Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netberfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Hive Cottages to LET in various parts of the o vn, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of a les. Also larger houses at higher rents. (F H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AG-ENT. HAS large and small SOUS To Let in various parts of the fl city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &c. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- nomically manage]. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Inauances effected. (F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 fears' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers,in Garston, Kirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the I cslities.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Warks—TAYLOR STREET, Show Rooms 402 fe 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams' Patent Winding and Adjusting Sun Shade r- Shops, &(j Bakers Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Boxes, Fire Bars, &c.; al sizes of Gate Runners, &c. DAVID WILLIAMS, COAL MERCHANT, Best house and other Coals always on hand. Office and Yard- 199, GROWN STREET, LIVERPOOL. esiclence-37, Kingsley Road. Telepnone No. 8535 IX) lO r: çq <D Q S3 Pj5 8 m çq loot 8 c; ø; Y Feddyginiaetli Fawp Gyffireig TOAG AT BESWCH, ASTHMA, BRONCHITIS A holl Anhwylderau y Frest, y Gwddf, a'r Ysgryfaint. PESWCH Ysgrifena y Parch. E. W. DAVIES, Ton tre. yn ddiwedd tr GaUaf ddwyn tystiolaeth ^ESWCH glir i boblogrwydd mawr HUGH DAVIES'S "■ COUGH MIXTURE, ac i dderbyniad lies neill- PTJSWDH duol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd 'w werth yr adeg hon PESWCH gyda'r haint Influenza.' Llanberis, Jan. 27.1886 PESWCH Dywed y Parch. J. E. OWEN Y mae hen wraig yn Pentraeth, Sir Fon, yn PESWCH dueddol iawfl i beswch caled yn enwedig ar amserau rhewllyd. Nid oes dim yn y ffordd 0 PESWC H feddj-gioiaetli yn ei lleshau gvstal a'eh 'COUGH MIXTURE.' EI humg gysllr àr y ddaear, ebe PESWCH hi. yw y Beibl a DAVIES'S COUGH MIXTURE.' T>TPC!W/->TT DvwedyParoh LL. B. ROBERTS, Caernarfon x JliO W OH • Dan ochain anwyd yn nychu —a'r lungs Yn rhyw lssg weithredu PES WCH Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes o iechyd ddt-besychu PESWCH Dywed D. JONES, Bethesda, Bangor:- Anwyl Syr, Cefais ddwy botel O DAVIES'S COUGH MIXTURE gan Mr. Hughes, Druggist. OTawnd yn ddiweddar, a dymunaf ddiolch i chwi am JrJiiOVVUtl dano. Yr oeddwn yn dioddef er's misoedd nwcnmnri oddiwrth Besweh a Diffyg Gwynt, ac weditreio IrJiibWUll pob moddion, ond yn aflwyddianus; ond yr wyf drwy eich meddyginiaeth anffaeledig wedi PESWOH cael adferiad trwyadl, a gwnaf fy ngoreu i gymhell eich darpariaeth ar bawb sydd yn ddi- PESWCH oidef oddiwrth anhwylderau yr Ysgyfaint.' PTF QWPTT Dy wed Mr. J. E. EDWARDS, Groes, Rhiwabon: ITJII v OXI Anfonwch botelaid o'ch COUGH MIXTURE ar DTTCWPO unwaith. Da genyf eich hysbysu fod y botel- ir HiO Vv \y±l aid flaenorol wedi gwneud lies mawr, PAROTOEDIG GAN HDGH DAYIES, C4em-ist, HACHYNLLETfl. Liverpool Agents—Williams, Chemist, Heyworth Street; Williams, Chemist, Granby Street: Wynne Thomas, Chem'- st, Kensington Ifftexliam-Mrlg lughj ,gwlands, Bridge Street. Messrs