Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
RHYL.
RHYL. Cafwyd cyfarfod te a gwyl lenyddol ynglyn a'r Annibynwyr, ar Ddydd Llun y Sulgwyn. Mwyn- hawyd y te yn Ysgoldy yr Annibynwyr Saesneg yn Water street. Daeth lliaws ynghyd, wedi talu swllt am docynau. Rhoddwyd y danteithion yn rhad ac am ddim i'r eglwys gan lu o foneddigesau haelfrydig a phrydferth, er mwyn i'r elw fyned at leihau dyled yr addoldy. Tua saith yn yr hwyr, dechreuodd yr wyl lenyddol yn nghapel y Cymry yn Queen street. Yr oedd y lie yn llawn o bobl barchus, yn arddangos chwaeth at foes, rhinwedd, a da. Llywyddwya yn fywiog a doeth gan y Parch Robert Thomas, y gweinidog, ac amgylchynwyd ef fel mur o feini detholedig gan y brodyr canlynol:—Parch Samuel Roberts, gynt o Lanbrynmair; Parch A. Francis, Parch J. Roberts, Abergele, Parch John Williams, Rhyl, a Rhydderch o Fon. Wedi i'r cadeirydd dra- ddodi anerchiad agoriadol, aed trwy brogram cyn- nwysfawr a difyr. Canwyd amryw ddarnau yn bur felus gan gor bychan, o dan arweiniad Mr. Thomas Whitley. Gwnaeth y plant eu rhan yn dda odiaeth trwy ganu, darllen, ac adrodd, a chafodd yr anwyl- iaid arwyddion o gymmeradwyaeth serchog a brwd- frydig. Policy gqgoneddus ydyw dyrchafuy plant. Arnyrit hwy y inae llwydcliant gwlad, cymdeithas, ac eglwys yn dibynu. Areithiodd S. R. yn llithrig a swynol ar dipyn o bobpeth—yn neillduol ar yr iaith Gymraeg. Taniwyd y gynnulleidfa gan Mr John Williams, Sussex street, ag araeth synwyrlawn a ffraeth, ar y Wraig Rinweddol.' Gresyn na fuasai wedi rhoi llai o apology o blegid prinder amser yn y dechreu, a mwy o'i sylwadau gwerthfawr ar y pwngc. Pan byddo'r amser yn brin, ni ddylid colli amser i son am y prinder, ond disgyn yn hytrach ar y pwngc fel barcut ar ysglyfaeth-yu short and sweet. Ond haws dywcyd na gwneyd. Darllenwyd beirniadaethau gwir clcla ar draethod- au gan y Parch A. Francis, a'r Parch J. Roberts; ac ar farddoniaeth gan Rhydderch o Fon. Dyfamwyd y prif wobrwyon fel hyn:—1 Mr. Brace, myfyriwr o Goleg yr Annibynwyr, Bala, 10s am chwe' pheiLnill i'r diweddar John Whitley, Rhyl. 2 A. B. C., lp, am draethawd ar Gyflafan yr Offeiriaid-yn Nob. Ni chafwyd ei enw priodol, o ganlyniad orffetiodd y wobr. Ail oreu (os), Richard Jones, teiliwr, Mach- ynlleth, yr .hwn hefyd a ennillodd lp am y traethawd goreu ar Brawf yr Arglwydd Iesu ger bron Pilat; a rhoddwyd yr ail wobr ar y testyn yma (os) i Robert Williams, Tanygraig, Dwygyfylchi. [Cyhoeddir y beirniadaethau yn y TYST mor fuan ag y bydd cyf- leusdra. Gwelir un ar y farddoniaeth yn y rhifyn hwn.] Nid ydym yn cofnodi holl fanylipn y cyfar- fod, ond rhaid rhoi teyrnged o g-anmoliaeth i Mr David Davies, Foryd, a Mr Griip:tho;, saddler, am eu traddodiad campus o'r Ymgom rhwng' Simon Jones, y canwr, ae Ellis y saer. Cynhyrfa^ant deimladau crechwenllyd y bobl yn ami iawn. Cynnygiwyd diolchgarwch i'r beimiaid gaxi Mr. J. S. H. Evans, timber merchant, ac eiliwydei gan. Mr J.; Rhydwen-J ones, contractor. 'Diofehwyd hefyd i'r boiieadigQSE^u am efy(I it Gwn ;ed hjrn. trWy eilau Mr Jolm'Williaiiis, yr hwn* sy'n aelod hanfodol o bob cyfarfod cyhoeddus Cym- Kig yn Rhyl. j
LLANDOVERY A'R SULGWYN.
LLANDOVERY A'R SULGWYN. Y mae Dydd Llun y Sulgwyn yn wyl gyffredinol yma. Y mae bron pawb yn ei disgwyl gyda phryder, yn ei derbyn yn siriol a diolchgar, ac yn ei chadw yn gyflawu a pharchedig. Yr oedd eleni fel arfer. Yr oedd tawelwch yn teyrnasu trwy y fro-y melinau a'r agerbeiriannau wedi sefyll, y trigolion wedi ym- ddadrus oddi wrth eu gorchwylion, ac wedi ymdaenu i wahanol gyfeiriadau, pob dyn a dynes yn dilyn eu tueddiadau, yn g-wneud yn ol eu hewyllus; ac yn ymestyn at y gwrthddrychau a gydweddant oreu a'u harchwaetl-ia;u' y crefyddol yn ymawyddu am gyr- ddau crefyddol, a'r digrefydd, lawer o honynt, yn myned i grwydro i eithafoedd daear, er mwyn boddio eu llygaid, a chael cyflenwad i ddymuniadau eu calonau. 0 ran hyny, 'does dim yn ddrwg mewn rhyw symmudiadau fel hyn; ond, yn hytrach, y maent yn adnewyddiad i'r natur, ac yn bethau y dylid eu ceisio a'u cael os bydd yr amgylchiadau yn caniatau.. Prif dynfa y lie hwn yr wyl hon eleni ydoedd Llansadwrn, yn yr hwn le yr ymgyfarfyddai lliaws mawr o Ysgolion Sabbothol. Yn foreu iawn dydd Llun, gwelid lliaws yn yrndyru at orsaf y rheilffordd, o herwydd eleni, fel arfer, trwy lafur a di- wydrwydd Mr. James, Llandovery, cawsom yr hyn a elwir yn clicap train i orsaf Llansadwrn. Cawsom ein derbyn yn sorchog a chroesawgar gan drigolion y lie- bychan hwn. Adroddwyd amryw byngciau, a chanwyd amryw anthemau a thonau cyssegredig gan blant yr ysgolion canlynol:—Llandovery, Llangadog, Myddfai, a Llansadwrn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresentiol:-Aleistri Thomas a Pryse, Llandovery, Salmon, Llansawel, a Phillips, Caio. Danghosodd y gwahanol ysgolion ol llafur a diwyd- rwydd. Terfynwyd am bedwar o'r gloch y pryd- nliaAvn. Yna ffurfiodd ysgol Llandovery orymdaith i'r orsaf drachefn, a ffurfiwyd yn orymdaith i Llanfair-ar-y- bryn. Prif attyniad i'r He hwn ydoedd bedd yr hen Barchedig Williams o Bantycelyn. Safwyd yn un dorf o amgylch y bedd. Siaradwyd yn gyntaf ar Athrylith Williams gan Evans, draper; Hymnau Williams gan E. L. Evans yr Annheilyngdod o alw pob hymn yn eiddo Williams gan J. Evans. Yna canodd cor y Methodistiaid anthem, Ai Gwir Yw. Canwyd hefyd amryw o Hymnau Williams, ar donau chwaethus Ieuan Gwyllt, hyd onid ydoedd y lie yn diaspedain gan swn y dorf. Yna gwasgarwyd. 'Coffadwriaeth y Cyfiawn sydd fendigedig.' — Cricydryn.
