Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
™ SDL Y_BL0DAtI.
™ SDL Y_BL0DAtI. ymwelodd ugeiniau o fiioedd et flori? ^i18? fwy&f 0 gladdfeydd Deheudir th,,6l^ion er 5lodau ar feddau eu perthynasau a'u 'YrAdtywydd ymhell o fod yn ddy- mfw?8 aerdydd- yn neillduol, yr oedd yr ac ymdd°v m^nt bri ag unrhyw Awyddyn tocl y aewyddion n°f Pja^das i'r achlyaur. neilldunl Graili yn <3angoa hefyd ^yMawi^Xy. d gymer»vcl 1 ftddtt»°
IADGOFION CYFEKEDINOL.i
I ADGOFION CYFEKEDINOL. [GAN GWARFFSWD.] Oddiar pan yr ydwyf wedi dechreu ysgrifenu 0 fy nodiadau adgofawl yn Y LLAN y mae digwydd- iadau fyrdd, oeddynt wedi myned i golli genyf, wedi, ac yn parhau i ffrydio yn ol i'm cof, fel nas gallaf lai na chofnodi rhai o honynt, o'r hyn lleiaf wrth fyned yn fy mlaen. Yr oedd fy nhad a'm tirion fam yn hynod gyfeillgar a phawb, yn neillduol gyda theuluoedd mwyaf parchus y gymydogaeth. Am hyny nid oedd ond ychydig yn mwynhau cymaint o gyfrinach eu cyfoedion a hwy. Yr oedd fy nhad yn adnabyddus ymhell ac agos am ei allu swynol i adrodd chwedlau difyrus a dyddorol, yr hyn a'i gwnai ef yn ymwelydd dérbyùiolar hirnos gauaf ymhob teulu yn y cwmwd yr oeddynt yn byw ynddo. Bu hefyd am flynyddoedd lawer yn ysgrifenydd mygedol i Gyrudeithas Gyfeillgar a fodolai yn y gymydog- aeth, cyfarfodydd pa un oeddynt yn cael eu cynal mewn amaethdy o'r enw Penylan, ac i ba un y perthynai y rhan liosocaf o wyr a gwei&ion yr ardal. Ond fel mae gwaethaf y modd mae y gymdeithas ddyngarol a llwyddianus hono, yr hon fu yn gynorthwy mawr i laweroedd yn eu cystudd a'u hadfyd, wedi cael ei dirwyn i fyny er's llawer blwyddyn bellach. -Gwnaeth yr ael- odau mwyaf diwerth, dibrofiad, diddysg, ae ym. yrgar, tebyg i'r dyhirod ydynt yn y dyddiau hyn yn clochdarddain am ysbeilio yr Eglwys, godi cynwrf yn nghyfarfodydd y gymdeithas o blaid rhanu y drysorfa, yr hon oedd yn bur gyfoethog, rhwng yr aelodau, ac ni roddasant gwsg i'w hamrantau nes oeddynt wedi cwblhau eu hanfad. waith dinystriol. Nid wyf yn credu i'r gymyd. ogaeth gael sefydliad o'r fath byth wedi hyny. Y mae cynhyrfwyr haerllug ac ymyrgar bob amser i'w cael, y rhaid ydynt yn barod i ymosod ar bob sefydliad daionus mewn byd ac eglwys. Mae yn ymddangos fod yr elfen ddinystriol yn gryfach yn ein natur, trwy ei llygredd moesol, na'r un adeiladol. Nid yw yn angenrheidiol bod yn feddianol ar ond ychydig iawn o nerth meddwl a deall er galluogi un i ddinystrio a thynu i lawr yr adeiladau mwyaf gorwych a godidog-mae nerth o'r un natur ag eiddo yr asyn yn ddigon i ddryllio y pethau mwyaf cywrain a gwerthfawr. Ond mae yn ofynol cael dyfais gelfyddgar, darfel- ydd miniog, aragyffred craffus, a medrusrwydd cywrain i adeiladu a diogelu y pethau mwyaf distadl. Ni ddylai neb, gan hyny, fod yn awyddus i ddangos