Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YN MHLITH YR ENWADAU-i

News
Cite
Share

YN MHLITH YR ENWADAU-i [GAN SYLWEDYDD. ] Wn i ddim beiih Vw wneyd, gan nad yw yr holl newyddiaduren a arferaf gael wedi cyraedd. Os na ofelir yn well, bydd yn rhaid i mi ddefnyddio yr hunting whip at rywrai. Diau fod eich colofnau yn Dawn ar ddechrea blwyddyn, felly toraf fy stori yn fbr.-O, ïe, wrth gofio, glywsoch chwi am y Methodistiad yn Sir Foil ? Hawliant fod 32,000 o drigianwyr yr ynys kono yn perthyn iddynt hwy Gan nad yw hoH boblogaeth yr ynys o,nd tua 35,000, gwelir fod amryfusedd mawr yn hyn, gan na chaniateir ond rhyw dair mil ar gyfer yr Eglwys, yr Annibynwyr, y Wesleyaid, a'r Bedyddfoyr, heb soa am esgeuluswyr. Ffordd WU8 iawn i gyfrif, onkle ? Nial wyf wedi gweled ystadegau yr enwadan | ereill, ond ni fydd yn syndod genyf weled nifer crefyddwyr yr ynys gymainfc dair gwaith a'r boblogaeth. Ymddangosodd yr hyn a ganlyn mewn newyddiadur Anghydffurfiol yu y Gogledd yma yr wythnos ddiwedskif. Madden wch i mi am ei ddodi y yr iaith yr ysgrifenwyd ef, er' mai mewn newyddiadur Cymreig y gwelais ef Cyhoeddwyd cyfres o erth- yglau yn y Jackson (0.) Standard Journal ar gymanfa ddiwaddar Venedocia. Fel hyn y cyfeiria awdwr yr erthyglau at ymraeg pwlpudau yr Unol Dalaethau 'rho sub- ject matter of the greater number of the sermons was superior, but the delivery was inferior, and of some execrable. Poor delivery is slowly crushing the life out of the Welsh pulpit. It is to be feared tkat too many ministers forget that the Gospel is to be preached, not read, not declaimed, and never sing-songed. There must be amendment along this line. The Welsh language is dying in the United States because the Welsh preachers atfeempt to murder it in every sermon they are killing it by inches. The ludicrous pronunciation, the faulty syntax, the lame diction would be discreditable in a schoolboy's examina- tion papers, much less in the pulpit. For instance, one minister lÎlwaya pronounces gilyid as if spelled giddyl. One reverend, in addressing Rev. Rowland Jones, said in substance, I Nid oes genl/f (Idiwb i wneyd fit nob ond a chli.1 When it is remembered that ch'i, intended for' chtvi (you), is pro- nounced like chi (dog), his remark was painfully startling. But enough of this, for I fear the murdering will go on j Qst the same. Yn Ye Brython, ceir y nodiad golygyddol a ganlyn:—"Yn ystod y naw mlynedd diweddaf ba gweinidogion Anghydffuriiol Cymru yn edrych ar Babyddion yr Iwerdd- on nid yn unig fel brodyr adUfwyn a thawel, eitbar fel rhai oeddent yn cael cam mawr oddiar law Protestaniaid yr ynys hono. Gwyddem nad oeddent yn eu had- nabod, a dhynygiasom fwy nag unwaith mewn dull cyhoeddus i dalu treuliau unrhyw weinidog Anghydffurfiol a wnelai fyned am Sabboth i dref neillduol, nid i bregethu, eitbr i ddarllen penod o'r Beibl ar gornel yr heol yn yr awyr agored. Methasom a chael neb yn ddigon gwrol i fyned, ao y mae yn debyg pe llwyddem, buasai y cenhadwr yn delfrg o ddychwelyd gyda syniadta fpur wahanoi am y Pabydd- ion," v Wrth adolygu y flwyddyn 1895, ceir rhai ebychiadau cwynfanus yn yr Herald Oyrn- raeg. Wele rai o honynt: Wrth edrych yn Ql, mae'n bur eglur mai camgymeriad andwyol y Weinyddiaeth Ryddfrydig fu cymeryd gormod o goflaid. Anghofiwyd yr hen wireb mai' yn ara' deg yr eir yn mhell.' Aamhosibl ydyw'beio yr aelodau Cymreig- a'r pedwar gwrthryfelwr, yn enwedig-am fynu cael Dadgysylltiad i sylw'r Senedd ar ol Ymreolaeth. Ond yr anffawd oedd fod adranau erejill o'r blaid yn gomedd glynu wrth drefn Rhaglen Newcastle. Gwanych- wyd y Rhyddfrydwyr drwy ymbleidio; unwyd landlordiaeth, Eglwysyddiaeth, a