Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CWRS Y BfD.

News
Cite
Share

CWRS Y BfD. Annghysondeb John Bwl 'MAE'N syndod bobl mor ddrygionus sy'n byw yn y Transvaal! Gallesid meddwl oddiwrth y wasg ryfelgar mai baid o ladron a llofruddion ;ydynt bob un, ac nad oes ellyll yn y pwll di- waelod dyhirach na'u llywydd Y mae'r adyn- od ysgelar wedi beiddio cyboeddi rhyfel yn er- byn y Llywodraeth a gynrychiolir gau Mri Cecil Rhodes a Joseph Chamberlain. Rhag cywilydd i'w calonau. Pa hawl sydd ganddynt hwy i'w gwlad, nac yn wir iddynt eu hunain ? Oni wyddant mai nyni, Brydeiniaid defosiynol, sydd wedi ein penodi gan Ragluniaeth i wareiddio ac efengylu y byd ? Cyhuddid hwy yn y Daily Post ddoe neu echdoe, gan ohebydd a fu'n byw am ddyddiau yn eu plith, o smocio wrth ddar Hen y Beibl Dyna i chwi fileiniaid. Fydd y iJiifer fwyaf ohonom ni byth yn darllen y Beibl, nac yn clywed gair ohono onid awn ni ar ddam- wain megya church parade i ambell eglwys lie byddia yn arogldarthu. Ond y mae gwaban- iaeth rhwng arogldarthu ac arogldarthu. Gy- maint o wahaniaeth ag sydd rhwng Piydeiniad a Boer. Pan ddeallodd y giwed felynddu ein bod ni yn danfon milwyr at eu terfynau, ac yn siartro llynges o longau i ddanfon rhagor, yr oedd ganddynt yr impidens i gyhoeddi rhyfel yn ein herbyn. Yn ein herbyn ni, cofier Pe yn erbyn Ffrainc, Rwsia, neu rhyw deyrnas arall, mi fuasem yn curo eu cefnau, ac yn gwaeddi Go on." Dyna wnaethom ni bob amser pan fyddai cenedl fach yn ymladd am ei hiawnderau a'i bodolaeth gyda chenedl fawr. Un iawn am chwareu teg i'r gwan yn erbyn cryf ydyw John Bwl—os na fydd ef y cryf hwnw. Gweddi. 0, Hollalluog Dduw, Brenin yr holl Frenhinoedd, a. Llywiawdwr pobpeth, gallu yr Hwn nis gall yr un creadur ei wrthsefyll, ac y perthyn iddo yn gyfiawn goabi pechaduriaid a thrugarhau wrth y rhai a wir .edifarhant; yr ydym ni yn gostyngedig atolygu ar- nat achub a gwared ein byddinoedd sydd yn awr yn Neheubarth Affrica o ddwylaw 9in gelynion, gostwng eu balchder, llareiddia eu malais, a dyrysa eu cyn- llwynion, fel y gallom, wedi ein harfogi a'th amddiff- yn Di, gael ein cadw byth bythoedd rhag pob per- yglon i'th ogoneddu Di, yr Hwn sydd yn rhoddi pob buddugoliaeth, trwy haeddiant dy Un Mab, Iesu Grist ein Harglwydd. Darllenwyd y weddi uchod yn holl Eglwysau Sefydledig Llundain y Sul diweddaf. Rhag ofn i'r darllenydd dybied ein bad yn gwneud -am &'r eyfansoddiad yn y oyifeithiad, fel hyn •y mae yn y gwreiddiol:— Save and deliver, we humbly beseech Thee, our troops now in South Africa from the hands of our enemies, abate their pride, assuage their malice, and confound their devices, &c. Mae rhywbeth yn ddyeithr yn y gramadeg ai nid balchder, malais, a chynllwynion "oar troopa now in South Afriba y cyfeirir atynt yn y ffarf-weddi, ac nid ein