Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

AT OLYGYDD Y GWLADGARWR.

News
Cite
Share

AT OLYGYDD Y GWLADGARWR. Anwyl Syr.— Yn y GWI.ADGARWR am yr wythnos cyn y diweddaf, y mae llythyr gan Deheuwr.' yn hysbysu bwr- iad rhyw bwyllgor i gynyg gwobr o £ 30 am ganu corawl, ac yn gofyn am awgrymiadau a gwelliantau ar y pwnc. Yr wyf fi fel un yn caru y cynygiad yn fawr, yn gymaint a'i fod yn dangos cymaint o barch i ganu corawl trwy gynyg gwobr mor ardderchog. Yr ydwyf yn gobeithio y cyrhaedda y pwyllgor ei am- can o gael cauu corawl gwir dda, (oblegyd y mae y wobr yn teilyngu hyny,) ac y try y gystadleuaeth allan yn llwyddianus yn mhob ystyr Buaswn yn hyn o lythjr yn cynyg darnau cystadleuol, yn nghyd a beirniad neu feimiaid i'w sylw, ond cyn gwneud hyny, credwyf y dylasai y coraugael rhyw ychydig wybodaeth yn nghylch y pwUlgor Pan fyddo Cymrodorion Dirwestol Merthyr, neu Dow- j Jais, yn nghyd a llu o Eisteùdfodau ereill, yn cynyg gwobr wyon, y mae y wlad yn gwybod pwy a. pha fnth bobl sydd yn rhoddi y cynygiad, ac y mae gan y wlad ymddiried ynddyn-t fel dynion gonest, cywir, a chytrifol. Fy tneddwl i yw y dylai y corau gael eu goleuo ar y pen hwn, yn nglyii a'r pwyllgor, ac a'r gystadleuaeth hon. Yr eiddochyn gywir, CANTOR.

Mythyvsm at y Proffeswr Jarvis,…

Advertising

EISTEDDFOD ABEBS1TCHA]!'

YMADAWIAD Y PARCH. JOHN DAVIES,…