Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
'YR YSBRYD SYDD YR AWRHOX.'
News
Cite
Share
'YR YSBRYD SYDD YR AWRHOX.' Fel y dywedodd Paul am y sawl a fyno fyw yn dduwiol yn Nghrist efe a erlidir, ■ felly y dywedwn ninau am y sawl a fyno wasanaethu ei genhedlaeth mewn unrhyw agwedd, yntau hefyd a erlidir. Mae llawer" ffuria-r erledigaeth ond y ffurf fwyaf anioddefol o bob ffurf ydyw yr un a fyddo yn dyfod oddiwrth frodyr (gau), ac yn gynwys- edig mewn camddarluniadau, drwgliwiadau, ac ensyniadau parthed dybenion. Gwneir y teulu dynol i fyny o'r ddau ddosbartli hwn. Dosbarth y gweithwyr diwyd, difefl, a hunan-aberthol- y dosbarth a deimlant fel yr Athraw Mawr mai dyben uwchaf bywyd ydyw rho'i ac nid derbyn gwasanaeth. Y dosbarth arall ydyw y person- au hyny a ystyriant mai eu cenadwraeth fawr yn y byd ydyw, nid gweithio, ond gwylio y rhai a weithiant, a barnu eu dybenion, a rhoi pob atalfa a allant ar eu ffordd, ac ensynio fod eu holl weithgarweh yn tarddu oddiar amcanion o hunan-les. Nid yw y dosbarth olaf byth yn gweithio eu hunain, oddi eithr fod eu hymdrech diflino i atal rhai ereill yn weithio. Cyn belled ag y teilynga hyn ei alw yn waith, y maent yn weithwyr i bwrpas. Yn yr ymdrech hwn y mae eu llafur yn enfawr ymffurfiant yn cliques lluosog- cynlialiant mewn cornelau private' committees dirifedi, a chariant yn mlaen ohebiaethau eang a llafurfawr, ond strictly private. Pan y cyfar- fyddant yn y cynulliadau cymanfaol, neu gyrddau cliwarterol, neu bwyllgorau yr athro- fau, ymgrynhoant ynghyd i gornelau neilldu- edig, ymguddiant mewn dyblygion o fwg ty- baco. Yna cymerant symudiadau eu brodyr gweithgar mewn Haw. Beirniadant hwy; en- syniant yr amcanion gwaelaf iddynt. Awgrym- ant fod hawliau y bobl mewn perygl—fod awdurdod yr eglwys yn cael ei fathru dan draed —fod dybenion a hunan-les mewn golwg. Fel hyn yr ymarfogant i wrthwynebu gydag holl egnion malais bob mudiad a gynygir gyda'r dybenion puraf ac i'r amcanion goreu. Ond nid yn yr ymgynghorfeydd neillduedig hyn y terfyna eu gwrthwynebrwydd a'u gwen- wyn. Ant i dai dynion da a diniwed. Taflant allan ensyniadau gwael o barthed i amcan hwn a hwn yn dwyn y peth a'r peth yn mlaen. Drwgliwiant y person, camddarluniant ei gyn- llun, a chamgasglant ei ddyben. Llwyddant z, fel hyn yn ddichellgar i wenwyno meddyliau ynddynt eu hunain digon diniwed, nid yn unig yn erbyn cynlluniau a symudiadau amcanedig i sicrhau yr amcanion goreu, ond hefyd yn erbyn y personau a fynant, oddiar y dybenion goreu, fod yn flaenllaw fel gweithwyr gyda'r cyfryw fudiadau. Yr ydym yn gwybod nad ydym yn rhoi lliw rhy gryf ar bethan. Gwyddom am frodyr anrhydeddus yn ngwir ystyr y gair—brodyr na bu orioed rai purach eu hamcanion ac unionach eu dybenion-ond oher- wydd ensyniadau maleisus dynion drwg, diog, a diegwyddor, a gamfesurir ac a edrychir arnynt gydag amheuaeth yn eu holl symudiadau. Dyn- ion ydyw y rhai hyn ac y dylai Cymru fod yn falch o honynt—dynion a dreuliasant ac a ym- dreuliasant i wasanaethu eu gwlad yn wleid- yddol a chrefyddol, ac i wasanaethu eu henwad yn mha bethau bynag a dueddant i godi a dyr- chafu yr enwad ac a'i gwna yn fwy gwasan- aetbgar i lesoli eneidiau. Eto, dyma y dynion a erlidir ar bob llaw, a drwgliwir gan ddynion- ach diegwyddor—dynion o ran dim a wnant hwy y buasai crefydd a'i holl sefydliadau wedi marw er's llawer dydd. Eto dywedwn nad ydym yn lliwio yn rhy gryf. Degau o weithiau y cafodd yr ysgrifenydd alw arno i wrthweithio oddiar feddyliau dynion diniwed cldylanwad