thafarnyddiaeth yn llu cadarn, trwy gael ymosod ar bob adran o honynt ar yr un adeg, a'r diwedd fu trychineb. Mesur gwael oedd y Bil Dadgysylltiad a dylai y nesaf fod yn un llawer amgenach. Myn rhai fod yr aelodau Cymreig yn feius am geisio ei wella; ond yn sicr yr oedd llawer mwy o fai ar Mr Asquith am fod mor bengam." Pa sawl rheswm arall a ddygir yn mlaen dros orchfygiad y Llywodraeth ddiweddar ? Yn sicr, yr ydym wedi cael digon o amrywiaeth. Gresyn fod y newydd- iaduron Radicalaidd yn parhau i gyhoeddi yr haeriad anwireddus am gyssylltiad yr Eglwys &'r dafarn, gan nad oes y sail leiaf iddo, a gwyr y cyhuddwyr hyny yn dda. Cynwysa y Faner ensyniadau dirmygus yn ami, ond credaf nas gellíd dychymygu un gwaelach na'r cainlynol "Mewn rhanau o wlad Myrddin, nid oes son, meddir, am gig Nadolig i'r tlodion y flwyddyn hon ac y mae llawer o'r farn fod y cig wedi peidio o herwydd i!r Toriaid golli y dydd yn yr etholiad diweddaf. Sut y gall t, fod cysondeb yn hyny nis medraf fi weled, o herwyddjnd oedd pleidlais gan y tlodion, a byddai yn beth anghyson iawn eu cosbi hwy am bechodau Dobl ereill goruweh iddynt. Caffed amynedd ei pherffaith waith diclion y daw y cig eto cya bod y gwyliau heibio yn llwyr. Os na ddaw, bydd yn rhaid dyfed i ryw gasgliad am achos y pall." Oddiwrth y TYflt, gwclaf fod un yn fiafriol i addysg grofyddol mewn ysgolion, a rhydd reswm da dros ei olygiad, "PA res wfa sydd dros osod Homer a Virpil, Cesar a Plato, Cicero a Demosthenes, mewn cadeiriau yn Nghelegau y B-ifysgol yn Aberystwyth, Bangor, a Chaerdydd, tra y mae Moses a Dafydd, Job ac Esau, Crist a Paul, Origen ac Awsfeiu, yn cael eu cadw ,.11,n yn hollol, a hyny mewn gwlad Gristionogol. Ni wadaf nad ydyw y paganiaid uchod yn feirdd, athronwyr, ysgrifenwyr, ao yn areithwyr rhagorol, ond a ydynt yn rhagori ar feirdd ac athronwyr y Beibl. ar ysgrifenwyr ac areithwyr yr Ysgrythyrau? Heblaw hyny/'beth by nag ydyw eu tlysni ,eyfansoddiac101 a dydiymygol, paganiaid ydynt, ac y mae yn warthus a pheryglus, yn niweidiol a bradwrus, i'w gosod ar binaclau yn addysg ein gwlad tra yn diraddio ac yn bychanu ysgrifenwyr yr Hen Defitament, ie, Sylfaenydd Cristion- ogaeth a'i. apostolion drwy eu cadw allan o'r sefyiliadau hyn. Dnw ganiatao i mi weled y dydd y bydd Boibl a llenyddiaeth Gristionogol yn benaf peth yn addysg ein wlad." Yn hollol groes i hyn y datgana W golvgydd ei farn mewn rhan araH o'r un newyddiadur, gan haera fod y wlad i gael oi threthu i ddysgn crefydd i blant. Pan ystyrir mai pregethwyr ydynt, wrthwyneb- wyr penaf addysg grefyddol, nid rhyfedd eu bod yn colli eu dylanwad ar y wlad. A ganlyn sydd ddyfyniad o ertbygl olygyddol y Seven :—" Mae brwydr fawr sectyddiaeth yn nglyn a chwestivm addysg yn cyfiroi y wted o gwr i gwr. Ni ellir 2osod gormod o bwys ar y cwestiwn hwn. Mae Eglwysyddiaeth wedi cael mantais anarferol trwy yr etholiad diweddaf, trwy gael y blaid sydd mewn cydymdeimlad Hawn gofynion i awdurdod; ac fel dynion call. y mae holl seotariaid y wlad yn dal ar y cyfleustra i gynhauafu eu gwair ar v te3, ac yn ceisio adgyfnerthion i'w hysgolion fydd yn eu gosod i bwyso ynr awbi ar drethoedd y wlad, a difodi mo. bell ag y gellir Ysofolion Byrddol y wlad Oni, fydd i AnghydfFarfwyr fod yn efFro a byw iawn, llwyddant yn eu hamcan. Dylem gan hyny ddal ar bob cyfleustra i'w gwrthvrynebu a'u rhwvstro." Yma eto canfyddir y chwerwder a deimlir tuag at yr Eglwys pan y cynygir estyn yr un chwareu teg i'w hysgolion ago i Ysgolion y Byrddau. Gwneir, fe Iwyddir i sicrhau cyfiawnder, er gwaethaf holl ddadwrdd y nwddiaduron Radicalaidd.

EISTEDDFOD TALYLLYCHAU.

Advertising

COEDPOETH.

A GREAT WELSH LUNG CURE.