Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL GYMREIG.
Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOL GYMREIG. (Parotowyd yr Anerchiad a ganlyn gan y Parch, W. Rees, D.D., ar gais Cyngor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig. Cyhoeddir ef yn y TYST ac anfonir ef allan ar ol hyn yn draethodyn i'w wasgaru yn mhob inaii.-GOL.) DYMXJNA Cyngor y Gymdcithas Ddiwygiadol Gymreig yn Liverpool, wneyd yn hysbys i'n cydgenodl yn gyffredinol, beth yw egwyddorion ac amcanion ei sofydliad. Y mac y Gymdeithas cisoes wedi dyfod yn gryn allu. Is id yn ami y digwyddodd i un gymdeithas dynu cymaint o sylw y cyhoedd at ei gweithrediadau mor fuan ar 01 ei sefydliad cyntaf, a ag wnaeth hi. Cyrhaedd- odd llais ei chyfarfod cyntaf oil i glustiau Senedd Prydain Fawr,—cyfeiriodd y Prif Weinidog ei hun sylw Ty y Cyffredin ati. Anrhydeddodd John Bright hi a'i bresenoldeb yn ei hail gyfarfod, a dygodd ei henw a'i hanes i sylw yr holl deymas yn gyffredinol, ac y mae y Gym- deithas trwy ei enau ef yn yr araeth ardderchog a draddod- odd efe y noson hono, ynghyd ag araeth odidog ein cyd- wladwr galluog H. Richards, a'r boneddigion ereill oedd yno, wcdi effpithio dylanwad grymus ar y pedair cenedl o Gymry a Saeson, Gwyddelod ac Ysgotiaid, deiliaid gwr- logaeth coron y Deymas Gyfunol! Cyflwynodd amryw newyddiaduron Seisnig eu diolchgarwch calonog i Gyngor t) 11) r, y Gymdeithas am ei ymdrech lwyddianus i ddwyn Mr. Bright i Liverpool, gan ystyricd ddarfod iddo (y Cyngor) trwy hyny wncyd gwasanaeth mawr i achos gwirionedd a rhyddid yn gyffrodinol. Gwyddom fod ein cydgenedl yn y Dywysogactli yn cydlawcnhau a'u brodyr yn Llynlk-ifiud yn y llwvddiant dymunol a fu ar ymdrocliion y Gymdeith- as eisoes, a hyderwn yr ymunant yn ewyllysgar ac egniol a ni i weithio allan egwyddorion ac amcanion y Gym- deithas. Y mae yn ddealladwy i bawb bellach, ni a dybiwn, mai yr un a'r unrhyw ydyw egwyddorion y Gymdeithas hon, owy ag egwyddorion ac amcanion y blaid ryddfrydig yn Nhy Cyffredin y Senedd; yr egwyddorion a'r amcanion y mac Mr. Gladstone a Mr. Bright yn brif gynhrychiolwyr iddynt, .a dadleuwyr trostynt yn y Ty hwnw. Ymdrecha hi hau hadau yr egwyddorion hyny yn ei maes Cymreig yn Liver- pool yn neillduol, ac hyd y gallo, i gynhorthwyo ein cyf- eillion rhyddgarol yn Nghymru yn yr un achos. Ni fynai y cyngor mown un modd geisio gosod ei hun fcl arglwycld It rheolyd(I credo ac ymarferion gwleidyddol pobl Cymru, ond ewyllysiai eu calonogi a'u hanog i weithganvch cgniol Z, tros yr egwyddorion a garant ac a broffesant, a bod iddynt, iwythau galonogi ac anog eu brodyr Cymreig yn Liver- pool yr un modd, i gydymdreehiad ymroddgar o'u plaid. Yr amcan. mawr cyntaf sydd yn ngolwg ein Cyngor, ydyw gofalu am y cofrestriad ctholiadol,—edrych yn ddyfal am fod enw pob Cymro rhyddgarol yn y dref hon, ng yr oedd yr hawl bleidleisiol yn ei feddiant o'r blaen, a phob un y daeth yr hawl i'w feddiant drwy Raith y Diw- ygiacl St-neddol a basiwyd y llynedd: ar fod enw pob cyfryw un meddwn, i lawr yn brydlawn ar y rliestr.