Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
GWRTHRYFEL YN DAHOMEY-LAN…
GWRTHRYFEL YN DAHOMEY- LAN D. Mae preswylwyr Dahomeyland wedi cyfodi mewn gwrthryfel er's tro yn erbyn eu llywodraethwyr, sef y Ffrancod, ac mor ddifrifol yw agwedd pethau fel y mae llywodraethwr y lie wedi anfon cais am i bedair mil o filwyr yn ychwanegol gael eu hanfon yno yn ddioed, heb yr hyn nis gall roddi terfyn ar y galanastra gwaedlyd sydd yn cymeryd lie yno yn ddyddiol, gan nad yw y gallu sydd ganddo yn awr yn ddigonol i ymgymeryd a'r gwaith. Os na chyrhaedda adgyf- nerthion yno yn fuan, bydd y Llywodr- aeth Ffrengig yn sicr o golli y wlad sydd wedi bod yn eu meddiant mor hir. Mae y trigolion yn gwneyd pob ymdrech i ad- enill eu gwlad oddiar y Ffrancod, y rhai, meddant, sydd yn eu gormesu.
HUNAN LADDIAD POENUS GERv…
HUNAN LADDIAD POENUS GER- v LLAW CAERDYDD. Cynhaliwyd trengholiad yn Llysfaen, gerllaw Caerdydd, ddydd Gwener, ar gorff Daniel Thomas, yr hwn a gyflawn- odd hunan-laddiad drwy dori ei wddf ag ellyn. Ymddengys iw wraig farw y dydd Llun blaenorol, yi- hyn a effeitJuodd. yn drwm arao, a dydd Iau daeth rhai o'i gymydogion i'r ty er gwneyd darpariadau ar gyfer claddedigaeth Mrs. Thomas, pan y cawsant ef yn gorwedd yn farw, a'i wddf wedi ei dori o glust i glust. Dy- ehwehyyd rheithfarn i'r perwyl ei fod wedi cyflawni hunan-laddiad tra mewn cyflwr o wallgofrwydd. Yr oedd Mr. a Mrs. Thomas yn hynod barchus yn yr ardal, ac wedi treulio oes ddedwydd gyda'u gilydd.
Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE.
Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE. Dywedir fod Mr. Glascodine, bar- gyfreithiwr, wedi ei gyflogi i amddiffyn y ddau fab a gyhuddir o lofruddio eu tad gerllaw Crewe ychydig amser yn ol. Mae y carcharorion yn gofidio iddynt ladd eu tad, ond ymddengys fod y naill yn eeisio gosod y bai ar y Hall, er fod y ddau yn cyfaddef eu bod wedi penderfynu er's wythnosau gario allan y weithred felldigedig. Pan y meddyliwyd gyntaf am y mater, nid oeddynt yn bwriadu gwneyd dim rhagor na rhoddi ychydig fraw iddo ond pan ddaeth y noson ben- odedig, rhoddasantiderfyn ar ei fywyd yn y modd creulonaf ag oedd yn ddichon- adwy. Ni roddir unrhyw reswm gan- ddynt dros gyflawni y weithred erchyll, gan fod eu tad bob amser yn garedig a thyner wrthynt.
COSBEDIGAETH HAEDDIANOL.
COSBEDIGAETH HAEDDIANOL. Yn llys ynadol Worship Street, Llun- dain, ddydd Gwener, gwysiwyd lliaws o werthwyr llaeth i ymddangos i ateb i'r cyhuddiad o gymysgu swm mawr o ddwfr a'r llaeth a werthent, a dirwywyd hwy mewn symiau yn amrywio o £20 i Y,15 yrlnn. Barna rhai o newyddiaduron Llundain na roddir terfyn ar yr arferiad hwn hyd nes yr anfonir y troseddwyr i garchar, gan fod yr un rhai yn cael eu dirwyo yn barhaus. Dylai yr awdur- dodau ymhob man ofalu fod y cyhoedd yn cael yr hyn a dalant am dano yn ddi- lwgr, gan fod mwy o dwyll ynglyn ag angenrheidiau bywyd na dim, yn enwedig gyda llaeth, ymenyn, bara, te, &c. Mae y gyfraith yn ddigon eglur mewn perth- ynas i hyn ac os bydd rhywun yn tybio ei fed wedi ei dwyllo, ei ddyledswydd yw gwneyd achwyniad wrth yr heddgeid- waid, y rhai sydd yn rhwym o wneyd ymchwiliad. i achwyniadau o'r fath, a galw sylw y dadansoddwyr at y cyfryw. Diau mai y dosbarth gweithiol sydd yn dioddef fwyaf oddiwrth dwyll o'r fath, a dYlid gofalu yn neillduol nad yw mas- nachwyr diegwyddor yn elwa ar draul dosbarth ydynt yn ami yn methu cael y ddeupen i'r llinyn ynghyd.
