Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HAFOD, PONTYPRIDD.

News
Cite
Share

HAFOD, PONTYPRIDD. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Williams. -Yr oedd y wraig rinweddol hon yn briod i'r gweinidog da a'r brawd annwyl-y Parch J. Williams, Hafod. Bu farw yn dra sydyn bore Sal, Medi 26ain. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gloewaf a chyfoethocaf a adwaenom erioed-y cyfryw gymeriad ag sydd yn cyfoethogi cym- deithas, ac y mae pob cylch y troai ynddo, nid yn unig yn wacach, ond yn dlotach hefyd. Meddai ar natur siriol, hawddgar a charedig- yn gyfryw nes gwneud y neb a ymwelai a'r teulu yn gartrefol ar unwaith. Llanwodd yr enw mam i'w y my Ion drwy ei gofal, a'i darbod- aeth, a'i haddysg, a'i besiampl dyrchafol. Ni phetruswn ddweyd y bydd hi, er wedi marw, yn llefaru eto yn eu merched. Profodd ei hun yn wraig dda i'w phriod. Sonnir am ymgeledd gymwys os bu neb felly, yr oedd hi. Bu yn ymgeleddu ei phriod gyda gofal a thynerwch mawr at hyd ei bywyd priodasol. Oyflawnodd yr adnod honno i'r dim—• Hi a gyfyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a dogn i'w llanc esau.' Y fath gaffaeliad i weicidog yw cael ymryddhau oddiwrth drafferthion a gofalon teuluaidd, a gwybod i sicrwydd fod popeth yn cael ei ddwyn ymlaen yn y modd goreu posibl. Bu hyn yn help i'n brawd i roddi y gwasanaeth mawr ag y mae wedi ei roddi i'r cylch, a'r Cyfundeb a'r En wad. Ni chyfyngodd hi ei hun i'w thoulu yn unig, ond gwasanaethodd yr eglwys a'r lie hefyd. Yr oedd o blaid pob mudiad da, ac yn annwyl iawn gan chwiorydd yr eglwya, a chariai ei hawgrym llednais, tyner, ddylanwad mawr gyda phob trefniant yn eu plith. Profodd ei hun yn athrawes fedrus. Yr oedd wedi darllen llawer, ac yn gwybod ei Beibl yn dda, a dygodd yr oil i ddylanwadu'n ddyrchafol ar y dosbarth. Pwy fedr ddweyd faint fu ei gwasanaeth yn y cyfeiriad hwn ar hyd y blynyddau. Bu to ar ol to o ferched ieuainc o dan ei haddysg, ac y mae y rhai hyn wedi ffurfio teulnoedd iddynt eu hunain, a bydd ei dylanwad hi yn byw drwyddynt ar aelwyd- ydd yn yr oes nesaf. Bu yn gryfder ac yn gymorth mawr i'w phriod yn ei waith fel gweinidog. Pregethai ef egwyddorion gwynion Mab Daw ar y Sul, a throai hithau hwynt yn actau ac yn bregethau yn ei bywyd ar yr wythnos. Nid gormod yw dweyd na byddai ein brawd, yr eglwys, na'r lie y peth ydynt pe hebddi Ond wele daeth y diwedd! a gadaw- odd briod a dwy ferch a'u priod i alaru eu colled ar ei hoi. Cymerodd yr angladd le dydd Iau, Medi SOain. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefail, a G. Penrith Thomas, Ferndale. Yn y capel dar- llenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch J. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin, a gweddiwyd gan y Parch J. T. Rees, Alltwen. Siaradwyd gan y Parchn J. C. Evans, Brynmenyn; T. G. Jenkyn, Llwynypia; J. Rees, Cwmllynfell; ac Arglwydd Pontypridd. Dygwyd tystiolaeth uchel i fywyd glin a chymeriad pur ein chwaer. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch J Williams, Llanon. Ar ol y gwasanaeth ffurfiwyd yn orymdaith i fyned i gladdfa gyhoeddus Glantaf. Gwasan-, aethwyd wrth y bedd gan y Parchn T. T. Jones, Maendy, a T. Haghes, Caerdydd. Yr oedd y dyrfa luosog ddaeth yr holl ffordd yn brawf nad rhywun cyffredin oedd yn cael ei chladdu. Yr oedd yr holl drefniadau yn llaw y Parch E. C. Davies, Ynyshir. Heblaw a ennwyd, gwelsom y brodyr canlynol yn bresennolY Parchn Rees, Eglwysnewydd Jones, Bodringallt; Owen ac Evans, Pont- ypridd Davies, B.A., Ton; Thomas, Groes Wen; Owen a Davies, Cymer; Jones, Glantaf Owen, cenhadwr; Jones ac Evans, B.A., Caerffili; Jones, Tynewydd; Ellis (M.C), Trealaw; Morgttn (M.C), Llwynypia; Joseph Evans, C- aerdydd Jones, Clydach Vale; Evans, > Tylorstown'; Overton, Dinas; Jones, Portb; Davies, Cwmparc Williams, B.A Cilfynydd Gruffydd, B.A., B.D.. Treorci; Williams, Aber- llechau; Evans, Penygraig; Davies, Aber- tridwr; Jones, Efailisaf; Morris, Senghennydd; Bryn Thomas, Ferndale; Hope Evans, Maerdy Thomas, Onllwyn; Phillips, Treharris; a Hughes, Pontycymer, ynghyda nifer mawr o leygwyr amlwg yn y cylch. Danghosodd yr egwys barch a charedigrwydd mawr i'n brawd a'i briod ar hyd y blynyddau, yn arbennig y blynyddau diweddaf, ac ni bu yn ol yn ei charedigrwydd yn yr amgylchiad hwn, drwy darparu lluniaeth i ddieithriaid. Dsrbyniodd ein brawd lu mawr o lythyrau o bell ac agos yn datgan cydymdeimlad ag ef yn ei brofedig- aeth. Dymuna ef gyflwyno ei ddiolchgarwch cynhesaf, yn arbennig i'r eglwys, ac i bawb ddanghosodd gydymdeimlad ag ef a'r teulu yn eu trallod. Diddaned yr Arglwydd y teulu a'r perthynasau yn eu galar, a chysgoded ein hannwyl frawd ag aden ei gariad hyd ei fedd. P. P.

i GWEITHWYR A GORFODAETH.

Advertising