- Edrych ar fod pob troth ofynol yn cael ei tlialu yn yr amser gosodcdig, fel na chollcr un bleidlais hyd y byddo yn bosibl, o herwydd esgeulusiad o hyny. I Yn nesaf, gofalu am fod pob pleidleisiwr y rhoddir ^nybiuld o wrthwynebiad i' w bleidlais iddo gan y blaid I'oryaidd, yn lresenol i amddiffyn ei hawl yn y llys, pan ddelo y bargyfreithwyr heibio i brofi yr hawliau, neu fod i%w berson cymwys i ymddangos trosto, os na all fod yn »resenol ei lmn. Hefyd, gofala Cyngor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gym- reig, i sierhaii cyd-cldcalltwriaeth rhyngddo a Chynghor y Gymdeithas Ddiwygiadol Seisnig yn y dref hon, pi mher- fnynas i ddetholiad personau teilwng i gynhrychioli ein ^egwyddorion yn y Senedd: a chydweithredu or diogelu lietholiad i'r Ty. A dymunai y Cyngor wneyd yr oil a alio i gynhorthwyo ein cyfcillion yn Nghymru i gyracdd Yr amcanion hyn yno hefycl. a t?y-lei'a y C^ns°r ? 8oddefil ein "brodyr vn y Dywysog- | *ddo alw cu Ryl^ a thaergymell ar eu hystyriacthau xi J mater pwysig hwn, a bod iddynt ddcffro ato fel dd"^V1" Sc±ydlcr Cangen Gymdeithas yn mhob tref yn I 0, 10ocs c^m Hinsor i'w golli. Y mae yn dda iawn [ a'^ocl n8'01' gael ar ddeall fod amryw fanau wcdi deffro I barod yn egniol yn y cyfciriad hwn yn f- y^era y dilynir eu hesiampl yn mhob man trwy heb oedi dim. Y iaC cyfhvr presenol cynlnycliiolaeth seneddol y Dy- yj. 1,°^ Jn drilcnu> yn gymaint felly, nes y mac j ft. -j? aia^iad sydd rhw^g egwyddorion proifesedig ion e f nacth o Ymneillduwyr ag egwyddor- i Do -T1 a.e^°*a 'l °hynrychioli, yn peri hj d yn nod Düryaicl Seisnig synu ati; ac y niae ein cyfcillion rhydd- i oocl(i° Ll0Ggr yn cin dwrdio °'r ple^d W y blynydd- 5 liao. (', f mwy ° Rylw yn caeI ei ^ncyd o honom bellaclt 'i focT J101 0'r blacn- Disgwylir mewn canlyniad i'r cyfar- y1' Airtphitlwatr? y^gwna Cymru rywbeth | efFeithiol, rhag ei chywilydd, er gwellhau cyflwr ei chyn- hrychiolaeth yn y Senedd; ac os yn yr un trueni y bydd y eyflwr hwnw wedi yr etholiad nesaf, ni cheir taw na diwedd ar ddanod ac edliw. Pwnge mawr y Senedd nesaf, fel y gwyddoch,fydd dad- gyssylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys Brotestanaidd yn Iwerddon, a sefydlu cydraddoldeb rhwng pob plaid gref- yddol yn y wlad hono; a thrwy hyny (os llwyddir), sym- mud llwyth o orthrwm afresymol oddiar ysgwyddau y bobl yno, a dilcu y gwarthrudd sydd yn aros er's cenhedlaethau ar enw Prydain ac ar enw Protestaniaeth o'i herwydd. Dylai llais Cymru beth bynag fod yn ucliel, yn gryf, ac yn grocw yn y Senedd ar y pwngc mawr hwn. Ni all dim fod yn fwy anilwg, debygein, i bob mecldwl diduedd a di- ragfarn, nad dyledswydd arbenig pob Etholwr a gar gyf- iawnder a barn, a gar anrhydedd a heddweh ei wlad, ac a gar Brotestaniaeth