Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG. Cynaliwyd Oyfarfocl Chwarterol Gorphenhaf y Cyf- undeb uchod yu JKbeuezer, Trelewis, uos Lun a dydd Mawrtli, Gorphenhaf 3ydd a'r 4ydd. Pregethwyd uos Lun gan y Parch Peter Price, B.A., Dowlais. Dyad Mawrth, am 1030, yn absenoldeb y Parch D. M. Davies, Owmbach, y Cadeirydd am y flwyddyrs, cynierwyd y gaditii- gan y Cyn-lywydd, y Parch J. W. Price, Troedyrhiw. Wedi i'r Parch T. Thomas, Noddfa, Godreaman, ddarllen a gweddio, ac i'r gyuulleidfa ganu, aethpwyd trwy y rhaglen gatilynol:- 1. Pod y-cofnodio-n yn cael eu derbyn fel rhai cywir o weithrediadau y cyfarfod bla.etiorol. 2. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynnl yn Noddfa, Godre- aman. 3. Fod y Parch D. Phillips, Treharris, i bregethu ar y pwnc—' Etifeddeg a Chyfrifoldeb.' 4. Fod y Parch W. Evans, Salem, Merthyr, i ddar- llen papyr ar I Ddylanwad Niweidiol y Bywyd Cref- yddol Anghyson.' 5. Fod Adroddiad y Pwyllgor fu yn ystyried y Cyfnewidiadau yn Rheolau yr Undeb Cymreig' yn cael ei gadarnhau. Diolchwyd i'r Pwyllgor am ei Waith. 6. Fod eglwys Soar, Aberpenar, yn cael ei derbyn yn galouog i gylch eglvvysig y Cyfundeb. 7. Fod adroddiad a phenderfyniad yr Adran o'r Pwyllgor Blaeusytnudol fu yn edrych i fewn i achos eglwys Mynydd Seion, Abercynon, yn cael eu cymer- adwyo. 8. Jubili Dr Griffith John, China. Pasiwyd y penderfyniad canlynol yn galonog:— Fod y Gynadledd hon o Annibynwyr Cymreig Gogledd Morganwg yn dymuno gyda diolchgarwch i'r ArgJwydd ddathlu haner-canmlwyddiant gwasanaeth Dr Griffith John yn China. Llougyfarchwn Gym- deithas Genadol Llundain. a hefyd Dr Griffith John ei hun, ar gynydd yr achos Cenadol yn China yn ystod y cyfnod hwn, ar ddymchweliad rhyfeddol yr atalfeydd boreuol oedd yno yn ffordd llwyddiant yr Efengyl, a bod miloedd China oeddynt unwaith yu eistedd mewn tywyllwch bellach yn dechreu gweled y Goleuni mawr canfyddwn gyda llawenydd fod y cyfnewidiad mawr yma yn Haw Ysbryd Duw i'w briodoli i fesur helaeth i wasanaeth ffyddlon a diflino Dr John am 44 mlynedd fel cenadwr dros Grist yn Hankow a throfedigaethau canolbarth China. Dymuuwn yn y modd mwyaf calonog gymeradwyo i sylw eglwysi y Cyfundeb y mudiad sydd ar droed i ddathlu Jubili eiu cydwladwr enwog drwy godi sefydliadau meddygot ac addysgol yn Hankow, gan fawr hyderu y gwna pob eglwys ei rhan er casglu y deuddeg mil gofyuol er cyrhaedd yr amcan yma,acybydd y mesurau bwriadedig yn ngtyn A'r gwaith' Cenadol yn foddion effeithiol i symbyiu yr eglwysi ihaelioni mwy. °Er cario y mudiad allan yn llwyddianus, etholwyd Ysgrifenydd a Thrysorydd o bob ochr i'r mynydd. Ochr Merthyr, Parch J. H. Hughes, Penywern, yn Ysgrifeuydd, a Mr J. Evans, Y.H., Iscoed, Merthyr, yn Drysorydd. Ochr Aberdar, y Parch J. Grawys Jones, yn Ysgrifenydd, a P.r H. Eynon, Maesteg House, fountain Ash, yn Drysorydd. 9. Fod y personau canlynol i drefnu taith y cenadwr enwog, y Parch Hopkyn Rees, China, yn y Cyfundeb. Parchn E. J. Rosser Evans, Dowlais J. J. Jenkins, Ne!son; D. Phillips, Treharris J. Jones, Bethesda, Merthyr; a J. D. Rees, Aberdar. Y Parch E J. Husser Evans i fod yn gynullydd y Pwyllgor. 