PENTRAETH, MON.
PENTRAETH, MON. Nos Dydd Llun a Dydd Mawrth y Sulgwyn, cyn- naliodd yr eglwys Annibynol yn y lie hwn ei chyfar- fod blynyddol. Pregethwyd gan y Parchn. J. Owen, Llangefni; R. Parry, Llandudno J. Hughes, Bod- edeyrn; a D. Griffith, Port Dinorwic. Cafwyd cyf- arfod da iawn.
PHILADELPHIA.
PHILADELPHIA. Cyimaliodd yr Annibynwyr ellhundeb ysgolion eleni, fel arfer, y Sulgwyn, Mai 3lain, pan y cym- merwyd rhan mewn adrodd a chanu gan ysgol y lie a'u canghenau, a Phenygareg. Canodd prif ysgol y lie ddwy anthem yn dra rhagorol, dan arweiniad Mr W. Williams, Pensarn; ac adroddasant y 3ydd ben- nod o'r Hebreaid. Holwyd gan y Parch J. Jervis. A phrif ysgol Penygraig, Nashville, Llanelli, a Wareham, o Lyfr Tonau Ieuan Gwyllt, dan arwein- iad Mr R. Josiah. Chwareuid yr harmonium yn y lie. Adroddasant yr 2il bennod o'r Galatiaid. Hol- wyd gan y Parch J. Jervis. Aed trwy y gwaith oil yn bur ddymunol.—Llangc oedd yno.
LLANDDAROG.
LLANDDAROG. Cynnaliodd Methodistiaid y parth hwn eu cym- manfa ysgolion Dydd Llun y Sulgwyn, Mehefin laf, am 2, 10, a 6, pan y gwnaeth yr ysgolion canlynol eu gwaith yn rhagorol mewn adrodd a chanuPonty- beren, Llanarthney, Capeldewi, Llangydeime, Llan- ddarog, a Philadelphia. Aeth y tair ysgol drwy eu gwaith yn orchestol mewn canu; ac yr oedd yr oil o'r canu a'r adrodd, &c., yn dangos llafur mawr. Yr oedd yn bresennol yn eu holi y Parch T. Job, Llanddarog, a dau neu dri ereill o weinidogion parchus y cylchoedd. Aeth- um gartref gan ddyweud mai da oedd i mi fod yno. Ymwelydcl.
LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD.
LLANYMDDYFRI A'I CHYLCHOEDD. Wedi hir ddistawrwydd, ceisiwn yn awr goginio pwt o ohebiaeth o'r defnyddiau sydd genym i'r TYST o'r lie uchod. Y Central lFctles.-Y mae hon weithian wedi ei chwblhau, sef o Llanymddyfri i Lanwrtyd. Rhed y tren nwyddau ar ei hyd drwy'r wythnos, gan ddwyn beth miloedd o nwyddau o'r naill fan i'r Hall. Pas- iodd deugain o gerbydau llawnion o anifeiliaid o Gaerfyrddin y dydd o'r blaen. Y mae yn ymddang- os yn awr y try yr anturiaeih allan yn llwydcliannus, ac y bydd y shareholders yn ennillwyr. Dydd Llun nesaf yw dydd ei hagoriad yn ffurfiol felly. Ond odid na fydd yma gryn lawer o rialtwch. Y mae y llinell hon yn cyssylltu y Gogledd a'r De yn fwy un- iongyrchol a'u gilydd na'r un a wnaethpwyd hyd yn hyn yn y Dywysogaeth a thrwy hyny, ni a hyder- wn y gallwn ninnau cyn hir gael gwibdaith i weled y lleoedd mwyaf enwog yn y Gogledd. Acleiladu.-Y mae cryn lawer o ysbryd myn'd yn nhref yr hen ficar y dyddiau hyn, mwy na fu, fe ddichon, er's blynyddoedd, a chredwn y gall ddy- weyd yn bur hyderus—"mi welaf amser gwell eto." Adeiledir station newydd, a llawer o adeiladau ereill at wasanaeth y drafnidiaeth sydd i fod ar y llinell hon. Hefyd, y mae y suspension bridge yn myned dan lawer iawn o gyfnewidiad yn bresennol. Y mae llawer o bobl yn gweithio wrthi bob dydd. Teet Tarty.—Anrhegwyd deiliaid Ysgol Sabbothol Sardis a the Dydd Llun y Sulgwyn, gan y garedig a'r haelionus Mrs. Morgan, Nelson Cottage. Wedi i bawb fwynlxau te da o'r fath oreu, a phob peth arall yn ogystal, bid siwr, cawspm gyfarfod adrodd- iadol; ac yn wir, heb ddim lol, un da iawn ydoedd. Adroddai y plant yn dda, ynghyda dynion mewn oed, ddarnau o farddoniaeth, ac ambell i draethawd byr; a chafwyd anerchiad mydryddol gan Nathan Jones o'i waith ei hunan. Hefyd, yn ychwanegiad at ddyddordeb y cyfarfod, yr oedd Mr John Lewis, Llanymddyfri, gyda'i lais peraidd a chlir, yn canu nes oedd y wlad yn diaspedain. Anerchwyd y cyf- arfod gan y Parch W. Morgan. Diolchwn yn gyn- hes i Mrs. Morgan am ei charedigrwydd, a Mr Mor- gan am ei haelioni yn anrhegu y plant a llyfrau. Hir oes iddynt i wneuthur daioni, medd—Sylwedydd.