ESGOBAETH CANOLBARTH AFFRICA.
ESGOBAETH CANOLBARTH AFFRICA. Y mae Archesgob Caergaint wedi cael ei wahodd gan Gymdeithas Genhadol yr Eglwys i enwi clerigwr i'w benodi gan y cyfryw gymdeithas i ddilyn Dr. Penott Parker fel lEsgob Canolbarth Affrica. +.
GWYL GIN lAW "MEIBION Y CLERIGWYR."
GWYL GIN lAW "MEIBION Y CLERIGWYR." Y maeTyn dda genym hysbysu fod; Ar- glwydd Faer Llundain wedi addaw llyw- ifel Prif Ynad y Brif-ddinas, yn ngwyl giniaw Meibion y Clerigwyr ar yr 8fed o Fai.
FFUG-CHWEDL AR SEFYLLFA Y…
FFUG-CHWEDL AR SEFYLLFA Y I MENYWOD. Y mae ffug-chwedl newydd ag sydd yn ymdrin a sefyllfa bresenol a dyfodol y menywod, yn gymdeithasol a gwlcid- yddol, a ysgrifenwyd gan yr Arglwydd- es Florence Dixie, yr hon sydd yn anog y rhyw deg i eistedd ar y cyfrwy yn yr un dull ag y mae gwrywod wrth farch- ogaeth, yn awr yn y wasg, a bydd allan yn fuan.
MARWOLAETH SYR JAMES INGHAM.
MARWOLAETH SYR JAMES INGHAM. Ar y 5ed cyfisol, bu farw James Taylor Ingham, diweddar ynad heddlysoedd Llundain, yn 85 mlwydd oed. Derbyn- iodd ei addysg yn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lie y graddiodd yn M.A. yn 1832. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Joshua Ingham, o Blake Hall, Sir Gaer- efrog. Efe a briododd yn 1835 a Ger- trude, merch Mr.'James Penrose, o Wood- bill, Swydd Cork. ——
GWANC CYHOEDDWYR AM WEITHIAU…
GWANC CYHOEDDWYR AM WEITHIAU MR. W. E. GLADSTONE, Hysbysir fod Mr. W. E. Gladstone yn parhau i gael ei flido gan gynygion temt- iasynol oddiwrth gyhoeddwyr anturiaeth- us sydd yn awyddus am wneyd elw mawr ar ei weithiau llenyddol. Y newydd di- weddaraf ydyw fod cwmni o gyhoeddwyr llyfrau yn America wedi cynyg chwe' mil; o bunau y flwyddyn iddo, ond iddynt hwy yn unig gael yr awdurdod i gyhoeddi yr oil a ysgrifeiyd ganddo. Cyfarfyddodd y cynygiad hwn a'r un dynged a'r rhai blaenorol, sef cael ei wrthod yn union- gyrchol.
HUNAN-LADDIAD TAFARNWR YN…
HUNAN-LADDIAD TAFARNWR YN LLANEURWG. Brawychwyd trigolion Llaneurwg, pen- tref a saif haner y ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, vforeu ddydd Llun di- weddaf ar dderbyniad y newydd fod W. Marks Gerrish, perchenog tafarndy y Blue Bell, wedi cyflawni hunan-laddiad drwy ymgrogi yn yr ystabl, lie y dargan- fyddwyd ef tua haner awr wedi chwech o'r gloch. Anfonwyd am Dr. Edwards, Caerdydd, yn ddioed, yr hwn a hysbysodd fod Gerrish wedi marw er's rhai oriau. Dioddefai y trancedig oddiwrth iselder ysbryd, a'r dydd Sadwrn blaenorol dir- wywyd ef gan ynadon Casnewydd am gyflenwi dyn meddw a diod. Bernir i hyn effeithio yn drwm arno.
