Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y PARCH D. EUROF WALTERS,…

News
Cite
Share

Y PARCH D. EUROF WALTERS, M.A., B.D. EI GYFARFOD YMADAWOL YN LLANYMDDYFRT. Nos Lun, Gorphenhaf 3ydd, daeth tyrfa luosog yn nghyd i gapel Salem i ddymuno yn dda i'r Parch D. Eurof Walters, M. A., B.D., ar ei ymadawiad i gymeryd gofal eglwys Seisonig Market-square. Merthyr Tydfil. Dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch W. Davies, Llandeilo, a chymerwyd y gadair gan Mr Edward Williams, ysgrifenydd yr eglwys. Wedi egluro y cyfarfod, dywedai ei fod yno gyda theimladau cymysglyd iawn; cysylltiad cysegredig iawn yw cysylltiad gweinidog da i Iesu Grist a'r eglwys. Mae tori cysylltiad felly yn btiwio teimladau tyneraf y galon. Yr oedd hiraeth, an- foddlonrwydd, a llawenydd am gael siarad am y cyntaf; yr oedd yn anfoddlon iawn fod angen cynal cyfarfod o'r fath. Vr oedd wedi meddwl y buasai Mr Walters yn treulio ei oes yn Llanymddyfri. 0 anfodd eu calon fel eglwys ac fel trefwyr yr oedd yn ymadael yr oedd pawb o bob enwad am iddo aros yn y lie. Yr oedd wedi cael yn Mr Walters bob peth a ddymunai gael mewn gweinidog Efengyl. Yr oedd wedi llanw y teitl hwnw—' Gweinidog da i Iesu Grist' hyd yr ymylon. Yr oedd hiraeth calon arno ar ei ol, ond yn llawenhau yn fawr wrth ei weled yn esgyn i fyny risiau dysg, dyrchafiad, a defnyddioldeb. Dymunai o galon iddo arweiniad y Nef, a hir ddyddiau i wasanaethu ei Arglwydd. Mr W. LLOYD, diacon, a ddywedai fod cwrdd yma.dawol yn gwrdd diflas iddo ef. Yr oedd Mr Walters wedi d'od i Salem yn llawn newydd-deb, ac yr oedd wedi gwneyd pob peth o r newydd yno, a'r cyfan mor ddystaw a didwrw a'r haul yn codi. Yr oedd yn bregethwr rhagorol iawn. Yr oedd ef wedi dysgwyl llawer oddiwrtho fel pregethwr, ond yr oedd wedi mwy na llanw ei ddysgwyliadau uchaf. Fel Cristion, yr oedd perarogl Crist ar ei holl wisg- oedd. Yr oedd ei ymweliadau gweinidogaethol a theuluoedd yn fendith iddynt. Yr oedd pob teulu y bu ar ei aelwyd yn well. mewn meddwl a chalon fod Mr Walters wedi bod yno. Yr oedd yn rhaid iddo addef nad oedd yn meddu ar y teimladau goreu at y Saeson-yr oeddynt wedi lladrata dau weinidog oddiarnynt yn flaenorol. Fe aeth St Florence a Mr Griffiths; Casnewydd a Mr Jansen Davies a dyma Merthyr yn myned a Mr Walters eto. Mae llygad y Sais yn gweled y goreu yn mhob man. Yr oedd ganddo ef a phawb o gynulleidfa Salem a'r dref serch mawr at Mr Walters, a dymunai Dduw yn rhwydd iddo. Mr J. JONES. Green Lodge, a ddywedai ei fod yn methudeall paham yr oedd Mr Walters yn symud. Credai ef fod Haw gan Ragluniaeth yn y symudiad, a delai.y penill hwnw i'w feddwl o hyd- 1 Ehagluuiaeth fawr y Nef,' &c., ond ei ymadawiad yn groes drom iddo ef. Llon- gyfarchai eglwys Market-square ar ei dewisiad. Yr oedd wedi lladrata y gweinidog ieuanc goreu yn Nghymru, a dywedai o galon wrth Mr Walters wrth ymadael: Bendith y Nef fo ar eich gwaith, a'r teulu yn ddiwahan, nes y cyfarfyddwn yr ochr draw mewn hwyl i ddyblu'r gan. Adroddodd Mr SAUNDERS MORGAN nifer o ben- illion rhagorol, yn datgan eï ofid oherwydd ymadaw- iad Mr Walters, a'i ddymuniadau da iddo, a dad- ganodd- < Iesu, paid a'n gadael ni.' Darllenodd Mr W. LLOYD WILLIAMS res o ben- illion tarawiadol i'r achlysur. Mr J. DAVIES a ddywedai fod y brodyr oedd wedi siarad wedi gadael allan un rhinwedd amlwg iawn yn Mr Walters heb