Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE, ORGAN, HARMONIUM, & MUSIC SELLERS. 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Ceclwir Stock helaeth o bob math o offerynau Oerdd. PIANOS o los. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c, &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Ia;th, Dr. P.arry, &c. GVad y Delyn [J. Be try], cyfaddas i bob llais. Is O Kwy'n Cofio (Sweet Memories) Tenor Is Gwiad y Canu Is Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano nea Ten-r Is Bwthyn yr Amddifad" Is Llyrhyr fy Mam. Sopraho neu Tenor Is Mereh y Morwr "Is Merch y C-dben. Baritone Is Cenwch im' yr > en ganitdau I Hen Gadair Fawr fy Mam. ContraJto. Baritone <3c O! Peidiwch t» i'r Blodnu II Is Songs of Wales [bound] 4s post free Dim ond Deileu Contralto neu Baritone 6;1 Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., 106. HOLT ROAD, LIVERPOOL. 1 Eto ar y Blaen. E W E R I N. JL -1-J < ? -LJ JL < TE A C HOFFI PU R. Gwerthiant yn cynydclu bob wythnos o -an pwys i dunelli. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER CUTTER £ ENGRAVER j 53, PARADISE STREET, LIVERPOOL. MANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STESCIL PLATES, IUHBER STAMPS, BRASS PLATES, &C. BEE HOTEL, ABERGE.i-E.. Old Established and generally admitteu one of the most comfortable in North Wales either for Commercial meu or families. Good Billiard Riom. Posting. 'Bus meets trains. Home from Home. M. OWEN, Proprietress. Gartref Cymreig i Ymwelwyr â Llundain. (-ILASLYN HO-USE, 9, EU3TON SQUARE, LONDON N.W, EVANS' TEMPERANCE HOTEL. Most Central to all parts of London. Close to Euston(L &. N. W. Ry.) Station. Two Minutos walk from St Pancras (Midland Ry). Station. D. EVANS, Proprietor. Addygsol• BEAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL. HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, ASSISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. J) Terms Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS SEPTEMBER 17TH. Apply, HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS d; GIRLS). HEAD-MASTER EDMUND D. JONES, M.A. HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, BA. Boys received as Boarders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. RICHARD E. EVANS. BOUSE AND ESTATE AGENT, ia, Preston Street (Opposite Police Courts), LIVFRPoor, And 67, CLARENDON ROAD, SKACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET. MORTGAGES EFFECTED. THOS. JONES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 21- T^r lb. SPECIAL VALUE. —— Parcels of Tea value 20/- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. THOS JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL.
----------------.-At Ein Cohebwyr.
At Ein Cohebwyr. MAE y'mofynydd yn gofyn (1) am y llyfrau a roddant yr help gareu i efrydu'r Bardd Otusy (2) A oes Geiriaduron yn rhoddi ystyron i eirian anarfer^ dig a geir yn ngweithidu yr hen awdur On Cymreig, gyda'u tarddiadau ? (1) Yr wyf yn j m-iddwl uiai'r dull goreu i efrydu Bardd Owsg ydyw'r dull arferol o efrydu pethal1 craill, sef tan Kthraw gwybodns ac mewn dosbarth o ddeg nen ddeuddeg. (2) Y llyfr goieti at y pwrpas a nodir ydyw Geiriadur Cymraeg a Saesneg THOMAS Richards—Thomas, cofier ond gan fo.! hwnw'n anhawdd ei gael, hyd oni chwblheir yr argraphiad newydd ohono sy'n awr yn y wasg, y Geiriadur goreu ydyw'r un Cymraeg a Saesneg, gwerth 2s 6ch, cyhoeddedig gan Mr Hugh Humphreys, Caernarfon.