GRIFFITHS & DAViES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. :— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. y Hosiery. Mantles Boys Clothing. Paperhanging. Underclothmp. Furs. —AND— Millineiy. In all these Departments will b', • md the Newest and most Stylish Goods of the S n at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F KTEILWNG 0 SYLW PAWB. OWYNIONY OLAF. J\ 3 A Beth yw ASTHMA Anadliad byr, brysiog a llafurus. A oes rhagor nag un math o Asthma? Oes, dau-un n barhaol, a'r Hall y i dyfod yn mlaen ar adegau. Gelwir y yjitaf yn continual, a'r olaf yn periodical. Pa tteth sydd j n achosi Asthma ? Culhad, crebychiad a irwasgiad y pibau meinion sydd yn arwain o'r corn gwynt i'l '^yfaint. Pa feddyginiaeth sydd wedi rhoddi esmwythad buan 1 neirif o bersonau a ddyoddefent oddiwrth Asthma, Bron- hitis, Peswch, A nwyd, Liffyg Anadl, a'r Crygni? BALSAM OF ZE3IONEY TUDOR WILLIAMS. A AN mai oerfel ac anwyd ydyw dechreuol achos pob clefyd ,1 yn mron, a diddadl fod miloedd yn myned i'r bedd yn ;tll1'eroI o eisiau cael mediyginiaeth bwrpasol a phrydlawn. (m. flodd yr anw) d ynwyf moi ddisymwth a lleidr yn y nos, .e, yn mron ymdori gan besweh yn ddibaid, keb ond ychydig rlipwysdra, nes yr oeddwn .di ceadu fy mod wedi fy nal an y darfodedigaeth ac yn nghanol y boen dirdynol oedc rwr fy nghyhnod liii anfo ais am botelaid o BALAAM OF HONEY' TU.DOR WILLIAMS 1 cliyrne: ai, tua llonaid 11 wy gawl ar unwaith, sef chwaneg la'r cvfarwvd I j d oed I ar y botel; a chyn tri munyd yr oedd peswch wedi i,ei-lioiraddati annghyffredin. Cymerais yr oIl > gynwysiad y bjtel, ac erbyn lieddyw, yr wyf yn gallu diolch 'r Drefu Ftwr, yn nghyda'r wybodaeth am y feddyginiaeth Idaionas hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach. Ydwyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISAAC THOMAS. Dadganiad dymunol arall. < Bum yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odd wrth gaetlidra, peswch, poeri gwaed, a fcuyndra y frest; bum hefyd am bum'mlyn-dd yn cael anhawsder dirfawr i symud o amgylch, ni allaswn gysgu na gorwedd i lawr y nos na'r dyild. Hum o .'an driniaeth feddygol am un mlynedd ai ddeg hetyd, bum o dan driniaeth yn Yspyttai Hereford, Buxton, a Southport, ond y cyfan yn ofer. Dywedodd y meddygon wrthd na alUswn ddisgwyl gwellhad, gan fy mod yn 61aiii mlwydll oed. Ar ol dywed cymaint o siarad am IBALSAPI OF HO.IB' T-VDOR WILIiAl^a rhockliiis brawf arno, ac er fy syndod darfu i'r dogn cyntaf roddi rhyddliad ebrwydd i mi anadlu. Yr oedd poeri y gwaed o'r ysgytaint yn lleihau. Dillanodd y caethdra, fel swyn. gyfaredd, i bed war gwynt y nefoedd, ac yn mhen ycliydif wythnosau, drwy ddefnyddiad parhaus 'Balsam cf Honey' Tudor Williams, adferwyd fi i fy iechyd da aife. el. Ystyriwyf hi yn d iyledswydd arnaf i anfon i ch"" y dystiolaeth hon.— Yr eiddoch yn ddifiuant, Mrs EMBREV, 19 Coningsby Street Hereford, Mai I'bain, 1890." Mae Miloedd o Blant wedi eu hachub 0 Farw laetlj Or Croup, Bronchitis, a'r Pas, wedi pobpeth arall fethu Y fford I i brofi y peth ydyw profi drosoch eich hunain. Oj gwiie>" -.h 'Vyua sydd yn fendigedig ni chewch eich si D.