Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
HELAETHIAD Y LLAN.", - ,,
HELAETHIAD Y LLAN. Dyma bwnc yr wvthnos i ddarllenwyr Y LLAN. Gobeitliiwa y bydd yn sym- byliad i bob Eglwyswr Cymreig wney. ei oreu i'n cefnogi. Na ddisgwylied y. naill wrth y llall. Mae awydd mawr yn ein mysg fel Eglwyswyr, yn lien a lleyg, i weithio dros yr Eglwys. Credwn na fu erioed gymaint. Nid ydym yn barnu ein bod yn berffaith yn hynyna, nac mewn mewn pethau eraill. Ond yn lie cwynD byth a hefyd teg yw addef yn groew a diolchgar y cynydd sydd ynTcymeryd lie o flwyddyn i flwyddyn yn ein gweith- garwch fel Eglwyswyr, a mynu gwneyd y cynydd hwn yn sail ac yn symbyliad i gynydd mwy. IC
AMCAN "Y LLAN."
AMCAN "Y LLAN." Y mae i'r LLAN dri amcan. Adeiladu ac egwyddori ein darllenwyr yn athraw- iaethau yr Eglwys, dyna'r prif amcan. Yr ydym yn credu fod gan yr Eglwys genadwri i ni y Cymry yn yr oes hon. Dymunwn weled pob Eglwyswr Cymreig yn glir ac yn gadarn, ac yn hyddysg yn mhrif athrawiaethau yr Eglwys. Calonogi ein* gilydd trwy grynodeb cyson o hanes gwaith yr Eglwys yn Nghymru, a chip- drem ar brif symudiadau yr Eglwys yn Lloegr a gwledydd eraill. Dyna'r ail amcan. Trwy Y LLAN dygir Eglwyswr Cymreig uniaith i deimlo ei fod yn aelod o Eglwys gref, weithgar, syeld a'i gwraidd yn ddwfn, a'i changhenau yn lliosog a ffrwythlawn. Y trydydd amcan yw di- noethi chwedlau disail a gwag-ymresym- iadau gwrthwynebwyr yr Eglwys.
Y LLAN" A'R WASG YMNEILLDUOL.
Y LLAN" A'R WASG YMNEILL- DUOL. Mae Cymru yn llawn, y dyddiau hyn, o lu o bapyrau, fawr a. man. Tybir fod rhaidii bob tref-er mwyn bod yn dref ac nid yn bentref—gael papyr dimai, megis corn bach cul i chwythu bust! chwerw drwyddo. Nid allwn dd'od i ben asylwi ar gyfarthiad pob man wrthwynebwr. Ond ymdrechwn ddal sylw ar yr haer- iadau mwyaf tarawiadol a ymddengys yn y prif bapyrau, a'u beirniadu. Dyimmem wneyd hyn yn siriol, gan wenu wrth ateb chwyrnu. I'n tyb ni, y sail gryfaf dros gredu yn nyfodol yr Eglwys yn Nghymru yw craffu ar ffyrnigrwydd ein gwrth- wynebwyr. Y gwan, bob amser, sydd yn colli ei dymer. Pe buasai y Wasg Ym- neillduol oil mor rydd oddiwrth chwerw- der a sothach ag yw un cylchgrawn misol Ymneillduol Cymreigy gwycldom am dano buasem yn meddwl yn uwch am ddyfodol Ymneillduaeth yn Nghymru. Ychydig, ysywaeth, o olygwyr Cymreig sydd, fel golygydd y cylchgrawn y cyfeiriwn ato, ny Z, yn meddu digon o ffycld i fod yn fonedd- igaidd.
"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH.
"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH. Gwasanaethu yr Eglwys, ac nid plaid wlclycldol, yw swydd Y LLAN. Y mae yr Eglwys yn eangach nag un blaid wleidyddol. Nid oes a fynom a gwleid- yddiaetli ond yn unig can belled ag y bo gwleidyddiaeth yn cyffwrdd a'r Eglwys.
PYNCIATJ DYDDOROL.
PYNCIATJ DYDDOROL. Dymunem yn fawr i rai o'n darllenwyr sydd yn teimlo dyddordeb mewn pwnc neillduol, neu gymdeithas neillduol yiiglvn a gwaith yr Eglwys, anfon ysgrifau i ni. Er engraifft, gobeithiwn gael ysgrifau ar hanes y gwaith cenhadol yn awr ac yn y man, ar bynciaii o ddyddor- deb ynglv-n a'r Ysgol Sul, Guilds, Dirwest, a Chenadaethau Plwyfol. Hoffwn i'r holl ddarllenwyr dcieall fod dalenau Y LLAN yn rhydd iddynt ymgomio gyda'u gilydd yn frawdol ac agored ar unrhyw beth a fo o les i waith yr Eglwys yn ein plith. —————
TYMER EGLWYSWYR.
TYMER EGLWYSWYR. Dylem, yn anad dim, fel Eglwyswyr Cymreig, ymwrthod rhag efelychu tlrwg dymer amryw sydd yn ymosod arnom. Credwn, ar y cyfan, pe gweddus ym- ffrostio mewn-dim, fod genym, fel Eg- lwyswyr Cymreig, le i ddweydnad ydym eto wedi ein galluogi i dalu'r pwyth yn ol i'n gwrthwynebwyr. Gobeithiwn y cadwn hyn yn nod cyson ger ein bron, ac y gwelir fwy-fwy fod yn hawdd adwaen Eglwyswyr wrth eu sirioldeb a'u cymwynasgarwch. 0 drugaredd, ni chlywir ond ychydig am ymrafaelion yn ein mysg. Eithriadau anainl ydynt. Credwn, fod athrawiaethau Eglwysig a wrthodir gan Ymneillduwyr yn gymorth gwerthfawr i fyw crefydd yn ymarferol. Ar sail y gred yma credwn y daw gwertli athrawiaethau yr Eglwys fwy-fwy i'r gol wg. Dylem fagu liyder yn nyfodol yr Eglwys, ac oherwydd ein liyder yn y dyfodol, ymfoddloni ar ddal ein tir yn ddiysgog a thawel, heb wrando gormod ar ddadwrdd ein hymosodwyr. Teimlo drosiynt, druain, gan nad oes ganddynt well gwaith i'w wneyd na gwawdio a bygwth, ac nid ffraeo a hwynt, yw y ifordd oreu a mwyafteilwllg o'n Heglwys.
