Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
Y PREGETHAU *YN MYNACHLOG…
Y PREGETHAU *YN MYNACHLOG WESTMINSTER. UN o. arwyddion yr amserau oedd tri Chymro urddasol yn pregethu yn Myn- achlog "Westminster ac Eglwys gyfagos St. zn 113 0 Margaret's, ar yr un Sul. Y tri oeddynt Esgobion TY DDEWI a LLANELWY, a'r Archddiacon HOWELL, Wrecsam. Y gwrthddrych a bleidient ac y gofynent gyfraniadau tuag ato ydoedd adeiladaeth Eglwys newydd i'r Cymry yn rhan Or- llewinol Llundain. Cymerodd pob un o'r pregethwyr uchod fantais o'r cyfleus- dra i gyfeirio 3-n ei ffordd ei hun at sefyllfa yr Eglwys yn Nghymru, ac i enill cydymdeimlad tuag ati. Nid ydyw y pregethau wedi eu cyhoeddi i'n gwybod- aeth ni, ond ymddangosodd darnau o honynt yn mhapyrau Llundain y dydd canlynol. Gwel Golygydd y Faitet- yn dda, mewn dull chwyddedig ac awdurdodol, gondemnio pregeth Esgob LLLANELWY, a chanmol eiddo'r Arch- ddiacon HOWELL, ac addawa ddychwelyd at yr olaf. Ni ddywed air am bregeth Esgob TY DDEWI. Credwn fod yna nodiadau yn y bregeth a draddodwyd gan Esgob TY DDEWI, er na chymerodd y Faner yrun sylw o honynt ag sydd yn deilwng o gael eu pwyso a'u hystyried yn bwyllog. Teilyngant le cyweirnod y dyfodol. Dywedai y Gwir Barchedig BRELAD mai gwaith neillduol yr Eglwys yn awr ydoedd dysgu i'r genedl werth- fawrogrwydd givirionedd, punleb, ac andeb. Nis gall yr un gwlaclgarwr lai na gotidio fod y rhinweddau pwysig hyn wedi dirywio yn ngliymeriad y genedl, a'u cydmaru a'r hyn a fodolai gynt. Ystyrid y Cymro yn eirwir, ac i ymddi- bynu arno. Honest Taffy oedd ei deitl yn mhlith y Saeson. Digon o waith fydd adenill y cymeriad, os amlheir yr ar- ferion presenol. Gwyddom am ardal, lie mae gwyr yn gadael gwragedd a phI ant ar eu hoi, ac yn dianc i America heb anfon gair na cheiniog yn ol atynt. Gwyr pawb am y dull ysgafn, dirgelaidd, yn mha un y prioda rhai yn prqffesu crefydd mewn swyddfa. Gwyr llawer am arferion anweddaidd carwriaeth rhwng pobl ieuainc. Mae yn myned yn achos o ymffrost fod cynlluniau i ddianc taliadau. cyfrdthlawn fel y degwm wedi eu perffeithio nes myned yn fater o gel- fyddyd. Mae dianc rhwymedigàethau a chytundebau wedi myned, fel dywed DE QUINCEY am lofruddiaeth, yh fine art. Mae masnach yn llawn twyll, a'r rheol Gristionogol i wneyd i eraill fel y dy- munem iddynt hwy wneyd i ni wedi ei hanghofio yn rhy gyffredin fel egwyddor anmherthynasol. Ac am undeb, a ellir gwadu desgrifiad miniog Siluriad yn y Get linen. Gwaith yr Eglwys yw llesau y genedl, a'i dyrchafu. Onid oes achos ? A gallwn ofyn yn mhellach, a ellir edrych oddiamgylch am unrhyw ddylanwad arall i adferu ein cenedl i feddiant cyf- lawnach o'r rhinweddau sylfaenol hyn ond dylanwad yr egwyddorion a ym- ddiriedwyd i'r Eglwys eu cyhoeddi a'u lledaeiiu. Geiriau euraidd a geiriau tymhorol oedd eiddo Esgob TY DDEWI yn Mynachlog Westminster. Pan ddeallir eu hergyd, bydded iddo ddisgwyl gael ei erlid gan Phariseaeth yr oes, a ninau hefyd gydag ef. On(I os am y gwir y'n lleddir, ba waeth ?