^ Gwerthir 'BALSAM OF HONEY' TUDOR\viir"iAJlj gan bob Fferyllydd drwy yr holl fyd. lifewn costrelau, ils lie,, 2s 9o, neu trwy y llythyrdy yn rhad am Is 3c a 3s. Perchenog-; D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S.L., Medical Hall, Aberdare. — PAPAYANN! STEAMSHIP C3MP4«^. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMER Sail regularly to he LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterra; ean Ports, taking the following two routes alternately:— (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling ofte on the return journey at sevtral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and St ain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRt BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasior ally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during ships' stty at Ports. Tourists and pleasure-seekers aMng a trip by this Line < ill find it most enjoyable and interesting. For further partici ltrs, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Lherpoo LLINELL Y WHIT E STAK. ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via QUEENSIOWN. EO DYDD MERCHER:— J 'TEUTONIC Awst 21 BRITANNIC Awst 28 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwfr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith Pri y cludiad ydyw P,7 ac L8. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni chair well cyfleusdra i fordeifchwyr. Am fanylion, ymofyner a R. Owen, Ship & In perance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a. R. Roberts, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, ( wyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Llangefni R. G. Roberts, Rock Cottage, Cr3igiau Mawr, Ta ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. O. Williams, Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor; R. 0 Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ag Is MAY IMRIB & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain, E.C., a Water Strfift, T. >rnw1 SERGE JACKETS 416 6S.BYR0MS!
Helyntion Bywyd Hen Deiliwr
Helyntion Bywyd Hen Deiliwr Gan GWILYM HIRAETHOG PENNOD XXV.—HEN WR YR HAFOD YN Y SEIAT. GADEWAIS hen wr yr Hafod, yn y benod o'r blaeu, mewn blinder yn nghylch ei galon. Cyn- yddu fwyfwy wnaeth y blinder hwnw bob dydd, nes oedd yr lien wr yn myned yn bur anuiddig yn y ty weithiau oherwydd ei fod ef a'i galon yn methu cytuno. Modd bynag, er mor anhawdd oedd hyny, i'r gyfeillach grefyddol i'r capel yr aeth efe ryw noson a mawr oedd syndod pawb ei weled yn dyfod i mewn. Yr oedd yno un hen wr, yn rhyw fath o swyddog nid oedd erioed wedi ei ddewis yn rheolaidd, ond wedi ymgym- eryd a blaenori yn y cyfarfodydd, a chael ei oddef yr oedd. Yr oedd llawer iawn o yspryd tra-awdurdodi yn yr hen wr hwnw, druan ewyllysiai'n fawr osod ei ofn ar bawb, rhuthrai yn sydyn chwerw ar bawb ddelai i fewn y waith gyntaf i'r gyfeillacli, er mwyn eu tori i lawr,' fel y dywedai. Nid oedd dda gan neb a berth- ynai i'r Gymdeithas mobono. Yr oedd ef a hen wr yr Hafod tua'r un oedran, ac yn hen gymyd- ogion nid rhyw lawer o gyweithas fuasai rhynddynt erioed. Wedi gwasanaeth arweiniol y cyfarfod, trodd Owen Huw, canys dyna oedd enw'r hen flaenor, pe buasai flaenor hefyd, a gofynodd yn dordyn, Wel, Robert, beth barodd i chwi ddyfod yma heno Lladd arnom ni yma y byddech chi'n wastad, a be sy arnoch chi eisio gynthon ni rwan V N'wn i ddim yn iawn sut i ateb dy gwestiwn di, Owen,' atebai Robert. Be oeddet ti dy bun yn i geisio yma, pen ddoist ti yma gyntaf ? 