efengylaidd, a'i ffyniant yn y tir, fydd pleidleisio dros yr ymgeisydd hwnw yn yr etholiad nesaf a ymrwymo i gefnogi Mr. Gladstone i ddwyn barn y mesur er dadgyssylltu yr Eglwys Sefydledig yn y Chwaer Ynys a'r llywodraeth i fuddugoliaeth. Y canlyniad sicr, agos, o fethiant y mesur hwnw yn y Senedd nowydd, a pharhad Mr. Disraeli a'i gydweinidogion yn eu swyddau, fyddai 0 chwanegu dwy Eglwys Scfydlcdig arall yn Iwerddon at yr un- sy(M yno eisoes, sef yr Eglwys Babaidd a'r un Bres- bvtcraidd. Y mae lluoedd o esgobion ac offeiriaid Pabaidd yn dirgel obeithio mai yn aflwyddiannus y try mesur Mr. Gladstone allan. Cynghora y newyclcliadur Pabyddol y Tablet ei ddaiilenwyr Catholicaisld i bleiclio Mr. Disraeli a'r Toryaid, mai hwynthwy yw eu gwir gyfeillion; ac y T mac holl ncwyddiaduron Jesnitaidd y Cyfandir yn llefaru yr un pctli, ac y maent hwy yn gwybod beth y maent yn ei g)lch. GAvybydded pob « mro, o Gaergybii Gaerdydd, y bydd iddo drwy bicidiui^io dros Dori yn yr etholiad nesaf, bleidleisio dros gamwri a thrawster sydd wedi myned yn ddiarcb trwy y byd—trawsecld na fedd ei bleidwyr gym- maint a rhith cysgod o res win i'w gynnyg drosto-ac ar yr un pryd bleidleisio dros wreiddoli^ Pabyddiaeth yn Iwer- ddon, a rhoddi felly fantais i'r Eglwys Babaidd i weithio yn mlaen hen ddymuniad ei chalon o adcnnill ei sefyllfa fel Eglwys Sefydledig yn y wlad hon Na ato Protestan- iaeth ac Ymneillduaeth Cymru i'r un Cymro fod yn euog o'r fath anfadwaith Cofiwn fod crefydd yn dyfod i mewn fel enaid pwngc yr etholiad nesaf; ac na chaffer yr un o honom yn cuog o'i bradyehu ar ddydd y prawf. Y cwes- t5 tiwn beth a wneir o'r Eglwys Sefydledig yn Iwerddon, gan hyny, fydd cwestiwn mawr yr Etholiad a'r Senedd ddyfodol, a llais y wlad ar ddydd yr etholiad sydd i'w ateb a'i benderfynu. Yr oedd gan y Cynghor o'r dechreu olwg a gobaith am gael Cymrij i gylch cydweithrediad a'r Gymdeitlias, ond barnai mai doethineb iddo oedd bod yn gynnil, cyn gwy- bod both oedd syniad a theimlad Cymru ci hun ar y mater. Ond yn awr, wcdi gweled parodrwydd calon, ac awyddfryd yspryd cin cyfcillion yn mhob man trwy y Dywysogaeth 1 gydymegnio a'r Gymdeithas, y mac y Cynghor yn hyder- us y gellir ffurfio rhyw gynllun allan o law i gydweithredu nnlO. Cymmerwn ein cenad i ofyn, ai nid.buddiol fyddai cael cvnhadledd yn rhyw dref yn y Goglcdd mor t, y t) fuan y bo modd, i gydymgynghori ar y mater, a threfnu b t, rD mesurau, &c.—darlithwj'r, goruchwylwyr, &c. fel y barner oreu. Y cyfryw yn fyr ydynt yr egwyddorion y mae y Gym- deithas wedi ei sylfaenu arnynt, a'r amcanion sydd ganddi mewn golwg i gyrchu atynt; a hydera y Cynghor eu bod yn egwyddorion ac amcanion a gymmeradwyir yn galonog n r, gan fwyafrif clirfawr o'n cydgenedl yn y dref hon ac yn N ghymru. Dangoscr a phrofcr y gymmeradwyacth hono nid mewn gair yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd hefyd ar ddydd yr Etholiad. Y mae