Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
-------------u.---,.--------Ai…
-u. Ai iawn ydYN oMlw gwenyn ? DYNA'K cwestiwn dyrys a roddwyd gerfron V Barnwr Owen T dydd o'r blaen yn Nghaerd/dd, 1 w benderfynu. Hawliai Juan Cascago.20? oiawn oddiar Benjamin Davies am iiiaeidiau, a golynai am archeb i rwystro y diffydd i gaiw gwenyn. Chwerthin yn braf ddarfu'r Barnwr. gan ddweyd, £ Dvma rvwun vn gofyn am archeb i at rhywnn arall i gadvv gwenyn Dywedodd Mr Sankey, }r liwn a ymddangosai ar ran y diffynrdd, *od y m:ater wedi ei benderfynu, a bod y diffvv-vdd vu foddlawn i'r archeb. Ni hoffai y Barnwr wnead yr archeb modd bynag. Sut y gellid ei rhoddi mewn gryin ? Beth pe buasai v gwenyn yn ei g01.™ ■ J eu safn-rwymo, ebai'r cofrestrydd. Mr ^ankey a ddywedai nas gallai gwenyn golynu yr ail waitti, felly nad oedd angen eu safnrwyiao. Nid oedd v Barnwr yn synu c gwbl nad oedd y dadleuvdd dros vr hawlydd wed troi i iynu, mewn achos fel hwn. Sut y gallgwenyn fod yn nius- cnc.e ? ebai. Cvn v gallai ganiatau yr archeo. rhaid iddynt ddangos hyny. Felly gotvciodd yr achosamb.s, a gob'iithiai y deuai'r pleiiiau 1 gydddealldwriaeth yn y cyfamser.
Ein Conedi yn Manceinion.I
Ein Conedi yn Manceinion. Nos Wener bu cvtarfoi cynfc.f tymhor y Gymdeithas Genedlaethol Cymrv M.n.euuou, yn y Standard Chambers, King Street. Cymerwyd y gadair gan Dr ETIT-VS Jone, adaeth cynulliaa lluosog ynnghyd, I pryd v" durllenw/d papyr rha^orol ar Geiddor- laeth gan Mr L) Jenkins, Mua Bac, Aberystwyth, Ar Evnveiad y Parch Mr Thomas. Pendltton, a chefnogiad Mr /oho a vies, Sa ford, diolchwyd 1 Mr J'enkins am ei nerolllad rhago ol. liefyd darllen- odd Eryddou anerchiad bu-ddonol i'r Gymdeithas a aufonwVd gM Mr Ionawryn Williams, Betbesda, un 0 goiofnau eac.i.lrnaf y gymdeithas yn yr amser a basiodd. Prydnawn a nos Sadwrn bu Cymanfa Gerddorol yr M.O. M.anceinion, Salford, a'r cylchoedd, yn Mosji Side. Yr oedd y capel eang yn orlawr a chafwyd canu da. Arweiniwyd gan Mr D Jenkins. Y Sabboth bu cyfarfod blynyddol Moss Side. Qwaaanaethwyd gan y Prifathraw Prys, a daeth cynuileidfaoedd mawrion i wrando y pregethwr difrifol. Nos Wener yn nby ei fodryb Hardman Street yn dair oed, bu farw ar oi hir nyohdod "Undeb y Cym- deithasau Llenyddol." Yr oedd modryb Hardman Street yn tantro tipyn ac yn dweyd pe buasai hi wedi cael ruagu ei baban y buasai mor iach a chryf a'i mab"Utjdeb Cymdeithasau Llenyddol y Wesley- aid," a bod ei fam Heywood Street, ei nain Moss Side, a'i fodryboedd Booth Street, Pendleton, Colly- hurst, a Chorlton Road, a'i chyfnitherod Ardwick, Great Duncan Street, Medlock Street, Queens Road, a Gore Street, wedi eu andwyo, end waeth tewi. Claddwyd ef yn nghanol lluaws o'i frodyr a'l chwior- ydd yn mynwrnt Y mudiadau Cymreig yn Man- ceinion. Bydd ei berthynasau yn barod i dderbyn offrwm i glirio yr ychydig ddyled a gynyrchwyd pan oedd y truan aT ei wely angeu. Ar Ian ei fedd canwyd yn effeithiol a chyda theimladau dwys yr hen benill oedd mor nodweddiadol o fywyd terfysglyd ac ansefydlog yr ymadawedig G alar a'r wyf mewn dytfyn du A gruddfau llawer awr, Ar ben y bryniau'n llawenhau, Wrth weled ilwyddiant mawr; 'Rwv'n ofnvis eto'n wrol iawn. 'Rwy'n llawen ac yn brudd, 'Rwy'n fyw ond nid yw marw'n mbell, 'Rwy'n waeth 'rwy'n well bob dydd." Ar ol ysarrifenu'r uehod daeth y newydd galarus 1 law fad mam yr "Undeb," set Cymdeithas Len- I yddol Heywood Street." wedi marw'n sydyn am I chwarter i bedwar or gloch prydnawn Sul diweddaf. I Wel wel! I UNORDDAU --0- I COLEG THSS-KCCA.