Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Y FLWYDDYN 1889.
Y FLWYDDYN 1889. Diweddwn flwyddyn arall gyda'r rhifyn presenol o'r LLAN, ac efallai mai nid an- nyddorol neu anfuddiol fyddai taflu golwg frysiog yn ol er ceisio sylweddoli digwyddiadau pwysicaf y deu- ddeg mis sydd bron a dirwyn i ben. Fel hyn y gallwn wybod pa gynydd yr ydym wedi ei wneyd, pa golledion yr ydym wedi eu dioddef, ac o bosibl yn yr adroddiad a'r adolygiad o'r gorpbenol dderbyn gwersi gwerthfawr gyda golwg ar y dyfodol. Yr hyr sy' a fu, a'r hyn fu a ddaw, ac nid oes diiu. ewydd dan yr haul, ac y mae yr hwn sydd yn gallu gwerthfawrogi effeithiau y gorphenol yn medru ymarfogi ar gyfer helyntion y dyddiau sydd yn d'od.
YR EGLWYS YN NGHYMRU.
YR EGLWYS YN NGHYMRU. Cymerwn yn ganiataol mai yr Eglwys sydd yn sefyll agosaf at galonau pawb sydd yn darllen y nod- ion hyn. Credwn yn gydwybodol mai cangen yw yr Eglwys ya Nghymru o'r gym- deithas fendigedig hono a sylfaenwyd gan yr Arglwydd lesu Grist yn nyddiau lEi gnawd pan yr anadlodd ar Ei apostolion gan roddi iddynt EiYsbryd Glan. Fel y mae yr Eglwys Gjmreig yn gangen o'r Eglwys hono yr ydym yn dymuno ei llwyddiant gan ddymuno iddi fod yn fuddugoliaethus ar ei holl elynion. Wrth olrhain banes yr Eg- lwys braidd y gellir dywedyd fod unrhyw gyfnod wedi bod yn un heddychol hollol, <md erys y ffaith nad yw yr Eglwys erioed wedi gorfod ymladd mor ffyrnig yn erbyn Pob math o ymosodiadau ag sydd wedi ei amgylchynu yn ystod y blynyddoedd di- weddaf. Ac nid yw y frwydr ond myned, yn boethach, boethach o ddydd i ddydd. Yr unig galondid yw, fod yr Eglwys yn Nghymru heddyw yn sefyll ar uwch tir nag y safodd am hir ysbaid o flynyddoedd. Yn ystod y flwyddyn sydd bron myned heibio gwnaed amryw o ymosodiadau ar yr Eg lwys, ond fel cleddyf yr annuwiol yr hwn a ddychwel i'w galon ei hun, y mae holl ys- trywiau y gelyn nid yn unig wedi myned yn ofer, ond wedi dangos yn eglur gryfder y sefydliad gogoneddus y ceisiwyd ei fwrw i'r llawr.
—. YE YMOSODIAD YN Y SENEDD.
— YE YMOSODIAD YN Y SENEDD. Hir gofiry bedwaredd-ar- ddeg o Fai, 1889, fel y dydd pan y dygwyd cynygiad Mr. Dillwyn i fewn i'r Senedd I I yn nghanoi noli rwysg a bloeddiadau y fyddin ddadgysylltiol. Fel y dywedodd Y LLAN ar y pryd ni adawyd un gareg heb ei throi gan y blaid wrth-Eglwys- ig er sicrhau buddugoliaeth ar gynygiad yr aelod anrhyddus dros Abertawe. Cafwyd dadl ar y pwnc, a rhanwyd y Ty, a'r can- lyniad ydoedd mwyafrif o dri-ar-ddeg a deu- gain yn erbyn Mr. Dillwyn, sef dros y cyn- ygiad, 231 yn erbyn, 284. Daw gwerth y fuddugoliaeth Eglwysig hon i'r golwg pan gofiom sefyllfa y ffigyrau pan y gwnaed yr ymgyrch yn erbyn yr Eglwys yn 1886. Safai y ffigyrau fel y canlyn :—Dros, 229.; yn erbyn y cynygiad, 241; neu fwyafrif o ddeuddeg. Nid heb achos o lawenydd a diolchgarwch y cyfeiriwn yn ol at y bedwar- edd-ar-ddeg o Fai fel dydd i'w gofio am y fuddugoliaeth ardderchog a gawsom yn y Senedd.