adeg yr Etholiad yn awr gerllaw; y mae yn dra thebygol, agos yn sicr, nad a y flwyddon hon heibio cyn ei dyfod arnom ac Armagedon yr etholiadau a fydd efe yn ddiau. Bydd un o'r achosion pwysicaf a fu dan ystyriaeth senedd y deyrnas hon erioed, fel yr awgrynnvyd eisoes, i gael ei bendcrfynu yn union mown canlyniad iddo achos eyfiawndor, aehos crefydd, achos ccnedl orthrymedig ac anfoddog; achos anrliydedd Prydain Pawr yngolwg teyrnasoedd y byd, ac aclios ei heddweh mewnol ydyw yr achos hwnw. Os na rydd yr etholiad ddigon o fwyafrif yn y senedd nesaf iddi roddi sel 01 chymmcradwyaeth ar y mesur a gariodd Mr. Gladstone yn Ilwycldiannus trwy y senedd brescnnol, meddwn un- waith etto, CWYlllpa cyfiawnder yn yr heol: cynnydda yspryd anfoddlonrwydd a gwrthryfel yn I werclclon-erys gwarth Prydain a'i Phrotestaniaetli heb ei ddilen, a gweuir y deyrnas a llawer o ofidiau. Unwaith etto Gymry anwyl, deffro wn, cyfodwn, ym- restrwn i'r fyddin, ymwregyswn i'r frwydr, diystyrwn bob bygythion a ■<?criwiau, ac ystrywiau a stranciaxi, y rhai a fynont ein gorfodi i fradychu ein hcgwyddorion a'n cyd- wybodau drwy bleidleisio dros ymgeiWyr gelynol i'r eg- wyddorion hyny i'w eamgynnrychioli yn y senedd. Un ymdrcch unol, egniol, bendcrfynol, a dorai rwymau yr hen iau dan yr honyr ydym wedi gruddfan cyhyd;" fcl na ellid byth ei dodi ar ein gwarau mwy. ilb (afT I
CYFAEFOD CHWAETEEOL YR ANNIBYNWYR…
CYFAEFOD CHWAETEEOL YR ANNIBYNWYR YN SIR FAESYFED. GAN KILSBY. (Parhcid o'r JRhifyn diweddaf. J Yn ol ein haddewid rhoddwn i'n darllenwyr ychydig o hanes y Parch. John Griffiths o Portway, neu, yn briodol, Porthwy, gan fod Bachwy yn tarddu yn agos i'w annedd. Gwr glandeg, gwridgoch ydyw ein cyfaill, o daldra canolig, ac anarferol o ifanc ei yspryd ac ystyried ei fod yn 55 mlwydd oed. Dywedir nad yw'r galoib byth yn heneiddio, ac y mae ieuenctyd yn nhonau llais Mr Griffiths, yn ystumiau ei gorph, a swn ei gerddediad. Sieryd yn eglur ac mewn ton gysurus o isel, ac nid ar gopa ei lais fel mae arfer y rhan luosocaf o amaethwyr. Nid oes dim yn fwy tramgwyddus i dabwrdd ein clustiau na llais-donau rhy uchel i bawb ond cynulleidfa o fyddariaid. Mae ein brawd yn byw ar ei dyddyn ei hun yr hwn sydd yn cael ei wrteithio yn fedrus ganddo, a chan ei fod yn ddiwyd ac yn weithgar, ac yn thorough man of business, mae y byd, yr hwn sydd yn was ufudd, ond yn feistr caled, o dan ei draed. Mae ei dorth yn ddiogel, ac y mae hyny yn gym- horth mawr i ddyn i ddyweyd ei feddwl yn ddiofn a di- dderbynwyneb mewn byd ar delerau rhy gyfeillgar a thad y celwydcl. Mae ei gyndeidiau wedi byw am bedwar cant o flyny^lau ar eu treftadaeth eu hunain, yr hyn a brawf eu bod yn bobl ofalus a gafaelgar os nad yn anturiaethus. Dygwyd ef i fyny yn eglwyswr, ac fel un o fynychwyr ei eglwys blwyfol gwnai ei hun yn wasanaethgar iawn fel cantor, a digon tebygol taw parhau yn llanwr a wnaethai oni buasai i'r