Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

r RHYFELYN 5LMERICA.

News
Cite
Share

r RHYFELYN 5LMERICA. Nid oes dim yn hynod o anmhriodol yn y si fod Vicksburg wedi ei chymeryd, ond nid'oes gan Y si hwnw unrhyw sail ond yn unig y tebygol- rWydd y gallai y fath beth fod. Trwy ei fod wedi dyfod oddiwrth y gwrthryfelwyr yn nghymydog- aeth Murfreesboro, y mae yn amlwg mai hyny ^edd y dysgwyliad yno. Yr oedd y Deheu, y Illae yn cael ei gredu wedi rhoddi Vicksburg i fyny, ond hyd at yr adeg y derbyniasom y new- yddion diweddaraf, nid oedd ei hamddiffynlu wedi ei rhoddi i fyny. Pe buasai y Cadfridog Joseph Johnson wedi bod yn alluog i godi y 25,000 o Wyr ag yr oedd wedi addaw er achub Pemberton, nid oes un rheswm paham na fuasai ar unwaith yn dechreu ar ei waith. Yn y newyddion di- weddaraf sydd genym am dano, yr oedd ei fyddin yn fechan, ac heb odid i fagnel na magnelwr. Yr oedd y pryd hyny yn cael ei ddesgrifio yn symud yn erbyn y Big Black River Bridge,' ond trwy ei fod wedi ei chael mewn sefyllfa gref o amddiffyn- iad, syrthiodd yn ol i'w entrenchments. Mae sef- yllfa y dref hon, yr hon a elwir yn Sebastopol y South, mewn sefyllfa na fu ei gyffelyb mewn l'hyfeloedd diweddar. Nid yw Vicksburg ond tref fechan, ac y mae wedi ei hamgylchu yn hollol. Gorwedda y fyddin U ndebol mewn deuddeg colofn yn ogleddol, deheuol, a dwyreiniol i'r gweithiau. Y mae yr afon wedi hyny ar ei hochr araii yn y fath gyflwr, fel y mae diangfa yn hollol anobeith- iol. Mae y tan-belenu o'r badau yn dechreu effeithio yn niweidiol iawn ar amddiffynfeydd yr afon, ac y mae y tan-belenau a deflir i'r dref, yn awr'a phryd arall yn chwythu i fyny ystorfeydd pylor y gelyn. A chaniatau nad all y Cadfridog Grant ei chymeryd, nid oes dim hyd yn hyn mewn golwg i'w hachub rhag syrthio yn naturiol i ddwylaw ei gwarchaewyr. Rhaid fod cyfanswm y darpariadau rhyfel, yn nghyda'r ymborth ys- toredig, yn fawr ofnadwy, os gall gynal am hir dymor fyddin o 12,000 neu 20,000 mil, a dal allan bron yn ddiorphwys i danio o ddeg ar hug- ain o wahanol amddiffynfeydd. Mae yr Undeb- Wyr yn yr ystyr hwn uwch ben eu digon. Dy- wedir fod y milwyr Undebol yn amgylchoedd Vicksburg mewn ysbryd a iechyd da. Modd bynag, oddiwrth y newyddion diweddaraf a dderbyniwyd gyda'r Hong Jura, y mae yn ym- ddangos yn dra thebyg y bydd i Grant gael ym- osod arno o'i ol gan Johnston. Dywedyd ei fod Wedi derbyn adgyfnerthion, a bod ereill ar y ffordd tuag ato. Dywedir fod Port Hudson mewn sefyllfa gy- ffelyb, ond fod hyny o wahaniaeth o blaid ei hamddiffynwyr, nad yw y gwarchaewyr mor gryfed yno ag yn Vicksburg, a bod mwy o obaith iddynt am ymwared. Y mae rhyw hanesion rhyfedd hefyd wedi ein cyrhaedd gyda'r un newyddion yn nghylch