--YR WYTHNOS NESAF.
YR WYTHNOS NESAF. Ar ol rhagymadroddi fel hyn yn lied faith, dechrBuwn, yr wythnos nesaf, ar ar ein gorchwyl o groniclo a beirniadu, yn fyr rliagllaw, brif bynciau yr wythnos. Ar ol i ni ragymadroddi, ysgrifenir y nodion wythnosol rhagllaw gan ysgrifen- ydd newydd a broffesa fod yn SYLWEDYDD, i
Y CYMRY YN LLUNDAIN.
Y CYMRY YN LLUNDAIN. ^PREGETH YN EGLWYS GADEIRIOL ST. PAUL. Nos.Wener diweddaf, pregethodd Arglwydd Esgob Llanelwy bregeth Gymraeg yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain, pryd yr oedd mil- oedd yn bresenol. A ganlyn ydoedd testyn pregeth ei arglwyddiaeth :— Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur gwahaniaeth rhyngom ni."—Ephesiaid ii. 14. Amgylchiad digymar yn hanes ein cenedl yw'r gwasanaeth hwn. • Beth yw'r iaith ddieithr hon sydd yn llenwi holl gylch cang prif-eglwys prif-ddinas y byd ? Ni chlywodd muriau yr eglwys ardderchog ac hanesyddol hon erioed iaith mwy, grymus, mwy ystwyth, mwy toreithiog yn swnio trwy ei holl eangder ni fu cerddoriaeth mor felug ei don, mor swynol ei beroriaeth yn adsain o gongl i gongl, yn awr gan ddistaw sisial yn nofio fel awel fwyn y gwanwyn, yn awr fel sain udgorn yn tarleisio ac yn esgyn i fyny hyd at y nendwr mawreddog sydd yn ein cysgodi fel entrych serlog y ffurfafen. Ond clustfeiniwch yn fwy astud. Nid iaith ddieithr hon, ond iaith trigol- ion boreuol y deyrnas nid iaith ymffrostgar y buddugoliaethwr, ond iaith a hoffa'r eywair lleddf. Cilio, eilio o flaen llif anorchfygol y Saesoneg, dyna hanes yr iaith Gymraeg, ac fel ei chwaer-ieithoedd heddyw ni adewir iddi ond llain o dir ar lan m6r y Gorllewin. Ac y mae y Saesoneg fel llanw yn gorlifo dros y wlad, ond fel creigiau uwchben y dyfroedd gwelir yma a thraw enwau Cymraeg, adfeilion yr hen iaith, ar eglwysi a phentrefi, ar afonydd a mynyddoedd tir y Sais, yn profi yn ddiameuol eiddo pwy oedd y wlad ar y dechreu. Ond nid byw yn y gor- phenol yr ydym heddyw, a chan hyny nid achlysur i adgofion hanesyddol, ond achlysur llawn dyddordeb yn y presenol, llawn gobaith am y dyfodol ydyw hwn. Ie, yn hytrach yn ysbryd y testyn dewiswn fyfyrio nid ar ymraniadau yr amser a aeth heibio, ond ar yr elf enau undeb a chydgordiad a fodol- ant yn mysg y Cymry. I. Yr elfen gyntaf er ein cysylltu ynghyd yw'r ffaith mai cydwladwyr ydym. Gwlad ein genedigaeth yw y ddolen gydiol, Cas y gwr nis caro y wlad a'i macco," Gwlad y bryniau pryd- ferth a'r afonydd gloew, bro y beirdd, cartref cerddoriaeth nis gall Cymro lai na eharu ei whtd. Darn byehan a distadl o'r deyrnas ydyw Cymru, ond ni fesurir grym teimlad gwladgarol wrth faintioli gwlad. Fel engraifft, cymerwn y teimlad teuluaidd. Ymddengys cariad teuluaidd o dan amgylchiadau isel, tlawd, a chyfyng yn gryfach, yn fwy tanbaid, yn fwy angherddol nag a wna yn nghanol dariteithion ac esmwyth- dra cyfoeth. Mae perygl i'r serchiadau naturiol golli eu purdeb, eu nerth, a'u rhinwedd .yn nghanol cyfoeth. Fel y gwyddoch, rhed deddf ad-daliad, neu f el y gelwir hi yn y Saesoneg, the law of compensation," trwy yr hoirgread- igaeth, a cholli nerth y serchiadau ydyw'r gosb a delir yn fynych gan lawnder. Cyfyngu'r cylch ydyw y Ifordd sicraf i ddwyshau y teimlad. Felly hefyd, os bach a chyfyng ydyw Cymru, ac isel ei hamgylchiadau, eto anorchfygol ydyw cariad y Cymro lie?, bynag y b'o at ei wlad. II. Ond nid gwladgarwch ydyw yr unig elfen a una'r Cymry mewn gwledydd dieithr a phell- enig. Y mae'r Cymry yn anad neb o'r teulu Celt- radd wedi cadw cu hiaith," Y mae iaith Cernyw wedi distewi gan' mlynedd yn ol, a phrin y clyw neb iaith y Gwyddel neu iaith yr Alban yn ein dyddiau ni, ond mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed." Clywir hi nid yn unig ar ael y bryn, ac ar hyd pob dyffryn yn y wlad, ond ym- -nytha. ar aelwyd pcb Cymro pa un ai yn nwn- dwr dinasoedd Lloegr, neu trwy hyd a lied cyfandir eang yr Amerig. Os cjiÐ y mae yr iaith Gymraeg, cilio o'r fasnach ac o'r ifair y mae, ond y mae yn parhau a phery yn iaith yr aelwyd, iaith crefydd, iaith y galon, ac ni anadla'r dyn a saif uwchben beddrod yr hen iaith. Pa iaith yn y byd all ddatgan teimiadau y galon yn fwy cywir i Gymro mewn barddon- iaeth, cerddoriaeth, neu grefydd ? Meddyliwch am y Cymro yn ymdeithio yn mhell o'i gartref. 