offeiriad ei gyhuddo o fod yn hoff o ganu emynau rhy efengylaidd, yr hyn a alwai ei athraw diras yn Methodist Hymns, er mewn gwirionedd nad oeddynt ond emynau allan o gasgliad eglwysig: ond yr oedd arogl a bias efengyl arnynt, ac o ganlyniad annerbyniol oeddynt gan ganlynwr (gauJ yr apostolion. Gwarafunwyd iddo i ganu, ac mewn canlyniad gadawodd yr eglwys. Yn y cyf- amser yr oedd amaethwr a phregethwr o'r enw Lloyd newydd symmud o Gerygcadarn, yn sir Frycheiniog, i Lan- yrafon, yn ymyl Cas' Pain, a elnvedi dechreu pregethu yn ei dy ei hun, a'r gwr da hwn a ddechrouodd yr achos An- nibynol yn yr ardal dywell hon, )"n gystnl ag yn Llanbadarn- gareg, o fewn pedair milltir i Lanfair yn Muallt. Aeth Mr Griffiths i'w wrando, a chafodd ei argyhoeddi dan ei weinidogaeth, ac fel prawf o wirionecldoldeb ei ddychweliad gofynodd i'w Feistr pa beth a fynai ef iddo wneuthur drosto a chan nad oedd dim yn fwy arbenigol o angen- rheidiol yn yr ardal lie trigai na gwneud cymmeriad, gwaith, a hawliau y Meistr hwnw yn adnabyddus, dech- reuodd lefaru yn gyhoeddus yn ei enw, a gwneud ei hun yn ddefnyddiol yn mhob ffordd ag oedd angenion moesol y gymmydogaeth yn ofyn ar ei law fel Cristion. Ar ol marwolaeth Mr Lloyd cafodd ei ddewis yn olynydd iddo, a chafodd ei urddo i'r weinidogaeth yn y flwyddyn 1852. Gomeddai ar y cyntaf i gymmeryd ei ordeinio, gan nad ystyriai ei hun yn gy;nhwys i wneud rhagor fel genau cyhoeddus na phregethu yn achlysurol fel lleygwr. Ond breuddwydiodd freuddwyd, yn yr hwn y gwelai ddydd yr urddiad wedi dyfod, a'r manau yn y capel lie yr eisteddai y gwahanol weinidogion ag oedd i gymmeryd rhan yn ngwasanaeth y dydd. Gan gredu fod y Goruchaf yn parhau i ymweled a dynion yn ngweledigaethau'r nos, golygai y breuddwyd fel awgrym o'i ewyllys, a chydsyn- iodd a ehais y cyfeillion yn y lie i gymmeryd ei ordeinio. Ni bu ganddo am flynyddau ond Capel Hermon, yr hwn a adeiladodd, i bregethu ynddo, ond wedi iddi fyned yn ech- wydd a nos ar dipyn achos y Primitive Methodists yn Cas' Pain, prynocld eu eapel yn yr hwn y pregetha yn bresenol yn lie yr amaethdai a'r cottai lie y gorfyddai yn flaenorol i bregethu i'w gyinmydogion. Nid oes un ddadl nad yw wedi gwneud gwaith efengylwr yn ei ardal enedigol lie y mawr berchir ef gan bawb ar lawer o gyfrifon nad oes amser i'w henwi. Mae ei natur dda, neu yr hyn a ddewis ef ei hun alw my own folly, wedi costio iddo gannoedd o bunnau trwy feichnio pobl hroffesedig o grefyddol, ond mor anonest a diegwyddor a thad y celwydd ei hun ond yn fodus mae ei amgylchiadau yn rhy dda i'r symiau mae wedi orfod daln dros ladron twyllodrus i fenu arnynt, ond y mae y twyll a gafodd oddiwrth ddynion yr oedd ganddo bob lie i gredu y dylasai ac y gallasai ymddiried ynddynt wedi yn ddiau wneud poth niwed i'w yspryd haelionus, ond trwy ddylan- wad gras ar laeth y tynerwch dynol a'i dynoda, ac ysgol ddrudfawr ond effeithiol profiad, mae