GRANGE TOWN, CAERDYDD.
GRANGE TOWN, CAERDYDD. Lie newydd ydyw hwn. Mae o fewn milldir i dref Caerdydd. Y mae y lie wedi cynhyddu yn fawr yn ddiweddar; ac y mae yn cynhyddu yn barliaus. Meddyliodd y Parch J. Davies, Caerdydd, fod yma le am achos Annibynol Seisnig, a dechreuodd ar un- waith ar y gorchwyl, fel y mae ef yn arfer gwneud. Dyn gweithgsr dros ben yw Mr. Davies. Yn ystod yr amser y mae ef wedi bod yn Caerdydd, y mae ef wedi dechreu amryw achosion, ac y inaent yn lle- wyrchus iawn. Dymunwn hir oes iddo ef ar y ddaear i weithio yn ngwinllan ei Arglwydd. ,,w Ac yn .mhlith y manau y mae ef wedi dechreu achos ynddynt, nid y lleiaf ydyw y Grange Town: Dydd; Llun, y dydd cyntaf o Fehefin, rhocldwycl te i blant yr Ysgol Sul yn y He. Yn y boreu, ffurf- iwyd yn orymdaith i Penarth; ac wedi bod yno am beth amser, yn: mwynhau yr awyr a dwfr iachus Penarth, awd grn orymdaith yn ol drachefn i Glance Town, i f^vyiiliau y te 'a'r bara brith ag oedd weili" ei ddarparu. Bu tua 150 yn mwynhau eu ar y danteithion. Yr oedd 'pob peth yn myned yn mlaen yn dawel a clirwgnach—y brodyr a'r chwiorydd ag oedd yn gweinyddn wrtix y byrdclau yn llawn siriol- deb, a'r plant i gyd yn edrych wrth eu bodd. Wedi gorphen a'r te, fe awd allan i'r cae i chware; ac wedi bod yno am beth amser, darfu i bawb ymadael wedi cael eu llwyr foddloni. Llwyddiant mawr i'r brodyr a'r chwiorydd ag sydd yn y lIe gydag achos y Gwa- redwr, fel y byddo I Y fechan yn nl, a'r wael yn .genedl gref.'—Didymus.
TROEDRHIWDALAR.
TROEDRHIWDALAR. Y PARCH. WILLIAM D. WILLIAMS, DEEBFIELD, YN' EI HEN ARDAL. Yr oedd yn y gymmydogaeth yma lawer iawn o ddisgwyliad am y gwr parchedig uchod er yr adeg y clywyd ei fod yn bwriadu croesi Mor y Werydd i' w fam-wlad; ac nid rhyfedd, o herwydd dyma yr ardaIlle y dechreuodd anadlu er yn agos i drigaili mlynedd yn ol—dyma lie y gwnaeth broffes gyhoedd- us o'i Waredwr tua chwe blynedd a deugain yn ol, a dyma.hefyd lie y dechreuodd gyhoeddi digonolrwydd Aberth y Groes i gyfarfod ag- angenrheidiau pechad- uriaid euog a damniol er yn agos i. ddeugain mlyn- edd yn ol. Ac o'r gymmydogaeth yma y croesodd For y Werydd, er mwyn pregethu Crist i Gymry America, lie y mae wedi Uafurio am yn agos i un- flynedd ar bymtheg ar hugain gyda llwyddiant mawr. Felly, peth naturiol iawn oedd fod yma ddisgwyliad am dano yn yr ardal hon. Buom yn disgwyl am dano yr haf diweddaf, ac oddiar hyny hyd yn bresennol. Llawer gwaith y gofynwyd gan yr hen frodyr a'r chwiorydd a'i hadwaenent cyn iddo adael gwlad ei enedigaeth, I Ydych chwi yn meddwl y daw Mr Williams, Deerfiold, y ffordd yma, gyda fod pobl yn siarad pethau felly r' Carwn ei weled yn fawr, ebe pawb drwy yr holl wlad. Gobeithient gael ei weled; ar yr un pryd ofnent nad oedd hyny yn bossibl. Ond fe gryfhawyd eu gobeithion drwy gyfrwng y TYST ychydig o wythnosau yn ol; o her- wydd y mae yma grediniaeth selog iawn yn ngwir- ionedd y TYST. Yr unig fai ydym yn gael ynddo ydyw ei fod weithiau yn esgeuluso dyfod yn brydlon i'r Ilys i ddywedyd yr hyn sydd ganddo; ond ar yr un pryd, gwyddom am ei waeth yn hyn o beth. Y newydd goreu ddarfu i'r TYST ddyfod i'r gymmyd- ogaeth er's llawer o ddyddiau oedd fod y Parch W. D. Williams, Deerfield, yn dyfod i'r wlad. A gwir yw ei dystiolaeth, o herwydd y mae erbyn hyn wedi dyfod nid yn unig i Lerpwl, ond hefyd i Troedrhiw- dalar. Daeth i'r gymmydogaeth Ddydd Llun, y 25ain o Fai. Pan ddeallwyd ei fod wedi cyrhaeddyd Tanyrallt, mawr oedd yr awydd am ei weled gan fach a mawr, hen ac ieuanc. Yr hen yn ei weled wedi newid yn anghySredin, fel pe y buasent yn disgwyl am ei weled yr un fath ag ydoedd tua deugain mlynedd yn ol, a'r ieuanc yn synu am fod ei groen yn wyn, ac felly cafodd yr hen a'r ieuanc eu siomi. Wedi ei weled, yr awydd nesaf oedd cael ei glywed yn pregethu. Y Sabboth a ddaeth, pryd y pregeth- odd y gwr parchedig yn y Beulah am ddeg, gydag arddeliad mawr. Yn Troedrhiwdalar am ddau, i gynnulleidfa liosog, pryd y rhoddodd foddlonrwydd mawr i'w wrandawyr. Wedi gorphen yr oedfa, gallem feddwl na chai ddyfod allan y noson hono, gan fel y tyrent o'i gwmpas, er mwyn ysgwyd llaw a'r Yankee' am unwaith beth bynag. Am chwech, pregethodd drachefn