a dadblygu tuedd ddinystriol ei natur, oherwydd mae y dueddfryd hono yn arwydd diymwad o'r meddwl mwyaf isel ac anifeilaidd. Ond addewais yn fy llith ddiweddaf roddi gair yn mhellach am y diweddar Barch. John Edwards, ficer Rhosymedre; a rhaid i mi gadw fy addewid. Ymadawodd a'r gymydogaeth cyn fy mod i wedi cyraedd oedran i'w gofio yn bersonol, ond clywais lawer am dano gan fy rhieni, o bryd i bryd. Yr oedd y mwyaf gwisgi a chyflymdroed yn boll Brifathrofa Bhydychain yn ei ddydd, lie y mae yn gyffredin dros ddwy fil o fyfyrwyr. Pan yr cedd gartref yn ystod un o wyliau yr haf gofynocld ei dad iddo fyned a pheth i'w yfed i'r medelwyr ar y maes; a chlywais fy nhad yn dweyd iddo ei weled a cbostrel alwyn ymhob llaw yn neidio dros lidiard y buarth heb gyffwrcld ag ef a Haw na throed. Yr oedd y dywediad yn rhugl yn y gym- ydogaeth. pan oeddwn yn fachgenyn, i'w dad, ar ei ddyfodiad adref o Rydychain un tro, ei rybuddio i beidio myned i'r un maes a'r gwartheg, oher- wydd bod tuedd yn y tarw i fod yn angharedig i ddieithriaid. Ond John wedi dyfod o hyd i ffon onen wydn a sycb, a aeth allan i'r maes, ac a roddodd her i'r tarw, yr hwn a'i cymerodd ar un. waith. Ond gyda'i fod yn dyfod yn ddigon agos ato, tarawodd John ei ddwylaw ar ei gyrn, a neid- iodd yn grwn dros ei ben, fel y bydd y plant yn chwareu broga, gan droi yn chwim o amgyleh a gosod y ffon onen yn rymns ar ei galon. Gwnaeth hyn drachefn a thrachefn ac yn y diwedd, y tarw, wedi cael ei faeddu a'i labyddio yn lew yn y modd hwn, a roddodd i fyny yr ymdrech, ac a redodd ymaith am ei fywlyd. Dywedir na theimlodd y tarw hwn ar ei galon i ymosod ar neb byth wedi hyny, a bod gweled John, bellder mawr oddiwrtho, yn ddigon bob amser i beri iddo roddi ei draed yn y tir. Yn y tymor y cyfeinaf ato, Did oedd y bobl yn gyffredin yn credu yn Ysbrydoliaeth y Beibl yr un mymryn yn fwy pandertynol a thrwyadl nac oedd eu crediniaeth yn ysbrydoliaeth Almanac Francis Moore, yr hwn oedd yn cael ei ddarllen ganddynt yn fwy na'r un llyfr arall yn yr iaith, yn nesaf at y Beibl. Osd tua'r amser hyny daeth tywydd- wydrau yn bethau cyffredin iawn ymhlith boll amaethwyr y gymydogaeth a rhag bod yn wa- hanol i bobl eraill, prynedd William o'r Pentre un o honynt, er nad oedd ganddo ef fawr o ymddir- ieclaeth ynddynt. Clywais ef unwaith yn datgan ei farn am danynt yn yr iaith gref a ganlyn :— Yn wir, nid oes genyf fi ddim ffydd mewn peth- au newyddion, ac nid wyf yn credu dim yn y weather-glasses yna y mae rhai dynion yn meddwl cymaint am danynt yn y dyddiau hyn. Yr oedd gwell tywydd o'r haner gan lyfrau bach" Francis Moore nag sydd gan weather-glasses y dyddiau presenol. Yn ol fy marn gydwybodol i, y pethau ffolaf a ddygwyd i'r wlad hon erioed yw y weather-glasses nid ydym wedi