— Dyfamwyd yr ysgoloriaethau I canlynot mewn cysvlltiad a'r coleg: Y sgoloriaeth I Dr Williams, 30p y flwyddyn, i Mr David Phillips, I < B.A., Mountain Ash. Mae gan Mr Phillips ysgolor- I iaeth arall o 100p y flwyddyn yn Ngboleg y Drindod, I Ca,ergrawnt, ond dychwela i Drefecca i fyned trwy I gwrs duwinyddol Yigolonaethau olyr.yddol Mr I Prys, Trefecca, a Mrs Watkins, Orickliowell, o lOp I yr un, i Mr Thomas Griffiths, B. A., Mr D O Wil. I liams, B.A., a Mr Sidney O Morgan, B.A. Ysgol- I oiiaeth o lOp, rhoddedig gan y Parch W EvansJM. A., I Pembroke Dock, ac eraili, "1 Mr Thomas Howatt, I B.A. Rhoddiun o y flwyddyn yr un i'r rhai I canlynol ar yr amoil ea bod yn dychwelyd i I Drefecea i fyaed trwy eu curs duwinyddolMr I William Davies. Aberystwyth; Mr J M Davies, I Caerfyrddin Mr D J Williams, Ll-tidain Mr W I C Adams, Pentre; Mr William Jones, Penrhiw- I ceibir; Mr William Davie., Cwrnaman; a Mr I Cuthbert Thomas, Llandeilo, I ATHKOFA PmYYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH,- Y n I nghyfarfod Cynghor y Coleg uchod a gynaliwyd ar y I 20ain o Fedi, Mr Thomas Davies 0 Bootle yn y I gadair, gwnawd y penodiadau eanlynol:—Mr W I Jcnkyn Jones, B.A., i fod yn ddarlitbydd cynorth- I wyol mewn A throniaetb. f-l olynydd i Dr Me Intyre. I Cymerodd Mr Jones y radd o B.A. yn Mhrifysgol I Hundain o Goleg Aberystwyth, ac yn 1893 fe aeth ■ ■ i Caergrawnt ac a enillodd ysgoloriaeth yn Coleg ■ Caius. Yn 1895 fe basiodd yn y dosbarbh laf yn y I Moral Science Tripos rhan 1, ac yn 1897 pasiodd yn I dosbarth laf o'r ail ran ar unrhyw arholiad pryd y H dewiaodd uchanianea fel ei bwno neiliduol o fryd- ■ iacth. Er pan raddiodd bu yn darlithio ar eneideg ■ yn y leachars Training College Caargrawnt, ag yn ■ Prifysgol Caergrawnt (Day Training Collge). Eaill- H odd gymeradwyaeth gan brifathrawon y ddau ■ gefydiiad- Tystlolaethwydilwallufeldarlithydd ac ■ athraw gan Proff Henry Sidgwick, Dr Venn, Dr ■ Keynes, a Proff James Ward, Ll.D., yr hwn a ■ ysgrifena, "Yr wyf yn ei ystyried yn ddyn o'r ■ gallucedd uchaf, yn hollol wreiddiol, a'i fryd yn ■ hollol ar waith athronyddol."—Mr D D Williams, ■ F.H.A.S., ac M.R.A.S.G., i fod yn ddarlithydd ■ ar I'teryiliaetVi Amsethyddol (Agricultural Chem- ■ iatry). fet olynydd i Mr T H Middleton, B.Sc. Y H mae Mr Williams yn un o hen efrydwyr y coleg, ac H yn ystod y tair blynedd diweddaf fe lanwodd y swj dd o ddarlithydd yn Coleg Aspatria, ae heblaw H ei swydd fel darlithydd fe gymerodd gyda chario ■ yn mlaen a threfnu arbrofion ar fferm becthynol i'r H coleg. Dwg prifathraw Coleg Aspatira dystiolaeth H uchel i'w ailu fel darlithydd ac fod ei fyfyrwyr wedi pa.sio yn y modd mwyaf llwyddianus yn yr arholiad- H au, ac" fod dati wedi llwyddo i enifl tlvsau.-Miss, Mary Brebner, M.A., Llundain, yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Saesneg, Ffrancaeg, Ellnianaeg, H a Lia-d in. Graddiodd yn M.A. yn Prifysgol Llun- dain mewn dwy gangen set yr ieithodd clasurol a H Tfrancaeg ac Ellmanaeg. Bu MissBiebner yn Coleg Athrawol Caevgrawnt o dan ofal Miss Hughes ac a eniilodd ysgoloriaeth Gilchrist, er ei gaiiuogi i -deithio trwy wahanol wledydd mewn cysylltiad a'i choleg, a chyhoeddodd gyfrol o flrwyth ei hymehwil- iadau ar Pa fodd maa yr ieithoedd diweddaf yn cael eu dysgu yn ysgolion y Cyfandir." Y mae hi ■ wedi cael profion helaeth fel athrawes mewn ysgolion uwuhraddol ac yn ddiweddar bu yn dyszu yr ieith- oedd diweddaf i Pupil Teachers Bwrdd Ysgol ■ Llundain.