MARWOLAETHAU.
MARWOLAETHAU. Gogledd Cymru. ASHFORD-Chwefror 24, yn Dinbych, y Parch. T. Ashford, gynt o Drefnewydd, yn 81 mlwydd oed. DA VIES-Chwefror 28, wedi byr gystudd o'r parlys, yn Dublin-street, Tremadog, Mr. Griffith Davies, yn 70 mlwydd oed. DAVIES—Chwefror 23, yn Frongoch, Glynceiriog, Frederick Robert Davies, yn 17 mlwydd oed. DA VIEs-Chwefror 25, yn y Wern, Tre- fonen, Elizabeth, gweddw Mr. Howell Davies, yn 62 mlwydd oed. ELLIS—Chwefror 22, yn Brondyffryn, Dinbych, Robert Ellis, cigydd, yn 58 mlwydd oed. EVANS—Chwefror 21, yn Bryn Dinas, Caernarfon, Mrs. Mary Evans, gweddw y diweddar Mr. Robert Evans, grocer, Denbigh-street, Llanrwst, yn 76 mlwydd oed. GRIFFITHS—Chwefror 22, yn New-street, Wyddgrug, Mr. Joseph Griffiths, cof, restrydd priodasau, &c., yn 70 mlwydd oed. GRIFFITHS-Chwefror 22, yn Chapel- street, Llangollen, Mr. David Griffiths, yn 74 mlwydd oed. HUGHES—Chwefror 20, yn Pendinas, Penygroes, Tregarth, Mrs Mary Hughes, priod Mr. Hugh Hughes (Huw Derfel), yn 82 mlwydd oed. HUGHES—Chwefror 22, yn Penhelig, Aberdyfi, Ann Hughes, gweddw y di- weddar Gadben Hughes, yn 78 mlwydd oed. JONES—Chwefror 23, yn y Llythyrdy, Llanrhystyd, Mr. John Jones, post- feistr, yn 79 mlwydd oed. JONES-Chwefror 22, yn New Shop, Dolgellau, Mr. Richard Jones, yn 47 mlwydd oed. JONES—Chwefror 22, yn ei breswylfod, Clifton Villa, Rhyl, Robert Jones, yn 81 mlwydd oed. LLOYD-Chwefror 25, yn 54, Park Avenue, Sarah, gweddw David Edward Lloyd, o'r Cross, Croesoswallt, yn 65 mlwydd oed. RICHARDS-Dhwefror 27, yn Tynpyn- farch, Penrhyncoch, Aberystwyth, John Richards, yn 82 mlwydd oed. WILLIAMS—Chwefror 25, yn 21, Palace- street, Caernarfon, Catherine, anwyl briod Mr. William Williams, pobydd, yn 70 mlwydd oed. Deheudir Cymru. ANTHONY—Chwefror 28, yn 83 mlwydd oed, y Parch. D. Anthony, y Babell, Abertawe. BONNORMawrth 4, Miss Jane Bonnor, housekeeper Mr. William Richards, grocer, yn Nowlais. CURTIS—Mawrth 1, yn 58 mlwydd oed, Mrs. Ellen Curtis, priod Mr. John Curtis, greengrocer, High Street, Rhymni. r HÙPKIIS-()h\Vcfrt)r 20, yn uulutnNvyl- ei mam, 49, Mill-street, Trecynon, Aber- dar, Miss Gwenllian Hopkins, yn 38 mlwydd oed. JONES—Mawrth 2, John, mab hynaf Mr. Lewis Jones, grocer, Trecynon, Aberdar. JONES—Chwefror 24, Willie John, mab Mrs. Ann Jones, New Farmers, Bryn- aman, yn 11 mlwydd oed. PRICE-Chwefror 28, yn 22 mlwydd oed, Mr. George Adney Banton Price, mab y diweddar Mr. George Price, y relieving officer, Merthyr Tydfil. REES—Chwefror 25, yn 64 mlwydd oed, Mr. Rees Rees (Rhys Nantgwine), Hrynaman, gan adael gweddw a saith o blant yn eu galar. -0.
