Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Barddoniaeth,

News
Cite
Share

Barddoniaeth, DYNGARWYR. 0 GAR lAD at rai gwiriou,-ani adeg, Ymwadu wna dynion 0 ryw saint, a phob braint bron, I lesoli iselion. Hyd barthau y byd aberthant—hunan I enill rhai garant, 0 fan y boen, mewn dwfn bant, I'w geni i ogoniant. Lluaws, rhai hynaws eu hanian,-roddant, I wareiddic pagan, Yn anwyl, fwy na hunan- Eu hoes tra b'ont ro'nt i'w ran. Gwelant rai gwael eu golwg—yn wylo Mewn alaeth a chilwg, A rbuthiant ar gant, er eu gwg, I ymladd a'u gelyn amlwg. Dyddiau gwyl a dyddiau gwaith—ymroddant Am arwyddion gobaith; I gael dyn ar y gul daith, Hwy wynebant anobaith. LIe bydd annedwydd ëneidiau,-yno Bydd anwyl wynebau, Yn llawn o hedd i'w llawenhau A difodiant i'w du ofidiau. Nid oes drwy einioes drueni—all droi Eu Haw draw rhag gweini Aent o'u greddf p'le clywent gri I waelodion caledi. R. J. DBitFEL. BEDDROD MAM (Un o destynau Eisteddfod Llanelli). I BRUDI) orweddfa'r meirwon Yr af o dwrf y byw, Eisteddaf dan gysgodion Y ddu ganghenog yw Fy nghalon sy'n och'neidio, Mewn hiraeth dwys rhydd lam, A'm llygaid yn eneinio A'u dagrau feddrod mam. N Yr un arferai ganu Hwiangerdd uwch fy nghryd, Sydd heddyw yma'n cysgu, A'i thafod tfraeth yn fud A'r awel yn yr ywen Gwynfana fel pe am Ad-dalu mewn galargerdd Uwch anwyl feddrod mam. Bu fil o weithiau'n gwylio Uwchben fy ngwely i, 'Rwyf finau heddyw'n wylo Uwchben ei gwely hi; 0 lanerch gysegredig Gofalaf na chai gam, Mae rhywbeth nefoledig I mi yn meddrod mam. Mewn cwr o'r fynwent gwelaf Wylofus weddw dad, Cyfeiria'n araf, araf, At fedd ei briod fad, Ac yn ei law tvwysa Amddifad byr ei gam, Ei blentyn dwyflwydd ddyga I weled bedd ei fam. Uwchben y bedd ymgryma, Tra hiraeth rwyga'i fron, "Mae mama'n gorwedd yma," Medd wrth ei blentyn lion Eneinio'r bedd â'i ddagrau A wna y tad,-pahaiii Ni wyr y plentyn ehwarau Wna ef ar fedd ei fam. Mae gwylaidd ferch amddifad I'w gweled oddidraw, A deigryn yn ei llygad, A blodau yn ei llaw Eneinio'r ffordd a'i dagrau Wna'r eneth fad bob cam, A chyda'r tlysion flodau Addurna fedd ei mham. Daw yr afradlon yntau I'r fynwent ar ei dro, 'Rol dyfod o'i grwydriadau I'w enedigol fro Mae ei gydwybod euog Yn llosgi megys fflam, A rhwyga'i galon halog Yn ymyl bedd ei fam. Dibrisiais ei chynghorion," Medd ef, yn drist ei fron, Un wedi tori'i chalon Sydd dan y gareg hon Ni rodiaf Iwybrau celyd Troseddwyr mwy un cam, Ond pen y ffordd i'r Bywyd I mi fydd beddrod mam." Rhyl. Huwco PBNMAEN. -0-

Cigydd o Caernarfon mewn helbul.

[No title]

- Dyffryn Clwyd.

-v-Y Cynadledd Wesleyaidd.

Advertising

Helyntion Bywyd Hen Deiliwr