'Rydw i'n cofio'r amser pan fyddet ti'n liadd ar bobl y capel gystal a fine, ac yma doist ti wed'yn a pham rwyt ti, naned neb, yn synu mod i wedi dwad yma, a thithe'n gwbod dy hanes dy hun, os nad wyt wedi anngbofio, a mae'n gwilidd garw i ti os gwneist ti hyny.' Brochodd yc hen flaenor yn arutbr wrth hyn. Yr oedd gweled pawb trwy y lie yn gwenu ac yn mwynhau y sen a roddasai yr hen wr arall iddo, yn peri iddo ofni fod cysegredigrwydd ei awdur- dod mewn perygl. '0,' meddai, 'yr oeddwn i yn ofni, mai yr un oedd o ag o'r blaen, a dyna ddigon o brawf i chwi nad oes dim goruchwyl- iaeth gras wedi bod yn trin ei gyflwr o, a gobeithio nad oes yma neb a ewyllysiai weled neb o'r fath yn dyfod atom ni, ac yn cael lie yn ein plith.' Taswn i'n meddwl fod pawb sy yma yn debyg i ti, Owen, ni ddaetbai nhraed byth yma ond rydw i'n meddwl pethe gwell am lawer ohonoch chwi.' Wel, hwyrach y dywedwch chwi air, Robert bach, o'ch teimlad a'ch meddwl,' ebe Thomas, y gweddiwr hynod hwnw a glywsai yn yr Hafod Ganol. 4 Wei, gwnaf yn wir,' ebe yntau. Fy meddwl i ydi hyn, mod i'n bechadur yn bechadur mawr iawn, yn hen bechadur; bod y mowyd, a mucbedd i, a nhafod, a nghalon i wedi bod yn ddrwg iawn a mi rydw i wedi blino ar y galon ddrwg yma narw iawn. Mi glywis Sion y Go, a'r pregethwr hwnw fum i'n i wrando yma hefyd, yn dweud fod posib cael calon newydd a mi ddois i yma heno, i gael gwybod allse chi fy rhoid i ar y ffordd sut i'w chael hi; os cawsoch chi afel ami hi y'ch hinen, crwyddwch fine i gael gafael arni lii fu ar neb erioed fwy o'i heisio hi.' 1. Adroddodd yr hen wr holl hanes ei fywyd, a'i helynt er y dydd y buasai yn yr efail gyda Sion y Go ac yr oedd y cyfeillion weithiau yn gwenu ac weithiau yn wylo wrth ei wrando ac yr oedd yntau ei hun yn wylo yn ami hefyd. Torodd pawb i chwerthin allan unwaith, pan ddywedodd Prun bynag ai cythrel ai chwanen aeth i glust Sion, y mae gen i achos i fod yn ddiolchgar am y tro bath bynag—hyny fu'n foddion ar y dechre i farwen i nabod tipyn arnaf fy hun, a drwg fy nghalon.' Rhoddodd amryw o'r cyfeillion gynghorion caredig a phriodol iddo, ac yr oedd yntau yn derbyn y cwbl fel dyn bach. Yr oedd pawb yn foddion i'r hen wr gael dyfod i'r gyfeillacb ar brawf, ond yr hen Owen Huw chwyrnu yn anfoddog iawn yr oedd ef. Fodd bynag, daliodd yr hen wr ei ffordd, ac enillodd ei le fwyfwy yn hyder a serch y gym- deitbas. Ni chollai ddim moddion a gynelid yn y capel, ac ni chai neb arall o'r teulu golli chwaith. Efe oedd y gwrandawr goren yn y gynulleidfa, daliat ei lygaid yn sefydlog ar wefusau y pregethwr o'r dechreu i'r diwedd, mynych y gwelid y deigryn yn dyferu i lawr ohono. Mewn gair daeth yr Hafod yn un o'r tai mwyaf crefyddol yn y gymydogaeth, a'r teulu yn nodedig am eu rhinweddau. Glynodd yr hen wraig wrth ei hen ffordd o fyw. Yr oedd hi yn ddigon boddloo, meddai, i'r hen wr a'r plant wneud fel y mynent, ond iddi hi gael llonydd i wneud fel y mynai hithau ganddynt. Ai gyda hwy i'r capel weithiau, ond nid ym- ddangosai ei bod yn sylwi ar ddim a glywai yno, nac yn teimlo fwy na'r dderwen dan na phregetb na gweddi. Bu'r ddau, yr hen wr a'r hen wraig, fyw i oedran teg, a bu y ddau farw y naill yn fuan ar ol y llall. Rhoddodd yr hen wr brofion boddbaol iawn i bawb oedd yn ei 'nabod, ei fod wedi cael y galon newydd yr ymofynai am dani, a gadawodd y byd mewn tangnefedd a gorfoledd. PENNOD XXVI.