Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Eglwyswyr Cymru yn Llundain.

News
Cite
Share

Eglwyswyr Cymru yn Llundain. YR EGLWTS A'R IAITH GYMRAEG. YE wythuos ddiweddaf, cynaliwyd y Gyngns Eglwysig yn Llundain, ac yn nglyn a, hi nos Fer- cher, cynaliwyd cyfarfod yn y Great Hall, West- minster, i ymdrin a chwestiynau yn dal perthynas a'r Eglwys yn Nghymru. Yr oedd yn bresenol yn mhlith eraill Esgobion Llanelwy, Bangor, a Ty- ddewi, Deoniaid Llanelwy a Tyddewi, a nifer mawr 0 wyr lien a lleyg. ANERCHIAD y CADEIRYDD. Y cadeirydd oedd Esgob Llandaff, ac yn nghwrs ei anerchiad ar Yr Eglwys yn Nghymru y ganrif hon-ei chynydd a'i hanghenion," dywedodd fod yr Eglwys yn Nghymru ar ddechreu y ganrif mewn agwedd ddrylliedig a difywyd-yr oedd bron ar farw Nid oedd ei hadeiladau cysegredig nemawr gwell nag adfeilion, ac yr oedd bywyd moesol ei chlerig- wyr yn hynod o isel. Peth cyffredin oedd i'r Ficer fyw oddiallan i'r plwyf, a'iymweliadauynanfynych. Cyfyngwyd cyfleusterau i gynal addoliad cyhoeddus i unwaith yn yr wythnos tra inewn llawer plwyf gwledig, ni weinyddid y Swper Sanctaidd yn amlach ua thair gwaith neu bedair yn y flwyddyn. Yr oedd y clerigwyr, eu hunain yn anwybodus o wahanol athrawiaethau'r Eglwys. yn analluog i gyfranu y eyfryw wybodaeth i'r bobl. Nodweddid ymar- weddiad. yr addoliad cyhoeddus gan annhrefn, diffyg parch, ac anweddeidd-dra. Nid rhyfedd felly fod cynulleidfaoedd yn lleihau, a'r bobl yn myned at wahanol eglwysi Ymneillduol. Yr achosion a ddyg- odd y pethau hyn oddiamgylch ydoedd fod llywodr- aeth yr Eglwys yn cael ei ymddiried i estroniaid, ac yn ami gan esgobion na thrigent yno, yn anwybodus o iaith mwyafrif y bobl, nc heb gydnabyddu ag ar- ferion a chymeriad y genedl, ac yn byw yn rhy bell i allu edrych ar ol yr eglwysi. Achos arall ydoedd diffyg ysgolion uwchraddol Ileol ar gyfer y clerig- wyr, Dyddiau tywyll oedd y rhai hyny i'r Eglwys yn Nghymru, ond yr oedd gwawr ddisgleiriach wedi tori. Diflanodd yr esgobion estronol, a cheir cler- igwyr trigianol yn mhob plwyf. Ail-adeiladwyd ac adnewyddwyd yr eglwysi adfeiliedig, Ilenwid eto y seddau gweigion, a sefydlwyd Coleg Eglwysig yn Llanbedr. Gwelir ffrwyth y diwygia au hyn heddyw. Yn Esgobaeth Llandaff, yr oedd cynydd mawr wedi cymeryd lIe. Yn 1801, nid oedd poblogaeth yr Es- gobaeth ond 11G,000. Heddyw nid yw yn llawer flat na miliwn. Heddyw y mae yno 40 plwyf, gyda HO o eglwysi ac ystafelloedd cenhadol, a 80 o gler- igwyr. Yn yr eglwysi newyddion a adeiladwyd ar draul o 270,000p yr oedd lie i 50,000 o addolwyr eistedd. ESGOB LLANELWY. Darllenodd Esgob Llanelwy bapyrar "Yr Eglwys yn Nghymru y ganrif hon." Dywedai fod cynydd yr Eglwys yn gorwedd yn mhurdeb ei bywyd cym- deithasol. Profid ei gwerth yn eangiad ei syniadau Cristionogol, ac i weithiad allan y cyfryw syniadau yn ein bywydau personol. Naturiol ydoedd y dem- tasiwn i amcangyfrif llwyddiant yr Eglwys trwy ffigyrau, gwerth adeiladau, ac amlder cymdeithasau. y 11 Cyn y gallent ffurfio syniad am lwyddiant yr Eglwys yn Nghymru, yr oedd yn rhaid cael rhyw wybodaeth parth ei sefyllfa ar ddechreu y ganrif. Aeth yr Esgob yn bur fanwl dros hanes boreuol yr Eglwys yn Nghymru gan ddyfynu llawer o gofnodion allaw- ysgrifau Llanelwy, yn dangos mor isel yr oedd gan' jniynedd yn ol, a'r gwahaniaeth dirfawr a welir heddyw. tAmddiffynai gymeriad y clerigw) r gan' mlynedd yn ol, gan ddweyd fod yn eu plith rai o'r dynion a weithiasant yn galed yn ngwyneb llawer o dreialon ac anhawsdeiau nas gallwn ni synied am danynt, a cliyda'r defosiwn a'r hunan-abertliiad a ddylai