YR OEDFA GYhTAT
YR OEDFA GYhTAT PRYDNAWN Llun, am ddau o'r gloch, cyfarfu y Senedd fwyaf Toriaidd a fu yn Mhrydain Fawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bum- theg a phery, mae fwy na thebyg, ddigon o hyd i gyflwyiior Cyfansoddiad Prydeinig fydd tan ei gofal i'r ganrif nesaf. Er mai am ddau o'r gloch yn y prydnawn yr oedd yr oedfa i ddechreu, daeth lluaws o'r aelod- au, newyddion gan mwyaf, yno oriau meith- ion cyn yr awr benodedig--uri seneddwr aiddgar mor fore a haner awr wedi pump, ac amryw eraill cyn i'r ceiliogod orphen canu. Mae'n gysur gweled gymaint o sel ac o awydd at waith yn y deddfroddwyr ieuainc. Pan ddaeth dau o'r gloch, yr oedd y Ty, meddir, yn lied lawn, ac wedi myned trwy y defodall hynafol arferol, ymo olwyd am ddewis Llefarydd, Cadeirydd, neu Arolyg- ydd. Ofnid unwaith y buasai'r Toriaid yn tori ar y ddefod o beidio newid Llefarydd y Ty gyda newidiad Llywodraeth, ac y buasai'r Rhyddfrydwr Gully, a ddyrchaf- wyd i'r swydd mcr ddiweddar, yn cael ei daflu naill du ganddynt er mwyn ethol un ohouynt hwy eu hunain. Yr oedd Mr Bal- four wedi bygwth hyny mewn llythyr at etholwyr Carlisle ond cododd y Wasg Undebol, o'r -Tt,iit-s i lawr, y fath wrthwyn- tbiad i'r cynllun, fel y bu:raid i'r Arweinydd Balfour dynu ei gyrn ato, a chymeryd ei dywys ei hun yn hytrach nag iddo ef arwain eraill. Cynygiwyd Mr Gully i'r swydd gan y Ceidwadwr pendant Syr John Mowbray, un o'r awdurdodau uchaf ar arferion Ty'r Cyffredin, ac eiliwyd ef gan Mr John Ellis, Rhyddfrydwr, A.S. tros ranbarth sir Not- tingham attegwyd y cynygiad gan Mr Balfour, fel arweinydd y Toriaid, a chan Syr Vim. Harcourt fel arweinydd y Rhydd- frydwyr. Ni chodwyd na llais na llaw yn erbyn a chyda unfrydedd na welwyd ond antynych ei fath yn mysg Seneddwyr rhoddwyd y Llefarydd newydd i eistedd yn ei gadair, gyda dymuniadau goreu pawb iddo gael hoedl ac iechyd i lanw'r swydd yn deilwng o'r traddodiad a'r urddasoldeb sv'n perthyn iddi. Yr hyn a synai bawb oedd yn llygad- dyst o'r weithred uchod ydoedd y tangnef- edd hyfryd a'i nodweddai rhagor yr ys- garmesoedd tymhestlog a tfynai yn yr un lie ddeufis neu lai yn ol. Heddyw yr oedd pawb yn wen o glust i glust, a'r chwerwaf ei dymher a'i dafod wedi eu ffrwyno a'u cadw danodd. Bron na buasai ambell un o'r ychydig Aelodau Cymreig sy'n gwybod rhywbeth am lenyddiaeth eu gwlad, yn meddwl am eiriau angerddol John Black- well wedi eu lied aralleirio Plaid yn ngwrth plaid ni threalia mwy ei grym, Ni chwrdd seneddwyr graid a. llygaid llym Ni hulir aerfa mwy a, llachar ddur Ni chyffry swn y gloch na chas na chur. Tyf pabnwydd gwyrdd yn mangre'r grinllyd berth, A myrtwydd prid lie eysgodd cegid certh. Y blaidd a'r oen gydborant gylch y gail, Tywysa'r plentyn lew