-CARWRIAETH MISS EVANS. AWGRYMAIS o'r blaen fod carwriaeth ddistaw wedi dechreu rhwng Bob yr Rafod Uchaf a Miss Evans yr Hafod Ganol, tua chanol dyddiau gweinidogaeth Robin y Glep. Yr oedd Robin yn dyfal wylio symudiadau y ddau yn barhaus wedi iddo unwaith anmheu fod cyfrinach garwr- iaethol rbyngddynt. Ni esgeulusai ef un moddion yn y capel rhag colli ohono un fantais i gadw ei lygad arnynt. Cerddai yn llechwraidd ar eu hoi pan yn dychwelyd adref o'r capel, a chrouiclai yn ei ddyddlyfr bob peth a welai, gan dynu casgliad oddiwrthynt; a thaenai ei syl- wadau a'i gasgliadau yn ddiwyd o dy i dy. Dymunasai Robin yn ei galon weled rhywbeth yn anweddaidd yn eu hymddygiadau, i gael testyn i bregethu arno ac awgrymai yn gynil droion fed rbywun yn dweyd iddo weled fel a'r fel, ond nad oedd efe (Robin) yn coelio fod hyny yn wir. Yr oedd goruchwyliaeth trochfa pwll yr hwyaid wedi ei ddigio yn ddirfawr, ac ewyll- ysiai yn ei galon allu talu yn ol, trwy drochi Bob yn mhwll ei atbrod a'i enllib. Ond nid oedd neb yn dal llawer ar ddim a ddywedai Robin. Bu farw modryb Miss Evans ynNghaeryn bur gyfoethog, a gadawod 1 y cwbl o'i heiddo iddi hi, yn cynwys amryw dai a swm da o arian. Aeth y stori allan drwy y cymydogaethau fod merch yr Hafod wedi cael digwyddiad, mawr—ei bod yn werth eiddo ac arian yn aneirif. Parodd y newydd hwn flinder nid bychan i feddwl tyner Robin y Glep. Stwftiod'i ei hun i wasanaeth porthmon merlynod, a chafodd y fantais o fyned i Gaer fel gyrwr i'r porthmon. Wedi myned yno, gwnaeth ymofynion mor fanwl ag a allai i amgylcbiadau a hanes modryb Miss Evans. Ac wedi dychwelyd adref, taenai y chwedl nad oedd un gair o wir yn y son oedd am ei chyfoeth ond ei bod wedi marw dros ei phen mewn dyled —bod ei thai wedi eu gwerthu, ac nad oedd y swni a gawsid am danynt yn a^os i ddigon i foddloni y gofynwyr. Y cwbl yn anwireddus o ddyfais calon Robin. Ond ni waeth tewi, y mie Robin druan wedi darfod clepian er's llawer blwyddyn ond fel y mae gwaetbaf y modd, y mae iddo olynydd yn mhob ardal. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'i deulu yn ol y cnawd (er fod llawer yn ol y glep) yn aros hyd yr awr hon ai peidio. Bu iddo fab a merch, y rhai a gyf- enwyd yn Huwcyn mab R jbin y Glep, a Siani Robin Glepgi. Yr oedd y plant fel plant pobl eraill, am ddim a wn i ond yr oedd enw eu tad yn gosod gwarth arnynt, ac aeth y ddau o'r gymydogaeth yn ieuainc, i ymofyn lleoedd i weini er mwyn dianc cddiwrtb yr enwau a roddid arnynt yn eu perthynas â'u tad, ac ni chlywais i byth beth ddaetb ohonynt. Yr oedd hen wr yr Hafod yn bur anesmwyth ei feddwl o hyd eisiau i Bob briodi Miss Evans. Dywedai wrtho yn am], Pa'm na phriodet di hi ? Mi eitb rywun a hi oddi arnat ti dan dy drwyn di, mi gei di weled—taswn i yn dy le di, mi faswn gwedi rhoi torch aur am i bys hi es talwm cyn hyn.' 'Gadewch chwi rhyngwyf fi a'r bisness hwnw, nhad,' dywedai Bob. 