yn yr Olewydd, fel y synodd pawb. Cawsant eu siomi yn fawr ynddo fel pre- gethwr hefyd, yn enwedig yr hen bobl oedd yn ei gofio cyn iddo adael gwlad ei enedigaeth. Disgwyl- ient ei fod wedi aros yn yr un man fel pregethwr yn gystal ag yn ei wedd. En hiaith y dyddiau yma ydyw, I Mawr fel y mae Mr William Williams wedi gwella i bregethu rhagor i'r hyn ydoedd cyn iddo adael y wlad yma.' Cafodd yn ei hen gartref dderbyniad brwdfrydig neillduol. Yr hyn sydd yn ein blino yn breseimol ydyw fod y gwr parchedig yn ein gadael mor fuan. Y mae teimlad y gymmydogaeth mor gynhes tuag ato fel y carent iddo aros yn eu mysg yn barhaus. Ond hyn yma sydd anmhosibl, o herwydd y mae yn bwriadu gadael y gymmydogaeth yma, i ymweled a'i frawd i Cendl cyn y Sabboth. Gallem feddwl, wrth weled y ceisiadau sydd yn dyfod iddo o wa- hanol ranau o Gymru, na fydd ganddo amser segur i dreulio yn yr ynys. A goreu oil i'r cymmydog- aethau hyny a fwriadant gael ei weled a'i glywed po gyntaf y gohebant ag ef, onite bydd ynrhy ddiwedd- ar, gan y bydd yn bur fuan ganddo lawn waith dros ei arhosiad yn Nghymru. Bydded i wenau y nefoedd ei ganlyn yn ei deith- iau drwy Gymru, fel y byddo o fendith fawr i'w gydgenedl yn ystod ei arosiad yma. A phan y bydd efe eto yn canu yn iach i wlad ei enedigaeth, bydded iddo gael mordaith hwylus, fel y cyrhaeddo ei wlad fabwysiedig yn ddiogel, ac yn fwy ei awydd nag erioed i wasanaethu ei Waredwr yn mysg ei gyd- genedl yn ngwlad machludiad haul. Bydded iddo, yn y rhan sydd yn ol o'i oes fod yn ddefnyddiol i ddwyn eneidiau lawer at Fab Duw, ydyw dymuniad ei hoffus gyfaill-D. Griffiths.
KID WELI.
KID WELI. Cynnaliodd Methodistiaid y lie hwn eu cymmanfa ysgolion flynyddol eleni Mai 25ain, am 10 a 2, pan y cymmerwyd rhan yn y gwaith gan ysgol capelydd Bankycapel, Llandefeilog, Ferryside, Mynyddgareg, Llansaint, a Kidweli. Aethant drwy eu gwaith yn ganmoladwy, mewn adrodd darnau o'r Hyfforddwr, a chanu amryw donau ac anthemau, &c., yn dra effeithiol. Am 6, cafwyd cyfarfod cystadleuol yr undeb. Cadeirydd—Parch. R. Hughes. Beirniad yr adrodd- iadau, traethodau, a'r farddoniaeth-Mr D. Richards (Calvin), Llanelly. Y ganiadaeth, Mr Samuel, Llanelli, gynt o Dowlais. Ennillwyd y prif wobrwyn fel y canlyn :—Canu unawd; goreu, Mr Morgan, Gareg. Deuawd; goreu, Meistri E. Stephen a'u gyf. Glee, y Wenynen; parti o Mynyddgareg. Ton gynnulieidfaol; g-oreu, Kidweli. Traethodau, ar Addysg goreu, Mr Mor- gan, y Gareg. Ar Paul, Master J. Thomas, Llan- saint. Barddoniaeth—Can i Gastell Kidweli; goreu, Mr Morgan. Can, I'r Undeb Ysgolion goreu, Mr R. Josiah, Pentrepoeth. Fel yna, yn fyr, heb enwi yr ail wobrwyon, rhag eich trethu i raddau gormodol. Yr oedd yr oil o'r gwaith yn dangos ol llafur mawr. Gobeithiwn na fydd yn ofer.—Ilaneiddon.
BANGOR.
BANGOR. Mae y Parch J. Lewis wedi ymsefydlu yn Mangor fel gweinidog yr Eglwys Seisnig yno. Llafuriodd Mr. Lewis gyda chymmeradwyaeth mawr am bym- theng mlynedd yn Galway, yn yr Iwerddon ac ar ei ymadawiad oddi yno, cyflwynwyd iddo gan brif ynad y dref anerchiad serchog gyda phwrs o aur yn arddangosiad o barch y trefedigion yno iddo. Bwr- iadodd unwaith ymsefydlu yn Ruabon, ac arhosodd yno ychydig fisoedd; oiid gwelodd faes eangach a mwy cydweddol a'i chwaeth yn agor iddo yn Man- gor, ac yno y mae yn penderfynu aros. Y mae Mr Lewis yn Gymro cynhes o dref Caerfyrddin, a byddai yn dda gan y morwyr Cymreig a arferent fyned i Galway bob amser ei weled. Llwyddiant iddo yn ninas Bangor, medd^—Banyoriad.
RHUTHYN.
RHUTHYN. Dydd Llun y Sulgwyn, goryindeithiodd tair o gynideithasau cyfeillg-ar y dref drwy ei phrif heol- ydd, TU cael eu blaenori gan seindorf y gwirfoddol- wyr. Yr oedd y tair chwaer hyn yn edrych yn dda, yn yr ieucngaf o honynt, sef y Fforestwyr. Sefydlwyd yr .hynaf (clwb -y Cross Keys), yn y flwyddyn !,SOS,, t(, y yii wei-tl-i 521p. 9s. 8e. dlwb y Waterloo, a sefycllwyd'yii y' flwyddyn y WY( YI] 1842, sydd» yn• xueddii; 293p; ailan mewn llaw; ac y mae gau y. FforostTvwi^ua 78B.if$r nad ydyw y gyindeithas wedi ei 'f^TjrcO.-k-biUi- itici- adiweddar a'r flwyddyn 1865. Y mae yn dda genym weled fod y tair cyin-leitlia.i mewn cyflwr llwyddiannus ac addnwol.
WYDDGRUG.