Ffestinjog,. -,
Ffestinjog, DIOLCH. GOLYGPA ardderchog yw gweled ardal gyfan yn plygu mewn diolchgarwch i Roddwr pob daioni am ei diriondeb. Mae y stoic mwyaf gwydn ei ewrnau yn cael ei gyffwrdd gan olygfa fel ho a, a hen galon galed Masnach bron yn atal ei chunadau. Temtir dyn i gredu fod natur ei liuu vii mwynhau yroiygfa, a bod y coed". dd cym'dogol yn wylo en dail i'r ddaear yn gawodau yn swn diolchgarwch llawer hen bererin duwiol. Dyna yr olwg oedd ar yr ardal hou ddydd Llun diweddaf ac ouid yw gwlad ac ardal yn teimlo yn fwy diddos am fiwyddyn arall yn nghysgodgweddiau y saint ? Nid dyfod yn wagLaw ychwaith a wnai y bobl i'r wyl. Mae swn ymdrech on est ac abertli gwirioneddol yn tori ar ein clustiau o bob cyfeiriad. Gwnaed casgliadau sylweddol at ddybeniou teilwng yn yr holl addoldai, ac ni chlywais am neb yn teimlo ei hun yn dylottach oherwydd cyfranu ohono at yr achosion hyn. TESTYN SIAKAD. Mae pawb yn destyn siarad rywbryd yn ei oes. j Hwyrach mai ar ddydd ei gynhebrwng bydd ambeil un yn cyrhaedd v ragorfraiut (?; hon. Iran Maine Ynadol Ffestiniog y disgynodd hyn, beth bynag, y dyddiau diweddaf. Mae y Faine a'r rhai eisteddant arni wedi bod ar y "llavvr dyrnu "yo cael eu pwyo yn galed am eu gwaith yn caniatau estyniad amser i werthu diodydd meddwol yn y Queen's Hotel hyd ddau o'r gloch y boreu y 24ait! cylisol, pryd y cynelir dawns yn v gwestty uchod Prin yr ydym ninau yn gweled cysondeb yn ngwaith yr ynadon yn yr achos llwn. Waeth heb ddirvvyo'r bechgyn direol yma amfeddwiar un llaw, ac agor y llifddorau led y pen i'r llanw ddyfod i mewn o gyfeiriad arall. Mae gan weithred fel hon 9. o eiddo'r yuadon ei chysgod. Beth bynag ddygir y cl yn mlaen i'w chyfreithloni, bydd llawer o ddrygau yn debyg o ymhoewi yn ei chysgod, ac nid aiff y gauaf presenol heibio heb i hyny gael ei brofl. I'r GAD! I'R GAD Dyna'r wys sydd yn cerdded fel taran drwy y wlad y dyddiau hyn, a llawer calon bryderus yn crynu wrth glywed ei dynesiad Mae llawer bachgen glandeg o froydd y chwarelau yma wedi gorfod ateb y wys yn ystod y dyddiau diweddaf. Beth bynag yw ein syniadau am y rhyfel fel y cyfryw, mae gweled bachgen yn troi allan i ymladd dros ei wlad yn enill edmygedd pob calon, ac eithrio y calonau hyny sydd fel darnau o rew wedi eu symud gan ddamwain o'r Pegwn Gogleddol i ambell fynwes. 11 "AR FAES YR AMEYFUSHDD." Dychwelyd o Fwrdd y Pysgodfeydd, &c, o Fach- ynlleth yr oedd yr hynaws Feddyg Isallt y dydd o'r blaen yn nghwmni ei gyd-bysgotwr ffyddlon, Mr David C Jones, Glasgow House. Penderfynodd y Dr. dori'r daith wrth ei gweled yn liwyrhau, a threulio'r noson hono yn y Bermo. Yn nghwrs yr ymdrafodaeth frwd oedd rhyngddynt, gwaeddodd Mr D Jones rywbryd, Dyma'r Bermo, Doctor, neidiwch i lawr." Ufuddhaodd y Dr ar unwaith a thra safai y gerbydres yn yr orsaf hono, yr oedd y meddyg yn rhoddi cyfarwyddiadau i'w gyfaill i drefnu cerbyd i ddod i'w gyfarfod dranoeth yn Ffestiniog. Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch," ac i ffwrdd ag ef gan adael y Dr fel pelican yr anialwch yn ngorsaf newydd Fairbourne, rhwng Llwyngwril a Barmouth Junction. Safodd am funyd mewn syn- dod a dygasedd, gan rythn drwy ddau lygad bolwyn i bob cyfeiriad. O'r diwedd, gwelodd byrth dinas noddfa am y noson hono ond mae achos y gwr a'i camarweiniodd i ddyfod gerbron Bwrdd y Pysgod- feydd y tro nesaf. MANION. Y Prif Flaenor a Chi y Prif Oruchwyliwr," fydd testyn chwareugerdd sydd i ymddangos yn fuan. Nos Wener nesaf y byddis yn bwyta gwenith o Batagonia, fel y cyfeiriwyd o'r blaen. Wedi gorphen yn y Transvaal, bydd y milwyr Prydeinig yn dyfod i'r Rhiw i wastrodedd rhyw bobl wrthryfelgar sydd yno. Cafodd Mr W 0 Jones a'r Telynor Dall hwyl ar- benig mewn cyngherdd yn Nhowyn yn ddiweddar. Mae Cor Meibion wedi ei ffurfio yma dau ar- weiniad Mr Cadwaladr Roberts i ddod i Lerpwl. PRYDERI.
-'0---I Natur a'i Phlant.
'0- Natur a'i Phlant. CY-IVFER Ilawer o gyfnewid iadan Ie yn myd yr adar yn ystod y mis hwn. Rhai yn myned i ffwrdd ar eraill yn dod. Erbyn ei ganol bydd y wenoliaid a'o martins i gyd wedi ein gadael am hinsawdd gynesach dreulio'r gauaf. Yn eu lie daw'r cyffylog, y myn- iar (snipe), y sosen Iwyd a'i chydymaith, yr asgell goch. Yn y dydd, bydd v ddau olaf bob amser yn canlyn eu gilydd yn heidiau o ddwsin neu ddau ond yn y nos, bydd yr asgell goch yn clwydo ar bren neu yn y gwrych tra'r sosens yn swatio ar y ddaear liefo eu gilydd fel petris. Tebyg ydynt i'r fronfraith ond ychydig yn fwy, ac nid ydynt i'w cymharu a hi fel cerddoriou, Eu hunig ymgais yn y cyfeiriad hwn ydyw rhyw ysgrechiadau aflafar. Gallant fyw ar y tywydd caletaf, oherwydd eu prif ymborth ydyw y grawn (berries) a gasglaut oddiar y coed a'r gwrych- oedd, megys grawn yr eiddew a'r celyn. Ymadaw- ant yn gynar yn y gwanwyn, gan roddi tro i Syria a gwlad yr Aipht; wedi aros yno ryw ychydig, cym- erant eu hadenydd ar draws cyfandir Ewrop i nythu ar lanau'r Baltic yn Sweden a Norway. Dyma'r adeg y mae'r ddyllhuan yn hwaian ac yn hwhwhian wedi nos, er dychrvn i'r bobl hyny sydd arnynt ofn ysprydion. Aderyn y nos ydyw'r ddyll- huan, ac anaml ei gwelir y dydd os gwelir hi ed- rycha fel pe wedi haner dyrysu ond min nos, ar noson oleu leuad, gwelir hi yn ei mantell lwydwen yn ehedeg o gwrupas yn llawn bywiogrwydd gan edrycb i bob twll a chornel i chwilio am lygod, chwilod, a thrychfilod eraill sydd yn hoff fwyd iddi. Dull rhyfedd sydd gauddi i drin ei materion teuluol, annhebyg i'r un o'i chymydogion. Dodwya ddau wy, ac yn mhen ychydig wedi iddynt ddeor dodwya ddau arall, a chynorthwya y cywion bach i eistedd aroynt tra y bydd yr hen adar allan yn casglu bwyd iddynt. Y mae'r drefn hon ganddynt, meddir, am fod y dyllhuauod bychain mor farus fel na byddai dichon i'r rhieni gasglu digon o fwyd i fwy na dau gyw ar unwaith. Nis gwn i sicrwydd a ydyw hyn yn gywir ai peidio. Efallai y gwyr rhai o ddarJlen- wyr y Cymro yn amgen; os felly, byddai gair oddi- wrthynt yn ddyddorol. Llkw. Ymddengys fod llywodraeth leol Bwcle, sir Fflint, ya bur ddidrefn am fod cryn chwech o wa- hanol fyrddau cyhoeddus a rhan ynddo. Y mae rhai tros hwyluso pethau trwy gyfrif y He i gyd yn Undeb Penarddlag.
