Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

','CYNNULLION O NANNAU.1

PREGETHWYR CYNNORTHWYOL A…

LLAIS Y WLAD, A LLAIS Y DRE.

AT Y PARCH. T. PHILLIPS,-…

LIBANUS, TREFORIS, A'R PARCEt…

News
Cite
Share

LIBANUS, TREFORIS, A'R PARCEt T. JONES, LLUNDAIN. Mr GolDrwg genym fod eich gohebydd yn y TYST am Medi 28, wedi camgasglu oddi wrth y llyth- yr a ddanfonwyd oddi wrth Mr Jones mewn cyssyllt- iad a'i ddyfodiad i Dreforis. Ni chynnwysai y llyth- yr hwnw ddim mwy na rhyddhau yr eglwys, fel y gallent edrych am un arall, os byddent yn dewis gwneud felly, o herwydd ei fod ef wedi methu dyfod yn yr amser a nododd, sef diwedd yr haf. Golygai Mr Jones y gallai ymryddhau oddi wrth y bobl yn Llundain erbyn yr amser hwnw; ond erbyn i'r cyf- nod hwnw ddyfod i ben, yr oedd rhwystr arall wedi ymgodi, sdf afiechyd ei anwyl briod, yr hon sydd erbyn heddyw wedi ei symmud o gyrhaedd cystudd a phoen i ymddisgleirio mewn iechyd a mwynhad na wywa, ac na ddiflana mwy. Y mae ein hadnab- yddiaeth o honi trwy ei hoes yn rhoddi sail dda i ni gredu, a dyweyd felly. Dygwyd y gweddillion i lawr i'w claddu yn ngladdfa y teulu yn ymyl Eglwys Llangyfelach. Yr Arglwydd a roddo bob nerth i'n hanwyl Mr Jones, a'r rhai bychain i ddal dan yr ergyd drom. Yr ydym yn deall fod Mr Jones yn ymadael a Llundain yn union a phwy a all gydym- deimlo a chydymddwyn ag ef ynei dywyddpresenol fel pobl Treforis. Un o honom ni oedd hi (Mrs Jones) yn ein mysg ni y gwnaed yr undeb rhyng- ddynt; a phwy a all gydymdeimlo fel ni o herwydd dryllio yr undeb hwnw. D.

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.

COLEG ABERHONDDU.

EGLWYS HEB WEINIDOGAETH SEFYDLOG.

AGWEDD WLEIDYDDOL AMERICA.

Y DDAU LA IS.

YR HEN ARDDWR.