cael dim ond tywydd cyfattal byth oddiar pan y maent wedi dyfod i'n cymydogaeth ni; ac oni bai fy mod wedi rhoddi cymaint o arian am dano, taflaswn yr un sydd genyf fi i ben y domen y fynyd hon. Nid ydwyf fi yn ymgynghori ag ef byth yn awr ynghylch y tywydd-yr wyf fi wedi myned yn ol at y LLYFR. BACH a byth oddiar hyny yr wyf wedi sylwi fod y tywydd wedi gwella yn raddol." Y mae rhai yn y gymydogaeth yn awr, hwyrach, yn cofio am yr hyn a ganlyn yn cael ei adrodd am dano ef a'i weather-glass. Un flwyddyn íyr oedd wedi bod yn dymor gwlyb ac afiwyddisnus iawn ar y gwair, ac; yr oedd gwair William wedi bod ar lawr am ddiwroodau lawer. Ond o'r di- wedd agorodd boreu hyfryd a thesogf, ac yn gym- aint a bod mynegfys y tveathcr glass a'i dueddfryd tuag i fyny, gwasgarodd yr hen wr y gwair i'r gwres, Ond, ysywaeth, tua haner y dydd daeth yn ddisymwth gwlaw mor drwm nes cael eu gorfodi i adael y cwbl ar unwaith. Dychwelodd William i'r ty yn drwm ei galon ac yn ddrwg ei hwyl; ac aeth yn y fan at y weather-glass, yr hwn, i'w tawr syndod, oedd a'i fynegfys o hyd yn tueddu tuag i fyny. Aeth allan drachefa i sicrhau ei bun ei bod hi yn parhau i wlawio, a chafodd mai gwaethygu yr oedd hi yno. Yna daeth yn ei ol ar ffrwst, ac mewn nwydau ofnadwy, a chipiodd y weather-glass oddiar y mur, gan redeg ag ef allan, a'i deal dan y gwlaw, a chrochlefain uwch ei ben, A gredu di yn awr ei bod hi yn gwlawio? A gredi di yn awr ei bod hi yn gwlawio ? A gredi di yn awr ei bod hi yn gwlawio ?" Ac oni buasai i Thomas, ei fab, ddyfod a'i gipio o'i law, nid oea yr un ddadl nad pen y domen fuasai ei le ef y tro hwn.
PRIODAS MISS MARY DAVIES.
PRIODAS MISS MARY DAVIES. Dydd lau diweddaf yn nghapel Cynulleidfaol Tolmer's Square, Hampstead Road, Llundain, cymerodd priodas y gantores Gymreig enwog a pboblogaidd Miss Mary Davies le gyda Mr. W. Cadwaladr Davies, cofrestrydd Coleg y Brifysgol, Bangor. Er nad oedd y tywydd yn ffafriol iawn eto daeth cynulliad lliosog o gyfeillion ac edrych- wyr i'r capel, yr hwn oedd wedi ei lanw ymhell cyn adeg benodedig y eeremoni. Yr oedd lliaws yn gorfod aros o'r tuallan, gan nad oedd lie iddynt yn yr adeilad. Ymblith y rhai oedd yn bresenol yr oedd Mr. J. Bryn Roberts, A.S., Mr. Thomas E. Ellis, A.S., Mr. Thomas Lewis, A.S., Mrs. Agabeg (Madame Edith Wynne), Mrs. Rose (Miss. Clara Samuel), Mrs. Mackinlay (Madame Antoin- ette Sterling), Signor Randegger, Mrs. Bryant, D.Sc., Mr. a Mrs. James Sauvage, Capt. Verney, Mr. a Mrs. Edward Lloyd, Dr. Isambard Owen, Mr. a Mrs. Spencer Curwen, Madame Patey, Miss Eleanor Rees, &c. Safai Mr. Glynne Jones, cyf- reithiwr, Bangor, fel gwas," a Miss Gwen Davies, a Miss Dilys Davies (chwiorydd y briod- ferch) fel morwynion. Gwasanaethwyd gan y Parch. David Charles