------_-----__._n__---,._--"._'''-""'"-KEWYETH…
News
Cite
Share
-n_ KEWYETH ZAOHBY O'l GAD AX S WELLT. -Beth fuoeli cinvi yn ei ddarllen heddyw l\fewyrtl't meddwn wedi dyfod i'r ty nos F&wrt'h a gweled Hewyrth Zachry heb na llyfr na phapur yn ei law, ac yn edrych. fel yn syn- fyfyrio. Mi ddarllenais heddyw y ddau rifyn o'r Goleuacl-y papur newydcl y mae y Method- us yn y North yna yn ei ddwyn allan. Daeth Edward Plas-isa a nhwy yma i mi gael eu gweled. Eliaid i mi gael hwna eto 'rwy'n meddwl.' "Vel beth yw eieh barn am dano ?' ail ofynwn. O, glev,, iaivi.L-papur cryf-priiit da-llythyren fras, glew iawn yn wir. Lied Fethodistaidd ydyw, ond serch hyny dyna y mae yn proffesu bod. Ond 'dwy ddim yn ofer ITond o sectyddiaeth mewn papur newydd chwaith,' Peidiwch a dyweyd hyny Newyrth, ond y TYST ydyw eich favourite chwi, a phapur sect yw hv«nw.' Beth wedaist ti ? y TYST yn bapur. sect-ni bu llai o arogl sect ar bapur efioed. Mae yn wir fod yiiddofwy o newydd- ion yr Annibynwyr; ond oni bai fod dyn yn gwybod eisoes byddai ynanhawddlawn iddo wybod i bwy y mae y Golygwyr yn perthyn. Ond nM oes aehos achwyn llawer eto ar y 00- leuad yma chwaith. Mae y gwr sydd yn gwneud y nodiadau wythnosol yma pwy byriag ydyw yn gwybod pa rodd i ysgrifenu. Tebyg mai y Golygydc1 yw—wel un trefnus iawn ydyw beth bynag. Sych a maith oedd y rhagymadr- odd yn y rhifyn eynta-f, a 'doedd dim bydynddo i dynu dyn yn ei flaeii-a dweyd y gwir mi gadewais i e ar yr haner. Mae Llythyr oddi- 'wrth Cranogwen hono o'r America yn un ohon- ynt. Yr oedd ei ddarllen yn peri i mi feddwl o hyd am Nyth y Dryw," yn y Cylchyrciivn; ond nad oes ganddi yr un lancet fel hwnw i roi brathiad i'r byw weithiau. Hwyrach taw yn- wyf fi y mae y bai, ond y mae rhyw fursendod a maldod i mi yn y style. Mae llythyr byr oddi wrth Simon Jones y Bala hwnw yn y cyntaf hefyd yn dweyd wrtbynt am beidio ei lenwi ag enwau plant. Cyngor da os gwneir ef. Beth yw y Simon Jones yma wys ? Ai teiliwr ydyw ys gwn i ? Mae yn dipyn o fusneswr beth bynag; ond y mae y pethau fycld e yn ei ddy- weyd yn wastad i'r pwynt ae yn llawn synwyr. Byddai yn dda genyf pe byddai iddo et.o ysgrif- enu llythyr da yn erbyn anfon yr un ysgrif i fwy nag un papur. Dyma fi eleni wedi gorfod talu bedair gwaith am yr un peth wrth iy mod yn derbyn cryn lawer o bapurau a chyhoedd- iadau. Rhaid fod y dyn sydd yn anfon ei bwt ysgrif i fwy nag :un papur yn meddwl yn dda o'i goods. Meithion ydyw y leaders fel y gelwir hwy yn y Goleuad. Mae yma ddwy faith iawn -un ar Hull Derby, a'r llall ar Brotestaniaeth. Darllenais y ddwy, ond yr oeddwn wrth eu dar- llen yn anghono mai papur newydd oedd yn fy Haw, ac yn meddwl mai o'r Beirniad neu y Traethodydd y darllenwn. Yr wyf yn