Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
CLADDEDIGAETH YR YMERAWDWR…
CLADDEDIGAETH YR YMERAWDWR WILLIAM. Claddwyd gweddillion y diweddar Ymerawdwr William, yn nghanol rhwysg a mawredd, ddydd GWener yn y Mausoleum, yn Charlothenburg. Cynhaliwyd gwasanaeth rhagbarotoawl yn yr Gadeiriol yn Berlin, lie yr oedd wedi ymgasglu nifer mawr o bersonau brenhinol, pen- defigion, a swyddogion y Wladwriaeth. Oherwydd §erwinder yr hin nid oedd yr Ymerawdwr Frederick yn bresenol, nac ychwaith Tywysog Bismarck, na Count Yon Moltke. Yr oedd yr olYgfa orymdeithiol yn hynod darawiadol, ac yr Oedd miloedd ar filoedd a bob] wedi ymgasglu i ^eled yr angladd. Cynhaliwyd gwasanaeth ynglyn amgylchiad yn y capel preifat, WindBor, lle yr oedd y Frenhines a'r teulu brenhinol wedi ylzgabglu, ac yn yr Eglwys Brotestanaidd yn lenna, a Ilooedd eraill.
IECRYD YMERAWDWR GERMANI.
IECRYD YMERAWDWR GERMANI. Ilyabysid yn Berlin ros Fercher, ar sail dda, a tbeimlodd yr Ymerawdwr Frederick III. ei leehyd yn well ar ol yr operation diweddaf a "naed ar ei wddf nag yn awr, ac y maegobeithion eryf yn cael eu coleddu y bydd iddo wella. Bodela teimladau cryf yn erbyn Syr Morel Mckenzie mewn rhai parthau o'r Ymerodraeth, a dywedir fod ei fywyd mewn perygl, gymaint felly fel y mae yr Ymerawdwr wedi gorchymyn i OWyddogion ei wylio,.
!LL-OF-RUIIDLAETII YN DYDD.
LL-OF-RUIIDLAETII YN DYDD. I)Ydd DEDFRYD 0 DDIENYDDIAD. Weuer diweddaf, yn Mrawdlys sir For- ^yn5aaliwyd yn Nghaerdydd, gerbron y a filing 'eP^ens> cyhuddwyd Mary Ann ^ps'rt-q lWydd oed' 0 lof^ddio ei gwr, Wm. y sw ^autpn, Caerdydd. Ymddengys ftQSbytnnor fl,ai ^raig er's riiai blynyddauyn Yttluo â u ffilydd, a charcharwyd Mrs. Phillips amryw weithiau am ei chreulondeb tuag at ei gwr. Ar y 29ain o fis Rhagfyr diweddaf, daeth adref o'r carchar, lie yr ydoadd wedi ei charcharu am chwe' mis ar y cyhuddiad o ni- weidio ei gwr, a dywedodd wrth rai o'i cbydna- bod y byddai iddi ladd ei gwr. Ar y dydd cyntaf o Iona wr, aeth Mrs. Phillips at Dr. Buist, gan ddymuno arno ddyfod i'w thy yn Pembroke Road, gan fod ei gwr, meddai, wedi syrthio i lawr y grisiau. Aeth y meddyg yno yn ddioed, a chafodd fod yr hen wr draan wedi marw, ac yn y trengholiad a gynhaliwyd ar y corff tystiodd y meddyg ei fod o'r farn fod y trancedig wedi marw rai oriau cyn iddo ef gael ei alw. Cymer. wyd Mrs. Phillips i'r ddalfa ar amheuaeth o achosi ei farwolaeth, a bu yn y carchar hyd yr wythnos ddiweddaf, pan gymerodd ei phrawf le. Parhaodd y prawf drwy y dydd, ac wedi i nifer o dystion gael eu holi, cafwyd Mrs. Phillips yn euog, a ded- frydodd y barnwr iddi gael ei dienyddio, ond cymeradwywyd hi i drugaredd gan y rheithwyr ar gyfrif ei rhyw a'i hoedran. Datganai ei bod yn ddieuog, ac y mae deiseb ar ei rhan wedi ei barotoi i ddeisyfu yr Ysgrifenydd Cartrefol ar i'r ddedfryd beidio cael ei chario allan. Mae teimlad cyffredinol y dref yn gryf iawn yn erbyn Mrs. Phillips, ac os na thelir sylw i'r ddeiseb cymer y dienyddiad le ddydd Llun neu ddydd Mawrth y Pasg.