Davies, M.A., Bangor, fyr hwn, i ddechreu, a adroddodd Weddi yr Arglwydd, ac yna rhoddodd allan yr hen hymn Gymreig, A drigo'n ngbymdeithas y Tad," yr hon a gan- wyd ar y don Salome." Wedi hyny darllenodd gyfran o'r Testament Newydd, ac aeth drwy y wers briodasol yn Gymraeg. Yna canwyd pedwarawd, "Ysbryd yw Duw," gan Miss Mary Owen, Miss Marian Price, Mr. Hirwen Jones, & Mr. Dan Price. Dar- llenwyd cyfran arall o'r Ysgrythyrau, canwyd emyn Seisnig, a thraddodwyd y fendith, ae yna terfynwvd seremoni nodedig o ddyddorol. Trayr oedd Mr. a Mrs. Davies yn myned allan o'r capel chwareuwyd "Ymdaith Briodasol" Men- delssohn ar yr organ. Yn y prydnawn ymddaw- odd y par priodasol i dreulio eu mis mel yn Rhufain. Deallwn fod Madame Mary Davies yn bwriadu parhau i foddhau y cyhoedd gydali chaneuon meiusber, ac nad ydyw, fel y taenwyd yr adroddiad yn ddiweddar, yn golygu ymneill- ddo oddiar y llwyfan.
SUatofr uulun
SUatofr uulun —^Llosgwyd, ar yr 22ain o Fawrtb, ddwy fil a phum' cant o dai yn Myingyau, Burmab., Gwaboddir Mr. John Albert Bright gan Undeb- wyr Rhyddfrydol a Oheidwadwyr yr etholaeth i ddyfod allan fel ymgeisydd dros Rochdale yn yr etboliad nesaf. Mab Mr. John Bright ydyw y bon- eddwr. Aeth Mr. W. O'Brien, A.S., o Lundain i'r Iwsrddon ddydd Sadwrn, er mwyn bod yn bresenol raewn oyfarfod politicaidd y Sul canlynol ger Youghal. Nid oss bysbysrwydd a ddarfu iddo fyned S, rhai o'r aelodan Gymreig gydag ef i dori'r Sabbath ai psiclio. Cymerodd ffrwydrad ofnadwy a dinystriol le yn y melinau pylor yn Fernilee, ger Buxton, ddydd Gwener. Anafwyd dwy chwaer o'r enw Martha a Maria Turner, a chrefitwr o'r enw John Whitfield yn dost, a bu raid eu trosgiwyddo i glafdy StockDort, Chwythwyd y ty yn deilchion man. Prydnawn ddydd Gwener, tra yr ydoedd llytbyr-gludvdd yn myned trwy gaeau gerllaw Exeter, canfyddodd ddyn ieuancyngorweddarlawr. Aeth ato, a gofynodd iddo beth ydoedd y mater arao, pan yr atebodd ei fod wedi cymeryd oxalic acict. Anfonoad y llythyr-gludydd am gynorthwy y I yn ddioed, ond cyn i'r meddyg gyraedd yr ydoedd y trna-n wedi marw. Yr ydoedd y trancedig wedi ei droi allan o'r fyddin yn ddiweddar, yr hyn a achos- odd iddo wangaloni, a bernir mai hyny ydoedd yr achos iddo gyflawni y fath weithred erchyll. Diangodd dyn o'r enw Sarns o Paris yn ddi- weddar dan amgylcbiadau rbyfedd. Ychydig fis- oedd yn 01, 8efydlodd swyddfa i'r hon y gallai dynion I a mercbed aiifon caisiadau i briodi, a chymerodd amryw glercod i'w wasanaetb. Yn eu ffolineb, tal- odd riifar o bersonau symiau mawrion er mwyn Biorhau cydmar bywyd, ond ar ol diogelu yr arian, ffodd y twyllwr ymaith, a phan aethpwyd i archwilio ei swyddfa ni chafwyd ond nifer o ddarluniau merched a dynion, a llythyrau. Mas ymchwiliad manwl yn cael ei wneyd am dano.
