Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

Y PREGETHAU *YN MYNACHLOG…

News
Cite
Share

Y PREGETHAU *YN MYNACHLOG WESTMINSTER. UN o. arwyddion yr amserau oedd tri Chymro urddasol yn pregethu yn Myn- achlog "Westminster ac Eglwys gyfagos St. zn 113 0 Margaret's, ar yr un Sul. Y tri oeddynt Esgobion TY DDEWI a LLANELWY, a'r Archddiacon HOWELL, Wrecsam. Y gwrthddrych a bleidient ac y gofynent gyfraniadau tuag ato ydoedd adeiladaeth Eglwys newydd i'r Cymry yn rhan Or- llewinol Llundain. Cymerodd pob un o'r pregethwyr uchod fantais o'r cyfleus- dra i gyfeirio 3-n ei ffordd ei hun at sefyllfa yr Eglwys yn Nghymru, ac i enill cydymdeimlad tuag ati. Nid ydyw y pregethau wedi eu cyhoeddi i'n gwybod- aeth ni, ond ymddangosodd darnau o honynt yn mhapyrau Llundain y dydd canlynol. Gwel Golygydd y Faitet- yn dda, mewn dull chwyddedig ac awdurdodol, gondemnio pregeth Esgob LLLANELWY, a chanmol eiddo'r Arch- ddiacon HOWELL, ac addawa ddychwelyd at yr olaf. Ni ddywed air am bregeth Esgob TY DDEWI. Credwn fod yna nodiadau yn y bregeth a draddodwyd gan Esgob TY DDEWI, er na chymerodd y Faner yrun sylw o honynt ag sydd yn deilwng o gael eu pwyso a'u hystyried yn bwyllog. Teilyngant le cyweirnod y dyfodol. Dywedai y Gwir Barchedig BRELAD mai gwaith neillduol yr Eglwys yn awr ydoedd dysgu i'r genedl werth- fawrogrwydd givirionedd, punleb, ac andeb. Nis gall yr un gwlaclgarwr lai na gotidio fod y rhinweddau pwysig hyn wedi dirywio yn ngliymeriad y genedl, a'u cydmaru a'r hyn a fodolai gynt. Ystyrid y Cymro yn eirwir, ac i ymddi- bynu arno. Honest Taffy oedd ei deitl yn mhlith y Saeson. Digon o waith fydd adenill y cymeriad, os amlheir yr ar- ferion presenol. Gwyddom am ardal, lie mae gwyr yn gadael gwragedd a phI ant ar eu hoi, ac yn dianc i America heb anfon gair na cheiniog yn ol atynt. Gwyr pawb am y dull ysgafn, dirgelaidd, yn mha un y prioda rhai yn prqffesu crefydd mewn swyddfa. Gwyr llawer am arferion anweddaidd carwriaeth rhwng pobl ieuainc. Mae yn myned yn achos o ymffrost fod cynlluniau i ddianc taliadau. cyfrdthlawn fel y degwm wedi eu perffeithio nes myned yn fater o gel- fyddyd. Mae dianc rhwymedigàethau a chytundebau wedi myned, fel dywed DE QUINCEY am lofruddiaeth, yh fine art. Mae masnach yn llawn twyll, a'r rheol Gristionogol i wneyd i eraill fel y dy- munem iddynt hwy wneyd i ni wedi ei hanghofio yn rhy gyffredin fel egwyddor anmherthynasol. Ac am undeb, a ellir gwadu desgrifiad miniog Siluriad yn y Get linen. Gwaith yr Eglwys yw llesau y genedl, a'i dyrchafu. Onid oes achos ? A gallwn ofyn yn mhellach, a ellir edrych oddiamgylch am unrhyw ddylanwad arall i adferu ein cenedl i feddiant cyf- lawnach o'r rhinweddau sylfaenol hyn ond dylanwad yr egwyddorion a ym- ddiriedwyd i'r Eglwys eu cyhoeddi a'u lledaeiiu. Geiriau euraidd a geiriau tymhorol oedd eiddo Esgob TY DDEWI yn Mynachlog Westminster. Pan ddeallir eu hergyd, bydded iddo ddisgwyl gael ei erlid gan Phariseaeth yr oes, a ninau hefyd gydag ef. On(I os am y gwir y'n lleddir, ba waeth ?

. GWASANAETH CYMREIG YN EGLWYS…

. Y TRYCHINEB GLOFAOL YN WILKESBARRE.

EMIN PASHA.

GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS AR…

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

[No title]

CYFRINGELL Y GOLYGYDD

[No title]

.CYD-DDEALLTWRIAETH A CHYD-WEITHREDIAD.

. CHWARELWYR A THIRFEDDIANWYR.

TEULU CYFAN WEDI LLOSGI I…

0.-FICER WEDI El DDISWYDDO…

. MARWOLAETH ABRAHAM LINCOLN.

ANRHEGU FICER BRITON FERRY.

. DAMWAIN ECHRYDUS YN -NGOGLEDD…

Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE.

ETHOLIAD GOGLEDD ST.' PANCRAS.

[No title]

. DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

MARCHNADOEDD. -------._-___-_-----

[No title]