fmm———■————■ i3etoj)tiiJton…
mm———■————■ i3etoj)tiiJton Cgf&ttimol. PARTI PRIODASOL WEDI BODDI.-Mae galanas- tra mawr yn cael ei hysbysu o Meusatz, yn Hungary. Gwnaeth parti priodasol mewn 16 o gerbydau ymgais i groesi y Danube rewedig yn Slankamen, ond torodd yr ia, a boddodd yr holl barti. Digwyddodd hefyd i bleserfad yn cynwys 15 o bersonau ddadymchwelyd yn mhorthladd Ban, a boddodd yr oil. RHAGFYNEGU EI MARWOLAETH.—Dywed un o newyddiaduron Columbus, Ohio, hanesyn pur hynod am ferch ieuanc o'r enw Lizzie Long, yr hon a breswyliai mewn lie o'r enw Waverly:— Blwyddyn yn j1 syrthiodd i berlewyg a achos- wyd gan adfywiad crefyddol grymus. Ar ol dyfod ati ei hun dywedodd y byddai iddi farW flwyddyn i'r diwrnod hwnw. Fel y maeyn syndod dweyd, bu farw i'r diwrnod a'r awr a raghysbye- odd." DIGWYDDIAD ERCHYLL GER ABERTAWE.-Nos Fercher, tra yr oedd corff dyn ieuanc yn cael ei gludo mewn elorgerbyd i dy ei rieni yn Nghas- newydd, Sir Fynwy, gwylltiodd y ceffylau, ysgyt- iwyd yr elorgerbyd, a lluchiwyd yr arch allan. Gan nad oedd y cauad wedi ei sicrhau, aeth yn rhydd, a syrthiodd y corff allan i ganol y llaid er dirfawr frawychdod i'r edrychwyr. GWAITH ALCAN NEWYDD.—Mae gwaith alcan newydd wedi ei gofrestru dan y teitl, Cwmni Llafnau Alcan y Banwen, er cario gwaith alcan ymlaen yn Mrynamman, Sir Gaerfyrddin, ar raddfa eang. Hysbysir mai Mr. Griffiths, o Bontarddulais, fydd y goruchwyliwr. Mae y defnyddiau angenrheidiol er gwneyd sidings gan Gwmni Cledrffordd y Great Western wedi cyr- aedd, a chredir yn gyffredin y dechreuir ar y gweithrediadau yn fuan. MARWOLAETH GWRAIG YN BALA.—Fel yr hys. byswyd yn ein rhifyn diweddaf, cymerodd am. gylchiad gofidus le ddydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, yn Mhenrhosisa, ger Bala. Bu i ddwy gymydoges o'r enwau Elizabeth Evans ac Ann Jones gweryla. Tarawyd yr olaf gan y flaecaf gyda choes ysgub, a bu y ddynes anffodus farw yn y fan. Cymerwyd Elizabeth Evans i'r ddalfa ar unwaith. Yn y trengholiad dygwyd rheithfarn o ddynladdiad yn ei herbyn; ac ynllys yr ynadon traddodwyd hi i'r frawdlyB nesaf. MESUR LLYWODRAETH LEOL.—Yn y Senedd dydd LInn dygodd Mr. Ritchie y Mesur hwn ym- laen, ac eglurodd ei amcanion. Dywedodd nad oedd yn bwriada iddogyftwrdd a hawliau cyfreith- iol barnwyr sirol. Bydd i gyngor sirol ymdrin a thollau sirol, rhoddi trwyddebau i neaaddau cerddorol a dawnsfaol, a thrwyddedau i werthu diodydd meddwol. Rhaid fydd i'r siroedd yn y dyfodol ymgymeryd a chynhaliaeth y prif-ffyrdd. oy Arolygid yr heddgeidwaid gan bwyllgor sirol a' r hrm-x'tiyu chwartarol. Peoodiad prif gwnstabl- iaid i aros fel y mae yn awr. Byddai gan gyng- horau awdurdod i hyrwyddo ymfudiaeth. Y cynghorau sirol i gael eu hethol yn hollol yr un fath ag yr etholir aelodau seneddol. CARCHARU CASGLYDD TRETHI YN MON.