. GWASANAETH CYMREIG YN EGLWYS…
GWASANAETH CYMREIG YN EGLWYS GADEIRIOL ST. PAUL. BYDD yn llawenydd gan ein darllenwyr ddeall i'r gwasanaeth Cymreig yn Eglwys St. Paul, nos Wener diweddaf, droi allan yn llwyddiant mawr-tuhwnt i ddisgwyl- iadau uchaf y brodyr Cymreig ffyddlawn yn Llundain, a fuont mor egniol yn parotoi ar gyfer yr uchelwyl arbenig hon yn hanes yr Eglwys. Pan y mae pawb fu yn cydweithio mor rhagorol yn teilyngu clod, teimlwn nad yw ond teg nodi yn neill- duol yni llwyddianus y Parch. KILLIN ROBERTS, a'r gefnogaeth galonog a dder- byniodd gan y gwladgarwr cynes, a'r Eglwyswr diffuant, Syr JOHN PULESTON, A.S. Yr oedd golwg ardderchog ar y gynulleidfa fawreddog o Gymry-o wyth i ddeg mil-yn llonaid y Brif Eglwys enfawr. Yr, oedd y canu yn felus a chynes. Yr oedd disgwyliad uchel am bregeth Esgob LLANELWY. Fel y gwel ein darllenwyr oddiwrth yr adroddiad a roddir o'r bregeth mewn colofn arall, traddododd yr ESGOB bregeth neillduol o addas i'r amgylchiad. Yr oeddem yn falch o'i g^ wed yn traddodi Cymraeg pur, prydferth, yn gryno a chadarn, heb fymryn o lediaith o fath yn y byd ar ei dafod. Profodd yr Esgob EDWARDS yn St. Paul ei fod yn Gymro glan gloew, nid yn unig mewn iaith, ond hefyd mewn calon. Anwylir ef yn fwy nag erioed gan Eglwyswyr Cymreig am ei ddesgrifiad clir a hyawdl o serch y Cymro at ei iaith a'i wlad. Ond nid gwladgarwr ar dafod yn unig mo'r Esgob EDWARDS. Ein perygl ni fel cenedl, yw boddloni ar ym- fflamychiadau gwladgarol gwag. Gobeith- iwn y derbyn apel rymus yr ESGOB am ffrwythau ymarferol oddiwrth wladgar- wch, ystyriaeth ddifrifol pob Cymro. Tarawodd yr ESGOB yr hoel ar ei phen pan ddywedodd ei bod yn llawn bryd i wladgarwyr Cymru, yn lie cnoi eu gilydd, ameddwi ar wleidyddiaeth, gydweithredu a tharo ati i ddarpar moddion adloniad a diwylliant i'r dosbarth gweithiol, ac yn enwedig i weision ffermwyr. Nid oes neb all wadu nad yw Cymru wedi talu yn ddrud am ei hymraniadau ? Addefir hyn gan Ymneillduwyr llygadgraff. Ond ni theimlir y golled yn llawn tra y boddlonir ar siarad fenywaidd. Gyrodd yr ESGOB y gwirionedd adref pan gyfeiriodd at, bentref gwledig gyda chwech o addoldai eang, ar draws eu gilydd, ar gyfer rhyw ddeuddeg cant o drigolion. Onid llawer iawn gwell fuasai rhoddi, o'r hyn lleiaf, haner yr arian at dai cysurus a chyfleus i gadw pobl o'r tafarnau, ac i roddi iddynt gymdeithas iachus, dyddorol, ac addysg- iadol gyda'u gilydd ar ol cadw noswyl ? Credwn na Iwydda dirwest byth fel y dylai hyd nes y cawn dai o'r fath ar hyd a lied y wlad. Diau, gw e-i yw gwlad- I Z3 garwch Cymreig, fel y dywedodd yr ESGOB, os na wnaiff rywbeth gwell na bod yn destyn trwf llestri gweigion, yn gareg-farch i uchelgais hunanol, neu yn asgwrn cynen plaid. Rhaid puro gwladgarwch, a'i seilio ar gariad brawdol yn undeb CRIST, cyn y daw yn allu ymarferol i ddyrchafu, ac i bereiddio bywyd cymdeithasol Cymru. Gobeithiwn y bydd i'r Eglwys yn Nghymru ddyrchafu ei llais yn fwy croew a chadarn nag erioed dros yr egwyddor fawr sydd mor amlwg yn y Testament Newydd, mai cariad, ac nid cynen, yw nodwedd gwir grefydd. Ni ddaw Cymru byth yr hyn ddylai, na'r hyn allai fod, nes yr argvhoeddir y bobl nad oes na synwyr na gras yn y chwerwder ffyrnig a hauwyd mor ddiwyd yn y wlad y blyn- yddoedd diweddaf, gan athrawon a dyb- ant mai y ffordd oreu i Gymry garu eu gwlad a'u GWAREDWR yw, trwy gasau a chnoi eu gilydd. Sylwa un brawd mewn newyddiadur Ymneillduol, yn ddi- weddar, mai segurwyrsyddynymrafaelio. Sylw dar iawn. Nod pregeth alluog yr Esgob EDWARDS yw gwaith gwladgarol ac nid baldordd. Ond cael gwladgarwyr Cymreig i gydweithio, caent flas ar eu gwaith, a blinent ar ymbleidio. Gorchwyl hynod ddiflas, wedi'r cwbl, yw ffraeo, a gorchwyl hollol ddifudd. 0 Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad-dynodd chwi."
