Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Christian Temple, Amanford.

News
Cite
Share

Christian Temple, Amanford. CWARJOD SEFYDlyU Y PARCH. D. TKGFAN DAVIES. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn yr eglwys uchod dydd LInn, Medi 13eg. Yr hen enw ar Amanford ydoedd Cross Inn. Pentref cymharoI fychan ydoedd hyd yn ddiweddar, ond erbyn heddyw y mae wedi ymledu dros y dvffryn hardd allan dros Tirydail. Ymgysylltodd a Phantyifynnon, estynnodd hefyd ei freichiau ac ymaflodd yn y Betws a lleoedd eraill, nes y mae yn dref boblog. Mae yma adeiladau gwych ac heolydd llydain, a chydgyferfydd yma ddyffoynoedd. Ymddengys y wlad yn oleddu o bob ochr i arllwys ei hunan i mewn i Amanford. Torfeydd ddaw yma o ddyffryn Aman ac o ucheldiroedd Tycroes, Pen- ygroes a Llandebie ar nawnddyddiau neilltuol yn yr wythnos, a darparwyd lleoedd arbennig i gwrdd a chwaeth y dyrfa anianol. Mae yma hefyd gapelau gan wahanol enwadau, a lluosog- odd enwadau i fanion ac amrywion lluosocach na briwfwyd gweddill y torthau a'r pysgod. Mae yn y Christian Temple eglwys a chynull- eidfa luosog a chefnog, capel hardd wedi ei ad- liewyddu yn ddiweddar, ac wedi arfer bod yn eglwys heddychlawn, yn mawrhau gweinidogion Iesu Grist, thraddodiad uchel sydd i'r pregeth- wyr hyawdl fuont yma, fel mae ein hannwyl frawd wedi dyfod, fel Israel gynt, i wlad yn llif- eirio o laeth a mel. A didwyll ydyw dymuniad fy nghalon am ei Iwyddiant a'i orfoledd yn yr Arglwydd. Dechreuwyd odfa sefydlu prydnawn LInn am 2.30 gan y Parch W. D. Roderick, Gwrhyd, trwy ddarllen a gweddio. Yr oedd yr eglwys wedi trefnu fod ei chymydog, y Parch E .J. Rosser Evans, Gwynfryn, i fod yn gadeirydd y cwrdd hwn. Dywedodd Mr Evans fod yn dda ganddo fod yn bresennol ar ddydd mor nodedig, allaw- 'enychai weled y capel eang wedi ei lenwi a chy- nulleidfa fawr a brwdfrydig. Dydd arbennig ydoedd i'r Christian Temple ac i eglwys y Gwyn- fryn. Wele'r ferch gyda'r fam-eglwys yn cyd- lawenhau yn nyfodiad y gweinidog newydd yma. Yr oedd yn ddydd arbennig hefyd i'r holl le poblog, a chynrychiolai y gynulleidfa fawr oedd o'i flaen holl enwadau y lie. Bn yn y Christian Temple oddiar marwolaeth y Parch I. C. Evans weinidogion a phregethwyr amryw a lluosog yn -yr ainryw a lluosog yli pregethu ond pan ddaeth y Parch D. Tegfan Davies yma y teimlodd yr eglwys yn unfrydol ei bod wedi cwrdd a'i gweinidog. Croesawai ef i wlad liyfryd, at bobl hawddgar, ac i gylch lie mae digon o waith. Gwelai fod ganddo raglen fawr i fynd trwyddi. fc Daeth. Mr John, Evans, ysgrifenliyd(I yr eglwys, i roddi hanes yr alwad. Dywedodd ei fod 3-11 diolch am bresenoldeb cynrychiolwyr o bob man. Bu yr eglwys yn