yn dechreu gwella o'r clwyfau a gafodd yn nhy ei gyfeillion fgauj, ac ad- feddu y sirioldeb a'r heartiness am ba rai yr oedd yn ddiarebol yn flaenorol i'r profedigaethau costus y cyfarfydd- odd a hwynt. Mae Mr. Griffiths yn deall y secret o efyngleiddio gwlad yn llawn cystal a'r hen ddiwygwyr Cymreig ag y proffesir cymaint o edmygedd o honynt. Trwy bregethu yr efengyl am ddim, y mae yr efengyl wedi llwyddo i wreiddio ei hun mewn llawer ardal lie yr erlidiwyd ei phregethwyr cyntaf. Trwy lafur ac anhunedd y cyfiawnion hyny sydd yn awr yn ddiogel yn y nef y mae i niferi o bregethwyr yr oes bres- enol etifeddiaeth deg, a chofied y rhai ffodus hyny taw a gwaed merthyron yr achleswyd, ac mai mewn amserau en-, bydus y planwyd pren rhyddid dan gangenau cysgodfawr yr hwn y gorphwysant hwy heb fod neb yn beiddio eu haflonyddu. Trwy fod ganddo ddigon o eiddo galluogh- Mr Griffiths i bregethu am ddim i gynulleidfaoedd bychain Hermon a Chas' Pain, ac a'i ddwylaw ei hun yr ymgynal- iai'r apostol g-ynt pan efengylai i'r cenedloedd, a'r un llaw a ddefnyddiodd i wneud pebyll, casglu briw-wydd yn Melita, a fu yn ysgrxfenu y llythyr at y Ehufeiniaid—llythji" ag y dywedai Coleridge ar ol ei astudio yn ddyfal am ddeu- ddeg mlynedd ei fod yn meddwl (nid mewn un modd yn sicr) ei fod yn deall rhyw gymaint o hono! Ond gyda liaw, efallai ei bod yn awr yn bryd i Mr. G. ddysgu pobl ei ofal i wneud rhyw gydnabyddiaeth iddo am ei lafur er mwyn eu parotoi i gynnal ei ganlyniedydd, yr hwn efallai, ac yn fwy na thebygol, a fydd wr heb un tyddyn o'i eiddo ei hun i'w gynnal. Yn ystod em liarosiad dan gronglwyd letteugar ein cyfaill adroddodd wrthym lawer o bethau pur hynod mewn perth- ynas i offeiriaid, llanrm, personau unigo'l, a sefyllfa gym- deithasol a chrefyddol yr ardal. Dan ei gyfarwyddyd yin- welasom ag eglwys ei blwyf sef Br^g^vyn, yr hon sydd yn gyflei ig cl1 ? s ^T11 oddiar goppa yr hwn mae golygfa hardd ac amrywiol. Mae y fyAvoliaeth yn werth tri chant y flwyddyn, ond, trwy drugaredd, nid yw y synagog dylotaf a bertjiyn i x Jimeillduaeth hanner mor druenus a'r eglwys hon. Mao mdilution yr adeilad yn berffaith, canys mae pob ffenestr yn dyllau, ac felly y to, a'r un modd y tipyn clochdy coed sydd ami. Nid oes achos i'r Jackdaws wastraffu amser wrth ehedeg o'u cwmpas, canys medrant fyned trwyddo yn mhob cyfeiriad. Os nad oedd Honed berfa o faw yn y pulpit nid oedd yno ddim, a gallasid cael llwyth cart o hono yn yr holl adeilad pe byddai i'r hen eglwys gael y fath amheuthyn am unwaith a chael ei hysgubo. Mae rhyw wyth o eneid- iau yn mynychu y lie ar y Sul. Dyna fan cysurus i bade-ra ar ddiwrnod o eira a rhew yn y gauaf! Ac y mae y He addoliad hwn yn eiddo i'r enwad crefyddol cyfoethocaf yn y deyrnas. Wyth o eneidiau, os eneidiau hefyd, a thri chant o bunau am ddysgu iddynt y ffordd i'r bywyd! Yr eglwys sefydledig ei hun, ac nid Ymneillduwyr, sydd yn offerynol i