Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION 0 FON.

News
Cite
Share

NODION 0 FON. Cymanfa y Sir.—Yn Llanercbymedd y cyn- aliwyd y Gymanfa bregethu eleni. ac yr oedd y trefniadau lleol ar ei chyfer yn bobpeth a allesid ei ddymuno. Nid oedd nifer yr ymwelwyr yn y Gymdledd foreu Iau mor lluosog ag yn y blynyddoedd o'r b'aen. Diau fod amledd cyfar- fojydd a chymanfaoedd y gwahanol enwadau yn y sir, a'r Gymanfa yn Nghaernarfon yr un diwrnod, yn nghyda phrysurdeb llafurwyr amaethyddol gyda'r cynhauaf gwair, yn cyfrif llawer am absenoldeb amryw. Modd bynag, cafwyd cynadledd fywiog, a phawb mewn ysbryd rhagorol. Gynaliwyd cyfeillach yn y pr^dnawn o dan lywyddiaeth y Parch T. R. Owen, Llanddeusant, a chafwyd anerchiad gwresog ganddo ef, ac amryw weinidogion ereill ar yr Adfywiad presenol, a'r cynllnn mwyaf effe;thiol i ddyogelu y dychweledigion yn yr eglwysi, a chadw ynddynt ddyddordeb yn ngwaitb yr Arglwydd. Ar ol yr oedfa bregethu ar y maes, cafwyd cyfarfod gweddi poblogaidd a hynod whthog yn nghapel y Methodistiaid, o dan arweiniad Penar. Mae'n hysbys fod tAn y Diwygiad yn llosgi yn gryf yn y dreflan hon er's misoedd, ac anhawdd credu yn ol yr arwyddion a gafwyd nos Iau y bydd iddo ddarfod yn fuan. Mae agos yr oil o'r gwran- dawyr yn y dref a'i hamgylcboedd wedi ymuno a'r gwahanol eglwysi. Llawen genym ddeall fod yn mwriad yr eglwys yn Llanercbymedd adeiladu capel newydd, gan fod yr ben wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa. Y maent eisoes wedi pwrcasu lie neillduol o gyfleus yn nghanol y dref i adeiladu arno. Yr oedd Mr Morris, dewis weinidog yr eglwys yn bresenol yn y Gymanfa, a bydd yn cael ei neillduo i waith y weinidogaeth ddechreu y mis hwn. Dymunwn ei hapusrwydd a'i lwyddiant yn y maes pwysig hwn. Marwolaeth Mr Thomas Roberts, Caergybi. — Masnachwr adnabyddus oedd y brawd car- edig hwn, a diacon ffyddlon yn eglwys y Tabernacl. Nid oes cymeriad mwy adnabyddus nag ef yn y dref, a braidd nad ellir dyweyd yn Mori hefyd, ac er yn 78 mlwydd oed, yr oedd bob amser yn hoew ac ysgafndroed. Cymerai ddyddordeb vn mhob peth trefol, a bu yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid am yn agos i ugain mlynedd. Yr ydoedd hefyd yn aelod o'r hen Fwrdd Lleol o'i gychwyniad, ac o'r Cynghor Dosbarth o'r dechreu. Bu yn drysorydd y Gymdeithas Adeiladu am 30 m'ynedd. Cladd- wyd ef dydd Iau wythnos i'r diweddaf yn myn- weiit St. Seiriol, ac yr oedd aelodau y Cynghcr, a thyrfa o wyr bucheddol yn parchu ei goffad- wriaetb. Dygwyd y corff ar ysgwyddau ei weithwyr ac ereill o'r ty i'r fynwent, a chynal- iwyd gwasanacth byr yn nghapel y Tabernael, pryd y cymerwyd rhan gan y Parchn R. P. Williams, Gomer Evans, William Griffith, Peter Jones, David Lloyd, a R. R. Owen, Prescot. Ta!odd yr oil deyrnged ddwfn o barch iddo fel dyn caredig, cymwynaagar, a thostur- iol iawn wrth y tlodion. Fel Cristion, bu yn ffyddlon i foddion gras yn yr wythnos a'r Sul, a bydd gwagder mawr oherwydd ei golli yn yr eglwys, lie yr oedd yn fawr ei barch, ac yn bolrus gan bawb. Traddododd y Parch R. P. Williams bregeth angladdol nos Sul wythnos i'r diweddaf i gynulleidfa fawr. Mae cydym- deimlad ei holl gydnabod &'i wediw a'i ferch ieuanc yn eu profedigaeth. R. P.

BRYNSEION, SIR BENFRO.

CEFNCOEDYCYMER.

BIRCHGROVE.

ABERTILERI.

[No title]

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. j