. Y TRYCHINEB GLOFAOL YN WILKESBARRE.
Y TRYCHINEB GLOFAOL YN WILKESBARRE. Danfonwyd y newydd annymunol o New York, ddydd Mercher, fod pob gobaith wedi ei roi i fyny am adferyd y deuddeg dyn a gauwyd i fewn yn y lofa yn Wilkes- barre, yr hon a gymerodd dan ddydd Llun diweddaf, ac fod y pwll yn awr yn cael ei orlifo er diffodd y fflamau.
EMIN PASHA.
EMIN PASHA. Dychwela Emin Pasha i Bagamoyo mewn ychydig ddyddiau, a bwriada gy- meryd llong i Ewrop ddiwedd y mis hwn. Major Wissman a ymosoda ar Bwana Heri yr wythnos hon gyda chynorthwy llongau Germanaidd sydd wedi gadael Zanzibar am arfordir y cyfandir Affrican- aidd.
GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS AR…
GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS AR REILFFORDD. Foreu dydd Mawrth, cymerodd gwrth- darawiad difrifol le ar du gogleddol y t, Z;p Citadel Station, Carlisle, rhwng y brys- gerbydres Ysgotaidd, yr hon a adawodd Llundain am wyth o'r gloch, y noson flaenorol, ag agerbeiriant y Caledonian Company, a lladdwyd pedwar o'r teithwyr. Priodolir y ddamwain i Hthrigrwydd y cledrau, yr hyn a analluogodd y brakes i weithio.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. BOWEN-Ionawr 24, 1890, yn 83 mlwydd oed, Mrs. Bowen, Milwaukee, Wiscon- sin, gynt o Llanon, Sir Gaerfyrddin, o'r hon gymvdogaeth yr ymfudodd yn 1847. EVANS—Ionawr 19, 1890, yn Morea, ardal newydd yn agos i Mahanoy City, Pennsylvania, Joseph Evans, yn in mlwydd oed. Ganwyd ef yn 1859, yn nghymydogaeth Trelech, Sir Gaer- fyrddin. Ymfudodd tua blwvddvn a haner yn ol. Gadawodd weddw a dau o blant amddifaid i alaru ar ei ol yn Nghymru, a dau frawd ac un chwaer.
[No title]
Methasom yn Ian a chael gofod i barhad y Cyfarfod Amddi- ffynol Dohvyddelen" yn y rhifyn cyntaf o'r LLAN FAWR. Ym- ddengys yn ddiffael yn y nesaf.
CYFRINGELL Y GOLYGYDD
CYFRINGELL Y GOLYGYDD DYMUNWN gydnabod gyda cliolchgarwch cynes ysgrifau Powell Williams, Cynwyl, Myrddin Llwyd, Gohebydd Lerpwl, aNodwrTalwrn, Men, Clydach, Resolven, Llanuwchllyn, Penmachno, Llangollen, &c., &c., &c. Derbyn- iasom, yn rhy dcliweddar i'w cysodi, y cyfraniadau canlynol, a ddanfonwyd i Gaerdydd, yn lie Merthyr :—Hendy Gwyn ar Daf, Llith o Lerpwl, Llith o Manceinion, Lleyn, Eglynion Sant Dewi," Eifionydd, a Deoniacth Dinbych. Drwg genym am yr amryfusedd. Gwnaethom yr oil a allom i hysbysu ein cyf eillion ein bod yn newid ein swyddfa. Caiff eu hysgrifau bob ystyriaeth, a lie anrhydeddus yn ein hargraffiad nesaf. Crefwn ar ein cynorthwywyr i fod yn fyr a phwrpasol. AETH y sypyn barddoniaeth i Gaerdydd hefyd. Dyna y rheswm fod y Golofn Farddol yn eisiau yr wythnos hon.
[No title]
Ein bod ni yn galaru yn ddifrifol o her- wydd natur y cynhyrfiad sydd yn aivr mor gyffredinol yn y deyrnas, diben proffesedig pa .ffe un yw dadgysylltu yr Eglwys Genedlaethol oddiwrth y Wladwriaeth, a gwneyd cyfnewid- iadaw eraill mewn trefniadau Eghvysyddol. Yr ydym o'r farn nad yw yn perthyn i ni ymyraeth a'r cyfryw faterion, ac yr ydym yn rhoddi anogaeth bendant i bob aelod o'r cymundkbna ymyro a'r rhai anwastad; ond i'r gwrthwyneb, fod iddo iveddio dr08 y Brenin a phawb sydd mewn goruchafiaeth: fel y gallom ni fyw yn llonydd mewn pob dmvioldeb a gonestrwydd." Cyngor Cymdeithasfa Flynyddol y Meth- odistiaid Calfinaidd a gynhaliivyd yn y Bala, Mehefin 10fetl, lleg, a'r 12fed, 1834, i aelodau yr enwad. Cynygiwyd y Cyngor gan Mr. John Elias, ac eiliwyd ef gan Mr. W. Morris, a derbyniodd gymeradwyaeth unllais 500 o bregethwyr a blaenoriaid.