wag oddiar 1910, ac yn ystod yr amser hynny cawsant bregethwyr a gweinid- ogion o bob rhan o Gymry. Mawr oedd eu dis- gwyliad o Saboth i Saboth, a chawsant breg- ethau ardderchog. Ymhlith y lliaws ymwelwyr ddaeth yno i bregethu yr oedd y Parch D. Tegfan Davies, Glynnedd, enw da yr hwn oedd wedi ei ragflaenti. Codwyd felly ddisgwyliadau yr eglwys yn uchel, ac ni siomwyd neb ynddo pan ddaeth. Penderfynwyd mewn cyfarfod eglwys, wedi cael pob cyfleustra allent i adnabod Mr Davies, anfon dirprwywyr igyfarfod ag ef yn Abertawe er niwyn deall eu gilydd. Wedi yr ymgynghoriad pasiwyd yn unfrydol roddi galwad iddo, ac ar ol ysbaid derbyniasom ateb cadarnhaol, a mawr oedd ein llawenydd a'u boddlonrwydd. Dyma ddydd ei sefydliad, a da ganddo ef y dydd h wnn w all It tystio yn gyhoeddus fod yr alwad yn unfrydol. Dymunai ef yn dda i Mr Davies, a rhoddai iddo bob cydweithrediad. Galwodd y cadeirydd ar Mr Lloyd, un o ddiac- oniaid yr eglwys, yr hwn a roddodd fraslinelliad o hanes yr eglwys fel y canlyn :Mae yr hanner can mlynedd cyntaf yn dywell o ran un hanes a geir am yr eglwys hon. Cangen yw o eglwys Llanedi, a'r tebygolrwydd yw i rai o Bar an hefyd gymeryd rhan yn y mudiad. Ceir mai y Parch E. Davies, Llanedi, oedd prif gychwynnydd yr achos, a cliysylltir ei enw fel un blaenllaw ym mhlaniad yr eglwysi yn Llanedi, Pembre, Beth- ania (Cydweli), a Chapel Als (Llanelli). Gwein- idogaethodd am 30 mlynedd, a bu farw Ebrill Izted, 1806. Y cyntaf urddwyd yma fel gwein- idog oedd y Parch John Davies, Llansamlet, yr hwn a anwyd yn 1740. Yr oedd o feddwl cryf, ond corff eg wan. Bu farw yn 1821, a chladdwyd ef yn Llansamlet, Llaiuriodd. am 40 mlynedd. Ordeiniwyd Rees Powell yn gynorthwywr iddo ym Mawrth, 18x1, a chydweithiodd y ddau hyd farwolaeth y Parch John Davies yn 1821. Cyn belled ag y gallwn wybod, cyrhaeddodd yr eglwys ei chanmlwyddiailt vil. 1882. Ganwyd y Parch Rees Powell yn 1782, a bu yn perthyn i eglwys Pentretygwyn pan yn ddyn ieuanc. Bu yn bug- eilio Gwernogle a Cross Inn am rhyTw 49 mlynedd. Efe sefydlodd eglwysi Llandeilo a Phenybanc. Bu farw ym Medi, 1865, a chladdwyd ef yng Nghapel Isaac. Mae yn debyg fod rhai yn ael- odau yma yn ein plith yn awr a gafodd eu bed- yddio ganddo. Ar ol y Parch Rees Powell daeth y Parch John Davies, Cwmaman. Sefydlwyd ef yina yn 1859, a pharhaodd ei weinidogaeth am 19 mlynedd rhoddodd i fyny yr ofalaeth yn 1878. Yn 1880 ordeiniwyd y Parch T. Eynon Davies yn weinidog ar yr eglwys hon a Chwm- aman. Tair blynedd y bn ef yn ein plith, ac aeth yn weinidog i Abertawe y mae heddyw yn weinidog yn eglwys Woodford, gerllaw Llundain. Yn Awst, 1884, sefydlwyd y Parch Isaac Cynwyd Evans, a gweinidogaethodd