Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

DR. JAMESON YN GARCHAROR.

News
Cite
Share

DR. JAMESON YN GARCHAROR. Crewyd cyffro drwy holl Brydain. a gwledydd ereill, ar dderbyniad hys- bysiad boreu ddydd Mercher fod Dr. Jameson, swyddog adnabyddus yn ngwasanaeth Cwmni Prydeinig Deheu- dir Affrica, wedi ymdeithio, gyda gallu cryf o wyr arfog, i diriogaeth Gwerin- lywodraeth y Transvaal, a'i fod ar y ffordd i Johannesburg. Mor fuan ag y daeth y ffaith hon yn hysbys i Lywodr- aeth y wlad hon, aeth Mr Chamberlain gyda phob brys i'r Swyddfa Drefedig- aethol, ac ni chollodd amser i fabwysiadu mesurau i adferu heddwch rhwng y pleidiau, os oedd hyny yn bosibl. Nos Fercher, cyhoeddodd Mr Chamberlain ei fod wedi anfon at Arlywydd y Werin- lywodraeth Affricanaidd, ac at lys- genhadwr y wlad hon, i geisio atal yr anghydfod hefyd rhybuddiai, yn enw y Frenhines, bob Prydeiniwr a drigianai yn nhiriogaethan y cyfryw Werin-Lyw- odraeth i ymgadw rhag cynorthwyo Dr. Jameson mewn unrhyw fodd, ond i barchu cyfreithiau y wlad hono, a bod yn anmhleidiol. Yn ychwanegol, cy- farwyddwyd cenhadon i fyned at Dr. Jameson a'i lu, a gorchymyn iddynt, yn enw y Frenhiues, i ymneillduo ar unwaith. Pa fodd bynag, ofnid na chyrhaeddai y cenadwriaethau, gan fod Dr. Jameson wedi gorchymyn tori gwifrau y pellebyr. Hysbysai Mr Rhodes ei fod yn analluog i atal rhuthr Dr. James mewn canlyniad i ddinystr- iad y pellebyr.

EGLURHAD DR. JAMESON.

DECHREU YMLADD.

Y CYFFRO YN YMLEDAENU.

YMERAWDWR GERMANI A LLYWYDD…

MANYLION YCHWANEGOL.

YMDDISWYDDIAD MR CECIL RHODES.

[No title]

INODION AMRYWIOL i--,

PRYDER PRYDAIN. -