Birkenhead.
Birkenhead. TAN nawdd Teml Hiraethog, nos Fercher ddiwedd- af, caed cyngherdd a chystadleuon mewn canu ac adrodd yn nghapel yr Woodlands Y cadeirydd ydoedd Mr Richard Roberts, Rock Ferry—ond Affrica, fel y'i hadnabyddir oreu. Datganwyd gan Miss Alwena Williams, Mri Edward Jones, Robert Jones, James Edwards, a'r Liscard Glee Party a Miss Millicent Richards yn cyfeilio. Caed tair cystadleuaeth yn ystod y cyfarfod—un i ferched am ganu unrhyw unawd, gwobr 10s 6ch a thlws arian buddugol, Miss Lillie Jones, Selborne Street, Ler- pwl. Eto i feibion, unrhyw unawd, 10s 6ch a thlws arian; buddugol, Mr Meirion Jones. Am adrodd, 10s 6ch 0 thlws arian buddugol, Mr Ctriff Davies, Walton, oddiar 12 o ymgeiswyr ac yr oedd nifer lluosog yn ymgais yn y dclwy gystadleuaeth ganu. Y beirniad cerddorol ydoedd Mr W. M. Roberts, Gwrecsam a'r adrodd, Mr J. H. Jones. Ysgrif- euyd d y cyfarfod oedd Mr R. E. Roberts; a Mr Llew Wynne yn hyrwyddwr cvffredinol. Wrth dalu'r diolebiadau., awgrymodd Mr David Williams y byddai'r prawf-gyngherdd hwn 0 hyn allan yn un blynyddol. Aiff yr elw at alluogi'r deml i droi allan i'r prif ffyrdd a'r caeau i geisio sobri Cymry cyfr- golledig y cil-heolydd. Nos Sadwrn a'r Sul nesaf, bydd y Parchn S. T. Jones, Rhyl, a'r Proff Edwin Williams, Trefecca, yn gweinyddu yn righyfarfod pregethu blynyddol Parkfield. --0--
Nodion o faelor,
Nodion o faelor, Nos Sadwrn. WEL, dyma dyinhor y gau wedi dechreu mewn god- idogrwydd, a gobeithio y parha yn beraidd ar hyd y gauaf. Trodd Gwrecsam a holl Faelor allan yn deilwng nos Lun ddiweddaf, ac anmhosibl i'r Cor Merched Brenhinol gael derbyniad mwy tywysog- aidd yn unman. Amheuwn bron ai yn Maelor yr oeddwn. Pan gyrhaeddais t neuadd, diar bach, bu agos i'r olygfa gymeryd fy anadl ymaith. Y neuadd wedi ei gorlenwi. a'r gwerthu tocynau wedi ei atal er's meityn. Lwc garw i chi ofalu am docynau mewn pryd," meddai'r hen wraig, ond tybed 'na nhw le i ni, deudwch? 'Does dim ond treio, neno dyn," ebe finau, ac ymwthiem drwy ddrws y cefn. Ar ol llawer o ymwthio, cryn duchan, a pheth ffafraeth, deuwyd a dwy gadair o rywle, a dyma ni yn reit dwt yn ymyl y llwvfan, ac fel pawb arall yn Wen o glust i glust. Golwg mwy swynol a gwedd mwy ddeniadol oedd ar y cor enwog nag erioed ac un amser ni ogleis- iwyd ein clnst gymaint gan y lleisiau per, melodaidd. Canent yn odidog, ac ar droion edrychwn ai onid oedd adenydd ganddynt gan faint y swyn a deimlwn. Gwella ma,e'r cwrnni bob cnoc, er anrhydedd i'r merched, a chlod nid bychan i'r arweinyddes a'r athrawes fedrus, Madame Clara, Novello Davies. Cavvsant encdr ar ol pob dernyn, a pharod oeddynt hwythau i ddiwallu pob dymuniad. Ond, ie ond, ni cheir y melus heb y chwerw," ac nid perffaith oedd ein llawenydd yma. "Côr Cymreig "—na Royal Welsh," begio'u pardwn—y gelwir y c6r, ond carwn wybod pa nodweddion Cym- reig a berthyn iddo ? Gwisg, arddull, caneuon, ac iaith yn gwbl Seisnig Disgwyliwn gyngherdd a