YSGRIF DIROL MR. PARNELL.
YSGRIF DIROL MR. PARNELL. Y mae Ysgrif Dirol Wyddelig Mr. Parnell wedi cael ei hargraffu. Ei phrif ddarpariaethau ydynt, na ddylid gorfodi deiliad i daIu rhent am y gwelliantaua wnaeth efe ei hun y dylai y Llys Tirol gael yr awdurdod i arbed troi y deiliaid allan o'u tai, ac i ymdrin ag ol-ddyledion; ac y dylai y cyfryw lys, pa bryd bynag y cymer didyad (eviction) le, gael yr awdur- dod i ail-sefydlu y deiliad camdrinedig yn ei dy. Hef yd, y mae yr Ysgrif yn darparu y dylai pob mater o ddadl rhwngperchenog a deiliad y ty, mewn rhyw achosion, gael ei benderfynu drwy gyflafareddiad. — ♦
l DADL FRWD YNGHYLCH Y CYFRWY…
DADL FRWD YNGHYLCH Y CYFRWY UNTU. Yn y Daily Graphic am Mawrth y 5ed, gofynodd yr Arglwyddes Florence Dixie, yr hon a ystyrir yn farchoges berffaith, y rheswm na ddylai menywod farchogaeth yn yr un dull a dynion, sef ar gyfrwy deutu. Y mae hi yn gryf o blaid hyny, oherwydd ei bod wedi gwneyd prawf ar y dull gwrywaidd o farchogaeth, ac wedi teimlo yn llawer mwy cysurus na phe b'ai yn eistedd ar y cyfrwy untu. Bu y mynegiad hwn yn offerynol i ddwyn allan amryw ohebwyr o blaid ac yn erbyn yr arferiad. Aeth yn ddadl mor frwd fel y darfu i rywun ddanfon yr hyn a ganlyn ar host-card i Mr. Leigh Bright, yr hwn a ysgrifenasai lythyr llym a chondemniol yn erbyn i fenywod farchogaeth ar y cyfrwy deutu -11 Darllenais eich llythyr yn y Daily Graphic, ac'yr wyf yn meddwl na ddarfu i mi ddarllen un mwy ffol yn fy my wyd; ac yr wyf o'r farn mai chwychwi yw y dyn creulonaf a wn i am dano, ac nid wyf yn meddwl y dylech gael by w Dywed un gohebydd nas gall menyw farchogaeth ar gyfrwy deutu heb wisgo llodrau yn gyhoeddus, fel dyn, ac y byddai hyny yn u ffiaidd gan yr Arglwydd," fel y profa Deut. xxii. Na fydded dilledyn gwr am wraig, ac na wisged gwr ddillad gwraig oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb ar a wnêl hyn." Mrs. Power O'Donoghue, un o farchogesau goreu Lloegr a'r Iwerddon, yn ol dywed- iad gehebydd arall,'a ddatganodd ei barn mai nid oddiwrth y cyfrwy untu yr oedd y perygl a'r anghysur yn cyfodi, eithr oddiwrth anghymwysder y marchogion.
ACHOS TEILWNG 0 SYLW.
ACHOS TEILWNG 0 SYLW. Brydnawn dydd Gwener diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod yn y Mansion House, Llundain, o danlywyddiaeth yr Arglwydd Faer, er cynorthwyo y drysorfa sydd wedi cael ei chychwyn i'r diben o eangu adeil- adau Yspytty Magdalen, Streatham. Cefnogid yr Arglwydd Faer gan Esgob Llundain, Esgob Barry, Syr R. N. Fowler, A,S., Mr. S. T. Fisher (y trysorydd), ac eraill. Adeiladwyd yr elusendy hwn, y cyntaf o'r fath a sefydlwyd yn Lloegr, yn 1758, er galluogi menywod syrthiedig, ond edifeiriol, i ddianc rhag bywyd o lygredd a diraddiad, a'u cynorthwyo, drwy eu dychwelyd i'w cyfeillion neu i'w gwasanaeth-leoedd, i ail-gychwyn bywyd o ddedwyddwch a pharchusrwydd. Pas- iwyd penderfyniadau gwresog yn taer gymell y cyhoedd i roi ychydig o help i'r sefydliad daionus hwn.