0 fel y liama ei galon os syrth ar ei glust pe ond un frawddeg o'r hen iaith anwyl. Kid rhyfedd fod hon yn elfen mer nerthol i 'greu undeb rhyngom fel cydwladwyr, III. Hyd yn hyn sylwasom ar elfenau a gydgysylltant y Cymry tuhwnt i Glawdd Offa, Awn rhagom yn awr i ystyried yr elfenau a z, dueddant i undeb. Aroswn yma ychydig i egluro y rheswm paham yr wyf yn pwysleisio cymaint ar elfenau undeb. Darllenais yn ddi- weddar. gyda dyddordeb mawr lyfryn by chan y Cymraeg, a gyfansoddwyd gan gyd-wladwr dysgedig a thalentog. Dywed awdwr Tro yn yr Eidal" pan yn desgrifio'r wlad fel hyn am dani, Melldith yr Eidal trwy'r blynyddoedd ydyw diffyg undeb." Ai ni raid cyfaddef a z, dweyd yr un peth urn Gymru, ag a ddywed yr ysgrifenydd hwn am yr Eidal, Melldith Cymru trwy y blynyddoedd ydyw diffyg undeb," ac oherwydd hyn ni ddadblygwyd ac ni ddad- guddiwyd eto yn eu llawnder dalentan a gallu- oedd y Cymry. Prif ddyledswydd pob Cymro gan hyny ydyw coleddu a meithrin ysbryd undeb, a dim ond i ni eu ceisio yn gydwybodol a phenderfynol, y mae digon o elfenau undeb i'w cael yn Nghymru. Dcchreuwn gydag un o'r elfenau anhebycaf i lyfnu llwybr undeb, sef dadleuon gwleidyddol neu'r byd politicaidd. Mae angen mawr nodi allan a darlunio yn gywir iawn gylch ym- drechion politicaidd. Beth ddylai fod prif am- can ymdrech y gwir wladgarwr ? Gwelliant ei wlad, nid Uwyddiant plaid neu sect,llawer llai ei hun. Gall ymgaia politicaidd gynorthwyo, ond ni gall sicrhau, Hwyddiant a Uesiant y wlad. Y mldlbyna pob ymdrech cenedlaethol yn y pen draw ar gymeriad ac ymdrechion y bobl eu hunain. Ond cofiwn yma, mai moddion llwydd- iant, nid eu aicrhad yw ymdrechion politicaidd. Ein perygl yn awr yw colli golwg ar yr amcan a meddwi yn y moddion. Peidiwn goddef i'n zel boliticaidd orlifo ei gylch priodol, ac fel rliyw anghenfil rheibus a ffyrnig lyncu i fyny bob ymdrech, boh egni, bob dyddordeb yn mywyd cymdeithasol a chrefyddol ein gwlad. Yn hytrach ymegniwn i reoli ein hymdrechion politicaidd, ac yn lie dadleuon digofus pleidwyr y direswm a diegwyddot, ijjynwn weled cyd-ym- drech iach ac anrhydeddug, unig ijimcan a diben yr hwn yw gwir ttyniant a lies y wlad. Yn y byd politicaidd undeb n-tpwn ampywiaeth ddylai fod y Md ein hymdyechion. I • IV. Yn nesaf, elfen rymus i'n huno ynghyd ydyw dyrchafiad addysg yn ein gwlad. Y mae'r Llywodraeth wedi sicrhau addysg elfenol i'r holl deyrnas, ond i Gymru yn unig y rhoddwyd gan Senedd Prydain Fawr gynllun Addysg Ganolraddol. Y mae'r cynllun yn ein dwylaw yn awr, a dim ond i ni gario allan gyda doeth- ineb, yn ystyriol, ac mewn ysbryd rhyddfrydol, medwn y ffrwythau goreu, ac yn mhlith y rhai'n nid y lleiaf fydd cynydd undeb a chyd- gordiad yn ein plith. Na oddefer i ysbryd sect a phlaid ddyfod i mewn a gwenwyno ffynonell bur a hyfryd addysg. V. Ac ynglyn ag addysg meddyliwch am fywyd cymdeithasol ein cenedl. Y mae gwaith mawr a chlir yma. Ystyriwch amgylchiadau y bobl, un dosbarth yn neillduol amser caled a gwasgedig fu yn ddiweddar ar ffermwyr Cymru; ond cynddrwg ag y bu amgylchiadau y ffermwr, beth am y gweithiwr ? Ymwelais ag ami gar- tref gweithiwr mewn llawer rhan o'r wlad. Doluriwyd fy nghalon wrth weled, weithiau, y bythynod tlawd, gwael a digysur, lie y gor- fodir hwynt i fyw a chodi teulu. Dychwel y gweithiwr gyda'r Uwydnos i gymeryd y seibidnt a lwyr enillodd, a hyny mewn bwthyn mwy addas lawer tro i fod yn llety anifail nag aneddle dyn. Mor- anhawdd mwynhau hapusrwydd a diwylliant o dan y fath amgylchiadau Trecha y gweithiwr Cymreig yn fynych holl anhaws- derau ei gyflwr-mawr glod hyn iddo mae ami weithiwr yn wir wron, ond mawr warth i ni fel cenedl osod y fath iau ar ei ysgwyddau. Bron gwaeth na hyn yw cyilwr y gweision di- briod. Ai gwaelach eu cyflwr yn Nghymru na Lloegr nis gwn, ond gwn yn rhy dda fod eu cyflwr yn llawer rhy isel yn Nghymru. Nid rhyfedd y bodola anniweirdeb, gwarth, a gwendid gweision a morwynion Cymru wledig. Fe fyn yr anian ddynol ddifyrwch os na chaiff hyn mewn modd priodol ac iach, y mae yn sicr o'i geisio mewn modd anmhriodol a niweidiol. Dyma wrthddrych teilwng ac addas i uno ym- drechion gwladgarwyr. A gadewn y pwnc gydag un neu ddau o awgrymiadau ymarferol. Y ddwy nod yr anelwn atynt yw y