dros 25 mlynedd. Bu farw Chwefror 2il, 1910, yn 64 mlwydd oed. Y Parchn Rees Powell a T, Eynon Davies ydynt yr unig rai a ordeiniwyd ar yr eglwys hon. Yl1 1882, pan oedd yr eglwys yn ganmlwydd oed, rhifai 342 o aelodau yn 1884, 343 yn 1894, 606 1904, 609 ac yn 1914, 578. Oddeutu 1902 ffurf- iwycl. eglwys y Gwynfryn. Codwyd y gweinidog- ion canlynol yn yr eglwys :-Parehn Thomas J enkins, Penygroes a Milo Jonah Morgan, Cwm- bach, Aberdar David Morgan, Felindre a Llan- edi John Thomas, Soar, Merthyr; Rees Rees, Alltwen, Pontardawe Job Richards, Moriah, Llanedi; Evan Richards, Tonypandy William Bowen, Penygroes a Milo David Bowen, Her- mon, Manordeilo D. Llewellyn, Beaufort W. R. Bowen, Carmel, Maesteg Jonathan Evans, Penarth Thomas B. Harries, Somerset J. D. Richards, Trawsfynydd; Gwilym Higgs, B.A., Whitland W. Roderick, Rhiwfawr Sydney Davies, Stony Stratford. Hefyd ordeiniwyd y Parch Watcyn Wyn at wasanaeth yr eglwysi. Dywedodd Mr Lloyd eu bod yn dechreu cyfuod newydd yn hanes yr eglwys wrth sefydlu y Parch D. Tegfan Davies. Anrliy deddwyd ef gan yr eglwys i roddi i Mr Davies groesaw yn eihenw i'r weinidogaeth yn eu plith. Dymunai fod yr undeb tan fendith Duw, ac y byddai y ewrdd hwnnw yn deffro en hymwybyddiaeth o'u dibyn- iaeth ar yr ysbrydol. Crist oedd eu craig a'u tarian ynddo Ef y sylweddolent Dtyrnas Dduw. Yr oedd teyrnasoedd y ddaear y dydd hwnnw yn eu cynghorau yn eynllunio ffordd i ddinistrio eu gilydd Olid Teyrnas heb arfau dinistriol ydoedd Teyrnas Dduw, ac yr oedd yn graddol godi mewn awdurdod yn nlieyrnasoedd y ddaear. Crybwyll- odd enwau rai o gewri pulpud y Christian Temple oedd ef yn adnabyddus ohonynt, megis y Parchn J. Davies, Cwmaman T. Eynon Davies, Llun- dain ac I. C. Evans a diswyliai yn hyderus y byddai ffrwyth gweinidogaeth Mr Davies yn hclaethach na'r eiddynt hwy. Gweddïai am nerth Duw iddo sylweddoli eu gobeithion a llydanu gorwelion eu gweledigaeth fel eglwys. Dymunai drosto ei hun ac yn enw'r eglwys nerth y Gor- uchaf i Mr Davies i gyflwyno Crist iddynt yn eglur, ac y byddai ei ddyfodiad yno yn dwyn bendithion y cyfamod newydd i brofiad yr eglwys, gan wneud y capel yn fan cyfarfod Duw a'i bobl. Gobeithiai y byddai yr undeb yn nn hir-barhaol ac yn llawn tangnefedd. Mr J. Morgans, Y.H., a ddywedodd ei fod yn llawenliau gweled. y dydd hwnnw. Yr oedd yn hyfrydwell mwy iddo ef na neb. Dymunai fod y briodas ysbrydol honnq yn un hapus a dedwydd. Gwnaeth y Brenin Mawr bopeth yn dda, a dilynai bendith ar ol hyn drwy'r gwaith a wnaed y dydd hwnnw. Adwaenai y wlad a'r eglwysi yn dda, ond ni cheid gwell eglwys yn unman na'r Christ- ian Temple. Yr oedd yno ddiaconiaid ardderchog —-ffyddlawn a