sym- udiadau y Cadfridog gwrthryfelaidd Kirby Smith. Yn gyntaf, dywedir ei fod yn Milliken Bend, lie rhyw bellder y tu uchaf i Vicksburg, ar yr ochr arall i'r afon, lie yr oedd yn abl i atal darpariad- au i Grant. Mor belled ag y mae y rhan olaf o'r hanes yn myned, y mae yn hollol gyfeiliornus. Cyhyd ag y bydd Grant mewn undeb a'r gwnfad- au, nid allai ei ddarpariadau gael eu hatal; ac nis gallai fod Kirby Smith a byddin o ddeng mil o Wyr rhyw ugain milldir o'r neilldu, ond effeithio ychydig ar unrhyw rhydd-dramwyfa. Ond yn lidyeithrach fyth, siarada y rhan olaf o'r newydd- l°u am dano fel wedi ymosod ar y Cadfridog ^anks yn Port Hudson, ac wedi ei yfu ymaith. fodd yr aeth Kirby Smith o Milliken Bend i "prt Hudson, ac yn groes i'r afon, ni hysbysir, ac raid dywedyd mai ychydig iawn o bwys a ellir roddi i'r fath adroddiad. Dywed newyddion er^ill o eiddo y gwrthryfelwyr fod Banks wedi ei Suro yn ol yn Port Hudson, a'i fod wedi colli fraich. Mewn hanes a roddir mewn newyddiadur Am- ericanaidd yn nghylch ymosodiad l'ort Hudson, dywedir am y milwyr negroaidd eu bod wedi en gosod o'r tu ol, a chatrodau gwynion i'w harwain, a hyny yn tarddu oddiwrth yr ofnau am eu gwr- oldeb. Darfu i'r Cadfridog Banks, modd bynag, er profi eu gallu milwrol, eu gorchymyn i'r blaen. Rhuthrodd y negroaid a'r unwaith i'r lie gorch- ymynol iddynt, ac yn nghanol y frwydr, aethant rhagddynt yn wrol yn erbyn safle v gelyn ar eu cyfer. Rhuthrasant dros y gwrthglawdd er cym- eryd meddiant o'r gynau, ac a gyraeddasant i ganol y prif amddiffynfeydd, a hyny er gwaethaf rhifedi mawr o'r gwrthryfelwyr. Wrth weled y negroaid o'r tu mewn i'r amddiffynfeydd, ac ys- tyriaeth o'r fynedfa ag yr oeddynt wedi ei gwneud yn y gwrthfur, ymgynddeiriogodd y gelyn yn fawr. Gadawsant eu gynau yn eu gwahanol saf- leoedd, ac ymruthrasant i'r lie yr oedd y negroaid wedi parotoi i wneuthur ysgelerwaith. Cafodd y negroaid a'r gwrthryfelwyr ar hyn ymladdfa law- yn-llaw, yr hon oedd yn anghydmarol. Yn fuan diarfogwyd y negroaid, ac er amddiffyn eu hun- ain, defnyddiasant yr arfau ag oedd ganddynt. Yn mhob sefyllfa y gosodwyd hwynt ynddo gan yr ymgyrch, ymladdasant gyda'u danedd, gan Z5 gaoi eu gwrthwynebwyr yn mhob rhan o'u cyrff, gan eu troedio a'u crafu. Modd bynag, yn fuan cawsant eu difuddio o'r cwbl ag oedd ganddynt, a hyny yn nghanol lladdfa fawr. Y mae ym- ddangosiad negroaid yn gwneud y gwrthryfelwyr mor wallgof mewn natur a'r negro ei hun. Yn yr ymosodiad ni foddlonai y gwrthryfelwyr mewn clwyfo yr Affricaniad. Allan o 800, lladdwyd 600 ar unwaith, a phan y clwyfid un, ymosodid arno drachefn nes ei ladd. Nid ydyw yr adroddiad fod y Cadfridog Lee wedi ymadael o Fredericksburg, a bod Hooker wedi ei meddianu, yn