Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

NODIADAU SENEDDOL. .

News
Cite
Share

NODIADAU SENEDDOL. LGAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] MESUR TROSGLWYDDIAD TIR. Dydd Mawrtb, yr wythnos ddiweddafj yn Nhy yr Arglwyddi, cynygiodd yr Arglwydd Ganghellydd ail- ddarlleniad y Mesur ucbod, amcan yr hwn ydyw gWneyd trosglwyddiad tir mor rhad a hwylus ag y byddo bosibl. Mae y Mesur yn cynyg diddymu Act Dirol Arglwydd Cairns, yr hon a basiwyd yn 1875, a cbymeryd yr holl bwnc i fyny mewn un Act. Dywedodd yr Arglwydd Ganghellydd mai am- <a-nion y Mesur oedd dadblygiad deddfwriaeth Ar. glwydd Cairns, cofrestiad gorfodol, a gcsodiad eiddo 8ylweddol (real), megis tai a thiroedd, ar yr un tir a tneddiant personol, neu arianol. Gwadai ei ar- Slwyddiaeth y gwnai y cofrestriad gorfodol a gynygid gaa y Mesur ychwanegu at y draul yn ngwerthiad tir, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Pe bai yr bawl {title) ifeddiant tir yn ymddibynu yn unig ar y lister, ac nid ar y title deeds hirion a chostus Piesenol, ni fuasai y draul o'i drosglwyddo yn agos gymaint. Mewn perthynas a'r adranau yn ym- Wneyd a deddf oyntafanedigaeth, ni fyddai dim byd a. Wnelent ag etifeddiaethau mawrion, am y cym- arid gofal bob amser fod i'r perchenogion wneyd eu hewyllysau yn eu bywyd, Cynygiodd Arglwydd Arundell wrthodiad y Mesur atn ei fod, yn ol ei farn ef, o natur radicalaidd a ehwyldroadol. Gwrthwynebai yn b&ndant y rhanau hyny o'r Mesur oedd yn ymwneyd a deddf cyntaf- ft&edigaeth. Nid oedd dim byd a wnelai y ddeddf fcono a throsglwyddiad tir,ac arweiniai ei diddymiad i ddiddymiad Jlawer o deuluoedd henafol. Gwrth- wynebai hefyd y cofrestriad gorfodol a gynygid. Cymerodd dadl hirfaith a brwd le ar y Mesur, ac &Dalygwyd gwrthwynebiad cryf i lawer o'i adranau gan Arglwydd Denman, Arglwydd Herschell, larll Beauchamp, larll Kimberley, ac eraill. Bamai Ardalydd Salisbury y gwnai tynu y Mesur trwy felin pwyllgor detholedig ei ddwyn i sefyllfa 41WY boddbaol. Darllenwyd y Mesur yr ail waith ar y dealltwr. iaeth fod iddo gael ei gyflwyno i bwyllgor detholedig 01 i "falu." Dyna ein barn ninau, tae hyny o ryw bWya. MESUR TIR MR. PARNELL. Yn Nhy y Cyffredin, ddydd Iau, cynygiodd Mr. Parnell ailddarlleniad ei fesur i ddiwygio yr actau tirol Gwyddelig. Amcan y Mesur oedd ymwneyd Ag ol-ddyledion (arrears) ardrethol. Mewn gair, y diben mewn golwg ydoedd rhyddhau y tenantiaid rbag talu eu kol-ddyledion. Cynygiodd Mr. Powell Williams (Rhyddfrydwr) Welliant i'r perwyl na fyddai yr un cymorth a ellid roddi i'r tenantiaid Gwyddelig yn effeithiol, oddi- eithr iddo ddileu eu dyledion i ofynwyr eraill heblaw feddianwYr. Dyma gynyg teg a rhesymegol, e ynag, Paham y gwneir gwahariaeth rhwng Y naili ddyledwr a,r llall? Dan yr amgylohiadau, Dl ryfeddwn i ddim. nad dyna y flfordd oreu i gyf- arfod cynygiad Mr, Parnell. Er fod y gwelliant yn tnyned ymhellach na'r cynygiad a wneid gan y Brenin Anghoronog," ni wnai y gwladgarwyr wyddelig ei dderbyn, a hyny yn ddiameu am y ikeswm y gwnai ymyraeth a llogellau siopwyr, arnwyr, a masnachwyr eraill, y rhai sydd yn °yaal y segurwyr dyngarol hyn yn Nhy y Cyff- redin. Un cyfrwys yw Pat. 13YWedodd Is-Iarll Ebrington fod y rhan fwyaf o'r ^■ddyledion hyn i'w priodoli i anonestrwydd y Plan of Campaign." Dygodd i gof y Ty yr hyn a ddYwedwyd unwaith gan Syr William Harcourt, sef fOdgan y tirfeddianydd lawn