-O flaen y Cadfridog Hughes, ac ynadon eraill, yn heddlys y Valley, Caergybi, Mawrth 12fed, gwnaeth Mr. E. G. Roberts gais ar ran Bwrdd y Llywodraeth Leol, am warrant i garcharu Evan Jones, gynt o Mynydd Mwyn, Gwredog, Rhosy. bol, a chyn-overseer y plwyf. Gwnaethpwyd achwyniad ar y 7fed o Fedi diweddaf, o flaen Mr. Lewis, Llewelyn Lodge, Bodedern, gan Mr. Edward Morgan, archwil/dd y Llywodraeth, nad oedd Evan Jones wedi talu y swm o zCl5 Is. 5ic. i drysorydd Undeb Mon, yr hwn swm, meddid, oedd ddyledus oddiwrth y carcharor fel overseer y plwyf am y flwyddyn yn diweddu y 25ain o Fawrth, 1887. Gwrthododd y carcharor dalu y swm, nac ychwaith unrhyw ran o hono, ar y 15fed o Fedi. Tynwyd allan warrant i atafaelu ar ei eiddo, ond nid oedd digon o eiddo i gyfarfod A'r go,Lyniad. Gan hyny, gofynH yn awr i'r ynadon fod i Evan Jones gael ei draddodi i garchar. Ymddangosai Mr. R. 0. Griffith ar ran y carcharor. Traddodwyd Evan Jones i ddau fis o garchariad heb lafur caled. CYFFRO MAm.-Cymerodd damwain le yn Wirral, sir Gaer, rai dyddiau yn ol, trwy yr hyn y boddodd pedwar o feibion George Day, ceidwad helwriaeth ynngwasanaethMr. Harmond Banner, Puddington Hall. Ymddengys ddarfod i dri o'r teulu, dau fachgen a geneth, fyned ar ol ciniaw i ysglefrio ar lyn bychan gerllaw y ty. Oddeutu haner awr wedi dau rhedodd yr eneth gartref, gan ddywedyd fod ei dau frawd yn boddi. Rhuthrodd ei brawd hynaf o'r ty, yn cael ei ddilyn gan un arall, tua chyfeiriad y llyn, a dilynwyd y ddau gan eu mam (gan fod y tad oddicartref), ac wedi cyrhaedd y lie cafodd fod ei phedwar mab yn y dwfr yn ceisio achub eu hunain. Gwnaeth ym- gais aflwyddianus gyda pholyn i'w hachub, ac oni bae am ddau blentyn arall a ymaflent yn ei dillad, buasai hithau wedi neidio i mewn atynt. Rhedodd ei geneth hynaf i dy cymydog o'r enw Shore, yr hwn oedd yn byw chwarter milldir oddiyno, i chwilio am gynorthwy. Daeth mab Shore a dyn arall yno yn uniongyrchol. Erbyn hyn yr oedd y bechgyn wedi suddo o'r golwg, ond gyda chynhorthwy rhaff, galluogwyd Pulford i gael gafael ar dri o'r cyrff yn uniongyrchol, a chafwyd corff y pedwerydd yn mhen oddeutu awr. Cymerodd yr ollie yn ngholwg y fam druan, yr hon sydd bron wedi llethu gan fraw a gofid. COLEG LLANYMDDYFRI.—Enillodd Mr. W Evans, bachgen 17eg oed, o Goleg Llanymddyfri. ddydd Sadwrn diweddaf, ar ol cystacUeuaeth agored, ysgoloriaeth mewn mathematics, gwerth X50 y flwyddyn, yn ngholog Clare, Caergrawnt. Dyma y bedwaredd waith mewn blwyddyn o amser i fecbgyn o'r ysgol uchod enill gwobrwyon yn y Prifysgolion. CROGI DYN DDWYW AITH.-Catodd dyn o'r enw Price ei lynsio yn Cairo, Illinois, am ryw drosedd neu gilydd. Ar ol cael ei dori i lawr daeth yn ymwybodol, a dechreuodd siarad a'r rhai oedd o'i amgyich. Anfonwyd hysbyBrwydd o'r peth i flaenoriaid y terfysgwyr, y rhai a ddychwelasant, a gorphenasant eu gwaith drwy grogi y dyn truan drachefn, ac er mwyn gwneyd gwaith perffaith a ehyflawn arno tynodd pedwar o ddyn. ion yn ei draed, a llwyddasant i dori ei wddf. CYHUDDIAD o DDYNLADDIAD YN ERBYN IACHAWD- WRIAETHWR.—Dydd Mercher, yn Leeds, gwranda- wyd achos Gaythorne Naylor, aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth. ar y cyhuddiad o achosi marw. olaeth ei ferch, saith mis oed. Bu "y drancedig yn glaf, a gwrthododd y carcharor, mwn-gloddiwr wrth ei alwedigaeth, alw am gynorthwy medd- ygol, gan ddweyd ei fod yn foddlawn i adael ei blentyn yn nwylaw ei Dad Nefol, gan ei fod yn rhwym o wrandaw ar gyngor Duw o flaen yr eiddo dyn. BODDIAD GALARUS YN Y PORTHLADD NEWYDD, CAERNARFON.