LLYFR NEWYDD MR. STANLEY.
LLYFR NEWYDD MR. STANLEY. Y mae Mr. H. M. Stanley, y Cymro a'r teithiwr Affricanaidd byd-enwog, yn brysur wrth y gwaith o ddarparu ei ys- grifau ynglyn a'i daith anturiaethus ddi- weddar drwy. Affrica, er eu c^fcceddi yn llyXi < Y cllae pob peth cysylltiedig a chyhoeddi y llyfr hwn yn cael ei gario ymlaen yn dra brysiog. Dywedir fod y darlunwyr, y gwydd-gerfwyr iivood engravers), y map-wneuthurwyr, a'r llyfr-rwymwyr, wrthi yn ddiwyd ddydd a nos ambell waith. Ni arbedir unrhyw draul tuag at gael y llyfr allan o'r wasg mor fuan ag sydd bosibl, oherwydd y mae y cyhoedd yn disgwyl gweled y gyfrol ddyddorol yn mron yr un pryd a dyfodiad yr awdwr galluog i Ynys Prydain! Nid oes angen gobeithio y ca y llyfr hwn o eiddo ein cydwladwr antur- iaethus gylchrediad mawr, oblegid y mae hyny yn beth sicr.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. DAVIES-lonawr 18, yn 41 mlwydd oed, Mr. James Davies, yn Kent Township, ger Powell, South Dakota. Mewn fferm o'r enw Tymawr, yn Llanbedr, Sir Benfro, y ganwyd ef. Ymfudodd yn ngwanwyn 1870. EVANs-Ionawr 30, yn 49 mlwydd oed, Mr. Richard Reese Evans, yn Richard Mine, Morris County, New Jersey, gan adael gweddw a lliaws o blant i alaru ar ei ol. Ganwyd ef yn Mhentre Bach, Merthyr Tydfil. HILL-Ionawr 27, yn Houtzdale, Penn- sylvania, Mr. Adam Hill, 67 mlwydd oed. Genedigol ydoedd o Gastellnedd. Ymfudodd yn 1865. OLIVER-lonawr 17, yn Gibson, Sir Sus- quehanna, Pennsylvania, Mr. James Oliver, yn 53 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Abergwaun, Sir Benfro. Ymfud- odd ef a'i briod o Aberdar tua 27 mlyn- edd yn ol.
FICER NEWYDD LLANSTEPHAN.
FICER NEWYDD LLANSTEPHAN. Dymunwn Iongyfarch y Parch. Thomas Lewis, Ficer Llangynog, ar ei ddyrchafiad i ficeriaeth Llanstephan, un o'r llanerchau mwyaf prydferth yn Neheudir Cymru. Y mae wedi enill poblogrwydd a pharch cyffredinol yn mhlivyf Llangynog, lie y bu yn Ficer gweithgar am 17 o flynyddau, a chredwn yr a ar gynydd yn y cyfeiriad yma yn ei blwyf newydd, ymha un y bydd rhagor o gyfleusderau i ddringo ysgol defnyddioldeb. Nid oes dim yn well i hyrwyddo llwyddiant yr Eglwys na chyfnewidiad bywoliaethau gau yr offeir- iaid. Os yw cyfnewidiad yn dda i'r corff er mwyn adenill nerth a bywiogrwydd, y mae yr un mor llesol i'r meddwl-nid yn unig i'r gwrandawr, ond hefyd i'r pre- gethwr. Ymadawa Mr. Lewis gyda dy- muniadau goreu pobl ei ofal yn Llan- gynog. Bydd yr hen gymydogaeth anwyl, yn enwedig yr Eglwys, yn rhyw Bethel" iddo edrych yn ol gyda chysur ar faes ei ymdrech, lIe y cafodd nerth gan Un uwch nag angel i gyflawni ei ddyled- swyddau. Pan y dywed y Llangynogiaid "Ffarwel" i'w hen Ficer, bydd y Llan- stephaniaid yn gwaeddi Croesaw! Croesaw!" a chreigiau glan y mor yn adseinio y llawen-floedd fel taran. Hir oes iddo yn ei le newydd.
