Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNIBYNWYR…

News
Cite
Share

CYFARFOD CHWARTEROL YR ANNI- BYNWYR YN SIR FAESYFED. GAN KILSBY. (Par had o'r Rhifyn diiveddaf.) Mae mwy o dcbygolrwydd rhwng gyrfa dyn- ion a rhedfa afonydd na rhwng unrhyw bethau eraill yn ein byd ni. 'Dydd y pethau bychain' yw hi ar y rhan twyaf o afonydd ar eu cychwyn- lad o'u llefydd genedigaethol anhygyrch, a thrwy lawer o rwystrau yr ennillant gryfdwr ac y gweithiant eu ffordd i'r dyffryndir bras meillionog, coedog, ne yr adlewyrchir ar eu gwyneb gwydrdebyg cysgodau goedydd talfrig aralgangenawg na fedrent fyw yn y mynyddau lie tarddant. Mae boreu oes llawer dyn yn ddigon dinod a tlirafferthus, ei ganolddydd yn desog a llwyddianus, a'r hwyr yn dywyll a chymylog. Ta-rdda y Bachwy yn y Rhosgoch, ac am ychydig filltiroedd rhed trwy ganol dyff- ryn toraethog a thlws, ac yna cyfyngir ar ei gwely gan fryniau serth wrth odreon y rhai y Ca fawr drafferth i wneud ei ffordd am y rhelyw gyrfa hyd y man yr ymgymysga a dyfroedd Gwy. Ar ol esgyn o gul wely yr afon yn Nghraig-pwlldu, eyrhaeddasom o'r diwedd ddyffryn hyfryd a chydmariaethol wastad, ac yn dwyn arwyddion diymwad o wrteithiad. Yr oedd yr amaethdai yn rhai da a chyfleus, y meus- ydd yn obeitliiol yr olwg arnynt, a'r anifeiliaid yn edry £ h yn grynon a llowyrchus. Ar ol ei throedio hi yn ddiwyd am oddeutu awr cyr- haeddasom bentref byclian Castell Pain, gwedd- illion yr hwn sydd yn gyfleuedig- ar dipyn o gnwc ar ochr orllewinol y dyffryn, ac yn agos i'w odre mae capel bychan yr Annibynwyr, yn yr lm n yr oedd y cyfarfod chwarterol i gael ei gynnal dranoeth. Mae capel a,rall dan ofal Mr Griffiths, ac y mae hwnw o feVm chwarter milltir i'w dy, ac o fewn dwy filltir i'r Cas' Pain, ac yn yr hwn yr oedd y moddion cyhoeddus i ddechreu. Rhwng ymweled a Chraig-pwlldu, disgyn ar hyd lethri serthion y man hwnw a'u hesgyn, daearegu, rhedyna, a cholli ein ffordd yn y dyff- ryn, yr oeddym wedi hir dreulio y Uuniaeth a gawsem yn Nghafn Twmbach, a'r cropwl canol wedi myned yn ddiberswad, ac nid oedd yn bosibl pedestru yn mellach hyd nes dystewi llais y cylla a rhoi rhywbeth amgenach iddo i wneud na danfon deisebau i'r felin; a chan nad oedd- ym yn adwaen neb yn y dreflan, i mewn yr aeth- om i'r Maesllwch Arms, dan ddylanwad credin- iaeth gyflawn yn y ddiareb a dystia taw I gweh ceiniog na brawd.' Yr oeddym mor wancus a phe buasem wedi bod yn hel llwynog, a gorch- ymynasom de, ham ac wyau gydag awdurdod pobl yn gwybod y medrent dalu am a fwytaent, a chyda phwyslais digamsynied gwancusedd. Gyrasom genadwri o heddwch i'n dynion oddi- mewn gyda gwydraid o gwrw iachus, a dysgwyl- iasom yn amyneddgar am barotoad y trugaredd- au gorchymynedig, a thra yn arfer gras Job cawsom amser i sylwi ar y gwyddfodolion. Yn un gongl o'r ystafell eisteddai packman yr hwn a ddadebrai