meddwl fod gan yr hen 'Dwalad Dafydd 'bethau yn ei ysgrepan gwerth eu cael allan. Byddaf yn mawr hoffi. humour, ond wyr llawer o ysgrifen- wyr ddim rhagor rhwng humour a lol. Meudwy y TYST am humour. Mae yn ffrydio allan o hono heb ddim twrw.' ONewyrth gan i chwi son,sm humour y Meudwy a glywsoch chwi ei sylw ar gaws sir Aberteifi Naddo, beth oedd hwnw ?' Yr oedd ef a chyfaill iddo yn sir Aberteifi yn cael tamaid o fara a chaws- caws cyffredin y wlad sych ddigon fel ein caws ninau. "Dyma fe," ebe y Meudwy wrth dori toe ohono, "dyma fe fachgen, y mae fel hen Buritan, fe gymer ei losgi cyn y todda fe." le, dyna y peth sydd yn rhoi myn'd mewn ysgrif. Nid wyf yn gweled dim llawer o hwna gan neb yn y Goleuad yma eto, yr hen Dwalad yw y tebycaf. Y mac ynddo ysgrif dda iawn ar Philistiaeth, os ydyw yn peidio Philisteiddio ei hun cyn y diwectd. Mae ei sylw ar ddull doniol pobloganmolynddaragorol. Ni byddaf yn yTi (ida ragorol. gwybod pa faint i'w dynu yn ol o ganmoliaeth extreme dyn ion, oblegid nid ydynt hwy a, niinau yn cysylltu yr un ystyr a'r geiriau. Byddaf yn gyffredin yn deductio 25 y cant, ac o lawer o honynt byddaf yn tynu yn ol 50 y cant; a bydd llawn digon ar ol wedi hyny. Mae y papur yma yn amcanu bod yn arweinydd meddwl y gOnedl fel y dylai papur newydd fod; ac nid yn groniclydd digwyddiadau yn unig; a fydd ef felly amser a ddengys.' Wedi derbyn gor- chymyn i fyned at y Llyfrwerthwr i'w erchi o'r dechreu "darfu yr ymddiddan am y Goletiad y noson hono; ac yr oedd yn rhy hwyr i ddechreu ar ddim aral]. f%ScenineH. Ex NAI.
---';"'.""'""""--<;"C'"C=..",,,,----.r.;=,:.r.:::I'.-…
News
Cite
Share
-<C'"C=.r.;=,r.I'. -I ITWNT AC YMA YN YR AMERICA. (Pcirhad.) Wedi hyny aethom i Benmynydd i orphen y Gyrnarifa. Cawsom le rhagorol yma. Dang- oswyd i mi yn nhy Mr James ESCJTDIAir EIEA nid aniiebyg i amboll i Barcutan Papur, wedi eu gwneud o good. Dyfais Indiaidd ydyw feddyliwn. Ar y canol y mae math o esgid ledr lie y rhoddir y troed, ac wedi ei strapio yn dyn gellir rhwyfo ar hyd yr eira mwyaf heb berygl suddo iddo. Dywedir fod y Parch. Shem Phillips yn bencampwr ar y gelfyddyd yma—a yn mlaen fel ysgyfarnog fuandroed dros yr eira, heb ofalu am na chlawdd na therfyn. Grorfu i mi adael ar ol oedfa y boreu er mwyn mwyn myned i GYJ,IAiSTFA TEN]STSYLYANIA. Methaia gyrhaedd i Ebensburgh erbyn y Sab- both, er teithio nos a dydcl—-rhyw gwarter awr oeddwn yn rhy hwyr i ddal y irên a ddisgwyl- iwn. Y mae yn gofyn tipyn o athroniaeth i fedru ffurfio connection ar y rheilffyrdd hyn. Arosais yn Johnstown dros y Sabboth, ac aeth- um oddxynoidref Ebensbugh erbyn boreu Llun, i North Ebensburgh boreu Mawrth, oddiyno tua South Ebcnsburgh ddydd Mercher ac Ia.u, ac oddiyno i Johsfcov/n ddydd Gwener hyd y boreu M,,twi-th canlynol pan y dychwelctis adref. Yn Ebensburgh, brodorion o Lanbrynmair a manau eraill o Faldwyn sydd fwyaf. Y mae y dref yn prysur fyned yn Seisonig, y plant yn fwy rhwydd yn yr iaith hono, ac ychydig o ddyfodiaid newyddion sydd yn dod yno o Gymru. Dyna sefyllfa llawer o'r hen sefydl- iadau Cymreig. Gwelais fab i'r Parch. George Roberts, ac adnabyddais ef