Y LLOFRUDDIAETH HONEDIG YN…
Y LLOFRUDDIAETH HONEDIG YN NHREHARRIES. Dygwyd Susannah Davies, o Dreharries, o flaen yr ynadon yn Merthyr ddydd Sadwrn i ateb y cyhuddind o lofruddio ei phlentyn. Tynwyd yr erlyniad yn ol, a rhyddhawyd y ddynes.
CLADDEDIGAETH FICER LLANWONNO.
CLADDEDIGAETH FICER LLAN- WONNO. Claddwyd y Parch. Moses Lewis, Ficer Llanwonno, ddydd Iau, y 6ed cyfisol, yn nghladdfa y teulu yn Llantwit Fardre. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. W.Lewis, D.G., ficer Ystradyfod- wg, ac eraill. Y mae hanes desgrifiadol o'r gladdedigaeth wedi cyraedd y swyddfa. Caiff ei gyhoeddi yn y rhifyn nesaf.
DAMWAIN ANGEUOL YN NGLOFA…
DAMWAIN ANGEUOL YN NGLOFA DINAS. Prydnawn dydd Sadwrn, collodd dau o weithwyr eu bywydau yn nglofa'r Dinas. Fel yr oedd William Lewis, y Dinas, a William Hughes, Trealaw, yn dilyn eu gorchwyl fel cyweirwyr, cymer- odd cwymp le, gan gladdu y ddau. Bu- wyd yn agos i bum' awr cyn dyfod at gyrff y ddau ddyn anffodus, a phan y cyrhaeddwyd hwynt yr oeddynt ill dau yn farw. Yr oedd Lewis a Hughes yn briod, a gadawsant deuluoedd lliosog ar eu hoi i alaru am danynt. .0.
CYFARFOD AMDDIFFYNOL YN CLYDACH.
CYFARFOD AMDDIFFYNOL YN CLYDACH. DARLITH GAN MR. MASON. Mae Mr. Mason, un o areithwyr cyfiog- edig Cymdeithas Amddiffynol yr Eglwys, wedi bod yn anerch cyfarfodydd cy- hoeddus yn ddiweddar yn Abertawe a'r gymydogaeth. Talodd ymweliad a'r lie hwn nos Iau, yr wythnos ddiweddaf. Daeth nifer lied dda ynghyd i'r ysgoldy i wrando arno, llawer o ba rai oeddynt Ymneillduwyr. Dywedai amryw o'r rhai hyn eu bod wedi cael eu boddloni yn fawr yn y ddarlith, a chyfaddefe'nt fod y siaradwr wedi agor eu llygaid i lawer o bethau na wyddent, neu, o leiaf, na chredent o'r blaen. Y cyfnod yr ym- driniodd Mr. Mason ag ef yma ydoedd o'r Goresgyniad Normanaidd hyd ddi- wedd y Diwygiad. Y mae hwn yn gyf- nod dyddorol iawn, ond un ydyw a gam- ddarlunir yn druenus gan yr ysgraglach hyny sydd yn llurgunio hanesiaeth ymhob modd i ateb eu dibenion maleisus eu hunain. Gwnaeth Mr. Mason waith byr (chwedl y Sais) o'r cri beunyddiol a godir yn erbyn yr Eglwys fel Eglwys yr estron." Nid yw fod esgobion anghyf- iaith wedi eu gwthio ar y genedl ddim yn gwneyd yr Eglwys yn estron. Nid yr esgobion na'r offeiriaid sydd yn cyf- an,soddi yr Eglwys ond y werin, ac os na lynodd y genedl i gyd wrth yr hen sef- ydliad, gadawyd iddi weddill pur helaeth, y rhai na phlygasant eu gliniau i ysbryd sism, ac sydd heddyw yn cyflym enill y crwydriaid yn ol i'r Eglwys fel canol- bwynt yr undeb hwnw sydd mor hanfod- ol i lwyddiant crefydd Mab Duw. Gosodai Mr. Mason bwys mawr, ac yn