynwyr ydoedd y rheiny a phan ddiosgasom ni hwynt codasoch chwi hwynt i fyny.' Ofer ydyw ym- ffrost y plant yn eu tadau tra y maent yn amddi- fad o'u hysbryd hwy. Yr un modd, y mae llawer ymffrostiant mewn Calfiniaeth, a hwythau heb ei hadnabod yn ei hysbryd a'i hegwyddorion ardderchog. Mawrhant enw John Calvin, er nas gwyddant ond ychydig am ei athroniaeth aruchel ogoneddus o Beiiarglwyddiaeth Duw. Yn gy- itelyb hefyd cymer dynion arnynt fod yn olyn- wyr i'r Piwritaniaid, a liwy yn amddifad I o'r ysbryd rhagorol yr hwn wnaeth y tadau yn rynius o blaid rhinwedd a dynoliaeth gref. Ofer honni perthynas a'r hynafiaid rhagorol, os yn amddifad o'u hysbryd a'u hegwyddorion. Nid yw perthynas achyddol ag Abraham, o angen- rheidrwydd, yn diogelu rhyddid i'w blant. Felly hefyd, pan y mae ewyllys yn gweithredu oddiar egwyddor anghywir, y mae yn gwneud am gaethiwed ac nid rhyddid. Yn wir, y mae y drychfeddwl o ewyllys rydd, mewn rhai ystyron, yn wrthun. Pan ddywed un, Mi a groesaf i'r ochr arall i'r heol,' efe a wna hynny, nid oher- wydd ei fod yn ewyllysio, eithr oherwydd rhyw- beth arall. Yr oherwydd hwn wna yr ewyllys yn fawr. Niw yw ewyllys yn fawr os na fydd wedi ei meistroli gan egwyddor, rhesymoldeb a chywirdeb amcan. Beth yw egwyddor eich dew- isiad ? Beth sydd y tu ol iddo ? Ai hunangais y galon sydd yn ewyllysio, ynte Duw ? Yr elfen dwyllodrus sydd yn drygu rhyddid ewyllys ydyw hunanoldeb. Yna y mae trydydd elfen mewn rhyddid sydd yn gaethiwed, sef yr awydd am gysondeb. Y mae dynion a lynant wrth gwrs o weithredu yn unig er mwyn bod yn gyson, a phan wnant hynny ant i gaethiwed yn ddiarwybod iddynt. Y mae cysondeb yn ganmoladwy ymhob dyn tra y mae yn gweithredu oddiar egwyddor ac yn symud ar linell cyfiawnder ond y mae yn liawdd gosod pwys gonnodol ar gysondeb. Yr unig bobl gyson yn nyddiau Crist ydoedd Ei elynion. Dywedodd Herod Rhaid i mi dorri pen loan Fedyddiwr fel y gallwyf fyned rhagof ar fy llwybr pechad- urus rhaid i mi newid fy mywyd neu ddifetha y Bedyddiwr.' Pan fyn dynion lynu wrth yr un cwrs o weithredu, y mae hynny yn eu harwain i dri math ar gaethiwed. Tywys hwynt i gaeth- iwed (a) pechod, (b) amgylchiadau, a (c) marw- olaeth. (a) Os myn dyn fod yn gwbl gyson, rhaid iddo aros mewn pechod. Ni cheisiaf vniatal rhag defnyddio y gair, na chau fy llygaid i'w ystyr ofnadwy. Dywed. Syr Oliver Lodge Nid oes dyn deallgar heddyw yn siarad am bechod.' Ac y mae bron yn fifasiynol i siarad am bechod fel camgymeriad, neu gyfeiliornad, neu wendid, neu wrthnysigrwydd. Ond y mae pechod yn ffieiddbeth ofnadwy yng ngolwg Duw, ac y mae yr hwn sydd yn ei afael yn gaeth i weithred gam- weddus. Ac yn y flwyddyn hon o ddaeargryn yn fy enaid, deuaf yn argyhoeddedig fwy-fwy o reality pechod. Ond er mor ofnadwy yw, rhaid i'r dyn sydd yn ei afael, os yw i fod yn gyson, aros ynddo byth, heb wybod yn brofiadol am droedigaeth nac ail-enedigaeth, na gwynfydedig- rwydd rhyddid gogoniant plant Duw.' (b) Hefyd y mae yr hwn fyn fod yn gyson yn gaethwas i amgylchiadau. Y mae dull y byd hwn—ei rwysg, ei arferion, ei olud a'i anghenion—yn