wrth denyn dail, &c. Pa hyd y pery'r cadoediad heddychlawn hwn rhwng y ddwyblaid nid oes sicrwydd ond mai am fyr amser. Ni raid aros yn hir i'w gweled yn tynu eu gwinedd o'r blew. Y mae'r Gwyddelod yn sychedu am ollwng gwaed rhywrai heblaw eu gilydd ac fe geir prawf gan Blaid Llafur ei bod hithau'n fyw os yn llai o nifer. Y mae hyd yn nod dau esgob Gogledd Cymru yn tyrfu am i ryw bethau gael eu gwneud ar lun diwygio'r Egiwys yn y bwlch presenol, megys rhwng dwy dymhestl, ac os ant ati i ddiwygio, nid anfuddiol a fyddai iddynt gymeiyd i ystyr- iaeth y ffolineb a'r annghyfiawnder a ddes- grifir yn y llythyr a welir mewn colofn t, arall, a cheisio dyfeisio rhyw foddion i'w gochelyd yn y dyfodol. I Gan gofio, fe ddywedodd Arglwydd Salis- bury mai llonyddwch sydd ar y wlad eisiau am rai blynyddau ac onibai am un rheswm, sef ei phartneriaeth a Mr Chamberlain, dichon mai i gysgu'r aethai Toriaeth, a chroen y behemoth am dani, fel nas gallai na Gwyddel nac Esgob ei haflonyddu. Ond nid gwr i roi cwsg i'w amrant ydyw Mr Joseph Cfambe lain, neu fe baid a bod V fo ei hun. Pan ddeio y ddwy natur hyn i annghytundeb y ceir testyn efrydiaeth ddyddorol mewn gwladlywiaeth rhaid i hyny ddigwydd yn hwyr neu hwyrach. Am Gymru, y mae gwaith mawr ei har- vvcinyddion gwleidyddol hi y blynyddau nesaf yn gorwedd oddiallan i'r Senedd yn hytrach nag oddifewn. Da genym glywed fod Mr Berea G. Evans yn gwysio Cymry ieuainc at y gwaith o sefydlu canghenau o Gymdeithas yn mhob plwyf a phentref ac y mae y presenol yn adeg dra phriodol i gychwyn y Cynghrair y sonid am dano fis- oedd yn ol. Mae amser i bobpeth, a dyma mae'n ddiau yr adeg fwyaf manteisiol i wneud cais teg at sefydlu Cynghrair Rhyddfrydol Cymreig. Os gellir ei sefydlu, yn awr y gellir os na ellir yn awr, da fyddai el adael yi-i llonydd am byth. Ond y mae'n werth ar lawer cyfrif rhoi prawf teg arno. -0--
Colegau Hyfforddiadol Cymru.
Colegau Hyfforddiadol Cymru. YR wythnos lion cvhoeddwyd aclrorldiadau Mr Williams a Mr L. J. Roberts, ar yr arholiadau gynaliwyd ganddynt yn ddiweddar. Ceir fod 60 o fyfyrwyr yn Ngholeg Hyfforddiadol Esgobaeth Bangor, 60 yn y Coleg Normalaidd, 62 yn Ngholeg Caerfyrddin, a 77 yu Ngholeg Hyfforddiadol y Merched, Abertawe. Ceir hefyd fod dosbarthiad- iadau dyddiol i gyfranu cyffelyb addysg wedi eu sefydlu yn nglyn a Cholegau'r Prifysgolion, ac yn gwneud gwaith da a chynydd amlwg. Edrycha'r arholwyr yn ffafriol ar waith yr ymgeiswyr yn cymeryd Cymraeg fel iaith arbenig i'w hastudio, ond y mae'r papyrau Cymraeg yn annghyfartal iawn. Priodolir gwendid y cyfieithiadau-yn neill- duol o'r Saesneg i'r Gymrdeg-i ddiffyg astudiaeth o ramadeg yr iaith gan y dibynir gormod ar y wybodaeth ohoni fel ei siaredir. Ond ceir fod Cymraeg y Gogledd yn llawer gwell nag eiddo'r Deheudir, ac yr oedd yr iaith yn Morganwg a Mynwy yn hynod sathredig. Dengys yr arholwyr mai yr unig ffordd i weila'r diffygion hyn ydyw trwy roddi astudiaeth fwy trwyadl i ramadeg Cymraeg. o