ei natur luddedig a llymaid o gwrw a phibellaid o ddybaco, tra gyferbyn ag ef yr eisteddai hen navvy o Wlad yr Haf o'r enw Robert Fowler, yr hwn yr un modd a lonai ei galon a bara a chaws a sudd yr heiddyn. Ym- ddangosai yr olaf, yr hwn oedd wedi gwaddodi yn yr ardal ar ol gorphen y Mid Wales Railway, yn bur gymodlon a'i dynged ac a'r man yr oedd ei linynau wedi disgyn, tra y grwgnachai y blaenaf oblegid nad ydoedd ei faich yn ysgafn- hau yn ddigon buan ar hin mor wresog. Dyna'r bwyd yn barod o'r diwedd, ac i mewn yr aethom yn ddwfn i serchiadau yr ham a'r wyau, gan Wneud ein hoi yn ddinystriol arnynt, nes peri i Wyneb gwraig y dafarn ddifrifoli i sobrwydd profedigaethus o chwerthinol. A bu tawelwch niawr yn ein rhanau mewnol, a ninau a deimlem yn gonservative dros ben. Radical yw pob dyn cyn ciniaw, ond ar ol ciniaw sylweddol mae pob dyn yn glamp o dory iach ei yspryd, a chyfan ei galon. Ar ol talu gofynion eithaf rhesymol ar ol gwneud argraphiadau mor n ar y trugareddau, prysurasom tua chapel ermon, gan ei bod hi erbyn hyn ychydig dros ben yr amser yr oedd yr oedfa hwyrol i ddechreu. Pan gyrhaeddasom y synagog ddiaddurn hon oedd ysgolfeistr cloff o Huntington school pregethu, ond can gynted ac y croesasom y trothwy, dyma fe yn cau ei enau ac yn arfer rhyw ddiwydrwydd anarferol i ddianc o'r pulpit er mwyn rhoddi lie i'r dyeithriaid. Llefarodd o honom, a gorphenwyd yr oedfa. Gwersyll- y noson hono yn nghartref cysurus y Parch. tor y1 yn byw ar ei dyddyn ae og ei hun, ac yn cael ei amgylchu gan bob cystir dyuaunadwy-ty helaeth, a phrospect da iawn o dan loffty gegin, nid amgen na llawer o hams, ac yn nghymdeithas frawdol ystlysau moch ac eidionau, ynghyd a'thafodau y rhai hyny druain. Mae Mrs Griffiths yn ddynes lan- deg, siriol, garedig, ac yn medru y gelfyddyd o drefnu ei thy i berffeithrwydd. Cawsom y mab, a'r unig blentyn, yn fachgen hawddgar, gwyl- aidd, a gwybodus, ac hoff o lyfrau. Cyn gorphen hanes y Cyfarfod Chwarterol, rhoddwn amlinell bywgraphiad y penteulu ger bron ein darllenwyr, canys teilynga hyn ar ein llaw. Ar ol swperu, chwiffio mygyn, a thipyn o ymgom siriol, aethom i orphwys, ond nid cyn i'r rhedynivr gael addewid gan fab y ty i'w ar- wain boreu dranoeth i'r Rhosgoch (150 o gyf- erwau o fawndir gwastad), sef tarddle y Bach- wy, a thrigfan ei frenines, set y Royal Fern. Cysgasom yn felus, ac heb wrando llais yr aderyn, ac mewn amser cyfaddas dychwelasom i Cas' Pain erbyn oedfa deg o'r gloch. Nid oedd ond tri o weinidogion yn bresenol heblaw gweinidog y lie, ac nid oedd y gynnulleidfa dros ddeg ar hugain, a chyfrif Robert Fowler, sef un o sediments y ffordd haiam. Yr oedd Robert, yr hwn sydd yn wyngalchwr wrth fodd calon gwragedd glanwaith, wedi cael gwaith gan Mr Griffiths, ac yn ystyried taw ei ddyled- swydd oedd mynychu y cysegr ar yr achlysur presenol mewn