IETHOLIAD GOWER, SIR FORGANWG.
ETHOLIAD GOWER, SIR FORGANWG. Fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf, cymerodd yr etholiad hon le ddydd Mawrth, ond nid ydym yn gwybod y caalyniad. Dechreuwyd cyfrif am ddeg o'r gloch boreu heddyw (Mercher), a disgwylir cyhoeddi y canlyniad am un o'r gloch. Yr ymgeiswyr ydynt Mr. J. T. D. Llewellyn, Peniiergaer, a Mr. D. Randell, cyfreithiwr. Ceir y can- lyniad yn ein rhifyn nesaf.
MARWOLAETH MR. E. DWYER GRAY,…
MARWOLAETH MR. E. DWYER GRAY, A.S, NosFawrth, bu farw Mr. E. Dwyer Gray, A.S., un o'r aelodau seneddol dros Dublin, yn ei breswylfod, Pembroke House, Dublin. Efe ydoedd cyfarwyddwr penaf y Freeman's Journal. Yr ydoedd yn 43 mlwydd oed, ac ni bu yn glaf ond am ychydig ddyddiau.
YSTORMYDD MA WRION YN AMERICA.
YSTORMYDD MA WRION YN AMERICA. Hysbysir o New York fod haner tref Ninnescah, Kansas, wedi ei llwyr ddinystrio gan gorwynt ddydd Sadwrn diweddaf, pryd y collodd'amryw bersonau eu bywydau.
IECHYD YMERHAWDWR GERMANI.
IECHYD YMERHAWDWR GERMANI. Newyddion o Berlin a dderbyniwyd heddyw a hysbysant fod yr Ymerhawdwr Frederic o Germani yn gwella yn rhagorol. 0
OWESTIWN Y DEGrWM YN I NGHYMRU.
OWESTIWN Y DEGrWM YN NGHYMRU. CLERIGWR 0 ARFON A THRETH Y TLODION. Yn Llys Ynadol Caernarfon ddydd Sadwrn, o flaen y Cadben Wynn Griffith, ac ynadon eraill, gwysiwyd y Parch. D. Bankes Price, rheitjhor Llandwrog, am wrthod taln £63 13j. o dreth y tlodion ar y degymau y mae efe yn eu meddu.— Erlynid ar ran yr overseers gan Mr. J. T. Roberts, ae amddiffynid gan Mr. H. Vincent, yr hwn a ddywedodd ar y dechreu fod y gwr parchedig yn foddlon i dalu SWill y dreth ar hyny o ddegwm ag a oedd wedi ei dderbyn ganddo ef. Wedi dadleu o bob ochr, gwrthododd y Fainc wneyd archeb ar y wys. Gofynodd Mr. Roberts am ganiatad i apelio i lys uwcb, yr hyn a roddwyd gan y Fainc.