heddychlawn. Yr oedd holl famau yr eglwys yn gynnes groesawu Mr Davies, ac yn iSenderfynol o'i gynorthwyo yn ei holl ymdrecli- ion. Cofiai ef, wrth gwrs, fod Mr Davies yn dyfod yno i arwain yn holl gylchoedd yr eglwys a rhoddai ei air y dydd hwnnw y byddai ef bob amser yn ffyddlawn iddo, ac ni throai byth oddiar hynny. Cynghorwr E. G. Hopkins, Glynnedd, a ddy- wedodd ei fod ef yno dros eglwys Addoldy, Glyn- nedd. Wedi edrych oddiamgylch gwelai nad oedd Amanford yn brydferthach yn ei olwg na Glyn- nedd. Nid hawdd ganddo siarad, oblegid drwg iawn ganddo ymadawiad Mr Davies o Glynnedd ond llongyfarchai eglwys y Christian Temple ar ei llwyddiant yn sicrhau dyn cryf a ffyddlawn, a gweithiwr mawr fel Mr Davies. Llanwodd ei gylch gyda hwynt a gweithgarweh. Hawdd a hyfryd oedd cydweithio ag ef a phaii gofiai yr amser dedwydd, hiraeth a lanwai ei galon. Dy- munai Iwyddiant mawr a bendith Duw ar Mr Davies a'i eiddo, gan obeithio y danfonai y Pen- bugail iddynt. hwythau eto bregethwr a gwein idog da i lesu Grist. Y Parch Nantllais Williams a ddywedodd ei fod ef yno yn enw Cyngor Eglwysi Rhyddion y He i estyn croesaw cynnes iawn i Mr Davies. Buont yn disgwyl llawer am dano, a da ganddo glywed yr hanes ardderchog sydd i'r gweinidog newydd. Yr oedd ef yn adnabod v Christian Temple er's blynyddoedd, a hanes da iawn sydd i'r eglwys hefyd, fel rhwng y ddau teimlai yn dra hyderus y byddai'r undeb yn un dymunol. Go- beithai y cofiai pawb am eu gweinidog yn eu gweddïau, fel y byddai nerthol yn yr ymdrechfa ysbrydol. Dymunai drosto ei hun a thros yr eglwysi Rhyddion yn y lie groesaw cynnes a bendith a thangnefedd Duw ar Mr Davies a'r Christian Temple. Y Parch T. Gregoiy, Penic l, a ddywedodd ei fod yn dda ganddo longyfarch Mr Davies ar ei waith yn dod yn weinidog i eglwys mor bwysig a chystal hanes iddi, ac hefyd i longyfarch yr eglwys yn ei llwyddiant yn sicrhau gwasanaeth gweinidog mor deilwng. Yr oedd yno hefyd yn enw eglwys Peniel, lie y magwycl ac y codwyd Mr Davies. Y nos Saboth blaenorol cododd holl aelodau yr eglwys eu dwylaw i ddanfon dymun- iadau da a llongyfarchion i'r cwrdd sefydln hwnnw. Gobeithiai y eyflvynent Mr Davies i Dduw yn eu gweddlau bob amser. Mawr Iwydd- iant fyddo ar yr undeb. Mr Davies, Rhydyrhaw, un o ddiaconiaid hynaf Peniel, a ddywedodd ei bod yn dda iawn ganddo allu bod yn bresennol i longyfarch Mr Davies a'r eglwys. Cafocld ef y fraint i fod yn ei urddiad ym Mhontypridd, lie y gwnaeth waith da. Sy- mudodd wedyn i Glynnedd i gylch ehangach, a gweithiodd yn dda yno drachefn. Ond er pwys- iced y lleoedd y bu ynddynt, credai mai hwn oedd y pwysicaf ohonynt oil, a gofynnir mwy oddiwrtho yma. Dymunai arno bregethu