[No title]
Yr Arolygydd Hughes, Porthaethwy, sydd wedi ei benodi yn is-Brif-gwnstabl Mon fel olynydd i'r diweddar Arolygydd Hughes, Caergybi.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. feulu Porthawel yn Mon DYWED un o bapyrau Llundain nad oes lai na phedair Lady Boston yn awr yn fyw, tair ohon- ynt yn Waddolog neu Dowagers. Darfu i dad a thaid yr Arglwydd Boston presenol-yr hwn, gyda llaw, sydd yn ddarllenwr mawr a cherddor gwych—briodi dwy chwaer y taid yn priodi'r ieuengaf. Y mae'r ddwy foneddiges hyn yn awr yn fyw ac yn chwanegol, dyna Lady Boston, y llysfam, a Lady Bjston priod y pen- defig presenol. Tori simpil. DYWEDODD Tori ychydig amser yn ol wrth Mr Lloyd George mai yr aqhos na wrthwynebasunt Mr Bryn Roberts yn E 'fion ydoedd am ei fod yn gwnend eu gwaith hwy-y Tom. Ie, siwr fe wyr. pawb hyny. Dyna arferiad Toris a Radicals y wlad yma bob amser. Dyna p'am na wrth- wynebwyd Mabon yn y Rhondda—gwneud gwaitb y Toris y mae ac na wrthwynebwyd Gosehen yn Llundain, gwneud gwaith y Radicals y mae. Onid oedd o'n Dori simpil, meuldweh chwi ? A Mr. George mor simpil ag yntau, os yn ei goelio Y Dry orfa" a'r Genedl," MAE Gol. y Drysorfa, Dr Cynhafal Jones, wedi tynu Gol. y Genecll yn ei ben. Bl1 mor anffodus a ehyhuddo'r. newyddiadur gonest o gymeryd darnau o'r Drysorfa heb eu cydnabod. Etyb y cyhuddedig na chymerodd ef i'r eithaf ond dau baragraph, a hyny mewn mistec. Yna sieryd fel yr hyn a elwir irijiti-ed innocence P'am na fuasai perchenog yr eiddo a ladratawyd yn ddigon boneddigaidd i yru gair yn breifat ato ef (y cymerwr) a gofyn os oedd o wedi Had—na, cymeryd y pethma o'r blema ? 'Does dim gwed na rboi gwyneb da ar gamwedd ac edrych yn ddiniwed. Yn ol eglurhad y Genedl, ar yr ochr arall y mae yr holl fai. Diolcbed Cynhyfd nad yw'r cyhuddedig wedi ei fwrw i garchar am ei ddifenwi. Prif-dref sir Fflint- MOR ddystaw ydyw Esgob Llanelwy. Chlybu- wyd fawr oddiwrtho ar ol y Lecsiwn. Bll yn trydar yn gwynfanus ei ddiolchgarwch i Rag- luniaeth. Dyna'r oil. Rhaid ei fod ynddiolch- gar wrth natur. Ac eithrio Bangor, nid oes yr un esgobaeth yn Nghymru na Lloegr heb i'r blaid egl wysig- bn blicanaidd enill sedd oddigerth esgobaeth Llanelwy. Mae gohebydd yn y Times am ddydd Iau yn dweyd mai i'r esgob y dylem ddiolch am ostwng y mwyafrif yn sir Fflint ? Ond ai iddo ef y dylid diolch hefyd am godi mwyafrif Syr Osborne yn- sir Ddinbych ? Hwyiach y dylid hysbysu, er profi faint wyr gohebydd hwn y liines am yr hyn yr ysgrifena yn ei gylch, ei fod yn dweyd mai