Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

NODION 0 LANFAIRISGAER.

News
Cite
Share

NODION 0 LANFAIRISGAER. [GAN IOAN WYN]. Er pan ysgrifenais y Nodion diweddaf i'r LLAN ychydig fisoedd yn ol y mae llawer iawn o bethau wedi cymeryd lie. Yr wyf wedi bod yn hynod brysur, ac wedi bod yn edrych am fy ffryndiau yn Llanddanielfab, Ynys Mon. Bob amser y byddaf yn talu ymweliad a, Mon, Mam Cymru,' y mae rhywbeth hynod yn sicr o gymeryd lie, yn enwedig wrth fyned dros y 'Foel Don.' Un tro yr oeddym yn myned drosodd, a phan yr oeddym yn myned dyma hi yn dyfod yn storm fawr arnom—un o'r rhai rhai mwyaf sydyn a welais i erioed. Nid wyf yn gwybod beth oedd y mater y tro hwn os nad oedd y Proffwyd Jonah yn y cwch, ac heblaw fod 'loan Wyn a Jonah yn forwyr go dda 'dwn i ddim pa Ie y buasem ni wedi landio. Ond y tro hwn; storom rhwng hen Eglwyswraig selogo Lan- edwen, ac un o deulu John Wesley. Ac yn wir, nis gallaf ddesgrifi o i chwi yn iawn sut yr oeddwn yn mwynhau fy hunan yn ei chwmpeini. Dywedodd ei bod yn cerdded tair milldir i'r Eglwys bob Sul, gan nad oes yn Llanedwen ond un gwasanaeth yn y prydnawn. Os ydyw holl Eglwys-wragedd Mon fel hon y maent yn haeddu canmol- iaeth. Gresyn na fuasai Yr Hen Bysgot- wr' gyda'i gwch yn ymyl i gyfranogi o'r wledd. Yr oeddwn yn disgwyl ei weled i mi gael salmon ganddo. Y mae merched Llanfairisgaer yn dweyd ei fod yn well na thafod i de. Cyrhaeddais ben y daith yn llwyddianu, sef Llanddaniel, lie y llafuria yr offeiriad gweithgar, y Parch Thomas Davieq, un o hen weinidogion ffyddlawn y plwyf hwn. Y mae ei enw yn fyw byth yn y plwyf, a chefais brawf y noson hono o'i weithgarwch gyda phlant, gan fy mod yn digwydd bod yno ar noson cyfarfod y plant. ST. MAIR. DYDD NADOLIG. Yr oedd trefn y gwas- anaethau yn Eglwys St. Mair, fel y can- lyn :—Yn y boreu ym 7 o'r gloch, gwein- yddiad o'r Cymun Beddigaid gan y Parch J. T. Jones, ficer y plwyf. Am 10, gwasanaebh, a gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid drachefn gan y Ficer. Yn y prydnawn am 2, gwasanaeth i'r plant. Canwyd amryw o hymnau a carojau gan y plant, a holwyd hwy yn hanes yr Arglwydd lesu Crist gan y Ficer. Gwnaeth y plant eu gwaith yn rhagorol yn mhob ystyr a chafwyd cyfarfod adeiladol a bendithiol. Yn yr hwyr am 6, gwasanaeth ynghyd & llu mawr o carolau gan aelodau or cor, y rhai y mae clod mawr yn ddyledus iddynt am eu sel a'r gwaithgarwch gyda'r gwaith, wedi bod am dri mis gyda gilydd yn barties yn ei dysgu erbyn yr wyl. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn a'r canu yn ardderchog yn mhob ystyr. Yr oeddyr Eglwys wedi cael ei gwisgo yn hynod o hardd. SARON. DYDD N.ADOLIG. Cynhaliwyd gwasan- aethau yn yr Eglwys uchod, yn ystod yr wyl bwysig hon. Yr oedd trefn y gwasan- aethrou trwy y dydd fel y canlyn :-Boreu am 8 o'r gloch. gweinyddiad y Cymun gan y Parch. J. T. Jones, ficer. Am 10.15, gwasanaeth a phregeth gan Mr W. E. Jones (Ap Ellis). Am 2.30, gwasanaeth i'r plant. Canwyd amryw o hymnau priodol gan y plant. Rhoddwyd 'Christ- mas cards iddynt gan Mr Robert Evans, Brynhyfryd, a Mr John E. Williams, Rhyd- yfuwch. Yn yr hwyr am 6, gwasanaeth a carolau. Intoniwyd y gwasanaeth gan Mr Ellis Jones, a canwyd carolau gan amryw. Yr oedd yr Eglwys wedi cael ei gwisgojjyn hardd, gyda gwyrddlysiau o Llanfair Hall, ac o Ficerdy y plwyf. Cafwyd gwasanaethau gwresog trwy y dydd. PORT CHURCH. DYDD Y NADOLIG.—Yr oedd gwasan- aethau yn yr Eglwys hon fel y canlyn Boreu am wyth, gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid gan y Parch R. L. James, curad. Ac am 10, gwasanaeth a gwein- yddiad o'r Cymun Sanctaidd drachefn. Ac am 11 yn Saesneg yn y (Private Chapel, Vaynol), gan Mr James. Ac am 6,30 gwasanaeth a carolau. Intoniwyd y gwasanaeth gan Mr James, curad. Gwnaeth y cor eu gwaith yn rhagorol. ST. MAFR. Nos SUL Y CALAN. Yr oedd Eglwys brydferth St. Mair yn orlawn nos Sul di- weddaf, a chafwyd gwasanaethau da, a canodd aelodau y cor garolau yn hynod o dda. Intoniwyd y gwasanaeth gau y Parch J. T. Jones, ficer, a gwasanaethwyd ar yr organ gan Mr J. Williams. SARON. Nos SUL NADOLIG. — Cynhaliwyd gwasanaeth, a chanwyd nifer mawr o garolau yma nos Sul. Yr oedd yr oil o'r gwasanaethau yn gorawl, a chanwyd pedair-ar-ddeg o carolau. Yr oedd yn orlawn yma nos Sul. Gwasanaethwyd ar yr organ gan Mr F. D. iWilliams yn hynod o fedrus.

YSGOL RAMADECOL DOLGELLAU.

CRICCIETH.

CAERGYBI.\

LLANLLECHID.

__----__-BARRY.

CORWEN.

[No title]