thipyn o Gymraeg ynddo, beth bynag ond allan o 24 o ddarnau ar y rhaglen, ni welid ond dau enw Cpnraeg-Emlyn Evans a Gwilym Gwent-a Saesneg oedd iaith y rhai hyny, fel y mae mwyaf cywilydd. Fe ddylai y cor naill ai profi eu hawl i'r enw o "Gôr Cymreig," neu ynte chwilio am enw newydd ar unwaith. Gwelsant yn eglur eu camsyniad nos Lun, os y mynant weled, a beth a ddisgwylid oddi- wrthynt, gan y llefau parhaus am Gymraeg" yn mhob encor. Da chwi, y tro nesaf y deuwch yma, tynwch y plets o'ch gwefusau, a gadewch i ni gael tipyn o iaith eich mam. Cynorthwyid y cor yn deilwng gan Mr Emlyn Davies, sydd bob amser yn cael mynediad helaeth i mefln i galonau y Maeloriaid a chan y grythores boblogaidd, Miss Backsheen Wood, y rhai a roisant lawn foddlonrwydd. 'Rwy'n sicr braidd na chlywsom Emlyn mewn gwell hwyl un amser, a phe cawsai y gynulleidfa ei ftordd ei hun, buasai'n canu yno eto. Meistres galed yw cynulleidfa wedi'r cyfan. Pwy noson, cynelid cyngherdd yn Brymbo er budd Mr John Edwards, sydd a'i wyneb ar bwlpud y Dippars, i'w gynorthwyo i barhau ei efrydiaeth yn Ngholeg Caerdydd. Cymerwyd rhan gan Mrs Rhydderch, Brymbo; Mri Ryland George, Cefn Mawr Teify Davies, Aberystwyth, ac Abon. Cyn- ulliad gweddol a chyngherdd go lew. Dydd Mercher, aed trwy y seremoni o osod ceryg sylfaen capel newydd y Bedyddwyr Seisnig yn Cefn Mawr gan Mrs'Jones (Maeres Crewe), Mrs E Lloyd Edwards, Llangollen, a Mrs R Jones, Newbridge. Traul yr adeilad fydd 1,100p, a lie i 430 eistedd, yn nghydag ysgoldy i eistedd 300 o blant. Ddydd Iau, pasiodd Bwrdd Gwarcheidwaid Gwrecsam, benderfyniad yn protestio yn erbyn Mesur Trethiad y Clerigwyr fel un annghvfiawn a phleidgar, ac yn gofyn am ei alw'n ol. Ddechreu yr wythnos yr oedd ein cyd-ddyffrynwr, Mr Robert Bryan, yn tori cyt yn Nghymanfa flyn- yddol Solffawyr Gogledd Cymru yn Nghaernarfon. Darllenodd bapyr yn nghyfarfod y prydnawn yn lie Mr L J Roberts, a gweithredai fel beirniad yn nghystadleuon cyfarfod yr hwyr. Yn ystod y dydd, datgauwyd arnryw ddarnau swynol o'i waith, a chlywais fod canmoliaeth uchel iddynt gan y critics. Pa bryd y ceir clywed ffrwyth ei awen yn Ngwrec sam, tybed? Deallaf fod ganddo wmbreth o ddarnau o bob math wedi eu cyfansoddi, o'r gan i'r gantawd a tharawai im' meddwl y dydd o'r blaen mai nid dwl o beth fyddai codi cyngherdd yn y dref i ganu dim ond ei ddarnau ef, a chael cantorion teilwng, wrth gwrs. Os yw yr awgrym yn werth rhywbeth, cym- ered rhywun y peth i fynu. DYFFKYSIWK. -0 Y mae helynt y Transvaal wedi peri i'r aelodau Cymreig ddychwelyd yn gynt o'u crwydriadau. Dy- chwelodd Mr Lloyd George o Canada ddydd Llun, a bydd Mr Alf Thomas adref yr wythnos hon. Cvvvna rhai 0 offeiriaid esgobaeth Tyddewi fod llawysgrif yr esgob bron yn annealladwy. Y mae derbyn llythyrau o'r fatli yn achosi llawer o Hinder iddynt. Nid llawysgrif yr esgob yn unig sydd yn aneglur, eithr cwyna Ymueillduwyr fod ei areithiau ar bwnc yr Eglwys yn aneglur i bawb.