IMDRECHFA KHWYFO COLEGAU RHYDYCHAIN…
IMDRECHFA KHWYFO COLEGAU RHYDYCHAIN A CflAERGRAVVNT. Dydd Sadwrn, cymerodd ymdrechfa rhwyfo flynyddol le rhwng myfyrwyr colegau Rhydychain a Chaergrawnt, pryd yr enillwyd gan yr olaf. Blwyddyn. Enillydd. Amser. -_J- '1. E. 1829. Rhydychain 14 30 1836 Caergrawnt 36 0 183 9 Caergrawnt 3i 0 1840. Caergrawnt. 29 30 184-1 Caergrawnt. 32 30 1842. Rhydychain 30 45 1845. Caergrawnt. 23 30 1846. Caergrawnt. 21 5 1847. Caergrawnt. 22 0 1849. Rhydychain foul 1852. Rhydychain 21 36 1854. Rhydychain 25 29 185 6 Caergrawnt 25 50 185 7 Rhydychain 22 55 185 8 Caergrawnt 21 23 185 9 Rhydychain 24 30 186 0 Caergrawnt. 23 5 186 0 Caergrawnt. j 26 5 186 1 Rhydychain 23 28 186 2 Rhydychain 24 41 186 3 Rhydychain 23 6 186 4 Rhydychain 22 15 186 5 Rhydychain 21 24 186 6 Rhydychain 25 48 186 7 Rhydychain 22 30 186 8 Rhydychain 20 37 186 9 Rhydychain 20 6^ 187 0 Caergrawnt 21 32 187 1 Caergrawnt 23 9^ 187 2 Caergrawnt 21 14 187 3 Caergrawnt 19 38 187 4 Caergrawnt 22 35 187 5 Rhydychain 22 2 187 6 Caergrawnt 20 19 1877. Dead heat i 24 6 1878. Rhydychain 22 15 187 9 Caergrawnt 21 18 188 0 Rhydychain 21 23 188 1 Rhydychain 21 49 188 2 Rhydychain 20 12 188 3 Rhydychain 21 18 1884. Caergrawnt. 21 39 188 5 Rhydychain 21 40 188 6 Caerg:rawnt 22 29^ 1^87 Caergrawnt 20 52 1888 j Caergrawnt 20 48
Advertising
D AN I EL QWEN AND W (LIMITED), GENERAL AND FANCY STATIONERS, I IV liSTEItN MAIL BUILDINGS, ST. MARY STREET, CARDIFF.
- YR EGLWYS AC YMNEILLDUAETH…
0 ddifrif dywedaf y mae iddi waith mawr i ymlid i ffwrdd y rhagfarn sydd yn meddyliau llawer o bobl grefyddol parthed ei hysbrydolrwydd a'i chrefyddolder. Pertbyna'r gwaith hwn i'r offeiriaid yn fwyaf neillduol. Iddynt hwy y mae profi i'r byd en bod yn caru achos y Gwaredwr, a bod eu heneidiau ar dan gan zel dros sancteidd- rwydd a rhinwedd. Un o'r arwyddion mwyaf cysurus yn y dyddiau hyn ydyw yr ymdrech sydd ytnhlith offeiriaid yr Eglwys i ddenu dynion o'u a pecbodau, Ar y cyfan credaf fod mwy o gyd- Wybodolrwydd i'w weled yn ngwaith offeiriaid, y dyddiau presenol, nag yn ngwaith gweinidogion Ymneillduol. Ond eto y mae lie." Ac yn ddi- 4dadl fel y eyflawnweh y gwaith hwn y'ch bernir eYn pasio condemniad. Os eich ceir yn ffydd- lawn yr y gwaith o ledaenu egwyddorion crefydd, an anghofio pobpeth arall, nid yn rhwydd y goddefir i unrhyw elyn eich hysbeilio. Gellir bod Yn sicr mai dyma faes y frwydr olaf rhyngoch geiynion. Os bydd yr Eglwys a'i throed yn gadarn ar sancteiddrwydd, ni syflir hi; eithr 06web weled y genedl yn sefyll fel un gwr o'ch Plaid, ac i'w calon eu hunain yr a y saethau a Syfeiria eich gelynion tuag atoch. Llawer iawn 9 zel dros y gwirioaedd fel na fyddj i ddim arall fyn'd a'ch bryd. Os hyn fydd eich rhan, bydd