haeddianol felly, ar gatholigrwydd neu gyffredinolrwydd ein Heglwys. Ym- drecha i wneyd yn eglur y modd yr oedd yr Eglwys wedi ei sylfaeni, nid ar ddamcaniaethau a dychymygion ysmala rhyw blaid neillduol, ond ar y cynllun, trefniant, a'r egwyddorion hyny a osod- wyd i lawr gan ein Harglwydd, a rodd- wyd mewn gweithrediad gan yr apostolion, ac a ddadblygwyd yn mhellach gan y tadau Eglwysig a chan dduwiolion dysgedig pob oes a gwlad. Beth ddywed edmygwyr deillion Luther yn ngwyneb yr hanes a gawsant o'i gyfundraeth esgobyddol a'i ddefodaeth anghymodlawn ? Hefyd, carem wybod pa nifer oedd yn gwybod o'r blaen mai Luther a'i ganlynwyr yn unig sydd gan- ddynt hawl i'r enw Protestant ? Cawsant hwy yr enw ar gyfrif eu gwrthdystiad yn erbyn hawliau honedig y Pab. A pha beth ddywedwn ni am lawar yn y wlad hon sydd yn ystyried eu hunain yn Brotestaniaid am eu bod yn protestio yn erbyn cyfudraeth esgobyddol a defodaeth Eglwys Loegr ? Y fath MTth-ddywediad Gyda golwg ar y Diwygiad, dangosodd Mr. Mason, trwy hen ddeddfau, fod yr Eglwys yn bodoli fel sefydliad yn fiaen- orol i'r Diwygiad, a phrofodd ei hunan- iaeth yn a chwedi hyny. Nid creu eglwys wnaeth Harri VIII., ond diogelu yr Eg- lwys rhag ymyraeth y Pab pan yr oedd yn diwygio ei hun. Rhoddodd eglurhad ar ormes a gorthrwm y Babaeth, a dangos- odd na ddarfu i'r Eglwys erioed ym- ostwng i dra-arglwyddiaeth Rhufain, er iddi ddioddef llawer trwy wendid ambell i Frenin neu Esgob. Gwahoddwyd pawb a garent, i ofyn cwestiynau ar ddi- wedd y ddarlith, ond ni chododd neb i fyny.-Clyd,ait-g.
CYMDEITHAS AMAETHYDDOL GELLIGAER.
CYMDEITHAS AMAETHYDDOL GELLIGAER. Dydd Llun, y 3ydd cyfisol, ydoedd y diwrnod y bwriedid i'r ymdrechfa aredig gymeryd lie, ond yr oedd yr ia wedi bod yn teyrnasu am ychydig ddyddian, gau galedu y ddaear, fel y bu raid gohirio yr ymdrechfa hyd y 7fed. Yr oedd yr hin wedi cyfnewid erbyn hyn, a chymerodd yr ymdrechfa le yn ngwydd lliaws o am- (aethwyr. Cymerwyd dyddordeb neill- duol yn yr ymdrechfa rhwng y cystadleu- wyr yn y dosbarth agored i'r byd. Caf- odd y beirniaid, sef Mri. Francis, New- bridge, ac Emerson, Caerdydd, orchwyl caled i benderfynu rhwng y ddau gamp- wr-C. Vaughan, a D. Jones, Llaneurwg. Penderfynwyd bod Vaughan i gael y wobr gyntaf, a Jones, yr hwn (oedd yn agos iawn o ran teilyngdod, i dderbyn yr ail wobr. 0 dan nawxld yr un gym deit li- as cymerodd cystadleuaeth mewn pedoli ceffylau, cloddio, plygu perthi, a u sefyll coed le ar y Llun blaenorol. Yr oedd y trefniadau yn bobpeth ag a ellid ddy- muno. Bu y pwyllgor yn ffodus iawn yn eu dewisiad o gae rhagorol i'r aradrwyr i gystadlu ynddo, gan ei fod yn un helaeth a gwastad. Y mae teyrnged o ddiolch yn ddyledus i Mr. Lewis, Llwyngoleu, i'r hwn y perthynai y maes, ac i Mr. John Jones (ieu.), Hengoed, ysgrifenydd y Gymdeithas, am eu sirioldeb i'r ymwel- wyr.