rhai can- lynol :—Yn gyntaf, ymdrechwn sicrhau i bob gweithiwr dy cysurus yn lie ybwtbyn gwael a welir yn rhy ami. Hoffwn weled ei dy, os bychan, eto yn hin a diddos, y ifenestri a'r drws yn ddifwlch, ac yma ac acw arwyddion bywyd gwareiddiedig, llyfrgell fechan ond coethedig, ac ambell i ddarlun tlws yn gwenu ar y mur. Gellir cael tlysni hyd yn nod mewn tlodi ond ei geisio. Er maint ein dychymyg a thynerwch ein teimlad fel cenedl, ni chafodd eto y cclfau cain gartref yn nghartrefi Cymru. Y mae swn a chlod Palas y Bobl" yn Llun- dain wedi gwefreiddia yr holl deyrnas. Os da hwn i weithiwr Llundain, paham lai i weithiwr Cymru ? Mentraf ddweyd y dylai fod, pe ba'i ond mAn ddarlun o hono ymhob pentref, lie y gallai'r gweithiwr fwynhau fpleserau bywyd coethedig. Os na all y gweithiwr unigol fedd- ianu cystal ty a'r gwr goludog, eto, yn enw pob rheswm, gallai a dylai y dosbarth gweithiol feddu yn mhob pentref dy agored, cysurus, ac addurnedig, lie y gallent ymgomio, yn He ym- yfed dadleu heb gynen ac ymhyfrydu mewn newyddiaduron, llyfrau da, a chelfaM cain, gyda chwareuoiipur a pher sain hen delj i ein gwlad. Os na all gwladgarwyr Cymru ymuno i sicrhau manteision mor anhebgorol i feibion llafur, diau gwegi yw eu gwladgarwch. Pe b'i rhyw elfen o gydundeb a chydymdrech yn bodoli yn Nghymru, gellid sicrhau hyn yn rliwydd. Wrth deithio yn ddiweddar trwy ran wledig yn Ngogledd Cymru, pasiais bentref yn cynwys rhyw ddeuddeg cant o drigolion a ym nythent yn nghesail y mynyddoedd, canolbwynt masnach, bywyd, a chrefydd yr ardal o amgylch; 11 y gwelais yno ehwech o addoldai eang, gwa,straff direswm a diddiben. Beth yw'r canlyniad ? Chwanegu tai-cyrddau diraid yw y ifordd sicraf i feithrin ysbryd chwerw, ymraniad, a gwendid. Can' mil gwell pe buasai dim ond haner yr arian wastreffir f el hyn er amlhau offerynau ymraniad, wedi eu cymhwyso at ddarparu adeilad y gallai'r holl boblogaeth fwynhau ei fantais. Ni ddywedaf hyn o blaid yr Eglwys, ond yn enw synwyr cyifredin a thrqs fy ngwlad. Nid oes neb all ddal fod eisiau chwech pan wnaethai tri y tro. Pe gellid cario'r cynllun uehod allan, ni ellid gor-brisio ei ddylanwad ar weithwyr a gweision ffermwyr. Mftddeuwch i mi am gyfeirio at yr hen wlad fel hyn. Mae Llundain yma yn lie ardderchog, yn daiddadl-Ile hyfryd am fasnach, lie hyfryd am wneyd ffortiwn," ond er hyny, i Gymru y try calon y Oymro. Pan mae ei lygaid yn syllu mewn syndod ar ryfeddodau Llundain a'i heglwysi bydenwog, eto i gyd, ehedeg wna calon y Cymro i'r hen wlad-i Sir Fon, efallai, neu Sir Aberteifi. Gwn y llamai eich calonau yma yn Llundain pe clywech fod arweinwyr y bobl, yn lie cnoi eu gilydd, yn cyduno, ben a chalon, i roi chwareu teg i blarit y werin. VI. Ond hyd yn hyn nid ydym wedi cyffwrdd ond jig ymyl gwisg nefol undeb. Ar gymeriad y bobl yr ydym i ymddiried yn hollol am undeb, a byth ni cheir undeb heb fod y Cariad Dwyfol yn llywodraethu yn nghalonau y bobl. Pa fodd y sicrheir lledaeniad y cariad yma ? Ymddirieda llawer ar ddiwygiadau i'w ddwyn oddiamgylch. Y maent yn eistedd i lawr ac Ily aros hyd nes y daw eynwrf diwygiftd i gyffroi y dyfroedd, Y ffaith, yn ol esiampl a dysgeidiaeth ein Gwaredwr yw, fod y bywyd ysbrydol yn tyfu fel pren yn raddol, yn ddistaw, ond eto yn gyson. Credid gynt fod ffurf arwynebol y ddaear yn effaith rhyw fath o lifeiriant neu gataclysms," ond gwybyddir yn awr mai effaith achosion ydyw a welir heddyw yn gweithio drwy gyfres annhoredig blynyddoedd dirif. Ychydig yma ac ychydig acw" ydyw deddf cynydd crefydd hefyd. Na ddiogwn ynte, gan ddisgwyl diwygiad, ond ymddiriedwn yn nyljinwad tawel a dibaid. ysbryd Crist yn ei Eglwys, yr hon yw ei gorff byw Ef, yn gweithio ar galon y dyn unigol o'r foment y derbynir ef yn faban bach wrth y bedyddfan i gorlan y Pen Bugail hyd ei fedd. Eglwys Crist yw yr unig offeryn all dori i lawr ganolfur y gwahaniaeth. Po mwyaf ein gwybodaeth o'r anian ddynol, mwyaf oil ygwelwn yr angen am yr Eglwys Gatholig ac Apostolaidd, y gymdeithas a sylfaenwyd ac a gynhelir gan ein Harglwydd lesu Grist. Croesawa bawb i'w brawdoliaeth ysbrydol, dwyfol, ac yn mynwes yr Eglwys hon y ceir y gwirionedd, a chyda'r gwirionedd ffydd, a chyda ffydd cariad, a chyda chariad undeb, a chydag undeb tangnefedd.