—Nos Wener diweddaf, fel yr oedd Frank Fairlie, peirianydd yr agerlong Ja Ja," yn ceisio myned ar twrdd y llestr hono, cwymp- odd i'r m6r, a daethpwyd o hyd iw gorff ymhen awr a haner wodi y digwyddiad. Brodor o Glas- gow ydoedd, ond deallwn mai ei drigfod preseDol ydoedd 8, Maddrell Street, yn nghymydogaeth Athol Street, Lerpwl. Ei oedran ydoedd 52, ac yr oedd ganddo "raig ac amryw o blant. Bu yn ngwaaanaeth cwmni y 11 Ja Ja" am oddeutu pedwar mis ar ddeg, ond oherwydd rhyw resymau. neu gilydd bu raid iddo ymddiswyddo ar y dydd Iau cyn ei farwolaeth. DARGANFYDDIAD NEWYDD" YNGLYN A RWBEL CHWARELYDD LLECHI.-Peth amser yn ol llwydd. odd Mr. J. T. Welch i ddarganfod modd i wneyd defnydd o'r tomenau rwbel sydd yn anurddo llawer i ardal, trwy eu troi yn deils a brics o'r fath harddaf a mwyaf defnyddiol. Wedi rhoddi prawf teg ar y darganfyddiad, dechreuwyd ad- eiladu gweithiau mawrion yn ymyl y Felin Fawr, Bethesda, gan Arglwydd Penrhyn, yr hwn le a adnabyddir bellach wrth yr enw Ogwen Tile Works. Rhydd y lie hwn waith i ugeiniau o weithwyr pan y'i cychwynir yn fuan. Yn ddi- weddarach cawn fod Mr. Welch wedi gwneyd darganfyddiad pwysig arall, a'i fod wedi cael breinteb (patent) at wneyd gwydr ac amrywiol bethau eraill o'r rwbel hwn yr edrychid arno yn flaenorol fel peth diwerth. Deallwn y bu Mr. Welch i ffordd yn Lloegr yn ystod yr wythnos ddiweddaf yn edrych ar ol arbrawflon a wneid ar y darganfyddiad, ae hysbysir ni fod pobpeth wadi troi allan yn llwyddiunus. Arddangosir amryw bethau wedi eu gwneyd o'r defnydd hwn, megis a potelau, vases, shades, &o., mewn siopau yn Mangor a Bethesda. HENAINT TEG.—Ymddengys fod can'mlwydd- iaid yn myned ar gynydd, a pheth tra dyddorol fyddai gwybod yr achos o hyny. Mae y Proffeswr Humphrey, o Cambridge, wedi casglu adrodd- iadau gan bersonau oeddynt yn cydoesi a 66 o gan'mlwyddiaid ac yn y Nineteenth Century, y mae un Dr. Yeo wedi casglu y ffeithiau canlynol oddiwrth yr adpddiadau a nodwyd. Dywed fod 30 o'r can'mlwyddiaid yn fwytawyr cymedrol, 11 yn fwytawyr bach, a 12 yn fwytawyr mawr. Yr oedd gan 49 o honynt beirianau treuliol da, 17 gwejddol dda, ac 1 pur ddrwg a 34 o honynt ni wybuant beth ydoedd afiechyd yn ystod eu hoes Yr oedd 15 o honynt yn llwyrymwrthodwyr oddi- wrth bob math o ddiodydd maddwol, 22 o honynt yn oymeryd ond ychydig, a 10 swm cymedrol. Ond yr oedd yn eu mysg amryw eithnadau hynod. Yfai un hen filwr gwrw yn dra rhwydd, a'r un modd glowr a gams-keeper; tra yr oedd ffermwr o Limerick yn "hoff o ddiod, a ffermwr o Kerry yn H yfed fel pysgolyi-" Ymddengys oddiwrth y ffeithiau hyn mai cymadroldeb mewn bwyta ac yfed, ynghyd ft digon o ymarferiad yn yr awyr agored, ydynt y pethau goreu tuag at gyraedd henaint teg. Mae'n deilwng o sylw. hefyd fod agos yr oil o'r 66 a nodwyd yn mwyn- hau cwsg da, ac fel rheol yn codi yn foreu. Yr oedd 43 o'r nifer yn fenywod, 31 yn briod, a 12 ynddibriod; y gweddill yn gwn3yd 21 o wyr prions ac un hen lane,
: IECHYD Y PAB.
IECHYD Y PAB. Yraddengys nad yw y Pab o Rufain yn mwyn- hau iechyd cryf o gwbl, ac y mae ei oedran mawr SbaSd81 CryU anesmwythyd mewQ cylchoedd
YR TSTORM YN AMERICA.