——♦ -: YR YMOSODIAD Y TUALLAN…
—— ♦ YR YMOSODIAD Y TUALLAN I'R SENEDD. Nid yw tymer y Wasg Radicalaidd wedi cyfnewid rhyw lawer yn ystod y flwyddyn. Yr ydym wedi hen gyneflno & phethau chwerwon y papyrau Radicalaidd ac Ym- neillduol, ac wrth ystyried eu digasedd a'u gelyniaeth, nid oes genym ond diolch fod eu bustledd a'u llysnafedd hyd yn hyn, beth bynag, wedi eu taflu yma ac acw heb wneyd Unrhyw Diwed i'r Eglwys. Gwir y gall y pregethwyr a'r gweinidogion sydd yn ysg- tffenu erthyglati areiniol y papyrau Cym- reig ymffrostio eu bod 'wfedijbod yn llwydd- lanus i ^erswadio ■">%> nifer ,< fawr^ o ^toaethwyr Cymr^/i/ ^rthod /cyfl4wi|i eu baddewidion, i wrthod tain eu d^sd^dn cyfreithlawn. Yn ddiweddar, y mae Y LLAN wedi rhoddi cyhoeddiasrwydd i ddat- guddiadaa Y Guardian-nid Guardian Gwrecsam-ar sefyllfa pwnc y degwm. Dengys y datguddiadau hyn barodrwydd arweinwyr y teimlad gwrth-Eglwysig i daflu dros y bwrdd, nid yn unig gyfreithiau y wlad, ond hefyd y ddeddf foesol er cyraedd eu hamcanion annuwiol. Wrth gydmaru sefyllfa yr Eglwys heddyw a'i sefyllfa flwyddyn yn ol, mewn cysylltiad a/r degwm yn unig y mae genym le i gwyno. Hyd: yn nod yn y fan hyn, fodd bynag, y mae genym gysur cryf. Blwyddyn i 'nawr nid oedd genym ond gobaith gwan y byddai i'r Llyw- odraeth wneyd dim drosom, ond heddyw y mae genym addewid sicr y dygir i fewn i'r Senedd yn ystod y tymor nesaf, fesur fydd yn trosglwyddo y cyfrifoldeb am daledig- aeth y degwm i'r tirfeddianwyr, ac ar yr un pryd yn galluogi pereheJliogion y degwm i'w gasglu, naill ai trwy atafaelu, fel yn y pres- enol, neu trwy gyfrwng llysodd y man- ddyledion.
.. CYFNEWIDIAD CWRS Y FRWYDR.
CYFNEWIDIAD CWRS Y FRWYDR. O'r braidd nad yw am- gylchiadau yr ychydig wyth- nosau diweddaf yn dangos fod cyfnewidiad pwysig ar droed gyda golwg ar y ey- feiriad y bydd i'r frwydr gael ei chario yn mlaen yn y dyfodol. Hyd yn hyn y mae holl allu y Radicaliaid a'r Ymneillduwyr politicaidd yn Nghymru wedi ei grynhoi a'i gyfeirio tuag at ddinystrio yr Eglwysyn Nghymru. 0 hyn allan ymddengys fel pe b'ai dadgysylltiad a dadwaddoliad i'w 1 dwyn oddiamgylch yn anuniongyrchol. Oddiar y bu Mr. Gladstone yn traddodi ei araith yn Manceinion y mae arwyddion fod y blaid Gymreig yn tueddu i fabwysiadu Ymreolaeth i Gymru" fel arwyddair. Wrth gwrs, nid yw yr Eglwys iddianc oblegid y cyfnewidiad hwn. A rhyfel y degwm yn mlaen fel o'r blaen, ond y mae y mae y grediniaeth yn lledaenu y bydd yn hawddach cael ymreolaeth i Gymru na dadgysylltiad. Y mae Cyngrair y De wedi derbyn awgrym Mr. Gladstone, ond hyd yn hyn y mae y Gogleddwyr wedi cadw draw.