•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS,…
•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS, 0 FON, AM YR EGLWYS SEPYDL1DIG. Mewn cyfwng fel y presenol, pan y mae Ymneillduaeth Gymreig wedi cilio mor bell o'i hen angorfeydd, nid annydd- orol f eallat fyddai y dyfyniad canlynol o hen gyhoeddiad, yn yr hwn y datgana Mr. John Elias ei farn am yr Eglwys :— Rhaid i mi addef fy mod yn Ymneill- duwr, neu yn hytrach yn ymwahanwr oddiwrth yr Eglwys Sefydledig (meddai Mr. Elias); ond ar yr un pryd, rhaid i mi ddweyd fy mod yn groes i rai Ymneill- duwyr yr oes bresenol, ac na allaf gyd- ymffurfio a'r Anghydffurfwyr diweddar. Gallaf wirio fy mod ymhell iawn oddi- wrth ddymuno cwymp neu ddinystr yr Eglwys, am fy mod yn caru ei llwydd ymhob peth sydd dda. Caraf yn ddidwyll ei gweinidogion duwiol a dysgedig, ac nid wyf yn cenfigenu wrthi am ei manteision a'i helw. Ynghylch diwygiad yn yr Eg- lwys, dymunwn weled un Ysgrythyrol ac Efengylaidd yn cael ei ddwyn ymlaen gan rai o'i Gweinidogion dysgedig, duw- iol, ac enwog eu hunain ond ni allaf ddisgwyl dim gwerth i'w alw yn ddiwyg- iad yn tarddu oddiar ddyfais a threfniad anghredinwyr, y rhai ydynt elynion Duw a'r Eglwys. Ac nid wyf yn gweled yn gyson i un blaid fyned i ddiwygio yr Eglwys Sefydledig. Y mae gan bob plaid ddigon o waith diwygio o fewn ei ther- fynau ei hunan. Ni ellir disgwyl i un sefydliad fod yn gwbl berffaith tra y gweinyddir y dyled- swyddau ynddi igan ddynion syrthiedig eto, nid yw yn ormod gofyn yn awr a oes un enwad yn. debyg o ateb y diben a ddylai fod gan bob plaid grefyddol, sef par- otoi yr enaid, o dan fendith Duw, erbyn tragywyddoldeb, yn well na'r Eglwys ? "Ystyriwch y gofal sanctaidd gyda'r hwn, fel mam dyner, y dilyna hi ni drwy bob cam o'n gyrfa ddaearol, ac yn gwylio dros ein heisiau a'n peryglon. Mor fuan ag y genir plentyn i fyd o bechod a gofid, cymer yr Eglwys ef o ddwylaw ei rieni, ac mewn ymadroddion o serch toddedig cyflwyna ef i nodded y Bugail Mawr. Ar ol ychydig o amser, pan gyrhaedda fiyn- yddoedd deall ac ystyriaeth, daw yr Eg- lwys ato eilwaith, a galwa arno i adnew- yddu ei gyfamod, a myned i fyny i Dy yr Arglwydd, gan ymgysegru i Dduw fel ei was a'i filwr. Yn nesaf, gwahodda hi ef, pan yn drwmlwythog gan faich o lygredd, at y bwrdd lie y mae y Cyfryngwr wedi addaw bod yn cyfranu gras a maddeuant. Ac nid yw yr Eglwys yn gadael y gwir gred- adyn yn y fan yna ychwaith-hi a'i dilyna ef i holl amgylchiadau ei gartref, a hi a rwyma y cwlwm hwnw ag sydd yn dwyn diddanwch teuluaidd. Disgyna gydag ef i ddyffryn cysgod angau, Ilona ef ag addewidion mawr iawn a gwerth- fawr, dadlena o fiaen ei lygaid ef ogoniant y byd dyfodol bydd gydag ef ar, ei glaf, wely i eini iddo, yn ei oriau cystudd- iedig a thywyHion, y cysuron melusaf. Pan ei gosodir i orwedd yn y pridd- ellau, safa yr Eglwys fel ei brif alarydd uwchben ei fedd, a hi a gana drosto farw- nad o ofid, a serch, a diolch Hi a gyf- lawna yn ei le swydd na ddichon efe, bellacli, ei chyflawni. Gwna'r marw yn athraw i'r byw, ac arweinia feibion eraill i ogoniant drwy roddi o'u blaen ddarlun o lawenydd yr hwn a huna yn yr lesu, gan ddywedyd,—" Mi a glywais lais o'r nef yn dywedyd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn fyd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arghvydd,"—ac a bregetha i ni yr adgy- fodiad o'r bedd i fuchedd draygwyddol."
Advertising
Dywed Mr. Barnum, yr Americanwr enwog, mai effaith cyhoeddi hysbysiadau am ei ar- ddangosiadau ydyw ei sefylIfa gysurus bresenol, a dyledswydd pob un a geisia lwyddiant yw cyhoeddi ei hysbysiadau yn Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH.
NODION O'R HEN OESAU, &c.
NODION O'R HEN OESAU, &c. [GAN ALLTUD EIFION.] YR ESGOB HUMPHREYS. Yr Esgob Humphreys, Esgob Bangor, ydoedd fab i Rhisiart Humphreys, Hendre isaf, Pen- rhyndeudraeth. Y mae y dywedig Richard Humphreys wedi ei gladdu yn mynwent Llan- frothen. Y mae'r ffigyrau sydd ar gareg ei fedd wedi treulio fel nas gellir gweled ei oed, dim ond y flwyddyn y bu farw, 1703. Y GADAIR DDERW WRTH BEN BWRDD Y CYMUN YN YNYSCYNHAIARN. Pan adgywei-fiwyd eglwys Llanfihangel, Eifionydd yn y flwyddyn 1838, gwnaed cadair o dderw du ag ydoedd yn nen yr eglwys drwy or- cnymyn y periglor, y Parch. J. Jones, Mynydd I Ednyfed. Ceisiwyd cloch newydd, a rhoddwyd yr hen gloch i eglwys Treflys. BEDD RHYS GOCH ERYRI YN MYNWENT BEDDGELERT. Y mae ywen werdd gauadfrig uwchben bedd- rod (lie yr oedd colofn gynt) y Bardd o'r Hafod, yr hwn a flodeuai yn amser y cysegr-ysbeiliwr, Harri yr Wythfed. Yn y flwyddyn 1570, ym- welodd William Lleyn a'r fynwent hon, a chyfansoddodd yr englynion canlynol ar y pryd:— Y maen-ddarn, cadarn y cedwi-brif-fardd, Ba ryfedd y'th godi! Gorweddaist lie toaist ti I Ar war Rhys Goch Erytri." if Carnedd Bhys a'i fedd fu addien-freuglod I Tan y friglas ywen Cor gwiw nadd careg ei nen, Clawdd du lie claddwyd awen. Bedd hen, llys awen, llys ieuwerdd-dan faen Lie danfonwyd pencerdd Bron brig o burion brengerdd, Brig a bon cael eigion cerdd. W. Lleyn a'i Cant. Gellir casglu oddiwrth yr englynion uchod fod yno gofgolofn gynt, ond o bosibl i'r Vandal- iaid yn amser Cromwell eu dinystrio, gan fod teulu'r Hafodgaregog mor ffyddlon i'r brenin.
Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG…
Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG LLANTHONY, ABERGAVENNY. (GAN EIN GOIIEBYDD ACHLYSUROL PENDERW.) Fe saif y Fynachlog hon mewn He angliys- bell, allan o swn a dwndwr y byd, yn Nghwrn Ewias, rhwng mynyddau a bryniau, ar gyffiniau siroedd Brycheiniog, Mynwy, a Henffordd, oddeutu deuddeg milldir o Abergavenny. Y C, mae enw a gwaith y Tad Ignatius wedi gwneu- thur Mynachlog Llanthony yn hysbys drwy y byd gwareiddiedig. Y mae canoedd o bererin- ion o bob gradd ac oedran yn mynycliu y fangre hon yn ystod yr haf bob blwyddyn. Dywedir fod gan St. Dewi ei hun gell yn y fan hon. Ymdaenodd y si ychydig ddyddiau yn ol fod y Tad Ignatius wedi marw, a mawr y gofid a phryder calon a achosodd yn y cymydogaethau hyn, oherwydd fe anwylir y Tad Ignatius yn fawr iawn gan bawb a'i liadwaenant am ei dduwioldeb a'i hunan-ymwadiad. Y mae tyrfa- oedd yn cyrchu i'w wrando yn yr ardaloedd hyn, fel yn Ngliaerdydd, Llundain, a manau eraill. Y mae yn arfer pregethu unwaith neu ddwy yn y flwyddyn yn Abergavenny, ac ni ellir cael yno ystafell ddigon helaeth i gynal y boolobdd a ddewisant wrando arno, a gwelir canoedd yn dychwelyd adref ar ol cau y drysau. •Bydd yn dda, mae yn ddiameu, gan ddarllen- wyr Y LLAN A'R DYWYSOGAETH glywed fod y Tad Ignatius eto ar dir y byw, a gobeithio fod llawer o flynyddoedd o'i flaen i bregethu Efengyl y Groes i'r byd moethus ac hunanol presenol. Y mae athrawiaeth a buchedd y Tad I gnatiu s yn cydfyned, gan bregethu y groes a'i gwersi bob amser ac ymhob man. A Minau, os dyrchefi Fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun." Adnabum lawer o ddynion gynt a ymwylltient o flaen llun y groes fel tarw rhag cadecliyn coch. Tynwch y groes a'i gwersi o grefydd yr lesu, ac ni fydd eich cyfundrefn ond damcaniaeth fydol —annibendod annibyniaeth, ac fe esgor ar ragrith, hunanoldeb, lladrad Duw a dyn. Ed- rychwch ar gyflwr truenus y byd Ymneillduol -y mae wedi ymrwygo i dros ddau gant o wahanol bleidiau yn y deyrnas hon, yn barod i ysglyfaethu bob un y llall, ac hefyd i ymgyfath- rachu a'u gilydd i sarnu a dinystrio yr Eglwys. Cynal cyngherddau a chyfarfodydd gwleidyddol yn nhy Dduw, troi yr areithle yn lwyfal1 polit- icaidd, y pregethwyr yn arwain y bobl i dori y gorehymyn, Na ladrata." Y mae arwydd- ion yn amlwg fod Icliabod tragwyddol wedi ei cl y lefaru o'r diwedd uwchben y:cawdel disynwyr— Hir yr erys Duw cyn taro, Llwyr y dial lie y delo." Ac Efe a ddywedodd wrtliynt, Ty gweddi y gelwir fy nhy i, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof Iladron." t, Cenwch yr udgorn yn S Yon, cysegrwch ym- pryd, gelwch gymanfa: cesglwch y bobl; cys- egrwch y gynulleidfa: wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dy wedant, Arbed dy bobl, 0 Arglwydd." Cynhelir Merchey y Lludw gan fynachod Llan- thony yn ol arferion yr hen Eglwys Gymraeg. Y mae llawer o ddynion wedi angliofio paham y gelwir y dydd yn Mercher y Lludw. Gellir gweled yma flwyddyn ar ol blwyddyn y myn- achod ar y dydd hwn yn ymprydio ac wylo mewn lludw, yn ol gorchymyn Duw, gan geisio gwneyd penyd am eu pechodau eu hunain ac eiddo eraill. Dechreuwyd y gwasanaeth am ddau o'r gloch yn y boreu gyda myfyrdod a chanu maw]. Yr oedd gwasanaethau eto am chwech ac am wyth. Gwisgwyd y brif allor a'r canwyllbrenau mawrion mewn du, ac yr oedd lludw wedi ei daenellu ar hyd llawr yr eglwys. Am ddeg dechreuwyd seinio y clychau oil, gan alw y bobl i brif wasanaeth y dydd, ac yn awr ac yn y man clywid trwst y gloch fawr, "St. Bernard," fel tabwrdd aruthrol ymhlith offer cerdd. Am haner awr wedi deg gwelid y Tad Ignatius yn esgyn y grisiau i fendithio y lludw ar y brif allor. Wedi gwneuthur hyn mewn geiriau a dull difrifol iawn, efe a daenellodd ran o hono mewn llun croes ar ei goryn eilliedig, gan ddywedyd, Cofia, 0 ddyn, mai lludw ydwyt, ac i'r lludw y dychweli." Ar ol hyn daeth lletywyr y Fynachlog, yn offeiriaid, myaachod, mynachesau, a chorgeiniaid, ac amryw o'r gyn- ulleidfa, i fyny, gan benlinio o flaen yr allor. Tywalltodd y tad parchedig ludw ar ben pob un, gan arfer yr un geiriau, sef Cofia, 0 ddyn, mai lludw ydwyt, ac i'r lludw y dychweli," Wedi hyn dywedwyd a chanwyd yr offrwmwasanaeth. Ni ddefnyddir yr organ yn ystod tymhorau yr Adfent a'r Garawys. Pregethodd y Tad Ignatius yn fyr a tharawiadol iawn oddiar y geiriau,— Dychwelwch ataf Fi a'ch holl galon, Ag ym- pryd hefyd, ac ag wylofain, ac a galar." Ar ol hyn dywedwyd gwasanaeth y Comminasiwn, gan ganu y Salm li. a'r gwersi canlynol, a phawb yn gorwedd ar y llawr a'u gwynebau yn y llwch, rhwng y porth a'r allor. Parhaodd y gwahanol wasanaethau hyd wyth o'r gloch yr hwyr hwnw, ac nid oedd neb drwy yr holl amser wedi profi tamaid o ymborth o un math na llymaid i'w yfed. Taer weddiau a esgynasant at orsedd gras dros bechaduriaid oddiwrth fynachod Llanthony yn ystod y diwrnod hwn. "-Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Felly y treuliwyd dydd cyntaf y Garawys yn y Fynach- log hon, yn ol gorchymyn Duw, gydag ympryd, wylofain a galar.