WYDDGRUG. CAU Y TAFAENAU AR Y SABBOTH.—Y mae llais y dref fechan hon wedi ei gael o barth y symmudiad sydd ardroed yn awr i gau y tafarnau ar Ddydd yr Arglwydd, yr hwn a saif fel y canlynTai bres- wylwyr-Dros gau 678; yn erbyn, 5 anmhleidiol, 5. Gwerthwyr-Dros gau, 69; yn erbyn ac anmhleid- iol, nid un. Meistriaid—Dros gau, 13 nid .oedd uu yn erbyn nac anmhleidiol. Y mae y meistriaid hyn yn rhoddi gwaith i 1002 o ddwylaw. Teilwng yw liysbysu fod. y canvassio wedi ei ddwyn ymlaen gan un gwr ieuangc ymroddgar yn unig. Mae yr arfer- iad o anfon hanesion i'r papurau newyddion gyda'r pwrpas i ganmol personau, er yn y pen draw gael ryw ffafrau oddiar eu llaw wedi myned yn fwrn; ond lie mae gwir cleilyngdod, a Uafur cariad, ae ymrodd- iad ac ymegniad trwyadl. oddiar yr amd^a pur o wneyd daioni i gymdeithas, y mae coffa da am y l'hagorolion distaw, diymhongar, a gwylaidd hyn yn beth canmoladwy. Ni enwaf y cyfaill ieuangc sydd wedi bod wrthi yn dawel o dy i dy er's dyddiau, dan bwys a gwres dyddiau tanbaid yn ceisio enwau. Ni dderbyniodd ddimai am ei drafferth. Ymroddodd yn wirfoddol, a gorphenodd ei orchwyl blin gydag ysbryd tirion, a diolchgar am gael cyfleusdra i wneud daioni. 'Da was da a ffyddlawn.' Mae y ganmol- iaeth hon yn werth mwy na thudalenaid o ganmol- iaeth ddynol ammheus. HEN FRYN Y BEILEY.'—-Y mae pwyllgor wedi ei nurno yn y dref hon tuag at gael trysorfa er dwyn treuliau yr ymchwiliad i gynllwys y mwnt (mount) hynod hwn, yn ganlynoli ddarganfyddiad mur crwn o dair a hanner i bedair llath o drwch o am- gylch ei goryn. Bemir y gellir dyfod o hyd i olion dyddorol yr hen gastell a dybir oedd yn sefyll yno yn ystod y cyfnod Normanaidd, ond yr hwn a ddi- nystriwyd yn y flwyddyn 1260. Dengys llewyrch hanesyddiaeth yn unig fod y castell hwn unwaith yn meddiant y Mont Alts, ac y bu yma lawer ymgyrch' boeth, yr hynotaf o ba rai oedd pan gymmerwyd y castell cadarn gan Owen Gwynedd, yn y flwyddyn 1144. Yn y crybwylliada roddir am ddinystr Cas- tell Wyddgrug gan Llewelyn ab Iorwerth, yn 1201, yr ydym yn cael fod yr amgylchiad yn cael ei gof- nodi gan Llywarch Prydydd y Moch, bardd cydoesol a'r tywysog, mewn awdl anerchedig iddo. Cyfeiria Prydydd y Moch at dri ymosodiad llwyddiannus ar y castell, pan y dinystriwyd ef ar y tri achlysur. Fel hyn y dywed yr hen fardd yn rhan o'i awdl:— Caer Llleon, llyw Mon, mwyn Pabo a'th dug, Ef a'th dwg ymghodo Llewelyn, ef llosges dy fro, Lias dy wyr llyr, tra llwyfo, Llwyr dug y Wyddgrug, nid ffug ffo, Lloegrwys i llugfryd i symio Lleudir teyrn lluddiwyd yn agro, Lias ei glas, ei glwysdai, neud glo ? Mae yr hen Gymraeg uchod yn debyg i hyn yn y Gymraeg bresennol:— Caerlleon, rheolwr Mona, meddiant Pabo a'th gym- mera di, Bydd iddo dy yru i enbydrwydd; Mae hyd yn oed Llewelyn wedi llosgi'th wlad, Mae wedi lladd dy bobl tu hwnt y llanw a'r traeth; Mae wedi hollol gymmeryd Wyddgrug—nid ffug ffoedigaeth Oedd gan y Lloegriaid gyda meddyliau cythryblus ei hadolygij; Mae tiriogaeth ardderchog y brenin wedi ei difrodi, Mae ei fynachdai wedi eu dinystrio, a'i daiSantaidd onid ydynt ynt lludw ? Dywedir fod Iorwerth y cyntaf wedi llettya yn nghastell Wyddgrug ar ei daith i Gaernarfon. Cymmerwyd y lie drachefn gan Qruffydd ab Gwen- wynwyn yn 1149. Gwnaed yr ymosoliad diweddaf gan Syr Gruffydd Llwyd, yr hwn a gyfarfyddodd ag aflwyddiant, ac a gymmerwyd yn garcharor i Rhuddlan, a tliorwyd ei ben yn 1322. Gwèlir olion amryw furiau ar y Bryn, y rhai a dybir a berthyn- ent i'r hen gastell. Pan wrth y gorchwyl o wneud y Bowling Green cyfleus sydd ar y Bryn, deuwyd o hyd i amryw ysgerbydau dynol, ynghyda bathodau, a phethau gwerthfawr i'r hanesydd a'r hynafiaetjji ydd. Mae ugeiniau lawer wedi bod yn ymweled a'r I Hen Feiley' yn ddiweddai; ac mae'n debyg, pan ddechreuir ar yr archwilion, y bydd y mwnt godidog hwn yn dyfod yn wrthddry ch Hawn o ddyddordeb a sylw. Mae ein doethion lleol yn hynod o'r bywiog ac egniol gyda'r anturiaeth.
GLANDWR.
GLANDWR. Yn mysg y personau a gyflwynwyd i Earl Gran- Yfl ville, Cangiiellydd yr University of London, da genym weled enw John Davies Thomas, Ysw., M.R.C.S., (mab y Parch T. Thomas, Glandwr,) i dderbyn ei Exhibition and Gold Medal of 1st M.B. examination. Er's mis yn ol derbyniodd Mr Thomas y Felloiv's Silver Medal yn University College. Pob llwydd iddo i enwogi. ei hun a dyrchafu ei wlad i fri.
PISGAH.