yn dda ac yn itcliel--iiior uchel nes y teimlai y gynull- eidfa fod y genadwri yn anawdd ei gwneud, ac yn auawdd iddo ef fel pregethwr ei gwneud. Ond rhaid oedd iddo yn wastadol geisio nerth gan yr Arglwydd i fyw ei bregeth. Andwyir pob pregeth os na bydd y pregethwr yn ei byw. Dywedodd rhywun yn y gyfeillach ym Mheniel. y dylai dnii- ion wllcnd a allent yng ngwasanaethyr Arglwydd. Ciallai dynion wneud, a dylent. Yr oedd peth fel yna yn ddigon da i'w ddweyd yn y City Temple. Gobeithai y gwnai Mr Davies waith mawr yn Amanford nes clywai Peniel, Glyunedd a PhOlltypddd. Yr oedd dymtiniad ei galon drosto. Y Parch J. Evans, Bryn, Llanelli, a ddywedodd fod yn dda iawn ganddo fod yno, ac i roddi croesaw cynnes y Cyfundeb i Mr Davies. Yr oedd wedi dod i Gyfundeb o frodyr ffyddlawll, ac ni chai yn eu plith neb yn meithrin brad. Hefyd, da iawn ganddo weled un o eglwysi pwys- icaf y Cyfundeb wedi cael arweinydd mewn pethau ysbrydol eto. Nid oedd amheuaeth yn ei feddwl nad ymddygai eglwys y Christian Temple yn anrliydeddus tuag at ei gweinidog, oblegid felly y gwnaethai at yrhai fu yma o'i flaen. Yr oedd ef fel Ysgrifennydd y Cyfundeb yn credu ymhob gweinidog, ac arferodd erioed fod o blaid pob gweinidog. Felly y gwnai yn achos Mr Davies. Gobeithiai y byddai yn ffydd- lawn yn holl waith y Cyfuudeb. Croesaw calon. Y Parch J. J. Williams, Treforris, a fynegodd fod Mr Davies wedi bod yn yr un Cyfundeb ag ef yn sir Forgannwg. Da oedd ganddo ategu pob peth ddywedwyd am dano. Mae Mrs Davies, fel ei phriod, yn gymeriad rhagorol. Dylllullai iddynt lawenydd a llwyddiant mawr yn eu cylch newydd. Mr Towyn Jones, A.S., a ddywedodd fod y Parch I. C. Evans yn cael ei sefydlu yma ddeng mh-nedd ar, hugain yn ol—bron yr un adeg ag y daeth yntau i Garnant. Ymddangliosai Mr Evans y pryd hwnnw yn fwy tebyg i fyw nag ef ond fel hyn yr oedd pethau. Da iawn ganddo fod yn bresennol yng nghapel Gelli Manwydd dyna enw Cymraeg y capel. Yr oedd yn adnabod Mr Davies er's blynyddoedd. Clywodd air da iddo gan yr eglwysi lie y bu yn llafurio ynddynt. Dymunai Iwyddiant mawr iddo yn Amanford, yr hwn oedd yn gylch pwysig ac yn gyrchfan pobloedd. Gobeithai y byddai yn ffyddlawll i Dduw yn y cylch. Pan elai y Christian Temple ar dan, deffroai hynny yr eglwysi amgylchynol. Dymunai iddynt bob bendith a thangnefedd. Y Parch D. Tegfan Davies a ddywedodd ei fod yn diolch i bawb—i'r eglwys am groesaw cynnes, i'r brodyr yn y weinidogaeth, i'r ymwel- wyr o'r gwahanol gylchoedd, ac i gynrychiolwyr -am cu presenoldeb, ac yn enwedig am eiriau caredig. Da iawn ganddo groesaw yr Eglwysi Rhyddion. Yr oedd yn bwriadu rhoddi ei hunan mewn cydweithrediad a brodyr y lie. Diolchai