Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Ar Flnlon y Odyfrdwy.

News
Cite
Share

Ar Flnlon y Odyfrdwy. MAE'r Parch J Puleston Jones wedi dechreu ar ei waith fel athraw yii Ngholeg y Bala. Groeg y Tes- tament Newydd fydd maes ei lafur. Dal i wella y mae'r Prifathraw Dr T C Edwards. Mae'r Proff Stephenson, athraw Hebraeg y Coleg, wedi astudio'r Gymraeg mor ddyfal fel y medr ei siarad yn llithrig yn Dull pobl Penllyn. Y Parchn R Mon Hughes a J R Ellis fu'n cadw'r cyfarfod diolchgarwch yn nghapel Salem eleni. e'l' Parch H Gwion Jones, Bethel, wedi ei alw i fugeilio eglwys Annibynol y Rhiw, Ffestiniog. Byr fu ei arosiad yma, a chwyniryn chwerw oblegyd fod eglwys Ffestiniog yn chwenych eiddo'i chymyd- og o'r un sir. Ar ymadawiad Mr a Mrs Hughes, Bryndedwydd; caredigion yr achos, cy tlwynodd eglwys Dinmael iddynt lestri te arian, yn nghyda spectol aur. Sonir am sefydlu seindorf yn Nghorwen. Mae H gwyr y cyrn braidd yn brinion yn y cwmwd hwn. Dydd Gwener, bu Methodistiaid Cynwyd yn mwynhau y wledd genedJaethol-tê a bara brith Yn yr hwyr, caed cyfarfod dyddorol, Mr Robt. Roberts —maer y pentref—yn y gadair. Llwyddodd Mr Hugh Lloyd, Gwnodl Fawr, i fyned trwy arholiad caled Cymdeithas y Fferyllwyr. Hana ef o'r hen fardd Huw Llwyd o'r Gwnodl. Mae gwarcheidwaid y Bala wedi condemnio Deddf Treth y Degwm. Cynaliodd Bedyddwyr Glanau'r Ddyfrdwy eu cyfarfod blynyddol yn Nbabernacl, Cefnmawr. Trefnwyd ymweliad a'r eglwysi; penodwyd Mr C Davies, Cefnmawr, yn ysgrifenydd Cronfa yr Ugein- fed Ganrif anogwyd pob eglwys i sefydlu cymdeith- as ddirwestol archwyd eglwys Ebeuexer, Cefn, i sefydlu achos Seisnig yn y Waun; penderfynwyd cynal y cwrdd nesaf yn y Bala, a phregethwyd gan y Parchn D Williams, Llangollen, w H Cernyw Williams, Corwen. Ddydd Lun, cynaliwyd cyrddau yn Llandrillo i sefydlu y Parch John Jones, Cefn Canol gynt, yn weinidog yr eglwys Fethodistaidd. Y gweinidog blaenorol ydoedd y Parch E J Williams, Ruthin. Traddodwyd anerchiadau gwresog o groesaw i'r 11 15 gweinidog newydd. Daw yn olynydd i wyr da, a ,chaiff eglwys ddymunol i'w bugeilio. IS-BEKWYN.

--0--Y Cymro o lal a'r Weddw.

— o — Llythyr Lerpwl,

Dtrolniach o Odyffryn Pantile.

Barddoniaeth. -0-

-0--METHU MYNED I NEWID AWYR.

Advertising