Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y Prifathraw John Rhys ar…

News
Cite
Share

Y Prifathraw John Rhys ar Enwau Lleoedd. (Parhad.) I)YNA fi wedi gosod o'ch blaen dri esbaniad ar yr enw Corwen, un o'm heiddo fy hun a dau o'r eiddo doethion eraill. Cymerwch yr un a fynnoch, gan gofio'r hen ddihareb odidog honno Goreu awen, gwirionedd. Ond i ddychwelyd at y fuwch yn y cor, mae'n go( geanyf y difyrrwch a barodd y geiriau hynny i mi pan glywais hwynt gyntaf ryw tiro yn Nyffryn CINyd. Y mae'n engraifFt dda o un math o wahaniaeth rhwng y naill lediaith a'r llill y'Nghymru yn ein dyddiau ni ond gwahan- iaeth cyfyngedig ydyw i arwyddocSd gair unigol. Y mae math arall o wahaniaeth a dreiddia'n ddyfn- ftch ac yn lletach,megys gwahaniaeth sain: cewch yr un gair yn cael ei ddefnyddio drwy Gymru oil ond yn ami yn cael ei seinio'n wahanol mewn gwahanol ar- daloedd. Y mae gwahaniaeth felly o fwy pwys o lawer i'r ieithydd a'r hanesydd nag un gwahaniaeth ystyr gair a dyma un o'r pethau cyntaf i dynnu fy sylw i at eiriau pan oeddwn yn fachgen. Yn ttrdal Ponterwyd y ganed ac y maged ti y'mhen uchaf Ceredigion, a byddai gennym weithiau was neu forwyn oddi lawr fel y dywedid yno; hynny yw, rhai o ganol neu waelod y sir, a mawr y dy- ddordeb a gawn i yn gwrando arnynt yn son am yr houl neu eu dou lygad, yn lie haul a dau lygad, fel y byddem ni yn arfer seinio'r geiriau. Ar y Haw arall, pan elem ychydig filldiroedd i'r dwyrain, sef dros Eisteddfa Gurig i flaen Dyffryn Gwy, clywem bawb yn seinio'r llafariad a yn llawer meinach na ni, ac yn son am giathod an am giazvs a rhywbeth yn debyg oedd hi tua Llyfnant ac Afon Dyfi. Erbyn hyn yr wyf yn deall fod y xlafodiaith a ddysgais i yn blentyn yn gyfyngedig i ben uchaf Ceredigion o'r Wysc, ger Llanrhystud, hyd Lyfnant, ac o Bont y Rhyd Fendigaid hyd Lyn Llygad y Rheidol. Y tu draw i'r Wysc daw tafod- iaith Dyfed i fynu, a'r tu yma i Ddyti ceir tafod- iaith Powys yn teyrnasu. Pan ymwelais a Dol- gellau gyntaf, cawn fod yr un helynt yno efo Ciadi a'r giath a'r ciaws ag yn Llangurig a blaen Dyffryn Gwy ond fy syndod oedd pan gyrhaedd- ais y Bala glywed pobl barchus y dref honno'n siarad Cymraeg da bron yr un tfunud a phobl Dyffryn y Rheidol y INgheredigion. Ond o'r Bala hyd Langollen ni chanfyddwn ond gwahaniaeth graddol yn y dafodiaith. Nid oes i'm tyb i ddim yn raddol pa fodd bynag yn y gwahaniaeth rhwng -Aberystwyth a Meirion, neu rhwng Blaen y Rheidol a Blaen Gwy am a wn i nad oes cymaint o wahan- iaeth sain rhwng Cymraeg Ponterwyd a Chymraeg Dolgellau, er bod Dolgellau lawer y'mhellacb. Pa fodd y mae esbonio peth felly ? Ond cyn sylwi ar y gofyniad yna., carwn awgrymu mor ddymunol fyddai cael gan rai o fechgyn meddylgar yr ardal- oedd hyn gyfrif o fanylion a therfynau gwahanol dafodieithoedd y Gymraeg y'Ngogledd Cymru. Mae digon o newyddiadoron a fyddent yn birod ar Unwaith i gyhoeddi'r oil ac i roddi i'r neb a fynno gyfleustra i nithio'r cynnyrch yn drwyadl. Pe ceid hynny, byddai hwyrach yn haws gwneud allan y berthynas hanesyddol rhwng y tafodieithoedd dan sylw a'i gilydd. Fy marn i ar hyn o bryd yw fod canolbarth Cymru yn perthyn oesoedd lawer yn ol i lwyth yr Ordovices neu'r Orddwigiaid, ac mai un dafodiaith unrhywiog a lefarent o'r W ysc i'r Bala, ac o rywle ynswydd Faeshyfed hyd y'nghym- ydogaeth Caerlleon a'r Ddyfrdwy. Os felly, rhaid mai rhyw boblogaeth ddiweddarach ddaeth a thafodiaith Powys i mewn a'i lledaenu dros rannau helaeth 0'1 Canolbarth, a thros rannau hefyd o Wynedd, sef o'r lie a elwir Gian Gwynedd (uwch- law Machynlleth) hyd y Felenrhyd a'r Traeth Mawr, ger Porthmadog. Digon tebyg mai's bobl- ogaeth ddiweddarach honno a roddodd fodolaeth wahanredol i'r rhanbarth helaeth a adwaenir wrth yr enw Powys ac os gofyn neb pwy oedd y bobl hynny, fy marn i yw mai teulu Cunedda Wledig a'i Feibion oeddynt a'u lluoedd buddugol. O'r gogledd o lannau'r afon Gweryd, a eilw eraill yn Forth, y dengys eu hanes i deulu Cunedda Wledig ddyfod, a gelwir y llinach hon yn un o dair Gwely^ordd Santaidd Ynys Prydain canys perthynai iddi hi nid yn unig brif dywysogiun Cymru, ac y'mhlith eraill y breniu galluog Maelgwn Gwynedd, ond hefyd rifedi mawr o hen seintiau rhagoraf ein gwlad gwyr oedd Cunedda a'i Feibion a fedrent yn ddi-ddadl wneuthur y goreu o fyd ac eglwys, o'r cleddyf a r canon. Dyna fi wedi taflu o'ch blaen awgrym neu ddwy Has gallaf eu dilyn y'mhellach ar hyn o bryd rhag i mi eich blino a gormod meithder. Ond gobeithiaf &a. bydd i fechgyn llenorol yr ardaloedd hyn annghofio'r cais a gyfeiriais atynt gyda golwg ar derfynau tafodieithoedd y Gymraeg y'Ngogledd pymru. Y mae pwnc fel hwn yn debyg i ymchwil- iadau'r daearegwr eisiau sydd arnom ddeall pa fodd i wahanu'r haenau sydd yn gorwedd y naill ar y Ilall, Haenau o graig a hawliant sylw'r daear- 8gwr, ond haenau hanes y mae a fynnom ni a hWYDt, ac nid rhaid i chwi wrth waith morthwyl nag ebill y'mherfeddion daear er mwyn dyfod a'r pwuc i oleuni dydd dim ond rhodio gwyneb am- rywiol Cymru, gwrando'n astud ar ei thrigolion, a chadw eich clustiau a'ch meddyliau'n agored. Byddwch wych a chofiwch hynny. :0:

Cwreichion.

--Cadair Cerddorol i Cymru.

Etholiad Orkney a Shetland.…

Advertising

O'r Twr.

I Cyfarfod Misol Liverpool.

Advertising