gymaint o hawl i'w 44reth do g a rhesymol ag i'r hugan oedd am ei ac yr oedd Mr. Gladstone wedi siarad am bolisi yBbail oyhoeddus." .Oefnogwyd cynygiad Mr. Parnell gan Mr. T. W. ^ssell, Rhyddfrydwr Undebol, os gellir dweyd i ba ftid y mae'r boneddwr hwn yn perthyn. Dywed- Odd nad oedd un rheswm moesol,lyn y rban fwyaf o Sylchiadau, dros hawlio yr arrears, a gwadai fod y tenantiaid i'r siopwr ar yr un tir ag ol- yledion ardrethol. Oangosodd y Milwriad Saunderson mewn araith ac argyhoeddiadol fel yr oedd anonestrwydd i dd yoaledu yn yr Iwerddon mewn canlyniad i lfwl.iaeth Mr. Gladstone. Darllenodd lythyr a 1:\fon d g Wy gan siopwr at un oedd yn ei ddyled o 29s., ha, aQ1 Atebodd 7 dyn ei fod yn synu at y siopwr yn gofyn taliad dyled yn y ^tthare3d Sanrif ar bymtheS' ac 03 y dywaioddi- 0 drachefn y gwnai osod yr achos yn llaw ei lelth' tn twr, Parodd darlleniad y llythyr chwerthin yn u* yn y Ty, ond yr oedd cynygiad Mr. Parnell awn mor afresymol ac anonest. *aetw^01^ ^r' ^^am!33rlain mai tuedd gwladlyw- k*yd 1 r" Darnell yn yr Iwerddon ydoedd creu ys- '^?e8rnwythder yn y wlad. Yr anhawsder m0thdaliad hollol nifer mawr o'r man a° 1 r Senedd ymwneyd a'r io^d HrSt^7n nis gallent wneyd dim daioni. Apel- *°^di karQkerl&in at yr aelodau Gwyddelig i ajVup cynWf £ pcesenol, yr hwn oedd yn Eeil- LIY\VOdr;eth :an of CampaIgn," ae ymuno i anog y OLt 1 gymeryd i fyny yr boll gwestiwn. Dywedodd Mr. A. J. Balfour os oedd Mr. Parnell yn credu y gwnai y mesur hwn rhywbeth tuag at setlo y cwestiwn tir Gwyddelig ei fod yn camsynied yn ddirfawr. Nid i lymdra y landlords yr oedd y rhan fwyaf o'r ol-ddyledion i'w priodoli, ond i waith y tenantiaid yn ymuno i beidio talu. Yr oedd deddfwriaeth Wyddelig yr wyth mlynedd diweddaf wedi dysgu y bobl i fod yn anonest. Wedi ychydig sylwadau pellach ganSyr WiUiam Harcourt, Mr. Dillon, a Mr. Healy, ymranodd y Ty- Dros yr ail ddarlleniad. 243 Yn erbyn 328 Mwyafrif yn erbyn 85 Yn ol daroganau y Parnelliaid yr oedd y Llywiodr- aeth i fyned yn ddrylliau ar y mesur hwn. ACHUB BYWYDAU AR Y MOR. Cynygiodd larll Onslow ail ddarlleniad y £ Mer. chant Shipping (Life Appliances) Bill" yn Nhy yr Arglwyddi ddydd lau. Cafwyd ymdriniaeth ddydd- orol ar y mater. èynygidapwyrrtio pwyllgor i ddos*. barthu y gwahanol f athau o longau, ac i ffurfio rheolau mewn perthynas i nifer y cychod a'r life buoys, &,a,, oodd i bertbyn i bob un o honynt. Dar- llenwyd y mesur hwn yr ail wàitb. Mae hwn yn fesur o'r pwysigrwydd mwyaf i filoedd ar filoedd o'n cyd-ddynion, "y ihai a ddisgynaht mewn llongau i'r rcor, gan wneuthur eu gorchwyl mewn. dyfroedd mawrion." CRIMINAL EVIDENCE BILL." Beth yw y Cymraeg goreu am hwn ? Mesur Tystiolaethau Troseddol. Wei, pa fodd byhag, amcan y mesur ydyw caniatau i garcharorion neu eu gwragedd, drwy eu caniatad, i roddi eu tystiol- aeth mewn liysoedd barnol mewn achosion o dros- seddau. Mae hyn fel y dylai fod ac y mae y mater yn awr wedi bod yn tynu sylvv gwiadweinwyr am haner can' mlynedd. Gwrthwynebai yr aelodau Gwyddelig ei gymhwysiad i'r Iwerddon, am eu bod yn ofni, mae'n debyg, i ddrwgweithredwyr eu brad- ychu wrth y bar. Pasiodd y mesur yr ail ddarllen- iad drwy fwyafrif o 139. MESUR Y DDYLED WLADOL. Pasiodd y mesur hwn drwy y ddau Dy yr wythnos ddiweddaf. Y mae'n deilwng o sylw iddo yn Nhy yr Arglwyddi ddydd Gwener fyned drwy yr ail ddar- lleniad, y pwyllgor, yr adroddiad, a'r trydydd dar- lleniad