Llanelwy yw prif dref sir Fflint Prif-eglwys Llanelwy, CANU ARDDEUCHOG. BYTHEFNOS yn (11, vr oeddwn yn Llanelwy, a chenyf awr i spario, aethum i'r gwasanaeth dyddiol a gynelir yn y Brif-eglwys o dri i bedwar yn y prydnawn. Prydnawn Sadwrn oedd hi, pan y gallesid disgwyl cynulleidfa fwy nag ar- ferol wrth fod pobl yn noswylio'n gynarach. Yr oedd Deon Watkin Williams yn gwasanaethu a'r cyn-Ddpon-y Prifathraw Owen o Lanbedr (fel canon in residence). Yr oedd yno gurad neu ddau, yr oedd yno y cor arferol yn rhifo tuag ugain, herdaw'r clocbydd, a'r verger i roi pobl yn y seti. Eglwys fawr, uchel mewn llawer ystyr. ydyw y Brifeglwys-yn cael ei chyflwyno, yn ol yr hyn a ddywedai'r esgob beth amser yn ol, yn gyfangwbl i'r Saeson tra y rboi'r eglwys y plwyf-hen hongoi hyll o adeilad—yn gyfan- gwbl i'r Cymry-gwell ganddyn nhw fod yno, meddai'r esgob. Cwafriai nodau yr organ ysplenydd yn gymysuedig a'r lleisiau dynol per- aidd hyd nen y deml fawr. Yr oedd yr anthem yn enwedi yn hyfryd odiaeth, ac ar y geiriau "Peace—peace—peace—be within thy walls, 0 Jerusalem and prosperity within thy palaces," wedi eu cymeryd o Salm cxxii., ac fel y gwelir, yn dra amserol y gerddoriaeth ys- plenydd o waith Elvey, ac yn cael ei chanu yn ardderchog. CYNULLEIDFA o BUMP Ond beth debygech chwi oedd nifer y gynull- eidfa 1 Wel, nifer y gynulleidfa oedd PBDAIR MERCH, y verger, a minau—pedair hen fereh, gwas eglwysaidd tan gyflog (yr hwn yn gall iawn 1 15 11 a gysgai'r rhan fwyaf o'r amser), a dyeithryn ar ei dro. Ar gyfer y pedair menywhyn y canwyd y clychau, yr yrngynullodd pymtheg neu ugain o gantorion, deon, cyn-ddecn a phrifathraw, ac offeiriadon eraill—oil yn eu gynau gwynion. Welwch chwi'r annghysonderau Prifeglwys esgobaeth Gymraeg, a'i holl wasanaethau yn Saesneg Ac anmhoblogrwydd y gwasanaethau hyny, er nad oedd neb llai na'r Prifathraw Owen, un o gadlywyddion yr eglwys filwriaethus yn Ngbymru, yn gweini yn yr oedfa, a'rollellid ddenu i'r gwasanaeth ydoedd pedair gwrach, a chrwydryn o Ymneillduwr. Paham na fuasai'r deon yn myn'd a'i gor rhagorol o white niggars" i'r eglwys eang hono sydd yn Rhyl, lie y caw- sent ganoedd i'w gwrando ar brydnawn Sadwrn fel hyn, ac y buasai rhyw siawns iddynt wneud lies i'r miloedd ymwelwyr sydd yno yr amser yma o'r flwyddyn ? Mae'n sicr y buasai'n ad- loniant a dyddanwch i bawb, ac yn adeiladaeth efallai i laweroedd. Onid yw'r boll ddarlun yr un ffunud a'r Eglwys yn Nghymru ? YMRYSON CRASINEB. Tra yn ymdroi ar ol y gwasanaeth yn y fyn- went, gan syllu ar y golofn hardd sydd yno i'r Esgob Morgan, dyml'r Prifathraw heibio, ac wedi ymgyfarchwel fel y gweddai i ddau Gymro, ebai wrthyf, a'r trofa direidus hwnw yn ngbil ei lygad, 'Roedd yn dda genyf eich gweled yn yr eglwys.