son am dani-ei ddirwestiaeth bur. Yr oedd Mr Walters yn ddirwestwr egwydd- orol, selog, egniol, a didramgwydd. Yr oedd yn gallu enill y bobl o'u bodd i'r un farn ag ef. Yr oedd wedi bod yn arweinydd medrus i'r blaid Ddir- westol yn y dref, Gobeithlu y plant wedi cael ei oreu, ac yr cedd yn gadael Cymdeithas Ddirwestol eglwys Salem mewn sefyllfa lewyrchus. Yna galwodd y Cadeirydd ar Miss REES i dd'od yn mlaen i gyflwyno anrheg hardd i Mr Walters ar ran Gobeithlu y plant, yr hyn a wnaeth mewn ych- ydig eiriau tyner a phwrpasol, a darllenodd y Cad- eirydd yr Anerchiad a ganlyn :— Anerchiad cyfhvynedig i'r Parch D. Eurof Walters, M.A., B, D., gait Eglwys Salem, Llanymddyfri, ar ei ymadawiad a'r lie i gymeryd gofal Eglwys Seis- onig Market-square, Merthyr Tydfil. TTT -I J ANWYL BARCHEDIG SYR,-Wedi'r mwynhad o bedair blynedd o'ch gweinidogaeth alluog a llwydd- ianus, teimlwn fel eglwys yn ddiolchgar os gwnewch dderbyn y llinellau hyn i gadw mewn cof un o'r cysylltiadau dedwyddaf rhwng gweinidog ac eglwys. Pan roddasom alwad i chwi, cyfodwyd ein dys- gwyliadau yn uchel iawn-gan y tystiolaethau unol dderbyniasom o'ch cymeriad dilychwin fel Cristion -fel efrydydd trwy eich gyrfa athrofaol, yn gystal a'ch cymhwysderau naturiol i wneyd un o weinidog- ion cymhwys y Testament Newydd I- ac y mae yn llawen genym fel eglwys aliu datgan fel un llais eich bod wedi gwneyd mwy na sylweddol ein gobeithion penaf am danoch. Fel pregethwr. eawsom genych air y bywyd mewn symledd, eglurder, a nerth. Fel bugail, buoch ofalus mewn amser ac allan o amser, a'ch cynghor yn ddoeth, a'ch esiampl yn unol a r Efengyl a bregethech—yn wastad yn bwyllog a threfnus yn eich holl symudiadau. Galarwn am y golled ddirfawr a gawn yn eich ymadawiad a'r eglwys a'r dref, ac a'r cylch ond cydnabyddwn yn ostyngedig nad genym ni fel eglwys y mae trefnu. lleoedd Ei gadfridogion Ef, ac ymgysurwn yn y ffaith eich bod eto yn gwasan- aethu dan yr un Brenin, er mewn cwr arall o'r gwersyll. Ein dymuniad a'n gweddi fel eglwys YVv, ar i chwi eto gael nerth i wasanaethu Duw yn Efengyl Ei Fab gyda'r un aiddgarwch a ffyddlondeb yn y cyTch eang yr ydych yn myned iddo ag agawsoch mor rhagorol drwy ystod eich gweinidogaeth yn Salem, Llanymddyfri. Dymunwn i chwi, eich cymhares hawddgar, a'ch anwyl Elfan, iechyd, hir oes, a llwyddiant, a'ch heulwen gyfodo uwch uwch hyd ganol dydd. Arwyddwyd dros yr eglwys gan y diaconiaid- THOMAS DAVIES, WILLIAM LLOYD, JOHN THOMAS, JOHN JONES, JOHN NICHOLAS, DAVID JONES, DANIEL JONES, JOHN DAVIES, DAVID EVANS, EDWARD WILLIAMS, JOHN JONES. WILLIAM JONES, Trysorydd. THOMAS EVANS, Ysgrifenydd. Mehefin, 1905. Yr oedd yr Anerchiad wedi ei argraffu ar vellum, a'i fframio yn hardd, wedi ei gynllunio a'i harddu gan Mr Morgan Thomas, Abertawe. Galwodd y Cadeirydd ar Mr T. Davies, fel aelod hynaf eglwys Salem, i'w gyflwyno i Mr Walters. Dywedai Mr DAVIES y buasai pob peth wedi ei wneyd yn iawn pe buasent wedi dewis rhywun mwy cymhwys nag ef i gyflwyno yr Anerchiad. Yr oeddent, meddai, fel ambell i deiliwr wedi cael brethyn da, a fit rhagorol, ond methu cael botwm i daro y defnydd; ond yr oedd un eymhwysder, er ei fod yn 88 mlwydd oed, yr oedd ei barch i Mr Walters gymaint a neb yno. Yr oedd wedi ei gael bob amser yn ddyn ieuanc rhagorol, ac yn parchu henafgwr. Dymunai oreu nef a daear iddo. Y Parch W. DAV;ES, Llandeilo, a ddywedai