Advertising
Ceir fod Y LLAN A'R DYWYSOGAKTII yn cael ei dderbyn gan deuluoedd parchusaf Cymru, a chyifghorem bawb i roddi prawf arno fel cyf- rwng hyskysjadql digymar.
LLEF 0 OGLEDD LLOEGR.
LLEF 0 OGLEDD LLOEGR. Rhoddodd yr hysbysiad am helaethiad Y LLAN A'E DYWYSOGAETH foddhad digymysg i gefnog- wyr y Wasg Eglwysig Gymreig yn Lerpwl a Manceinion. Y mae llawer o siarad ac ysgrifenu a beio wedi bod ar Fglwyswyr Cymru ar hyd y blynyddau am eu diffyg cefnogaeth i'r wasg frodorol, ac nid heb achos. Y mae ein coelbren wedi syrthio mewn amserau o gynwrf gwleid- yddol, ac nid amser ydyw i blethu dwylaw a hepian. Rhaid i bob sefydliad, yn wladol ac Eglwysig, roddi rheswm dros ei fodolaeth. Y mae'r LLAN A'R DYWYSOGAETH wedi bod yn llafurio am dymor hir dan lawer o anfanteision, ac ni chafodd ond y cold shoulder, ys dywed y Sais, gan yr awdurdodau Eglwysig a chorff mawr clerigwyr y Dywysogaeth. Ond da genym weled arwyddion fod yr ysbryd gwrth-Gymro- aidd, yr hwn a brofodd mor andwyol i lwydd- iant yr Eglwys yn Nghymru yn yr oesau a aeth- ant heibio, yn graddol ddiflanu o blith y clerig- wyr. Mae cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lie yn y cyfeiriad hwn yn ddiweddar, Mae ein pedwar Esgob yn awr yn alluog i ddwyn ymlaen weinyddiadau cyhoeddus yr Eglwys, ac anerch y bobl yn yr iaith y ganwyd hwynt. Ceir hefyd ymhlith deoniaid,canoniaid, a swyddogion eraill ein Heglwysi Cadeiriol, nid yn unig rai yn medru Cymraeg, ond y gwladgarwyr mwyaf pybyr, y pregethwyr mwyaf hyawdl, a'r llenor- ion mwyaf coethedig a fedd y genedl Gymreig. Nid ydym yn gofyn am ddim ond rhoddi ei lie priodol i'r hen iaith, yn ngweinyddiadau cyhoeddus yr Eglwys, yn y pwlpud, yn yr Ysgol- ion Sul, ac yn ein llenyddiaeth gyfnodol a new- yddiadurol. Erys y Gymraeg, er yr holl ddaro- ogan am ei thrancedigath, y^ ffaith ystyfnig yn y Dywysogaeth, ac y mae llwyddiant yr Eglwys yn ymddibynu yn y parthau Cymreig o'r wlad, am oesau lawer i ddyfod, ar y defnydd a wneir o honi. Mae lie i ddirnad nad oes lladd ami." Pan anelid y saethau mwyaf gwenwynig at ei chalon, ni wnai yr hen iaith, fel y sylwai y bardd- offeiriad a'r beirniad clodfawr, y Parch. Walter Davies, A.C. (Gwallter Mechain), ond gosod ei Haw ar ei gwyneb, a gwenu. Cydnabyddir gan Lywodraeth Prydain Fawr nid yn unig ei bod- olaeth, ond ei phwysigrwydd fel unig gyfrwng llafar corff mawr y genedl Gymreig. Mae cyfnew- idiad anhygoel bron wedi d'od dros feddyliau y Saeson o berthynas i'r defnydd ddylid wneyd o'r iaith Gymraeg hyd yn nod yn yr ysgolion elfenol, fel cyfrwng addysg i'r genhedlaeth sydd yn codi aey mae y newyddiaduron Seisnig yn dyrchafu eu Ilef yn gryf, ac yn groew, fLQ yn ddifloesgni, yn erbyn penodiad Saeson i fywol iaethau ac i'r Cadeiriau EgQbol yn Nghymru, a thros wneyd defnydd dyladwy o'r wasg Gym- reig fel y cyfrwng mwyaf effeithiol i wrthweithio dylanwad dinystriol y newyddiadur Radicalaidd. Nid oes diffyg gallu llenyddol yn yr Eglwys yn Nghymru. Ceir ymhlith yr Eglwyswyr, yn llfin a lleyg, liaws o'r ysgrifenwyr Cymreig gallu- ocaf a fedd y genedl. Nid oes ddadl nad lleyg- wyr Eglwysig sydd wedi rhoddi mwyaf o gefn- ogaeth i'r wasg Gymreig yn y gorphenol. Y mae clerigwyr Cymreig, fel rheol, hyd yn hyn, wedi gadael i eraill ymladd eu brwydrau. A gawn ni apelio yn ofer at yr offeiriaid i wneyd Y LRAN A'R DYWYSOGAETH ynallu teimledig yn Nghymru? Canfyddir ei dylanwad eisioes o'r tuallan i gylch- oedd Eglwysig, fel y gwelir oddiwrth y cyfeir- iadau mynych a wneir ati yn y newyddiaduron Radicalaidd. Yr amser a gerddodd ymhell: deuwch allan fel un gwr i roddi yr ysgwydd wrth yr olwyn. Y mae'r gelyn yn hau hadau gwrthryfel a therfysg yn y wlad. Rhaid adeil- adu muriau Sion gyda'r llwyarn yn un llaw a'r cleddyf yn y llaw arall. A gawn ni apelio hefyd am gymorth at fyfyr- wyr Coleg Dewi Sant, Llanbedr, a'r efrydwyr Eglwysig yn y Colegau Cenedlaethol, a Cholegau Duwinyddol St. Aidan a St. Bees. Yr unig beth angenrheidiol ydyw cydweith- rediad, a llai o rwgnachrwydd, er sicrhau llwydd- iant Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, ein hunig organ Eglwysig, yn ei diwyg newydd. Wel, hai ati o ddifrif, A pull, a long pull, and a pull altogether CABHIRFRYN.