.CYD-DDEALLTWRIAETH A CHYD-WEITHREDIAD.
CYD-DDEALLTWRIAETH A CHYD-WEITHREDIAD. Nl iu cyfnod yn ei hanes pan y bu'r Eglwys yn Nghymru yn wrthddrych cymaint o sylw ag a delir iddi yn y dydd- iau presenolv Prif genadwri pob Aelod Seneddol Radicalaidd a anfonir i'r Senedd o Gymru yw ei fod i ddadleu a phleid- leisio dros Ddadgysylltiad ac ysbeilio yr Eglwys o'i ineddianuu. Dyma gareg syl- faen pob cymdeithas a chyngrair politic- aidd Radicalaidd yn y Dywysogaeth. Tra y inae'r amrywiol sectau yn eiddig- eddus wrth eu gilydd, ac yn esgymuno y naill y llall pan fo eu gwahanol nodwedd- ion crefyddol mewn dadl, ymwelant a chapelau y naill y llall, ac anerchant eu gilydd gyda zel deilwng o'r Phariseaid manylaf pan fo dinystr yr Eglwys yn destyn eu liymdrafodaeth. Pe byddai y pwnG sydd yn ffurfio conglfaen eu cyd- undeb yn deilyngach o ddynion yn pro- ffesu y grefydd Gristionogol, gallem o gal on ddywedyd, Wele mor ddaionus ac inor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd Drachefn a thrachefn dywedant wrthym eu bod yn unfryd unfarn ar y mater hwi, er maint eu gelyniaeth at eu gilydd ar faterion crefyddol. Pa beth y mae yr Eglwys yn wneyd mewn hunan-amddiffyniad yn ngwyneb ymosodiadau undebol yr Ymneillduwyr arni ? Y mae yn wir fod yr Eglwys yn talu llawer mwy o sylw i athrawiaethu a hyfforddi mewn cyfiawnder nag y gwna y sectau. Tra y mae yr offeiriaid yn gweithio ymysg eu pobi yn eu gwahanol blwyfydd, y mae y gweinidogiomYmneill- duol yn gwibio o un cyfarfod politicaidd i un arall, gan wneyd a allant i greu anghydfod ac anghariadoldeb ymhlith cymydogion. Ond credwn y gallai yr Eglwys wneyd llawer mwy i wrthweithio yr ymosodiadau arni nag a wna heb es- geuluso dim o'i gwaith ysbrydol fel y cyfryw. Rhaid iddi ofalu am hwn, oblegid gan- ddi hi y mae'r comisiwn dwyfol, a hi yw sylfaen a cholofn y gwirionedd ac er ei bod yn y lleiafrif o ran rhifedi, hi ydyw halen y ddaear. Nid yw llwyddiant bob amser yn ymddibynu ar liosogrwydd. Yr ydym ni yn cydnabod ein bod yn y lleiaf- rif, ond nid mewn rhifedi y mae gwendid yr Eglwys yn Nghymru yn y dyddiau presenol, ond yn hytrach o lawer mewn absenoldeb cyd-ddealltwriaeth a chyd- Nveitl-irediacl. Pan yr oedd y Midianiaid yn gorthrymu yr Israeliaid, ac y cyfodwyd GEDEON i fod yn arweinydd iddynt, yr oedd y gelynion fel locustiaid o amldra, ac nid oedd rhifedi arnynt, eto, gorchfyg- odd' GEDEON lrwyut gyda dim ond tri chant o wyr. Yr oedd GEDEON yn ar- weinydd medrus. Rhanodd ei fyddin fechan yn dair rhan, ond yr oedd perffaith gyd-ddealltwriaeth rhyngddynt, yr hyn a sicrhaodd gyd-weithrediad a buddugol- iaeth, canys y tair byddin a udganasant mewn udgyrn.ac a lefasant, I Cleddyf yr ARGLWYDD a GEDEON,' a lioll wersyll y gelynion a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd." Drwy iawn gyfraniad o'r gallu- oedd wrth law, a cliyd-ddealltwriaeth a chyd-weithrediad, gallai yr Eglwys yn Nghymru ddyblu ei heffeithiolrwydd. Pa le y mae ein harweinwyr ? Y mae ein peirianwaith yn berffaith, ac nid oes angen am un cyfluniant newydd. Rhenir y Dywysogaeth i bedair Esgobaeth rhenir pob Esgobaeth i ddwy neu dair Arch- ddiaconiaeth, a phob Archddiaconiaeth i amryw Ddeoniaethau