wirionedd. Ymddengys fod brigad o wrthryfelwyr wedi ei chymeryd o'r ddinas, a bod Hooker wedi anfon adran dros y Rappahannoch yn Deep Run i archwilio; ond wedi deall fod holl fyddin Longstreet yno, aeth yr Undebwyr yn ol dros yr afon, gyda cholled o ddeugain o wyr. Dywedir, fodd bynag, eu bod wedi cymeryd 100 o'r gwrthryfelwyr yn garchar- orion. Tybir mai amcan symudiadau diweddar Lee oedd gosod ei fyddin mewn sefyllfa fwy iachus ond teimlir peth pryder o barth i symud- iadau diweddar y Cadfridog hwn. Tybia rhai ei fod yn bwriadu cilio yn ol i Richmond, i'r dyben o rhyddhau milwyr i'w hanfon i adgyfnerthu Johnstone yn ei fwriad i ymosod ar olbarth byddin Grant o flaen Yicksburg ereill a dybiant mai ei fwriad ydyw gwneud rhuthr ar Washing- ton. Modd bynag, y mae pob lie i gredu nad ydyw yn meddwl aros yn segur yn hir. Rhydd ei anerchiad diweddar i'w filwyr ar ddeall ei fod ar wneud rhyw symudiad pwysig ond i ba gy- feiriad, ni wyr ei elynion. Y mae parotoadau mawrion yn cael eu gwneud i amddiffyn Wash- ington, yr hon sydd erbyn hyn, meddir, mor gad- arn a Sebastopol; a bernir na byddai rhuthr ar y fath le ddim amgen na rhuthr i ddanedd dinystr. POLAND. Darfu i'r arweinydd gwrthryfelaidd Dunajew- ski ymosod ar y Rwsiaid ger Chosciahiewicz, ac a orchfygwyd gyda cholled fawr, trwy fod y Rws- iaid oddeutu pum gwaith eu nifer. Parhaodd yr ymladdfa am oddeutu naw awr, ac a ymladdwyd gyda gwroldeb mawr. Yr oedd y golled yn fawr ar y ddwy ochr-cafodd y gwrthryfelwyr oddeutu 200 wedi eu lladd. Hysbysir hefyd fod Dunajew- ski wedi boddi yn yr enciliad. A ganlyn sydd adroddiad oddiwrth y Cadfridog Czachow- ski:—Yn nghymydogaeth Blizin, ar y ffordd o Radom i Kielce, ymosodais ar gorff o Rwsiaid, y rhai a garient swm diogel o arian wedi eu hanfon oddiwrth y Cadfridog Ouchawaff o Radom i Kielce, pryd y daeth yn mlaen gorff arall o Rws- iaid, y rhai oeddynt wedi ei hanfon i gyfarfod ar lleill, a bu orfod arnaf o herwydd eu nifer dirfawr .I. encilio. Cymerais i fyny fy safle yn agos i Botrze, ac yno cymerais feddiant o adeilad a pheirianau ynddi, yn yr hon yn awr ni weithir, a chafodd fy milwyr amddiffynfa dda o fewn ei muriau. Yn yr amddiffynfa hon yr arosai i ddysgwyl y Rwsiaid, y rhai yn fuan a gyraedd- asant yn lluosog. Ymosodasant arnom amryw weithiau, a hyny gyda nerth mawr, ond cawsant eu gyru yn ol bob tro gyda cholled fawr. Yn y diwedd, wedi colli dros 150 o ddynion, wedi eu lladd a'u clwyfo, enciliasant gyda chryn gyflym- dra. Llwyddasant i gario gyda hwynt gyrff saith o swyddogion, y rhai a gladdwyd ganddynt ar y 12fed yn Kielce. Nid oedd ein colled ni ond ychydig trwy ein bod o fewn i amddiffyn- feydd. Cawsoin 17 wedi eu lladd, a 25 wedi en clwyfo. -T

Advertising