ffordd o dalu'r pwyth i fugail y y lie, a sicrhau rhagor o waith. Ni thraddod- wyd ond un bregeth, ac yna awd i Lanyrafon, ffarm fawr yn ymyl y pentref, yr hon a ddelir gan, yn ol tystiolaeth Mr Griffiths, un o'r dyn- ion goreu yn yr holl wlad. Wrth fyned i'r lie hwn, esgynasom i goppa glaswelltog gweddill- ion yr hen gastell, lie yr arferai pobl, pan yr oedd Mr G. yn ifanc, yinneillduo ar ddyddiau y ffeiriau a gynnelid yn y pentref, i ymladd a'u gilydd. Ymladdent un round, ac yna aent i'r dafarn i ddisychedu eu hunain, ac yna atti hi drachefn, ac felly yn y blaen-paffiaw a photiaw bob yn ail-hyd nes goddiweddid hwynt gan y nos. Ond mae'r arferiad annuwiol hon wedi ei difodi er ys talm trwy ymdrechion ac esiampl crefyddwyr yr ardal. Ar ol prydnawnfwyd cysurus yn Glanyrafon, dychwelasom i'r cyfar- fod prydnawnol, pan yr oedd oddeutu deugain o bersonau yn bresenol. Pan yn dynesu at ddrws y capel, canfyddem Robert Fowler yn prysur blastro cymydogaeth pyst yr unig ddrws sydd ar y synagog, ac ofnem mai plastro wnaethai yr hen bryfyn trwy holl ystod yr oed- fa, ond er ein llawenydd daith i mewn, gan eis- tedd yn ymyl y drws a'r llwy forter yn ei law, gan ei symud hi yn ol a gwrthol tra bu dau wr yn pregethu, a chan gyfeirio ei olygon tua'r ddor, fel pe buasai calon Robert a'i Iwy forter gyda'r gwaith annorphenedig oblastro oddi- allan, yn hytrach na chyda'r gorchwyl oedd yn myned yn ralaen yn y capel. Ar ol yr oedfa brydnawnol, aeth yr hen wyngalchwr i'r Maes- llwch Arms i yfed iechyd iddo ei hun, ac yni- ddengys iddo wneud hyny yn hytrach ar yr heartia, canys yn yr oedfa hwyrol, pan yr oedd y capel bach yn llawn, siaradai wrtho ei hun ar glyw, yr hyn a ogleisiai dipyn yn ormod ar y bechgynach yn ei ymyl. A chan i un o'r llefarwyr ddygwydd dweud gair neu ddau go finiog yn erbyn y meddwyn, gan, ar yr un pryd, bwyntio yn ddifeddwl yn y cyfeiriad lie yr eis- teddai yr hen blastrwr sychedig, gwnaeth ei gydwybod yntau gymhwysiad mor bersonol o'r cerydd, fel y ffromodd yn arw, a chan gynted ag yr oedd y bregeth drosodd, ffwrdd ag ef i'r Maesllwch Arms, er mwyn yfed y cerydd i ebargofiad. Druan o'r hen wyngalchwr Duw drugarhao wrtho, meddwn ni o'n calon. Yr oedd y gwrandawyr yn eithaf astud, a'r canu yn anarferol o dda. Gobeithio i'r cyfarfod atteb rhyw ddyben daionus. Yn ein llythyr nesaf a gorphenol, bydd genym ryw hanesion pur hynod i'w rhoddi am bersonau a llanau hynod cymydogaeth Cas' Pain. (I'w orphen yn y nesaf.)

Y CYFARFOD DIWYGIADOL YN LIVERPOOL.

BLAENAU FFESTINIOG,

MANION 0 FYNWY.

MARCHNADOEDD YR WYTRNOS.

MASNACH MARCIINADOETfD CYMREIG.

EJHYD-XBONT.

BLAENBLODAU, NEW INT.

[No title]

ABERYSTWYTH.

CAERFYRDDIN.

Advertising

PORT TENNANT, ABERTAWY.i

YSTALYFERA.

BRYSTE.

WYDDFAI.

ROE WEN.

Family Notices

ABERSYOHAN.

LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.