oddiwrth y teulu. Bum heibio Brynmair, hen gartref Mr Roberts —nid dymunol oedd genyf ddeall mai Gwyddel Pabyddol sydd yn yr hen drigfa gysegredig hon. Da oedd genyf gael ymddiddan a Mr Daniel Jones (cefnder y Parch. M. D. Jones, Bala), y mae yn debyg iawn i fy hen athraw, ac y mae ei fab yn hynod debyg i Mr Michael Jones Evans. Pobl o wahanol weithfeydd y Do sydd yn Johnstown. liolai amryw am y Parch. N. Stephens. Caf gyfle ryw dro eto i roi darluniad manylach o'r parthau hyn. Can- molai pawb y Gymanfa. Wedi dod adref cefais gyfarfod mawr Y BWRDD OENIIADOIi AMERICANAIDD. Cynhaliwyd ef yn y dref lion, am bedwar diwr- nod. Tebyg i eisteddiad yr Undeb Cynnulleid- faol yn Lloegr a Chymru ydyw, ond ei fod yn hollol at ddibenion cenhadol. Nid af yn awr i lawer o fanylion yn ei gylch-caf gyfle eto i draethu yn helaethach ar sefyllfa crefydd yn yr Unol Dalaethau. Gwneir y bwrdd i fynu o Annibynwyr a Phresbyteriaid. Bydd yma gy- farfod y mis nesaf i uno y gwahanol Bresbyter- iaid a'u gilydd, ac fel y deallais oddiwrth Dr. Clarke, ysgrifenodd galluog y Bwrdd, y bydd y Presbyteriaid yn ffurfio Bwrdd Cenhadol eu hunain. Rhwydd hynt iddynt, y mae digon o waith i bawb. Ond gadewch i mi adrodd yn fyr pwy a pheth a welais yma. Pan yr oeddwn yn eistedd yn dawel i wrando yn astud ar un o'r siaradwyr, dyma fi yn troi cil fy llygaid i edrych pwy oedd yn myned heibio, a phwy a welwn ond Y PARCH. JAMES TOWERS, BIRKENIIEAD. Dyma dan yn myned trwof Craffodd ef arnaf finau, ac aeth yn ysgwyd llaw a gwasgu yn anwyl ond yn ddistaw iawn yr oeddym. Cefais gyfle i ymddiddan yn mhellach ag ef. Pwy all ddarlunio fy moddhad o gael gweled mor annisgwyliadwy un a fu yn cydweinidogaethu a mi yn yr un dref a mi am 16eg o flynyddoedd Areithiodd yn rhagorol y nos. Am daith o dri mis y mae trwy y Talaothau, ond y mae ar fin ¡ dychwelyd. Clywais un ag yr oeddwn wedi darllen llawer o'i waith yn traddodi y bregeth genhadol, sef y Parch. John Todd, D.D., o New England. Pregethwr cryf, ond nid effeithiol. Dyweder a fyner y mae dylanwad gan y don Gymraeg. Aethum gyda Dr. Clarke ar y plat- Rbrm nos Fercher, ac yr oeddwn yn nghanol Doctoriaid anor ami a'r da corniog ar Green y Bala ddiwrnod y Ffair Fawr. Yr oeddynt yn siarad yn gampus, ond yr oeddwn yn union yr un farn a Mr Chidlaw fod eisiau tipyn rhagor o dan arnynt, a chwarae teg i'w galon ef y mae ef yn cadw ei wres Cymreig. Y mae yn amlwg fod yr Yankees yn hoffi yr hwyl Gymreig pan y cant hi. Clywais Ø'l .M ..A BARNES YR ESBONIWR yn gweddio ac yn llywyddu ar y cymundeb cy- Ifredinol. Dyn gweddol dal, tawel, a difrifol o'r 60 i'r 70 oed. Yr oedd rhywbeth yn debyg ynddo i Mr Pierce, .Liverpool, pethau eraill yn enwedig ei olwg arafaidd yn debyg i Dr. Ed- wards, Bala, ond yr oedd aeliau duon mawrion yn fwy tebyg i'r diwoddar BaTch. Henry Rees, Liverpool. Par i chwi deimlo ei fod wedi ym- drwytho yn Ngair Dmv. Buasai lla,wer un yn Nghymru yn hoffi cael benthyg fy llygaid yr wythnos hon. Ond rhaid i mi beidio yrndroi y mae yma ddigon o ddefnydd i lenwi y TYST am wythnosau. Caf wneud ychydig o olnodiadau. f I'w barhau. } Pittsburgh. H. E. THOMAS.