ei fod ef yno mewn teimladau cymysglyd iawn, drwg a da yn ddrwg ganddo fod y cwrdd yn golygu ymadaw- iad yn flin ganddo fod Mr Walters yn ymadael a chylch Dyffryn Tywi. Yr oedd gweinidogion y cylch o bob enwacl-, nid yn unig yn meddwl yn dda am dano. ac yn teimlo yn anwyl ato, ond yn edrych i fyny ato fel dyn ieuanc sydd yn feddianol ar gyfan- rwydd eithriadol o ddoniau; ychydig 0 ddynion sydd yn gryf yn mhob cyfeiriad ychydig sydd yn rhagori yn all round. Cymeriad cyfan yw Mr Walters, a dim yn ei hanes yn anghyson a'r syniad uchaf o fod yn Gristion. Yr oedd ef wedi bod yn ei wylio, a methu cael dim yn wan ynddo. Ei esgeiriau yn ogyhyd, yn tyfu yn proportionate-nid dysgawdwr mawr a phregethwr bach, nid pregethwr mawr a gweinidog bach, ond yn dysgleirio fel dysgawdwr, fel pregethwr, gweinidog, lienor, bardd, dyn, a Christion. Yr oedd yn dda ganddo nad oedd Mr Walters wedi gorphwys ar ei rwyfau wedi.iddo enill ei M.A. Yr oedd yn llawenhau ei fod wedi myned yn ei flaen a graddio yn B.D. yn dda ganddo am ddynion ieuainc o bob enwad sydd yn ymdrechu am y gradd o B. D. Duwinyddiaeth yw brenines y gwyddorau. Mr Walters wedi llwyddo yn ar- dderchog, ond yr oedd yn nghanol ei lwyddiant a'i ddyrchaliad rnor llednais a Moses. Nid oedd ef yn hoffi gw-eled neb yn gwneyd shozv o'i ddysgeidiaeth yn y pwlpud-ambcll i fyfyriwr tri mis oed yn barod i newid gramadeg yr ieithoedd i gyd. Mr Walters yn fwy hoffo guddio ei huu na dangos ei hun. Yn ddrwg iawn ganddo ei golli; ond yn naturiol si fod yn myned—aderyn byw yn tyfu drwy y plisgyn yn union. Yr oedd yn cydymdeimlo ag eglwys Salem yn ngwyneb ei cholled, ac yn falch iawn ei bod fel eglwys yn ymddwyn mor anrhydeddus at Mr Walters, ac yn ymadael a'u gilydd mewn teimladau da. Gobeithiwn, fod eglwys Market-square yn meddu ar yr un rhinweddau, oblegid bydd Mr Walters yn sicr o godi tocyn i fyned yn mhellach na. Merthyr. Gwyr Lloegr o hyd yn gweled ac yn swynodynion goreu Cymru. Dymumii ofalon Duw yn rhwydd iddo. mnrnrlwvd i'r un cvfeiriad [Tan v Parchn S. I Harris, Bethel; J. Walters (B.), Cwmsarnddu H. James (B.), Llanymddytri; J. Volander Jones, Pentretygwyn D. Richards, Myddfai J. Landel Jones, Llundain a D. Bowen, Hermon. Yna galwodd y Cadeirydd ar Mr WALTERS Dywedai ei bod yn anhawdd ganddo siarad llawer. Teimlai yn ddiolchgar am y teimladau cynes oedd wedi cael eu dangos ato-y geiriau caredig oedd y brodyr wedi ddyweyd am dano, a'r anerchiad gwerth- fawr oeddynt wedi ei gyflwyno iddo. Llawer yn methu sylweddoli ei bod yn galed arno ef i ymadael a Llanymddyfri; ond yr oedd yn galed iawn, yr oedd ganddo afael mawr am eglwys Salem-gwres y cariad cyntaf heb oeri. Yr oedd yn dda ganddo am bobl Salem, yn aelodau a swyddogion yr oedd wedi cael pob cefnogaeth ganddynt ag y gallai dyn ieuanc ei ddysgwyl wedi treulio pedair blynedd ddedwydd a hapus yn eu mysg. Oni bai am ei iechyd, ni fuasai yn meddwl am ymadael. Yr oedd yn myned am yr unig reswm fod y meddyg yn ei gynghori i fyned i Je uwch i fyw. Nid dyweyd good bye yr oedd, ond dyweyd farewell—hawddamor. Gobeithiai y byddent yn ymegnio i gyrhaedd tir uwch gyda chrefydd yr oedd yn sicr y byddai yr anerchiad oeddynt wedi ei gyflwyno iddo yn sym- byliad gwastadol iddo ef i geisio byw yn well. Terfynwyd y cyfarfod rhagorol hwn trwy weddi gan Mr D. Bowen, Hermon.

EI GYFARFOD SEFYDLU YN MERTHYR…

[No title]