Gwladol. Dyma y peirianwaith, ond y mae y gwahanol ranau o hono yn ymsymud yn rhy anni- bynol a'u gilydd. Y mae y pedwar Esgob yn cyfarfod weithiau er mwyn cyd- ymgynghori, ond nid ydym wedi clywed fod yr Archddiaconiaid erioed wedi gwneyd hyny, na'r Deoniaid Gwladol, er mwyn trafod materion er lies holl gorff yr Eglwys yn y Dywysogaeth. Er dy- wedyd o honom ein bod yn aelodau o'r Eglwys Gatholig, y mae eingweithredoedd yn tystiolaethu mai cynulleidfaol neu blwyfol yw ein hysbryd. Y mae ein Hesgobion yn cyflawni eu gwaith gyda zel a diwydrwydd teilwng o'u swyddau aruchel, ond gyda phob parch anturiwn ddweyd fod ein Harchddiaconiald- a'n Deoniaid Gwladol yn rhy glaiar ac es- mwyth ynghanol gelynion sy'n barhaus yn ymgynghori ynghyd yn erbyn yr Eglwys. Paham na chyferfydd yr holl Arch- ddiaconiaid Cymreig i drafod amddiffyn- iad yr Eglwys, a sicrhau mor bell ag y mae yn bosibl cyd-ddealltwriaeth a chyd- weithrediad drwy y pedair Esgobaeth. Nid ydym yn anghofio fod gan yr Esgob- aethau bwyllgorau amddiffyniad yr Eg- lwys wedi eu hethol gan y gwahanol Gynadleddau, ond beth maent yn wneu- thur i gyflawni diben eu bodolaeth ? Y mae yn wir y traddodir darlith yn awr ac yn y man, ond nid o dan nawdd a chyfar- wyddyd yr awdurdodau y cyfeiriwn atynt. Y mae yr adeg yn gyfieus i'n har- weinwyr i iawn-drefnu eu galluoedd am- ddiffynol, oblegid tra bo'r gelynion yn rhwymedig wrth gerbyd gwleidyddol Mr. GLADSTONE i gludo Ymreolaeth i'r Iwerddon, yr ydym mewn diogelwch. Os yn anmliarod y'n ceir pan y rhyddheir y dadgysylltwyr o'u caethwasiaeth i'r cyn- Brif Weinidog, nid arnynt hwy y bydd y bai, oblegid er mor anonest ydyw eu ham- canion, y maent yn ddigon gonest i'n hys- bysu o'u bwriadau. Si vis pacem, para helium.
. CHWARELWYR A THIRFEDDIANWYR.
CHWARELWYR A THIRFEDDIANWYR. AR yr olwg gyntaf nid oes cysylltiad agos i'w weled rhwng y ddau ddosbarth yma mewn cymdeithas. Ond eto i'n meddwl ni, mae yna fwy nag ymddengys ar y gwyneb, a mwy nag a ymddibyna ar gydblethiad pob elfen a phob aelod yn yr un wlad. Mae yn achos o syndod fod masnach y llechi mor ddifywyd, cyflogau mor isel, a gwaith mor brin, tra mae pob masnach arall yn llwyddo, a'r crefftwyr yn enill chwanegiad cyflog, ac yn gweithio llawn amser. Paham mae achos cwyno gan y chwarelwyr? Bydded iddynt ystyried pwy, ymhlith eraill, sydd yn defnyddio llechi toi. Pan yn llwyddianus, ac mewn medd- iant difygythiedig o'u tiroedd, hoffai y tirfeddianwyr roi eu harian allan ar adeiladau amaetliyddol; ac os edrychir trwy y wlad pan ar siwrnai, gwelir eymaint o dai newyddion sydd wedi eu hadeiladu ymhob man yr edrychir. Nid felly yn awr—ychydig a bychain yw y gwelliantau allan o gyfalaf y perchen tir. Gwneir ymosodiad ar ei etifeddiaeth neu ei bryniad mewn mwy nag un cyfeiriad. Arno ef y disgyn treth yr incwm dr maf, C, Y a llawer treth arall ac os bydd eisiau treth newydd, trethir y tirfeddianydd gyntaf. Nid dyna'r cwbl, bygythir ei fedd- iant, a rhoddir enwau celyd arnoamfedd- ianu ei yst.t(l, er ei fod wedi dyfod i'w eiddo mewn ffordd gyfreithlon. Dyma i chwi ychydig eiriau o'r Celt am Chwefror 28ain, blwyddyn gras 1890, gan IOANDDERWEN 0 FON Brwy(tr fawr y dyfodol, brwydr y brwydrau a fydd