PIGION DYDDOROL.
PIGION DYDDOROL. Cystenyn Fawr oedd y cyntaf o holl ymer- awdwyr Rhufain a dderbyniodd ffydd Crist. Yn y flwyddyn 1146 y dechreuwyd adeiladn mynachlogydd yn Nghymru. Y mae digon o amser -i bob peth yn ystod y dydd, ond i ni wneyd un peth ar y tro. Wrth wneyd daioni i eraill, yr ydym yn gwneyd daioni i ni ein hunain. Y mae gwir deilyngdod fel afon-po ddyfnaf y byddo, lleiaf oil o swn a wna. Y mae dim llai na 1,609 o gylchgronau o bob math yn cael eu hargraffu yn y wlad hon. Gall fod dysgeidiaeth yn llanw y pen, ond nid yw bob amser yn llanw y boced. t Prynodd cwmni Seisnig ystryd gyfan o dai yn New York am ddau can' mil o bunau. 527 o gyhyrau sydd yn holl gorff dyn, ond y mae 40,0U0 yn nhrwnc y cawrfil yn unig. Y mae oddeutu chwarter miliwn o bobl yn mynychu lleoedd o ddifyrwch bob nos yn Llundain. Bu y bywyd-fadau o gylch y traethau, yn ystod y flwyddyn 1889, yn foddion i achub pedwar cant ac wyth o bersonau rhag boddi. Addurnir Paris yn awr gan bedair miliwn o goedydd, a chyflogir 216 o arddwyr i'w cadw yn drefnus. Cyfrifir fod mil o filldiroedd o newyddiaduron Llundain yn cael eu rhoddi i'r byd bob boreu trwy offerynoliaeth y Rotary Press. Penderfyniadau wedi tyfu i fyny ydyw gweithredoedd, ac y mae y rhan fwyaf ohonynt yn marw ar eu genedigaeth. Yn Nghapel St. Sior, yn Ngliastell Windsor, y claddwyd Edward IV., Harri VI., Harri vrn., Jane Seymour, Siarls I., a merch y Frenhines ] Ann. j Sefydlwyd Westminster Abbey, Llundain, yn y flwyddyn 610, gan Sebert, brenin Essex, a Gwilym y Concwerwr oedd y penadur cyntaf a goronwyd yno. Bu Llanbadarn Fawr, yn Sir Aberteifi, yn j esgobaetli am ganoedd o flynyddau, sef hyd oddeutu y flwyddyn 999, pryd y rhuthrwyd ar yr eij gob (Idnertli) ac y lladdwyd ef gan wyr eiddigeddus ac ysgeler. Y brenin cyntaf o holl ardaloedd cred a drodd yn Gristion ydoedd Lies ap Coel, yr hwn a deyrnasai ar ran fawr o Loegr. Digwyddodd hyn oddeutu y flwyddyn 160. Gildas, ein cydwladwr, yr hwn a ysgrifenodd hanes ei wlad oddeutu y flwyddyn o oedran Crist 546, y w yr awdwr hynaf o Ynys Prydain sydd a'i waith heb fyned ar goll. Amcangyfrifir fod dyn ar ol cyraedd 70 mlwydd oed, wedi trenlio 24 mlynedd mewn cwsg felly, gwelir fod y dyn gwaethaf a welwyd Z3 1. erioed yn weddol dda y drydedd ran o'i oes. Dywed seryddwyr fod y blaned Jupiter, yr hon sydd yn hynod am ei disgleirdeb, yn awr yn yr un cyflwr ag oedd ein daear ni ynddo ddeng miliwn ar hugain o flynyddau yn ol. 0 Y mae arwynebedd Unol Dalaethau America yn 3,501,404 o filldiroedd ysgwar, tra mae ar- wynebeda Unol Dalaethau Brazil" yn 3,319,000 o filldiroedd ysgwar. Y mae Coleg Marlborough, ysgol berchenogol a sefydlwyd yn benaf er budd meibion offeiriaid, wedi ei adeiladu ar safle Castell Marlborough, ymha un y cynhaliodd Harri y Trydydd senedd unwaith. Y mae yn ninas hynafol Caerlwydcoed (Lincoln) 13 o eglwysi plwyfol, heblaw Eglwys Gadeiriol, yr hon a sylfaenwyd yn y flwyddyn 1086, ac a ail-adeiladwyd yn 1127, oblegid dinystriwyd yr hen adeilad gan dan. Y mae hen Eglwys Gadeiriol Caerwynt (Win- chester), yr hon a adeiladwyd gan yr Esgob Ethelwold yn y flwyddyn 980, yn cynwys gweddillion amryw o frenhinoedd Wessex a brenhinoedd Sacsonaidd yn Lloegr. Dywed Dr. Southwood Smith fod yr an- wydwst (influenza), pan y torodd allan yn Llundain yn 1847, wedi ymledu i'r fath raddau mewn un diwrnod nes effeithio ar haner miliwn o boblogaeth y brif ddinas. 0 Y mae byddin Napoleon I. wedi dyfod i lawr i gwmni bychan. Yn 1883, yr oedd 1,421 o'r hen filwyr yn fyw. Y flwyddyn ganlynol yr oedd y nifer 500 yn llai, ac yn 1887 nid oedd ond 224 ar ol. Y Testament Newydd a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan y Gwir Barchedig Richard Davies, Esgob Ty Ddewi, a William Salesbury, boneddwr urddasol, ac a argraffwyd yn v flwyddyn 1556. Yn mysg doctoriaid yr oesoedd canol, Meddygon Myddfai yw y rhai mwyaf hynod. Y mae llyfr bychan o'u gwaith yn diweddu fel hyn Pwy bynag ni chymero fwyd pan fo ei angen arno, ei gylla a leinw o afiachwst, yr hyn a bery waew yn y pen." Argraffwyd yr Hen Destament yn Gymraeg yn 1588. Cyfieithwyd ef, yn ol gorchymyn y Frenliines Elizabeth, gan yr ysgolhaig disglaer hwnw, Dr. Morgan, Esgob Llandaf, yr hwn' wedi hyny, a haeddianol ddyrchafwyd i Esgob. aeth Llanelwy.