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. GWRECSAM, DYDD IAU.—Gwenith, 4s 6c i 4s 9c am 75 pwys haidd, 4s oc i 5s gc ceirch, 2S 10c i 3s ice ymenyn, is 3c i is 5c am 16 wns; wyau, 12 i 14 am swllt ieir, 3s 6c i 5s y cwpl hwyaid, 4s oc i 5s oc y cwpl; pytatws. is gc am 120 pwys. WYDDGRUG, DYDD MERCHER. — Gwenith melyn, 195 oc i 10s 6c yr hobed haidd, 9s oc i 9s 6c yr hobed ceirch, 5s oc i 5s 6c yr hobed pytatws, 4s oc i 4s 6c yr hobed ymenyn, is 4c i is 5e y pwys wyau, 14 am is. ELLESMERE, DVúD MAWRTTI. Gwenith gwyn, 4s 7c i 45 8e am 75 pwys melyn, 4s 6c i 4s 7c am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc; ceirch, ss 6c i 3s oc wyau, 12 i 13 am is ymenyn, is 4c i is 5C am 16 wns ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl. RHUTHYN, DYDD MAWRTH.—Ieir, 4s 6c i 5s oc y cwpl ymenyn, is 6c y pwys wyau, 12 am swllt. DREFNEWYDD, DYDD MAWRTH.— Gwenith, 13 6c i 15s am 240 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc am 70 pwys ceirch, 14s 6c i 165 oc am 220 pwys wyau, 16 jam is ymenyn, is ii-c i is 2e y pwys 2 2 ieir, 4s 6c 1 5s 6c y cwpl; hwyaid, 55 6c i 6s 6c y cwpl; pytatws, 18 pwys am is. CREWE, DYDD LLUN.-Cig eidion, 6"c 2 i 7ic y pwys cig moch, 8s 6c am 20 pwys heffrod, ^15 i ^,24 yr un cig myharen, 9C i I ol-c y pwys. 2 LERPWL, DYDD LLUN.—Cig eidion goreu, 7c y pwys ail oreu, 6c trydydd, 5c y pwys cig myharen goreu, gjc ail, 8c. trydydd, 6c y pwys. 2 TRALLWM, DYDD LLUN.—Gwenith, 4s 6c i 4s 9c am 75 pwys ceirch, 14s oc i 155 6c wyau, 00 i 14 am IS. ymenyn, is ic i is 2C am 16 wns ieir, 4s oc i 5s oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 6s oc y cwpl pytatws, 18 pwys am is. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER. -Gwenith gwy n, 4s IOC i 5s 2c am 75 pwys melyn, 4s 4c i 4s 8c am 75 pwys haidd, 4s 9c i 5s 4c am 70 pwys; haidd at falu 4s i 4s 3c am 70 pwys ceirch, 155 i 17s am 225 pwys ymenyn, is ic i is 2C y pwys wyau, 14 am swllt; cig eidion, 6c i 7c y pwys cig myharen, 8c i 9be y pwys cig Ilo, 8c i gc y pwys pore, 5c i sic y pwys.
CYNRYCHIOLAETH SIR FON.
CYNRYCHIOLAETH SIR FON. Ymddengys fod Ceidwadwyr ac Undeb- wyr Ynys Mon yn benderfynol o wrth- wynebu dychweliad yr aelod presenol dros y sir, Mr. T. Palestine Lewis, ac y maent wedi dewis Mr. J. Rice Roberts, Tanygraig, Beaumaris, fel ymgeisydd. Mae Mr. Roberts yn aelod o Gyngor Sirol Mon, ac yn ysgrifenydd trefol Beaumaris.