ddwyn oddiamgylch ei chwymp. Tri chant o bunau o gyflog i'r offeiriad, a hwnw bob Sul yn dweyd ei bader a'i gredo ynghanol llonaid wheelber o faw! Dyma ei gwneud hi yn galch! Dyma olyniaeth apostolaidd fendigedig! Baw! baw! baw! ar bob tu! Ond er cynddrwg yw baw. gwlyb neu sych, mae e yn well na chelwydd glan goleu— celwydd yw adenedigaeth trwy fedydd-celwydd yw fod adgyfodiad buddugoliaethus i bawb—a chelwyddau, yn 01 tystiolaeth Mr. Griffiths, oedd ac sydd ar y ceryg beddau yn monwent Brynwyn. A barnu yn ol tystiolaeth y ceryg beddau yr oedd yr ardal wedi cael colled anrhaethol oddi- wrth ymadawiad pryfed ag y buasai dyn canolig o foesol yn foddion cadi ticket iddynt a thalu eu fare i ben y daitli-sef-- (I'w orphen—positively ys dywed y Showmen—yn y nesaf.)
CLADDEDIGAETH FY MEAWD.
CLADDEDIGAETH FY MEAWD. Dydd Iau diweddaf, Mehefin lleg, 18HS, yr hebr^Q-.vycl gweddillion fy mrawd o'i gar tref byr yn yr Abermaw, i dy ei hir gartref yn mynwent y Brithdir, gerllaw Dolgellau. Yno y dodasom ef i orwedd ochr yn ochr a'n diweddar hy- barch dad, yr hwn a gladdasom ryw chwe mis i'r un dydd- iau. Dranoeth daeth y TYST i'm llaw, yn cynnwys llinellau coffadwriaethol am yr 'Hen Olygydd,' gan y Parch D. Price, o Newark, sydd newydd lanio yn y wlad hon. Yr oedd eu darllen yn effeithio yn drwm ar fy nheimladau. Yr oeddwn newydd ddychwclyd oddiwrth fedd fy nhad, ac ychwanegu gweddillion fy mrawd i gydgymysgu a'r eiddo ef, yn y llwch, yn y llanerch dawel a chysegredig hon, hyd foreu caniad yr udgorn. Yr oedd rhyw deimladau annes- grifiad^y yn ymwthio drwy fy mynwes ar lan bedd fy mrawd, a rhyw ddymuniad hiraethlon yn esgyn o'r Ilanerch gysegredig hon, o blith y meirw, i drigfanau bythwyrddion y bywyd, lie y gobeithiwn fod fy mrawd wedi cyrhaedd; tra yr oedd ei gorph ef a'r eiddo fy nhad yn cydorwedd yn y llwch yn nghladdfa fechan y Brithdir, fod eu rhanau ys- prydol wedi cydgyfarfod i gydblethu odlau o fawl i'r Hwn a lwnc angau mewn buddugoliaeth, mewn gwlad o fywyd bythol. Mae gan y clail prydferthion, teg eu gwawr, Eu hadeg pan y syrthiant oil i'r llawr A'r blodau cain, gan rym y gogledd wjTit, Cydwywo maent 'run tymhor, megis cynt; Yr haul a'r ser, wrth reol aent bob un, Ond Angau fyn bob tymhor iddo ei hun.' Yr oedd yr Hen Olygydd' yn disgyn i'r bedd fel tywysen aeddfed—* fcl y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser;' ond yr 1= oedd fy mrawd yn syrthio dan law angau yn 37 oed-yn nghanol ei nerth a'i ddyddiau. 