Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

LLYTHYR Y MEUDWY.j

News
Cite
Share

LLYTHYR Y MEUDWY. j (O'N MEUDWYDY RllWNG BRYNIAU GARTH I MADRYN.) | j Yn y Cambria Daily Leader' am y deuddeg- I fed o'r mis presenol ymddangosodd y dyfyniad j canlynol a gymerwyd o newyddiaur gor-dory- jj aidd a gyhoeddir yn Nghaerdyd:—' Gellir dych- I ymygu i ba gyflwr truenus y mae radicaliaeth, | os gadewir hi i fyned rhag ei blaen yn anghy- is ffrwyn, yn debygol o ddarostwng Cymru oddi- wrth y ffaith ddarfod i Gymdeithas Yswiriol yn | Llundain yr wythnos ddiweddaf wrthod yswrio | cynyrch un o'r ffarmau goreu o eiddo Col. | Powell yn sir Aberteifi, a hyny oblegid fod y ffarm a ddelid unwaith gan Ymneillduwr a Radical, wedi paso yn ddiweddar i ddwylaw Eglwyswr a Chydwadydd.' Yr ydym yn ddiolchgar i Ragluniaeth am i'r | paragraph uchod gael ymddangos, pan y gwnaeth yn mhapur Toryaidd Caerdydd, | okiegid bydd rhyw un neu'r llall o'r siaradwyr yn Aberystwyth yn sicr o wneyd defnydd amserol o hono, a hyny yn neillduol er mwyn i gosod yr holl erledigion ar eu gocheliad rhag ystranciau diegwyddor y Toryaid. Ni wnai dim ar hyn o bryd wasanaethu eu hachos ang- hyfiawn hwy er galluprofi fod y Rhyddfrydwyr | wed llosgi hyd yn od-chwain eu caseion gwleidyddol. Yr ydym yn llawen gyfarch y gorthrymedigion am eu hyspryd hirymarous a | dioddefgar hyd yn hyn yngwyneb yr erledig- I aeth a ddygasant arnynt eu hunain trwy eu 1 hymlyniad diysgyg wrth eu hegwyddorion yn | ystod yr etholiad diweddaf. Nid ydynt hyd j yma wedi gwneyd dim i gwtogi nerth eu cyfeill- 1 ion a'u hedmygwyr. Peidied neb trwy y dyn- j esiad pellaf at ddial wneyd pleidwyr y dioddef- | wyr yn ddirym. Nid ydynt i fod yn wan trwy 1 y cnawd,' onide nis gellir gwneyd dim yn effeith- | iol a llwyddianus drostynt. 'Mab heb ddysg, | ty a lysg:' ond mae y dioddefwyr oblegid ateb cydwybod dda wedi derbyn gormod o addysg, a | hono y ddysg oreu, i feddwl am wneyd y j mymryn lleiaf o ddrwg i'r sawl sydd wedi cael eu llefydd. Mae mwy o ddrysau gan Raglun- 1 iaeth i guro wrthynt nac sydd gan dirfeistri Toryaidd siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a | Chaernarfon i'w hagor, ac y mae ganddi ddigon o well ffarmau yn ngwlad y Gorllewin. Pe dygwyddai y tipyn lleiaf o eiddo yr erlidwyr gael eu niweidio gan yr erlidiedigion, gwnai wrthweithio effeithiau daionus y siarad a'r I |g^l^re^thio a fydd o blaid y gorthrymedigion. Yr lyclym yn gobeithio y ca Lloegr wybod fod jYmneillduaeth a radicaliaeth yn dysgu y Cymry nid i losgitai a chynyrch eu caseion, ond i ddioddef cam yn hytrach na'i wneyd, a disgwyl jwrfch Dduw am ymwared o'u holl drallodion. f Myfi, medd y Goruchaf, biau dial.' Eai laiiwyl, nac ymddialwch chwi. 1 j Y gwirionedd noeth ydyw fod y Toryaid yn orawyddus am i'r erlicliedigion hyn wneyd I rhyw niwed i bersonau neu eiddo eu gelynion, gan y gwnai hyny symud sylw y cyhoedd oddi- wrthynt hwy a'i sefydlu ar y drwgweithredwyr. Yr ydym yn