I. Y GYNGRES EGLWYSIG.
Y GYNGRES EGLWYSIG. Ar y dydd cyntaf o Hydref agorwyd y Gyngres Eglwys- ig am y flwyddyn ynNghaer- dydd. Deng mlynedd yn I I flaenorol ymwelodd y cynuliiad pwysig nwn a Chymru am y waith gyntaf, pan y cynhal- iwyd cyfarfodydd y Gyngres yn Abertawe. Un o'r pethau mwyaf calonogol mewn cysylltiad a'r Gyngres y flwyddyn hon ydoedd, fod yr holl siaradwyr Cymreig yn gallu, siarad ya groew ae yn eglur parthed cynydd aruthrol yr Eglwys oddiar y flwydd- yn 1879. Bydd y cyfarfodydd eleni hefyd yn deilwng o goffadwriaeth oblegid y dy- ddordeb mawr gymerwyd mewn pobpeth Cymreig gan y brodyr Seisnig a ymwelsant a. ni y flwyddyn hon. Yr oedd teimlad lied gyffredin yn bodoli yn ein plith fod cydym- deimlad llwyr yn bodoli rhwng yr Eglwys yn Nghymru a'r Eglwys yn Lloegr. Yn nghyfarfodydd y Gyngres dangoswyd yn eglur fod y cydymdeinllad hwn yn rhwymyn annatodadwy. Oddiar mis Hydref y mae dyddordeb neillduol yn cael ei gymeryd yn Lloegr mewn pobpeth cysylltiedig a'r Eglwys Gymreig fel y prawf y ffaith fod y papyrau Eglwysig Seisnig yn dechreu agor eu colofnau o ddifrif i ystyried pa fodd i gryfhau y Sefydliad yn Nghymru. Nid yn unig dangoswyd ein cryfder i'n brodyr Seis- nig yn ystod y cyfarfodydd, ond gwelodd Cymru Ymneillduol nad oedd yr Eglwys y peth gwaen ac egwan y darlunid hi gan y gelynion. Hyderwn, ac y mae genym sail i'n hyder, y gwelir fod Cyngres Caerdydd wedi bod yn fendithiol i'r Eglwys yn Nghymru.
---------CYNYDD YR EGLWYS.
CYNYDD YR EGLWYS. Da genym ar ddiwedd blwyddyn fel hyn allu'dweyd fod y deuddeg mis aeth heibio wedi gweled cynydd dirfawr yn yr Eglwys ymhob ystyr. 0 wythnos i wythnos y mae Y LLAN wedi bod y eroniclo adroddiadau am gynydd parhaol eglwysi ymhob rhan o'r wlad. Credwn, pan y ceir y cyfrifon, y bydd nifer y rhai a gonffirmiwyd gan yr Esgobion Cymreig yn llawer mwy nag mewn unrhyw flwyddyn yn flaenorol. Y mae hyn, ni gredwn yn wir am y pedair esgobaeth, ond am Esgobaeth Llanelwy yn arbenig. Yn ystod y flwyddyn y mae nifer fawr o eglwysi wedi eu cysegru, ac y mae eraill wedi eu hail agor ar ol cael eu helaethu. Nid oes eisiau myned i fewn i'r manylion. Y mae hyd yn nod y Dad- gysylltwyr yn cyfaddef fod gweithgarwch mawr wedi nodweddu y flwyddyn sydd yn awr bron a d'od i ben. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at y ddadl a gymerodd le yn y Senedd ar y bedwaredd- ar-ddeg o Fai. Un o'r pethau rhyfeddaf yn nghwrs y ddadl ydoedd y cyfaddefiad a wnaed gan holl siaradwyr yr Wrthblaid fod yr Eglwys wedi deffroi o ddifrif at ei gwaith yn ddiweddar. Yr unig gwyn a ddygidyn erbyn y Sefydliad ydoedd fod, y gweithgar- wch hwn wedi dyfod yn rhy ddiweddar. Mewn gwirionedd, fel y crybwyllwyd gan un siaradwr, nid y gweithgarwch sydd wedi dyfod yn rhy ddiweddar, eithr y waedd dor- calonus am ddadgysylltiad sydd wedi ei oedi yn rhy hir. Bellach y mae yr Eglwys wedi codi at ei gwaith; y mae y clerigwyr wedi ymaflyd yn eu dyledswyddau o ddifrif. Parhaed y gweithgarwch hwn am ychydig flynyddoedd, ac yr ydym yn dra sicr na chlywir mwy fod cenedl y Cymry am dori i lawr Hen Eglwys eu Tadau." Uwchlaw pobpeth cofier fed cyngor Arglwydd Sel- bourne yr un mwyaf pwysig y gellid ei roddi i Eglwyswyr Cymru-" Ysbrydolwch, Ys-I brydolwch, YSBRYDOLWCH." -<#>—
ESGOBAETH LLANELWY.
