Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y WILLIAMSIAID.

News
Cite
Share

Y WILLIAMSIAID. (Parhad.) OND i adael Mr. Williams fel Ustus, awn rhagom i gymmeryd golwg arno fel arglwydd tir. Rhoddwn un enghraifft o hono yn ei gyssylltiad ag un o'i ddeiliaid rhyw bump neu chwech mlynedd yn ol. Pan y gwnaeth offeiriad y plwyf gynnyg am gael treth eg- lwys yn y plwyf, er adeiladu eglwys newydd yn mhlwyf Ystradgynlais, deallodd fod gwrth- wynebiad cyffredinol i hyny; gan hyny, ymdrechwyd gorfodi pawb, hyd ag oedd yn bosibl, drwy i berchenogion y gwahanol ranau o'r plwyf wneyd a allent er cael gan eu deil- iaid i gydsynio a'r cais ac vn mysg ereill o'r boneddigion, ceisiwyd gan Mr. W. i wneyd ei oreu. Ac ar ol eymmeryd y peth o dan ystyriaeth, a dechreu siarad o'r naill i'r llall, deallodd tod un o'i ddeiliaid, o'r enw William Jlopkin, Caemawr, yn wrthwynebwr trwyadl i'r dreth. Yna, y noswaith cyn y treial, anfonodd Mr. W. am Hopkins i ddyfod i'r lan ato ef, gan fod ganddo neges bendant a neillduol ag ef. Aeth Hopkin i'r lan, cur- odd y porth, cafold agoriad, ac arweiniwyd ef at ei feistr, yr hwn a'i eyfarchodd yn L'on- ach braidd nag arferol, er ei fod yn Hon bob amser. Yna rhoddodd gadair eistedd iddo, a gorchymynodd ddwyn iddo beint o barter. Wedi hyn, cyfododd Mr. W. i fyny, a throdd ei gefn ar y tan, gan godi cynffon ei got, a rhoddi ei ddwylaw ar ei gefn, fel y byddai yn arferol o wneyd pan wrth ei fodd, gan wyn- ebu ar Hopkin, a gofyn, "Wel, Hopkin, a wnewch chwi un cais i mi P" Gwnaf, os gallaf, syr." Ie 0, gellwch, yn eithaf rhwydd." Nis gwn, syr, ond gwnewch fynegu." "Ie, ond a ydych chwi vn addaw ei wneyd P" Os gallaf, syr; ond mynegwch." Wel, roddi eich vote o blaid y mil punnau yfory." Mwy nas gallaf, syr." "Paham hyny, oblegid nid ydwyf wedi gommedd yr un cais i chwi ag a geisiasoch genyf." Gwir, syr, ond nis gallaf gydsynio a'r eiddoch yn awr." Paham ?" 1. Am ei fod yn groes i fy egwyddorion. 2. Am ei fod yn afresymol. 3. Am fy mod wedi addaw gwrthwynebu'r dreth. Ac yn olaf, am ei fod yn anysgrythyrol, yn ol fy mam I." Anysgrythyrol!" yr ydych wedi cwbl gamsynied. Yna neidiodd Mr. W. i'r Hen Destament i brofi ei ysgrythyroldeb, a Hopkin i'r Testa- ment Newydd i brofi ei annghyfreithlondeb. Dadleuwyd am tua dwy awr a hanner gan isny, ni ddysgwylia neb gael y ddadl hono, • aerwydd ei meithder; ond methodd f naill ag argyhoeddi y llall. Ond cyn rhoi i fyny, gofynodd Mr. W. i Hopkin i aros gartrof- Ar ol ystyried ychydig, dywedodd y gwnal ar yr ammod iddo yntau i wneyd yr un modd- "0 na," ebe Mr. W., oblegid yr ydwyf wedi addaw bod vn gadeirvdd yno." Wei," atebai Hopkin, nis gallaf finnau fod gartref heb fod yn wr dau-eiriog, yr hyn nis gall fy nghydwybod ei ganiatau." "Os na wnewch, mae genyf fi ddau ergyd i'w rhoddi i chwi am eich un." "Meistr! meistr! yr ydych chwi yn myned yn waeth na Moses. Llvgad am lygad oedd ei gyfraith ef, ond yr ydych chwi yn myned i dynu dau am yr un." Ar hyn, chwarddodd y ddau, ac felly y terfynwyd y noswaith hono. Dranoeth, gwnaeth y naill a'r Hall yn unol a'r hyn oeddent vn broffesu-y naill dros, a'r llall yn erbyn y dreth. Yn mhen rhyw bythefnos neu dair wythnos wedi hvny, an. fonwyd am Hopkin at ei feistr; ac erbyn myned yno, yr oedd yno amryw ddyeithriaid. Ar ddynesiad Hopkin yn mlaen, gorchymyn- odd yr hen foneddwr i bob gwrryw i dynu ei het, a phob merch neu wraig i dalu gwarog- aeth yn eu dull hwy, yr hyn a wnawd gyda llawenydd a digrifwch dros ben. Chwardd- odd Hopkin arnynt hwythau, a tbalodd ei foes yn v modd