mewn 46 eiliad CWESTIWN Y DEGWM. Galwodd Ardalydd Salisbury sylw yn Nhy yr Ar- glwyddi ddydd Gwener at y dull o gasglu y degymau. Sylwodd fod yr ymdainiaeth gyhoeddus a gymerodd le ar y Mesur a ddygwyd i mewn y nwyddyn ddi- weddaf, yr hwn a basiodd Dy yr Arglwyddi, yn eu galluogi i weled yr anhawsderau, ac i ryw raddau i ddwyn imewn fesur diwygiedig i gyfarfod yr an- hawsderau hyny. Yn neillduolrwydd y degwm fel eiddo yr oedd yr anhawsdra ynglyn a'r cwestiwn yn gorphwys. Nid treth ar y fir oedd y degwm nid treth ar y tirfeddianydd treth oedd ar gynyrch y tir. Ond yr oedd cynyreh y tir yn Haw y deiliad ond yn ol y gyfraith nil y deiliad oedd yn gyfrifol am y degwm, ond y perchenog. Y canlyniad o hyny ydoedd mewn trefn i gael gafael ar gynyrch y tir fod yn rhaid distreinio ar y tenant. Y tenant oedd yn dioddef yr anghyfleustra hwn am ddyled nad oedd yn perthyn iddo. Yr oedd yr anhawsdra yn codi oddiar anufudd-dod i Act 1836, neu yn hytrach fod y tir feddianwyr drwy eu cytundeb.alu deiliaid wedigoCYhelyd prif ddarpariaoth yr Act. Yn ol adran 80 o'r Act hono rhoddir gallu i'r tenant i dynu y degwm allan o'r rhent fal yn achos treth yr incwm. Bwriad y Llywodraeth yn bresenol oedd gosod y degymau ar yr un safle a'r income-tax. Yr oedd cyfraith seneddol mewn perthynas a'r dretb bono yn amddiffyn y tenant rhag unrbyw gytundeb yn ol llaw rhyngddo â'r tirfeddianydd. Nid oedd rhagocheliad o'r fath yn Act y degwm, Y peth cyntaf oedd ganddynt i'w wneyd ydoedd pasio Act yn symud y diSyg hwn yn Act 1836. Cynygiai ei arglwyddiaeth ddwyn i mewn dri mesur. Amcan y blaenaf fyddai gosod y degwm ar yr un lefel a'r inconle tax, b.y drwy atal unrhyw ymrwymiadau yn y dyfodol rhwng y tenant a'r tirfeddianydd o berthynas i daliad y degwm. Cynygiad y flwyddyn ddiweddaf oedd trosglwyddo y oyfrifoldeb oddiwrth y deiliad i'r tirfeddianydd. Er fod llawer o'r tir- feddianwyr yn cymeradwyo cy ynllun hwnw, yr oedd nifer liosog o honynt yn ei wrthwynebu, ac o ganlyniad yr oedd y Llywodraeth yn cynyg cwrs gwahanol y flwyddyn yma. Yr oeddynt yn gadael achos y perchenog oedd yn Ilafurio ei dir ei hun yr un fath, ond yn achos y tenant-farmer yr oeddynt yn cynyg fod i atafaeliad (distraint) i gael ei wa- hardd ac os byddai i'r tenant wrthod talu o gwbl fod gallu i gael ei roddi i'r llys sirol (counJ,y court) i -Y apwyntio derbynydd, yr hWD a rybuddiai y tenant i dalu iddo of, allan o gynyrch cyntaf y tir, ac os byddai iddo ar ol y rhybudd yma dalu y rhent i'r tirfeddianydd cyn talu y degwm, byddai drwy hyny yn cydnabod y degwm fel dyled bersonol. Yn ol y mesur hwn y mae'r tenant i dalu y degwm allan o gynyrch cyntaf y tir, a'i dynu allan o'r ardreth pan yn talu y tirfeddianydd. Mae y mesur hefyd, yn cynyg tynu y saith mlynedd oyfartaledd i lawr i dair. Ceir gweled pm. dderbyniad a gaiff y mesur hwn yn y wlad ond ein cred onest ydyw fod mesur y flwyddyn ddiweddaf yn llawer mwy syml ae ymar- ferol. Y GYLLIDEB. i Nos Lun, cjflwynodd Mr. Goschen, CanghalIyddyl Trysorlys, ei Gyllideb i'r Senedd, ac yn ol yr hysbys- rwydd a roddwyd ganddo ymddengys fod surplus o £ 2,377,000 yn ffafriol i'r Llywodraeth. Hysbysoda amryw bethau ynglyn &'r Gyllideb, a'r byn a. fwriadai y Llywodraeth wneuthur, at yr hyn y cyf- eiriaf yn llawn yr wythncs nesaf. Ni chy-flwynwyd erioed Gyllideb mwy ffafriol gerbron y Senedd.

Family Notices

1---- 4Rarcbiiaborbb. !

[No title]

Advertising