ESGOBAETH LLANELWY. O'r Esgobaethau Cymreig nid oes yr un wedi bod yn wrthddrych cyfnewidiadau mor bwysig ag eiddo Llan- elwy, yr hon sydd wedi gweled yr holl 07i phrif swyddogion yn cael eu symud yn ystod y flwyddyn bresenol. Yr oedd yn wybyddus fod y Tra Pharchedig Ddeon James yn myned o Lanelwy cyn i'r newydd torcalonus ddyfod fod y Gwir Barchedig Josuah Hughes, yr Esgob, wedi gorphen ei tn 6 p yrfa ddaearol ar ddydd Llun, yr unfed-ar- hugain o Ionawr, 1889. Yn marwolaeth yr Esgob Hughes collodd yr Eglwys Gymreig un ag oedd wedi ei gwasanaethu gyda ffyddlondeb a gallu am gyfnod hirfaith, ac yr oedd Cymry o bob sect a phlaid yn ym- uno A- Eglwyswyr yn eu galar, oblegid yr oedd yr Esgob Hughes yn Gymro trwyadl, a'r Cymro cyntaf a godwyd i'r Esgobaeth am flynyddoedd meithion. Un genedlaeth a a, a chenhedlaeth araU a ddaw." Ar yr ail-ar-hugain o Chwefror cyhoeddwyd yn Y LLAN y nodyn canlynol: Y mae hysbys- rwydd wedi ein cyraedd fod y Frenhines wedi gweled yn dda i gadarnhau penodiad y Parch. A. G. Edwards, M.A., fleer St. Pedr, Caerfyrddin, i Esgobaeth Llanelwf." Ar ddydd Llun, y 2bain o Fawrth, sef Gwyl Cyfarchiad Mair y Forwyn, cymerodd cysegriad y Parch. A. G. Edwards, fel Esgob Llanelwy, le yn Westminster Abbey. Mewn ychydig amser gwnaed yn hysbys gan yr Esgob fod y swydd uchel o Ddeon yr Esgob- aeth i gael ei llanw gan y Parch. John Owen, Prifathraw Coleg Llanymddyfri. Nid oes eisiau dweyd fod Eglwyswyr Cymru yn edrych ymlaen gyda chryn lawer o ddisg- wyliad a phryder oblegid y penodiadau hyn, ac erbyn hyn y mae genym resymau digonol i lawenhau a diolch o'u plegid, Disgwylir am bethau mawrion o Lanelwy, ac yr ydym yn dra hyderus na siomir ni.
.' YMWELIAD Y FRENHINES.
YMWELIAD Y FRENHINES. Un o ddigwyddiadau mawrion y flwyddyn, dig- wyddiad a dynodd lawero svlw ar y pryd, vdoedd vr ymweliad a dalodd ein Grasusaf Frenhines a Chymru yn ystod yr wythnos olaf o fis Awst diweddaf. Yr ydym fel cenedl yn wastad wedi ymffrostio ein bod yn bobl genedlgarol, wladgaroi, a theyrngaro). Yn ystod yr ychydig flynyddoedd olaf y mae llawer o gau athrawon wedi bod trwy y wlad yn ceisio hud-ddenu y Cymry cenedl- garol ar hyd llwybrau tywyll a theyrnfrad- wrol. Dywedid yn eglur gan rai o bapyrau Radicalaidd Cymru na chai y Frenhines dderbyniad yn Hen Wlad y Bryniau, yn enwedig oblegid ei bod yn dyfod gyda'i merch y Dywysoges Beatrice i ddangos cydymdeimlad &'r Eg- lwys. Digon yw dywedyd fod y cyfryw athrawon gau wedi eu siomi yn enpyd. Cafodd y Frenhines dderbyniad brenhmol, ymfalchiai y Cymry yn y cyfleuadra i ddangos eu teyrngarwch, ac ni chafodd neb 0 dderbyniad mwy brwdfrydig na'r Dywysoges Beatrice pan y gosododd gareg aylfaen Eg- lwys newydd Abermaw.
GWLEIDYDDIAETH GYMREIG.