gwresocaf, i'w feistr yn gyntaf, yna i bawb yn gyffredinol. Wedi hyn, aeth pob peth yn mlaen fel arferol rhwng y meistr a'r deiliad, hyd amser rhoddi notice, gan mai dyna oedd yr addewid os na buasai y dreth yn cael ei phleidio. Erbyn hyn, blin oedd gan Mr. W. ei fod wedi addaw rhoddi notice. Ond i gadw at ei addewid, rhoddwyd ef. 0 hyny hllan, ni wnaeth y naill siarad a'r Hall am dymhor. Daeth amryw i ymofyn y Caemawr, ond nid oedd un parodrwydd i'w renti i neb. Yn mysg ereill a ddaeth i'w ymofyn, daeth un dyn, a dywedodd wrth Mr. W. fod William Hop- kin wedi ymddwyn yn frwnt tuag ato ef fel boneddwr, a Buaswn I yn gwneyd cymmaint arall a hyny i chwi pe'n dyfod i fy ffordd i'w wneyd, er nad wyf yn Eglwyswr, nac yn bleidiol i'r dreth eglwys ond mi wnaethwn hyny er eich mwyn chwi." "0," ebe Mr. Williams, dyna'r fath ddyn ydych chwi. Nid un felly yw Hopkin, ac nis gallwn "I ymddiriedfymeddiannaui ofal eich bath chwi. Mae William Hopkin yn well dyn o'r hanner na chwi. Gallaf vm- ddiried i air Hopkin o flaen eich llw chwi." Yna aeth hwnw i'w ffordd yn athrist. Clywodd Hopkin yr hanes hon, a theimlodd ryw anwyldeb gwresog at ei hen feistr drachefn, ae annogwyd ef gan un o weision ei feistr i fyned i geisio'r tir drachefn, yr hyn a wnaeth. 11 Wel, meistr," ebe Hopkin, "a ydych chwi yn foddlon i mi gael v tir etto." "Ni feddylies I erioed am i chwi fyned ffsvrdd; ond yr oeddwn fel iJephtha, am gadw fy ngair. Mae'r tir i chwi fel cynt, heb un cyfnewidiad cyhyd ag y byddom byw." Ac felly y bu, oblegid v mae Mr. Williams yn awr wedi marw. Dyma finnau yn ei adael, gan ddymuno y bydd i bob boneddwr gymmeryd Mr. Williams fel en-ghraifft i roddi chwareu teg i gydwybod a chyfiawnder. Awn rhagom yn awr at Y BONEDDIGESAU. Nis gwn pa beth yw eu henwau, ac ni wel- ais ond un o honynt trwy wybodaeth erioed a chan fod y naill a'r Hall o honynt yn fyw ac iach, hyd eithaf fy ngwybodaeth, nid ydwyf yn meddwl dweyd rhyw lawer am danvnt hwy yn awr; ond os bydd i mi eu gorfyw, byddaf yn debyg o roddi eu hanes hwythau gerbron y cyhoedd, oblegid maent yn rhagori o ddigon ar y cyffredinolrwydd o'u cydryw mewn ymddygiad boneddigaidd, dysg, dawn, gwybodaeth, a nerth meddwl, fel mai anhawdd y ceir rhai i'w cymharu a hwy. Un hanesyn i ddangos hyny. Y cyfle cyntaf wedi marw Mr. Williams, Ty'rcwm, aeth y Parchedig ————— fo Y tua phalas y boneddigesau uchod dair gwaith, a'i neges oedd cael ganddynt roddi rhybydd i William Hopkin, y Caemawr, i ymadael a'i dir. Beth?" ebe y boneddigesau, am ba beth yr ydym ni yn myned i roddi rhybvdd; iddo? Ni wnaeth ddim i'n hanfoddloni ni, ac ni chawsom ddim allan o le ynddo, ac yr oedd golwg fawr gan ein brawd arno gan hyny, ni wnawn gymmaint a hvny i chwi, na neb arall, cyhyd ag y byddom yn cael ein boddloni ynddo. Dyn hynaws a deheuig yr ydym ni wedi ei brofi hyd yn hyn, a dylai ef gael ateb cydwybod, gystal a chwi a ninnau. Os gwnaeth eich gwrthwynebu chwi o barth y dreth eglwys, nid yw hyny ddim r ni; bydded rhyngoch chwi a'ch mater." Gallas- wn ddysgwyl y buasai hyn yn ddigon. i wneyd Mr. ———— i ymddwyn fel Cristion, ysgolhaig, boneddwr, ac oSeiriad ond fel y mae gwaethaf y modd, nid felly y bu. Wrth derfynu, dymunwyf fendithion fytdd ar hen deulu Aberpergwm, Dr. a Mrs. Lloyd, yr etifeddion a'r etifeddesau, vn briod a gweddw; a gobeithio na cha neb achos na chyfle i roddi gwaeth cymmeriad iddynt na'r hyn a roddir iddynt yma. Ydwyf, yr eiddoch, DA.FYDD.

Advertising

BYR GOFIANT AM MRS. SARAH…

Advertising

jY PELLEBYR TANWERYDDOL.

YSTRADIANA: NEU MAXES BEDYDDWYR…