10. Wedi araeth gref gan y Parch J. Thomas, Soar, Merthyr, yn cael ei ddilyu gan y Parchn J. Jones, Bethesda, a H A-Davies, Cwmaman, pasiwyd y peii- derfyniad canlynol MEIKIONTDD A'R DDEDDF ADDYSG. 1 That this Conference of North Glamorgan Welsh Congregationalists, representing 53 churches, and over 14,000 communicants, at their quarterly meeting at Trelewis, on July 4th, 1905, deplores the sectarian strife engendered by the Education Act of 1602, and deeply regrets the unjust action taken by the Board of Education in Merionethshire, in withholding monies due to the Conuty Council, and diverting the same to the support of Sectarian Schools, over which the rate- payers have no real control, and in which Sectarian teaching is given at the expense of the public, which is ea(. obnoxious to the great majority of the ratepayers. Further, that this Conference solemnly pledges itself to support morally and financially the County Council of Merioneth in its noble struggle for free education in the pub'ic schools, untrammelled by sectarian bigotry; and that copies of this resolution be sent to the Clerk of the County Council of Merioneth, the Minister of Education—Sir W. Anson, M.P.,—and Mr Lloyd George, M.P. Hefyd fod Mr D. D. Williams, TYST, Merthyr, i fod yn Ysgrifenydd, a Mr Evans, Y.H., Iscoed, Merthyr, yn Drysorydd, er gofalu am gyfraniadau y Cyfundeb at y Gronfa Gonedlaethol. 11. Ar gynygiad Mr Powell, Treharris, pasiwyd y penderfyniad eaDlyDol: At Arweinwyr y Blaid Kyddfrydol a Deddfwriaeth Ddirwestol. Dymunwn yn barchus, ond eto yn y modd cryfaf, alw ar Arweinwyr y Blaid Hyddfrydol, os riychwolir hwy i awdurdod yn yr Etboliad agosaol, i ddadwneyd Deddf Drwyddedol 1904 drwy roddi y gallu i reoleiddio y fasnach mewn diodydd meddwol i lais yr etholwyr drwy bleidLais uuiougyrchol, a rhoddi hawl i Gymru, gan gynwys sir Fyuwy, i ddeddfu ar hynyma ar wahan i Loegr.' 12. Llawenhaem wrth ddeall fod ein Hysgrifenydd, y Parch T. Edmunds, A.T.S., yn gwella o'i gystudd, ;11 bod yn mawr obeithio ei weled yn eiu plith yn fuan iawn. Terfynwyd y Gynadledd ragovol hon trwy weddi gan y Parch J. Richards, Bethel, Aberdar. Declireuwyd yr oedfa yn y pryduawn gan y Parch T. J. Thomas, Abercynon, a phi-egettiwyd tr y pwnc, Cai'iad Brawdol,' gan y Parch J. Sulgwyn Davies, Siloh, Aberdar. Diolchwyd yn gynes iddo am gyd- synio a, chais y Gynadledd, ac hefyd am ei bregeth ragorol. Gwasanaethwyd yn yr hwyr gan y Parchn T. B. Mathews, Petiydaren, a T. Thomas, Godreaman. Rhoddodd y cyfeillioD yn Ebenezer groesaw calonog iawn i'r Uwrdd Chwarter, a theimlwu yn sier eu bod hwythau wedi cael llawn dal am bcb ymdrech a wnaethant, er rhoddi derbyniad teilwng i'r cynrych- iolwyr. Diolchwyd yn wresog iddynt am eu caredig- rwydd a'u sirioldeb. Hirwaun. E. WERN WILLIAMS,

|CYFARFOD Cf 1WARTEROL ARFON.

CYMANFA GERDDOROL A PHYNC-IOL…

GWAN, PENSYFRDAN, A DIM ARCHWAETH.…

[No title]