brwydr di- fodiad landlordiaeth. Nid ydyw brwydr fawr Dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Llywodraeth yn ddim o'i gydmaru a dadgysylltiad y tiroedd oddiwrth y lladron a'u daliant yn bresenol. Son am eu cydnabod yn wir Byddwn yn foddlon hollol iddynt gael eu cydnabod a'u compensatio y munyd y medrant brofi eu hawl gyfiawn a tlieg i'r tiroedd y gorthrymant ni yn eu hatafaeliad o'r cyfryw. Y mae yr amaethwr, y trefwr, a'r glowr wedi cario y giwaid hyn ar eu cefnau yn llawer rhy faith-fel pryfaid llwydion yr haf yn sugno gwaed ac yn poeni ein hanifeiliaid. Coded y wlad ei hysgwydd a thafled 'gorph y farwolaeth hon oddiar ei gwar." Mewn rhan arall o'r erthygl dywed Nid ydyw pwnc y claddu, y dadgysylltu, a'r degwm, yn ddim o'u cydmaru a phwnc y tir. Goleuer llygaid y wlad yn y mater yma gan bob gwleidyddwr rhyddfrydig. Gwnewch eich goreu ar bob adeg, a defnyddiwch bob cyfleustra a mantais i ergydio ar ben yr hoelen fawr yma." Tra mae y gwaith o agor llygaid y wlad, ac ergydio ar ben yr hoelen, yn myned ymlaen, mae llygaid y tir- feddianydd hefyd yn cael eu hagor. Y canlyniad yw, nad yw yn brynwr llechi toi. Mae yn dechreu gwerthu ei diroedd mewn pryd, a phan ni wna rhydd ei arian mewn lie diogelach nag ar dai i'r amaeth- wyr. Dyna un o'r cwsmeriaid goreu am lechi wedi ei yru o'r farchnad. Aed y chwarelwr ymlaen i waeddi i lawr a'r landlordiaid," ond ni ddaw prynwr yn ei le am y llechi nes y byddo oes wedi myned heibio, a chwestiwn meddianydd dyfodol y tir wedi ei. benderfyira ar ol chwyldroad. Pan -adferir heddweh a meddiant sicr yn y tir i'r perchenog hen neu newydd, ac nid cyn hyny, y daw galw oddiwrth un o'r cwTsmeriaid penaf am lechi toi i wneyd amaethdai a thai allan newyddion. A fyddai yn ormod gobeithio y gwna ambell i chwarelwr sydd yn awr yn dyheu am welliant yn ei amgylchiadau ,ofyn iddo ei liun a ydyw ymosodiad ar y tir yn debyg o brysuro cynydd yn ei gyflog ? Cofier hefyd fod yr Unol Dalaethau yn dirmygu masnach rydd mewn llechi i'w gwlad ei hun, ond yn manteisio ar hyny i Brydain mor belled ag y gall. Mae'n anffortunus mewn gwlad fod rhai gweith- wyr yn gorfod dioddef oddiwrth ddeddf- au ag sydd yn lies i'r mwyafrif, ond felllr y mae. Mae y meistr tir, yr amaethwyr,' y clerigwyr, a'r chwarelwyr yn hwylio yn yr un llong. Dyna'r ffeithiau, nid dychymyg ydynt. Pwyser hwynt yn Ffestiniog; yn Llanllyfni, yn Llanberis, ynNghae-Braich-y-Cafn, acynagwaedder, os gellir, "I lawr a Landlordiaeth-i lawr a'r personiaid. Strike away, boys. Daw cwsmeriaid newydd." 0 ba Ie? Pa bryd ?
TEULU CYFAN WEDI LLOSGI I…
TEULU CYFAN WEDI LLOSGI I FARWOLAETH. Dydd Mercher, yn Weissenfel, llosg- wyd teulu cyfan o'r enw Kramer, yn cyn- wys saith o bersonau, gan dan a ddi- gwyddodd mewn gwneuthurdy esgidiau.
0.-FICER WEDI El DDISWYDDO…
0.- FICER WEDI El DDISWYDDO DROS AMSER. Y .mae Arglwydd Penzance wedi di- swyddo y Parch. John Williams Meyrick, ficer Llandegfan cum Beaumaris, am dymor, am esgeuluso cynal gwasanaeth yn Eglwys blwyfol Llandegfan.
. MARWOLAETH ABRAHAM LINCOLN.
MARWOLAETH ABRAHAM LINCOLN. Dydd Mercher, ar ol hir gystudd, bu farw Mr. Abraham Lincoln, mab y Gweinidog Americanaidd Llundeinig, yn Kensington.