Y Transvaal.
Y Transvaal. ATEHIAD PRYDAIN. DYMA atebiad Mr Chamberlain i gynygiad olaf y Transvaal: Derbyniodd Llywodraeth ei Mawr- hydi gyda gofid dwys ofynion pendant Llywodraeth Gweriniaeth Deheudir Affrica osodir allan yn yr eiddocham y 9fed cyf. Bydd i chwi (Syr A. Mil- ner) hysbysu Gweriniaeth Deheudir Affrica, mewn atebiad, fod yr amodau a hawlir gan Lywodraeth Gweriniaeth Deheudir Affrica yn gyfryw ag a ys- tyria Llywodraeth ei Mawrhydi yn anmhosibl eu trafod." Y RlirFEL. Y newydd cyntaf a gyrhaeddodd yma o faes y rhyfel ydoedd boreu Sadwrn am gerbydres a svrth- iodd i ddwylaw y Boeriaid rhwng Vryburg a Mafe- king. Cawsant wybod fod y tren yn cael ei gyru o Capetown hefo arfau, ac ar unwaith codasant y reil- iau ger Kraipan, gyda'r canlyniad iddi adael y llin- ell. Taniwyd arni am haner awr, a chymerwyd yr holl ddynion yn garcharorion ond y gyriedydd, vr hwn a ddiangodd. Ofnid yr ymosodent yn nesaf ar Mafeking, ac aed i ddyogelu'r dref. Bariwyd yr heolydd a gwageni, a charia pob dyn wn. Auhawdd anfon help yno.. Mae y reilffordd i'r de at drugaredd y Boeriaid, a'r gwifrau pellebrol wedi eu tori. Ond llwyddwyd i. anfon y gwragedd a'r plant i Capetown. Trowd nifer 0 dai yn ysbyttai. Caniataodd yr Esgob Pab- aidd i'r lleianod adael eu sefydliad, ond dewisasant aros i weini ar y clwyfedigion. Gwnaeth amryw ferched eraill yr un modd. Y mae digon o ym- borth am ddeufis. Ddydi Mercher cyhoeddodd Syr A. Milner y bydd pwy bynag a helpa'r gelyn yn erbyn Prydain yn euog o deyrnfradwriaeth. YMDDVRIKD YN YR HOI.LAXLUOG. Yr oedd dydd Mawrth yn ben blwydd yr Arlyw- ydd Kruger. Ymwelwyd ag ef gan lu o'i bobl. Argraphodd yntau arnynt am ymddiried yn gwbl i'r' Hollalluog, yr hwn a gyfeiriai bob pelen. Rhaid iddynt godi eu calonau, a chofio y dyddiau gyut, pan, er fod eu gelynion yn lluosog, ychydig mewn cymhariaeth a syrthiodd o'r Boeriaid. HELI- 0 CANADA. Ddechreu yr wythnos cychwynodd nifer mawr o iilwyr o Canada, a rhybuddiwyd amryw longau i fod yn barod i fordwyo i Delagoa Bay. AWSTKALIA. Yn Senedd Victoria, ddydd Mercher, ar gynygiad y Prit Weiiaido-, pleidleisiwyd 30,000p at yru milwn-r i helpu Prydain yn y Trausvail. Y BOERIAID. Ganol yr wythnos ddiweddaf, cyhoeddodd y Cad- fridog Joubert am i'r gwersylloedd Boeraidd fod yn barod i gychwyn ar funyd o rybudd. MILWYR PRYDAIN. Y mae y milwyr Prydeinig yn Natal wedi eu gwersyllu yn Glencoe, Dundee, Ladysmith, Colen- so, yn nghyda nifer cryf yn Cape Colony. YR UKOI. DALAETHAU. Ddydd Iau, hysbyswyd fod yr Arlywydd M'Kin- ley wedi derbyn lluaws o geisiadau am i'r Unol Dal- aethau gyfryngu rhwng Lloegr a'r Transvaal, ac eraill eisiau iddo bleidio y Boeriaid. Ateb swydd- ogol yr Arlywydd ydoedd nad doeth iddynt gymer- yd yr un ochr ac nad oedd yr un o'r ddwy wlad wedi mynegu eu parodrwydd i dderbyn cyfryngiad. Terfyna yr atebiad fel hyn Y mae yn wvbydd- us fod yr Arlywydd yn gobeithio ac yn hyderu