dal yn gaeth fyrdd o eneidiau am na fynant, ar draul eu cysondeb, ymwthio allan o'i garchar. (c) A diwedd y math yma ar gysondeb yw marwol- aeth. Pan y mae dynion wedi ymrwymo i ffurf arbennig ar fywyd, y mae eu natur ysbrydol yn dihoeni a marw. Y mae pawb gyflawnant hunan- laddiad yn gwneud hynny naill ai oddiar gariad at ddyn, neu oddiar gariad at fywyd mewn rhvw agwedd arno. Dywed Arthur Schopenhauer Oni bydd gan ddyn nerth ysbrydol i ddal llwyddiant, arlethir ef.' I'r cyfryw un, gan faint blinder ei ysbryd, nid oes melyster mewn un gan, swyn mewn un olygfa, hyfrydwch mewn un gym- deithas, na gwerth mewn un golud. I enaid y cyfryw un daw malltod, yinddatodiad a nxarwol- aeth. Dyma elfennau rhyddid yr hwn sydd gaethiwed. II. Y mae caethiwed sydd yn rhyddid per- ffaitli. Ceir enghreifftiau lluosog a disglair o hyn mewn profiad Cristionogol. Gwir nad yw pob gwlad Gristionogol eto yn rln-dil. Y mae gwa- haniaeth rhwng Cristionogaeth a'r byd Cristion- ogol. Ond pa le bynnag y mae Cristionogaeth bur, yno y mae rhyddid. Yng Nghrist y mae holl elfennau gwir ryddid yn cydgwrdd. Yn nes yn ol yn y bennod dywed y Gwaredwr Gol- euni y byd ydwyf Fi, yr hwn a'm dilyno I, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd.' Ni adawodd y Tad Fi yn unig oblegid yr wyf Fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlawn ganddo Ef.' Os arhoswch chwi yn Fy ngair .1, disgyblion i Mi ydych yn wir a chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddha chwi.' Cesglwch y traethiadau hyn at eu gilydd, a deliwch ar eu beiddgarwch, a chwi a deimlwch mai Crist yw brenin bywyd. Y mae rhyddid felly yn codi o ymostyngiad iddo Ef, Dyna egwyddor gyntaf rhyddid. Fel y bu Crist ddarostyngedig i'r Tad, felly y mae y Cristion yn ddarostyngedig i Grist. Y mae hynny yn golygu dau beth, sef ein bod yn (a) Derbyn egwyddorion Hi fywyd Ef yn y egwyddorion i'n bywyd ni, ac hefyd ein bod yn (&) Gosod cwbl ymddiriedaeth ynddo fel ein Gwaredwr oddiwrth bechod. lZhaid cael gwared ar bechod cyn proii rhyddid yr Efengyi ond nid yw yr argyhoeddiad o hynny mor ddwfn a dwys ag y dylai fod. Dywedai Mr Gladstone Un o'r trychinebau mwyaf sydd wedi digwvdd i Loegr ydyw gwanhad yr ymdeimlad o bechod.' Ac y mae y diffyg hwn yn cyfrif am fod crefydd efengylaidd yr oes mor amddifad o foeseg lesn. Y mae y bywyd Cristionogol yn llym a manwl ei ofynion. Yr oedd y dyn icuanc gadwasai yr holl orchmynion o'i ieuenctid yn hoff gau yr Iesu 'A'r Iesu, gan edrych arno, a'i hoffodd.' Y mae delfrvd. Crist i'r bywyd Cristionogol yn ogoneddus uchel. Cydnabyddaf na phair gofyn- ion deddf lawer o bryder i'm mynwes ond yr wyf yn crynu ger bron Crist a'i burdeb dilych- wyn. Y mae Ei cldelfryd Ef yn gofyn cymaint oddiwrthym Os arhoswch chwi yn Fy ngair I [y gwirionedd, yr ideal yr wyf Fi 3*11 ei fyw] disgyblion i Mi ydych yn wir a'r gwirionedd a'ch rhyddha chwi.' Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr Ilwn sydd yn y nefoed(I yn berffaith.' Daeth Crist i'r byd nid i ddarostwng safon bywyd, ond i alluogi dynion i fyw i fyny a hi. A rhaid i'r neb a fyuno