YR TSTORM YN AMERICA. Dydd Llan ymwelwyd a. New York gan dym. estl arswydus o eira, yr hon a roddodd derfyn ol ar fesnach y ddinas. Bu raid cau y Gyf- Mae Uiaws yn ddioddef o eisiau bwyd atbân oherwydd yr anhawader i dramwy ar hyd Yr heolydd. Ba y tywydd mewn amryw ranau er4ill o'r Taleithiau Unedig yn nodedig o lym ac °et 5 cafodd lliaws o bersonau eu rhewi i farwol. aeth yn Pennsylvania. Dywedir fod y nifer hyd ?°8 Sadwrn yn cyraedd dau gant. Ar hyn o y mae tair mil o ddynion a mil o geffylau yn t"eithio &In holl egni er clirio yr eira mewn un 601 yn unig yn New York.
IFFRWYDRAD NWY YN OPORTO.
FFRWYDRAD NWY YN OPORTO. f. ^0s Fawrth digwyddodd tryohineb arswydus chwareudy yn Oporto, drwy ba un y coll- pedwar ugain o bersonau eu bywydau. Ym- 8 j^gys fod y chwareudy yn orlawn y noson dan c > aphan oedd y perfformiad bron a'i orphen gwe,?9dd ffrwydrad nwy le, yr hyn a greodd ° ^^isgrifiadwy ymhlith y gwyddfodolion. ac Ðd.anodd y fflamau dros yr oil o'r chwareudy, euf^dai y rbai oeddynt i mewn ft'u gilydd yn jjj. awy$d i fyned drwy y drysau. Mathrwyd 0 fetched a dynion dan draed yn yr ym- a -ray bu farw ugeiniau trwy fygiad. Er 0 3f manylion wedi cyraedd, dywedir fod 80 ei'sioes wedi eu cael yn yr adfeilion.
ANRHYDEDDU MR. CHAMBERLAIN
ANRHYDEDDU MR. CHAMBERLAIN Mae y Llywodraeth wedi cynyg amryw deitlau uchel i Mr. Chamberlain am y gwasanaeth godid- og a wnaed ganddo ynglyn ft helynt y pysgod- feydd yn Canada, ond y mae y boneddwr anrhyd- eddus, t.1:a yn ddiolchgar am y teimladau da a arddangoswyd tuag ato gan y Llywodraetb, wedi gwrthod pob anrhydedd.
CYNRYCHIOLAETH GOWER, SIR…
CYNRYCHIOLAETH GOWER, SIR FORGANWG, Mae yr hyn a elwir yn Blaid Genedlaethol Gymreig wedi gwrthod derbyn Syr Horace Davey fel ymgeisydd Rhyddfrydol am ranbarth Gower o sir Forganwg, ac y mae Mr. D. Randall, cylreith- iwr, Llanelli, yn cynyg ei hunan i sylw yr ethol- wyr fel Radical di-droi-yn-ol. Mae ei anerchiad eisioes yn gyhoeddedig. Mae y Ceidwadwyr a'r Undebwyr Rhyddfrydol wedi dwyn y boneddwr hynaws a phoblogaidd Mr. J. D. T. Llewelyn, o Benllergare, allan i wrthwynebu y cyfreithiwr beiddgar o Lanelli. Nid oes dadl na fydd i Mr. Llewelyn dderbyn cefnogaeth neillduol o galonogol. Mae Mr. Llewelyn eisioas wedi cynal amryw gyf. arfodydd, lie y traddododd anerchiadau gwresog, a ehafodd dderbyniad brwdfrydig ymhob man. Gallwn sicrhau nad oes gwell boneddwr yn Nghymru na Mr. Llewelyn, ac y mae yn Gymro o waed a chalon, ac wedi ei eni a'i fagu yn y gyn- rychiolaeth. Os na ddychwelir Mr. Llewelyn, bydd yn warth oesol ar y rhan hono o Sir For. ganwg. Prydnawn ddydd Mercher, yn Neuadd y Dref, Abertawe, cynygiwyd y ddau ymgeisydd, sef Mr. Llewelyn a Mr. Randell. Y boneddigion canlynol oeddynt gynygwyr a chefnogwyr yr ym. geiswyr:- Mr. Llewelyn: Syr John Jones Jenkins, Mri. D. M. Glasbxook, Thomas Cory, Roger Beck, William Lewis, a Thomas Morgan Jones. Mr. Randell: Mri. John Powell, Mynydd- bach; William Jones, Ynysmwdw; Thomas Freeman, a Rees Harries, Llandilo, Talybont.