GWLEIDYDD- IAETH GYMREIG. Mor bell ag y mae y pleidiau yn y Senedd yn myned y mae pethau heddyw fel yr oeddynt flwyddyn i heddyw; odd pan y- trowEL ein golygon i gyfeiriad yr etholaethau, y mae genym hyder fod Ceidwadaeth yn enill tir. Un peth sydd wedi ei wneyd yz: ystod y flwyddyn. Yn y Cynghrair Ceid- wadol Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Nottingham, cafodd Cymru, am y tro cyntaf, gydnabyddiaeth I gan y brodyr Seisnig, ac er nad oes dim wedi ei wneyd eto, disgwylir, pan y bydd y peirianwaith mewn llawn gwaith, y gwelir yr achos Ceidwadol yn gwneyd mwy o ffordd yn y Dywysogaeth. Sicr yw fod yr hyn y mae y Weinyddiaeth Geidwadol wedi ei wneyd i ni fel cenedl yn ystod y flwyddyn a aeth heibio wedi gwneyd enwau Arglwydd Salis- bury a'i gyd-weinidogion yn llawer iawn mwy poblogaidd nag y buont erioed oY blaen. Y mae y Llywopraeth bresenol, yn ddiameu, yn gryf yn mhob cyfeiriad, ac yn ychwanegol i'r daioni sydd wedi deilliaw i Gymru oddiwrth y Weinyddiaeth yn gyffredinol, yr ydym yn ychwanegel wedi cael Mesur Addysg Ganolraddol fydd yn debyg o wneyd daioni annhraethol i'n cyf- undrefn bresenol o addysg.
- Y TIRFEDDIANWYR A'R CLERIGWYR.
Y TIRFEDDIAN- WYR A'R CLERIGWYR. f Ni ddylid pasio heibio yr ymgais a wnaed mewn rhai cyfeiriadau i osod y tirfedd- ianwyr yn erbyn y clerig- wyr. Digod tebyg fod gor- mod o stwr wedi ei wneyd ynghylch y cyfarfod agynhaliwydychydig amser yn ol yn Rhyl, ond wedi'r cyfan, nid yw yn bosibl rhoddi ar ddeall yn rhy eglur i'r tir- feddianwyr na fedrant aberthu yr Eglwys i gynddaredd y gelyn heb, ar yr ua pryd, osodeu hunaill yn agored i'r unrhyw ym- osodiad yn y dyfodol. Pan yr oedd Syr Richard Bulkeley, a Mr. Ap Hugh Williams yn siarad yn erbyn i'r tirfeddianwys fyned yn gyfrifol am y degymau, nid at yr Eglwys yn benaf yr oeddent yn cyfeirio eu saethau ond at eu meddianau eu huuain. Oblegid dim ond y peth cyntaf ar raglen y gwrth- ddegymwyr ydyw ysbeilio yr Eglwys, eithr wedi iddynt ddwyn eu dyfeisiau yn erbyn y Sefydliad i ben, byddant wedi hyny yn troi eu hunain i ymladd a'r tirfeddianwyr. Yr ydym wedi cyfeirio at y ffaith fod cyf- newidiad pwysig wedi cymeryd lie yn nghwrs y frwydr. Bydded hysbys i'r tir-ar- glwyddi fod y Radicaliaid a'r Ym- neiliduwyr politicaidd yn galw am Ymreolaeth i Gymru, oblegid, meddant, os cawn Senedd yn Nghymru gwnawn i. ffwrdd yn fuan iawn a'r Eglwys, a byddwn yn abl i setlo pwnc y tir yn unol a'n dy- muniadau ein hunain. Os bu helynt Rhyl yn effeithiol i agor llygaid y tirfeddianwyr i'r ffolineb o geisio aberthu yr Eglwys nidi ydym yn myned i gwyno oblegid ychydig o y 0 eiriau chwerwon a siaradwyd gan Syr Richard Bulkeley, ac ychydig eraill.
/ ADFYWIAD MASNACH.
ADFYWIAD MASNACH. Y mae masnach yn ystod y flwyddyn hon wedi bod yn hynod lwyddianus, ac y mae, pob argcelion fod y dyddiau gwell hir ddisgwyliedig wedi gwawno o'r diwedd. Gresyn fod cynifer o strikes wedi cymeryd lie mewn gwahanol ranau o'r wlad, ond efallai nad oes dim yn fforddio gwell prawf o adfywiad masnach na'r ffaith fod cymaint o weithwyr yn sefyll allan am ychwaneg o gyflog. Pan y mae gwaith,, yn brin a masnach yn isel feiddia y gweithw.yr ddim sefyll allan. Gobeithio ein bod wedi gweled diwedd ar yr ymrafaelio rhwng y meistriaid a'r gweithwyr, ac y bydd i'r adeg lewyrchus bresenol hir barhau. o
CYFNEWIDIADAU Y FLWYDDYN.
CYFNEWID- IADAU Y FLWYDDYN. Nid oes genymondcyfeiri yn frysiog at yr holl gyf- newidiadau sydd wedi cy- meryd lie yn ein plith yn ystod y flwyddym sydd ar ddarfod. Ymhlith y clerigwyr