PISGAH. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Annibynwyr yn Pisgah, ger Caernarfon, y Sul a Llun y Sulgwyn. Pregethwyd gan y Parchn. D. Griffith, Port dinorwic; J. Owens, Llangefni; D. Roberts, Caernarf >n a W. Roberts, Liverpool. Yr oedd y cynnulleidf Loedd yn lluosog, a'r weinidog-aeth yn nerthol.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Lrddau genym hysbysu fod Joseph. I,J. Gabe, Ysw., M.R.C.S., mab i Mr. John Gabe, Adeiladydd parchus yn y dref hon, wedi passio ei arholiad yn llwyddianus yn y College of I'liysic- ■iam, ac wedi derbyn ei diplomas. Mae Mr. Gabe yn awr yn gallu gwisgo y teitl Dr., a gwas- anaethu Mae Dr. Gabe wedi symud yn ddiweddar i Wrexham. Hyderwn y ca y gef- nogaeth hono a deilynga ei alluoedd a'i ddysg, ac y bydd yn fendith i litweryit gystal ag yn anrhydedd i'w genedl. FFORDD HAIARN MERTHYR AC ABERHONDDU.—Yn araf iawn y mae y linell hon y ymestyn i Merthyr. Y mae wedi cychwyn o Aberhonddu er's tua pedair neu bum mlynedd. Ar y cyntaf, daeth i'r Pant, uwchlaw Dowlais, lie na buasai yr un dewin byth yn meddwl am Terminus. Arhosodd yma am amser maith. Yna tua blwydddyn yn ol, dilynodd y Saf bechan a daeth i ben uchaf Cefn-coed-y-cymer, ac yno collodd ei gwynt. Yn awr y mae wedi mentro pasio tu cefn i waith haiarn Mr Crawsbay, mor ddirgel ag y medrai rlnvng y tomcdau (tips), ac ylla yn lladradaidd ymuno a'r Vale of Neath y tu isaf i'r dref, a dod i mewn i orsaf y Vale of Neath heb gym- eryd arni nad o Gastellnedd neu o Abertawe y cychwynodd. Er dyfod i fyny a thelerau gorth- rymus arferol y Taff Vale, y mae yn awr yn gwneyd branch bychan i gysylltu a hono, fel yn mhen ych- ydig wythnosau yr ydym yn dysgwyl y gall Golyg- wyr parchus y TYST gychwyn ben boreu o Liverpool a cliyrhaedd Merthyr dros y Brecon and Merthyr Line,' heb orfod cerdded yr ychydig filltiroedd di- weddaf, fel pe byddent wedi cerdded bob cam, neu mewn bass wedi eu gwasgu i hanner eu maintioli priodol. GWYL HANDEL YN LLUNDAIN.—Deallwn fod y Pwyllg'or yn Llundain wedi eyilogi gwasai'iaetii rhyw again o brif gantorion Deheudir. Cymru, at yr .vyl fawr eleni. 0'1' Ugain y mae tTio Merthyr: Meistri R. Beynon, Ynysgan, W. A. Davies, So$r, ■« W. Thomas, Poutmprlais; 0 Dowlais, Mr. T. H. Williams; Aberdare, Mr. Silas Evans; Caerdydd, Mr. Rees Lewis. ARWXDDIQN .YR AMSERAIT.—YiiiaQ y.gw.eiijifaoedd yn'dechreu bywiocau, full time i'r rhan fwyaf. os Y prhoccldt Yll y farsM- nad jW^dijj&ost 'V!¡i'rrr{l}n.«t(1en!¥;Û.taoïk¡ ;braicWoiid y cawff. Dyma arv.ydd dda. Disgwyl- I iwn, ae y mae genym seiliau cedyrn i ddisgwyl, y ca, gweithwyr a masiiachwyr Morganwg a Mynwy well bhvyddyn o l-swor na'r hon a basiodd.
PENMORFA, GER TREMADOC.
PENMORFA, GER TREMADOC. PICNIC PARTY AR BEN CRAIa. YR ALLTWEN.- -Mae Dydd Llun y Sulgwyn, er y flwyddyn ddiweddaf, yn ddiwmod pwysig iawn yn y pentref hwn, mewn cys- sylltiad ag Ysgol Sabbothol Capel Seion ynneillduol. Trefnwyd fod i'r ysgol eleni (fel y llynedd) gaelcyf- arfod ar ben y graig, i f wvnhau ifrwyth y ddeilen a'r bara brith. Gwnaed pob parotoad tuag at hyny yn y modd mwyaf deheuig. Gwelid y lluoedd yn cyf- eirio eu camrau tuag yno yn brydlon—pawb a'i gwpan a'i saucer gydag ef. Wedi cyrhaedd y copa, yr oedd darpariadau yn nmied yn mlaen yn brysur i dwymno y dwfr, mewn fto-plaee hynod o gyfleus, o waith yr awdures Nata*r, a digonedd o fawn a choed sychion ger Haw. Ac wedi i Morgan ferwi, dyna ddechreu ymosod ar ei gynnwysiad o ddifrif tua thri o'r gloch. Yr oedd y plant (dros 85 o honynt) wedi eu gosod yn drefnus, yn y modd mwyaf eyfieus i dderbyn eu attendance, yn gystalag i wneud cyfiawn- der a'r cyllau gweigion. Yr oedd yr hen frodyr a'r ir I hen chwiorydd, y canol oed a'r young ladies (rhy liosog o lawer i'w henwi) yn gwneud eu rhan yn ardderchog tuag at ddiwallu y plant. Ac wedi i'r plant orphen, hwy a aethant yn orymdaith drefnus o'r neilldu, tra y, cawsai y gweddill o'r dorfhamddell i lyncu dysglaicl neu ddwy, gyda thelpyn neu ddau o'r bara brith. a folid gymmaint—ac nid heb achos ychwaith. Pallodd amynedd y plant, a daethant yn eu holau cyn i'r dorf gael eu hanner digoni. Caed fod yr oil a fwytasanfc yn agos i 220, rhwng gwyr, gwragedd, a phlant. 