i chwi csgoi llawer o'r peryglon hyny sydd yn bygwth yr Eglwys. Ni fydd bywyd o wasanaeth 1 r Arglwydd yn gadael i chwi ddim amser i drin Pfegethwyr Ymneillduol ac i chwareu a, phynciau POliticaidd. Ac unwaith yr ewch allan o'r frwydr ceW-eh weled yn fuan y bydd eich gelynion yn blino ymladd &'i gwynt. Tra y byddwch chwi Yll ymladd y gelyn a chwi; ewch yn y blaen gan 98,la gyflawni eich dyledswydd yn onest gerbron Ðuw fe ddiflana eich gelynion, neu ynte troant i 4dinystrio y naill y Hall. Pe byddai yr offeiriaid ymdeimlo yn wirioneddol a'u dyledswydd, yn a*ostwng pob talent, yn cysegru pob dawn, yn pob moment i wasanaeth yr Arglwydd, aarfyddai pob rhwystr, diflanai pob gelyn. Eled y byd a'i helyntion y ffordd yr elo, nid S^ajth gweision yr Arglwydd ydyw ei ddiiyn, ond Yl11.hob troion cenedlaethol bydded iddynt aros i aiQddiffyn a phregethu yr efengyl. Ond nid posibl Ydyw pregethu yn ddylanwadol ar y Sabbath wedi "0|J yn y berw a'r ffwdan drwy yr wythnos fe fydd rswn y byd yn eich geiriau yn byddaru eich gWrandawyr, ac yn eu caledu i'r gwirioneddau. lqi ellwch wasanaethu Duw a mammon." eidiweh a myn'd a dim i'r Eglwys fydd yn peri 1 Jeddyliau y gynulleidfa droi ymaith oddiwrth eich dysgeidiaeth. Dywedir gan lawer, fodd bynag, nad gwiw fedr ^r^ 1 dlWygiad 5"n y cyfeiriad hwn. Na ma" f ^.Wysv7ared ei hunan o'i ehyflwr, ac fodd ° 01 am offeiriadaeth bur." Pa 0Jr ■ ? y gellir sicrhau dynion duwiol yn :'v eiria^ tfa y mae rhodd y bywoliaethau fel y •aaent yn bresenol ? Oblegid yn awr yr unig beth b °/Q^r y fachedd yn rliydd oddiwrth ^Qc lodau adnabyddus a chyhoeddus. Yn y sefyllfa ar bethau, apwyntir dynion i fywoliaeth- fel annilw*0^0n~e'D badwaenir hwy yn ami y cyfryW—na ofalant am Dduw ac na pharch- kllt ddvn. Ai priodol, mccidir, fod gofal gwaith f Arglwydd yn gorphwys, yn y diwedd, ar ddar- Saethau ei elynion a'i Jddirmygwyr ? Y mae o le i ofni nad ydyw y fath ddynion yn ^■P^wl dim am gymhwysder i'r swydd o weini- i'r Arglwydd. Ni ymofvnant am sane- ■I «rwydd, ond yn unig ymdrechant ddarostwng Duw i ateb eu dibemon eu lxunain, ac y ^ehubiaeth pechadnriaid wedi eu haberthu ja0 weithiau cyn hyn er darparu bywol. 1 8yfai11 y rljoddwr. Syniad uchaf y fath fltt f ydyw, A oes i mi fyhungyfaill newyn- gallaf ei borthi ?" Ni feddwl y gwr urdd- fod yn rhoddi y bara a dderfydd i'w gyfaill ar draul dwyn oddiar lawer y cyfleusdra si0r ^yn y bara a bery i fywyd tragwyddol. Yn a farx gwan y dyIia 9i sryfhau- Pa 9f°d 5ynion annuwioi i^or alluog yn nhy by™S fyMo yn ol, dylai yr Eglwys uwch- Weled f°d ei gweinid°gion y» bur, fod ei %sb 6ri^ yn sanctai(3c^ a bod si chrefyddolder yn 1- baWb* Peidied a°ghofio, meddaf eto, 6 ^>vlfrif01 ArSlwydd Selborne, Be spiritual, HHfe, ltUal, BE SPIRITUAL."