Ilwyr gredu yr ymddyga y di- oddefwyr yn y fath fodd o dan eu profediaeth- isau ehwerwon, ac a orfoda hyd yn od eu caseion |i addef fod y 'damned Dissenting preachers,' fel |y dewis eglwyswyr duwiol gyfenwi y bonedd- ligion hyn, wedi llwyddo cymaint fel dysgawd- iwyr ac arweinyddion y bobl nes eu dysgtt i beidio gwneyd drwg hyd yn od i'w gelynion. I Nid i dirfeistri ac offeiriaid Toryaidd y mae Cymru i ddiolch nad ydyw tai, a thasau gwair ac yd Ilawer ffarm wedi cael eu ffaglu yn llwch a llydw. A phe buasai gorchwylwyr yr I Insurance office yn Llundain y cyfeiriasom at yn darllen papurau Rhyddfrydol, ac nid Tory- aicld Cymru a Llundain ni fuasent am fynyd yn petriso yswirio holl gynyrch pob ffarm y troi- Iwyd y cleiliaid allan o honynt am feiddiaw pleidleisio yn groes i ewyllys perchenogion y tydclynod. Yn y dyddiau hyn mae y tirfeistri a'r offeiriaid yn ei wneyd yn fath o fater cyd- wybod i gyhoeddi nad oes un gwahaniaeth rhwng Cymru a'r Iwerddon, ond yn unig nad ydyw Rhyddfrydwyr Cymreig ddim wedi dysgu saetbu eu meistri. Efallai nad ydynt, medd hen Igyfaill i ni, yn werth eu saethu-talai yn well, medd ef, i saethu brain a phetris.' Onid yw yn syn na welai y cyhoeddwyr hyn eu bod yn condemn- io llawer mwy arnynt eu hunain nac ar Ymneilldu- wyr wrth bardduo eu gwlad a'u cenedl. Onid yr I offeiriaid, yn ol eu haeriadau eu hunain, ydyw dysg- awdwyr awdurdodedig a ehyflogedig y deyrnas? Ac I onid ydyw offeiriaid Cymru yn gyfrifol mewn I modd arbenig gan hyny am foesoldeb ac ymddygiad- au da eu cydwladwyr? Ac ni ddisgwylir ar ein I policemen i wneyd rhyw wasanaeth i ni am y tal a dderbyniant? Onid yr eglwys sefydledig sydd yn derbyn, fel y dengys Hiraethog yn ei lythyrau grymus at Mr. Gladstone, yr holl filoedd yn flynydd- ol tuag at eu cynal fel hyfforddwyr y bobi F Ac eto, 1 wedi'r holl arian sydd wedi ac yn parhau i gael ei Sdderbyn gan y gwyr urddasol hyn, mae Cymru mewn cyflwr cwbl cynddrwg a'r Iwerddon oddigerth nad yw y tirfeistri yn cael eu saethu. Beiddiwn Sddweyd wrth y sawl gyhoeddant y cyfiyw gelwydd na wnaethem ni yswirio bywyd ambell dirfeistr pe dygwyddasai y Cymry fod mar rhyddfrydjg ac y maent yn bresenol ond heb fod yn Gristionogion. Mae eu cyrph a'u hciddo yn eithaf diogel cyhyd ac y pery y Dywysogaeth i fod yn wlad grefyddol. Gwyr y degwm cil drwn' a'r eyflogau bychain dirmyg- edig yn ngolwg eu footmen hwy sydd, trwy eu llafurus gariad,' wedi castellu o'u hamgylch, a u gwneyd yn ddiogelach na'r Normaniaid yn eu hen gestyll cedyrn yn yr amser gynt. Mae yn warth tragwyddol i'r offeiriaid dysgedig fod pregethwyr bol clawdd, pregethwyr y prif ffyrdd a'r caeau, a Jacks pen 'stol, fel yn eu 'classical diction' hwy, y geilw y clerigwyr hwynt, wedi eu curo yn deg, gan waghau eu heglwysi a llanw da sac eu synagogau mawrion eu hunain. Wel, ni a'i gadawn hi ar hyn hyd nes cyrhaeddom Aberystwyth, lie y bwriadwn, os cawn hamdden, i orphen hyn o lythyr.

iY :DIWEDDAE BARCH. J. WILLIAMS,…