y gellir osgoi rhyfel, ond os, yn anffodus, mai fel arall y bydd, ceisia ef edrych na bydd i'n meddianau cenedlaethol na'r eiddo ein dinasyddion ddyoddef yn,, ddiangenrhaid." AGWEDD BKESENOL YR ORANGE FREE STATE. Dywedir i'r Arlywydd Steyn gyhoeddi apel gref at ddinaswyr yr Orange Free State, yn galw arnynt i gyduno i wrthwynebu y galluoedd Prydeinig. Defnyddia iaith lem yn erbyn Prydain, a dywed mai torwr cytundebau ydyw. Y mae y datganiad yn symud ymaith unrhyw amheuaeth o berthynas i agwedd y Free State. Cyhoeddodd Mr Hofmeyr a nifer o aelodau y Rand apel am danysgrifiadau i'r Boeriaid hyny a gaiff eu hanafu, ac hefyd i'w gweddwon a'u plant amddifaid. Dywed yr apel fod y gyfraith yn rhwystro iddynt gynorthwyo eu brodyr yr Affricaniaid gydag arfau, ond nid yw yn ymyryd a'r gronfa gynorthwyol sydd wedi ei ffurfio. Y mae y teimlad brodorol yn rhedeg yn uchel, ond y mae y drefedigaeth yn dawel. CEKADWRI KRUGER I'R AMERICA. Anfonodd yr Arlywydd Kruger y pellebyr can- lynol i'r IVorld:- Trwy gyfrwng y World, yr wyf yn diolch i'r Americaniaid yn y modd mwyaf didwyll am eu cyd- ymdeimlad. Dydd Llun diweddaf, rhoddodd y Weriniaeth' rybudd o 48 o oriau i Loegr, yn yr hwn amser yr oedd y wlad ddiweddaf i roddi sicrwydd i'r Werin- iaeth y byddai i'r annghydfod presenol gael ei setlo" trwy gyflafareddiad, neu drwy ryw foddion heddych- ol eraill, ac y byddai i'r milwyr gael eu symud oddi- ar y gororau. Y mae y rhybudd hwn yn terfynu am bump heddyw. "Y mae y Cynghorydd Prydeinig wedi cael eialw ymaith. Y mae rhyfel yn sicr. Y mae y Gweriniaethau yn benderfynol, os bydd yn rhaid iddynt ddod yn eiddo i Loegr, y bydd yn rhaid talu pris a fydd yn sicr 0 daro dynoliaeth a dychryn a syfrdandod. Fodd bynag, y mae ganddynt lawn hyder y bydd i haul rhyddid godi yn Neheudir Affrica fel y cod odd yn Ngogledd America." Dydd Llun. Amwys iawn oedd y newyddion ddaeth i law bore LluD, ac nid oedd sicrwydd am ddim. Y naill newydd yn gwrthddweyd y Hall. Ymddangosai yn bur eglur fod y Boeriaid wedi ymosod ar Mafe- king, ond gyda pha ganlyniadau ni wyddis Y mae'n amlwg hefyd fod cryn brysurdeb yn mhlith y Boeriaid ar y gororau gorllewinol. Yn Natal i hefyd achosa symudiadau y Boeriaid i mewn gryn gynhwrf, a chredir eu bod yn dynesu at Newcastle. Yn y Transvaal ei hun, deil pethau yn bur dawel, yn ol pob hysbysrwydd. Dywedir fod y reilffordd weli ei dinystrio yn ymyl afon Modder, 25 milldir i'r dehau 0 Kimberley, a'r Boeriaid wedi cymeryd I gorsaf Brakwal, 28 milldir i'r gogledd-orllewin o Ladysmith. Ar ororau yr Orange Free State, honir fod y Boeriaid yn creu cynhwrf yn meddyliau y brodorion, a chymerir mesurau gochelgar. ,Sib- rydir fod amryw fan fysgarmesoedd wedi cymeryd lie mewn gwahauol leoedd Dydd Mawrth. Nid yw y newydd ion heddyw eto nemawr llai amwvs. Yn eu blacnau i Natal y teithia'r Boer- iaid hysbysir fod Newcastle wedi ei chymeryd, (Parhud ar dudalen 8),