'Angau fyn bob tymhor iddo ei hun.' Chwe mis yn ol, pan y dodwyd fy nhad yn y gladdfa, yr oedd anian oil dan leni llwydion y gauaf, gwelwder marwol- deb wedi ymdaenu drosti, y meusydd yn wyw, a'r goedwig yn llom; nid oedd glaswellt yn tyfu o'r ddaear, na blodeuyn na rhosyn yn addurno y llethrau; yr hen goeden yn nghlawcld y fynwent fel yn crino ac yn gwywo ymaith. Ond y diwrnod y claddasom ein brawd y mae anian fel wedi adgyfodi o byrth inarwoldeb-y meusydd dan leni gleision irwellt haf, y rhosyn yn prydferthu y fron, a'r goedwig wedi gwisgo ei choron aml-liwiog o ddail. Y mae pob peth yn dangos bywyd ar bob llaw-ond y bedd! Ah! yn adgyfod- iad anian, rwy'n tybio gwelaf eilun gwan o'r adgyfodiad mawr o byrth angau, pan fydd Dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd.' Chwe mis yn ol, pan gladdasom fy nhad, yr oedd chwech o'i feibion yn eu nerth a'u hiechyd yn ei ollwng i'w ystafell' yn y pridd, fel ydywed Mr Price,— Dodwyd corff ein hathraw tirion Gan ei feibion yn ei fedd. Chwech o frodyr, oil mewn oedran, Wedi dewis Duw eu tad.' Oedd, yr oedd yno chwech o honom yn sefyll ar lan bedd fy nhad chwe mis yn ol; ond heddyw, wele y chwech wedi eu tynu i lawr i bump. Dacw y punb brawd heddyw yn gollwng gweddillion y chweched i'r bedd Y mae angau wedi gwneud rhwyg yn mhlith y brodyr—dyma le Dafydd yn wag.' ( Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn, canys y gwynt a a. drosto, ac ni bydd mwy o hono, a'i le nid edwyn ddim o hono ef mwy.' Nis oes genyf yr un awydd i wyngalchu bedd fy mrawd. Yr oedd efe yn ei holl gysylltiadau masnachol a chrefyddol yn wr unplyg, gonest, a didwyll. Enillodd iddo ei hun air da gan bawb, ac ni a obeithiwn gan y gwirionedd ei hun. Nid oeddwn yn bwriadu wrth gychwyn y llinellau hyn ond yn unig daflu allan awgrymiad a'm tarawai yn effeithiol wrth ddringo y rhiwiau o Ddolgellau tua chladdfa y Brith- dir, ddiwrnod claddu fy mrawd. Diolch i eglwys y Brithdir a'r holl gyfeillion am ganiatau i lwch fy nhad, a'm mam, a'm brawd gael gorphwys o fewn i'r llanereh ddistaw, dawel, a chysegredig hon. Bydd y llecyn hwn byth yn gysegredig yn fy ngolwg. Perored yr adar eu corddi melusaf oddiar gangau eu choed, tyfed y gwyrdd-ddail a'r blodau mwyaf swynol, a chwythed yr awel fwynaf yn natur byth dros y Ilanerch brydferth hon, ac na sanged byth ei chyffiniau ond gyda pharch a gwyleidd-dra teilwng o'r gwroniaid a hunant o fewn ei mynwes. Ond, nid yw y fynwent hon ond bechan! ac nid yw ychwaith yn hen, ond y mae yn prysur lenwi. Y mae y wlad yn wlad Ymneillduol, a diau genyf mai o fewn i fynwent Ymneillduol yr hoffent i'w llwch orphwys hyd y dydd mawr. Yr wyf yn deall fod mynwent y brodyr parchus y Method- istiaid Calfinaidd hefyd, gerllaw eu haddoldy yn Nolgellau, eisioes yn rhy lawn. Yr wyf gan hyny yn dymuno taflu yr awgrym yn garedig at lioll Ymneillduwyr Dolgellau a'r cylchoedd, yn Fethodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd, yn Annibjaiwyr a BedyddwYT-oll, ar iddynt ymffui-fio yn bwyllgor er trefnu mesurau i sicrhan Cemetery gyfleus i'r dref a'r ardal, fel y gallont gladdu ei meirw ynddi. Byddai hyn yn goron ychwanegol ar ben Ymneillduaeth y wlad. Nid oes dim yn eisiau ond dechreu y gwaith. Y mae yn eich plith ddigon o nerth a dylanwad i ddwyn hyn i bon yn yn fuan. Fy ngweddi yw ar i chwi ymwregysu. Ydwyf, C. R. J.