'Mae arna i ofn mai rl)ywfisness go drwsgwl nei di ohoni hi,' meddai'r hen wr. ° Tua'r adeg bono daeth etifedd Sgweiar y Plwyf, fel y gelwid ef, i'w oed. Yr oedd ei dad wedi marw er's rhai blynyddao, a'i fam yn byw yn weddw yn hen balasdy y teulu, yr unig balas- dy yn y pIwyf a hwynthwy oedd perchenogion y rhan fwyaf o'i plwyf; ac ystad fechan arall yn sir Drefaldwyn. Nid oedd yr Hafod Uchaf na'r Hafod Ganol yn rhan o'r etifeddiaeth, perchenogaeth y trigianwyr oedd y ddau trwy bryniad. Ni buasai y boneddwr ieuanc nemawr gartref er pan oedd yn fachgen. Treuliasai amryw flynyddoedd yn Rhydychain yn y Brif ysgol, ac wedi hyny yn astudio y gyfraith yn Llundain, a thrachefn flwyddyn neu ddwy yn teithio ar y Cyfandir. Bachgen gwyllt, ond hynaws a charedig ydoedd, a daeth ei denantiaid yn fuan yn bur boff ohono ond ni roddai neb ond y person air da i'w fam. Yr oedd ef yn cael byd da a belaethwych beunydd ar ei bwrdd hi ond chware teg iddo, ni chafodd ef y gair o wneud drwg i denant gyda'i feistr a'i feistres tir erioed, fel y cafodd llawer un o'i frodyr yn ol y brethyn. Yr oedd efe yn wr o natur garedig a chymwynasgar ac nid oedd Ymne'llduaeth nac Ymneilldnwyr yn blino rhyw lawer ar ei yspryd. Arferai ddweyd nad oedd fawr wahaniaeth iddo ef i ba le yr ai y defaid i bori: ei fod ef yn sicr o'r cnu. Ar achlysur dyfodiad yr etifedd i'w oed, bu gwledda a rhialtwch yn y palas. Rhoddwyd ciniaw da i'r holl denantiaid, ac ymgasglodd eraill o'r cymydogaethau yno yn yr hwyr i ddan- gos eu hewyllys da ac yn mysg eraill, aeth Bob a Miss Evans gyda'u gilvdd yno, a Robin y Glep ar eu Iledol. Syrthiodd llygad y boneddwr ieuanc ar Miss Evans, a syrthiodd ei serch arni hefyd. Aeth ati yn y man i dynu ymddiddan a hi, wedi holi pwy oedd hi. Deallodd yn union ei bod wedi cael dygiad da i fynu, yn goeth ei meddwl a'i moss, yn gallu actio y lady yn eithaf naturiol, ac yn mhob modd un a allasai droi yo nghylchoedd uchaf cymdeithas heb achos iddi ostwng ei phen. Pan aeth at ei gyfeillion mewn y I cwr arall o'r ystafell, gan gyfeirio a'i fys ati, dywedai, 'A clever qirl Nid hir y bu heb alw yn yr Hafod Ganol i edrych am dani, a cbymhellai hi yn ami i alw yn y palas i edrych am ei fam-y byddai yn dda gan yr hen lady gael ei chwmni mor fynych ag y gallai, ei bod hi yn unig iawn, heb neb yn yr ardal hono y gallai gymdeithasu a. hwy. Ond ymesgusodai hithau, gan ddweyd nad oedd ei bath hi yn gymhwys mewn un modd i feddwl am ffurfio cyfeillach a boneddiges fel ei fam. Ond ni fynai ef wrandaw ar y ddadl hono, ac ni fynai hithai ei rhoi i fynu. Mynychu yr ymweliadau yr oedd y boneddwr ieuanc y naill wythnos ar ol y llall. Gwnai ryw esgus nen gilydd i alw beibio bob dydd. Nid oedd Miss Evans yn hoffi ei weled yn galw yno mor ami. Yr oedd hi wedi cael piano ar ol ei modryb o Gaer, ac yr oedd wedi dysgu chwareu yr offeryn hwnw yn dda pan oedd yno yn yr ysgol. Byddai raid iddi chwareu bob tro y deuai y boneddwr yno, a mawr fyddai ei gan- moliaeth iddi am chwareu a chanu. Wedi iddi ddechrel1 anmheu, oddiwrth ei fynych alwadau, a'i attentions iddi, fod rhywboth yn ei fryd, ymneillduai o'r golwg pan welai ef yn dyfod at y ty, a gwnai esgusodion dros beidio ymddangos pan elwid am dani ond deuai ar ei gwarthaf yn annisgwyliadwy yn amI. Aeth y si allan drwy y gymydogaeth fod y boneddwr ieuanc a'i lygad ar Miss Evans gydag amcan nad oedd anrhydeddus, fel y tybid ac