ddeffro ein hedmygedd a'n diolchgarwch. Y mae'n wir fod rhai yn eu plith, yn glerigwyr alleyg- wyr, o gymeriadau isel. yn esgeulusoeu dyledswydd- au, ac yn rhwystr i lwyddiant yr Eglwys. Onid oes N rhai felly heddyw ? Nid oedd yr Eglwys ar vtaeth tir ychwaith yn Nghymru nag yn Lloegr. A bu ei chynydd yn ystod y ganrif cystal, a dweyd y lleiaf, a'r cynydd yn Lloegr. Bu y gwaith yn helaethacha dj faach nag mewn uorhyw gaurif. Ni bu an haws- derau, rhagfarn, nac hyd yn nod erledigaeth, ond moddion i danio brvvdfrydedd a hunan-aberth ei chierigwyr. Gyda'r un yspryd y gallem wynebu y dyfodol mewn gobaithac nid mewn ofn. JSYK JOHN H. PULESTOIT. 6 Darllenodd Syr John H Puleston bapyr ar yr un ma-ter. Araf iawn fuont hwyyn Llundain. Gweith- iai yr Ymneillduwyr Cymreig gyda'r fath set, a chodent gapelau nes enill eu hedmygedd ond o'r diwedd, deffrowyd hwythau, ac erbyn hyn y mae ganddynt amryw eglwysi llewyrchus yn ngwahanol rauau'r ddinas. DEON LLANELWY. Deon Llanelwy (y Parch Shadrach Pryce), cyn- arolygydd ysgolion, a ddarllenodd bapyr ar '-Yr iaith Gymraeg yn ei pherthynas ag addysg yn Nghymru." Credai fod gan y Gymraeg lawer mwy o afael ar y bobl yn Ngogledd Cymru nag yn y De- heudir. Yr oedd y Saesneg yn enill tir yn gyflym yn Ngheredigion a Brycheiniog, yn enwedig yn y trefydd a'r ardaloedd poblog. Ond wedi'r cyfan, ceid llawer o bobl yn glynu'n dyn wrth iaith eu tadau. Dangosai nifer y newyddiaduron a'r cyfnod- olion Cymreig fod cylch darlleniad Cymraeg yn eang a chynyddol. Cymraeg ydyw iaith, nid masnach, ond yr aelwyd a'r allor. Cymraeg ydyw iaith cref- ydd a barddoniaeth, ac y mae y Beibl Cymraeg yn etifeddiaeth odidog. Gellid dysgu y Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, ochr yn ochr a'r Saesneg, a chredai mai trwyddi hi y dylid dysgu Saesaeg i blant Cymru. Eto, y mae'r llanw yn ei herbyn o bob cyfeiriad. Ond beth bynag fydd tynged yr iaith, yr oedd yn liollol sicr na chollai y Cymry eu cariad at Wyilt Walia. Siaradodd y Parch J Morgan, Llandudno, at "Yr iaith Gymraeg yn ei pherthynas a, gwasanaeth eglwysig ac addysg elfenol." DEON HOWELL. Darllenodd y Deon Howell bapyrar ei hoff destyn. "Emynyddiaeth Cymru," a chynorthwywyd ef gan gor Cymreig, yr hwn a roes ddatganiad o amryw einynau detholedig. Ymdriniodd y Deon it hanes emynyddiaeth a chaniadaeth y cysegr yn Nghymru yn hynod ddyddorol. Dilynodd yr hanes o'r boreu tywyll hyd ganol dydd goleu oes Pantycelynac eraill o'r emynwyr sydd a'u lienwau heddyw yn anwyl gan Y genedl, a'u hemynau yn cael eu caira gan bob en wad. Ar ol bwrw golwg dros hanes y gwahanol emynwyr, soniodd am nodweddion gwahauiaethol emynau Cymreig o'u cymharu fig eiddo cenedloedd eraill. Condemniai yn ddifloesgni y rhyddid a gymer rhai dynion i newid a llurgunio emynau i ateb eu pwrpas hwy eu hunain, dan yr esgus o'u. gwella; hefj'd yn erbyn yr arferiad diweddar o ddwyn cyf- ieiihiadau o'r Saesneg i mewn i'r-Hyfrau emynau. Y mie ein hemynau goreu ni fel y mynyddoedd—yn hardd, mawreddog, cyfriniol, amlochrog, yn llawn o eangder, unigedd, a godidogrwydd. Nid oedd am ddweyd eu bod yn rhagori yn mhob peth ar emynau Seisnig, ond yr oeddynt yn dangos allan yn eglur ein nodweddion a'n cymeriad cenedlaethol. Yr oedd nodweddion cenedlaethol yn rhywbeth annibynol i symudiadau allanol, ac ni ddylai rheolwr doeth gwlad nac eglwys eu hanwybyddu. Felly, cyfaill goreu Cymru ydyw yr hwn sydd yn eu cymeryd fel y mae yn eu cael.

-'0;--Cymdelthas Geneislaothol…

Cohebiaethau.

Advertising

PWLPUDAU CYMREIG, Hydref 22.…

[No title]

--0---RHAGrOCHE LI AD ALT…

Advertising