11 Wedi i bawb gael eu digoni, galwyd ar y dorf i grynhoi at eu gilydd, yr hyn a wnaed yn uniongyr- chol. Yna cyinmerodd y Parch Thomas Jones y gadair, a gwnaeth amiyw sylwadau tra phriodol ar yr amgylchiad. Canodd y cor, o dan arweiniad Mr Owen Griffith, Glan Morfa, amryw o ddarnau yn dra swynol. Yr oedd y plant yn eu hwyliau goreu gyda'r Sol-fa. Yn nesaf, cafwyd anerchiad barddonol gan Mr Robert Jones (Gloewlas), ar Y te a'r bara brith, A'r llafar gan a'r llefrith, &c., yn bur dda. Mr R. Roberts, Caernarfon (Lle'w Glas), hefyd a gyfarchodd y dorf gydag araeth ddoniol, yn ol ei arfer. Rhoddwyd y diolchgarwch gwresocaf gan y plant i'r holl gyfeillion a chvfeill- esau a weiniasant mor dda arnynt, ac yn neillduol i deulu Cwm Mawr am eu cymmwynasgarwch a'u parodrwydd yn yr amgylchiad. Yna ffu-cfiivyd y plant gan eu harweinwyr yn orymdaith drefnus i gychwyn tua Thremadoc, hyd ochr ogleddol Craig y Dre. Y pryd hyn y cawsom ychydig o hamdden i edrych o'n cwmpas, i fwynhau yr olygfa ysplenycld a geir oddi yma ar y wlad oddi amgylch. O'n blaen y mae y Foel Gest (Nature's Monument of the Duke of Wellington). Rliyngom a'r mor llydan, a thros ei llepan, i'r gorllewin, y cawn hen gastell hynafol Cricieth; a thros ei ben yntau, dacw Ynys Henlli a'r Gareg yr Ymbil, a gwlad Lleyn ac Eifion- ydd; ac o danom, dyma Ddyffryn Madog— yn 11 Gan ffrwythydd, y dolydd, dan Or-enwog lifrai anian! Wi! ddyffryn a'i wedd effraw—godidog A dedwydd le distaw; O wele drem! y wlad draw, Mal Eden, cyn ymlwydaw Ond i ddychwelyd at y pwngc. Cawn i'r plant ganu ton yn Nhremadog; ac yna cychwynasant tua phentref Penmorfa, yn cael eu blaenori gan seindorf 4ydd catrawd Gwirfoddolion sir Gaernarfon (Porth- madoc), y rhai a'u hebryngasant am yn agos i han- r z, ner milldir, gan chwareu ar eu hofferynau. Ac wedi cyrhaedd pen y daith, rhoddwycl darn o fara brith i bob un o'r plant. Yna gwasgarasaut hyd chwech o'r gloch, pan y cyfarfuant yn y capel, yn y CYFARFOD LLENYDDOL. Yr oedd y capel wedi ei lenwi ymhell cyn yr adeg pemiodedig. Cynhygiodd Mr W. Roberts, Ty'n y berllan, gynt, ar fod i'r Parch Thomas Jones, gweini- dog y lie, gymmeryd y gadair; ac yna aeth y cyfar- fod ymlaen yn y drefn ganlynol:- Araeth gan y Parch Thomas Jones, yn bur ddy- ddorol ac adeiladol. Anthem gan y cor, Gloria Patri, yn dra swynol. Beirniadaeth y Parch Thos. Jones ar yr Attebion i'r gofyniadau Ysgrythyrol. Goreu, Mr Trcvor WiLianR, Tremadoc. Ypryd hyn y trosglwyddwyd llywyddiaeth y cyfarfod ithonias Jones, Ysw., cyfreithiwr, Portlimadoc, gan yllywydd, yr hwn a wnaeth esgusawd drosto ei hlin, ac a osod- odd ei gyfaill yn y --a yn ei le. Ar hyny, cododd Mr W. E. Williams (Gwilym Alltwen), yn y fan, ac adroddodd yr englyn difyr canlynol i'r llywydd— Yn llywydd tra galluog-y cafwyd Cyfaill o Borthmadog; Gwr anwyl, a gwir enwog; E' wneith ei ran-eitha rogue I Yna cafwyd anerchiad byr a blasus gan y llywydd newydd. Deuawd, Yr Amddifad, gan Meistri J. Humphreys a J. Rowlands. Cystadleuaeth rhwng y plant, Pwy yw'r blin bererin acw, &c. Goreu, O. Jones, mab Mr R. Jones (Gloewlas). Beirniadaeth loan Cybi ar y traethodau ar Hanes Joseph (i fech- gyn clan 21 oed). Goreu, Amos. Ni attebwyd i'r enw felly gwobrwywyd yr ail oreu, sef Mr Thomas Humphreys. Unawd a chydgan gan Mr John Humphreys, a rhan o'r cor. Beirniadaeth Gwilym Alltwen ar y pennillion i'r Sarff Bres. 'Goreu, Mr Owen Griffith, Glanmorfa. Darllenwyd hwynt, a derbyniodd y gynnulleidfa hwynt gyda chymmerad- wyaeth gwresog. Cystadleuaeth mewn datganu un- rhyw alaw yn cldifyfyr. Daeth tri o ymgeiswyr yn mlaen, sef Meistri E. Owen, Cwm mawr; O. Jones, Pwllgloewlas a J. Lumley, Penmorfa, Y blaenaf yn oreu, a gwobrwywyd y ddau olaf hefyd. Yn neaaf, cafwyd anerchiadau gan wahanol gyfeillion. Ynjgyntaf, anerchiad barddonol, Boreu oes yn Mhen- morfa, gan Gwilym Alltwen. Relish iawn gan y plant. Cafwyd anerchiadau tra dyddorol gan Mr John Williams (loan Cvbi), a Mr R. Roberts (Llew Glas), a chan Mr. WillMm Roberts, Tabor. Canig, Dis,laer ftf-vcl,,gan y .cor, yr hon a. dderbyniwyd gyda banlleiau o gjrmmeradwyaeth_ ac encor encor! a chanasant y pennill cyntaf drosodd drachefn. Beirniadaeth loan Cybi ar y traethodau ar Hanes Ruth (cyfyngedig i ferched). Goreu, Miss M. Will- iams, Careg Grech. Beirniadaeth Gwilvm Alltwen ar yr Englyn i'r Hen Gapel Seion, Penmorfa. Cer- ddor' yn oreu; ond awgrymwyd ei fod allan o'r gystadleuaeth, felly cafodd y nesaf ato, "vvil Ceryg Sebon,' sef Mr Owen Jones, teiliwr, y wobr. Yr oedd yr englyn yn debyg i hyn Ow drallod yw gweled (iiyllio-y deml Gaed yma i'r Silo; I'r un Duiv, a wi-aiiclawo Uwch y fan ei harddach fo Yna cafwyd dadl hynod o ddyddorol gaCl MrWm. Roberts, ysgrifenydd y cyfarfod, a Mr Owen Owens, Cwm mawr-Y Rhyfelwr a'r Amaethwr. Y cyntaf yn Rhyfelwr, a'r ail yn Amaethwr. (Cym neradwy- aeth mawr.) Cododd Gloewlas ar ei draed, a dywed- odd yr englyn canlynol 0 'r filain y rhyfelwr-a gododd Er gwawdio'r amaethwr; Honai ei dy, ei hfin, a'i d wr, A'i berlau yn ei barlwr! Anthem, Cydganwn ag Angelion Glan,an y cor, yn dra swynol. Beirniadaeth y Parch W. Ambrose (Enirys), ar y Beddargr;iffiadair. Cyntaf, y Mr. 