gelynion? Wei, y mae llawn cymaint o eisiau, os nid mwy, gwedd- io tros y naill a'r llall. Ehedeg. BETH amser yn ol cyfeiriais at beryglon Dringo. Dall arall sydd gan rai pobl o geisio ymddyrch- afu, ydyw Ehedeg ac y mae hwn yn fwy per- yglua naVllall, Gan nad yw dyn wedi ei gyn- ysgaeddu a, phln ac edyn fel aderyn- yr hwn sydd yn bencampwr gyda'r gwaith o ehedég- rhaid iddo wrth beiriant yn meddu rhai, beth bynag, o briodoleddau aderyn. Felly byddai'r ymgeiswyr cyntaf at ehedeg yn coluro yr holl gorph gyda rhyw sylwedd gludiol, ac yn gor- chuddio hwnw gyda phlu; ac wed'yn cymerid edyn rhyw aderyn mawr ar y breichiau i gynal ac i symud yr ehedydd yn mlaen. Llawer cais a wnaed fel hyn yn Nghymru, os gwir y tra- ddodiadau ond aflwydd a distryw fu y can- lyniad. Modd bynag, yn ddiweddar, aeth y ddynol- iaeth foel yn mlaen i ddyfeisio cynlluniau gwell, a bu ychydig bach fwy llwyddianus. Lieutenant Pilcher, R.N., a ystyrid y goreu o Sais fel ehedydd peirianol, a syrthiodd yntan, fel llawer dyfeisydd o'i flaen, yn aberth i'w ddyfais, yr wytbnos ddiweddaf. Canfas wedi ei ledaenu ar ffurf edyn eatynedig a chynfton aderyn oedd peiriant Mr Pilcher, ac yntau yn y canol yn gweithio'r edyn hefo llinynau. Tor- odd y llinyn y tro cyntaf, a syrthiodd y cwbl i lawr o uchder deg llatb, ond ni niweidiwyd y dyn yr ail gais, trowyd y canfas to gwrth- wyneb gan y gwynt, y tro hwn o uchder 13 llatb, ac erbyn i'r edrychwyr fyn'd at Pilcher, yr oedd wedi marw. Mae'n ddigon tebyg y llwydda dyn i ddyfeisio peiriant hedeg rywbryd, ond fe gollir ami i fywyd, yn ddiau, cyn y daw hyny i ben. Cadwraeth yr Oedranus- MAWR y twrw a wnaeth y Llywodraeth hon pan ddaeth i awdurdod am yr "Old Age Pension," yn enwedig gan Chamberlain; ond fel pob achos arall a gymerodd y dyn mawr mewn Ilaw, efe a fradychodd yr achos teilwng hwn hefyd. Ac y rnae yn awr wedi taflu y wlad i ryfel a gyst fwy o filiwnau na thrysorfa i gynal hyny o hen bobl deilwng sydd o'i mewn. Arwydd dda. DYWIEDIR fod Mri Ellis, gwneuthurwyr soda water enwog Rhuthin, wedi derbyn archeb drom gan y Llywodraeth i yru canoedd os nad mil- oedd o gostrelau o'u dyfroedd i'r byddinoedd yn Neheudir Affrica, Mae cynydd sobrwydd yn tnysg milwyr Prydain yn ystod y blynyddau di- weddaf yn rhyfeddol. Creadur sychedig a Jfceddw erchyll oedd "Tommy Atkins" er's 1 talra. Y Beirdd Melldigol. Bu y ddau fardd Seisnig, Swinburne a Kipling, yn melldigo y Boeriaid ar gan trwy golofnau y Times yr wythnos ddiweddaf; ond nid oes neb damed gwaeth. Mae gan Ragluniaeth rywbeth rheitiach i'w wneud na gwrando ar regfeydd Swinburne a Kipling a'u dynwaredwyr Uai.

Newyddion Cymreig.

Arwerthiant Eiddo yn Lerpwl.

-'o:'--Marchnadoedd.

EL DDE AVIS YN YMGBRSYDD.

YR ETHOLIAD BWRDEISIOL

YR ETHOLIAD BWRDEISIOL

Advertising

--0-"YN CYNTAF, TYlER ALLAN,"…