ANRHEGU FICER BRITON FERRY.
ANRHEGU FICER BRITON FERRY. Dydd Mawrth, anrhegodd plwyfolion Briton Ferry y ficer, y Parch. D. Lewis, M.A., y deon gwladol newydd, A salver arian, gwerth ;624, ar orpheniad ei bum' mlynedd ar hugain o'i fywoliaeth Eg- lwysig.
. DAMWAIN ECHRYDUS YN -NGOGLEDD…
DAMWAIN ECHRYDUS YN NGOGLEDD CYMRU. Prydnawn dydd Mercher, yn chwarelau llechi y Votty a'r Bowydd, Blaenau Ffestiniog, yr oedd nifer o ddynion wrth y gorchwyl o llalioiruck gwagpan y tor- odd y bach oedd yn ei gysylltu a rhaff wifrol, a syrthiodd y truck ar dri o weith- wyr. Lladdwyd Owen Jones a William y Jones yn y fan, a niweidiwyd Rees Griffiths mor ddrwg fel y bu farw yn fuan wedi iddo gael ei symud i'r ysbytty.
Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE.
Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE. Y mae y ddau fachgenyn, Richard a George Davies, y rhai a draddodwyd i aros eu prawf am lofruddio eu tad, wedi ysgrifenu adroddiadau newyddion yn nghylch yr anfadwaith. Dywed Richard yn awr eu bod wedi cytuno y noson flaenorol i ladd eu tad oherwydd ei an- ngharedigrwydd tuag atynt, ac am nas gallent oddef hyny yn hwy. Y mae y naill fel y llall yn gwadu mai efe a gyf- lawnodd y wir weithred, ac y mae Richard yn haeru na tharawodd ef yr un ergyd. >
ETHOLIAD GOGLEDD ST.' PANCRAS.
ETHOLIAD GOGLEDD ST. PANCRAS. Y CANLYNIAD. Bolton (G.L.) 2,657 Graham (C.) 2,549 Leighton (L. U.) 29 Mwyafrif i Bolton 108
[No title]
—-—.—— —- Dylai pob un sydd am fod yn llwyddianus gyda'i fasnacli ofalu amgyhoeddi ei hysbysiadau yn Y LLAX A'R DYWYSOGAETH, gan y cydna- byddir ef gan y rhai sydd wedi rhoddi prawf arno y goreu o boll uewyddiadnjoc Cymru.
. DINBYCH A'R CYLCHOEDD.
DINBYCH A'R CYLCHOEDD. Y GARAWYS. Bob nos Lun, yn ystod y Garaw} s, yn Eglwys St. Mair, rhoddir anerchiadau Cymreig gan ein Rheithor ar y testynau canlynol :—" Beth a olygir wrth Gonffirm- asiwn Conffirmasiwn a'r Beibl; Con- ffirmasiwn a Bedydd; Dyledswydd y Cristion tuag at Dduw, (a) Edifeirwch, (b) Ffydd, (c) ufudd-dod Gwasanaeth y Conffirmasiwn; Bendithion Gras. Yn yr un Eglwys bob nos Iau, bydd iddo draddodi anerchiadau Seisnig ar Iach- awdwriaeth; Adenedigaeth; Troedigaeth; Sicrwydd; Dyfalbarhad Moddianau Gras. Yr wythnos o flaen y Pasg, bydd Arglwydd Esgob Llanelwy yma yn gwein- yddu y ddefod o Gonffirmasiwn i bobl mewn oed, ac hyderaf y bydd yma liaws yn d'od ynghyd. DAL LLEIDR. Dydd Iau, daeth hysbysrwydd i orsaf yr heddgeidwaid o Golwyti Bay, fod dyn yn eisiau, oblegid ei fod wedi myned i dy yn Brynalian, Abergele, ddydd Sadwrn heb ei eisiau, a chymeryd oddiyno y swm o f,6 2s. 5c. Gan gynted ag y cafodd y Rhingyll Jarvis ddesgrifiad o Elias, tarawodd y syniad ef ei fod wedi ei weled y boreu hwnw, ac yn y fan aeth i chwilio am y colledig, a chyn pen yr awr yr oedd y ty-dorwr yn y ddalfa. Wrth ei chwilio, cafwyd y swm o ^3 6s. ice. yn ei logellau, felly gwelwn nad oedd yr Elias hwn wedi byw yn galed er dydd Sadwrn. Ymddengss mai boreu Gwener yr oedd y gwalch hwn wedi d'od allan o'r carchar. YR HEDDLYS SIROL. Dydd Mercher, yn yr Heddlys Sirol, gerbron Dr. Tumour, a'r Mri. Williams a Briscoe, cyhuddwyd Edmund Lloyd, o'r dref hon, gan P.C. Powell o fod yn feddw ac analluog yn agos i bentref Trefnant, ddydd Sul, yr i6eg cynfisol. Cafodd y swyddog ef yn gorwedd yn hollol ddi- ymadferth yn y ffos. Drwg genyf ddweyd fod yrynadon wedi ei ollwng yn rhydd gyda dirwy o 2s. 6c. a'r costau, oblegid gwn ei fod yn arferiad gan lymeitwyr ein tref.i fyned i Lanrhaiadr neu Trefnant ar y Sul, gyda'r unig amcan o gael diod.