'Thomas Griffith, Cue Cwm, gynt Wyth yn ymgystadlu. Goreu, ;Un o'i gyfoedion,' sef M* W. Roberta, Porthinadoc. Fel hyn yr oedd yrenglyt^- Is -cwys Tomas cost yma—o dy g-wyn Do, gynnar orphwysdra :T '■ r I'w therfyn, hardd fu'th yrfa, Ac ar dy ol mae gair da. Ail, y diweddar Mr Robert Roberts, gynt o Dy'n y berllan. Wyth etto yn ymgystadlu, a dim un yn deilwng o'r wobr. Deallwn y bwriedir rhoddi y testyn allan etto. Gentle Annie, gan y.cor, yn hynod o swynol. Canai JYIrs J. Rowlands yr unawd yn dra tharawiadol, a chafodd hearty cheers gan y dorf, ar gais Gwilym Alltwen. Beirmadaeth Mr R. Stephens (Moelwyn fab), ar Rainmadegiad ton o lyfr tonau Ieuan Gwyllt. Goreu, Mr Morris Jones, Felin, Tre- madoc, a derbyniodd y wobr. Eto, beirniadaeth Moelwynfab ar gyfansoddiad ton ar fesur 2il S.R. I Solf aoiwr' yn oreu, sef Mr Morris Jones. Can- molai y beirniad y don yn fawr, a chanwyd hi yn y fan gan Meistri M. Jones, R. Jones, 0. Griffith, H. Owen, H. Morgan, &e. Wedi cael anerchiadau gan y parchus a'r difyrus lywydd, a'r Parch T. Jones, Mr 0 Griffith, ac ereill, sypiwyd yr holl ddiolchiadau yn un gan Gwilym Alltwen, a'r hyn yr unai y gyn- nulleidfa gyda cheers gwresog. Canodd y cor Good Night a God Save the Queen, d'r hyn yr unai y gyn- nulleidfa, pryd y terfynodd un o'r cyfarfodydd mwyaf buddiol ac adeiladol o'r natur hwn a gafwyd yn un man erioed. Rhwydd hynt i chwi fyned yn mlaen gyda llwyddiant mawr yw dymumadl in- welydd. [Cyhoeddwn yn ein nesaf feirniadaeth y Parch W. Ambrose, gyda rhestr o'r'englynion sydd yn y dos- barth blaenaf, ar y Beddargraiffadau.—GOL.]
ABERSOCH A BWLCH TOCYN.
ABERSOCH A BWLCH TOCYN. Yr oedd Llun y Sulgwyn yn ddiwmod mawr i blant yr ardaloedd uchod, o herwydd dewiswyd ef er's amser maith o blith dyddiau y flwyddyn er cael pleserdaith i Borthmadoc. Gan nad oes rheilffordd o Laneugan i Bwllheli, gorfodwyd y cyfeillion i ddefnyddio cerbydau am y saith milldir hyny. Yr oedd y gobeithlu yn rhifo o ddeutu 130 a thrwy nad oes gan neb ond yr Atmibynwyr lu yn Llaneugan, yr oedd yn llawen genym ganfod nad oedd un rag- farn enwadol yn rhwystro plant y Methodistiaid, y Wesleyaid, a'r Bedyddwyr rhag ymuno a hwynt— Wele, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd.' Sylfaenwyd y gobeithlu trwy ym- drech canmoladwy y Parch H. T. Parry, Abersoch, yn yr Aber a Bwlchtocyn; a dengys y plant ol llafur eu hathraw cerddorol Mr Edward Jones, Ty'nycoed, yn eu lleisiau melusion a'u datganiaeth rheolaidd. Ond yn awr, ein gorchwyl ydyw rhoddi hanes y daith. Daethom i Borthmadog erbyn ychydig wedi un-ar- ddeg-, a chychwynasom am Borthmadoc. Yr oedd Cadben J. Ellis, y 'John Ellis,' ac ereill yn ein croesawu ar ein disgyniad. Ffurfiwyd yn rheng, ac aethom i gapel Salem a chanwyd yno ryw don neu dclwy, dan arweiniad Mr. E. Jones. Ond yr oedd yn mnlwg nad oedd y bobl mewn rhyw hwyl fawr i ganu, o herwydd ei bod yn awr yn tynu at un o'r gloch, a hwythau heb ymborth er yn gynnar yn y boreu. Y gwr anrhydeddus enwyd uchod, yn cael ei gynnorth-wyo gan y Cadben Edward Lloyd, Garth, a'r Cadben D. Richards, J-Lin., a aeth i'r draul o ddarparu ar gyfer y Band of Hope. Cafodd ystafell perthynol i Mrs. Thomas, Prince of Wales a thrwy gymhmorth a charedigrwydd Mr W. Timothy, Sail- maker, addurnwyd hi a dail, blodeu, a banerau, nes yr oedd golwg hynod o lawreddog arni. Y fonedd- iges garedig a wnaeth y bara brith ydoedd Mrs Owen, Siloam, a dywedwyd wrthym iddi fyned i drafferth nid bychan. Wel, yn awr, i'r ystafell hon y cyfeiriasom ein camrau am ymborth. Yr oedd yno ddigon o de (a the da ofnadsen,' chwedl rhyw chwaer oedd wedi bod yn ei yfed) a digon o fara brith, a neb llai na'r boneddigesau canlynol-Mrs Captain Lloyd, Mrs Captain Richards, Miss Mary a Miss Margaret Davies, Treganter Arms, yn gwasanaethu amom. Wedi ymborthi, aethpwyd o amgylch y dref i'w gweled, ac yna i'r capel erbyn chwarter i dri. Caf- wyd cyfarfod difyr yno, dan lywyddiaeth y Parch H. T. Parry-y plant yn adrodd dadleuon ac yn canu yn rhagorol. Ar y cliwecld, cyilwynwyd diolchgarwch i'r bon- eddigesau a'r boneddigion a enwir uchod am y draul a'r drafterth fawr yr aetliant iddynt er ein mwyn. Ac os oedd curo dwylaw yn rhyw arwydd o ddiolch, yr oedd ambell blentyn, a rhyw un neu ddau go bwysig mewn oed, yn methu a gwybod pryd i roi goreu i guro. Daeth y boneddigesau a'r boneddigion drachefn i'n hebrwng at y train. Mae cyfeillion Laneugan yn teimlo yn ddiolchgar a rhwymedig iawn iddynt; a buasai yn dda gan- ddynt eu gweled yn fuan yn eistedd ar ddaear las Trwyn y Bennar a seigiau y wlad o'u blaenau, er iddynt gael talu yr echwyn adref. Derbynied y cyf- eillion yn Mhorthmadoc ein diolchgarwch gwresocaf. —Gohebydd.