MARCHNADOEDD. -------._-___-_-----
MARCHNADOEDD. GWRECSAM, DYDD IAU.—Gwenith, 4s 6c i 4s 9c am 75 pwys haidd, 4s oc i 5s ge ceirch, 25 ice i 3s 10c ymenyn, is 2c i is 3c am 16 wns wyau, 11 i 12 am swllt ieir, 3s 6c i 5s y cwpl hwyaid, 4s oc i 5s oc y cwpl; pytatws. is 9c am 120 pwys. WYDDGRUG, DYDD MERCHER. — Gwenith melyn, os 6c i 10s oc yr hobed haidd, 10s oc i 10s 6c yr hobed ceirch, 6s oc i 6s 6c yr hobed pytatws, 4s oc i 4s 6c yr hobed ymenyn, is 4C i is 5c y pwys wyau, 15 am is. ELLESMERE, DYDD MAWRTH. — Gwenith gwyn, 4s 7c i 4s 8c am 75 pwys melyn, 4s 6c i 4s 7c am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc; ceirch, 2s 6c i 3s oc wyau, 12 i 13 am is ymeynn, is 4c i is 5c am 16 wns ieir, 4s oc i 5s 6c y cwpl. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER. -Gwenith gW) n, 4s ice i 55 2C am 75 pwys melyn, 4s 4c i 4s 8c am 75 pwys haidd, 4s 9c i 5s 4c am 70 pwys; haidd at falu 4s i 4s 3c am 70 pwys ceirch, 15s i 17s am 225 pwys ymenyn, is ic i is 2C y pwys wyau, 14 am swllt; cig eidion, 6c i 7c y pwys cig myharen, 8c i %c y 2 t, pwys cig llo, 8c i 9c y pwys pore, 5c i 5 k y pwys. 2 DREFNEWYDD, DYDD MAWRTH.— Gwenith, 13s 6c i 15s am 240 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc am 70 pwys ceirch, 14s 6c i 16s oc am 220 pwys wyau, 16 am is ymenyn, is 11 C i is 2C y pwys ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl hwyaid, 5s 6c i 6s 6c y cwpl; pytatws, 18 pwys am is. SALFORD, DYDD MAWRTH.-Ci- eid- ion, 5C i 7c p pwys cig myharen, 9bc i ;nl 10C y pwys cit-I 110, 7c i 9c y pwys cig 2 moch goreu, 8s 2c ail oreu, 7s 6c i 7s 10 i trydydd, 6s ic i 7s oc am 20 pwys. CREWE, DYDD LLUN.-Cig eidion, 6}c 4 i 7|c y pwys cig moch, 9s 3c am 20 pwys heffrod, ^15 i ^25 yr un. LERPWL, DYDD LLU.N.-Cig eidion goreu, 7c y pwys. ail oreu, 6c trydydd, 5c y pwys cig myharen goreu, 91 c; all,, 8c. trydydd, 6c y pwys. 2 TRALLWM, DYDD LLUN.—^Gwenith, 4s 6c i 4s 9c am 75 pwys ceirch, 145 oc i 14s 6c wyau, 12 i 14 am is. ymenyn, is ic i is 3c am 16 wns ieir, 4s oc i 5s oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 6s 6c y Cwpl pytatws, 18 pwys am is.
[No title]
Pan hysbysv/yd proffeswr yn un o'r prif- ysgolion am ddigwyddiad dyddorol yn y teuhi, yr oedd yn brysur ymildadrys rliyw bwnc dwfn. Dywedodd y gwas wrtho, Mae dinithr- ddyn bychan wedi dyfod." Beth ? Bacln en ydyw." Bacligen! gofynwch beth fv lti arno ei eisiau." Y fath arogl ofnadwy sydd yma! belli ydych yn ysmocio ? meddai boneddwr paM. 2;!) myned i ystafell ei gyfaill. Ust meddai y cyfaill, "tybaco a brynais i bwrpas yw hwn, Pc y mae y petli goreu y gwn am dano i gadw fy mam-yn-nghyfraith rhag dyfod i'r i'iiau VIln ty i boeui k